Damp & Condensation Guide (Welsh)

Page 1

Lleithder a Chyddwysiad. Mae cartref teulu cyffredin yn cynhyrchu 12 litr o wlybaniaeth bob dydd, felly gall cyddwysiad arwain at leithder a llwydni yn gyflym os nad ydych yn mynd i’r afael ag o.


Lleithder a Chyddwysiad. Beth yw tamp ac anwedd? Mae tamp, anwedd a llwydni yn dechrau ymddangos yn eich tŷi gyd yn arwyddion fod yr aer yn eich tŷ yn rhy wlyb. Pan fydd aer gynnes neu laith yn taro arwyneb oerach, bydd dafnau o ddŵr yn ffurfio dyma yw anwedd.

O ble mae’n dod? Mae teulu arferol yn y DU yn cynhyrchu 12L o leithder bob dydd.Mae gweithgareddau syml fel cysgu, coginio, cawodydd a hyd yn oed anadlu i gyd yn cyfrannu at greu lleithder yn yr aer.Gall rhai gweithgareddau fel sychu dillad yn eich tŷ ychwanegu llawer iawn o leithder sy’n cynyddu.

Sut ddylwn i ddelio ag o? Os na fyddwch yn delio â thamp ac anwedd, bydd yn arwain at lwydni, felly dyma arweiniad i rai syniadau defnyddiol i helpu.


yn y cartref. Mae llawer o gyngor ar gael ynglŷn â sut i leihau cyddwysiad yn eich cartref.

·Er mwyn helpu aer i lifo, gofalwch eich bod yn agor awyrdyllau mewn ffenestri ac ystafelloedd os oes gennych rai.

Gofalwch eich bod yn defnyddio unrhyw ffaniau echdynnu sydd gennych. Mae’r rhain fel arfer yn y gegin a’r ystafell ymolchi.

I leihau’r perygl o gyddwysiad, dylech gadw’ch ystafell ar dymheredd rhwng 18 a 21 gradd.

Dylech sychu unrhyw gyddwysiad sy’n dechrau ffurfio ar unrhyw arwynebau.

Awyrwch eich ystafell trwy gadw’ch ffenestri ar agor am gyfnod byr bob dydd.

Sychwch eich dillad tu allan os yw hynny’n bosib’. Os oes raid i chi sychu dillad tu mewn, dewiswch ystafell lle gallwch agor y ffenestr.

Ym mhob rhan o’ch cartref, gofalwch nad ydych yn gosod celfi yn uniongyrchol yn erbyn y waliau.


ystafell fyw. Gan fod teuluoedd yn treulio llawer o amser yn eu hystafell fyw, gall hon fod yn ystafell lle mae gwlybaniaeth yn cael ei gynhyrchu yn eich tŷ. Awyrwch eich ystafell trwy gadw’ch ffenestri ar agor am gyfnod byr bob dydd. Gofalwch nad ydych yn gosod celfi yn uniongyrchol yn erbyn y waliau.

Er mwyn helpu aer i lifo, gofalwch eich bod yn agor awyrdyllau mewn ffenestri ac ystafelloedd os oes gennych rai.


ystafell wely. Rydych yn cynhyrchu llawer o wlybaniaeth wrth gysgu, dyma ychydig o gyngor ar gyfer eich ystafell wely. Awyrwch eich ystafell trwy gadw’ch ffenestri ar agor am gyfnod byr bob dydd.

Gofalwch nad ydych yn gosod celfi yn uniongyrchol yn erbyn y waliau.

Peidiwch byth â gosod eich matres yn uniongyrchol ar y llawr.


y gegin. Ynghyd â’r ystafell ymolchi, y gegin yw un o’r ystafelloedd sy’n cynhyrchu’r mwyaf o wlybaniaeth yn eich cartref. Wrth goginio, ac am gyfnod byr wedyn, gofalwch eich bod yn cau unrhyw ddrysau mewnol ac agorwch ffenestri i alluogi gwlybaniaeth i ddianc.

Rhowch eich ffan echdynnu ymlaen wrth goginio a’i gadael ymlaen am bump i ddeg munud ar ôl gorffen.

Rhowch gaeadau ar sosbenni wrth goginio er mwyn lleihau faint o wlybaniaeth sydd yn yr aer.

Agorwch awyrdyllau yn eich ffenestri os oes gennych rai.

Os ydych yn defnyddio peiriant sychu dillad, gofalwch fod yr awyrdwll yn mynd allan i’r awyr agored.


ystafell ymolchi. Yr ystafell ymolchi sy’n cyfrannu fwyaf at gronni gwlybaniaeth yn eich cartref, felly dylai fod yn brif ffocws wrth geisio lleihau cyddwysiad.

Dylid sychu unrhyw gyddwysiad sy’n dechrau ffurfio ar unrhyw arwynebau.

Wrth redeg bath, defnyddiwch y tap dŵr oer yn gyntaf er mwyn lleihau stêm.

Wrth gael cawod neu fath, gofalwch eich bod yn cau unrhyw ddrysau mewnol.

Trowch y ffan echdynnu ymlaen wrth gael bath a chawod ac am bump i ddeg munud wedyn.

Agorwch ffenestr wrth gael bath neu gawod fel bod unrhyw wlybaniaeth a gynhyrchir yn gallu dianc.

I·Os ydych yn sychu dillad y tu mewn, caewch y drysau ac agorwch y ffenestr.


gwiriadau. Mae llawer o wiriadau y gallwch eu gwneud yn rheolaidd y tu mewn a thu allan i’r eiddo. Dylid rhoi gwybod i’r gwasanaeth atgyweirio am unrhyw broblemau.

Pibellau dŵr mewnol, rheiddiaduron, pibellau gwastraff a thrapiau sinc/bath sy’n gollwng Seliwr bath sydd wedi torri Gorlifiant toiled sy’n rhedeg yn barhaus Teils / llechi ar goll oddi ar y to Cafnau a pheipiau glaw wedi torri / ar goll / yn gollwng Gylïau draeniau wedi blocio


delio ag ef. Dyma rai ffyrdd y gellwch drin cyddwysiad a thwf llwydni yn eich cartref yn effeithiol. CCyddwysiad yw’r arwydd cyntaf o gynnydd gwlybaniaeth yn eich cartref, ac mae’n bwysig eich bod yn ei drin yn y ffordd gywir. Pan fo cyddwysiad yn ymddangos ar arwynebau neu ffenestri, dylid ei sychu gyda chadach sych a sicrhau bod yr arwyneb yn hollol sych eto.

Beth os yw llwydni wedi dechrau tyfu? Mewn sefyllfaoedd lle mae cyddwysiad eisoes wedi arwain at lwydni, dylid ei lanhau yn y ffordd gywir. Yn gyntaf, golchwch yr ardal gyda dŵr cynnes a glanedydd gan wneud yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r ardal gyfan sydd wedi’i heffeithio. Nesaf, dylech rinsio a sychu’r ardal yn defnyddio cadach newydd cyn diheintio’r ardal yn defnyddio triniaeth ffyngladdol. Cadwch lygad ar yr ardal yr effeithiwyd arni a gwnewch sicr o ddilyn yr awgrymiadau yn y canllaw hwn i lleihau unrhyw anwedd pellach o fewn eich cartref. Os bydd problemau'n parhau neu os byddwch yn sylwi a ardal fawr yr effeithir arni gan anwedd neu dyfiant llwydni yna adroddwch fel cyn gynted â phosibl i'n tîm atgyweirio.


rhoi gwybod. Os oes unrhyw gyddwysiad, lleithder neu unrhyw un o’r problemau ar y dudalen flaenorol yn ymddangos yn eich cartref, rhowch wybod i’n tîm atgyweirio trwy ddefnyddio’r manylion isod.

wrexham.gov.uk housingrepairs@wrexham.gov.uk 01978 298993


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.