Twf Swyddi Cymru+ Gwybodaeth i gyflogwyr

Page 1

Twf Swyddi Cymru+

Gwybodaeth i gyflogwyr

acttraining.org.uk

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–18 oed yw Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i naill ai gael swydd neu ddechrau hyfforddiant pellach.

Mae 3 llinyn i’r rhaglen:

1. Ymgysylltu

Man cychwyn i bobl ifanc sydd ddim yn siŵr o’u maes diddordeb. Mae’r llinyn hwn yn cynnig treialon gwaith byr, dysgu yn y ganolfan ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.

2. Datblygu

Wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa arbennig. Mae’r llinyn hwn yn cynnig sesiynau blasu a lleoliadau gwaith sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, cymhwyster Lefel 1 ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.

3. Cyflogaeth

Ar gyfer pobl ifanc sy’n barod i ddechrau gwaith llawn amser. Mae’r llinyn hwn yn cynnig sesiynau cyflogadwyedd, sgiliau paratoi am waith, hyfforddiant techneg cyfweld, cymhwyster sgiliau hanfodol a gweithgareddau cyfoethogi.

Rhowch wybod mwy

i fi am y llinynnau...

Yn y llinyn Ymgysylltu a Datblygu, byddwch yn gweithio gyda ni i gynnig rhagflas gwaith neu leoliadau i’n pobl ifanc i helpu i ddatblygu eu sgiliau. Mae dysgwyr ar y llinynnau hyn yn derbyn lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos yn dibynnu ar eu horiau, hyd at £19.50 yr wythnos ar gyfer lwfans prydau bwyd a chymorth gyda chostau teithio.

Os ydych chi’n rhoi cyfle lleoliad, a bod y dysgwyr hynny’n gweithio’n dda, efallai yr hoffech chi ystyried darparu naill ai swydd neu hyd yn oed gyfle Prentisiaeth i’r dysgwr. Mae gennym hefyd y gallu i gefnogi gyda’r cymhwyster Prentisiaeth.

Byddwn yn

50%

talu hyd at o gostau cyflogaeth pob person ifanc ar y llinyn cyflogaeth am y chwe mis cyntaf, ar y raddfa Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

acttraining.org.uk

Ar y llinyn Cyflogaeth, os byddwch yn penderfynu cyflogi person ifanc drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, byddwn yn talu hyd at 50% o gostau cyflogaeth pob person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf a byddant yn parhau i gael arweiniad a hyfforddiant parhaus gennym i gefnogi eu datblygiad gyda chi.

Byddwn yn darparu Cymorth, Hyfforddiant ac Arweiniad.

Ymrwymiad tymor byr

Os nad ydych yn hollol barod i gynnig lleoliad neu gyfleoedd gwaith, gallwch helpu i ysbrydoli ac ysgogi ein pobl ifanc i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Rydym yn gwybod bod darparu cyfleoedd fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’n pobl ifanc a helpu i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Gallech ddarparu cyfleoedd fel:

Gweithdai cyflogadwyedd

Dyddiau blasu

Ymweliadau gweithle

Ffug gyfweliadau

Cyflwyniadau gyrfa

V

Os oes gennych ddiddordeb

mewn gweithio gydag ACT...

Ebostiwch info@acttraining.org.uk gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Os hoffech hysbysebu eich lleoliad ar ein gwefan, e-bostiwch worldofworkteam@acttraining.org.uk.

Beth fydd ei angen oddi wrthoch chi...

Yr ymrwymiad, brwdfrydedd a’r cymhelliant i gefnogi person ifanc i fyd gwaith.

Y camau nesaf...

1

Cysylltu â’n tîm Byd Gwaith.

Gweithio gyda ni i gynnal unrhyw wiriadau cyn-leoliad angenrheidiol.

Cwblhau anwythiad cyflogwr

Am beth ydych chi’n aros?

acttraining.org.uk

2 3
V
Cysylltwch â ni acttraining.org.uk info@acttraining.org.uk 029 2270 7070

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.