Mae
99%
o’n dysgwyr yn teimlo ein bod yn cefnogi eu hamcanion dysgu ac yn sicrhau eu bod yn eu cyrraedd.
Arolwg llais dysgwr ACT 2021
acttraining.org.uk
Mae
99%
o’n dysgwyr yn teimlo ein bod yn cefnogi eu hamcanion dysgu ac yn sicrhau eu bod yn eu cyrraedd.
Arolwg llais dysgwr ACT 2021
acttraining.org.uk
Efallai eich bod chi’n ceisio gweithio allan beth yw eich camau nesa mewn addysg, yn chwilio am y cyfle swydd delfrydol neu efallai dim ond angen ychydig o gefnogaeth i gyrraedd yno.
Gall ein rhaglen TSC+ helpu!
“Roedd ACT yn brofiad da iawn, gwelais
gynnydd o ran fy hyder a siarad ag eraill yn
ogystal â’m dysgu ac roedd y gefnogaeth yn
dda iawn. Rydw i nawr yn mynd i wneud fy
nghymhwyster Lefel 2.”
Megan Nedrud
Dysgwr Modurol Lefel 1
Yn ei hanfod, mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–19 oed fel chi, sydd angen y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu gael mynediad at hyfforddiant pellach.
• Mae TSC+ yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. P’un ai os ydych yn ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf, neu os oes gennych ffocws clir, mae’n rhaglen unigryw sydd wedi’i theilwra i chi.
• Mae gennym dîm ymroddedig o Diwtoriaid, Anogwyr Dysgu, Cynorthwywyr Cymorth, a Hyfforddwyr Byd Gwaith a fydd yn cynllunio taith ddysgu unigryw i chi a’ch anghenion unigol.
acttraining.org.uk
Eisiau cael profiad gwaith?
Ddim yn siŵr beth i wneud nesa?
Eisiau ennill arian?
Eisiau hwb i’ch hyder?
Awydd ceisio gwahanol rolau mewn gwahanol sectorau?
Dyddiad dechrau: Unrhyw bryd
Hyd: 6 wythnos i 12 mis yn
dibynnu ar eich anghenion
Cymhwysedd: 16-19 mlwydd
oed, yn byw yng Nghymru a
ddim mewn addysg llawn amser
nac hyfforddiant ar hyn o bryd
Diddordeb ennill mwy o gymwysterau?
Diddordeb cael lle ar brentisiaeth?
Eisiau cael swydd?
Angen cymorth a chyngor gyrfa?
Ennill: Byddwch yn ennill hyd at £60 yr wythnos*, yn cael lwfans
bwyd dyddiol o £3.90, a chymorth
gyda chostau teithio.
*yn dibynnu ar eich lefel dysgu ac oriau
Cymwysterau: Mynediad - Lefel 2
Yn ACT rydyn ni’n gwybod sut i gael hwyl! Mae’n un o’n gwerthoedd craidd a dyna pam rydyn ni wedi datblygu rhaglen gyfoethogi TSC+ gyffrous a deniadol ar gyfer ein dysgwyr.
Mae ein Diwrnodau Cyfoethogi wedi’u cynllunio i sicrhau bod pobl ifanc fel chi yn gallu manteisio ar gyfleoedd unigryw. Mae cymryd rhan ac ymgysylltu â sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol fel Jamie’s Farm yn rhan bwysig o’n rhaglen gyfoethogi.
Bydd ein rhaglen yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a fydd yn cefnogi eich dysgu ac a fydd yn cyfoethogi eich amserlen wythnosol.
• Cymryd rhan mewn prosiectau arloesol
• Mwynhau profiadau ymarferol
• Ymgysylltu â chyflogwyr
• Cysylltu â sefydliadau allanol
• Dysgu wrth arbenigwyr yn y diwydiant
• Mynychu teithiau grŵp a gweithgareddau awyr agored
• Rhoi yn ôl drwy wirfoddoli
• Gwrando a dysgu gan siaradwyr gwadd arbennig
acttraining.org.uk
Rydym yn gweithio gyda Jamie’s Farm - elusen gofrestredig wych –sy’n cefnogi pobl ifanc yn union fel chi i ffynnu yn yr ysgol ac yn y cartref drwy ddarparu cyfleoedd sy’n newid bywydau.
Byddwch yn cael profiad go iawn o gymuned yn Jamie’s, a’r peth gorau yw bod popeth rydych chi’n cymryd rhan ynddo yn cyfrannu at redeg y fferm, felly rydych chi’n cael ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad ar ddiwedd y dydd.
Mae taith i Fferm Jamie yn gyfle go iawn i chi ganolbwyntio arnoch chi’ch hun, a chymryd seibiant y mae mawr ei angen i ffwrdd o’r byd digidol.
Un o werthoedd craidd ACT
‘Cael hwyl wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol, diogel a chyfeillgar’
Yn ystod eich amser yn ACT, bydd ein Tiwtoriaid
TSC+ yn rhoi’r holl ofal, cymorth ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i weithio tuag at eich
hyfforddiant TSC+. Mae gennym hefyd ystod o gymorth ychwanegol i sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o’ch amser yn ACT.
Swyddogion Diogelu a Chynghorwyr Mewnol
P’un ai os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, eich taith dysgwr neu os oes angen cymorth arnoch y tu allan i ACT, mae ein tîm yma i chi. Byddwn yn rhoi’r amser a’r lle i chi siarad yn breifat am eich trafferthion a’ch cefnogi i ddod o hyd i ateb.
Anogwyr Dysgu
Yn debyg i hyfforddwr chwaraeon, mae ein Anogwyr Dysgu yno i roi mwy o gyfeiriad a chefnogaeth i chi, yn enwedig o ran eich lles.
Mae ein Hyfforddwyr Byd Gwaith yno i’ch cefnogi gyda phob peth sy’n ymwneud â gwaith a chyflogaeth. P’un ai yw hynny’n eich arwain at brofiad gwaith neu’n eich paratoi ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau, byddant yno bob cam o’r ffordd.
Cynorthwywyr Cymorth
Mae’r tîm hwn yn gweithio’n agos gyda Thiwtoriaid, Anogwyr Dysgu a Hyfforddwyr Byd Gwaith i sicrhau eich bod yn cymryd rhan lawn ym mhob agwedd o’ch cynllun dysgu. Mae’r cymorth wedi’i deilwra i chi, ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych.
acttraining.org.uk
Chloe Mundell
Cynrychiolydd Dysgwyr ACT
wneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gorau”
Mae gennym dri llinyn TSC+ yr ydych yn dechrau arnynt ac yn symud ymlaen iddynt. Bydd ein
Anogwyr Dysgu yn penderfynu pa lefel sy’n iawn i chi ac yna’n datblygu cynllun dysgu unigol yn benodol ar eich cyfer chi ac eich anghenion.
Tra byddwch chi ar y rhaglen
TSC+ byddwch hefyd yn casglu
gwyliau blynyddol bob mis
heb iddo effeithio ar eich
lwfans hyfforddi.
acttraining.org.uk
Mae hwn yn fan cychwyn delfrydol os nad ydych yn siŵr beth rydych am ei wneud neu os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch i ddeall beth yw eich opsiynau.
Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
Cyfleoedd dysgu mewn canolfan
Treialon gwaith byr gydag amrywiaeth o gyflogwyr mewn gwahanol sectorau
Amrywiaeth eang o gyfleoedd cyfoethogi gan gynnwys gwaith gwirfoddol, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, ymweliadau gan gyflogwyr, gweithgareddau menter, gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar les, a thripiau a phrofiadau
Ar y llinyn hwn, rydym yn ceisio eich annog i geisio ystod eang o weithgareddau cyfoethogi diddorol i helpu i fagu eich hyder. Rydyn ni’n teimlo ei fod yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi’n ei hoffi a beth yw eich cryfderau.
Ar elfen Ymgysylltu TSC+ byddwch yn derbyn:
• Lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos
• Lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
• Cymorth gyda chostau teithio
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r elfen Ymgysylltu byddwch yn symud ymlaen i’r llinyn Datblygu.
Os oes gennych chi syniad bras eisoes o’r hyn
rydych chi am ei wneud, neu os oes gennych
ddiddordeb mewn gyrfa benodol, yna mae’r
Llinyn Datblygu ar eich cyfer chi.
acttraining.org.uk
Cymhwyster Lefel 1
Eich opsiynau yw...
Gwasanaethau Modur
Adeiladu Gofal Anifeiliaid Harddwch, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyflogadwyedd
Gofal
Gwasanaethau Lletygarwch
TG, Dylunio Digidol a Sgiliau
Swyddfa
Sesiynau blasu a lleoliadau gwaith sy’n canolbwyntio ar y diwydiant
Amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi perthnasol gan gynnwys gwaith gwirfoddol, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, ymweliadau gan gyflogwyr, gweithgareddau menter, gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar les a thripiau a phrofiadau
Ar elfen Datblygu TSC+ byddwch yn derbyn:
• Lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos
• Lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
• Cymorth gyda chostau teithio
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r elfen Datblygu byddwch yn symud ymlaen i’r llinyn Cyflogaeth.
acttraining.org.uk
83% Mae
o’n dysgwyr yn symud ymlaen at gyflogaeth neu addysg bellach.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod am waith llawn amser ac eisiau mynd i mewn i waith cyn gynted a phosib yna dyma’r llinyn i chi. Byddwn yn eich helpu i sicrhau lleoliadau gwaith lle gallwch gael profiad ymarferol wrth i chi barhau i gael yr hyfforddiant a’r dysgu angenrheidiol.
acttraining.org.uk
Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
Gwaith paratoi sy’n gysylltiedig â chyflogaeth megis
sgiliau hanfodol a beth i’w ddisgwyl pan gewch swydd
Cyflogadwyedd a pharatoi sy’n gysylltiedig â gwaith
Sesiynau cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar chwilio am swyddi, ceisiadau am swyddi, ac ymddygiad yn y gwaith
Hyfforddiant techneg cyfweld
Cymhwyster Sgiliau Hanfodol
Amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar hyfforddiant swydd, cymorth gyda
chwilio am swyddi a chymhorthdal cyflog, mentora gwaith, a chyswllt â chyflogwyr
Ar elfen Cyflogaeth TSC+ tra byddwch yn chwilio am swydd, byddwch yn derbyn:
• Lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos
• Lwfans bwyd o hyd at £19.50 yr wythnos
• Cymorth gyda chostau teithio
Pan fyddi di’n cael swydd, yn hytrach na lwfans hyfforddiant byddi di’n ennill cyflog go iawn ar lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf.