NEWYDDION
gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
Rhifyn 2 Ionawr 2015
Gwasanethau prawf sy’n lleihau aildroseddu ac yn gwneud pobl Cymru yn saffach
Neges gan y Prif Weithredwr Ers ein cylchlythyr blaenorol, rydym wedi cymryd cam mawr tuag at ddiwygiadau’r Llywodraeth i wasanaethau prawf. Mae’r cytundeb gyda’n perchnogion newydd Working Links mewn lle, a gyda’n gilydd rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth prawf o’r radd flaenaf ledled Cymru. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni gan y byddwn yn gallu cyfuno profiad Working Links o lunio gwasanaethau arloesol gyda phrofiad Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru o reoli troseddwyr a’u risg o niwed a diogelu’r cyhoedd. Bydd hon yn bartneriaeth bwerus ac effeithiol a fydd yn cyfrannu at adeiladu Cymru ddiogel a llewyrchus. Rydym yn gweithio i ddatblygu gwasanaethau Drwy’r Giât i baratoi ar gyfer y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr newydd. Bydd y gwasanaethau hyn yn gweld carcharorion sydd wedi’u dedfrydu am lai na 12 mis o garchar yn cael cefnogaeth prawf gennym ni am y tro cyntaf. Gyda’n gilydd rydym wedi bod yn ymweld â charchardai yng Nghymru, ac ymweld â Charchar EM Stoke
Heath a Charchar EM Eastwood, lle fydd CRC Cymru hefyd yn gyfrifol am y ddarpariaeth ailsefydlu Drwy’r Giât. Mae yno lawer o waith sydd dal angen ei wneud hyd at 1 Mai i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwasanaeth Drwy’r Giât ddi-dor ac effeithiol, gan gynnwys gwasanaeth ailsefydlu modiwlaidd i garcharorion sydd gyda hyd at 12 wythnos ar ôl cyn y cânt eu rhyddhau. Bydd gan Reolwyr Troseddwr swyddogaeth bwysig i gymeradwyo cynlluniau ailsefydlu wedi’u paratoi gan gynghorwyr ailsefydlu newydd, a darparu cefnogaeth gyson i’w troseddwyr tra maent yn y ddalfa ac ar ôl cael eu rhyddhau. Mae gwaith yn cael ei wneud hefyd i lunio gwasanaethau yn y dyfodol a fydd ar gael dan Ofyniad Gweithgaredd Adsefydlu (RAR). Tra byddwn ni’n parhau i ddarparu llawer o’n gweithgareddau cyfredol i droseddwyr, byddwn hefyd yn gweithio gyda Working Links ac Innovation Wessex ar sut y gallwn gyflwyno ffyrdd newydd o helpu troseddwyr i newid eu bywydau er gwell.
Liz Rijnenberg
Prif Weithredwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru @WalesCRC
Yn y rhifyn hwn... Perchennog newydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru wedi’i gadarnhau 2 Sgiliau troseddwr yn achub bywyd babi 3 Troseddwyr yn helpu i doi 4 Troseddwyr yn gwneud lle ar gyfer gweithgareddau awyragored yn Hostel 5 Newid bywydau o fewn amseroedd heriol 6 Ymgyrch yr Uchelwydd yn cadw dathlwyr yn ddiogel 7 Troseddwyr yn gwneud ffrogiau i blant yn Sierra Leone 8
Bu i
300
o droseddwyr gwblhau gorchymyn Ad-dalu’r Gymuned yn ystod. Hydref 2014
www.walescrc.co.uk
Perchennog newydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru wedi’i gadarnhau Cadarnhawyd mai Working Links yw perchennog newydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Chris Grayling, wedi llofnodi cytundebau gyda'r darparwyr newydd ar gyfer y 21 Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CRC) ar draws Prydain. Mae hyn yn gam arwyddocaol arall tuag at gwblhau diwygiadau’r llywodraeth i’r gwasanaeth prawf. Bydd Working Links yn cymeryd drosodd rhedeg CACC yn swyddogol ar y 1.2.2015 Dywedodd Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr CRC Cymru, “Rwy’n falch gyda’r cyhoeddiad mai Working Links yw perchenogion newydd CRC Cymru. Mae hyn yn gyfnod newydd a chyffrous i ni, ac rwy’n edrych ymlaen at arwain y CRC wrth inni symud ymlaen i'r cam nesaf o’n cyfnod pontio.” Cwmni cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yw Working Links ac mae yn berchen gan gyfranddaliwr gweithredol Llywodraeth y Deyrnas Unedig , Manpower, Capgemini a Mission Awstralia. Mae gan Working Links brofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau Cyflogaeth a Chyfiawnder yn llwyddiannus. Maent wedi ymrwymo i gefnogi troseddwyr i newid eu bywydau drwy ddarparu gwasanaethau ar y cyd, gweithio yn y gymuned, a hyn gyda phwyslais ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Meddai Liz: “Mae’r ystod eang o gwmnïau sy’n rhan o Working Links yn rhoi hyblygrwydd, cyfleoedd a phosibiliadau ar gyfer buddsoddi er mwyn darparu dyfodol cadarnhaol ar gyfer unigolion a’u cymunedau. Hefyd, gallant
fuddsoddi mewn gwasanaethau ac arloesi i’w gwella, gan ddarparu arbedion a gwerth am arian i’r trethdalwr. ” Nawr gallwn symud ymlaen a chanolbwyntio ar y dyfodol wrth inni weithio i gyflawni amcanion cyffredin o amddiffyn y cyhoedd a lleihau aildroseddu, wrth barchu unigolion a chredu yn eu gallu i newid. Rydym yn rhannu’r un gwerthoedd, sef cefnogi troseddwyr i ddod yn aelodau cyfrifol o’r gymuned, a gweithio o fewn cymunedau i greu Cymru ddiogelach drwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar y cyd ag asiantaethau eraill. Ychwanegodd Liz: “Un o gryfderau CRC Cymru yw ansawdd a phroffesiynoldeb ein staff, ac rwy’n falch bod Working Links yn sefydliad sy’n gweld gwerth yn yr wybodaeth a phrofiad sydd gan ei weithwyr, ac mae’r gyfradd o gwsmeriaid bodlon yn uchel.’ Crëwyd CRC Cymru ar 1 Mehefin 2014 fel rhan o gynllun Gweddnewid Adsefydlu y llywodraeth, ac mae’n darparu gwasanaethau prawf ar gyfer oddeutu 8,000 o droseddwyr risg isel a chanolig ledled Cymru. Ers y flwyddyn 2000, mae Working Links wedi gweithio gyda throseddwyr ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau a’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr i helpu pobl sydd wedi'u heuogfarnu symud tuag at gynhwysiant cymdeithasol. Hefyd, maent wedi ennill cytundebau ar gyfer dau CRC arall, sef Dorset, Dyfnaint a Chernyw a Bryste, Swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Wiltshire.
O’r chwith i’r dde :Ella Rabaiotti (Arweinydd Uned Cyflawni Lleol Dyfed-Powys Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ) , Judith Magaw ( Arweinydd Uned Cyflawni Lleol Gogledd Cymru, CACC), Clare Davey (Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Working Links) , Brian Bell (Prif Swyddog Cyfredol) , Phil Andrew (Prif Weithredwr, Working Links),Emma Richards (Arweinydd Uned Cyflawni Lleol i Abertawe a chymoedd De Cymru ), Diana Binding (Arweinydd Uned Cyflawni Lleol Gwent, CACC) , Dean Tams (Uwch Defnyddiwr Cymorth, Working Links) a Dave Bebb (Arweinydd Uned Cyflawni Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, CACC)
@WalesCRC
www.walescrc.co.uk
Rhaglenni Arbennig
Nathan yn achub bywyd Sgiliau troseddwr yn achub bywyd babi Mae un o’n troseddwyr wedi helpu i achub bywyd ar ôl camu i mewn i helpu babi a oedd wedi stopio anadlu. Cafodd Nathan Hodges ei ddeffro am 2am gan ei gymydog a oedd mewn panig llwyr ac yn gofyn am help. Pan aeth Nathan i’w cartref, fe welodd fod eu babi wythnos oed wedi stopio anadlu ac yn troi’n las. Ffoniodd am ambiwlans, a thra’r oedd ar y ffôn gyda’r gwasanaethau brys, fe lwyddodd i ddod o hyd i rywbeth yng nghorn gwddf y babi yn ei atal rhag anadlu ac fe’i tynnodd allan. Dechreuodd y babi anadlu eto, a phan gyrhaeddodd y parafeddygon ychydig yn ddiweddarach dywedasant wrth Nathan y byddai’r babi, yn ôl pob tebyg, wedi marw pe na fyddai wedi ymyrryd. Mae’r rhieni wedi penderfynu enwi’r babi yn Nathan ar ei ôl. Dywedodd Andrew Blackhurst, sef Swyddog Gwasanaeth Prawf Nathan o’n swyddfa ym Merthyr Tudful fod Nathan yn credu mai cwrs sgiliau meddwl a ddilynodd fel rhan o’i gyfnod prawf oedd yn gyfrifol am y ffaith ei fod wedi ymdopi â’r argyfwng. “Dywedodd Nathan ei fod wedi cadw’i ben ac wedi canolbwyntio, a’i fod wedi synnu ei hun oherwydd ei allu i ymdopi â sefyllfa o’r fath.
@WalesCRC
“Fel y swyddog sy’n goruchwylio Nathan, rwyf wedi gweld gwelliant mawr yn ei sgiliau meddwl, ei sgiliau ymdopi a’i reolaeth emosiynol dros y misoedd diwethaf. Roedd Nathan yn teimlo pe byddai hyn wedi digwydd chwe neu ddeuddeng mis yn ôl, byddai wedi ymateb yn wahanol iawn a dywedodd y byddai, fwy na thebyg, wedi rhedeg i ffwrdd mewn panig. “Fe wnaethom drafod beth oedd wedi newid yn ystod yr amser hwn a dywedodd Nathan, heb unrhyw anogaeth, ei fod yn teimlo fod y modiwlau TSP y mae wedi’u cwblhau hyd yma wedi ei alluogi i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Dywedodd, ‘Nid wyf yn meddwl y byddwn wedi gallu gwneud hyn heb Prawf’. Mae’n wych gweld canlyniad mor hapus a chadarnhaol.” Bu i
38,600
o oriau gwaith di-dâl gael ei gwblhau o fewn cymunedau Cymru mewn mis. (Hydref 2014).
www.walescrc.co.uk
Troseddwyr yn helpu i doi adeilad o fferm Oes Haearn
Gwneud Iawn â’r Gymuned
Cafodd
61,936
o’n negesau trydar ei ddarllen dros y tri mis diwethaf
Mae troseddwyr sy’n gwneud iawn am eu troseddau trwy wneud gwaith cymunedol yn creu hanes yng nghoedwigoedd Sain Ffagan ger Caerdydd. Maen nhw’n helpu’r töwr, John Letts, i baratoi toeau gwellt traddodiadol ar gyfer dau dŷ crwn, sy’n rhan o fferm Oes Haearn sy’n cael ei hadeiladu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r troseddwyr yn rhan o brosiect Gwneud Iawn â’r Gymuned yn yr amgueddfa. Helpodd un tîm i gynaeafu a dyrnu cnwd o sbelt, hen fath o rawn, tra bod tîm arall yn gyfrifol am lanhau a gosod y coesau mewn sypiau yn barod i John y töwr eu defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’n waith sy’n mynd ag amser gan eu bod yn defnyddio cribinau llaw i lanhau’r glaswellt sydd wedi gwywo ac unrhyw rawn sy’n weddill a allai ddenu llygod. Mae John, sy’n archeofotanegydd ac sydd wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth i ddulliau toi hanesyddol, wrth ei fodd gyda’r tîm sydd dan ofal Cwmni Adsefydlu Cymunedol
@WalesCRC
Cymru, rhan o’r gwasanaeth prawf. “Mae’r bechgyn yn gwneud gwaith gwirioneddol dda. Bydd yn cymryd wyth tunnell o sbelt i greu’r toeau ac mae’r holl waith y maen nhw’n ei wneud cyn prosesu, yn gymorth mawr i ni ddechrau toi. Does neb wedi toi’n union fel hyn ers amser hir,” meddai. Mae’r fferm o’r enw Bryn Eryr wedi ei lleoli ar safle 2,000 o flynyddoedd oed yn Ynys Môn. Mae’n un o’r ‘adeiladau a gollwyd’ a fydd yn cael ei adeiladu yn Sain Ffagan fel rhan o gynllun pum mlynedd yr Amgueddfa i ailddatblygu’r profiad i ymwelwyr. Mae’r muriau wedi eu gwneud o bridd clom, cymysgedd traddodiadol o dywod, llwch cerrig, clai a gwellt ac mae’r toeau’n fframiau gwellt siâp côn wedi eu gorchuddio â grug ac eithin, i gadw llygod draw, gwellt barlys a gwenith ac un haen olaf i ddal dŵr wedi ei wneud o goesau sbelt. Mae’n waith oer a budr wrth i’r tîm geisio ail-greu’r fferm mor fanwl gywir â phosibl. Mae Mike Gerlach, Swyddog
Cafodd Gwneud Iawn â’r Gymuned gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, wedi chwarae rhan allweddol i sefydlu’r bartneriaeth ac mae’n gobeithio y bydd mwy o amgueddfeydd yn elwa ar weithio gyda’r gwasanaeth prawf ar gynlluniau tebyg yn y dyfodol. “Rwyf yn falch dros ben ein bod yn gallu cyfrannu at brosiect mor gyffrous. Mae rhai o’r troseddwyr yn byw’n lleol ac mae’n werth chweil iddyn nhw fod yn rhan o rywbeth fel hyn.” Tyfwyd a chynaeafwyd y sbelt yn Sain Ffagan. Bydd y grawn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion archeolegol amrywiol fel pobi bara yn y becws ar safle’r amgueddfa. a
Goruchwyliwr Ad-dalu Cymuned Andy Morgan hefo töwr John Letts yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd.
www.walescrc.co.uk
Gwneud Iawn â’r Gymuned
Troseddwyr yn gwneud lle ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn Hostel Ieuenctid Mae troseddwyr yng Ngogledd Cymru wedi cyflawni gwasanaeth pum seren i helpu trawsnewid hostel ieuenctid (YHA) yng Nghonwy i leoliad awyr agored blaenllaw i ymwelwyr ag ysgolion lleol. Gofynnodd Eric a Julieanne Audigé-Soutter, rheolwyr YHA Conwy, i droseddwyr a ddedfrydwyd i wneud gwaith di-dâl gan y llysoedd i helpu gyda’u cynlluniau i ehangu’r cyfleusterau yn yr hostel i ddenu mwy o ymwelwyr. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Martin Trigg, Goruchwyliwr Gwneud Iawn â’r Gymuned, Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CRC) Cymru, sy’n rhan o’r gwasanaeth prawf, a’i dimau wedi treulio mwy na 1,600 awr yn gweithio yn yr hostel 82 gwely. Mae eu hymdrechion wedi galluogi i Eric a Julieanne dderbyn cyllid gan bartneriaid busnes eraill i greu cwrs rhaffau ac ardal saethyddiaeth yn yr hostel sy’n edrych dros gastell canoloesol Conwy. Yn awr, byddant yn cyflogi hyfforddwr rhan amser i gynnig gwersi i ysgolion lleol a grwpiau megis Sgowtiaid ac Afancod (Beavers). Hefyd, maent wedi ymuno â’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i greu ardal amgylcheddol i ymwelwyr ddysgu am fywyd gwyllt lleol. Ar dir YHA, cyflawnodd troseddwyr gwaith glanhau ac atgyweirio mawr, gan lefelu a gosod ffens o amgylch ardal llawn tyfiant nas defnyddir i wneud lle ar gyfer cwrs ymosod ac ardal saethyddiaeth, a chlirio dail, torri cloddiau, ac atgyweirio a pheintio ffensiau, byrddau picnic a meinciau. Tu mewn yr hostel, cafodd 25 ystafell wely, y coridorau a’r ystafelloedd cyffredin eu haddurno a’u hadnewyddu. Fel rhan o’r prosiect, roedd un o’r troseddwyr, sy’n saer coed cymwys, wedi cymryd yr awenau i adnewyddu’r hen bafiliwn pren. Mae’r pafiliwn yn cael ei ddefnyddio fel man aros i bobl sy’n cymryd rhan yn y saethyddiaeth ac mae bwrdd
@WalesCRC
Troseddwr ar orchymyn Ad-dalu cymuned ar gwrs ymosod newydd YHA Conwy
gwybodaeth amgylcheddol ar gyfer y ‘Gwesty i Bryfed’, lle gall ymwelwyr wylio’r pryfed. Dywedodd Eric: “Mae’r gwaith sylweddol a wnaethpwyd gan y timau Gwneud Iawn â’r Gymuned wedi bod yn wych. Mae YHA Conwy yn rhan o Sefydliad YHA Cymru a Lloegr, elusen gofrestredig sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr a rhoddwyr i gefnogi’r gwaith a wnawn gyda chyllid cyfyngedig. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr, a heb waith y tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned, ni fyddem wedi gallu symud ymlaen gyda’n cynlluniau cyn gynted. Byddai’r gwaith y maent wedi ei gyflawni yn ystod un gaeaf wedi cymryd saith mlynedd i ni ei gwblhau.” Dywedodd Richard Purton, Rheolwr Tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned Gogledd Cymru: “Mae hi wedi bod yn wych gweld y troseddwyr yn ymfalchïo yn eu gwaith y maent wedi ei gyflawni a sut mae hyn wedi bod o fantais i’r elusen.’ Ychwanegodd Eric: “Mae safon y gwaith yn dda iawn. Mae’r lle yn edrych llawer gwell ac yn daclusach nag erioed.” “Byddwn yn parhau i weithio gyda CRC Cymru ar brosiectau yn y dyfodol, rydym yn cynllunio’r gwaith addurno yn YHA Rowen, hostel ieuenctid 20 gwely gerllaw sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, yn barod. Byddwn yn annog i hosteli eraill i achub ar y cyfle hwn ar ôl y gwaith a gyflawnwyd gan y timau Gwneud Iawn â’r Gymuned.”
www.walescrc.co.uk
Newid bywydau o fewn amseroedd heriol Mewn neuadd chwaraeon yng nghanol Porthmadog, mae saith dyn yn eisteddmewn grŵp, yn trafod trais yn erbyn merched a pharch rhywiol. Mae’r dynion i gyd wedi eu dyfarnu’n euog o gamdriniaeth ddomestig yn erbyn eu partneriaid ac wedi cael eu gorchymyn i gymryd rhan mewn Rhaglen Camdriniaeth Ddomestig Integredig (IDAP). Mae’r cwrs, i ddynion yn unig, yn un o ystod o raglenni achrededig wedi eu cyflwyno gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, gyda’r nod i newid ymddygiad troseddwr. I rai troseddwyr mae’n ddewis arall yn lle carchar, ac i eraill mae’n rhan o’u trwydded rhyddhau o’r carchar. Mae’r IDAP ym Mhorthmadog yn un o wyth rhaglen trais domestig y mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Uned Gyflawni Leol Gogledd Cymru yn ei gynnal ond yr unig un sy’n cymryd lle mewn lleoliad cyhoeddus. Mae’r rhaglen naw mis wedi ei gyflwyno drwy naw modiwl, sy’n cael eu cynnal mewn sesiynau gwaith grŵp 2 1⁄2 awr wythnosol. Yn ystod y sesiynau, mae troseddwyr yn cael llawlyfr a llyfr gwaith,
ac mewn grwpiau, gan ddefnyddio fideos a thrafodaethau, mae’r dynion yn edrych ar eu hymddygiad ac yn dysgu sut i reoli ac addasu eu hymatebion. Drwy gydol y rhaglen, gall Gweithwyr Diogelwch i Ferched ddarparu cynllun diogelwch ar gyfer y dioddefwyr a’u hysbysu o gynnydd y troseddwyr ar y rhaglen. Gall troseddau’r troseddwyr sy’n cymryd rhan amrywio o ymosodiadau corfforol difrifol i artaith emosiynol. Yn ystod y sesiynau, a arweinir gan June Hughes a Sian Williams, Swyddogion y Gwasanaeth Prawf, mae’r sawl sydd wedi cyflawni camdriniaeth ddomestig yn edrych ar bynciau gan gynnwys parch rhywiol, ymddygiad nad yw’n ymosodol a chyfrifoldeb magu plant mewn sesiynau grŵp. Eglurodd June Hughes, Swyddog Gwasanaeth Prawf sydd yn gweithio yn swyddfa CRC Cymru yng Nghaernarfon: “Mae IDAP wedi ei bod yn gweithredu ers dros wyth mlynedd, ac rwyf wedi cael fy hyfforddi fel tiwtor yn y rhaglen ers oddeutu saith mlynedd ac yn yr amser hynny mae nifer o hanesion llwyddiannus.
Rhaglenni Arbennig
“Derbyniwyd llythyr unwaith gan bartner i un o’r dynion, yn diolch i ni am newid eu bywydau ar ôl iddo gyflawni’r cwrs. Fel cwpl, roeddynt yn teimlo y gallant gyfathrebu a deall ei gilydd yn well. “Mewn perthynas â dyn arall, nid oedd ef yn cael gweld ei fabi o ganlyniad i’w drosedd. Drwy’r rhaglen, dechreuodd beidio â bod yn flin a defnyddiodd y sgiliau yr oedd wedi eu dysgu i fod yn fwy pendant drwy ddefnyddio’r dulliau cywir. O ganlyniad, roedd yn gallu cael hawl i weld ei ferch.” “Mae hi bob amser yn werthfawr cael adborth positif gan ddynion sydd wedi cwblhau’r rhaglen. Y rheswm dros lwyddiant IDAP yw ei fod yn herio yr hyn mae pobl yn ei gredu.” Mae’r cwrs IDAP yn un o gyfres o gyrsiau sydd wedi eu llunio’n arbennig, lle caiff troseddwyr eu cyfarwyddo gan y llysoedd i weithio gyda’u rheolwr troseddwr, a staff arbenigol eraill i’w helpu i ddatblygu y sgiliau mae arnynt eu hangen i fyw bywyd sy’n ufuddhau i’r gyfraith.
Beth sydd mor arbennig am y Rhaglen IDAP ym Mhorthmadog? Weithiau mae natur wledig a’r ardal eang yng Ngogledd Cymru yn ei gwneud hi’n anos i rai troseddwyr gael mynediad at gyrsiau, a arweiniwyd yn flaenorol gan swyddfeydd CRC Cymru ym Mae Colwyn a Bangor. Roedd rhai dynion a oedd yn byw mewn trefi a phentrefi gwledig a mwy anghysbell, yn gorfod gwneud taith 150 milltir yno ac yn ôl, a allai gymryd hyd at bedair awr a bron yn amhosib heb gar. Roedd y pellter hefyd yn achosi problemau i droseddwyr i allu mynd i’r gweithdai hyn a gweithio ar yr un pryd.
@WalesCRC
Eglurodd Tracey Owen, Dirprwy Bennaeth Uned Gyflawni Leol Gogledd Cymru:Mae’r cwrs IDAP yn Ganolfan Hamdden Porthmadog yn arloesol ac yn gefnogol i adeiladu perthynas hefo’r gymuned o fewn Gogledd Cymru fel rydym yn darparu o adeilad cyhoeddus yn lle adeilad prawf ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. I gefnogi Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i ddefnyddio’r neuadd chwaraeon i’r cwrs bu i CACC wneud risg asesiad a bu darpariaeth er mwyn sicrhau diogelwch y CACC a staff y ganolfan hamdden Roeddem yn derbyn fod lleoliad yn rhwystr i rhai o’n defnyddiwr gwasanaeth. Mae’r ganolfan hamdden yn ganol y dref wrth ymyl yr orsaf trên a safle bws, felly mae yn haws i gael mynediad iddo Ers i’r cwrs gychwyn mae’r niferoedd wedi cynyddu ar bresenoldeb wedi gwella.
www.walescrc.co.uk
Gwneud Iawn â’r Gymuned
Ymgyrch yr Uchelwydd yn cadw dathlwyr yn ddiogel Dechreuodd y cynllun fel un Nadoligaidd i gadw dathlwyr yn ddiogel ar nosweithiau allan yn y dref ond bellach mae wedi tyfu i fod yn brosiect drwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o Ymgyrch yr Uchelwydd mae troseddwyr yn clirio gwydrau a photeli sydd wedi torri, ac arfau posibl eraill o’r strydoedd. Mae’r troseddwyr sydd wedi cael dedfryd Gwneud Iawn â’r Gymuned yn patrolio canol trefi a dinasoedd Caerdydd, Abertawe, Merthyr a Phontypridd, yn clirio eitemau peryglus a allai achosi anaf difrifol neu fod yn demtasiwn i’w defnyddio mewn ymosodiad. Yng Nghaerdydd, mae’r timau allan bob nos Wener a nos Sadwrn o 8.30pm tan 3am, yn clirio ardaloedd wrth y clybiau a thafarndai. Dywedodd Phil Martin, Rheolwr Tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, bod y prosiect yn boblogaidd ymysg y cyhoedd.
@WalesCRC
“Rydym yn cael ymateb da gan bobl sy’n ein gweld yn ein siacedi llachar wrth geisio gwneud y strydoedd yn ddiogelach, ac mae gennym gyswllt radio gyda’r heddlu rhag ofn ein bod yn gweld bod mwy o broblemau mewn rhai ardaloedd neu fod rhywun wedi cael anaf. “Rydym yn ceisio lleihau troseddau treisgar drwy gael gwared â’r arfau o’r strydoedd. Os oes rhywun yn cael eu hanafu gan wydr, mae’n costio £30,000 i’r gwasanaeth iechyd, y farnwriaeth, yr heddlu a chostau i’r gwasanaeth prawf. Rydym yn patrolio drwy gydol y flwyddyn ac yn gweld ychydig iawn o ddigwyddiadau”, dywedodd. Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ochr yn ochr â’r heddlu a bugeiliaid y strydoedd. Mae tîm Abertawe yn gweithio gyda Phartneriaeth Abertawe Diogelach, ac yn troedio drwy’r prif lwybrau yng nghanol y ddinas pob nos Sadwrn. Meddai Graham Thomas,
54
Roedd
%
o’r unigolion yr oeddem yn gweithio a nhw mewn cyflogaeth ar ddiwedd eu gorchymyn - 14% uwchben y targed.
Rheolwr Gwneud Iawn â’r Gymuned: “Roedd y grwpiau yn rhoi hyder i’r cyhoedd gan fod mwy o bresenoldeb a phresenoldeb mwy gweladwy ar y strydoedd. “O safbwynt y troseddwyr, gallant wneud iawn â’r gymuned yn uniongyrchol drwy sicrhau bod y ffyrdd a llwybrau i gerddwyr yn lanach ac yn ddiogelach. Maent yn cael gweld drostynt eu hunain sut mae yfed gormod o alcohol yn effeithio ar ymddygiad pobl, ac yn cael gwell ddealltwriaeth o sut gall hyn arwain at droseddu. “Yn dilyn llwyddiant y cynllun, mae prosiectau wedi eu hen sefydlu yn Abertawe bellach. Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn falch iawn o gael bod yn bartner allweddol yn y prosiectau hyn.”
www.walescrc.co.uk
Gweithio mewn Partneriaeth
Jo o Gibran hefo rhai o’r gwisgoedd wedi ei gwneud gan droseddwyr.
Troseddwyr yn gwneud ffrogiau i blant yn Sierra Leone Mae merched sydd wedi troseddu wedi bod troi hen orchuddion gobennydd yn ffrogiau lliwgar i blant yn un o’r gwledydd mwyaf cythryblus yn y byd. Mae’r ffrogiau wedi cael eu hanfon i Sierra Leone yng Ngorllewin Affrica, gwlad sy’n dal i geisio adfer ar ôl blynyddoedd o ryfel cartref ac sy’n cael ei heffeithio gan epidemig Ebola ar hyn o bryd. Mae’r ffrogiau hyn wedi cael eu gwneud gan ferched sydd wedi troseddu ac sy’n cymryd rhan mewn prosiect Gwneud Iawn â’r Gymuned yn Gibran, menter gymdeithasol ddielw yn Llanofer ger y Fenni. Daeth tiwtor gwadd i ddysgu’r merched sgiliau gwnïo sylfaenol, gan gynnwys sut i ddefnyddio peiriant gwnïo, ac mae’r troseddwyr wedi personoli’r ffrogiau gyda phocedi, addurn gosod a botymau lliwgar. Mae’r diolch mwyaf i bartneriaeth rhwng Gibran a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru am alluogi’r prosiect hwn fynd rhagddo. Dywedodd David Bidgood, Swyddog Gwneud Iawn â’r Gymuned, CRC Cymru, bod hyn wedi bod yn llwyddiant mawr gyda 24 o ferched yn gweithio gyda Gibran ers mis Mawrth. “Cyn hyn, roedd merched a oedd wedi troseddu yn cael gorchmynion Gwneud Iawn â’r Gymuned gan y llys i gyflawni gwaith megis torri gwair a glanhau graffiti, ond roedd yn amlwg bod gan lawer ohonynt broblemau yn eu bywydau fel trais domestig a phroblemau canfod llety, ond nid oedd dim yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
@WalesCRC
“Mi aethom ni at Gibran, sy’n gwneud llawer o waith cefnogaeth gyda merched sy’n gadael carchar, ac roeddynt yn gallu darparu lleoliadau gwaith i’n troseddwyr i weithio ar brosiect ailgylchu dillad. Mae’r troseddwyr hefyd yn cael cefnogaeth yn ystod eu gorchymyn ac ar ôl iddo ddod i ben. “Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rydym wedi cael llawer o adborth gan y merched. Mae un wedi llwyddo i fynd i’r Brifysgol i astudio.” Eglurodd Jo, Uwch Reolwr Prosiectau i Gibran, sut mae merched sydd yn rhan o’r prosiect Gwneud Iawn a’r Gymuned yn treulio boreau ar weithgareddau dysgu a all gynnwys sut i reoli arian neu sgiliau sylfaenol, ac yn y prynhawn mi fyddant yn trefnu’r dillad. Mae prosiect “Gibran’s Glad Rags” yn darparu gwisgoedd ysgol i blant sydd â rhieni yn y carchar, dillad ar gyfer pobl sy’n gadael y carchar ac sydd heb ddillad i wisgo, a dillad gwaith smart i gyn-droseddwyr i baratoi ar gyfer cyfweliadau am swyddi. “Rydym yn credu y gall bobl newid ac rydym eisiau creu cyfleoedd iddynt allu newid”, dywedodd Jo. Roedd diwrnod “Dresses for Africa” yn weithgaredd arbennig i ferched a gynhaliwyd ynghyd â “Vintage Vision”, menter gymdeithasol sydd yn arbenigo ar hen ddillad ac sy’n dysgu pobl i wnïo ac ailgylchu dillad. Roedd “Vintage Vision” yn darparu tiwtor am ddim ac roedd Esme Fairbain Foundation yn talu am y defnyddiau.
www.walescrc.co.uk