2 minute read
Cyflwyniad i TGAU
from GIRALDUS - Rhifyn 1
by WJEC CBAC
Cyflwyniad i TGAU Hanes
Cyflwyniad i TGAU Hanes
Dylan Jones
Swyddog Pwnc TGAU Hanes ac Arweinydd y Parth Dyniaethau (CBAC ac Eduqas)
Cyn ymuno â CBAC, roeddwn yn Bennaeth Hanes am nifer o flynyddoedd mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd, lle'r oeddwn yn addysgu TGAU a Safon Uwch. Rydw i wedi addysgu amrywiaeth o destunau gan gynnwys yr Almaen Natsïaidd a ffasgaeth yn Ewrop.
Uchod, manylun o furlun teils o "Guernica" Picasso, Gernika, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, gogledd Sbaen. Cydnabyddiaeth: Pixabay Mae'r byd yn newid. Mae'r byd bob amser yn newid – yn bennaf er gwell, ond ddim bob amser. Er mwyn deall a yw'r newidiadau hynny yn rhai blaengar, mae angen i ni gael gwybodaeth am y gorffennol: mae'n hanfodol er mwyn deall a cheisio gwneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. A dyna lle mae TGAU Hanes yn fuddiol. Mae'n ein helpu ni i ddeall y byd cymhleth rydyn ni'n byw ynddo; yn ein dysgu ni i feddwl yn feirniadol, i ddadansoddi'r gorffennol a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen hyd yn oed heddiw, i ddeall bod grymoedd sy'n ceisio newid a siapio ein barn yn barhaus – yn aml ar lefel emosiynol nad oes ganddo rhyw lawer i'w wneud â sefyllfa'r byd go iawn. Mae meddwl yn feirniadol yn sgìl hanfodol – yn awr yn fwy nag erioed. Mewn byd o newyddion 24-awr, teledu aflinol a mynediad cynyddol at dechnoleg mae angen i ni fod yn ofalus am yr hyn rydyn ni'n ei glywed a'i ddarllen yn ogystal â'r hyn rydyn ni'n ei ddweud a'i ysgrifennu. Yn y maes hwn, mae un datblygiad technolegol yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchben y lleill: y cyfryngau cymdeithasol, y sianeli cyfathrebu sydyn hynny sy'n ein galluogi i rannu barn – yn wybodus neu'n anwybodus yn amlach na pheidio – sy'n cael eu gyrru gan ddyhead pobl i gael eu "hoffi", hyd yn oed pan fydd hynny ar draul pobl eraill. Ac, wrth gwrs, does dim posibl meddwl am y cyfryngau cymdeithasol heb ystyried yr holl newyddion ffug. Mewn byd o'r fath (a gadewch i ni beidio â bod yn rhy llawdrwm ar y byd – i’r rhan fwyaf ohonon ni mae’n sicr yn well i fod yn fyw heddiw na 100, 500, 1000 o flynyddoedd yn ôl), nid yw meddwl yn feirniadol yn foethusrwydd: mae'n arf sy'n ein galluogi i wynebu pob diwrnod ac i lwyddo mewn bywyd. Ni fydd bod yn unigolyn meddylgar, rhesymegol, beirniadol byth yn rhwystr, yn hytrach bydd y nodweddion hyn yn ei helpu i gyflawni ei botensial llawn. Mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am bobl ifanc sy'n gallu meddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol – nodweddion allweddol yr hanesydd. Bydd astudio TGAU Hanes yn eich helpu chi i ddatblygu'r nodweddion hyn, a gobeithio, yn ennyn diddordeb yn y gorffennol, mewn digwyddiadau, mewn straeon, mewn diwylliannau ac mewn pobl. Trwy gwblhau'r cwrs mae dysgwyr yn gwella eu gallu i lyncu llawer iawn o wybodaeth, didoli cynnwys, dadansoddi ffynonellau a dehongliadau, siapio dadleuon a dod i gasgliadau cytbwys. Gallan nhw wneud hyn drwy astudio sawl cyfnod a thema sydd wedi'u tynnu o amrediad eang o opsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys: • Cymru a’r persbectif ehangach • Hanes yn canolbwyntio ar Ewrop / y byd • Astudiaethau thematig o bersbectif hanesyddol eang Bydd y themâu hyn yn cynnwys opsiynau a fydd yn ennyn diddordeb. Chwiliwch amdanyn nhw a'u defnyddio i siapio bydolwg flaengar.