Beth mae Hanes yn ei olygu i mi:
Daniela Senés Mae Daniela Senés yn addysgwr sy'n byw yn Buenos Aires, yr Ariannin. Derbyniodd ei haddysg yng Nghymru pan oedd yn 16–18 oed ac yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei diddordeb gydol oes mewn astudio Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr ar hanes yr ugeinfed ganrif, wedi arwain gweithdai ar addysg Hanes ac mae hi'n gyn-brif arholwr yn y pwnc. Mae gan Daniela radd Meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol America Ladin ac mae hi wedi defnyddio ei harbenigedd yn y maes hwn i sefydlu ei busnes ei hun Gossip Well Told, lle mae gwesteion yn mwynhau swper tra'n archwilio mater hanesyddol. Mae cysylltiad rhwng y prydau sy'n cael eu gweini â thestun y noson, er enghraifft, ar gyfer Noson gyda Che Guevara bydd yn gweini seigiau cenedlaethol Bolifia, gan gynnwys cawl cnau mwnci – pryd olaf Che. Fy atgof cyntaf o ymddiddori mewn Hanes yw bod yn fyfyriwr ysgol gynradd yn St Catherine's Moorlands yn Buenos Aires. Fe wnes i gyfweld â fy hen fam-gu/nain ar gyfer project Hanes. Cafodd fy Nonna Virginia ei geni o dan Ymerodraeth Awstria-Hwngari mewn tref fach ger Trieste. Rydw i'n ei chofio hi yn y gegin yn siarad i mewn i'r recordydd tâp – yn ei chymysgedd o Eidaleg a Sbaeneg – am ddigwyddiadau nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Dywedodd wrtha'i am fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y dyddiau o dan Mussolini, sut roedd y teulu wedi colli popeth yn yr Ail Ryfel Byd a pham gwnaethon nhw benderfynu ymfudo i'r Ariannin. Roedd ganddi allu unigryw i ddod â Hanes yn fyw. Treuliais sawl prynhawn arall yn y gegin honno, yn gwrando ar ei hatgofion, yn ceisio deall sut roedd hanes y teulu yn gysylltiedig â digwyddiadau gwleidyddol. Ar yr un pryd, gwylais hi'n paratoi ei phrydau Eidalaidd arbennig. Cyn i mi sylweddoli, roedd Hanes wedi dod yn bwysig iawn yn fy mywyd, ac roeddwn i wedi datblygu cariad at goginio. Yn parhau ar dudalen 20 Chwith: Daniela yn cyflwyno Gossip Well Told yng Ngwesty'r Hilton, Buenos Aires
19