4 minute read

Hanes a fi

Next Article
Cyflwyniad i TGAU

Cyflwyniad i TGAU

Beth mae Hanes yn ei olygu i mi: Daniela Senés

Mae Daniela Senés yn addysgwr sy'n byw yn Buenos Aires, yr Ariannin. Derbyniodd ei haddysg yng Nghymru pan oedd yn 16–18 oed ac yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei diddordeb gydol oes mewn astudio Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr ar hanes yr ugeinfed ganrif, wedi arwain gweithdai ar addysg Hanes ac mae hi'n gyn-brif arholwr yn y pwnc. Mae gan Daniela radd Meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol America Ladin ac mae hi wedi defnyddio ei harbenigedd yn y maes hwn i sefydlu ei busnes ei hun Gossip Well Told, lle mae gwesteion yn mwynhau swper tra'n archwilio mater hanesyddol. Mae cysylltiad rhwng y prydau sy'n cael eu gweini â thestun y noson, er enghraifft, ar gyfer Noson gyda Che Guevara bydd yn gweini seigiau cenedlaethol Bolifia, gan gynnwys cawl cnau mwnci – pryd olaf Che.

Fy atgof cyntaf o ymddiddori mewn Hanes yw bod yn fyfyriwr ysgol gynradd yn St Catherine's Moorlands yn Buenos Aires. Fe wnes i gyfweld â fy hen fam-gu/nain ar gyfer project Hanes. Cafodd fy Nonna Virginia ei geni o dan Ymerodraeth Awstria-Hwngari mewn tref fach ger Trieste. Rydw i'n ei chofio hi yn y gegin yn siarad i mewn i'r recordydd tâp – yn ei chymysgedd o Eidaleg a Sbaeneg – am ddigwyddiadau nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Dywedodd wrtha'i am fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y dyddiau o dan Mussolini, sut roedd y teulu wedi colli popeth yn yr Ail Ryfel Byd a pham gwnaethon nhw benderfynu ymfudo i'r Ariannin. Roedd ganddi allu unigryw i ddod â Hanes yn fyw. Treuliais sawl prynhawn arall yn y gegin honno, yn gwrando ar ei hatgofion, yn ceisio deall sut roedd hanes y teulu yn gysylltiedig â digwyddiadau gwleidyddol. Ar yr un pryd, gwylais hi'n paratoi ei phrydau Eidalaidd arbennig. Cyn i mi sylweddoli, roedd Hanes wedi dod yn bwysig iawn yn fy mywyd, ac roeddwn i wedi datblygu cariad at goginio.

Yn parhau ar dudalen 20 Chwith: Daniela yn cyflwyno Gossip Well Told yng Ngwesty'r Hilton, Buenos Aires

Pan oeddwn yn 16 oed, gadewais yr Ariannin a symud i Gymru ar ysgoloriaeth. Roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Roeddwn wedi fy nghyfareddu â'r posibilrwydd o gyfarfod pobl o genhedloedd a chefndiroedd gwahanol, yr oedd gan bob un ohonyn nhw straeon i'w hadrodd, ac fe wnes i wir fwynhau fy nghwrs Hanes. Roedd gen i athro gwych a wnaeth fy helpu i roi'r hanes teulu mewn cyd-destun academaidd a dod o hyd i atebion i lawer o'm cwestiynau. Dychwelais i'r Ariannin i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ac fe wnes i ddod yn athrawes ar ddamwain bron. Roeddwn wedi mynd i ymweld â'm hen ysgol i ddweud helo, a gofynnwyd i mi: “Hoffech chi weithio yma am ychydig oriau bob wythnos tra eich bod chi'n astudio yn y Brifysgol?” Gwnaeth yr ychydig oriau hynny droi yn ugain mlynedd a phrofiad bywyd gwerth chweil arall. Cefais y cyfle i ysbrydoli llawer o'm myfyrwyr i deimlo angerdd a phleser wrth astudio Hanes. Mae fy mlynyddoedd yn St Catherine's Moorlands yn llawn atgofion braf. Rydw i'n hynod o ddiolchgar am yr holl gyfleoedd i ddatblygu projectau newydd a chyffrous yn fy Adran Hanes.

Roedd fy MA mewn Astudiaethau America Ladin wedi fy nghalluogi i ystyried y berthynas rhwng y Celfyddydau a Hanes, yn enwedig y ffordd roedd y Celfyddydau “yn adrodd stori” chwyldroadau ym México, Rwsia a Chiwba. At hyn, datblygais weithdai i annog athrawon i archwilio'r holl gyfleoedd amgen a ddaw yn sgil addysgu trawsddisgyblaethol wrth gyfuno Hanes â Llenyddiaeth, Cerddoriaeth neu'r Celfyddydau Gweledol. Rhwng 2004 a 2018, roeddwn hefyd yn Uwch arholwr Hanes ac yn arwain gweithdy ar gyfer bwrdd arholi rhyngwladol ac fe gyhoeddais pum gwerslyfr. Ar ddiwedd 2018, penderfynais mai'r hyn roeddwn wir eisiau ei wneud oedd mynd yn ôl i danio’r angerdd tuag at Hanes mewn pobl eraill. Felly, rhoddais y gorau i'm swydd a sefydlu “Gossip Well Told”. Mae “Gossip Well Told” yn gwahodd cyfranogwyr i ystyried bywydau rhai o'r bobl sydd wedi siapio'r ugeinfed ganrif a hynny tra'n mwynhau pryd o fwyd tri-chwrs ar yr un pryd. Rydyn i'n ystyried sut mae llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol wedi portreadu Che Guevara, Eva Perón, Frida Kahlo, Nelson Mandela a Mikhail Gorbachev, ymhlith eraill. Mae pob pryd yn gysylltiedig â chymeriad y noson. Mae croeso i bobl y tu allan i'r Ariannin ymuno â ni yn rhithiol (drwy Zoom) a chael profiad ymarferol o baratoi rhai o'r prydau drwy ddilyn ein ryseitiau!

Fy mrwdfrydedd gydol oes tuag at Hanes yw un o'r anrhegion mwyaf gwerthfawr a gefais gan fy hen fam-gu/nain. O ganlyniad, rydw i wedi mwynhau pob cam o'm gyrfa: addysgu, ymchwilio, ysgrifennu ac – yn fwy diweddar – datblygu ffordd newydd a gwreiddiol o barhau i danio'r angerdd hwnnw mewn pobl eraill.

Os hoffech wybod mwy am Gossip Well Told, gallwch gysylltu â Daniela yn:

Daniela@historyafferoffice.com

Isod: Y cogydd Silvina Blanco a Daniela yn paratoi ar gyfer Noson gyda Frida Kahlo. Cydnabyddiaeth: Daniela Senés

This article is from: