GIRALDUS Ar gyfer dysgwyr ac athrawon CBAC Hanes
Rhifyn Un – Medi 2021
Croeso... ... i'r rhifyn cyntaf hwn o Giraldus, y cylchgrawn ar gyfer athrawon a dysgwyr CBAC Hanes. Cafodd y cylchgrawn hwn ei ddatblygu er mwyn hwyluso trafodaethau am astudio hanes fel yr amlinellir yng ngwahanol fanylebau CBAC. Rydyn ni'n gobeithio ei ddefnyddio er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn yn y pwnc, a hefyd er mwyn dangos sut bydd y sgiliau y byddan nhw'n eu datblygu yn Hanes yn ddefnyddiol yn eu bywydau bob dydd. Hoffem glywed gennych hefyd: i ddarganfod beth yw eich diddordebau a beth hoffech chi ei gael gan CBAC Hanes. Am faterion yn ymwneud yn benodol â'r cylchgrawn, e-bostiwch ni yn uniongyrchol yn giraldus@cbac.co.uk Yn olaf hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn cyntaf hwn, gan roi eu hamser a'u harbenigedd am ddim.
Clawr, uchod a'r dde: y man claddu Neolithig yn Llwyneliddon, Bro Morgannwg. Cydnabyddiaeth: Neil Evans Cyferbyn: Gerallt Gymro, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro. Cydnabyddiaeth: Wolfgang Sauber – CC BY-SA 3.0
2
Pam Giraldus? Doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i enw ar gyfer cylchgrawn newydd – yn enwedig un a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn dwy iaith. Cafodd llawer iawn o bosibiliadau eu hystyried, ond roedd penderfynu ar deitl a oedd yn gweithio'n dda yn y Gymraeg a'r Saesneg yn anodd. Gwnaethon ni benderfynu ar y cyfaddawd perffaith drwy enwi ein cylchgrawn ar ôl rhywun y mae ei enw yn gyfystyr â hanes Cymru yn yr oesoedd canol: Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro).
Cafodd Giraldus ei eni tua 1145 yng Nghastell Maenorbŷr. Roedd yn ŵyr i'r Dywysoges Nest, y cyfeirir ati weithiau fel “Helen Cymru” nid yn unig am ei bod yn brydferth ond oherwydd iddi gael ei herwgipio unwaith gan gariadfab brwd. Roedd Giraldus yn hanner Cymro, hanner Norman, ac yn nodweddiadol o'i oes, derbyniodd ei addysg yng Nghymru, Lloegr a Ffrainc. Ar ôl cael ei ordeinio'n offeiriad, ei uchelgais oedd cael ei benodi'n Esgob Tyddewi, ac yna perswadio'r Pab Innocent III i ddyrchafu'r esgobaeth i'r un statws â Chaergaint. Byddai hyn wedi golygu bod Giraldus yn Archesgob Cymru. I gefnogi ei achos, ysgrifennodd Giraldus lawer iawn am hanes Cymru; ond mae'n deg dweud nad oedd ei adroddiadau am y gorffennol yn hollol gywir, er iddo sôn llawer am linach tywysogion Cymru. Ysgrifennodd am ddaearyddiaeth Cymru hefyd yn ogystal ag amodau cymdeithasol ac economaidd ei phobl. Er na lwyddodd i wireddu ei uchelgais, mae hanes wedi bod yn garedig iawn wrtho gan fod ei enw wedi dod i lawr ar hyd y canrifoedd ac rydyn ni'n ei gofio'n annwyl.
3
CYNNWYS
4
Tudalen flaenorol a'r dde: manylyn addurnol a cherfluniaeth o'r Catedral de la Inmaculada Concepción y San Felipe y Santiago de Montevideo Cydnabyddiaeth: Neil Evans
Croeso 2 Pam astudio Hanes? Beth gall Hanes ei wneud i chi?
6
Cyflwyniad i TGAU
10
Cyflwyniad i Safon Uwch
11
Newyddion ffug? Gweithio gyda ffynonellau a dehongliadau: yn UG a Safon Uwch hanes
12
Cwestiwn ac Ateb
18
Hanes a fi 19 Sut mae astudio hanes wedi siapio gyrfa Daniela Senés Newyddion a diweddariadau Yn cynnwys diweddariad ar yr Asesiad Di-arholiad
21
Cysylltiad Kossuth 22 Datblygu ymwybyddiaeth genedlaethol Patrymau mudo 26 Ffocws: Bae Caerdydd Safbwynt yr ystafell ddosbarth 29 Dysgu Hanes yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) 5
Pam astudio...
Hanes? Dr Roger Turvey Roedd Dr Turvey yn bennaeth Hanes mewn ysgol uwchradd yn ne-orllewin Cymru am 25 mlynedd. Yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a Chymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, mae wedi ysgrifennu canllawiau astudio ar hanes Lloegr yn yr oesoedd canol a'r cyfnod modern canol ar gyfer sawl bwrdd arholi, ac mae'n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion academaidd ar agweddau ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid.
6
De uchod: Cerflun Edward Colston wedi’i achub o’r dociau, M Shed, Bryste © Bristol City Council
‘Mae haneswyr yn bobl beryglus. Maen nhw'n gallu peri helynt.'
Nikita Khrushchev, 1956
Digon o reswm i astudio hanes efallai er mwyn dod yn rhan o gymuned y mae arweinwyr cyfundrefnau totalitaraidd (a rhai democrataidd – meddyliwch am Richard Nixon) yn ei hofni oherwydd eu bod yn ofni'r gwirionedd. Pobl sy'n ceisio'r gwirionedd yw haneswyr, ac mae gwneud hynny wedi dod hyd yn oed yn fwy cymhleth yn ein byd heddiw. Rydyn ni'n byw mewn oes lle mae ymadroddion fel ‘eich gwirionedd’, ‘fy ngwirionedd’, ‘eu gwirionedd’, wedi dod yn rhan o eirfa ein sgyrsiau bob dydd ond un gwirionedd yn unig sy'n seiliedig ar ffeithiau, mae'r gweddill yn rhagdybiaeth, dehongliad a barn. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud â'r ffeithiau hynny yn bwysig, oherwydd fel y dywedodd yr ysgolhaig a'r athronydd Rhufeinig, Marcus Tullius Cicero ‘y gwirionedd yw rheol gyntaf ysgrifennu hanesyddol’. Ym marn yr hanesydd amlwg, Syr Richard Evans,
mae astudio hanes yn rhoi'r ‘sgiliau mae eu hangen ar bobl i edrych yn feirniadol ar dystiolaeth ac i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen’. Mewn oes o gelu gwybodaeth, camwybodaeth a hyd yn oed ‘newyddion ffug’, mae sgiliau'r hanesydd, felly, yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, os nad ydych yn hoffi ‘perygl’ a ‘chynhyrfu’r dyfroedd’, yna peidiwch â phoeni dydy astudio hanes ddim o reidrwydd yn gwneud rhywun yn hanesydd ond mae'r sgiliau sy'n cael eu dysgu drwy'r gwaith astudio – dadansoddi, dealltwriaeth, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, dod i benderfyniadau, ymchwil ac ysgrifennu – oll yn werthfawr ynddyn nhw eu hunain ac yn hawdd eu trosglwyddo. Mae'n bwysig cofio nad yw addysg hanesyddol yn dod i ben pan fydd plentyn yn gadael yr ysgol ond ei fod yn parhau drwy gydol ei oes fel oedolyn. Mae hyn i'w weld yn y diddordeb mawr mewn olrhain achau ac ymchwilio i hanes y teulu. Mae'r berthynas rhwng sgiliau a chynnwys yn un anodd ac mae'n bosibl na fydd byth yn cael ei datrys yn foddhaol felly mae'n werth cofio bod Hanes, yn
y bôn, yn ymwneud â straeon ac adrodd straeon a'r hyn sy'n ei wneud yn rymus yw’r ffaith bod y straeon hyn wedi digwydd go iawn. Y trafod a'r dadlau am werthoedd a rhinweddau'r straeon hyn sy'n ein cysylltu ni â'r gorffennol a'r bobl a'r digwyddiadau a wnaeth eu creu. Eto i gyd, rhaid i ni wylio rhag pobl fel Mark Twain a ddywedodd ‘Peidiwch â gadael i'r gwirionedd amharu ar stori dda’. Mae'r gwirionedd yn fwy rhyfeddol na ffuglen, ac yn aml yn fwy cyffrous! Felly, mae Hanes yn golygu llawer mwy na dysgu a chofio rhestr hir o ddyddiadau a ffeithiau yn unig – er bod cof da yn helpu! – mae a wnelo â'r hyn rydyn ni'n ei wneud â'r ffeithiau hynny. Efallai nad yw'r ffeithiau yn newid ond mae ein dehongliad ohonyn nhw yn newid, ac mae hyn yn arwain at ddadl – sef gwir hanfod Hanes. Yn amlwg, mae llawer o bethau da ynglŷn ag astudio Hanes ac mae'r manteision, i ddefnyddio gair nad
Yn parhau ar dudalen 8
7
yw'n boblogaidd ymhlith pob hanesydd, yn amlwg, ond y gwir yw bod y pwnc o dan bwysau ac nid yw pawb yn gwerthfawrogi ei rinweddau. Ar funud esgeulus yn 2003 cafodd honiad ei wneud bod Charles Clarke, yr Ysgrifennydd Addysg ar y pryd, wedi dweud: ‘Does dim ots gen i fod yna rai haneswyr yr oesoedd canol at ddibenion addurnol, ond does dim rheswm i'r wladwriaeth dalu amdanyn nhw’. Petai hyn yn wir, byddai'n ddadl siomedig gan fod gan haneswyr yr oesoedd canol lawer i'w gynnig – ac mae llawer i'w ddysgu o'r ffordd gwnaeth cymdeithasau weithredu a datblygu yn ystod cyfnodau cynharach o gythrwfl crefyddol, economaidd, diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Daw hyn â ni yn ôl at y cwestiwn ‘Pam astudio Hanes?’, sy'n aml yn cael ei ofyn i athrawon Hanes gan rieni pan fyddan nhw’n trafod dewisiadau eu plant ar gyfer naill ai TGAU neu UG/Safon Uwch. Efallai mai'r cwestiwn a ddylai gael ei ofyn yw Pam ddim astudio Hanes? Pam na ddylech chi fanteisio ar y cyfle i astudio pwnc sydd â'r gallu i ddenu sylw, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli? Pam na ddylech chi fanteisio ar y cyfle i gael eich swyno gan stori dda, i gael eich diddanu a'ch cario i gyfnod a lleoliad arall? Wedi'r cyfan, fel y dywedodd y nofelydd LP Hartley, ‘Mae'r gorffennol yn wlad dramor; maen nhw'n gwneud pethau'n wahanol yno’. Mewn cyfnod o banig am y pandemig lle rydyn ni’n cael ein hannog i beidio â theithio dramor, gall Hanes gynnig cyfle i ddianc o ryw fath! Does dim angen i ni werthu Hanes fel pwnc hanfodol a pherthnasol, ac fe ddylen ni fod yn llai amddiffynnol yn ein hagwedd tuag at y pwnc. Mae Hanes yn ein dysgu ni i gwestiynu, i fod yn sgeptigol, ac i ddeall y bydd gan bobl yn aml safbwyntiau gwahanol, ac y bydd llawer o’r rhain o bosibl yn ddilys. Mae Hanes yn ein dysgu ni i edrych y tu ôl i'r penawdau, i ddadansoddi, er enghraifft, y rhesymau dros yr helynt yn ymwneud â dymchwel Colston ym Mryste neu ddifrodi Palmyra yn Syria, yn erbyn dathlu tynnu cerfluniau wedi'u cysegru i Stalin neu ddileu'r swastika o adeiladau cyhoeddus o gyfnod y Natsïaid yn yr Almaen. Yn bennaf oll, dylen ni astudio Hanes am y rheswm syml bod y pwnc yn cynnig mwynhad a boddhad, neu mae ganddo'r potensial i wneud hynny. Does dim rhaid astudio Hanes er mwyn cyflawni rhywbeth, gall fod yn gyflawniad ynddo’i hun. Efallai y dylen ni roi’r gair olaf i Robert Heinlein, cyn-swyddog â llynges UDA, peiriannydd awyrennaeth ac awdur ffuglen wyddonol, a ddywedodd, ‘Does gan genhedlaeth sy'n anwybyddu hanes ddim gorffennol a dim dyfodol’.
8
Prif ddelwedd: Y Colonâd Mawr a'r Bwa Coffa yn Palmyra, Syria. Cydnabyddiaeth: Pixabay Cyferbyn: Sztálin szobor, Budapest, Hwngari yn 1953. Cydnabyddiaeth: Gyula Nagy, CC BY-SA 3.0 Pen Stalin wedi'i ddifrodi ar ôl i'r cerflun gael ei ddinistrio yn 1956. Cydnabyddiaeth: Róbert Hofbauer, CC BY-SA 3.0
9
Cyflwyniad i
TGAU Hanes Cyflwyniad i TGAU Hanes
Dylan Jones Swyddog Pwnc TGAU Hanes ac Arweinydd y Parth Dyniaethau (CBAC ac Eduqas) Cyn ymuno â CBAC, roeddwn yn Bennaeth Hanes am nifer o flynyddoedd mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd, lle'r oeddwn yn addysgu TGAU a Safon Uwch. Rydw i wedi addysgu amrywiaeth o destunau gan gynnwys yr Almaen Natsïaidd a ffasgaeth yn Ewrop. Uchod, manylun o furlun teils o "Guernica" Picasso, Gernika, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, gogledd Sbaen. Cydnabyddiaeth: Pixabay 10
Mae'r byd yn newid. Mae'r byd bob amser yn newid – yn bennaf er gwell, ond ddim bob amser. Er mwyn deall a yw'r newidiadau hynny yn rhai blaengar, mae angen i ni gael gwybodaeth am y gorffennol: mae'n hanfodol er mwyn deall a cheisio gwneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. A dyna lle mae TGAU Hanes yn fuddiol. Mae'n ein helpu ni i ddeall y byd cymhleth rydyn ni'n byw ynddo; yn ein dysgu ni i feddwl yn feirniadol, i ddadansoddi'r gorffennol a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen hyd yn oed heddiw, i ddeall bod grymoedd sy'n ceisio newid a siapio ein barn yn barhaus – yn aml ar lefel emosiynol nad oes ganddo rhyw lawer i'w wneud â sefyllfa'r byd go iawn. Mae meddwl yn feirniadol yn sgìl hanfodol – yn awr yn fwy nag erioed. Mewn byd o newyddion 24-awr, teledu aflinol a mynediad cynyddol at dechnoleg mae angen i ni fod yn ofalus am yr hyn rydyn ni'n ei glywed a'i ddarllen yn ogystal â'r hyn rydyn ni'n ei ddweud a'i ysgrifennu. Yn y maes hwn, mae un datblygiad technolegol yn sefyll ben ac ysgwyddau uwchben y lleill: y cyfryngau cymdeithasol, y sianeli cyfathrebu sydyn hynny sy'n ein galluogi i rannu barn – yn wybodus neu'n anwybodus yn amlach na pheidio – sy'n cael eu gyrru gan ddyhead pobl i gael eu "hoffi", hyd yn oed pan fydd hynny ar draul pobl eraill. Ac, wrth gwrs, does dim posibl meddwl am y cyfryngau cymdeithasol heb ystyried yr holl newyddion ffug. Mewn byd o'r fath (a gadewch i ni beidio â bod yn rhy llawdrwm ar y byd – i’r rhan fwyaf ohonon ni mae’n sicr yn well i fod yn fyw heddiw na 100, 500, 1000 o flynyddoedd yn ôl), nid yw meddwl yn feirniadol yn foethusrwydd: mae'n arf sy'n ein galluogi i wynebu pob diwrnod ac i lwyddo mewn bywyd. Ni fydd bod yn unigolyn meddylgar, rhesymegol, beirniadol byth yn rhwystr, yn hytrach bydd y nodweddion hyn yn ei helpu i gyflawni ei botensial llawn. Mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am bobl ifanc sy'n gallu meddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol – nodweddion allweddol yr hanesydd. Bydd astudio TGAU Hanes yn eich helpu chi i ddatblygu'r nodweddion hyn, a gobeithio, yn ennyn diddordeb yn y gorffennol, mewn digwyddiadau, mewn straeon, mewn diwylliannau ac mewn pobl. Trwy gwblhau'r cwrs mae dysgwyr yn gwella eu gallu i lyncu llawer iawn o wybodaeth, didoli cynnwys, dadansoddi ffynonellau a dehongliadau, siapio dadleuon a dod i gasgliadau cytbwys. Gallan nhw wneud hyn drwy astudio sawl cyfnod a thema sydd wedi'u tynnu o amrediad eang o opsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys: • Cymru a’r persbectif ehangach • Hanes yn canolbwyntio ar Ewrop / y byd • Astudiaethau thematig o bersbectif hanesyddol eang Bydd y themâu hyn yn cynnwys opsiynau a fydd yn ennyn diddordeb. Chwiliwch amdanyn nhw a'u defnyddio i siapio bydolwg flaengar.
Bydd llawer o fyfyrwyr Safon Uwch Hanes, ond nid pob un, wedi astudio'r pwnc fel TGAU a bydd ganddyn nhw syniad eithaf da o'r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl o'r pwnc hwn. Hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi astudio TGAU Hanes. mae'n hawdd trosglwyddo'r sgiliau a ddatblygwyd mewn pynciau eraill i'r ddisgyblaeth hon. Mae gan y cwrs dri nod. Galluogi dysgwyr i:
Cyflwyniad i Safon Uwch Hanes
• ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, a'u paratoi ar gyfer llunio barn ddadansoddol a gwerthusol am y wybodaeth a'r dealltwriaeth hwnnw • dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a llunio barn am ei gwerth (gweler tudalennau 12–16 i gael rhagor o fanylion am hyn) • archwilio sut mae dehongliadau yn cael eu ffurfio a llunio barn feirniadol am y dehongliadau hynny. Mae'r holl bethau hyn yn sgiliau pwysig – ac ni ddylid diystyru eu gwerth. Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae'n bosibl dilyn sawl llwybr. Er enghraifft, mae'n bosibl dewis llwybr sy'n canolbwyntio ar hanes yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys: Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg (UG Uned 1); y Rhyfel Cartref a'i ganlyniadau tua 1625–1660 (UG Uned 2 ac U2 Uned 4); a gwrthwynebiad, goresgyn a gwrthryfel yng Nghymru tua 1240–1415 (U2 Uned 3). Neu gellir dilyn llwybr gwahanol ac astudio hanes pobl a chymdeithasau, archwilio Cymru a Lloegr tua 1880–1980 (UG Uned 1); y Rhyfel Cartref a'i ganlyniadau tua 1840–1877 (UG Uned 2 ac U2 Uned 4); a Rwsia tua 1881–1989 (U2 Uned 3).
Neil Evans Swyddog Pwnc TAG Hanes (CBAC) Cyn ymuno â CBAC roeddwn yn gweithio gyda bwrdd arholi rhyngwladol am bum mlynedd ar ôl bod yn addysgu Safon Uwch Hanes mewn coleg chweched dosbarth am 10 mlynedd cyn hynny. Roeddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar hanes Cymru, Lloegr ac Ewrop yn yr oesoedd canol hwyr a'r cyfnod modern cynnar. Uchod, llun o gerflun y diwygiwr o'r Almaen, Philipp Melanchthon, Lutherstadt-Wittenberg, Saxony-Anhalt, yr Almaen. Cydnabyddiaeth: Pixabay
Mewn gwirionedd, mae 34 opsiwn a dros 200 o lwybrau gwahanol i ddewis ohonyn nhw. Er bod y rhain fel arfer yn cael eu dewis gan y canolfannau (h.y. ysgolion a cholegau), y bydd llawer ohonyn nhw'n dewis cynnig mwy nag un llwybr, mae'n bosibl i ddysgwyr gyfrannu at gyfeiriad eu dysgu eu hunain. Gallan nhw ddewis asesiad di-arholiad – neu waith cwrs – dewis sy'n cyferbynnu â’r llwybr maen nhw’n ei astudio, neu’n ei ategu. Mae llawer o ganolfannau'n cynnig hyd at bedwar teitl gwahanol ar gyfer asesiad di-arholiad er mwyn helpu'r dysgwyr i wneud hyn, ond os oes gan ddysgwr ddiddordeb mewn maes penodol o hanes ac mae'n dymuno ei astudio ar gyfer ei asesiad di-arholiad, yna gall gyflwyno ei deitl ei hun – drwy ei athro/athrawes – er mwyn i CBAC ei gymeradwyo. Ni waeth pa lwybr a ddewisir, rydyn ni'n gobeithio y bydd dysgwyr yn mwynhau Safon Uwch hanes, y byddan nhw’n adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd ar gyfer TGAU ac yn eu defnyddio i ddod yn feddylwyr ymholgar, myfyriol ac agored eu meddwl sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol mewn bywyd.
11
Newyddion ffug?
Pryd mae ffynhonnell yn ffynhonnell (a phryd nad yw'n ffynhonnell) Neil Evans Swyddog Pwnc, TAG Hanes Pryd mae ffynhonnell yn ffynhonnell a phryd mae dehongliad yn ddehongliad? Beth yw'r gwahaniaeth a sut gallan nhw gael eu defnyddio i ddatblygu gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau – yn y gorffennol a'r dyfodol.
Cydnabyddiaeth: Pixabay
12
Wrth sefydlu a mynegi eu syniadau, mae haneswyr yn wynebu tasg anodd; mae'n bosibl bod ganddyn nhw rywfaint o wybodaeth am destun ond mae angen tystiolaeth arnyn nhw i ddeall, datblygu a chefnogi eu syniadau. Gall dod o hyd i'r dystiolaeth hon fod yn eithaf syml: maen nhw wedi astudio testun, maen nhw'n gallu defnyddio llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau a chasgliadau o ffynonellau, ac mae'r rhyngrwyd yn cynnig llwythi o wybodaeth iddyn nhw o bob rhan o'r byd. Mewn gwirionedd, mae dod o hyd i wybodaeth yn haws heddiw nag erioed o'r blaen; ond mae’r hwylustod hwn hefyd yn arwain at broblemau. A oes gormod o wybodaeth? Pa dystiolaeth ddylen nhw ei dewis? A yw'r dystiolaeth sydd ar gael mewn iaith y mae'r hanesydd yn ei deall? A yw un ochr o ddadl wedi'i chuddio y tu ôl i fur talu a'r ochr arall ar gael am ddim? Y gair allweddol uchod yw “dewis”. Sut mae'r hanesydd yn gwneud dewisiadau pan mae'n datblygu ei ddehongliadau am ddigwyddiadau yn y gorffennol? A yw'r dewisiadau hyn yn adlewyrchu diddordeb personol – neu duedd – yr hanesydd? Ac a ydyn ni, yn ein tro, yn cael ein harwain gan ein tueddiadau ein hunain pan fyddwn ni'n darllen ac yn adolygu gwaith yr haneswyr hynny ac yn adeiladu ein dehongliadau ein hunain? Mae llawer iawn o bethau i feddwl amdanyn nhw yma, ond ar ôl i ni wneud hynny mae'n gwneud y broses – a'n hymwybyddiaeth o'n rôl ein hunain yn y broses honno – yn llawer haws ei deall. Tair elfen greiddiol y broses feddwl hon yw: (1) natur a chyd-destun ffynonellau; (2) datblygu dehongliadau (3) a yw'r dystiolaeth yn dangos tuedd ac/neu yn annibynadwy? Gan weithio y tu ôl ymlaen, er mwyn i ni gyrraedd mater ffynonellau gyda phen clir, byddwn yn dechrau gyda (3). Mae'r cysyniad o duedd yn cael ei orddefnyddio a'i gamddeall gan lawer o bobl sy'n astudio Hanes, yn ogystal â llawer o bobl nad ydyn nhw’n astudio Hanes. Rydyn ni'n llunio barn drwy'r amser – naill ai'n ymwybodol neu'n anymwybodol – am bobl a'u safbwyntiau, sy'n cyd-fynd â'n teimladau personol am faterion. Ac weithiau byddwn ni'n gwneud y camgymeriad o feddwl bod Haneswyr uwchlaw hynny. Dydyn nhw ddim. Mae'n bosibl bod haneswyr yn fwy ymwybodol o duedd nag eraill, ac mae eu gwaith yn destun adolygiad a beirniadaeth ofalus gan eu cyfoedion, ond gallan nhw ddim osgoi tuedd yn gyfan gwbl, ac felly dylen ni ddim rhagdybio bod popeth mae haneswyr
yn ei ddweud yn ddibynadwy. Ar yr un pryd, rydyn ni'n rhy barod i ddatgan fod pobl eraill yn dangos tuedd, ac felly yn annibynadwy, gan eu bod yn “bobl ddrwg iawn”. Hynny yw, bod eu safbwynt yn llai gwerthfawr mewn rhyw ffordd. Ond a yw hynny yn wir bob amser? Gall pobl ddrwg gynnig gwybodaeth werthfawr weithiau. Gadewch i ni edrych ar ffynhonnell ddamcaniaethol fel enghraifft... Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yr Almaen Natsïaidd yn derbyn bod Reinhard Heydrich, “Cigydd Praha” yn ddyn drwg. At hyn, byddai'r rhan fwyaf ohonon ni yn derbyn y gallai Adolf Hitler gael ei ddisgrifio fel rhywun drwg hefyd. Petai gennyn ni ddogfen lle gwnaeth Hitler amddiffyn Heydrich, ni fydden ni'n ystyried bod hynny'n annisgwyl a bydden ni'n meddwl “Wel, wrth gwrs y byddai'n amddiffyn Heydrich. Pobl ddrwg!” ac yna bydden ni'n diystyru'r ffynhonnell fel un annibynadwy – hyd yn oed pan fyddai rhywfaint o'r cynnwys yn amlwg yn gywir. Ond beth petai Hitler yn dadlau, yn ein ffynhonnell ddamcaniaethol, fod Heydrich yn greulon ac yn annheg? Mae’n bosibl y bydden ni wedi ein synnu, ac wrth i'n tuedd bersonol gael ei herio, bydden ni’n dechrau ystyried y ffynhonnell yn ddyfnach, gan chwilio am feysydd dibynadwy. Mae Hitler, dyn drwg, yn credu bod Heydrich yn ddyn drwg. A yw hyn yn golygu ein bod yn meddwl llai fyth o Heydrich? Ydyn mae’n debyg, a dyna pam mae cynnwys a chyd-destun y ffynhonnell yn effeithio ar ein canfyddiad o'i thuedd a dibynadwyedd. Gall unrhyw un wneud dehongliadau – mae pob un ohonon ni'n dehongli gwybodaeth gannoedd o weithiau bob dydd. Yn syml iawn, mae dehongliadau yn disgrifio neu’n cynnig safbwyntiau am ddigwyddiad. O'r herwydd, peidiwch â meddwl mai haneswyr yn unig sy'n gwneud dehongliadau: gallai erthygl mewn papur newydd neu gylchgrawn gynnig dehongliad. Felly hefyd llyfr, rhaglen ddogfen, rhaglen deledu neu ffilm, yn enwedig pan fydd y llyfr, rhaglen ddogfen, rhaglen neu ffilm yn portreadu cyfnod yn y gorffennol, neu wedi'i osod mewn cyfnod yn y gorffennol. Mae'r ffilm Gone with the Wind o 1939 (yn seiliedig ar lyfr Margaret Mitchell o 1936 sy'n dwyn yr un teitl) yn enghraifft dda o hyn. Mae'n adrodd hanes ffuglennol bywyd yn ystod Rhyfel Cartref America, ac yn fuan wedi hynny, ond mae'n cynnig dehongliad clir o'r ffordd roedd rhai pobl yn yr 1930au yn ystyried y digwyddiadau yn nhaleithiau'r de yn yr 1860au. Mae llawer o bobl wedi beirniadu portread y ffilm o'r cymeriadau, ond mae'r dehongliad a gyflwynir yn y ffilm bellach yn henffasiwn iawn, ac mewn llawer ystyr mae’n sarhaus. Eto i gyd, mae'r ffilm yn werthfawr y tu hwnt i'w effaith ddiwylliannol: gall haneswyr ei defnyddio i astudio sut gwnaeth dealltwriaeth o fater hil a chaethwasiaeth ddatblygu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn parhau ar dudalen 17 13
Cwestiwn:
Gan ddefnyddio'r ffynonellau a’ch gwybodaeth bersonol, dadansoddwch werth y tair ffynhonnell hyn i hanesydd sy’n astudio etholiad UDA 2020.
Ffynhonnell A Arlywydd UDA, Donald Trump, mewn araith i'w gefnogwyr (6 Ionawr 2021) Cyfrifoldeb y Gyngres yn awr yw wynebu'r ymosodiad eithriadol hwn ar ein democratiaeth. Ac yn dilyn hyn, rydyn ni'n mynd i gerdded i lawr – ac fe fydda'i yno gyda chi – rydyn ni'n mynd i gerdded i lawr. Rydyn ni'n mynd i gerdded i lawr – unrhyw un rydych chi’n ei dymuno – ond yma dwi'n meddwl. Rydyn ni'n mynd i gerdded i lawr i adeilad y Capitol. Ac rydyn ni'n mynd i annog ein seneddwyr dewr, a'n cyngreswyr. Ac mae'n debyg na fyddwn ni'n rhoi anogaeth mor frwd i rai ohonyn nhw. Oherwydd allwch chi ddim cymryd ein gwlad yn ôl drwy fod yn wan: mae'n rhaid i chi ddangos cryfder ac mae'n rhaid i chi fod yn gryf. Rydyn ni wedi dod yma i fynnu bod y Gyngres yn gwneud y peth iawn ac yn cyfrif yr etholwyr hynny a gafodd eu gofrestru yn gyfreithlon, eu cofrestru yn gyfreithlon. Rydw i'n gwybod y bydd pawb yma yn gorymdeithio draw i adeilad y Capitol cyn bo hir i leisio eich barn yn heddychlon ac yn wladgarol. Heddiw fe gawn ni weld a fydd Gweriniaethwyr yn sefyll yn gadarn. Ffynhonnell B ‘Shama’n Q-anon Jacob Chansley a chefnogwyr eraill yr Arlywydd Trump y tu mewn i adeilad y Capitol UDA (6 Ionawr 2021)
Cydnabyddiaeth: SAUL LOEB / Getty images
14
Ffynhonnell C Y Seneddwr Gweriniaethol Mitch McConnell, Arweinydd Mwyafrif y Senedd ar y pryd, mewn araith i Senedd UDA (19 Ionawr 2021) Y tro diwethaf y gwnaeth y Senedd ymgynnull, roedden ni newydd adennill adeilad y Capitol o ddwylo’r troseddwyr treisgar a geisiodd atal y Gyngres rhag gwneud ein dyletswydd. Rhaffwyd celwyddau wrth y dorf afreolus. Cawson nhw eu gwthio gan yr arlywydd a phobl bwerus eraill. Ac fe wnaethon nhw geisio defnyddio ofn a thrais i atal trafodyn penodol o gangen gyntaf y llywodraeth ffederal nad oedden nhw'n ei hoffi. Ond fe wnaethon ni ddal ati. Fe wnaethon ni sefyll gyda'n gilydd a datgan na fyddai torf afreolus, flin yn gallu atal pleidlais a rheolaeth y gyfraith yn ein cenedl. Ddim hyd yn oed am noson. Gwnaethon ni ardystio dewis y bobl ar gyfer eu 46ed arlywydd. Yfory, bydd y Darpar Arlywydd Biden a'r Darpar Ddirprwy-Arlywydd Harris yn tyngu eu llw. Byddwn ni'n cynnal cyfarfod urddo diogel a llwyddiannus yma ar flaen gorllewinol adeilad y Capitol, sef y fan roedd yr Arlywydd Bush (41) yn ei alw'n ddrws ffrynt democratiaeth.
Cwblhau cwestiynau yn seiliedig ar ffynhonnell ar gyfer UG a Safon Uwch Os byddwch chi'n penderfynu cwblhau'r gweithgaredd hwn sy’n seiliedig ar TAG, mae angen i chi gofio'r canlynol: • Dylech osgoi pori drwy'r ffynonellau un ar ôl y llall, h.y. "Mae A yn dweud hyn..., Mae B yn dweud hyn..., Mae C yn dweud hyn..." • Yn hytrach, ceisiwch nodi gwerth y ffynonellau gyda’i gilydd, h.y. Mae Ffynonellau A ac C yn awgrymu bod ... ond mae Ffynhonnell B yn dadlau yn erbyn hyn drwy awgrymu ... Fodd bynnag, mae Ffynonellau B ac C yn awgrymu bod..." Wedi'r cwbl, mae'r cwestiwn yn gofyn pa mor werthfawr yw'r tair ffynhonnell, nid pa mor werthfawr yw pob ffynhonnell. • Ystyriwch – a nodwch – beth mae'r ffynonellau yn eu hychwanegu at ddealltwriaeth haneswyr, ond meddyliwch amdanyn nhw yn eu cyd-destun. • Peidiwch â nodi'r hyn nad yw'r ffynonellau yn eu cynnwys, ond os ydyn nhw'n cyflwyno’r digwyddiadau â llawer o ogwydd neu mewn ffordd gamarweiniol, nodwch hynny. Er enghraifft, does dim pwynt ysgrifennu bod ffynhonnell a gafodd ei hysgrifennu ar Ddiwrnod Un yn ddiwerth gan nad yw'n cyfeirio at rywbeth a ddigwyddodd ar Ddiwrnod Dau. Byddai hynny wedi bod yn amhosibl - cafodd ei hysgrifennu cyn y digwyddiad hwnnw. Fodd bynnag, gallwch chi ddadlau bod gwerth y ffynonellau yn gyfyngedig os nad ydyn nhw'n rhoi'r darlun llawn o ddigwyddiad, neu maen nhw'n diystyru agwedd bwysig. Mae hwn yn ddull treiddgar ac mae angen ei ymarfer. • Meddyliwch i ba raddau mae'r ffynonellau yn cyfrannu at yr hyn rydych chi'n ei wybod – neu yn ei herio; ar gyfer y dasg hon, pa mor werthfawr yw'r tair ffynhonnell yng nghyd-destun penodol y digwyddiadau yn ymwneud ag etholiad UDA yn 2020, a chyd-destun cyffredinol arlywyddiaeth Trump? • Yn olaf, lluniwch farn. Wedi'r cwbl, mae'r cwestiwn yn gofyn, Pa mor werthfawr...? Er mwyn eich helpu i drefnu eich syniadau am arlywyddiaeth Donald Trump, rydyn ni wedi rhoi llinell amser o'r digwyddiadau allweddol ar dudalen 16. Fel yn achos pob opsiwn hanes, fodd bynnag, mae'r cynnwys yn cael ei awgrymu. Gallwch chi ychwanegu deunydd ychwanegol – neu wahanol – i gefnogi eich dadleuon. Mae cyfarwyddiadau pellach ar sut i gwblhau'r dasg hon ar gael ar dudalen 16.
15
Llinell amser digwyddiadau Nod y gweithgaredd ar y tudalennau blaenorol yw helpu myfyrwyr UG a Safon Uwch Hanes i feddwl am yr holl bethau mae angen iddyn nhw eu hystyried wrth edrych ar ffynonellau hanesyddol. Mae'n defnyddio digwyddiad diweddar (etholiad arlywyddol UDA ym mis Tachwedd 2020 a'r misoedd dilynol) ac yn ei roi yn y cyd-destun hwn. Mae ffrâm amser y ffynonellau yn llawer mwy cul na'r hyn fyddai fel arfer yn ymddangos mewn arholiad, ond mae hyn wedi cael ei wneud yn fwriadol: er mwyn edrych ar sut gwnaeth digwyddiadau newid (yn gyflym yn yr achos hwn), eu rhoi yn eu cyd-destun penodol ac ehangach, meddwl am y sawl sy'n gyfrifol amdanyn nhw, pam y cawson nhw eu creu a beth yw eu gwerth mewn perthynas â'r cwestiwn.
Arlywyddiaeth Donald J Trump... Dydd Llun, 16 Mehefin 2015 Mae Donald Trump yn lansio ei ymgeisyddiaeth ar gyfer yr Arlywyddiaeth, gan addo "gwneud America yn wych eto".
Dydd Llun, 12 Awst 2019 Mae chwythwr chwiban yn awgrymu bod Trump yn ceisio cael cymorth tramor i'w helpu i ennill etholiad 2020. Dydd Mercher, 18 Rhagfyr 2019 Mae Trump yn cael ei uchelgyhuddo, ond ar 5 Chwefror 2020 mae'n cael ei ryddfarnu gan y Senedd sy'n cael ei rheoli gan y Gweriniaethwyr. Dydd Gwener, 27 Mawrth 2020 Mae economi’r UDA yn cau i lawr wrth i bandemig COVID-19 waethygu. Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2020 Mae Trump yn cwestiynu dibynadwyedd pleidleisiau post ar gyfer etholiad mis Tachwedd 2020. Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020 Mae sianeli newyddion UDA yn honni bod Joe Biden wedi ennill yr etholiad. Yn y dyddiau a'r wythnosau dilynol mae ymgyrch Trump yn cyflwyno achosion cyfreithiol yn honni bod twyll enfawr yn y system bleidleisio. Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2020 Mae Twrnai Cyffredinol UDA, William Barr, yn dod i'r casgliad nad oedd twyll eang yn y system bleidleisio. Mae ei benderfyniad yn cael ei gefnogi gan Lys Goruchaf UDA ar 13 Rhagfyr. Dydd Sadwrn, 2 Ionawr 2021
Mae Trump yn rhoi pwysau ar Ysgrifennydd Gwladol Georgia i chwilio am bleidleisiau o blaid Trump. Mae'r Ysgrifennydd yn recordio'r sgwrs ac ei rhyddhau i'r Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2016 cyfryngau. Mae Trump yn ennill etholiad UDA ond nid y bleidlais Dydd Mercher, 6 Ionawr 2021 boblogaidd, sy’n cael ei hennill gan Hilary Clinton. Ymosodiad ar adeilad y Capitol UDA. Dydd Sadwrn, 12 Awst 2017 Dydd Mercher, 13 Ionawr 2021 Nid yw Trump yn beirniadu goruchafwyr gwyn yn dilyn trais mewn rali gwyn cenedlaetholgar a Neo-Natsïaidd. Uchelgyhuddo Trump. Dydd Gwener, 16 Chwefror 2018 Mae Robert Mueller, Cwnsler Arbennig yr Adran Gyfiawnder, yn cyflwyno ditiadau yn erbyn nifer o Rwsiaid am ymyrryd yn yr etholiad.
Dydd Mercher, 20 Ionawr 2021 Urddo Joe Biden yn Arlywydd. Dydd Sadwrn, 13 Chwefror 2021
Yn ei ail achos uchelgyhuddo, mae 57 seneddwr yn cael Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018 Trump yn euog ac mae 43 yn ei gael yn ddieuog. Gan na chafwyd rheithfarn dwy ran o dair mwyafrifol, mae Mae Trump yn awdurdodi gwahanu plant mudwyr a'u Trump yn cael ei ryddfarnu. rheini ar y ffin rhwng UDA a México.
16
Yn Hanes CBAC bydd dehongliadau bob amser yn cynnwys adroddiad am ddigwyddiad yn y gorffennol sydd wedi cael ei greu mewn amodau sy'n golygu bod modd myfyrio ar y digwyddiad hwnnw yn y gorffennol. Mewn sawl achos, bydd yr adroddiadau hyn gan haneswyr; fodd bynnag, gallan nhw fod yn gynrychioliadau hanesyddol wedi'u creu gan artistiaid neu gynhyrchwyr ffilmiau, neu destunau wedi'u hysgrifennu gan arbenigwyr, beirdd neu nofelwyr, ac ati Yn amlwg, gall dehongliadau newid. Gallan nhw newid i gyd-fynd â datblygiadau mewn cymdeithas, gallan nhw newid i gyd-fynd â darganfod tystiolaeth newydd, a gallan nhw newid pan fydd tuedd y sawl a'u lluniodd yn newid hefyd. Felly er mwyn ceisio rhoi sylw i'r broblem hon, mae angen i ni edrych ar y ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael. Yn Hanes CBAC, ffynonellau yw deunyddiau sy'n gyfoes i'r cyfnod maen nhw'n ei drafod. Gallan nhw fod yn adroddiadau gan lygad-dystion, neu gallan nhw fod yn ymatebion pobl gyffredin, artistiaid, awduron neu ddarlledwyr i ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Gallan nhw fod yn ddogfennau fel Deddfau Seneddol, posteri propaganda, neu hyd yn oed nofelau, cerddi a chaneuon a gafodd eu hysgrifennu ar adeg y digwyddiad. Mae'n bwysig deall y gall gwerth a natur ffynhonnell newid yn dibynnu ar y ffordd y bydd yn cael ei defnyddio. Er enghraifft, gall ffynhonnell fod yn adroddiad personol ar gyfer un cwestiwn, ond mae'n bosibl na fydd gan yr un ffynhonnell yr un statws ar gyfer cwestiwn arall. Mae hyn yn swnio'n fwy cymhleth nag ydyw mewn gwirionedd: er mwyn deall hyn, edrychwch ar y ffynhonnell ganlynol, sef cyfieithiad o erthygl gan Stefan Kornelius, gohebydd gwleidyddol o München, yn y papur newydd Almaeneg SüddeutscheZeitung (Ionawr 2021). Nid yw prif ddinas UDA wedi gweld golygfeydd tebyg ers i'r Prydeinwyr ymosod ar y Tŷ Gwyn yn 1814. Torf afreolus, yn cael ei hannog gan yr arlywydd ei hun, yn ymosod ar senedd y wlad gan orfodi'r gwleidyddion i ffoi – ar yr union adeg pan mae'r gwleidyddion hyn yn cyflawni gweithred olaf, ffurfiol yr etholiad arlywyddol ac yn dymuno ardystio'r canlyniad. Mae cefnogwyr chwyrn Trump yn sefyll yng nghoridorau adeilad y Gyngres ac yn torri i mewn i Siambr y Senedd, gan ei meddiannu mewn gweithred symbolaidd. Mae democratiaeth a'i chynrychiolwyr etholedig ar ffo ac yn dechrau gwisgo mygydau nwy. Os mai'r cwestiwn fyddai "Beth ddigwyddodd yn adeilad Capitol UDA ar 6 Ionawr 2021?", a yw'r ffynhonnell hon yn adroddiad gan lygad-dyst? Cafodd ei ysgrifennu ar adeg y digwyddiad ac roedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau roedd yr awdur wedi'u gweld. Ond doedd yr awdur ddim
wedi’u gweld yn uniongyrchol. Fel nifer ohonon ni, gwelodd fersiwn wedi’i hidlo o'r digwyddiadau: fersiwn a gafodd ei gyflwyno iddo mewn adroddiadau newyddion ar y teledu a'i esbonio mewn darllediadau radio neu ei argraffu mewn cyhoeddiadau eraill. A yw ei safbwynt mor werthfawr ag un newyddiadurwr a oedd “yn y fan a'r lle”? A yw mor werthfawr, neu'n fwy gwerthfawr, nag adroddiad sy'n amlwg yn dangos tuedd (er nad o reidrwydd yn annibynadwy) gan un o aelodau'r “dorf afreolus, flin” y mae'n ysgrifennu amdanyn nhw? Beth petai'r cwestiwn yn gofyn "Beth oedd safbwynt papurau newydd Ewropeaidd am yr hyn ddigwyddodd yn adeilad y Capitol UDA ar 6 Ionawr 2021?" A yw'r ffynhonnell yn dod yn fwy gwerthfawr i hanesydd sy'n astudio'r cwestiwn hwn? Wedi'r cwbl, erthygl yw hon gan sylwedydd mewn papur newydd Ewropeaidd lle mae'n amlinellu ei safbwynt am yr hyn ddigwyddodd yn adeilad y Capitol UDA ar 6 Ionawr 2021. Efallai na fydden ni'n dadlau mai dyma'r ffynhonnell bwysicaf, neu ei bod yn datgelu'r holl atebion i'r ail gwestiwn (wedi'r cwbl, mae cannoedd lawer o bapurau newydd Ewropeaidd, ac efallai fod gan bob un safbwyntiau hollol wahanol), ond mae'n dweud wrthon ni bod o leiaf un sylwedydd mewn un papur newydd Ewropeaidd wedi ystyried y digwyddiadau hynny mewn ffordd negyddol. Ac yng nghyd-destun ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o'r hyn ddigwyddodd yn UDA ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021, mae'n werthfawr i'n hymdrechion i gael gwell dealltwriaeth. Gan wybod hyn, gall myfyrwyr Hanes fod yn hyderus yn eu defnydd o ffynonellau hanesyddol: drwy ddadansoddi eu hawgrymiadau a gwerthuso eu cryfderau a chyfyngiadau. Yn rhy aml, rydyn ni'n meddwl bod ffynonellau hanesyddol yn wahanol i ddarnau eraill o dystiolaeth, ond dydyn nhw ddim: darnau o dystiolaeth ydyn nhw, ond o gyfnod amser gwahanol. Ewch ati i ddeall y cyfnod amser hwnnw, rhoi’r ffynhonnell yn ei chyd-destun, a’i defnyddio hi yn yr un ffordd ag mewn unrhyw sefyllfa arall mewn bywyd pan mae'n rhaid ystyried tystiolaeth a dod i benderfyniad. Heb os, bydd meistroli'r grefft o ddefnyddio ffynonellau hanesyddol o fudd i astudiaethau hanes myfyrwyr. Yn bwysicaf oll, bydd yn eu helpu nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am fywyd a'r byd o'u cwmpas. Dydy hi erioed wedi bod mor anodd i lunio barn wybodus am y byd oherwydd gall yr holl dystiolaeth sydd bellach ar gael ein llethu. Mae'r hyn rydyn ni'n ei ddarllen yn y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd a'r hyn rydyn ni'n ei weld ar y newyddion wedi cael ei siapio gan safbwyntiau pobl eraill. Mae angen i ni dorri drwy hynny, edrych ar y dystiolaeth a llunio ein barn wybodus ein hunain. Ac mae angen i ni fod yn barod i ailwerthuso'r safbwynt hwnnw pan fydd gennyn ni fwy o wybodaeth neu phan fydd rhywun arall yn gallu esbonio rhywbeth o safbwynt gwahanol. Yr allwedd yw bod yn ymwybodol, gwrando ac – yn bwysicaf oll – bod yn feddyliwr beirniadol.
17
Cwestiwn
ac Ateb Pam nad yw Bywydau Duon o Bwys yn CBAC Hanes? Maen nhw. Wrth gwrs eu bod nhw. Ac mae llwybrau drwy gydol TGAU ac UG/Safon Uwch hanes sy'n golygu bod modd astudio materion yn gysylltiedig â phrofiad pobl Ddu, profiad pobl Asiaidd, profiad mewnfudwyr, a phrofiad menywod a grwpiau lleiafrifol. Fodd bynnag, mae'n amlwg y gallwn ni ac y dylen ni wneud mwy i gynnwys hanes o bob math. Un ffactor sy'n cyfyngu ar newid ar unwaith yw'r ffaith bod y manylebau – i raddau helaeth – yn sefydlog nes y byddwn yn diwygio'r manylebau yn orfodol. Eto i gyd, rydyn ni'n gwneud ein gorau i ehangu apêl y pwnc a'i wneud yn fwy perthnasol i bob un o'n dysgwyr. Un ffordd allweddol o wneud hyn fydd drwy’r Asesiad Di-arholiad TAG (gweler isod). Pa bryd mae cylchred yr Asesiad Di-arholiad yn newid a beth yw'r rheolau?
Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Ar gyfer y rhifyn cyntaf hwn, byddwn yn ymateb i rai cwestiynau sy'n ymddangos yn aml yn ein cyfrifon e-bost TGAU a TAG; fodd bynnag, yn y dyfodol, os oes gennych gwestiwn yr hoffech chi ei ofyn i ni ac rydych yn credu y byddai o ddiddordeb i bobl eraill hefyd, yna anfonwch e-bost at: giraldus@cbac.co.uk dadlau yn dda ac i'r pwynt (ac yn sgorio'n well) ac mae eraill yn fyr, yn gyfyngedig a ddim yn ymgysylltu (a ddim yn sgorio'n dda). Yn yr un modd, gall ymatebion fod yn fanwl, gyda dadansoddiadau a gwerthusiadau hir neu gallan nhw fod yn ddisgrifiadol, gyda naratif hir a dim llawer o ffocws. Does dim fformat yn cael ei ffafrio – mae pobl yn ysgrifennu mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n well gan rai ddechrau â gosodiad cadarn sy'n ateb y cwestiwn yn uniongyrchol cyn mynd ymlaen i gyfiawnhau a beirniadu'r safbwynt hwnnw, mae'n well gan eraill ysgrifennu rhywbeth yn debyg i nofel ddirgelwch gan ddatgelu'r cyfan ar y diwedd. Mae'r naill ddull a'r llall yn iawn cyn belled â bod yr ymateb yn cynnwys trafodaeth ac yn ateb y cwestiwn. Yn y bôn, dylai ymatebion fod mor hir ag y mae angen iddyn nhw fod er mwyn ateb y cwestiwn (o fewn cyfyngiadau amser yr arholiad).
Mae cylchred nesaf yr Asesiad Di-arholiad yn rhedeg o ddechrau cyfnod addysgu Medi 2021 nes cyflwyno'r Asesiad Di-arholiad ym mis Mai 2024. Ar gyfer Safon Uwch, mae'r gylchred yn rhedeg o ddechrau cyfnod addysgu Medi 2022 nes cyflwyno'r Asesiad Di-arholiad yn 2025. Bydd sesiwn datblygiad proffesiynol Safon Uwch yr hydref hwn yn canolbwyntio ar yr Asesiad Di-arholiad yn barod ar gyfer rhyddhau'r teitlau awgrymedig ar gyfer y gylchred newydd. Bydd ein dull gweithredu ar gyfer y teitlau newydd hyn yn wahanol i'r cylchredau blaenorol a bydd y canllawiau cysylltiedig yn pwysleisio (ond ni all fynnu) rhoi ystyriaeth i faterion fel hanes pobl Ddu, hanes menywod, hanes LHDTC+, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddimensiynau Cymreig, Prydeinig, Ewropeaidd a’r Byd. Byddwn yn datgelu rhagor yn nes ymlaen eleni.
Pa mor bwysig yw hanesyddiaeth?
Pa mor hir ddylai'r atebion fod ac a oes fformat yn cael ei ffafrio?
Yn y pen draw, nac oes. Mae'r holl opsiynau a'r llwybrau yn arwain at yr un canlyniad – TGAU neu UG/Safon Uwch mewn Hanes. Fodd bynnag, gall yr opsiynau effeithio ar fwynhad o'r broses addysgu a dysgu, yn ogystal â chael eu heffeithio gan yr adnoddau sydd ar gael yn yr ysgolion a'r colegau.
Ymateb yr athro yn aml iawn i gwestiwn fel hyn yw "Pa mor hir yw darn o linyn?" ac mae llawer i'w gymeradwyo ynglŷn â’r ateb hwnnw. Yn y pen draw, nid yw hyd yr ymateb yn bwysig cyn belled â’i fod yn ateb y cwestiwn a osodwyd yn llawn a, lle bo'n berthnasol, yn cynnwys tystiolaeth ategol. Mae rhai ymatebion yn gryno, wedi'u 18
Cwestiwn anodd. Os ydych yn gallu dangos dealltwriaeth dda o'r hanesyddiaeth ac yn gallu gwneud defnydd da ohono, yna gall ychwanegu gwerth i'ch ymateb. Fodd bynnag, yn amlach na pheidio, nid yw'n cael ei ddeall yn dda ac mae'n cael ei gymhwyso yn wael. Ar gyfer CBAC, y cyfan sydd ei angen mewn gwirionedd yw dangos dealltwriaeth o fodolaeth safbwyntiau gwahanol a'r gallu i esbonio pam mae yna wahaniaethau: yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael i'r bobl sy'n gwneud y dehongliad a'u credoau a syniadau, os ydynt yn hysbys. A oes ots pa opsiynau/llwybrau sy'n cael eu hastudio yn TGAU ac UG/Safon Uwch hanes?
Beth mae Hanes yn ei olygu i mi:
Daniela Senés Mae Daniela Senés yn addysgwr sy'n byw yn Buenos Aires, yr Ariannin. Derbyniodd ei haddysg yng Nghymru pan oedd yn 16–18 oed ac yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei diddordeb gydol oes mewn astudio Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr ar hanes yr ugeinfed ganrif, wedi arwain gweithdai ar addysg Hanes ac mae hi'n gyn-brif arholwr yn y pwnc. Mae gan Daniela radd Meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol America Ladin ac mae hi wedi defnyddio ei harbenigedd yn y maes hwn i sefydlu ei busnes ei hun Gossip Well Told, lle mae gwesteion yn mwynhau swper tra'n archwilio mater hanesyddol. Mae cysylltiad rhwng y prydau sy'n cael eu gweini â thestun y noson, er enghraifft, ar gyfer Noson gyda Che Guevara bydd yn gweini seigiau cenedlaethol Bolifia, gan gynnwys cawl cnau mwnci – pryd olaf Che. Fy atgof cyntaf o ymddiddori mewn Hanes yw bod yn fyfyriwr ysgol gynradd yn St Catherine's Moorlands yn Buenos Aires. Fe wnes i gyfweld â fy hen fam-gu/nain ar gyfer project Hanes. Cafodd fy Nonna Virginia ei geni o dan Ymerodraeth Awstria-Hwngari mewn tref fach ger Trieste. Rydw i'n ei chofio hi yn y gegin yn siarad i mewn i'r recordydd tâp – yn ei chymysgedd o Eidaleg a Sbaeneg – am ddigwyddiadau nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Dywedodd wrtha'i am fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y dyddiau o dan Mussolini, sut roedd y teulu wedi colli popeth yn yr Ail Ryfel Byd a pham gwnaethon nhw benderfynu ymfudo i'r Ariannin. Roedd ganddi allu unigryw i ddod â Hanes yn fyw. Treuliais sawl prynhawn arall yn y gegin honno, yn gwrando ar ei hatgofion, yn ceisio deall sut roedd hanes y teulu yn gysylltiedig â digwyddiadau gwleidyddol. Ar yr un pryd, gwylais hi'n paratoi ei phrydau Eidalaidd arbennig. Cyn i mi sylweddoli, roedd Hanes wedi dod yn bwysig iawn yn fy mywyd, ac roeddwn i wedi datblygu cariad at goginio. Yn parhau ar dudalen 20 Chwith: Daniela yn cyflwyno Gossip Well Told yng Ngwesty'r Hilton, Buenos Aires
19
Pan oeddwn yn 16 oed, gadewais yr Ariannin a symud i Gymru ar ysgoloriaeth. Roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Roeddwn wedi fy nghyfareddu â'r posibilrwydd o gyfarfod pobl o genhedloedd a chefndiroedd gwahanol, yr oedd gan bob un ohonyn nhw straeon i'w hadrodd, ac fe wnes i wir fwynhau fy nghwrs Hanes. Roedd gen i athro gwych a wnaeth fy helpu i roi'r hanes teulu mewn cyd-destun academaidd a dod o hyd i atebion i lawer o'm cwestiynau. Dychwelais i'r Ariannin i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ac fe wnes i ddod yn athrawes ar ddamwain bron. Roeddwn wedi mynd i ymweld â'm hen ysgol i ddweud helo, a gofynnwyd i mi: “Hoffech chi weithio yma am ychydig oriau bob wythnos tra eich bod chi'n astudio yn y Brifysgol?” Gwnaeth yr ychydig oriau hynny droi yn ugain mlynedd a phrofiad bywyd gwerth chweil arall. Cefais y cyfle i ysbrydoli llawer o'm myfyrwyr i deimlo angerdd a phleser wrth astudio Hanes. Mae fy mlynyddoedd yn St Catherine's Moorlands yn llawn atgofion braf. Rydw i'n hynod o ddiolchgar am yr holl gyfleoedd i ddatblygu projectau newydd a chyffrous yn fy Adran Hanes. Roedd fy MA mewn Astudiaethau America Ladin wedi fy nghalluogi i ystyried y berthynas rhwng y Celfyddydau a Hanes, yn enwedig y ffordd roedd y Celfyddydau “yn adrodd stori” chwyldroadau ym México, Rwsia a Chiwba. At hyn, datblygais weithdai i annog athrawon i archwilio'r holl gyfleoedd amgen a ddaw yn sgil addysgu trawsddisgyblaethol wrth gyfuno Hanes â Llenyddiaeth, Cerddoriaeth neu'r Celfyddydau Gweledol. Rhwng 2004 a 2018, roeddwn hefyd yn Uwch arholwr Hanes ac yn arwain gweithdy ar gyfer
20
bwrdd arholi rhyngwladol ac fe gyhoeddais pum gwerslyfr. Ar ddiwedd 2018, penderfynais mai'r hyn roeddwn wir eisiau ei wneud oedd mynd yn ôl i danio’r angerdd tuag at Hanes mewn pobl eraill. Felly, rhoddais y gorau i'm swydd a sefydlu “Gossip Well Told”. Mae “Gossip Well Told” yn gwahodd cyfranogwyr i ystyried bywydau rhai o'r bobl sydd wedi siapio'r ugeinfed ganrif a hynny tra'n mwynhau pryd o fwyd tri-chwrs ar yr un pryd. Rydyn i'n ystyried sut mae llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol wedi portreadu Che Guevara, Eva Perón, Frida Kahlo, Nelson Mandela a Mikhail Gorbachev, ymhlith eraill. Mae pob pryd yn gysylltiedig â chymeriad y noson. Mae croeso i bobl y tu allan i'r Ariannin ymuno â ni yn rhithiol (drwy Zoom) a chael profiad ymarferol o baratoi rhai o'r prydau drwy ddilyn ein ryseitiau! Fy mrwdfrydedd gydol oes tuag at Hanes yw un o'r anrhegion mwyaf gwerthfawr a gefais gan fy hen fam-gu/nain. O ganlyniad, rydw i wedi mwynhau pob cam o'm gyrfa: addysgu, ymchwilio, ysgrifennu ac – yn fwy diweddar – datblygu ffordd newydd a gwreiddiol o barhau i danio'r angerdd hwnnw mewn pobl eraill.
Os hoffech wybod mwy am Gossip Well Told, gallwch gysylltu â Daniela yn: Daniela@historyafferoffice.com Isod: Y cogydd Silvina Blanco a Daniela yn paratoi ar gyfer Noson gyda Frida Kahlo. Cydnabyddiaeth: Daniela Senés
NEWYDDION A
DIWEDDARIADAU TGAU Cylchred newydd yr Asesiad Di-arholiad Bydd cylchred newydd yr Asesiad Di-arholiad yn rhedeg rhwng 2022 a 2024. Hynny yw, bydd y cyflwyniad cyntaf ym mis Mai 2022, ond bydd yn cael ei gwblhau yn y flwyddyn academaidd 2021–2022. Addasiadau yn 2021–2022 Diolch i'r rheini ohonoch a roddodd adborth ar yr addasiadau arfaethedig. Mae'r addasiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon bellach wedi'u cadarnhau. Bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau'r Asesiad Di-arholiad a sefyll dwy uned o'u dewis sy'n cael eu harholi: naill ai Uned 1 ac Uned 2, neu Uned 1 ac Uned 3, neu Uned 2 ac Uned 3. Mae manylion llawn ar gael ar wefan CBAC. Sesiynau datblygiad proffesiynol Bydd sesiynau datblygiad proffesiynol yn cael eu cynnal ar-lein eto yr hydref hwn. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar ddulliau o addysgu a dysgu TGAU Hanes a byddan nhw'n cefnogi athrawon sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer yr arholiadau y flwyddyn nesaf. Mae'n debygol y bydd y digwyddiadau hyn, yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn cael eu cynnal rhwng dechrau a diwedd mis Tachwedd; fodd bynnag, cadwch lygad ar y wefan am yr union ddyddiadau ac amseroedd.
UG/Safon Uwch Cylchred newydd yr Asesiad Di-arholiad Bydd cylchred newydd yr Asesiad Di-arholiad yn rhedeg rhwng 2023 a 2025. Hynny yw, cyflwyniad cyntaf ym mis Mai 2023, ond cwblhau yn y flwyddyn academaidd 2022–2023. Byddwn yn derbyn teitlau newydd ar gyfer y gylchred newydd o fis Ionawr 2022.
Bydd y gylchred newydd yn defnyddio adnoddau a deunyddiau wedi’u diweddaru (hollol newydd) yn ogystal â dogfennau ategol sy'n amlinellu'r broses ar gyfer y gylchred newydd. Bydd sesiynau Datblygiad Proffesiynol eleni yn canolbwyntio ar yr Asesiad Diarholiad ac mae rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ar ein cynlluniau ar gyfer yr Asesiad Di-arholiad ar gael yn y adran Cwestiwn ac Ateb ar dudalen 18. At hyn, os nad ydych wedi'i weld, edrychwch ar y cyflwyniad fideo y gwnaethon ni ei gynhyrchu fel canllaw i athrawon ar gyfer yr Asesiad Di-arholiad. Mae’r fideo ar gael ar y wefan, ewch i: TAG Hanes > Hyfforddiant > Gweminarau. Addasiadau yn 2021–2022 Diolch i'r rheini ohonoch a roddodd adborth ar yr addasiadau arfaethedig. Mae'r addasiadau hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon bellach wedi'u cadarnhau ac mae manylion llawn ar gael yn llyfryn Addasiadau TAG CBAC. Fodd bynnag, dyma grynodeb: Uned 1 – ar gyfer pob opsiwn, tynnwyd un o'r cysyniadau a safbwyntiau ar gyfer arholiad 2022; Uned 3 – ar gyfer pob opsiwn bydd amrywiaeth o gwestiynau yn canolbwyntio ar thema eang un a thema eang dau (yn unol â’r hyn a gafodd ei gynnig ar gyfer arholiad 2021 petai hwnnw wedi cael ei gynnal). Does dim newidiadau i Unedau 2, 4 a 5. Sesiynau datblygiad proffesiynol Ymddiheuriadau mawr na chynhaliwyd unrhyw sesiynau datblygiad proffesiynol TAG Hanes yn 2020–2021. Roedden nhw wedi'u trefnu ar gyfer diwedd yr hydref ac roedden nhw wedi cael eu datblygu i ymdrin â'r addasiadau ar gyfer Uned 3 a luniwyd ar gyfer cyfres arholiadau 2021. Ac yna... Beth bynnag, byddwn yn cynnal sesiynau ar-lein yn ddiweddarach eleni (ar ddechrau mis Rhagfyr mwy na thebyg), felly cadwch lygad am yr union ddyddiadau ac amseroedd. Fel y nodwyd uchod, bydd Datblygiad Proffesiynol yn canolbwyntio ar yr Asesiad Di-arholiad, ond bydd meysydd eraill yn gysylltiedig â chyfres arholiadau 2022 yn cael sylw hefyd.
21
Cysylltiad
Kossuth Hwngari, Cymru a thwf ymwybyddiaeth genedlaethol
Eunice Price Mae Eunice yn gyn-athrawes Hanes ac mae hi wedi dysgu ar draws y byd, gan gynnwys yn Efrog Newydd, Hong Kong, Oman a'r Eidal – yn ogystal â gweithio am flwyddyn mewn siop llyfrau prin yn Los Angeles. Mae hi bellach wedi ymddeol fel athrawes, ond mae hi'n parhau i weithio fel awdur ac arholwr o'i chartref yng ngorllewin Cymru. Mae'r erthygl yn cysylltu â: TAG 1.3: Gwleidyddiaeth, protest a diwygio yng Nghymru a Lloegr, tua 1780–1880 1.7 Chwyldro a syniadau newydd yn Ewrop, tua 1780–1881 3.6 Diwygio’r Senedd a phrotest yng Nghymru a Lloegr, tua 1780–1885 I'r dde: Pan deithiodd Kossuth ar hyd Broadway "Louis Kossuth, y gwladgarwr mawr o Hwngari, yn cael derbyniad gwresog gan 100,000 o Americaniaid ar ôl cyrraedd Efrog Newydd ar 6 Rhagfyr, 1851." Roedd yr ymweliad yn rhan o'i daith i UDA a Phrydain yn 1851 lle'r oedd "Mania Kossuth" wedi gafael. Cydnabyddiaeth: Casgliadau Digidol Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd 22
23
Deffroadau Cenedlaethol Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o ddeffroad cenedlaethol. Roedd ideoleg y Chwyldro Ffrengig, a'i bwyslais ar hawliau a dyletswyddau'r dinesydd, wedi lledaenu ar draws Ewrop ar ôl i fyddin Napoleon godi ymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol gan ei chysylltu ag iaith, diwylliant a hanes. Roedd chwyldroadau economaidd a chymdeithasol fel diwydianeiddio a threfoli wedi rhyddhau pobl o fywyd a oedd yn cael ei ddiffinio gan y pentref, yr ystad a thalu gwrogaeth i dirfeddianwyr. I'r bobl hynny a symudodd o'r wlad i'r trefi a'r ffatrïoedd newydd, roedd bywyd wedi ei drawsnewid. Roedd rheilffyrdd newydd nid yn unig yn cludo nwyddau ond syniadau a wreiddiodd wrth i lefelau llythrennedd godi. Daeth y dosbarth canol a'r gweithwyr hefyd i weld gwleidyddiaeth fel ffordd o wella bywyd, gan fynnu'r hawl i bleidleisio a chynrychiolaeth. Yng Nghymru, daeth gwleidyddiaeth yn fater i ddynion cyffredin (a menywod mae'n siŵr), yn hytrach nag i'r bobl gyfoethog a'r pwerus yn unig, a law yn llaw â hyn tyfodd ymwybyddiaeth wleidyddol a chenedlaethol. Lajos (Louis) Kossuth Ar draws Ewrop yn 1848 gwelwyd ffrwydrad o ofynion a chwyldroadau gwleidyddol a ledaenodd fel tân gwyllt o Ffrainc i Brwsia, i'r Eidal, Awstria a Hwngari lle galwodd Lajos Kossuth, uchelwr tlawd Hwngaraidd am fwy o ymreolaeth o fewn Ymerodraeth Awstria. Ganwyd Kossuth yn 1802 a chafodd ei fagu yn Lutheraid (byddai hyn yn bwysig yn ddiweddarach o ran y cysylltiad Cymreig), gan fynychu coleg Calfinaidd cyn astudio i ddod yn gyfreithiwr. Dechreuodd gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth Hwngari yn 1825 pan adroddodd ar gyfarfodydd Diet Cenedlaethol Hwngari, yr agosaf a ddaeth Hwngari i gael ei senedd ei hun o dan reolaeth Awstria. Cyfrannodd aneffeithlonrwydd yr Ymerodraeth Hapsbwrgaidd enfawr yn sylweddol iawn at dwf cenedlaetholdeb Hwngaraidd a llenwodd Kossuth ei adroddiadau ag anfodlonrwydd gwleidyddion
Hwngaraidd a gafodd eu cadw allan o ganolfan yr ymerodraeth yn Fiena, gan olygu nad oedden nhw’n gallu cyflwyno unrhyw ddiwygiadau economaidd a gwleidyddol yr oedd gwir eu hangen. Cafodd adroddiadau Kossuth eu sensro gan y swyddogion Hapsbwrgaidd ac fe'i anfonwyd i'r carchar. Ar ôl iddo gael ei ryddhau yn 1840, parhaodd i alw am lywodraeth ar wahân i Hwngari ac yn 1848 rhoddodd areithiau o blaid dileu taeogaeth ac ennill annibyniaeth o Fiena gan roi hwb i'r chwyldro yn Hwngari. Roedd yr Hwngariaid (y Magyar) yn un o blith sawl grwp ethnig o fewn ffiniau Hwngari. Wrth i'r chwyldro fynd rhagddo, roedd y Croatiaid, y Serbiaid a'r Romaniaid yn ofni y byddai'r Hwngariaid yn drech na nhw ac arweniodd y diffyg undod hwn at wanhau'r ymgyrch dros annibyniaeth. Ymladdodd yr Hapsbwrgiaid yn ôl a, gyda chymorth Rwsia, daethon nhw â'r chwyldro i ben. Ar ôl cael ei drechu, fe wnaeth Kossuth ffoi i Dwrci a theithiodd oddi yno i Loegr. Er na wnaeth y llywodraeth ei gefnogi, roedd Kossuth yn boblogaidd iawn ymhlith y dosbarthiadau gweithiol oherwydd ei ideoleg ryddfrydol. Wrth ymweld â dinasoedd fel Birmingham, cafodd ei groesawu gan dyrfaoedd a oedd wedi heidio yno i'w weld a'i glywed. Y Cysylltiad Cymreig Roedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o ddeffroad cenedlaethol yng Nghymru hefyd. Roedd symud o economi wledig, hunangynhaliol i un ddiwydiannol, flaengar ynghyd â thwf trefol wedi dod â newid anferth a gwrthryfeloedd Terfysgoedd Beca a'r Siartwyr. Erbyn 1846, roedd sylw mawr wedi cael ei roi i addysg yng Nghymru ac roedd y Senedd wedi dod i'r casgliad y gallai addysg wladol, drwy gyfrwng y Saesneg, nid yn unig wareiddio'r Cymry ond eu gwneud yn llai gwrthryfelgar. Cyhoeddodd Comisiynwyr yr Ymchwilad i gyflwr addysg yng Nghymru eu hadroddiad damniol yn 1848 ac mae'r digwyddiad hwn yn dal i atseinio yn hanes Cymru fel Brad y Llyfrau Gleision . Rhan ganolog o ganfyddiadau'r Comisiynwyr oedd eu beirniadaeth o'r iaith Gymraeg a oedd yn atal plant
1802 Geni Lajos Kossuth
1837 Carcharu Kossuth (tan 1840) 1821 Rhyfel Annibyniaeth Groeg
1800 24
1810
1820
1830
1840
Cymru rhag dod ymlaen yn y byd (t.138). Gwnaeth y Comisiynwyr Anglicanaidd hefyd feio Anghydffurfiaeth am gyflwr moesol gwael y wlad. (GO Pierce yn Roderick, 1969). Nid yn annisgwyl, cafwyd ymateb chwyrn gan ddeallusion Cymraeg eu hiaith, a oedd yn gapelwyr. Y cyfan a wnaeth beirniadaeth o'r fath oedd pwysleisio'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr a chafodd teimlad cynyddol o gasineb yn erbyn llywodraeth Loegr ei hybu gan gyfeiriadau yn y wasg Seisnig at y Cymry fel “pobl ag arferion tebyg i anifeiliaid” (Williams t. 274), a siaradai iaith a oedd yn “anachroniaeth” ac a oedd yn meddu ar lenyddiaeth “anwaraidd”. Nid yw'n syndod felly bod rhai pobl yn cydymdeimlo â chwyldroadwyr a oedd yn gwrthryfela yn erbyn llywodraethau gormesol. Roedd y chwyldroadau a oedd yn digwydd yn Ewrop yn 1848 yn awr yn bwydo ymdeimlad newydd o genedlaetholdeb. Yn ôl yr hanesydd, David Williams, daeth y Cymry yn gyfarwydd ag ideolegau cenedlaethol chwyldroadau Hwngari a'r Eidal drwy Gwilym Hiraethog (enw barddol William Rees o Ddinbych). “Gwnaeth Kossuth a Garibaldi yn arwyr i'r Cymry”. (t. 274). Gan edrych i gyfeiriad Ewrop, ysgrifennodd Gwilym Hiraethog lythyrau at Mazzini yn yr Eidal ac at Kossuth, gan ei ganmol am godi llais yn erbyn Ymerodraeth Awstria. Ymhell cyn i Kossuth ddod i Loegr, byddai Gwilym Hiraethog, golygydd papur newydd wythnosol Anghydffurfiol y Methodistaid Calfinaidd, Yr Amserau yn cyhoeddi erthyglau ac yn rhoi darlithoedd cyhoeddus yn rheolaidd o blaid y frwydr dros annibyniaeth yn Hwngari. Pan ddaeth Ferenc Pulszky, cyfaill agos i Kossuth, i Loegr yn 1849, clywodd am gefnogaeth frwd y Cymry a oedd hefyd wedi cyfrannu yr hyn roedden nhw'n gallu ei fforddio er mwyn rhoi cymorth i ffoaduriaid Hwngaraidd. Daeth dirprwyaeth o Hwngariaid diolchgar i ymweld â Gwilym Hiraethog i ddiolch iddo'n bersonol am ei gefnogaeth.
Beirdd Cymru Cafodd cysylltiad arall ei greu rhwng Cymru a Hwngari yn 1853 pan ofynnwyd i Janos Arany, bardd adnabyddus o Hwngari, i ysgrifennu cerdd yn coffáu
ymweliad cyntaf yr Ymerawdwr Franz Josef â Hwngari. Yn hytrach na chyfansoddi cân o fawl i'r Ymerawdr Hapsbwrgaidd, ysgrifennodd Arany A Walesi Bárdok (Beirdd Cymru), cerdd a oedd yn canu clodydd y 500 o feirdd a gafodd eu dienyddio gan Edward I am beidio â’i ganmol yn ystod gwledd yng Nghastell Trefaldwyn. Yn ei ragair i'r gerdd, roedd Arany yn cydnabod nad oedd yr holl ddigwyddiadau yn ei stori am Edward I a'r beirdd yn wir, eto i gyd, mynnodd eu bod wedi cael eu lladd “i'w hatal (y beirdd) rhag creu cynnwrf yn y wlad a dinistrio rheolaeth Loegr drwy adrodd am hanes anrhydeddus eu cenedl.” (Western Mail). Roedd Arany, un o bencampwyr yr ymgyrch dros annibyniaeth yn Hwngari, wedi cymryd rhan yn y chwyldro. Er nad yw'n amlwg a oedd yn gwybod am y gefnogaeth a roddwyd i'r achos gan bobl Cymru, roedd yn amlwg yn gwybod am goncwest Edward o Gymru. Yn ôl un ffynhonnell, “Roedd y syniad bod y beirdd wedi gwrthod y Brenin Edward yn rhan o ddiwylliant Rhamantaidd Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn ffaith hysbys hyd yn oed yn Ewrop…”. Mae ffynhonnell arall yn honni bod Arany wedi darllen am y digwyddiad hwn yn ôl pob tebyg yng nghyfrol Charles Dickens, A Child’s History of England, gan fod copi o’r llyfr wedi’i ddarganfod yn llyfrgell Arany ar ôl ei farwolaeth. Defnyddiodd Arany y digwyddiad hwn yn hanes Cymru fel trosiad i feirniadu rheolaeth Hapsbwrg yn Hwngari. Yn 1867, cafodd Hwngari ymreolaeth pan sefydlwyd y Frenhiniaeth Ddeuol, ond daeth y gerdd yn rhan o hanes annibyniaeth Hwngari a chafodd ei dysgu i bob plentyn ysgol drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Yn 2012, cafodd y gerdd ei gosod i gerddoriaeth gan Karl Jenkins a'i pherfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan adfywio cysylltiad nodedig rhwng hanes y ddwy genedl.
1847 Adroddiadau comisiynwyr yr ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru 1848 Blwyddyn y Chwyldroadau
1850
1857 Cyhoeddi A Walesi Bárdok
1860
1867– Brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari
1870
Cydnabyddiaeth Roderick, AJ, (gol). 1960. Wales Through The Ages, Volume 2 Llandybie. Christopher Davies Jones, IG. 1992. Mid-Victorian Wales: The Observers and the Observed. Cardiff. UWP Williams, D. 1980. A History of Modern Wales Henry Jones, M. 1968."Wales and Hungary" Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Charles-Edwards TM ac Evans EJW (goln). 2010. Wales and the Wider World: Welsh History in an International Context. Donington. Paul Watkins Williams, K, 21 Hydref 2017. "The murderous Welsh legend being celebrated in a spectacular light show on Cardiff's central church". Western Mail
25
Patrymau mudo Bae Caerdydd
Rob Quinn Mae Rob yn Bennaeth Hanes a Gwleidyddiaeth mewn ysgol yn Wrecsam. Mae wedi gweithio fel arholwr ac mae'n awdur nifer o werslyfrau TGAU Hanes, canllawiau adolygu ac erthyglau mewn cylchgronau. Mae'r erthygl yn cysylltu â: TGAU Uned 3Ch. Newidiadau ym Mhatrymau Mudo, tua 1500 hyd heddiw Datblygiad Butetown Hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y rhan fwyaf o fewnfudwyr Caerdydd yn byw yn ardal Butetown i'r de o ganol y ddinas yn yr ardal sydd heddiw'n cael ei galw'n Fae Caerdydd. Prif nodwedd yr ardal hon oedd y dociau a gafodd eu datblygu gan ail Ardalydd Bute i allforio glo De Cymru i weddill y byd. Yn sgil agor Camlas Morgannwg yn 1794 cafodd Caerdydd ei chysylltu â Merthyr Tudful ac roedd basn camlas ym Mae Caerdydd erbyn 1798. Yn 1839 adeiladwyd y dociau ar ddiwedd y gamlas hon gan lafurwyr a oedd wedi mewnfudo o Iwerddon, ac roedd yr ardal wedi'i chysylltu â chymoedd De Cymru gan Reilffordd Dyffryn Taf, a agorodd yn 1841. Effaith masnachu ar y môr Daeth morwyr masnachol i'r dociau ar longau o bob rhan o'r byd. Doedd llawer o'r morwyr ddim yn aros yn hir yn Butetown gan eu bod nhw yno am y cyfnod byr
26
rhwng dadlwytho eu llongau ac yna llwytho'r cargo newydd. Fodd bynnag, doedd gweithio ar longau ddim yn waith dibynadwy a byddai llawer o longwyr masnachol yn cael eu gadael ar ôl mewn porthladdoedd ar draws y byd os nad oedd angen eu gwasanaethau mwyach. O ganlyniad ymsefydlodd llawer o fewnfudwyr yn Butetown. Gwnaethon nhw adeiladu cymuned gyda'i gilydd, agor busnesau lleol a rhyngbriodi. Roedd Butetown yn anghyffredin iawn o safbwynt y graddau y gwnaeth dynion a menywod o grwpiau gwahanol o fewnfudwyr gael teuluoedd gyda'i gilydd. Cyn hyn, roedd Butetown yn gartref i lawer o berchnogion tai cyfoethog a oedd yn berchen ar fusnesau yn gysylltiedig â masnachu a chludo glo. Wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen, roedden nhw wedi symud i faestrefi mwy gwyrdd Caerdydd. Daeth y tai mawr y gwnaethon nhw eu gadael, yn enwedig o amgylch Sgwâr Loudoun, yn fwy a mwy gorlawn wrth i'w perchnogion eu rhannu yn fflatiau neu dechreuodd teuluoedd groesawu lletywyr i'w helpu i dalu'r rhent. Yn ôl yr hanes lleol, cafodd yr ardal ei galw'n 'Tiger Bay' ar ôl menyw a oedd yn arfer cerdded o amgylch gyda dau deigr. Mae pobl eraill yn dweud mai morwyr o Bortiwgal wnaeth ddisgrifio’r amodau ym Mae Caerdydd fel hwylio drwy fae o deigrod. Mae eraill wedi dadlau mai dyma'r enw roedd morwyr yn ei roi i unrhyw dref porthladd lle gallen nhw ddod o hyd i gamblo, puteindra ac ymladd. Mae enwau'r 97 tafarn yn yr ardal yn awgrymu bod Butetown wedi gweld cyfran deg o drais a throsedd: House of Blazes, Bucket of Blood, Snakepit i enwi dim ond rhai. Gwnaeth hyd yn oed y ffilm 1959 “Tiger Bay”, a gafodd ei ffilmio yn bennaf ar leoliad yn Butetown, adeiladu ei stori o amgylch enw drwg yr ardal am drosedd. Roedd yr enw drwg hwn yn rhan o'r stereoteipio negyddol o fewnfudwyr a
Cydnabyddiaeth: Neil Evans ddechreuodd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Amlddiwylliannaeth yn cynyddu Erbyn yr ugeinfed ganrif, roedd pobl o bob rhan o'r byd wedi ymuno â mewnfudwyr o Somalia, Yemen, Sbaen, Norwy, yr Eidal, y Caribî ac Iwerddon. Dangosodd cyfrifiad 1911 fod pobl o dros 50 o genhedloedd gwahanol yn byw yn yr ardal . Erbyn yr adeg hwn, roedd Caerdydd yn ail i Lundain yn unig yn nhermau'r crynodiad o bobl ddu ac Asiaidd yn y DU. Fodd bynnag, ni wnaeth hyn atal y gymuned Tsieineaidd rhag ddioddef ymosodiad yn y “Terfysgoedd Golchdai” 1911 pan wnaethon nhw weithio yn ystod streic gweithwyr y dociau. Roedd y dociau eu hunain ar eu hanterth yn y blynyddoedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1910, hwyliodd Alldaith dynghedus Capten ScottTerra Nova o’r dociau i gyfeiriad yr Antarctig a'r hyn roedden nhw'n ei obeithio fyddai'r anrhydedd o fod y dynion cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Y flwyddyn gynt cafodd y siec gyntaf yn y byd am filiwn o bunnau ei hysgrifennu yn y Gyfnewidfa Lo yn Butetown, gan ddangos y cyfoeth anferth a oedd yn llifo drwy'r ardal – hyd yn oed os na chafodd llawer ohono ei wario yno. Roedd rhuthr i hurio morwyr a oedd yn fewnfudwyr ar gyfer y llynges fasnachol pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Collodd cannoedd o forwyr o gymunedau mewnfudwyr Butetown eu bywydau yn y rhyfel ond ar ôl i'r rhyfel orffen gwnaethon nhw wynebu trais ar ôl dychwelyd adref. Pan adawodd milwyr gwyn y fyddin yn 1919 i ddarganfod nad oedd swyddi ar gael, ymosododd llawer ohonyn nhw ar y morwyr du yn Butetown. Yn ystod y terfysgoedd a ddilynodd hyn lladdwyd tri o bobl. Roedd yr heddlu yn beio'r dorf afreolus o bobl wyn ond ymatebodd yr awdurdodau
drwy allgludo 600 o forwyr du i India'r Gorllewin. Roedd Gorchymyn Cyfyngiad Arbennig (Morwyr Lliw Estron) 1925 yn ei gwneud yn fwy anodd i fewnfudwyr Butetown gael gwaith gan eu bod yn cael eu hystyried yn ‘estroniaid’ (h.y. tramorwyr). Dirywiodd yr ardal yn gyflym yn ystod Dirwasgiad yr 1930au wrth i allforion glo ostwng o 9 miliwn tunnell y flwyddyn ar eu brig i lai na 5 miliwn, a daeth olew yn brif ffynhonnell tanwydd ar draws y byd. O ganlyniad roedd llai a llai o longau yn dod i'r dociau. Cafodd y dirywiad hwn ei wrthdroi am gyfnod gan yr Ail Ryfel Byd pan aeth trigolion Butetown i'r môr unwaith eto fel rhan o'r llongau gwarchod ar draws yr Iwerydd, a chafodd y dociau a'r ardal gyfagos eu bomio'n drwm. Bywyd amlddiwylliannol yn Butetown yng nghanol yr ugeinfed ganrif Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ymsefydlodd 2,000 o Somaliaid a'u teuluoedd yn Tiger Bay... Fel trigolion eraill Caerdydd, yn eu hamser hamdden roedden nhw'n hoff o yfed llaeth poeth a chwarae cardiau yn llety Ben Ali wrth ymyl y dociau. Roedd rhai ohonyn nhw'n mynd i'r mosg ar Stryd Sophia hefyd ... Byddai'r pobl o Ynysoedd y Caribï yn cymdeithasu yng Nghaffi'r Caribï yn 185a Ffordd Bute ac roedden nhw wedi sefydlu tîm lleol ar gyfer eu holl gamp, criced. Bydden nhw'n addoli yn Eglwys Genhadol Sgwâr Loudon ... Wrth gerdded ar hyd Ffordd Bute yn yr 1940au, byddech wedi mynd heibio Caffi'r Oriental a Chaffi Chop Suey ar Bute Road lle byddai pobl Tsieineaidd yn cymdeithasu, ac erbyn yr 1950au roedd golchdy Tsieineaidd ar bron iawn pob prif stryd yng Nghaerdydd. (o "Cardiff Migration Stories")
27
Butetown ers yr Ail Ryfel Byd Rhoddwyd y gorau i allforio glo o ddociau Butetown yn 1964, ac roedd diweithdra yn uchel yn yr ardal yn ystod y degawd hwnnw. At hyn, roedd cyflwr y tai a oedd yn dyddio'n bennaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedi'u hadeiladu heb wasanaethau glanweithdra, yn dirywio fwyfwy. Roedd twbercwlosis a chlefydau eraill yn gysylltiedig â thlodi yn gyffredin iawn. Symudodd datblygwyr i mewn a chafodd yr hen adeiladau eu tynnu i lawr. Cafodd 45 stryd eu dymchwel. Roedd y stad cyngor a'r tyrau o fflatiau a godwyd yn lle'r tai Fictoraidd o ansawdd gwael iawn mewn cymhariaeth. Cafodd y preswylwyr eu gwasgaru i rannau eraill o Gaerdydd ac ni waethon nhw fyth dychwelyd. Roedd yr adeiladau a'r gymuned wedi mynd, rhywbeth roedd rhai pobl yn credu a oedd yn weithred ddinistriol fwriadol, gan ddadlau y gellid bod wedi codi adeiladau newydd yn raddol, a buddsoddi mwy er mwyn cefnogi cymunedau. Yn hytrach cafodd y gymuned ei chwalu a chafodd bron pob arwydd ohoni ei dinistrio. Cymeriadau adnabyddus a anwyd yn Tiger Bay Roedd rhieni Billy Boston yn dod o'r Caribï ac Iwerddon; daeth yn seren Rygbi'r Gynghrair gyda Wigan gan sgorio 571 cais mewn 564 gêm Roedd rhieni'r bocswr Joe Erskine yn dod o Orllewin y Caribï a Chaerdydd; daeth yn Bencampwr bocsio'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1956 Roedd rhieni Shirley Bassey yn dod o Nigeria a Lloegr; daeth yn gantores fyd-enwog sy'n fwyaf adnabyddus am ganu caneuon ffilmiau James Bond. Yn ystod yr 1990au ymsefydlodd tonnau newydd o fewnfudwyr – ffoaduriaid a oedd yn ffoi o'r ymladd yng ngwledydd y Balcan a'r Dwyrain Canol gan ddod ag elfennau newydd o amrywiaeth i'r ardal. Ar ddiwedd y degawd hwn, ar ôl i’r morglawdd ar draws y bae gael ei gwblhau, cafodd yr ardal ei hailfrandio a'i galw'n Fae Caerdydd. Mae bellach yn gartref i ddatblygiad hamdden Cei’r Fôr-forwyn, Canolfan y Mileniwm a Senedd Cymru. Adeiladwyd stiwdios drama’r BBC yn Porth y Rhath yn yr ardal sy'n cael ei galw'n Porth Teigr heddiw. Ond y cyfeiriad hwn at yr enw Tiger Bay yw un o’r ychydig gysylltiadau â threftadaeth amlddiwylliannol gyfoethog yr ardal. Yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif, cafodd llawer o hanes Butetown ei ddileu gan ddatblygiadau newydd, ac mae ardaloedd yn natblygiad modern Bae Caerdydd wedi'u henwi ar ôl Ardalydd Bute a Roald Dahl, a gafodd ei eni i rieni o Norwy gan dreulio ei flynyddoedd cynnar yn Llandaf, yn hytrach na'r mewnfudwyr a ymgartrefodd yn yr ardal.
28
Cydnabyddiaeth: Neil Evans Cydnabyddiaeth "Cardiff Migration Stories" Runnymede Perspectives Series, 2012 Evans, R. 2007. Immigrants in Wales during the 20th Century. Aberystwyth. CAA Cymru
Safbwynt yr ystafell ddosbarth
Mae Bywydau Duon o Bwys Elin Jones Gareth Jones Bethan Williams
Cydnabyddiaeth: Pixabay
Adran Hanes Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin 29
Ym mis Tachwedd 2019 cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd ei adroddiad ar Addysgu Hanes Cymru. Gwnaeth sawl argymhelliad, a chafodd dau o'r rhain yn benodol eu croesawu gan adran hanes Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin; y rhain oedd: Argymhelliad 3 Dylai Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys amrywiaeth fel elfen graidd. Mae perygl na fydd yr hyblygrwydd arfaethedig i ysgolion ac athrawon yn sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gwybod stori ein cymunedau ethnig a chrefyddol amrywiol. Argymhelliad 4 Er mwyn sicrhau bod hanes yn cynrychioli holl gymunedau Cymru a'u cysylltiadau rhyngwladol, dylai adolygiad thematig Estyn o drefniadau addysgu hanes, a argymhellir yn yr adroddiad hwn, asesu sut y caiff amrywiaeth ei addysgu ar hyn o bryd mewn ysgolion Fel ysgol cyfrwng Cymraeg, mae hanes a diwylliant Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn ein haddysgu bob amser, yn ogystal ag mewn sawl agwedd arall ar fywyd yr ysgol. Mae'r dimensiwn Cymreig wedi bod yn hollbwysig bob amser felly, ac mae addysgu hanes lleol yn ogystal â thestunau yn ymwneud â Chymru fel cenedl o Gyfnod Allweddol 3 ymlaen wedi bod yn ganolog i gwricwlwm ein hadran. Eto i gyd, roedd canfyddiadau'r adroddiad hwn yn 2019 yn adleisio pryderon adroddiad gan Dr Elin Jones a gyhoeddwyd yn 2013, a oedd yn dadlau bod Hanes Cymru yn cael ei ymyleiddio mewn rhai ysgolion, ynghyd â diffyg adnoddau dwyieithog. Roedd adroddiad 2019, fodd bynnag, yn cynnig mater ychwanegol i'w ystyried: mater a fyddai'n dod i'r amlwg yn dilyn ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter), a gyrhaeddodd ei anterth yn ystod yr haf 2020. Y mater sy'n ein hwynebu ni fel ymarferwyr Hanes yw sut gallwn ni wneud cyfiawnder â stori gyfoethog ac amrywiol Cymru, gan gynnig gwerthfawrogiad unigryw hefyd o'r rôl mae cymunedau ethnig a chrefyddol wedi'i chwarae wrth siapio stori Cymru. Os oedden ni'n cael trafferth cael adnoddau ar gyfer hanes Cymru "traddodiadol" yna siawns y bydden ni'n cael trafferth dod o hyd i adnoddau i sicrhau bod yr hanes rydyn ni'n ei addysgu yn cynrychioli holl gymunedau Cymru. Mae athrawon Hanes yn bobl ddiwyd, sy'n dilyn yr ymchwil diweddaraf. Fodd bynnag, un rhwystr – mewn rhai testunau – ar gyfer canolfannau cyfrwng Cymraeg yw'r angen i gyfieithu'r ymchwil diweddaraf. O ganlyniad, cawson ni sawl sgwrs gonest ac agored am yr hyn rydyn ni'n ei addysgu ar hyn o bryd, gan edrych yn feirniadol ar yr adnoddau y mae angen eu haddasu i sicrhau bod ein ‘hanes’ yn gwneud cyfiawnder â natur amrywiol Cymru a chyfraniad cymunedau ethnig a
30
chrefyddol amrywiol. Yn Ysgol Bro Myrddin mae gennyn ni ddyletswydd yn sicr i ddatblygu'r agwedd hon ar ein haddysgu: 0.1% yn unig o'n disgyblion sy'n disgrifio eu hunain fel pobl o gefndir lleiafrifol ethnig, ac yn Sir Gaerfyrddin ei hun 4% yn unig sy'n ystyried eu hunain yn Ddu, Asiaidd neu o grŵp lleiafrifol ethnig arall, canran sydd ychydig yn is na'r ffigur cenedlaethol o 5.2% (Ystadegau Cymru). Er mai Cymru sydd ag un o'r cyfrannau isaf o bobl o gefndir Affricanaidd neu Garibïaidd yn y Deyrnas Unedig, mae pryder o hyd y bydd peidio â chynnwys yr elfennau hyn o natur amrywiol Cymru yn golygu na fydd yr elfennau hynny yn cael eu gweld na'u trafod, ac y byddan nhw'n cael eu hymyleiddio fwyfwy. Fel y dywedodd y Cynghorydd lleol o Sir Gaerfyrddin (bellach yn aelod o'r Senedd) Cefin Campbell – gan ddyfynnu Elie Wisel, enillydd Gwobr Heddwch Nobel a goroeswr yr Holocost – mewn dadl ddiweddar ar y mater “Gweithredu yw'r unig ateb i ddifaterwch” (South Wales Guardian). Cafodd hyn ei adleisio hefyd mewn neges gan Nation Cymru: "Hyd yn oed o fewn ein dealltwriaeth bresennol o Hanes Cymru, mae hanes pobl ddu, a hanes pobl groenliw yn anweledig i raddau helaeth. Ond mae cyfle gennyn ni i newid hyn i gyd". O gofio hyn, mae'r adran hanes wedi cynnal adolygiad manwl o'r hyn rydyn ni'n ei addysgu ar hyn o bryd ac mae'n amlwg bod cyfle i ymroi mwy o amser a lle i drafod materion sydd wedi dod i sylw pobl ers llofruddiaeth George Floyd y llynedd. Cafodd uned gyfan ar Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) ei datblygu yn ystod y cyfnod clo gyda phwyslais penodol ar hunaniaeth a hiliaeth sefydliadol yn ogystal â chydnabod ein tuedd ddiarwybod ein hunain. Roedd cydnabod y ffaith nad oedd llawer o'r hyn roedden ni wedi'i ddysgu yn y gorffennol fel hanes lleol a hanes Cymru wedi cynnwys rôl lleiafrifoedd du ac ethnig sydd hefyd wedi siapio ein cymunedau yn gam pwysig i sicrhau bod y straeon hyn nad ydyn nhw wedi cael eu hadrodd yng Nghymru yn aros yn straeon felly. Mae hi'n broses barhaus ond rydyn ni wedi ymrwymo iddi, gan weithio gyda phartneriaid eraill ar draws ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r adran eisoes wedi cwestiynu'r cysylltiadau rhwng Caerfyrddin a'i gorffennol trefedigaethol, yn benodol y perchennog caethweision Thomas Picton. Ar ôl i'r cerflun o Edward Colston, y masnachwr caethweision o'r ail ganrif ar bymtheg, gael ei dynnu ym Mryste yn ystod yr haf 2020, mae'r ddadl ynglŷn ag a ddylai cofeb Picton yng nghanol Caerfyrddin a cherflun Picton yng Nghaerdydd aros wedi bod yn destun dadlau mawr: yn yr ysgol a'r gymuned yn ehangach. Cafodd cerflun Picton yng Nghaerdydd ei ddadorchuddio yn 1916 fel rhan o'r Pantheon o arwyr Cymru. Mae'r gofeb yng Nghaerfyrddin wedi bod yn Picton Terrace ers 1888,
O'r chwith i'r dde: Elin, Bethan a Gareth yn Ysgol Bro Myrddin Cydnabyddiaeth: Euryn Madoc-Jones
ac fe'i codwyd i anrhydeddu ei farwolaeth ym Mrwydr Waterloo. Mae llawer o'r drafodaeth ynghylch a ddylai cofebau a cherfluniau fel rhai Picton a Colston aros, yn canolbwyntio ar y syniad na allwch chi newid na dileu hanes ac mae eu tynnu yn lleihau'r trafodaethau hyn ymhellach. Mae'r uned waith hon hefyd yn ceisio archwilio hiliaeth sefydliadol ymhellach a thynnu sylw at y ffordd mae dehongliadau hanesyddol yn datblygu dros amser. Byddwn ni'n canolbwyntio ar yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Jessie Donaldson a'i gwaith allweddol yn y mudiad diddymu yng Nghymru. Megis dechrau yw hyn: wrth i ni gloddio'n ddyfnach i'n hanes lleol, rydyn i'n darganfod mwy a mwy o gyfleoedd i ddangos y rôl mae cymunedau ethnig a chrefyddol wedi'i chwarae wrth siapio stori ein hardal. Mae rhwystrau ar hyd y daith, ond rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein darpariaeth ac ychwanegu ati a'i hadolygu wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Fel athrawon mewn ardal wledig yng Nghymru, mae'n bwysig bod ein dysgwyr yn ymwybodol o hanes trefol
Cymru. Trwy gynnwys digwyddiadau fel Terfysgoedd Hil 1919 yn ein haddysgu ein nod yw sicrhau bod y dysgwyr hynny yn ymwybodol o amrywiaeth y profiadau sy'n rhan o'r profiad Cymreig. Ar y nodyn hwnnw, efallai mai'r peth gorau fyddai rhoi'r gair olaf i'r hanesydd, yr Athro Dai Smith: "Mae Cymru yn enw unigol ond yn brofiad lluosog". Cydnabyddiaeth: Smith, D. 1984. Wales! Wales! BBC Snowden, C. 9 Gorffennaf 2020. "Ammanford TV presenter subjected to racism backs calls to remove slave trader monument" South Wales Guardian Addysgu Hanes Cymru. Tachwedd 2019. https://senedd.wales 'Wales’ curriculum should reflect the integral part played by black people and people of colour in our history.' 1 Gorffennaf 2020. http://www.nation.cymru
31
Cydnabyddiaeth: Malcolm Price
Y “Grisiau marchogaeth” yn Eglwys Nanhyfer. Maen nhw'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif ac roedden nhw'n cael eu defnyddio gan y bonedd i fynd ar gefn eu ceffylau a dod oddi arnyn nhw wrth fynychu gwasanaethau yn yr eglwys. Os oes gennych chi unrhyw luniau o safleoedd lleol yr hoffech chi eu rhannu, neu os hoffech chi gyfrannu i'r cylchgrawn mewn unrhyw ffordd, yna anfonwch e-bost aton ni giraldus@cbac.co.uk.
GIRALDUS