Renting Homes Wales Guide (Welsh)

Page 1

RHENTU CARTREFI CYMRU 15 GORFFENNAF


RHENTU CARTREFI CYMRU 15 GORFFENNAF

Bydd tenantiaid yn dod yn ‘ddeiliad contract’. Bydd Contract Meddiannaeth yn cael ei roi yn lle eich Cytundebau Tenantiaeth. Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac o safon y gellir byw ynddo megis larymau mwg, larymau carbon monocsid sy’n gweithio a phrofi diogelwch trydanol

Mwy o hawliau olynu ar gyfer eich eiddo.

Gall deiliad contract gael eu hychwanegu neu eu dileu heb fod angen dod a’r contract i ben.

Bydd tenantiaid presennol yn newid yn awtomatig o’u cytundeb tenantiaeth cyfredol i gontract newydd a byddant yn cael copi o’r contract newydd erbyn 14 Ionawr 2023.

Bydd angen i ni roi deufis o rybudd i chi o unrhyw gynnydd mewn rhent. Ni fydd y newidiadau yn cael unrhyw effaith ar eich rhent ac ni fydd yn costio mwy o arian i chi.


RHENTU CARTREFI CYMRU 15 GORFFENNAF

Mae'r deddfau newydd hefyd yn golygu y bydd rhywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir yn newid... Cytundeb: Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dod yn Gontract Meddiannaeth. Bydd dau fath gwahanol o gontract. Os ydych yn rhentu eich tŷ gan y Cyngor neu Gymdeithas Tai bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dod yn 'gontract diogel'. Os ydych yn rhentu eich cartref gan landlord preifat, byddai eich cytundeb tenantiaeth yn dod yn ‘gontract safonol’. Deiliad Contract: Fel y person sy'n rhentu'r tŷ (tenant) byddwch yn ddeiliad contract.

Tenant Cytundeb tenantiaeth

Deiliad contract Cytundeb


RHENTU CARTREFI CYMRU 15 GORFFENNAF

Pryd fydd hyn yn digwydd? Mae’r cyfreithiau newydd yn dechrau ar 15 Gorffennaf 2022. O’r dyddiad hwn byddwch yn newid drosodd yn awtomatig i gontract meddiannaeth Pryd fyddaf yn cael fy nghontract newydd? Mae gennym chwe mis o 15 Gorffennaf i anfon eich contract newydd atoch. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi dderbyn copi cyn 14 Ionawr 2023. Fodd bynnag byddwn yn anelu at ei anfon atoch yn llawer cynt na hynny. Sut fyddaf yn cael fy nghontract? Bydd eich contract yn cael ei anfon atoch. Fydd fy rhent yn codi? Na, nid yw’r cyfreithiau newydd yn effeithio ar eich costau rhent presennol. Oes angen i mi wneud unrhyw beth? Pan fyddwch yn derbyn eich contract newydd gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’ch telerau newydd. Byddwn hefyd yn cynhyrchu llawlyfr tenantiaid newydd a fydd yn cynnwys popeth y bydd arnoch angen ei wybod.

Unrhyw gwestiynau? Dim problem, rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am Rentu Cartrefi Cymru. E-bost: rentinghomes@wrexham.gov.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.