Beth yw Twf Swyddi
Cymru+?
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–19 oed yw Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i naill ai gael swydd neu ddechrau hyfforddiant pellach.
Mae 3 llinyn i’r rhaglen:
1. Ymgysylltu
Man cychwyn i bobl ifanc sydd ddim yn siŵr o’u maes diddordeb. Mae’r llinyn hwn yn cynnig treialon gwaith byr, dysgu yn y ganolfan ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.
2. Datblygu
Wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa arbennig. Mae’r llinyn hwn yn cynnig sesiynau blasu a lleoliadau gwaith sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, cymhwyster Lefel 1 ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.
3. Cyflogaeth
Ar gyfer pobl ifanc sy’n barod i ddechrau gwaith llawn amser. Mae’r llinyn hwn yn cynnig sesiynau cyflogadwyedd, sgiliau paratoi am waith, hyfforddiant techneg cyfweld, cymhwyster sgiliau hanfodol a gweithgareddau cyfoethogi.
Rhowch wybod mwy i fi am y llinynnau...
Yn y llinyn Ymgysylltu a Datblygu, byddwch yn gweithio gyda ni i gynnig rhagflas gwaith neu leoliadau i’n pobl ifanc i helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Mae dysgwyr ar y llinynnau hyn yn
derbyn lwfans hyfforddiant o hyd at £60 yr wythnos yn ddibynnol ar eu horiau.
Os ydych chi’n rhoi cyfle lleoliad, a bod y dysgwyr hynny’n gweithio’n dda, efallai yr hoffech chi ystyried darparu naill ai swydd neu hyd yn
oed gyfle Prentisiaeth i’r dysgwr.
Mae gennym hefyd y gallu i gefnogi
gyda’r cymhwyster Prentisiaeth.
Byddwn yn talu hyd at o gostau cyflogaeth
Ar y llinyn Cyflogaeth, os byddwch yn penderfynu cyflogi person ifanc drwy
raglen Twf Swyddi Cymru+, byddwn
yn talu hyd at 50% o gostau cyflogaeth
pob person ifanc ar yr Isafswm Cyflog
Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf
a byddant yn parhau i gael arweiniad a hyfforddiant parhaus gennym i gefnogi eu datblygiad gyda chi.
50% Byddwn yn darparu Cymorth, Hyfforddiant ac Arweiniad.
pob person ifanc ar y llinyn cyflogaeth am y chwe mis cyntaf, ar y raddfa Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Ymrwymiad tymor byr
Os nad ydych yn hollol barod i gynnig lleoliad neu gyfleoedd gwaith, gallwch helpu i ysbrydoli ac ysgogi ein pobl ifanc i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Rydym yn gwybod bod darparu cyfleoedd fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’n pobl ifanc a helpu i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Gallech ddarparu cyfleoedd fel:
Gweithdai cyflogadwyedd Dyddiau blasu
Ymweliadau
gweithle
Ffug gyfweliadau Cyflwyniadau gyrfa
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag ACT...
Ebostiwch info@acttraining.org.uk gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Os hoffech hysbysebu eich lleoliad ar ein gwefan, e-bostiwch worldofworkteam@acttraining.org.uk.
Beth fydd ei angen oddi wrthoch chi...
Yr ymrwymiad, brwdfrydedd a’r cymhelliant i gefnogi person ifanc i fyd gwaith.
Y camau nesaf... 1
Cysylltu â’n tîm Byd Gwaith.
Gweithio gyda ni i gynnal unrhyw wiriadau cyn-leoliad angenrheidiol. 2
Cwblhau anwythiad cyflogwr 3
Am beth ydych chi’n aros?
acttraining.org.uk