5 minute read

Pam astudio Hanes?

Dr Roger Turvey

Roedd Dr Turvey yn bennaeth Hanes mewn ysgol uwchradd yn ne-orllewin Cymru am 25 mlynedd. Yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a Chymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, mae wedi ysgrifennu canllawiau astudio ar hanes Lloegr yn yr oesoedd canol a'r cyfnod modern canol ar gyfer sawl bwrdd arholi, ac mae'n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion academaidd ar agweddau ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid.

De uchod: Cerflun Edward Colston wedi’i achub o’r dociau, M Shed, Bryste © Bristol City Council ‘Mae haneswyr yn bobl beryglus. Maen nhw'n gallu peri helynt.'

Nikita Khrushchev, 1956

Digon o reswm i astudio hanes efallai er mwyn dod yn rhan o gymuned y mae arweinwyr cyfundrefnau totalitaraidd (a rhai democrataidd – meddyliwch am Richard Nixon) yn ei hofni oherwydd eu bod yn ofni'r gwirionedd. Pobl sy'n ceisio'r gwirionedd yw haneswyr, ac mae gwneud hynny wedi dod hyd yn oed yn fwy cymhleth yn ein byd heddiw. Rydyn ni'n byw mewn oes lle mae ymadroddion fel ‘eich gwirionedd’, ‘fy ngwirionedd’, ‘eu gwirionedd’, wedi dod yn rhan o eirfa ein sgyrsiau bob dydd ond un gwirionedd yn unig sy'n seiliedig ar ffeithiau, mae'r gweddill yn rhagdybiaeth, dehongliad a barn. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud â'r ffeithiau hynny yn bwysig, oherwydd fel y dywedodd yr ysgolhaig a'r athronydd Rhufeinig, Marcus Tullius Cicero ‘y gwirionedd yw rheol gyntaf ysgrifennu hanesyddol’. Ym marn yr hanesydd amlwg, Syr Richard Evans,

mae astudio hanes yn rhoi'r ‘sgiliau mae eu hangen ar bobl i edrych yn feirniadol ar dystiolaeth ac i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen’. Mewn oes o gelu gwybodaeth, camwybodaeth a hyd yn oed ‘newyddion ffug’, mae sgiliau'r hanesydd, felly, yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, os nad ydych yn hoffi ‘perygl’ a ‘chynhyrfu’r dyfroedd’, yna peidiwch â phoeni dydy astudio hanes ddim o reidrwydd yn gwneud rhywun yn hanesydd ond mae'r sgiliau sy'n cael eu dysgu drwy'r gwaith astudio – dadansoddi, dealltwriaeth, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, dod i benderfyniadau, ymchwil ac ysgrifennu – oll yn werthfawr ynddyn nhw eu hunain ac yn hawdd eu trosglwyddo. Mae'n bwysig cofio nad yw addysg hanesyddol yn dod i ben pan fydd plentyn yn gadael yr ysgol ond ei fod yn parhau drwy gydol ei oes fel oedolyn. Mae hyn i'w weld yn y diddordeb mawr mewn olrhain achau ac ymchwilio i hanes y teulu. Mae'r berthynas rhwng sgiliau a chynnwys yn un anodd ac mae'n bosibl na fydd byth yn cael ei datrys yn foddhaol felly mae'n werth cofio bod Hanes, yn y bôn, yn ymwneud â straeon ac adrodd straeon a'r hyn sy'n ei wneud yn rymus yw’r ffaith bod y straeon hyn wedi digwydd go iawn. Y trafod a'r dadlau am werthoedd a rhinweddau'r straeon hyn sy'n ein cysylltu ni â'r gorffennol a'r bobl a'r digwyddiadau a wnaeth eu creu. Eto i gyd, rhaid i ni wylio rhag pobl fel Mark Twain a ddywedodd ‘Peidiwch â gadael i'r gwirionedd amharu ar stori dda’. Mae'r gwirionedd yn fwy rhyfeddol na ffuglen, ac yn aml yn fwy cyffrous! Felly, mae Hanes yn golygu llawer mwy na dysgu a chofio rhestr hir o ddyddiadau a ffeithiau yn unig – er bod cof da yn helpu! – mae a wnelo â'r hyn rydyn ni'n ei wneud â'r ffeithiau hynny. Efallai nad yw'r ffeithiau yn newid ond mae ein dehongliad ohonyn nhw yn newid, ac mae hyn yn arwain at ddadl – sef gwir hanfod Hanes. Yn amlwg, mae llawer o bethau da ynglŷn ag astudio Hanes ac mae'r manteision, i ddefnyddio gair nad

yw'n boblogaidd ymhlith pob hanesydd, yn amlwg, ond y gwir yw bod y pwnc o dan bwysau ac nid yw pawb yn gwerthfawrogi ei rinweddau. Ar funud esgeulus yn 2003 cafodd honiad ei wneud bod Charles Clarke, yr Ysgrifennydd Addysg ar y pryd, wedi dweud: ‘Does dim ots gen i fod yna rai haneswyr yr oesoedd canol at ddibenion addurnol, ond does dim rheswm i'r wladwriaeth dalu amdanyn nhw’. Petai hyn yn wir, byddai'n ddadl siomedig gan fod gan haneswyr yr oesoedd canol lawer i'w gynnig – ac mae llawer i'w ddysgu o'r ffordd gwnaeth cymdeithasau weithredu a datblygu yn ystod cyfnodau cynharach o gythrwfl crefyddol, economaidd, diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Daw hyn â ni yn ôl at y cwestiwn ‘Pam astudio Hanes?’, sy'n aml yn cael ei ofyn i athrawon Hanes gan rieni pan fyddan nhw’n trafod dewisiadau eu plant ar gyfer naill ai TGAU neu UG/Safon Uwch. Efallai mai'r cwestiwn a ddylai gael ei ofyn yw Pam ddim astudio Hanes? Pam na ddylech chi fanteisio ar y cyfle i astudio pwnc sydd â'r gallu i ddenu sylw, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli? Pam na ddylech chi fanteisio ar y cyfle i gael eich swyno gan stori dda, i gael eich diddanu a'ch cario i gyfnod a lleoliad arall? Wedi'r cyfan, fel y dywedodd y nofelydd LP Hartley, ‘Mae'r gorffennol yn wlad dramor; maen nhw'n gwneud pethau'n wahanol yno’. Mewn cyfnod o banig am y pandemig lle rydyn ni’n cael ein hannog i beidio â theithio dramor, gall Hanes gynnig cyfle i ddianc o ryw fath! Does dim angen i ni werthu Hanes fel pwnc hanfodol a pherthnasol, ac fe ddylen ni fod yn llai amddiffynnol yn ein hagwedd tuag at y pwnc. Mae Hanes yn ein dysgu ni i gwestiynu, i fod yn sgeptigol, ac i ddeall y bydd gan bobl yn aml safbwyntiau gwahanol, ac y bydd llawer o’r rhain o bosibl yn ddilys. Mae Hanes yn ein dysgu ni i edrych y tu ôl i'r penawdau, i ddadansoddi, er enghraifft, y rhesymau dros yr helynt yn ymwneud â dymchwel Colston ym Mryste neu ddifrodi Palmyra yn Syria, yn erbyn dathlu tynnu cerfluniau wedi'u cysegru i Stalin neu ddileu'r swastika o adeiladau cyhoeddus o gyfnod y Natsïaid yn yr Almaen. Yn bennaf oll, dylen ni astudio Hanes am y rheswm syml bod y pwnc yn cynnig mwynhad a boddhad, neu mae ganddo'r potensial i wneud hynny. Does dim rhaid astudio Hanes er mwyn cyflawni rhywbeth, gall fod yn gyflawniad ynddo’i hun. Efallai y dylen ni roi’r gair olaf i Robert Heinlein, cyn-swyddog â llynges UDA, peiriannydd awyrennaeth ac awdur ffuglen wyddonol, a ddywedodd, ‘Does gan genhedlaeth sy'n anwybyddu hanes ddim gorffennol a dim dyfodol’.

Prif ddelwedd: Y Colonâd Mawr a'r Bwa Coffa yn Palmyra, Syria. Cydnabyddiaeth: Pixabay Cyferbyn: Sztálin szobor, Budapest, Hwngari yn 1953. Cydnabyddiaeth: Gyula Nagy, CC BY-SA 3.0 Pen Stalin wedi'i ddifrodi ar ôl i'r cerflun gael ei ddinistrio yn 1956. Cydnabyddiaeth: Róbert Hofbauer, CC BY-SA 3.0

This article is from: