Y syniad o “chwarae” yw’r edau sy’n pwytho holl waith amrywiol y cyhoeddiad hwn at ei gilydd. Mae’r ffotograffwyr i gyd wedi rhoi rhyddid i’w dychymyg creadigol, gan ymestyn ffiniau geiriau yn ddi-ben-draw.
Mae Sofie Bainbridge wedi ymgorffori chwarae â geiriau yn ei gwaith yn creu ymgyrch drawiadol a bywiog i godi ymwybyddiaeth o Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Mae pob un o’i delweddau’n defnyddio cyfystyron “i symboleiddio Awtistiaeth ac amrywiaeth, gan fod pob unigolyn ar y Sbectrwm Awtistig a’r tu hwnt iddo’n unigryw ac yn wahanol”, fel y dywed.
Mae Travis Bentley yn gweithio o fewn cymuned LHDTCRH+ Caerdydd - yn benodol, y tu mewn i fyd coegwych Breninesau a Brenhinoedd Drag. Mae eu gwisgoedd gwych a’u perfformiadau mwy-na-bywyd yn dod yn fyw gyda hiwmor ac anwyldeb sydd hefyd yn adlewyrchu’r ymddiriedaeth rhwng y ffotograffydd ifanc hwn a’i wrthrychau lliwgar.
Mae gan David Davies ddiddordeb mawr yn y ffordd y gall hunaniaethau pobl gael eu mynegi, neu eu cadw’n gudd, gan y ffordd mae pobl yn gwisgo ac yn eu cyflwyno eu hunain i’r byd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn ffotograffiaeth ffasiwn, boed hynny mewn lleoliad perfformiadol stiwdio ffotograffiaeth neu yn yr amgylchedd adeiledig, ac mae hefyd yn tynnu toreth o ffotograffau mewn campfeydd a chanolfannau ffitrwydd.
Mae ffotograffiaeth ffasiwn stryd Ffion Badham yn dwyn i gof eiriau a ddefnyddiwyd gan Nick Hedges wrth sôn am ei waith yn 2021: “theatr y stryd”, a’r angen i “fod yn agored i bosibiliadau” y cyfan sydd ganddi i’w gynnig. Mae’n cyfuno ei chariad at yr amgylchedd trefol a dinesig a dillad stryd i greu gwaith sydd wedi ei drwytho mewn hiraeth am genedlaethau blaenorol, ac eto mae ganddo ffresni cyfoes unigryw.
Mae Ange Osborne yn ffotograffydd portreadau creadigol y mae ei dychymyg yn dod yn fyw trwy ddefnyddio propiau, steilio ac ategolion chwareus i greu delweddau lliwgar a llachar sy’n llawn egni. Mae croeso i bopeth, ac mae ei phroses ffotograffig yn cynnwys ailgastio ei gwrthrychu yn rôl y cymeriad neu’r bersonoliaeth a ddewisir ganddyn nhw (neu hi) ar y diwrnod ei hun.
Yn olaf, mae teitl prosiect Jamie Keepin yn cynnig ffordd wahanol, fwy ysgafn o chwarae ar eiriau. Mae Perfectly Still/ Yn Berffaith Lonydd yn cynnwys set o ddelweddau hudolus sy’n tynnu sylw at yr urddas a hyd yn oed y llawenydd sydd i’w gael o fewn pethau cyffredin bywyd bob dydd. Mae ei waith yn delynegol o sensitif wrth gipio’r eiliadau tawel ac yn ein hatgoffa mor bwysig mae arafu a neilltuo amser i fwynhau cysgodion hardd cyn iddyn nhw gilio, blodyn â’i ben yn grin, neu olau ar wyneb y dŵr.
Dyma fy mis olaf fel Tiwtor Cwrs. Er y byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda myfyrwyr mor wych, rwy’n rhagweld y pleser a ddaw o arafu a neilltuo amser (ar ôl 30 mlynedd!) i edrych yn ofalus, a gwirioneddol weld yr harddwch o’m cwmpas.
The notion of “play” is the thread that stitches together all of the varied work included in this publication. Each photographer has given full rein to their creative imagination, stretching the boundaries of the word in a multitude of ways.
Sofie Bainbridge has incorporated word play in her creation of an eye-catching and vibrant campaign to raise awareness of Autistic Spectrum Disorder. Each of her images uses synonyms “to symbolise both Autism and diversity, since every individual on the Autistic Spectrum and beyond is unique and different”, as she puts it.
Travis Bentley works within the LGBTQI+ community in Cardiff – specifically, inside the flamboyant world of Drag Queens and Kings. Their fantastical costumes and larger-than-life performances are brought to life with a humour and affection that also speak of the trust between this young photographer and his colourful subjects.
David Davies is fascinated by the way in which people’s identities can be expressed, or alternatively kept under wraps, by the way they dress and present themselves to the world. He has a particular interest in fashion photography, whether this be in the performative setting of a photography studio or in the built environment, and also photographs extensively in gyms and fitness centres.
Ffion Badham’s street fashion photography calls to mind the words used by Nick Hedges when talking about his work in 2021: “the theatre of the street”, and the need to “be alive to the possibilities” of all it has to offer. She fuses her love of the urban environment and streetwear to create work that is imbued with a nostalgia for previous generations, yet has a unique contemporary freshness.
Ange Osborne is a creative portrait photographer whose imagination is brought to life through the playful use of propping, styling and accessories to create bright and colourful images full of energy. Nothing is off-limits, and her photographic process involves recasting her subjects as whatever character or personality they (or she) prefer on the day.
Finally, Jamie Keepin’s project title offers us a different, gentler play on words. Perfectly Still comprises a set of eloquent images that highlight the grace and even joy to be found within the banality of everyday life. His sensitive, lyrical observations of quiet moments remind us how important it is to slow down, giving ourselves time to enjoy the beauty of a fleeting shadow, a dried flower head or a shaft of sunlight on water.
This is my final month as Course Tutor. While I will dearly miss working with such wonderful students, I anticipate the pleasures of slowing down and taking time (after 30 years!) to look closely, and really see the beauty around me.
CELIA JACKSON, JUNE 2023Mae awtistiaeth yn aml yn cael ei gamgyfathrebu neu ei gamddeall, a all arwain at amrywiaeth o broblemau, fel hunan-barch gwael a phroblemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae gennym lawer o’r un rhinweddau a sgiliau â phawb arall. Boed yn rhywun ag Awtistiaeth neu’n rhywun o ethnigrwydd, lliw neu grefydd wahanol, rydyn ni i gyd yn wahanol fersiynau o’r un peth (bodau dynol); neu, mewn geiriau eraill, rydyn ni i gyd yn gyfystyron. Fel y gwelir yn y casgliad hwn o weithiau, mae cyfystyron yn eiriau sydd â’r un ystyr neu bron yr un ystyr â gair arall. Mae’r amrywiaeth sy’n cael ei bortreadu yn y lluniau hyn yn air arall am amrywiad.
Mae cydrannau gweledol fy mhrosiect yn dod o amrywiaeth o onglau. Fy mwriad yw portreadu amrywiaeth a darparu amrywiad sefyllfaol. Yr amcan yn y pen draw yw creu lleoliad sy’n rhoi safbwynt y gwyliwr ar brawf ac yn hyrwyddo meddwl anuniongred. Penderfynais ddefnyddio lliwiau pwerus, cyfareddol, a bywiog i helpu i gyfleu’r neges. Coch yw’r lliw mwyaf byw o ran seicoleg lliw; mae hefyd yn fywiog ac yn tynnu sylw. Mae’r lliw glas yn ysbrydoli hyder yn yr arsylwr. Rwyf am dynnu sylw at fy ffotograffau tra hefyd yn mynegi ymdeimlad o allu dibynnu ar fy ngwaith a pherthnasu ag ef, felly defnyddiais y ddau liw. O’u cyflwyno fel ymgyrch, fel y’u bwriadwyd, byddai’r delweddau’n hyrwyddo themâu derbyn a chynhwysiant y tu hwnt i’r gymuned Awtistiaeth, gyda’r delweddau’n symbol o dderbyn ym mhob rhan o fywyd.
Autism is frequently miscommunicated or misunderstood, which can result in a variety of problems, such as poor self-esteem and mental health problems. However, we have many of the same qualities and skills as everyone else. Whether you have Autism or are someone of a different ethnicity, colour, or religion, we are all different varieties of the same thing (humans); or, to put it another way, we are all synonyms. As seen in this collection of works, synonyms are words that have the same or nearly the same meaning as another word. The diversity that is portrayed in these photographs is another word for variation.
The visual components of my project come from a variety of angles. My intention is to portray diversity and provide situational variation. The ultimate objective is to create a setting that tests the viewer’s perspective and promote unorthodox thinking. I made the decision to use powerful, captivating, and vibrant colours to aid in conveying the message. Red is the most vivid colour in terms of colour psychology; it is also lively and grabs attention. The hue blue inspires confidence in the observer. I want to draw attention to my photographs while also expressing a sense of trustworthiness and relatability, so I used both colours. When presented as a campaign, as intended, the images would promote acceptance and inclusion themes beyond the Autism community, with the visuals serving as a symbol for acceptance in all sectors of life.
Rwy’n ffotograffydd ffasiwn stryd sy’n archwilio sawl agwedd ar ffasiwn a ffotograffiaeth. Mae’r gwaith hwn yn gyfle i adrodd stori’r bobl ifanc, y genhedlaeth nesaf a chenedlaethau blaenorol. Mae fy ngwaith ffotograffig presennol yn cwmpasu dillad stryd diwedd yr 80au a dechrau’r 90au mewn amgylcheddau trefol, gydag ychydig o hiraeth. Fy rheswm dros ddewis ffasiwn stryd fel fy maes ymarfer yw oherwydd fy nghariad at naws y strydoedd, y llawenydd a ddaw i bobl pan fyddan nhw’n cael pâr newydd o ‘sneakers’. Y teimlad hwnnw o fod yn gasglwr dillad stryd, gyda’r gobaith y byddwch fyw i weld y cyfnod pan ddaw’r cyfan yn ôl i ffasiwn gyda phob cenhedlaeth. Rwyf hefyd yn gweithio ochr yn ochr â dylunwyr ffasiwn a chyfarwyddwyr i gyfoethogi fy ymarfer. Po fwyaf yr ydw i’n gweithio gyda dylunwyr ffasiwn, y mwyaf yr ydw i’n deall crefft ffasiwn a’r diwydiant ei hun.
I am a street fashion photographer who explores many elements of fashion and photography. This work is an opportunity to tell the story of the youth, of the next generation and also of previous ones. My current photographic outcomes cover the late ‘80s and early ‘90s streetwear in urban environments, with an air of nostalgia. My reason for choosing street fashion as my area of practice is because of my love for the hype in the streets, the joy that fills people when they get a new pair of ‘sneakers’. That feeling of being a collector of streetwear clothing, in hope that you see the time where it all comes back around with each generation. I am also working alongside fashion designers and directors to enhance my practice. The more I work with fashion designers, the more I understand the art of fashion and the industry itself.
Ar gyfer y prosiect hwn rwyf wedi creu delweddau o ddigwyddiadau byw a phortreadau yng nghymuned LHDTCRh+ Caerdydd. Yr hyn sy’n fy ysbrydoli i dynnu lluniau perfformiadau o’r fath yw dangos cymeriadau, profiadau bywyd a phersonoliaeth pobl, gan fod ffotograff yn gallu cyfleu cymaint mwy na geiriau. Gallwch weld perfformwyr ar y llwyfan heb fod yn y digwyddiad, a theimlo emosiynau pobl trwy fy ffotograffau. Mae fy arddull ffotograffiaeth yn cwmpasu lluniau dramatig a dynamig sy’n datgelu emosiynau a chymeriadau’r gwrthrychau.
Rwy’n mwynhau tynnu lluniau o Freninesau Drag, dan deitl cyffredin ‘Gwisgo fel Merch’. Mae fy lluniau’n dangos sut mae perfformwyr yn cyflwyno sioe gerbron cynulleidfa sy’n chwerthin, yfed a chanu. Mae hwn yn waith rwyf am adeiladu arno a’i droi’n rhan hanfodol o fy ngyrfa, gan ei fod yn mynd â fi i fyd lle gallaf fod yn fi fy hun. Fy athroniaeth fel ffotograffydd yw ‘bod, bob amser, yn agored i gyfleoedd, gan eu bod yn rhoi bywyd i fy sgiliau a fy nghreadigrwydd’, a fy nod yw dangos naws ddynamig a bywiog perfformiadau neu ddigwyddiadau yn y gymuned.
For this project I have created images of live events and portraiture within the LGBTQI+ community of Cardiff. What inspires me about photographing such performances is showing people’s characters, life experiences, and personality, as photographs can speak a thousand words. You can see performers on stage without being in the event, and feel people’s emotions through my photographs. My photography style encompasses dramatic and dynamic shots which bring out the emotions and character of the subjects.
I particularly enjoy photographing Drag Queens, commonly known as ‘Dressed Resembling a Girl’. My pictures show how performers deliver a show in front of their audience laughing, drinking, and singing. This is work that I want to build upon and make my career, as it brings me into a world in which I can be myself. My philosophy as a photographer is ‘always be open to opportunities, as these help to bring out my skills and creativity’, and my aim is to show the dynamic and vibrant feel of a performance or event in the community.