2 minute read
Croeso
from GIRALDUS - Rhifyn 1
by WJEC CBAC
... i'r rhifyn cyntaf hwn o Giraldus, y cylchgrawn ar gyfer athrawon a dysgwyr CBAC Hanes. Cafodd y cylchgrawn hwn ei ddatblygu er mwyn hwyluso trafodaethau am astudio hanes fel yr amlinellir yng ngwahanol fanylebau CBAC. Rydyn ni'n gobeithio ei ddefnyddio er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn yn y pwnc, a hefyd er mwyn dangos sut bydd y sgiliau y byddan nhw'n eu datblygu yn Hanes yn ddefnyddiol yn eu bywydau bob dydd.
Hoffem glywed gennych hefyd: i ddarganfod beth yw eich diddordebau a beth hoffech chi ei gael gan CBAC Hanes. Am faterion yn ymwneud yn benodol â'r cylchgrawn, e-bostiwch ni yn uniongyrchol yn giraldus@cbac.co.uk
Yn olaf hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn cyntaf hwn, gan roi eu hamser a'u harbenigedd am ddim.
Clawr, uchod a'r dde: y man claddu Neolithig yn Llwyneliddon, Bro Morgannwg. Cydnabyddiaeth: Neil Evans Cyferbyn: Gerallt Gymro, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro. Cydnabyddiaeth: Wolfgang Sauber – CC BY-SA 3.0
Doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i enw ar gyfer cylchgrawn newydd – yn enwedig un a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn dwy iaith. Cafodd llawer iawn o bosibiliadau eu hystyried, ond roedd penderfynu ar deitl a oedd yn gweithio'n dda yn y Gymraeg a'r Saesneg yn anodd. Gwnaethon ni benderfynu ar y cyfaddawd perffaith drwy enwi ein cylchgrawn ar ôl rhywun y mae ei enw yn gyfystyr â hanes Cymru yn yr oesoedd canol: Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro).
Cafodd Giraldus ei eni tua 1145 yng Nghastell Maenorbŷr. Roedd yn ŵyr i'r Dywysoges Nest, y cyfeirir ati weithiau fel “Helen Cymru” nid yn unig am ei bod yn brydferth ond oherwydd iddi gael ei herwgipio unwaith gan gariadfab brwd. Roedd Giraldus yn hanner Cymro, hanner Norman, ac yn nodweddiadol o'i oes, derbyniodd ei addysg yng Nghymru, Lloegr a Ffrainc. Ar ôl cael ei ordeinio'n offeiriad, ei uchelgais oedd cael ei benodi'n Esgob Tyddewi, ac yna perswadio'r Pab Innocent III i ddyrchafu'r esgobaeth i'r un statws â Chaergaint. Byddai hyn wedi golygu bod Giraldus yn Archesgob Cymru. I gefnogi ei achos, ysgrifennodd Giraldus lawer iawn am hanes Cymru; ond mae'n deg dweud nad oedd ei adroddiadau am y gorffennol yn hollol gywir, er iddo sôn llawer am linach tywysogion Cymru. Ysgrifennodd am ddaearyddiaeth Cymru hefyd yn ogystal ag amodau cymdeithasol ac economaidd ei phobl. Er na lwyddodd i wireddu ei uchelgais, mae hanes wedi bod yn garedig iawn wrtho gan fod ei enw wedi dod i lawr ar hyd y canrifoedd ac rydyn ni'n ei gofio'n annwyl.
CYNNWYS
Tudalen flaenorol a'r dde: manylyn addurnol a cherfluniaeth o'r Catedral de la Inmaculada Concepción y San Felipe y Santiago de Montevideo Cydnabyddiaeth: Neil Evans
Croeso 2
Pam astudio Hanes? 6 Beth gall Hanes ei wneud i chi?
Cyflwyniad i TGAU 10 Cyflwyniad i Safon Uwch 11
Newyddion ffug? Gweithio gyda ffynonellau a dehongliadau: yn UG a Safon Uwch hanes 12
Cwestiwn ac Ateb 18
Hanes a fi Sut mae astudio hanes wedi siapio gyrfa Daniela Senés 19
Newyddion a diweddariadau 21 Yn cynnwys diweddariad ar yr Asesiad Di-arholiad
Cysylltiad Kossuth 22 Datblygu ymwybyddiaeth genedlaethol
Patrymau mudo Ffocws: Bae Caerdydd 26
Safbwynt yr ystafell ddosbarth 29 Dysgu Hanes yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter)