Rhaglen Yr Hydref '16 Theatr Clwyd

Page 1

theatr | cerddoriaeth | ffilm | celf | comedi

Theatr Clwyd MED ’16 ION ’17 theatrclwyd.com 01352 701521


Croeso 2016 yw ein 40fed blwyddyn yn cynhyrchu theatr o safon byd ar gyfer Sir y Fflint, Cymru, y DU a’r byd mawr ehangach. Rydyn ni wedi cyflawni’n rhyfeddol, ond does dim posib i’r theatr sefyll yn llonydd – mae’n esblygu, yn datblygu ac yn chwilio am orwelion newydd yn gyson. Rydyn ni’n gwneud newidiadau i groesawu ein dyfodol ac i wneud eich profiad chi’n well byth bob tro. Gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni ar y siwrnai. Tamara Harvey | Cyfarwyddwr Artistig

@tamaracharvey

Archebu

Dod o Hyd i Ni Siop

Mae’n hawdd archebu tocyn ar gyfer ein holl sioeau a ffilmiau. Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw oddi ar ein gwefan, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfa docynnau (ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10am ymlaen).

Rydyn ni ar gyrion tref Yr Wyddgrug ac yn hawdd ein cyrraedd o’r A55 a’r A494. Mae meysydd parcio o flaen yr adeilad. Y gorsafoedd trên agosaf yw Fflint a Chaer.

Mae ein siop yn gwerthu anrhegion hyfryd, cardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg, llyfrau a llawer mwy. Mae’r siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9am ymlaen.

Caffi

Sinema

Oriel

Mae ein caffi’n gwerthu cawl, byrbrydau ysgafn a chacennau a hefyd diodydd poeth ac oer. I archebu bwrdd ymlaen llaw, ffoniwch 01352 701533 neu galwch i mewn!

Mae ein sinema fechan hyfryd yn brofiad cwbl wahanol i sinemâu amlsgrin fawr. Dim ond £6* yw pris y tocynnau ac rydyn ni’n dangos rhai o’r ffilmiau newydd a’r clasuron gorau. Edrychwch ar dudalen 15.

Mae ein tair oriel yn arddangos y gwaith celf proffesiynol a chymunedol gorau. Rhagor o wybodaeth ar dudalen 14.

Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1YA | admin@theatrclwyd.com *Efallai y bydd rhai ffilmiau arbennig a ffilmiau lloeren yn costio mwy. 2


Cynhyrchiad Theatr Clwyd

Aladdin

The Wok 'n' Roll Panto Gan Peter Rowe

Gwe 25 Tach – Sad 21 Ion

Mae parti yn y palas wrth i’r Ymerawdwr gyhoeddi dyweddïad y Dywysoges hardd gydag Abanazer gyfoethog ond rhyfedd. Mae woc Widow Twankey yn boeth iawn ac mae Wishee Washee wedi drysu’n lân, ond pan mae Aladdin a’r Dywysoges yn cyfarfod, mae tipyn o stŵr!

£25 - £20 gostyngiadau ar gael 7pm | 2pm | 10am Edrychwch ar y wefan am fanylion Theatr Anthony Hopkins Disgrifiad: 9 Rhag 7pm

Gyda mwy nag ugain o glasuron roc a rôl, gan gynnwys I’m a Believer, Reach Out, ABC a Lean On Me, yn cael eu chwarae’n fyw gan actor gerddorion, gyda jôcs gwallgof, ffrogiau ffrils a slapstic, dyma wledd Nadoligaidd gyfareddol y mae’n rhaid i chi ei gweld!

Iaith Arwyddion Prydain: I’w gadarnhau Capsiynau: Sad 14 Ion, 2pm Hamddenol: Mer 7 Rhag 6pm Oedolion £15, Plant £10

theatrclwyd.com 01352 701521

Cyfarwyddwr: Hannah Chissick 3


Cynhyrchiad Theatr Clwyd

Insignificance Gan Terry Johnson

Monroe. Einstein. DiMaggio. McCarthy.

Iau 22 Medi – Sad 15 Hyd

Mewn ystafell mewn gwesty, mae Albert a Marilyn yn sgwrsio am enwogrwydd, ei phriodas hi â’r chwaraewr pêl fasged, Joe DiMaggio, a pherthynoledd. Ond ai’r athro ydi’r clyfraf yn yr ystafell? Ydi ei phriodas hi mor gadarn ag y mae’n ymddangos? A phwy yn y byd mae Joseph McCarthy yn ei erlid?

£18 - £11 gostyngiadau ar gael 7:45pm | 2:45pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams £

Drama ddoniol, dywyll am enwogrwydd, y byd ac edrych tua’r sêr.

Talu Be’ Fedrwch Chi: 26 Medi a 10 Hyd Disgrifiad: 6 Hyd 7.45pm | 15 Hyd 2.45pm Capsiynau: 8 Hyd, 2.45pm

Cyfarwyddwr: Kate Wasserberg (All My Sons, Theatr Clwyd) Perfformiad theatr gylch 4


Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd

Ysbrydolwyd RENT gan opera glasurol Puccini, La Boheme, ac mae’n cynnwys cerddoriaeth a geiriau bythgofiadwy gan Jonathan Larson, gan gynnwys caneuon fel Seasons of Love, Take Me or Leave Me a La Vie Boheme, sy’n ffefrynnau mawr. Argymhellir archebu’n gynnar! Cynhyrchiad gan Robert Mackintosh ac Idili Theatricals Limited, mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Cyflwynir trwy drefniant gyda JOSEF WEINBERGER LIMITED ar ran Music Theatre International, Efrog Newydd.

Gyda’r Gymraes a gyrhaeddodd rownd derfynol yr X Factor, Lucie Jones

Gwe 21 Hyd – Sad 12 Tach £25 - £10 Gostyngiadau ar gael 7:30pm | 2:30pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Anthony Hopkins Disgrifiad: 3 Tach 7.30pm | 12 Tach 2.30pm Capsiynau: 5 Tach 2.30pm

theatrclwyd.com 01352 701521

Mae’r sioe gerdd roc arobryn yma a dorrodd dir newydd yn adrodd stori criw o artistiaid ifanc sy’n cael trafferth goroesi yn yr East Village yn ninas Efrog Newydd yn nyddiau’r oferedd Bohemaidd.

5


Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd

Pilgrims gan Elinor Cook

Maw 18 – Sad 29 Hyd

Mae Dan a Will yn dringo mynyddoedd. O’r Wyddfa i Everest, maen nhw wrth eu bodd gyda’r wefr o ddarganfod rhywbeth newydd.

£18 - £11 gostyngiadau ar gael

Drama ddoniol am antur a’n dyhead ni i goncro’r byd. Cyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd Tamara Harvey Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Clwyd, HighTide a Vicky Graham Productions @_HighTide_ 6

7:45pm | 2:45pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams Disgrifiad: Sad 22 Hyd 2.45pm | Iau 27 Hyd 7.45pm Capsiynau: Sad 29 Hyd 2.45pm

Perfformiad theatr gylch

theatrclwyd.com 01352 701521

Mae Rachel yn astudio llen gwerin ac mae’n well ganddi hi bobl nac anturiaethau. Mae’n meddwl bod posib difetha’r byd drwy ddarganfod a bod pobl bob amser ar goll yn y broses.


Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd

Love, Lies and Taxidermy Comedi amgen gan Alan Harris Mae mab i dacsidermydd Pwylaidd yn cyfarfod merch i werthwr hufen iâ aflwyddiannus ym Merthyr Tudful. Mae’r cyfarfyddiad rhamantus cyntaf yn Tesco ac mae pethau’n mynd yn dda. Ond mae llwybr serch yn anodd pan mae eich rhieni angen eu hachub, pan mae ganddyn nhw hobïau rhyfedd iawn ac yn wyneb bygythiad dedfryd o garchar.

Mer 2 – Sad 12 Tach £18 - £11 gostyngiadau ar gael 7:45pm | 2:45pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams

Comedi amgen am Mr Tutti Frutti, tylluan wedi’i stwffio ac ymdrech lew i ffitio i mewn, gan Alan Harris (BBC Radio 4, National Theatre Wales)

Disgrifiad: Sad 5 Tach 2.45pm | 10 Tach 7.45pm Capsiynau: Sad 12 Tach 2.45pm

Cyfarwyddwr: George Perrin Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Clwyd, Paines Plough a Sherman Cymru

Perfformiad theatr gylch 7


Romeo and Juliet I ddathlu ei phen blwydd yn 40 oed mae’r Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2016 yn cyflwyno stori Shakespeare am ddau gariad anlwcus a’u stori sy’n arwain at drasiedi. Fersiwn deinamig, modern gyda cherddoriaeth fyw a llawer o symud, gyda chefnogaeth y cwmni theatr corfforol enwog, Frantic Assembly. Cyfarwyddwr Artistig: Bruce Guthrie Cynhyrchiad National Youth Theatre Wales mewn cydweithrediad â Frantic Assembly

Maw 6 Medi £15 | £13 gostyngiadau £5 dan 25 oed ac ysgolion 7:30pm Theatr Anthony Hopkins

40 Mlynedd ar y Llwyfan Ymunwch â ni am noson arbennig o theatr, siampên a chanapès wrth i ni ddathlu 40 mlynedd o gomedi, trasiedi a phopeth yn y canol. Gyda darnau byrion o’r sioeau mwyaf llwyddiannus a welwyd ar ein llwyfannau ni’n cael eu perfformio gan ein hoff actorion, mae hon yn addo bod yn noson i’w chofio am y 40 mlynedd nesaf!

Sul 11 Medi

Diwrnod Agored Cyfle i wneud araith o’r llwyfan, cael profiad uniongyrchol o oleuo, gweld ble mae’r setiau’n cael eu creu ac archwilio tu ôl i’r llenni fel rhan o’n diwrnod agored blynyddol. Gyda gweithdai, gweithgareddau, teithiau a mwy - cofiwch gyrraedd yn gynnar rhag colli unrhyw beth!

Sad 10 Medi Am ddim 11am – 4pm 8

£40 yn cynnwys diod a chanapès Cyrraedd 7pm | Perfformiad 7.30pm Theatr Anthony Hopkins


Be My Baby 1964. Mae Mary yn cael ei hanfon i leiandy i eni ei phlentyn anghyfreithlon gyda dim ond chwaraewr recordiau’n gwmni iddi. Yn erbyn cefndir o gerddoriaeth eiconig, gan gynnwys The Ronettes, The Shangri-Las a Dusty Springfield a gyda Brooke Vincent (Coronation Street) a Ruth Madoc (Hi-De-Hi), yn serennu ar y llwyfan, peidiwch â cholli’r gomedi ingol yma am gyfeillgarwch a diniweidrwydd y 1960au.

A Good Clean Heart Dau frawd wedi'u magu ar wahan yng Ngorllewin Cymru a De Llundain, yn ailuno, ailgydio, ailgysylltu. Dyma gynhyrchiad deinamig o ddrama doniol a theimladwy Alun Saunders mewn dwy iaith: stori Hefin a Jay a noson mwyaf cyffrous - ac hunllefus - eu bywydau. Gan Alun Saunders | Cyfarwyddwr: Mared Swain Cyd-gynhyrchiad Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru, mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Gan Amanda Whittington

Mer 7 – Gwe 9 Medi

Cynhyrchiad gan Anton Benson Productions Ltd

£13 | £11 gostyngiadau

Mer 14 – Sad 17 Medi

7:45pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams

£25 - £17 gostyngiadau ar gael 7:30pm | 2:30pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Anthony Hopkins 9


HHHHH Mail On Sunday HHHHH The Telegraph HHHH Daily Express HHHHH Time Out Yn syth o’r West End. Gwyliwch wrth i awgrymiadau’r gynulleidfa gael eu trosi’n sioeau newydd sbon yn llawn canu a dawnsio gyda chanlyniadau annisgwyl a hynod ddoniol. “Achingly funny... Worth seeing again and again.” Dewis y Beirniaid Time Out

Maw 20 – Iau 22 Medi £25 - £17 gostyngiadau ar gael 7:30pm | *1.30pm (*Sioe i Blant) Theatr Anthony Hopkins

Lennon, Through a Glass Onion

“A deeply felt reflection of the man. Savour every minute” The New York Times Yn ffres o Efrog Newydd. Peidiwch â cholli’r dathliad hwn o gerddoriaeth ac athrylith John Lennon. Hanner cyngerdd a hanner bywgraffiad gyda seren y West End, Daniel Taylor, yn cyflwyno 31 o ganeuon mawr Lennon a Lennon/McCartney, gan gynnwys Imagine, Revolution a Jealous Guy, mewn collage brith o ganeuon, geiriau ac emosiwn.

Sad 24 Medi £22, gostyngiadau £20 7:30pm Theatr Anthony Hopkins

HHHHH The Observer HHHH Financial Times Mae’r darn newydd rhyfeddol hwn o ‘theatr gerddorfaol’ wedi cael ei ysbrydoli gan stori fawr Tolstoy am genfigen rywiol ac mae’n cynnwys y Kreutzer Sonata gan Beethoven a Phedwarawd Llinynnol Janáček, gydag enillydd BAFTA, Katherine Parkinson (The IT Crowd, In The Club) a Samuel West (Mr Selfridge) yn serennu hefyd. Gan: Laura Wade | Cyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd: Tamara Harvey Cynhyrchiad gan Aurora Orchestra

Llun 3 Hyd £25 - £18 Gostyngiadau ar gael 7:30pm Theatr Anthony Hopkins 10

Kreutzer vs Kreutzer


The Tommy Cooper Show Macbeth

Director’s Cut “Daniel Taylor is breathtaking as Tommy Cooper” British Theatre Guide “Like seeing Tarantino on stage” What’s On Stage Mae’r cynhyrchiad cynddeiriog yma gyda dau actor yn dinoethi drama fwyaf gwaedlyd ac ingol Shakespeare mewn ymosodiad theatrig erotig a threisgar ar y synhwyrau. Mae Macbeth - Director’s Cut yn gynhyrchiad geiriol, apocalyptig, eithafol a pheryglus gan Volcano, un o gwmnïau perfformio mwyaf dyfeisgar Cymru. Cyfarwyddwr: Paul Davies Cynhyrchiad gan Volcano Theatre

Mer 23 – Sad 26 Tach £13 | £11 gostyngiadau 7:45pm Theatr Emlyn Williams

Daw jôcs chwedlonol, hud a hanesion Tommy Cooper yn fyw diolch i’r West End - a chyn-aelod o Theatr Ieuenctid Clwyd - yr actor Daniel Taylor fel Tommy Cooper, yn un o berfformiadau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn. Daniel Taylor Productions Ltd Gan: Ian Carroll a Daniel Taylor | Mae’r cast yn cynnwys: Danny Taylor a Gareth Jones (Gaz Top)

Maw 20 – Sad 31 Rhag £15 | £13 gostyngiadau 7:45pm| 2.45pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams

theatrclwyd.com 01352 701521 11


Celfyddydau i’r Teulu

We're Going on a Bear Hunt

Arts HHHHH One Stop s es pr Ex ily Da HHHH antur ar d Mae teulu’n myn swellt, gla r th oes – i lawr y lle mwd y os dr r, drwy’r afon oe g wi ed go i’r llysnafeddog, i n ew m i llu dywyll, gan sy n w’ nh n’ da fyd ogof ... beth ? od ei ddarganf 2+ oed Perffaith i bawb

Fi Dilyn ng Cymraeg ar

Gŵyl ol i Gelfyddydd Deuluoedtheatr,

Sioe cyfrw 7 oed i helpu gyfer plant dan dychymyg, gyda datblygu’r der. sgiliau iaith a hy d ddod yn yd w ne i ns Mae Na y tro cyntaf. chwaer fawr am yddI ymdopi â’r new dianc i’w ddyfodiad, mae’n ei hun. byd dychmygus antur sy’n Ymunwch â ni ar rganfod da llawn chwarae, ac eliffantod! Gan Sarah Argent la Ynyr Cyfarwyddwr: Io ni’r Frân Wen m Cw d hia yrc nh Cy

wych o iau, Tridiau g aeon, ffilm lant tr s d d ro ad yl i b eth a hw cerddoria 2 oed. Gyda a1 rhwng 2 uluol am ffilmiau te dau’n a tr a e th d weithgare ddim a g ! 2 £ d n o costio dim

Gwe 119 A–wst Sad 2 Am ddim

- £2

ymlaen O 10am ylion n am fan Amser: fa e ch ar y w Edrychw

Ieuenctid a f r o d d r Ce Cymru Gogledd 12

wst | 7pm Gwe 19 A 16 am ddim n £10 | Da

Iau 20 Hyd *| £8 | £7 Grwpiau £6 Ysgolion u

golyg *Mae grwpiau’n y 6 o bobl neu fw m | 4.30pm 10.30am | 1.30p yd Clw ll Ystafe

fr gan Michael Yn seiliedig ar y lly u gan Helen nia rlu da da Rosen gy yd gan dw ed Oxenbury, cyho Ltd s ok Bo Walker ter Glanville a Addaswyd gan: Pe wyddwr: Peter Barb Jungr | Cyfar hiad gan A yrc nh Glanville | Cy tre ea Th l ge An Little

Iau 17 – Sad 19 Ta

ch

£8 Ysgolion £7 Grwpiau* | £6 6 o bobl golygu *Mae grwpiau’n neu fwy m | 4.30pm 10.30am | 1.30p ddiadur am Edrychwch yn y dy fanylion lliams Theatr Emlyn Wi


Celfyddydau i’r Teulu

Underneath a Magical Moon Mae Wendy Darling yn syllu ar awyr y nos ac yn breuddwydio am lagwnau glas a lleuadau rhyfeddol. Heno mae hud yn yr aer ... Cyfle i hedfan i fyd ffantasïol o antur, lle mae amser yn aros yn llonydd a’r amhosib yn ymddangos yn bosib. Sioe newydd wefreiddiol i’w mwynhau gan blant 3+ oed a’u teuluoedd, yn seiliedig ar Peter Pan. Gan Mike Kenny | Cynhyrchiad tutti frutti a York Theatre Royal

Maw 6 – Mer 7 Rhag £8 | £7 Grwpiau* | £6 Ysgolion *Mae grwpiau’n golygu 6 o bobl neu fwy 10.30am | 1.30pm | 4.30pm Edrychwch yn y dyddiadur am fanylion Theatr Emlyn Williams

In A Pickle

HHHHH What’s On Stage HHHH Guardian Pan mae bugeiles a’i defaid yn dod o hyd i fabi coll, doe s ganddyn nhw ddim syniad beth i’w wneud. Ond does bosib na fedr y plant helpu? Cyfle i hwylio’r môr hallt i’r llys brenhinol cyfareddol i chwilio am ddiweddglo hapus yn y sioe hyfryd hon i blant 3 i 5 oed a’u teuluoedd. Gan Tim Webb Cyfarwyddwr: Patrick Lynch Cynhyrchiad gan Oily Cart a’r Royal Shakespeare Compan y

Maw 10 – Sad 21 Ion £10 | 1 tocyn am ddim am bob 10 plentyn Edrychwch ar y wefan am fanylion Theatr Emlyn Williams

Mavis Sparkle Mae Mavis, glan hawraig sgwrslyd, yn cy mysgu hud, lledrith a chwer thin wrth iddi deithio tua’r go gledd i ddilyn ei breuddwyd. Gy da’i chloc cwcw digywilydd , ei bwced a’i mop direidus , mae’n ein hysbrydoli ni i ga el gwared ar ein holl amhe uon ac anelu am y sêr! Ar gyfer plant 4+ oed ac unrhyw un sydd wedi bod â breuddwyd erio ed. Ysgrifenwyr a Ch yfarwyddwyr: Gilly Baskeyfield a Dot Wood Cynhyrchiad ga n M6 Theatre Company

Gwe 3 – Sad 4 Chwef

£8 | £7 Grwpiau *| £6 Ysgolion

*Mae grwpiau’n golygu 6 o bobl neu fwy 10.30am | 1.30p m | 4.30pm Edrychwch ar y wefan am fany lion Theatr Emlyn W illiams

13


Neil Herbert

Orielau Mae ein horielau i gyd am ddim i chi edrych o’u cwmpas ac maen nhw ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9am ymlaen.

Arddangosfa Penblwydd yn 40 Sad 3 – Sad 10 Medi Cyfle i fynd ar daith hyd lwybrau’r cof gyda’r arddangosfa arbennig yma sy’n dathlu ein 40fed blwyddyn ac yn cynnwys amrywiaeth o brops, lluniau, gwisgoedd, cynlluniau ac eitemau cofiadwy.

14

Wendy Lawrence

Wendy Lawrence Sad 22 Hyd Sad 26 Tach

‘Stiwpidrwydd, Anifeiliaeth a Breuddwydion’ Lluniau gan Stephen West Sad 17 Medi Sad 15 Hyd

Mae’r artist o Ogledd Cymru’n arddangos ei gwaith cerameg celf gain sy’n cynnwys darnau wedi’u cerfio â llaw a gweadau trwm, wedi’u hysbrydoli gan bensaernïaeth a hynafiaeth.

Lluniau a cherfluniau sy’n dangos egni’r Gymru wledig ac yn mynegi emosiwn a grym natur a hefyd rhyngweithio dyn.

Neil Herbert Sad 3 Rhag Sad 14 Ion

Stephen West

Lluniau’r ffotograffydd Neil Herbert wrth iddo archwilio Asia gyda phortreadau personol o bobl normal yn erbyn cefndir bywiog eu bywydau bob dydd. (Gweler y llun uchod)

Yr Oriel Gymunedol Yvonne Davies Maw 30 Awst - Sad 17 Medi Proses ystafell dywyll draddodiadol – Printiau Lwmen a Cyanodeipiau Andrew Coomber Llun 19 Medi – Sad 8 Hyd Gwaith 2D a 3D wedi’i ysbrydoli gan greu Coron Farddol Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013 Cydweithfa Artistiaid Gogledd Cymru Llun 10 Hyd – Sad 5 Tach Gwaith newydd gan rai o artistiaid mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru Chris Baker Llun 7 - Sad 26 Tach Paentiadau’n ymchwilio i’r golau a’r cysgodion sy’n cael eu creu yn y tirlun Naw Bywyd: Agoriad Llun 28 Tach - Sad 31 Rhag Darnau o decstilau a chyfryngau cymysg yn dehongli’r thema Agoriad


Sinema Eisiau profiad brafiach yn y sinema? Mae ein sinema fechan hyfryd yn dangos y goreuon o blith ffilmiau newydd, amgen, clasurol a thŷ celf a hefyd sgriniau lloeren llwyddiannus gan y National Theatre, RSC, Glyndebourne a mwy. Dim ond £6* yw pris tocynnau’r sinema. Hefyd mae gennym ni berfformiadau arbennig i bobl hŷn (sy’n cynnwys paned o de neu goffi am ddim) am £5 ac ystod enfawr o ffilmiau teuluol gyda thocynnau am £5. I gael mwy o wybodaeth am y ffilmiau fydd yn cael eu dangos, ewch i’n gwefan ni (theatrclwyd.com), ffoniwch ein swyddfa docynnau (01352 701521) neu galwch i mewn i gael ein canllaw sinema deufis!

Cewch ymlacio gyda gwydraid o wîn neu hufen iâ efallai, eistedd yn ôl ac ymgolli mewn byd arall.

* Ac eithrio rhai dangosiadau arbennig a lloeren.

15


Cerddoriaeth Dathliad MJQ Nat Steele “a remarkable young vibraphonist” Observer Yn dathlu’r ensemble jazz eiconig, y Modern Jazz Quartet, mae’r fibroffonydd Nat Steele yn chwarae clasuron, gan gynnwys Django, The Golden Striker a Bag's Groove. Gwerthwyd pob tocyn yn Ystafell Purcell yn Llundain ac yng Nghlwb Jazz Ronnie Scott ac mae’r pedwarawd yn cynnwys: Gabriel Latchin (piano), Matt Ridley (bas dwbwl) ac enillydd yng Ngwobrau Jazz Prydain chwe gwaith, Steve Brown (drymiau).

‘Pavillon’ 12 Darn Jim Rattigan

Yn cael ei ystyried yn eang fel un o’r pedwarawdau llinynnol clasurol gorau, mae gan Endellion enw da yn rhyngwladol.

Darnau oesol yn ogystal â rhai gwreiddiol pefriol o’i albwm llwyddiannus 'Strong Tea'. Mae’r meistr ar y Corn Ffrengig jazz, Jim Rattigan, cyn-aelod o’r Michael Brecker’s Quindectet a’r McCoy Tyner Big Band, yn arwain cast o sêr mewn noson ragorol gan oreuon y byd jazz. Gyda Martin Speake, Andy Panayi, Percy Pursglove, Steve Fishwick a Mark Nightingale.

'Playing which set the audience ablaze' Daily Telegraph Mae’r rhaglen yn cynnwys: MOZART: Pedwarawd yn B leiaf K.458 'The Hunt' BEETHOVEN: Pedwarawd Llinynnol Rhif 12 yn E leiaf Op.127

Sul 30 Hyd

Cyflwyniad gan Jazz Gogledd Cymru

£17 | £15 gostyngiadau

Maw 27 Medi

7.30pm Theatr Anthony Hopkins

£12 | £10 gostyngiadau | £5 dan 17 oed 8pm Ystafell Clwyd 16

Pedwarawd Llinynnol Endellion

TYMOR CERDDORIAETH GLASUROL

“phenomenal technique” Jazzwise Magazine Cyflwyniad gan Jazz Gogledd Cymru

Maw 22 Tach £12 | £10 gostyngiadau | £5 dan 17 oed 8pm Ystafell Clwyd


theatrclwyd.com 01352 701521

Alina Ibragimova, fiolín Mae Alina Ibragimova, a aned yn Rwsia, yn un o fiolinyddion clasurol mwyaf cyfareddol a dawnus y genhedlaeth iau. Serennodd mewn tri chyngerdd yn y BBC Proms yn 2015 gan ddenu cynulleidfa lawn bob tro. Mae noson wefreiddiol o’n blaen yng nghwmni’r unawdydd disglair yma ar y fiolín. Programme includes: BACH: Sonata Rhif 3 yn C fwyaf BWV1005 BACH: Partita Rhif 3 yn E fwyaf BWV1006

Richard Durrant Candlelit Christmas Swyn cerddorol yn nhywyllwch y gaeaf gan y standyp troednoeth a’r gitarydd anghlasurol sy’n ffefryn gan bawb. Meistr o safon byd ar ei grefft, adroddwr straeon grymus a diddanwr athrylithgar. Ochr yn ochr â’i berfformiadau unigol gaeafol, bydd ei westeion, Amy Kakoura a Nick Pynn, yn ymuno â Richard.

YSAYE: Sonata Rhif 4 yn E leiaf Op.27/

“Attempting to wrestle control of Christmas from the more commercial aspects.” Daily Express

Sul 18 Rhag

Sul 11 Rhag

£17 | £15 gostyngiadau

£19 | £17 gostyngiadau

7:30pm Theatr Anthony Hopkins

7:30pm Theatr Anthony Hopkins

TYMOR CERDDORIAETH GLASUROL

Cerddoriaeth Glasurol yn 2017 Pob cyngerdd: £17 | £15 gostyngiadau | 7:30pm Theatr Anthony Hopkins

Triawd Fidelio Sul 29 Ion

Steven Isserlis, soddgrwth, Sam Haywood, piano Sul 5 Maw

Sinfonia Cymru Sul 19 Maw

Llŷr Williams, piano Sul 23 Ebr

Emma Johnson, clarinét a Phedwarawd Llinynnol Castalian Sul 21 Mai TYMOR CERDDORIAETH GLASUROL

17


Cymryd Rhan •

Gweithdai: Cyfle i archwilio byd y ddrama, magu hyder a gwneud ffrindiau – gyda grwpiau ar gyfer plant ac ieuenctid 5 i 18 oed a grwpiau arbenigol ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol. Rhwng £40 a £60* y tymor. *Gostyngiad o 25% i deuluoedd ar fudd-daliadau

Cystadleuaeth Ysgrifennu Newydd Daniel Owen: 11 i 25 oed? Rydyn ni eisiau eich cerddi, eich straeon a’ch dramâu chi, yn y Gymraeg neu yn Saesneg, o dan y thema “yr annisgwyl - tro yng nghynffon y stori”. Edrychwch ar y wefan am fwy o fanylion.

Oriel Addysg: Y tymor yma rydyn ni’n arddangos gwaith Ysgolion Sir y Fflint, Ysgol Uwchradd Argoed, Ysgol Alun a Shelter Cymru.

Ymgysylltu Oeddech chi’n gwybod bod 45,000 o gyfranogwyr yn dod i gysylltiad â ni drwy weithgareddau cymunedol a gweithgareddau i ysgolion bob blwyddyn? Rydyn ni’n ysbrydoli, datblygu a chyffroi plant, pobl ifanc, oedolion agored i niwed, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd i ddysgu drwy’r celfyddydau. Ymhlith ein gwaith diweddar mae: Justice in a Day a Connor’s Time, dau brosiect sydd wedi ennill gwobrau ac a oedd yn dangos canlyniadau troseddu i fwy na 1,200 o fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd. Sky’s the Limit a Bright Sparks yn Ysgolion Cynradd Sir y Fflint a Wrecsam i ddysgu am entrepreneuriaeth a gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. TheatrClwyd@Elfed – prosiect newydd sbon mewn ysgolion uwchradd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgolli mewn theatr, cerddoriaeth, dawns a chelf. Mae ein sioe lwyddiannus, Scattered (a berfformiwyd yng ngwersyll ffoaduriaid Calais), yn cael ei dangos yng Nghanolfan y Southbank yn Llundain ar hyn o bryd.

Dramâu Picnic Mae ein dramâu picnic yn gyfle gwych i fwynhau darlleniad o ddrama gan yr actorion sy’n ymddangos ar ein llwyfannau ni! Pris y tocynnau yw £3, neu £8 os ydych chi eisiau cael un o’n basgedi picnic hyfryd ni hefyd! Dyma’r dyddiadau: 7 Hyd, 11 Tach ac 13 Ion. Amser dechrau: 12.30pm 18

Rhagor o wybodaeth yn theatrclwyd.com

Diolch i’n noddwyr ni i gyd:


Mae noson swnllyd o’ch blaen yn llawn jôcs ffraeth, straeon sy’n datgelu gormod o lawer a llond bol o chwerthin, a’r cyfan yn cael ei gydlynu’n fedrus gan ein harweinydd gwych, Silky! £12 £10 gostyngiadau Ystafell Clwyd 16+ oed (argymhelliad)

Kill for a Seat

Comedi Allyson June Smith a Sean Meo Iau 4 Awst | 8pm

Sean Collins ac Eleanor Tiernan Iau 6 Hyd | 8pm

Anthony King ac Abigloiah Schamaun Iau 3 Tach | 8pm

Yn ymuno â’r gomedïwraig fedrus o Ganada, Allyson June Smith, mae cyn enillydd un o wobrau Time Out, Sean Meo

Yn ymuno â Sean Collins (Michael McIntyre's Comedy Roadshow, BBC) mae’r gomedïwraig o Iwerddon, Eleanor Tiernan (Stewart Lee’s Alternative Comedy Experience).

Bydd y comedïwr difynegiant deifiol, Anthony King (sydd wedi cefnogi Lee Evans ac Eddie Izzard) yn serennu ochr yn ochr ag un o gomedïwyr standyp mwyaf llwyddiannus Efrog Newydd, Abigoliah Schamaun.

Paul Sinha a Nick Page Iau 1 Medi | 8pm Andrew Bird ac Alfie Moore Iau 1 Rhag | 8pm theatrclwyd.com 01352 701521

Byddwn yn dathlu 10 mlynedd o Gomedi Kill for a Seat yn Theatr Clwyd gyda Paul Sinha o The Chase a’r comedïwr hynod lwyddiannus ar y gylched gomedi, Nick Page, i gloi’r noson.

Yr athrylith sylwgar hynod ddoniol, Andrew Bird ("Superb" Time Out) a’r heddwas, yr awdur a’r perfformiwr, Alfie Moore (a welwyd ar Show Me The Funny ar ITV)!

19


cynyrchiadau o fod yn cefnogi’r Rydyn ni’n falch dref yma! hy yr edol canlynol amatur a chymun

Amatur a Chymunedol

Carousel

Grease

Mae gwaeddwr carwsél, Billy Bigelow, a gweithwraig mewn melin, Julie Jordan, yn syrthio mewn cariad, ond ychydig a wyddan’ nhw y bydd ymddygiad naturiol wrthryfelgar Billy'n arwain at drasiedi.

Mae Tip Top Productions yn ôl gyda sioe gerdd fwyaf poblogaidd y DU erioed. Mae’n cynnwys holl ganeuon bythgofiadwy’r ffilm lwyddiannus, gan gynnwys You're The One That I Want, Grease Is The Word, Summer Nights, Hopelessly Devoted To You, Sandy, Greased Lightnin' a llawer mwy.

Mae’r cynhyrchiad bywiog yma o Carousel gan Rogers a Hammerstien yn wefreiddiol a dyrchafol ac mae’n cynnwys llu o ganeuon llwyddiannus, gan gynnwys 'If I Loved You', ‘June is Bustin’ Out All Over’, ‘Soliloquy’ac, wrth gwrs, 'You'll Never Walk Alone'. Cynhyrchiad amatur trwy drefniant gydag R&H Theatricals Europe Cymdeithas Gilbert a Sullivan Dyfrdwy ac Alun

Mer 28 Medi – Sad 1 Hyd £14, £12 Gostyngiadau, Plant £10 20

7.30pm | 2.30pm Theatr Anthony Hopkins

Cynhyrchiad amatur Sioe Tip Top Productions

Mer 5 – Sad 8 Hyd £16 - £12 7.30pm | 2.30pm Theatr Anthony Hopkins


Buzz-AH! Does Juke Box Musicals Bydd Buzz-AH! yn perfformio nifer o ganeuon o sioeau cerdd, gan gynnwys Mamma Mia, Thriller, Twentieth Century Boy, Singin' in the Rain a llawer mwy. Grŵp amatur yn Yr Wyddgrug yw Buzz-AH!, sydd wedi’i sefydlu ar gyfer pobl gydag a heb anableddau, i gynnig cyfle i gymryd rhan yn gyfartal. Y nod yw cael hwyl wrth ddathlu gwahaniaethau. Mae BuzzAH! yn cynnig llawenydd ac ewyllys da i’r gymuned mae’n ei gwasanaethu.

Noson o Ddirgelwch Llofruddiaeth Ydych chi’n ffansïo eich hun fel dipyn o dditectif? Ymunwch â’r Phoenix Theatre Company ar gyfer un o’u nosweithiau Dirgelwch Llofruddiaeth poblogaidd. Noson wych o adloniant gyda gwobrau i’w hennill a swper poeth*. Cynhyrchiad cymunedol Phoenix Theatre Company

Fri 4 – Sat 5 Nov

Cynhyrchiad amatur

£24 (yn cynnwys pryd bwyd) | £10 (heb bryd bwyd)

Maw 11 – Mer 12 Hyd

Rhaid archebu’r pryd bwyd erbyn 29 Hyd * opsiwn llysieuol ar gael

£10 | £8 7.30pm Theatr Anthony Hopkins

8pm Ystafell Clwyd

Ten: Degawd o ddawns yn Elite Bydd cast talentog o fwy na 300 o berfformwyr ifanc yn arddangos eu hoff ddawnsfeydd yn ystod y degawd diwethaf ochr yn ochr â pherfformiadau newydd sbon sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y sioe yma i ddathlu’r garreg filltir. Noson wych o adloniant i’r teulu cyfan gyda chaneuon a dawnsfeydd o sioeau cerdd, ffilmiau a cherddoriaeth boblogaidd. Cynhyrchiad amatur | Cynhyrchiad gan Elite Dance

Maw 15 – Mer 16 Tach £10 | £8 gostyngiadau 7pm Theatr Anthony Hopkins

21


Gwybodaeth Prynu tocynnau Mae’n hawdd archebu tocynnau ar gyfer ein holl sioeau a ffilmiau. Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar ein gwefan (theatrclwyd.com), dros y ffôn (01352 701521) neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfa docynnau (ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10am ymlaen). Gostyngiadau Prisiau arbennig ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r cynyrchiadau i ieuenctid dan 17 oed, myfyrwyr llawn amser, pobl dros 60 oed, pobl sy’n derbyn lwfans chwilio am waith neu gymorth incwm, pobl anabl, ysgolion a grwpiau. Ewch i’n gwefan ni neu cysylltwch â’n swyddfa docynnau am fwy o fanylion. Postio Tocynnau Gallwn bostio eich tocynnau atoch chi am £1.50 hyd at bum diwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau’r digwyddiad.

Asiantau Tocynnau

Cysylltu

Hefyd gellir prynu tocynnau yn y llefydd canlynol: Deva Travel (Caer), Voel Coaches (Dyserth), Linghams (Heswall), Yr Wyddgrug (Gwesty Beaufort Park), Canolfan Gelfyddydau Wrecsam a’r Canolfannau Croeso i Ymwelwyr yng Nghaer, Llandudno, Llangollen, Croesoswallt a’r Rhyl.

Ein rhif ffôn gweinyddol yw 01352 756331. Mae posib cysylltu â ni drwy’r post hefyd: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA. Gwirfoddoli Mae ein tîm ni o wirfoddolwyr yn hanfodol i’n llwyddiant. Os hoffech chi wirfoddoli fel hebryngwr, cysylltwch â marion.wright@flintshire.gov.uk

Mynediad Rydyn ni eisiau i’ch profiad chi yn Theatr Clwyd fod yn un gwych. Os oes gennych chi unrhyw ofynion mynediad penodol, cofiwch gysylltu â’r swyddfa docynnau. Bydd y staff yn gallu rhoi gwybod i chi am addasu eich archeb i ddiwallu eich anghenion. Rydyn ni’n rhan o gynllun HYNT sy’n rhoi tocyn am ddim i ddeiliaid cerdyn HYNT ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr.

Telerau ac Amodau Gellir cyfnewid tocynnau am berfformiad arall o’r un cynhyrchiad 24 awr cyn iddo ddechrau (ffi o £1 am bob tocyn). Ni ellir ad-dalu pris tocynnau ar ôl eu prynu. Ni fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynd i mewn i’r awditoriwm nes bod egwyl addas yn y perfformiad. Ceidw Theatr Clwyd yr hawl i wneud addasiadau i’r rhaglen sydd wedi’i hysbysebu, os bydd hynny’n angenrheidiol ac yn amhosib ei osgoi.

Llogi ein Gofod Chwilio am leoliad ysbrydoledig? Mae ein gofod ni’n berffaith ar gyfer unrhyw beth, o gyfweliadau a chyfarfodydd i briodasau, ffeiriau, lansiadau a llawer mwy. Cyfle i greu naws theatrig yn eich digwyddiad. Cysylltwch â marion.wright@flintshire.gov.uk am fwy o wybodaeth ac argaeledd.

22

Eithrio Camgymeriadau a Hepgoriadau - Er ein bod wedi bod yn eithriadol ofalus wrth gyhoeddi’r llyfryn yma, dydyn ni ddim yn berffaith. Yn achlysurol, mae posib i’r wybodaeth newid ar ôl i ni ei hargraffu.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.