PRIFYSGOL BANGOR 2018 COD UCAS: Bangr B06
www.bangor.ac.uk
PRIFYSGOL BANGOR Prospectws Israddedigion 2018
Mynegai Cyrsiau Trosodd
CYNNWYS
04
Diwrnodau Agored
08
Cipolwg Cyflym ar Fangor
10
36
16
42
22
44
24
50
26
52
30
54
Profiad Myfyriwr
Y Gymraeg ym Mangor
Undeb y Myfyrwyr
Clybiau a Chymdeithasau
Hamdden a Chwaraeon
Llety
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Astudio Dramor
Cefnogi ein Myfyrwyr
Cefnogaeth Astudio
Adnoddau Dysgu
Myfyrwyr Hŷn
56
Cyllid Myfyrwyr
58
Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau
61
Sut i Wneud Cais
63
Iw an
W
ill ia m s
Cyrsiau Cyd-Anrhydedd
©
Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau. 2
1
Cod UCAS Bangr B06
EIN CYRSIAU 2018 Mae dewis eich cwrs yr un mor bwysig â dewis eich prifysgol. I’ch helpu i benderfynu ai Bangor yw’r brifysgol i chi, edrychwch ar y meysydd pwnc isod sydd o ddiddordeb i chi. Mae rhestr lawn o’r holl gyrsiau ar dudalen 140.
Ynghyd â gwybodaeth gyffredinol am gynnwys pob cwrs cyfrwng Cymraeg fe restrir yr holl gyrsiau dwyieithog a chyfrwng Saesneg sy’n cael eu cynnig. Cofiwch, byddwch yn rhoi o leiaf tair blynedd o’ch bywyd i’ch dewis-gwrs, felly mae’n werth ystyried eich opsiynau yn ofalus.
“Mae gymaint o adnoddau yma ar gael i helpu myfyrwyr gydag ysgrifennu traethodau neu i astudio at arholiadau.”
83 – 84 Seicoleg
65 – 66
Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
73 – 74
Cyfrifiadureg
2
67 – 68
Gwyddorau Biolegol
75 – 76 Electroneg
69 – 70
71 – 72
77 – 78
79 – 82
Gwyddorau Eigion
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Cemeg
Gwyddorau Meddygol a Gofal Iechyd
97 – 100 Cerddoriaeth
121 – 122
Athroniaeth a Chrefydd
85 – 88
Busnes, Cyllid, Rheolaeth a Marchnata
101 – 104
Y Cyfryngau, Theatr, Ffilm a Newyddiaduraeth
123 – 126
Ieithoedd a Diwylliannau Modern
89 – 92 Y Gyfraith
105 – 114
93 – 96
Gwyddorau Cymdeithas
115 – 120
Cymraeg
Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
127 – 128
129 – 137
Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Addysg, Astudiaethau Plentyndod a Dylunio Cynnyrch
3
DIWRNODAU AGORED
DEWCH I BROFI BANGOR
"Roedd y Diwrnod Agored yn brofiad gwerthfawr iawn. Dyma pryd y gwnes i syrthio mewn cariad â'r Brifysgol a chael cyfle i ddod i adnabod yr ardal, fy adran a'r darlithwyr.” CATRIN GRUFFUDD, o Ddeiniolen sy'n astudio Cerddoriaeth
Dewch i un o’r Diwrnodau Agored i gael blas ar fywyd myfyriwr a chael gwybod mwy am y cyrsiau sydd ar gael yma. Gan ein bod ar y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr, fe welwch fod yma amryw o resymau dros ddewis astudio ym Mangor. Bydd diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd, cyfarfod y staff a’r myfyrwyr, gweld y campws a’r neuaddau preswyl a chael y wybodaeth ddiweddaraf am astudio yma. Bydd pob Ysgol academaidd yn agored i chi a chewch gyngor ar bynciau megis gyrfaoedd i raddedigion, cyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, gwasanaethau lles myfyrwyr ac UCAS. Bydd hefyd gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer myfyrwyr hŷn a rhieni. Cewch raglen yn cynnwys manylion y diwrnod ymlaen llaw er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’ch ymweliad, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein sydd ar ein gwefan. Byddwn yn anfon rhaglen a phecyn gwybodaeth atoch cyn y diwrnod agored.
I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk/diwrnodagored neu ffoniwch 01248 382005 / 382420
4
Dewch i wybod mwy am y profiad o fod yn fyfyriwr ym Mangor drwy ddod i un o’n Diwrnodau Agored. PRYD MAE’R DIWRNODAU AGORED? Bydd y Diwrnodau Agored ar y dyddiau canlynol yn 2017:
Dydd Sadwrn, Mehefin 24 Dydd Sadwrn, Gorffennaf 8 Dydd Sul, Hydref 15 Dydd Sadwrn, Hydref 28 Dydd Sadwrn, Tachwedd 11 YN YSTOD DIWRNOD AGORED BYDDWCH YN • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. ARCHEBU EICH LLE I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382005 / 382320 5
TU HWNT I DDISGWYLIADAU
“Ym Mangor rydym bob amser yn gwneud ein gorau i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol er mwyn darparu profiadau prifysgol sydd yr un mor bleserus ag ydynt yn werth chweil. Rydym yn cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, yn amrywio o arweiniad ariannol i gyfleoedd gyrfa ac o gyngor personol i gefnogaeth academaidd. Rydym hefyd yn falch ein bod yn meithrin cymuned gefnogol a mawr ei gofal sy’n annog ymdrech a thwf personol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Yn ogystal, mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd godidog Eryri a milltiroedd o arfordir yn ychwanegu at y profiad prifysgol na ellir ei guro. Yn ddiweddar mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau’n datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr, gan ei wneud yn lle mwy deniadol fyth i astudio ynddo. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.” Yr Athro John G. Hughes Llywydd/Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
6
7
CIPOLWG CYFLYM
"Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn gadarnhad ardderchog o’n gweithgareddau a’n gwerthoedd. Mae’n wych ein bod yn y 15 uchaf ym Mhrydain... Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu’r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.”
GYDA'R GORAU
Yr Athro Oliver Turnbull Dirprwy Is-ganghellor (Addysgu a Dysgu)
Yn y 5 uchaf ym Mhrydain am Gefnogaeth Academaidd Yn y 40 uchaf ym Mhrydain am Ansawdd ein Hymchwil**
Gosododd gwobrau WhatUni? 2016 Bangor y brifysgol orau ym Mhrydain am Lety Prifysgol. Cafodd y Cyrsiau a'r Darlithwyr eu rhoi yn ail a'r Gefnogaeth i Fyfyrwyr yn drydydd a roedd Bangor yn yn y 5 uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn.
15 UCHAF
15UCHAF Gosododd Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education Prifysgol Bangor ymysg y 15 prifysgol orau ym Mhrydain am brofiad myfyrwyr.
Boddhad Myfyriwr o 100% mewn 7 o’n meysydd pwnc yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn rhoi adborth cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob un o brifysgolion Prydain ac yn Arolwg 2016 cafodd Prifysgol Bangor ganlyniadau rhagorol mewn ystod o bynciau a meysydd.
Mae Prifysgol Bangor ymysg y 15 uchaf* ym Mhrydain am foddhad myfyriwr. Gosododd canlyniadau NSS 2016 y Brifysgol yn y safle uchaf yng Nghymru ac yn 4ydd ym Mhrydain am gefnogaeth academaidd.
Y GORAU YM MHRYDAIN • Astudiaethau Saesneg • Daeareg • Newyddiaduraeth • Ieithyddiaeth • Technoleg Feddygol • Cerddoriaeth • Gwyddorau Eigion YN Y 10 UCHAF YM MHRYDAIN • Seicoleg • Peirianneg Electronig • Amaethyddiaeth • Astudiaethau’r Cyfryngau • Cyllid • Athroniaeth • Astudiaethau Iberaidd
* ac eithrio sefydliadau arbenigol. **heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig.
8
9
Cipolwg Cyflym ar Brofiad Myfyriwr – • Mae cymuned fyfyrwyr fywiog Bangor gyda dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall.
BANGOR: DOES UNMAN TEBYG Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a’r ymchwil o safon fyd-eang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chael aelodaeth am ddim o dros 170 o glybiau a chymdeithasau. Mae'r cyfan yn cyfrannu at brofiad prifysgol digymar a bythgofiadwy. 10
• Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir – yn gaffaeliad mawr i’n myfyrwyr. Mae neuadd JMJ yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg sy’n cynnig cymuned glòs a chyfeillgar. • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser yma. Gallwn hefyd eich paratoi ar gyfer eich dyfodol gyda’n gwasanaethau cyflogadwyedd a menter. • Mae maint a natur gyfeillgar Bangor yn golygu bod myfyrwyr yn ymgynefino ar unwaith, ac yn mwynhau’r ffordd o fyw unigryw a gynigir i fyfyrwyr yma. • Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.4M.
11
LLEOLIAD CYFEILLGAR A CHYFLEUS
“Mae’r rhan fwyaf o’r cyfleusterau ar y campws, ac mae’n cymryd 10 munud i gerdded i’r Prif Adeilad. Mae’r llyfrgell yn un anhygoel, ac mae’r staff o hyd yn barod i helpu. O ran byw, mae yna bopeth ar gael – fel siopau a bwytai.”
Mae rhagoriaeth Prifysgol Bangor mewn ymchwil ac addysgu yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd i’r ddinas. Mae hyn yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr gydweithio a chymdeithasu â phobl o bob rhan o'r byd. Lleoliad sy'n Denu Mae lleoliad Bangor hefyd yn denu. Mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas ei hun. Mae’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Môn yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i fwynhau eich hunain yn ymlacio. I’r dwyrain, mae’r A55 a’r rheilffordd ar hyd arfordir Cymru yn golygu y gallwch chi fynd digon hawdd am y diwrnod neu gyda’r nos i Landudno, Caer, Lerpwl neu Manceinion. Mae llefydd fel Caernarfon, Llanberis, Beddgelert a Biwmares yn gyrchfannau poblogaidd i fynd am dro, tra bo sawl pentref llai wedi eu dewis fel lleoliad ar gyfer trip Pentre Bach UMCB.
CARYS ANGHARAD DAVIES, o Aberteifi, sy’n astudio Cerddoriaeth
Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant Mae maint a natur gyfeillgar y lle, yr amrywiaeth o weithgareddau myfyrwyr a gynigir, ynghyd â’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn golygu bod myfyrwyr yn mwynhau eu hunain ym Mangor. Mae Academi, clwb nos y myfyrwyr, yn ganolbwynt i lawer iawn o’r adloniant gyda’r nos. Yn ogystal â nosweithiau wedi eu trefnu gan yr Undeb neu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB, mwy ar dudalen 23), mae amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Y Glôb. Mae Bar Uno, ym mhentref Ffriddoedd a Barlow's ym mhentref y Santes Fair hefyd yn fannau cyfarfod poblogaidd i fyfyrwyr. Yn ogystal, mae canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd, Pontio, yn ganolbwynt cymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ogystal â chanolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â bod yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, mae’r ganolfan yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, ystafelloedd darlithio, bar, bwyty a chaffi. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau cerddoriaeth, drama, theatr awyr, comedi, ffilm, ac ystod o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal yno.
“Mae Bangor yn lle hynod o braf i fyw ac astudio. Ceir y gorau o ddau fyd yma – bod yn y ddinas ond yn agos i gefn gwlad a’r Parc Cenedlaethol.” ELAIN HAF ELIS, o Abergele, sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg
12
13
WRTH EU BODD YM MANGOR. PROFIADAU EIN MYFYRWYR
"Mae byw mewn neuadd yn brofiad
gwerthfawr iawn – mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud ffrindiau newydd a byw yn annibynnol. Credaf fod Bangor yn ddinas ddelfrydol i fyw ac astudio ynddi.”
"Mi wnes i ddewis dod yma gan fod Bangor yn ddinas brydferth gyda phrifysgol uchel ei pharch. Dinas weddol fechan yw Bangor, mae yma gymuned glós a chyfeillgar ac mae pob dim o fewn pellter cerdded...
“O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ail-gartref imi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor i astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y dewis gorau i mi.
Un o brofiadau gorau bywyd yw byw mewn neuadd. Mae cael y cyfle i ddod i 'nabod rhai eraill yn yr un sefyllfa â chi yn un sy'n unigryw ac wedi bod yn bleser.
Mae gallu astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi a gan fod Bangor yn caniatáu i mi wneud hynny rwyf yn ei weld yn lle gwych ar lefel addysgol a chymdeithasol.
Mae Bangor yn cynnig profiad unigryw, bythgofiadwy a gwerthfawr a hynny trwy'r Gymraeg... Mae dod i Fangor a phrofi bywyd Prifysgol wedi cadarnhau i mi mai dod yma oedd y dewis gorau."
Rwyf yn hapus iawn efo’r gefnogaeth yr wyf yn ei chael yma, yn enwedig gan fy narlithwyr a fy Nhiwtor Personol. Teimlaf y gallwn drafod unrhyw beth gyda nhw.”
LIAM EVANS, o Hen Golwyn, sy'n astudio Cymraeg a Hanes
LOWRI LLOYD PARRY, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
MELEN HÂF LLOYD, o Ynys Môn sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
“Mae Bangor yn lle hyfryd i fyw ac astudio gan fod pob man mor agos i’w gilydd. Mae cyfleusterau dysgu o’r safon uchaf yma ac mae yma lawer o gyfleusterau hamdden sy’n rhoi digon o ddewis o bethau i’w gwneud yn eich amser rhydd. Mae Bangor mewn lleoliad unigryw – yn agos i’r môr a mynyddoedd Eryri ac felly mae digon o gyfle i fynd allan i archwilio’r ardal gyfagos. Fy uchafbwynt yw cael fy nerbyn i ddod i’r Brifysgol anhygoel yma, a galla’i ddweud fy mod wedi mwynhau pob eiliad yr wyf wedi bod yma, boed hynny mewn darlithoedd neu yn cymdeithasu efo ffrindiau...” GWION LLŶR MORGAN EVANS, o Dregaron, sy’n astudio Cymraeg a Gwyddor Chwaraeon
“Rwyf wrth fy modd yn byw ac astudio yma. Mae digonedd o bethau i'w gwneud gan gynnwys pentwr o wahanol glybiau â chymdeithasau i fod yn rhan ohonynt.” CEINWEN JONES, o Ddeiniolen, sy'n astudio Cymraeg
14
“Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg – mae yma Gymdeithas Gymraeg gref iawn ac mae byw yn JMJ yn anhygoel.” RHIANNON LLOYD WILLIAMS, o Gaerdydd, sy’n astudio Cymraeg
15
“Mae Bangor yn lle braf iawn i fyfyrwyr Cymraeg. Mae cymdeithas Gymraeg glòs yma ac mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed ar y stryd fawr ac yn y Brifysgol.” ELAIN HAF ELIS, o Abergele, sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n gyson mewn datblygiadau academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog. Ym Mangor, ceir profiad Cymraeg cyflawn – o ddewis eang o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i wasanaethau trwy’r Gymraeg, i ddigwyddiadau cymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn ganolog. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol hwn.
Bangor yw un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch trwy’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae modd astudio elfennau o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o feysydd pwnc y Brifysgol – o Gerddoriaeth i Gemeg, o Seicoleg i Sŵoleg i enwi dim ond rhai meysydd. Mae ein darlithwyr yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau i gefnogi myfyrwyr, yn cynnwys y termau sydd eu hangen ar gyfer astudio yn Gymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn arwain nifer o’r cynlluniau sydd wedi’u datblygu i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Y GYMRAEG YM MANGOR
16
17
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau ac i gynyddu'r cyfleoedd astudio trwy'r Gymraeg i'n myfyrwyr.
Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig, sy’n gyfle i dderbyn hyd at £3,000 am astudio pynciau yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr gyflawn o’r cyrsiau cymwys sy’n gysylltiedig â’r cynllun presennol ynghyd ag amodau a thelerau’r ysgoloriaethau i’w gweld ar www.colegcymraeg.ac.uk Gweler tudalennau 58-60 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.
ARWAIN AR Y GYMRAEG
18
MANTEISION ASTUDIO TRWY'R GYMRAEG
Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae dros 300 o gyflogwyr yn cydnabod y Dystysgrif hon fel prawf o allu unigolyn i weithio a chyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i chi ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eich cyfnod ym Mangor, pa bynnag bwnc y byddwch yn dewis ei astudio. Bydd y Tiwtor Sgiliau Iaith yn trefnu cyfres o sesiynau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad llafar a’r arholiad ysgrifenedig.
MODIWLAU DATBLYGU
SGILIAU IAITH AR GAEL
Pan welwch y symbol hwn ar dudalen cwrs, cofiwch am y gwasanaethau sydd ar gael gan Ganolfan Bedwyr i’ch helpu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Credaf fod Bangor yn lle gwych i fyfyrwyr Cymraeg oherwydd yr ystod eang o gyrsiau a’r cymorth sydd ar gael i’w hastudio. Yn ogystal, mae cymuned Gymraeg wych yma, wedi ei chryfhau gan neuadd JMJ ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB).” LOWRI LLOYD PARRY, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog. Dyma sylwadau gan staff a myfyrwyr ar sut y gall astudio cwrs neu ran o'r cwrs trwy'r Gymraeg fod o help mewn swydd. “Mae Cyfrifeg yn faes mor eang ac roeddwn i’n barod i weithio pa le bynnag, ond dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gael y swydd hon. Oni bai mod i wedi dilyn rhai o fodiwlau’r cwrs yn Gymraeg, dwi ddim yn meddwl byddwn i wedi cael y swydd. Mae gweithio fel Cymhorthydd Pensiynau i Gyngor Gwynedd yn waith difyr iawn, a dw i’n meddwl fod astudio rhan o’m cwrs trwy’r Gymraeg a bod yn siaradwr Cymraeg wedi bod yn fantais fawr yn fy nghyfweliad.” HÂF OWEN, o Nebo ger Caernarfon a gafodd swydd gyda Chyngor Gwynedd ar ôl iddi raddio gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid “Mae’r hyn ddysgais i yn ystod fy ngradd yn dod mewn i ‘ngwaith bob dydd. Mae’r wefan ar gyfer ystod eang o bobl ac mae’n bwysig peidio defnyddio iaith rhy ffurfiol. Mae angen defnyddio iaith pob dydd, ond iaith safonol. Ryda ni yn defnyddio tipyn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac mae angen meddwl eto pwy yw’r gynulleidfa a dewis yr eirfa fwya’ addas.” MIRAIN LLŶN, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg sydd bellach yn gweithio fel Cymhorthydd Gwybodaeth a Gwasanaethau’r Wefan yng Nghyngor Gwynedd
“Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn galluogi pobl ifanc broffesiynol i allu gweithredu a chyfathrebu’n ddwyieithog. Mae yno farchnad yn y sector breifat i allu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae hyn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd o gael addysg cyfrwng Cymraeg sy’n rhoi sylfaen ardderchog i bobl ifanc ar gyfer gyrfa ble mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch na’r gyfartaledd.” SARA CLOSS-DAVIES, Darlithydd yn yr Ysgol Fusnes a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
"Braint yw cael astudio cwrs Cymraeg a gallu teimlo’n gyfforddus wrth ofyn cwestiwn, holi am broblemau, dewis lleoliadau clinigol a chael mentoriaid Cymraeg. Dwi’n teimlo fy mod yn deall y gwaith yn well ac yn cael bod yn fi fy hun..." ERIN JONES, sy'n astudio Nyrsio Oedolion
“Rwy’n sicr yn meddwl bod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i gael swydd ar ôl graddio. Mae’n bwysig meddu’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn enwedig pan yn cyfathrebu gyda’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ddefnyddiol dysgu’r derminoleg yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn aml o fudd wrth ddarllen dogfennau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy swydd bresennol. Mae bod yn hyderus yn y Gymraeg yn bwysig ac felly rwy’n credu fod defnyddio’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar o fudd i bawb ymhob swydd.” SIÂN ROBERTS, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gyfraith sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd fel Syrfëwr Stadau Cynorthwyol ac sy’n astudio cwrs Meistr Rheolaeth Eiddo Masnachol
19
ASTUDIO TRWY'R GYMRAEG
Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw brifysgol arall. “Mae ‘na gymaint o fyfyrwyr Cymraeg yma a llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg... Rwy’n cael cymorth gan y Brifysgol i wneud fy ngwaith trwy’r Gymraeg.” HANNAH DUNCAN, o Lanberis sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon
Pam dewis astudio drwy’r Gymraeg?
Gall astudio trwy'r Gymraeg wella eich rhagolygon gyrfa ac mae sawl rheswm ymarferol a chymdeithasol hefyd dros ddewis astudio trwy’r Gymraeg: • Gosod sylfaen ardderchog i’r dyfodol o ran cael prawf pendant o ddeallusrwydd a defnydd ymarferol o'r Gymraeg • Mae cyflogwyr angen pobl ddwyieithog ar gyfer pob math o swyddi • Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch • Y Gymraeg ydi iaith yr aelwyd a/neu iaith yr addysg yn yr ysgol a’r chweched dosbarth, ac felly dyma’r iaith sydd fwyaf naturiol • Wedi arfer sefyll arholiadau a phrofion drwy’r Gymraeg – ac am barhau â hynny yn y brifysgol • Wedi dysgu ac arfer defnyddio termau gwyddonol a chelfyddydol yn Gymraeg • Mae’n agor drysau i gyfleoedd newydd a gwella’r hyn a gynigir ar y CV • Mae’n gyfle i gymdeithasu a byw mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg i’w chlywed bob dydd.
“Yr amgylchedd Gymraeg a chartrefol oedd y prif ffactor i mi ddewis Bangor fel Prifysgol. Wrth fyw yn neuadd JMJ mae’n hawdd dod i adnabod myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf a’r ail – felly mae’n amhosib osgoi bwrlwm a gwefr y gymdeithas Gymraeg." OWAIN ELIDIR WILLIAMS, o’r Wyddgrug, sy’n astudio Gwyddorau Chwaraeon
20
Galw am sgiliau iaith Gymraeg Mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o fusnesau a sefydliadau gydnabod ac ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft: • Gwaith cymdeithasol • Cyngor gyrfaoedd • Cyllid • Addysg • Y sector cyfiawnder • Llywodraeth leol • Rheoli gweinyddol a busnes • Technoleg darlledu • Therapyddion iaith a therapyddion lleferydd • Swyddi gweinyddol Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, yna mae astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd. Darllenwch am brofiadau ein myfyrwyr yn astudio'u cwrs neu ran o'u cwrs trwy'r Gymraeg ar y dudalen nesaf.
Pa gyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg? Ar hyn o bryd mae’n bosib dilyn cwrs gradd un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o feysydd pwnc. Ond hyd yn oed os nad yw’r cwrs ei hun ar gael drwy’r Gymraeg mae Bangor hefyd yn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyfle i’r rheiny sydd am gyflwyno eu traethodau neu drafod eu pwnc yn y Gymraeg.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Pan welwch y symbol hwn ar y dudalen, mae hyn yn golygu bod modd gwneud y cwrs drwy’r Gymraeg. Os nad yw’r symbol ar y dudalen cwrs, darllenwch yr wybodaeth o dan y pennawd Astudio trwy’r Gymraeg i weld y dewisiadau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i chi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Rhan bwysig iawn o’r gefnogaeth hon ydy’r gwasanaethau mae Canolfan Bedwyr yn eu cynnig. Modiwlau datblygu sgiliau iaith Mae’r modiwlau Sgiliau Defnyddio'r Gymraeg a modiwl Ymdrin â’ch Pwnc yn Gymraeg yn cynnig cymorth ymarferol ac maent yn addas i siaradwyr Cymraeg rhugl (dysgwyr neu siaradwyr iaith gyntaf). Mae’r modiwlau yn addas os ydych chi’n: • dilyn eich cyrsiau neu ran o’ch cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond eisiau datblygu eich sgiliau a’ch hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyffredinol • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond yn awyddus i allu trafod eich pynciau’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. • Mae Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr hefyd yn cyfrannu at fodiwlau sgiliau mewn ysgolion ac yn gallu cynnig cefnogaeth un-i-un.
Ffair Swyddi Cymraeg Ers 2015, mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfarfod â chyflogwyr o wahanol sectorau a deall mwy am bwysigrwydd y Gymraeg ym myd gwaith.
"Mae cymdeithas Gymraeg Bangor fel un teulu mawr. Daw nifer fawr o gyfleoedd drwy fod yn rhan o UMCB - a llawer o hwyl." GWEN ALAW WILLIAMS, o Lanberis, sy'n astudio Cymraeg
Meddalwedd cyfrifiadurol Cysgliad Mae Cysgliad yn becyn poblogaidd dros ben, ac yn adnodd hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg. Mae Cysgliad wedi’i osod ar rwydwaith y Brifysgol, ac mae hefyd ar gael i’w brynu o Ganolfan Bedwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau arbennig i fyfyrwyr. Gwasanaeth Terminoleg Mae gwasanaeth terminoleg Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda’r gwaith o ganfod y termau cywir yn eich maes pwnc. Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Mae swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Fel rhan o’r project cenedlaethol gall myfyrwyr gysylltu â’r swyddog am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio. Gwasanaeth cyfieithu llawn Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/ darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn: • cyfieithu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr i’r Gymraeg; • cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Gymraeg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
21
EICH LLAIS, EICH CYFLEOEDD, EICH UNDEB
Beth yw Undeb y Myfyrwyr?
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor
Bydd llawer o’ch bywyd cymdeithasol yn y Brifysgol yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, sy’n rhoi gwasanaethau, cefnogaeth, gweithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr. I gael y gorau allan o’ch amser yn y Brifysgol, mae Undeb y Myfyrwyr yn eich annog i gymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau a gynigir, gan ei bod yn ffordd ddelfrydol i gyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd. Gellwch gymryd rhan mewn rhedeg yr Undeb a’i wasanaethau – sy’n amrywio o ganolfan gynghori i brojectau gwirfoddoli – neu gymryd rhan yn y nifer o weithgareddau a gynigir.
Mae Bangor yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg i fod yn rhan o gymdeithas glòs, hynod o fywiog. Mae UMCB yn bodoli i hybu a diogelu buddiannau’r Cymry ym Mangor, ac mae’r aelodau yn medru manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Undeb, tra hefyd yn mwynhau sylw personol a gofalus eu hundeb eu hunain dan arweiniad Llywydd UMCB. Bydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal Clwb Cymru unwaith y mis. Clwb Cymru yw un o uchafbwyntiau cyson bywyd cymdeithasol. Gydag awyrgylch hwyliog a themâu gwirion o bryd i’w gilydd, mae’r noson yma’n boblogaidd iawn efo myfyrwyr Bangor.
Mae’r Undeb yn rhoi cyfle i chi ddilyn diddordebau cyffrous neu newydd drwy’r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau a gynigir, ac ym Mangor mae ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim.
Mae nifer o grwpiau wedi cynnal gigs ym Mangor, ar wahoddiad UMCB. Gyda channoedd o aelodau mae nosweithiau UMCB yn nosweithiau mawr. Ymysg y gweithgareddau a digwyddiadau eraill sy’n cael eu trefnu gan UMCB mae tripiau i’r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth, a gemau rygbi rhyngwladol yn yr Iwerddon a’r Alban.
Gwaith yn y Gymuned
Bydd llawer o’ch bywyd cymdeithasol yn y Brifysgol yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, sy’n rhoi gwasanaethau, cefnogaeth, gweithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr. Gyda thros 170 o glybiau a chymdeithasau ac amryw o gyfleoedd i wirfoddoli, mae'n hawdd gweld sut bod Undeb y Myfyrwyr yn rhan hanfodol o fywydau nifer o fyfyrwyr.
22
Gallwch hefyd ymuno â myfyrwyr eraill i weithio er lles y gymuned leol trwy Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor sef elusen sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr sy’n ymwneud â phrojectau i bobl ifainc, yr henoed, pobl anabl ac eraill. Mae gan Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor dros 1,500 o aelodau, ac mae’r gwirfoddolwyr yn cyfrannu cyfanswm o 600 awr pob wythnos i amryw o brojectau cymunedol. Bydd y sgiliau a’r profiad rydych yn eu hennill drwy wirfoddoli yn apelio at gyflogwyr, a gallwch hefyd ennill pwyntiau am wirfoddoli tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor.
Yn ogystal â’r bywyd nos, mae nifer o gymdeithasau hefyd yn dod o dan ymbarél UMCB, a’r rheiny’n amrywio o chwaraeon i grefydd, o lenyddiaeth i adloniant. Er enghraifft, mae’r canlynol dan adain UMCB: timau pêl- droed; corau a phartïon canu a cherdd dant; papur newyddion Cymraeg Y Llef a chylchgrawn pigog Y Ddraenen, sy’n cael ei ysgrifennu a’i olygu gan y myfyrwyr. Fel rhan o gysylltiadau UMCB â’r ardal, mae ymweliadau cyson gan fyfyrwyr ag ysgolion lleol, a thrwy’r Urdd mae aelodau UMCB hefyd yn cefnogi gweithgarwch y mudiad yn rhanbarth Eryri.
23
CLYBIAU A CHYMDEITHASAU
AMSER AM
ANTUR
“Mae cymdeithas Gymraeg grêt ym Mangor. Nid yn unig yn y Neuadd Gymraeg ond holl weithgareddau mae UMCB yn eu cynnal. Unwaith y mis mae’r myfyrwyr Cymraeg yn mynd i ‘Clwb Cymru’, sef noson yn llawn o gerddoriaeth Cymraeg. Hefyd, mae aelwyd JMJ yn cystadlu mewn nifer o eisteddfodau ac eleni, cystadlodd yr aelwyd yn yr ŵyl gerdd dant.” AWEN MAIR, o Synod Inn, Llandysul, sy’n astudio Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol
Mae eich cyfnod fel myfyriwr yn gyfle gwych i chi gael blas ar weithgaredd newydd am y tro cyntaf – gyda phobl sydd â’r un diddordebau â chi. Mae’r llu o glybiau a chymdeithasau sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o hobïau, chwaraeon a diddordebau eraill,ac mae aelodaeth i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim. Cynhelir Serendipedd, Ffair yr Wythnos Groeso ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a chewch gyfle yno i gael gwybod mwy am weithgareddau cymdeithasau a chlybiau fel Archaeoleg, Drama, Comedi, DJs, Pêl-droed a Syrffio. Gallech weithio ar bapur newydd y myfyrwyr neu Storm FM, yr orsaf radio i fyfyrwyr. Ymysg y clybiau a chymdeithasau, mae yna rai fydd yn ategu eich cwrs academaidd, fel Cymdeithas y Gyfraith a’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth. Os nad oes clwb neu gymdeithas sy’n apelio atoch, gallwch sefydlu un eich hun gyda chymorth yr Undeb.
Clwb Saethyddiaeth Clwb Saethyddiaeth
Clwb ClwbSaethyddiaeth Hoci
"Yr uchafbwynt i mi ydi’r profiadau rwyf wedi eu cael wrth gymdeithasu mewn gwahanol weithgareddau.” RHUN LLWYD DAFYDD, o’r Bala, sy’n astudio Cymraeg gyda Newyddiaduraeth
24
25
CHWARAEON YM MANGOR
CYFLEUSTERAU CHWARAEON A HAMDDEN Mae gennym gyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol. Mae ein prif ganolfan chwaraeon, Canolfan Brailsford, wedi ei lleoli yng nghanol prif bentref preswyl y myfyrwyr.
Cyfleusterau Chwaraeon Cafodd ei hadnewyddu yn ddiweddar, ac mae yno gampfa ddeulawr llawn offer diweddaraf Lifefitness, sy’n cynnwys 50 peiriant cardio, amrywiaeth lawn o offer gwrthiant ‘Hammer Strength’ ac ardal codi pwysau Olympaidd, 6 platfform, ar wahân. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i ddwy neuadd chwaraeon, stiwdio aerobeg, stiwdio beicio, wal ddringo gyda sawl lefel anhawster ac adran creigiau mawr a phedwar cwrt sboncen. Drws nesaf i Ganolfan Brailsford mae’r Dôm – sef canolfan pêl-rwyd a thenis dan do. Yn yr awyr agored mae gennym gaeau ar gyfer pêl-droed (dau efo llifoleuadau), rygbi, pêldroed Americanaidd, Quidditch, Ultimate, a chae synthetig ar gyfer hoci. Rydym hefyd yn rhannu trac athletau gyda Chyngor Gwynedd. Mae’r Brifysgol yn bartner efo Clwb Pêl-droed Bangor ar faes pob tywydd, peil hir, trydedd genhedlaeth, wedi ei leoli dros y ffordd i gampws yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon a’r Ysgol Addysg ac fe’i defnyddir ar gyfer gemau myfyrwyr a hyfforddi clybiau. Ar Safle’r Normal, mae dwy neuadd chwaraeon arall sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar sy’n cael eu defnyddio gan glybiau a thimau’r Brifysgol gan gynnwys arfdy ar gyfer cleddyfaeth a gweithgareddau saethyddiaeth. Ym mhentref y Santes Fair, mae yno ystafell ffitrwydd a gall myfyrwyr fwynhau gweithgareddau awyr agored yn yr ardal gemau aml-ddefnydd a chyfleusterau ar gyfer pêl droed, pêl-fasged a gemau yn yr awyr agored.
26
Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â SurfLines, canolfan gweithgareddau awyr agored ger Llyn Padarn. SurfLines yw’r lleoliad ar gyfer rhaglen rwyfo’r Brifysgol yn ogystal â chlybiau gweithgareddau dwr a mynyddoedd eraill, a rhai modiwlau rhaglenni addysg awyr agored y Brifysgol. Ym Mangor ei hun, mae pwll nofio 25 metr gyda cyfleusterau deifio uchel. Mae atyniadau poblogaidd lleol eraill sy’n cael eu defnyddio gan y Brifysgol yn Surf Snowdonia, y Ganolfan Sgïo ac Eirafyrddio yn Llandudno, y Ganolfan Fynydda Genedlaethol (Plas-y-Brenin) yng Nghapel Curig, a Phlas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Ysgoloriaethau Chwaraeon Rydym yn cefnogi myfyrwyr â dawn arbennig mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth hyd at £3,000 y flwyddyn. Bwriad yr Ysgoloriaethau yw cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw’r Ysgoloriaethau wedi’u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.
“Mae defnyddio Canolfan Brailsford yn elfen ganolog o fy ngweithgareddau allgyrsiol. Mae Canolfan Brailsford yn cynnig cyfleusterau a chyfarpar o’r radd flaenaf, a chefais fy synnu o’r cychwyn cyntaf pa mor dechnegol ydi’r ganolfan. Ymuno â chlwb pêl-droed y Brifysgol yw un o’r pethau gorau rwyf wedi’i wneud. Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod cyd-fyfyrwyr ac mae’n cynnig cyfleoedd cymdeithasol gwerth chweil. Mae’r teimlad o berthyn mewn amgylchedd hwyliog ac anffurfiol yn sicr yn nodwedd ddymunol o fyd chwaraeon yma." OWAIN ELIDIR WILIAMS, o’r Wydd grug, sy’n astudio Gwyddorau Chwaraeon
27
Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon awyr agored bydd gennych ddewis eang o gyfleon ar garreg eich drws, o ddringo a mynydda i baragleidio a chwaraeon dŵr. Undeb Athletau Bangor
“Mae’r adnoddau sydd yng Nghanolfan Brailsford yn fodern ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae yno amrywiaeth o bethau gwahanol, a digon ar gyfer grŵp mawr o bobl. Byddaf yn defnyddio’r adnoddau yn aml iawn gan nad yw’n bell iawn, ac rwy’n manteisio ar y cyfle gan fod aelodaeth am ddim i fyfyrwyr sydd yn byw mewn neuadd breswyl yn y brifysgol!” HANNAH DUNCAN, o Lanberis, sy’n astudio Gwyddorau Chwaraeon
Mae Undeb Athletau Bangor yn rhan o Undeb y Myfyrwyr sy’n gyfrifol am weithgareddau chwaraeon. Mae yma dros 55 o dimoedd a chlybiau ym Mangor, o rygbi a phêl-droed i octopush a thrampolinio. Mae lleoliad unigryw Bangor hefyd yn golygu y gall y clybiau fanteisio ar fynyddoedd, llynnoedd, afonydd ac arfordir yr ardal. Golyga’r dewis eang o chwaraeon sydd ar gael bod y cyfle yno i chi roi cynnig ar weithgaredd newydd, yn ogystal â pharhau gydag unrhyw chwaraeon rydych yn cymryd rhan ynddo eisoes. Mae pob clwb yn groesawus ac yn gyfeillgar, gyda llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal ynghyd â’r gweithgareddau chwaraeon.
Clybiau Chwaraeon Bangor Athletau ar y trac, Badminton, Bocsio, Canŵio, Cerdded Mynyddoedd, Cheerleaders, Chwaraeon Eira, Clwb Becio, Criced, Dawnsio, Deifio uchel, Ffensio, Ffrisbi ‘Ultimate’, Golff, Gymnasteg, Hoci, Hoci Tanddwr, Hwylfyrddio, Hwylio, Jiwdo, Jiu-Jitsu, Ki-Aikido Lacrosse, Marchogaeth, Mynydda, Nofio, Nofio Tanddwr, Pêl-droed (dynion a merched), Pêl-droed Americanaidd, Pêl-droed Gwyddelig (dynion a merched), Pêl-fasged (dynion a merched), Pêl-foli, Peli-paent, Pêl-rwyd, Polo Canŵ, Quidditch, Rhwyfo, Rygbi’r Gynghrair, Rygbi’r Undeb (dynion a merched), Saethyddiaeth, Sboncen, Snwcer a Phŵl, Syrffio, Tenis/Tenis Bwrdd, Tonfyrddio, Trampolinio, Triathlon. Rhestr lawn: www.myfyrwyrbangor.com Gallwch gymryd rhan mewn chwaraeon eraill yn lleol.
28
29
SICRWYDD O LETY
CARTREFOL Mae’r sicrwydd o lety i holl israddedigion blwyddyn gyntaf* – yn ogystal ag ansawdd ein llety – yn fantais i fyfyrwyr Bangor. Fel Prifysgol rydym yn eich annog i wneud cais am le mewn Neuadd Breswyl oherwydd yn y fan honno y cewch y cyflwyniad gorau i fywyd prifysgol. Cewch gyfle mewn neuaddau i wneud ffrindiau newydd agos, i gyfarfod â phobl o wahanol gefndir ac i fwynhau ymdeimlad o gymuned.
"Mae byw mewn neuadd yn gyfle delfrydol i ddod i adnabod cyd-fyfyrwyr a chymysgu. Yn JMJ rydym fel un teulu mawr ac mae drws pawb yn agored unrhyw amser.” MARI ELEN HUGHES, o Ben Llŷn, sy’n astudio Cymraeg gyda Chymdeithaseg
WEDI EIN GOSOD Y GORAU YM MHRYDAIN AM ANSAWDD EIN LLETY Pa fath o lety sydd ar gael? Mae’r neuaddau i gyd yn hunan-arlwyol. Mae ceginnau yn ystafelloedd cymdeithasol a byddwch yn rhannu ceginnau gyda myfyrwyr eraill. Mae’r offer yn y ceginnau yn cynnwys cyfleusterau sylfaenol megis stofiau, rhewgelloedd ac oergelloedd. Mae angen i fyfyrwyr ddod â’u cyllyll a ffyrc, sosbenni a llestri eu hunain. Llety safonol (rhannu cyfleusterau): mewn llety hunan-arlwyol safonol fe geir ystafelloedd gwely preifat a rhannu cyfleusterau baddondy a chegin. Llety en-suite: yn y neuaddau mwy newydd ceir ystafelloedd gwely en-suite gyda chawod a thoiled preifat. Tai Tref: y nesaf peth i ddim at fyw yn eich tŷ eich hun. Rhannu un drws ffrynt gyda’ch ffrindiau. Gwych i grwpiau a myfyrwyr sy’n dychwelyd. Stiwdios: lle byw annibynnol i unigolion.
* Rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion blwyddyn gyntaf sengl sy’n ymgeisio o fewn yr adegau priodol.
30
31
CROESO I'R CAMPWS Mae’r ‘pentrefi’ myfyrwyr ym Mangor i gyd o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas a phrif adrannau’r Brifysgol – mae ein llety mor gyfleus fel na fydd raid i chi wario eich arian ar docynnau bws neu betrol i deithio’n ôl a blaen o’r neuaddau.
“Rydw i wir yn mwynhau byw yma – mae’r bobl mor gyfeillgar ac mae yma wastad rhywbeth i’w wneud. Mae byw mewn neuadd yn brofiad grêt – mae pawb yn ffrindiau da ac yn cymdeithasu gyda’i gilydd.” SIONED DAFYDD ROWLANDS, o Abertawe, sy’n astudio Cymraeg a’r Cyfryngau
PENTREF FFRIDDOEDD Mae’r pentref neuaddau mwyaf ym Mangor Uchaf ac mae tua 10 munud o waith cerdded o Ffordd y Coleg, Safle’r Gwyddorau a chanol y dref. Ar y safle hwn mae golchfeydd a lolfeydd myfyrwyr. Hefyd ar y safle mae Bar Uno, caffibar y myfyrwyr, sy’n darparu prydau bwyd a diodydd o frecwast drwy’r dydd tan swper, siop gyfleus i fyfyrwyr a Chanolfan Brailsford y ganolfan chwaraeon a hamdden. Ystafelloedd en-suite gan fwyaf sydd ar y safle yma.
PENTREF Y SANTES FAIR Mae’r pentref yma yn lle hynod gyfleus ar gyfer amrywiaeth o siopau ac mewn lleoliad canolog ar gyfer canol dinas Bangor. Mae hwn yn bentref newydd sbon gyda 600 o ystafelloedd, ac mae’r dewis o lety yn cynnwys fflatiau stiwdio a thai tref. Mae yno hefyd gaffi bar, siop, lle golchi dillad, ystafell ffitrwydd, lolfeydd myfyrwyr, ystafell sinema, gofod perfformio a cherddoriaeth a gofod gemau awyr agored. Edrychwch ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: www.bangor.ac.uk/llety
NEUADD JMJ Neuadd John Morris Jones yw dewis gartref y mwyafrif o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor a rhai sy’n dysgu’r iaith. Mae’n ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg, gan gynnig cymuned glòs a chyfeillgar i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru. Mae Neuadd John Morris Jones (neu JMJ i’r rhai sy’n byw yno) wedi ei lleoli mewn adeiladau modern ym mhentref Ffriddoedd gyda chyfleusterau en-suite, adnoddau o’r radd flaenaf a Bar Uno a chanolfan chwaraeon Brailsford gerllaw. Ceir bywyd cymdeithasol bywiog yn Neuadd JMJ gyda’r gweithgareddau, sy’n cael eu trefnu gan y myfyrwyr ac UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), yn cynnwys parti Nadolig, tripiau rygbi, gweithgareddau rhyng-golegol a thaith flynyddol i’r Iwerddon.
“Mae’r profiad o fyw mewn neuadd Gymraeg yn wych! Mae ‘na gymaint o gyfleoedd gwahanol ar gael ac mae pawb yn adnabod ei gilydd yno. Rydym fel un teulu mawr yn JMJ.” HANNAH DUNCAN, o Lanberis, sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon
32
33
BYW MEWN LLE
CYFFORDDUS
CYFLEUSTERAU SYDD AR GAEL
Campws Byw
Faint fydd hyn yn gostio?
Mae ein pentrefi myfyrwyr o fewn cyrraedd hwylus i siopau, tafarnau a chaffis o bob math lle bynnag y byddwch yn aros. Rydym yn darparu amrywiaeth o fannau bwyta sy’n agored i bawb. Mae’r rhain wedi eu lleoli ym mhentref Ffriddoedd (Bar Uno, Canolfan Brailsford a Siop Ffriddoedd), ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (Café Teras a Lolfa Teras), ym mhentref y Santes Fair (caffi a siop) ac yng nghanolfan Pontio (bar, ciosg, caffi a bwyty). Mae ein holl fannau arlwyo’n defnyddio nwyddau lleol a Masnach Deg lle bo’n bosib.
Trefnir rhaglen Campws Byw ar gyfer holl breswylwyr neuaddau’r Brifysgol. Ymysg y digwyddiadau mae caiacio, cerdded mynyddoedd, nosweithiau ffilm, digwyddiadau cerddorol, partion pitsa a gweithdai – ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Ewch i: www.campuslifebangor. co.uk neu www.bangor.ac.uk/campus-life
Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn llawer rhan arall o wledydd Prydain ac adlewyrchir hynny yn ffioedd y neuaddau. Cofiwch hefyd eu bod yn cynnwys yr holl filiau am fynediad i’r rhyngrwyd, gwres, trydan, dŵr poeth, aelodaeth Campws Byw a chwaraeon a hefyd yswriant cynnwys sylfaenol.
Mae ein dau bentref myfyrwyr â chyfleusterau chwaraeon a hamdden heb eu hail. Cafodd Canolfan Brailsford ei hail-ddatblygu’n ddiweddar, ar gost o sawl miliwn o bunnoedd, a cheir yno bellach 3 campfa, 2 neuadd chwaraeon, 2 stiwdio, wal ddringo a chyfleuster tennis a phêl-rwyd dan do. Ym mhentref y Santes Fair, mae ystafell ffitrwydd newydd sbon wedi’i lleoli ar y safle, yn ogystal â maes chwaraeon aml-ddefnydd helaeth yn yr awyr agored. Mae aelodaeth o’r gampfa wedi’i chynnwys gyda holl lety Prifysgol Bangor.
Mynediad rhyngrwyd Mae gan bob ystafell wely sengl gyswllt rhyngrwyd ond rhaid dod â’ch cyfrifiadur eich hun!
Wardeniaid a Diogelwch Mae gan y Neuaddau sawl Uwch Warden a nifer o Wardeniaid yn eu cynorthwyo. Y Wardeniaid sy’n gyfrifol am fywyd cymunedol, lles myfyrwyr a disgyblaeth. Maen nhw’n helpu gyda’r holl ofal bugeiliol ac yn helpu i feithrin ysbryd cymunedol cyfeillgar yn y Neuaddau. Hefyd, er bod Bangor yn lle diogel i fyw gyda chyfradd troseddau isel, mae Staff Diogelwch ar gael 24 awr y dydd.
Llety i rai gydag anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor Pan fyddwch yn gwneud cais dylech nodi unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor a allai effeithio ar y math o lety y mae arnoch ei angen. Bydd ein Cynghorwr Anabledd wedyn yn asesu eich achos a chynghori’r Swyddfa Neuaddau ynglŷn â’r llety y dylech ei gael. Mae nifer o ystafelloedd mewn rhai neuaddau wedi cael eu haddasu ar gyfer myfyrwyr anabl.
34
Mae ffioedd neuadd yn cael eu cyfrifo am y sesiwn academaidd lawn ond, fel llinyn mesur bras, mae ffioedd 2017 yn cyfateb i’r symiau wythnosol canlynol: • Rhannu cyfleusterau o £88 • Cyfleusterau en-suite o £115 • Stiwdios o £155
Sut allai gael mwy o wybodaeth? Ewch i wefan y Brifysgol www.bangor.ac.uk/bywyd myfyriwr a'r tudalennau Llety: www.bangor.ac.uk/llety
“Mae'r profiad o fyw mewn neuadd yn hwyl. Dwi byth yn teimlo'n unig! Mae'n gyfle gwych i ddod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau newydd.” NIA HÂF, o Lanrug, sy’n astudio Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau
35
EICH DYFODOL Cyflogadwyedd
CAM YMLAEN AT YRFA Fel myfyriwr yma, byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar yr amryw o raglenni datblygu gyrfa a gaiff eu cynnig, fel y gallwch ddechrau cynllunio’ch llwybr gyrfa mewn da bryd. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys cynlluniau cyfnewid, lleoliadau gwaith, cynlluniau interniaeth, gweithdai, cynlluniau gwyliau haf a chyfleoedd i wirfoddoli fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o’ch amser yma.
36
• Paratowch at eich dyfodol drwy wneud defnydd llawn o’r ystod eang o’r cynlluniau cyflogadwyedd a menter sydd ar gael • Casglwch bwyntiau am lawer o’r gweithgareddau yma tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor sydd wedi cael ei chynllunio i wella eich rhagolygon gyrfa • Gallwn eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser, trwy Rhagolygon Bangor • Rhowch hwb pellach i’ch rhagolygon gyrfa drwy gymryd rhan yn y Rhaglen Profiad Rhyngwladol, lle mae cyfle i astudio dramor am flwyddyn ychwanegol (gwelwch dudalen 42)
Beth bynnag bo’ch syniadau, mae staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i’ch helpu i wireddu’ch breuddwydion. O’r munud y cyrhaeddwch Fangor, byddwn yno i’ch cynghori a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am brofiad gwaith, swyddi yn ystod y gwyliau, gwaith amser tymor ac, wrth gwrs, eich helpu i nodi’r hyn a wnewch ar ôl graddio. Byddwn yn parhau i’ch cefnogi am dair blynedd ar ôl graddio. Mae datblygu eich medrau personol a’ch medrau cyflogadwyedd ochr yn ochr â’ch gradd yn dod yn fwyfwy pwysig i ddarpargyflogwyr. I wella eich cyflogadwyedd rydym yn cynnig rhaglen sy’n cynnwys arweiniad unigol, gweithdai a chyflwyniadau gan gyflogwyr. I ychwanegu at ein gwasanaethau, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol sy’n darparu profiad gwirfoddol, rhan-amser yn lleol, gwaith dros yr haf a lleoliadau sy’n seiliedig ar brojectau. Mae nifer o’r Ysgolion academaidd hefyd yn cynnal digwyddiadau i gefnogi cyflogadwyedd. Mae Ysgol y Gyfraith, er enghraifft, yn cynnal Ffair y Gyfraith yn flynyddol i ddangos y cyfleon gwaith amrywiol sydd ar gael i’w graddedigion; ac mae’r Ysgol Seicoleg yn cynnal diwrnod cyflogadwyedd i ddangos sut y gall y sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu hennill wrth ddilyn cwrs gradd yn yr Ysgol fod yn berthnasol i amrywiaeth o yrfaoedd.
Rhagolygon Bangor Rhagylogon Bangor yw gwasanaeth cyflogaeth y Brifysgol. Rydym yma i’ch helpu i gael hyd i waith yn ystod y tymor, gwaith gwyliau ac, yn bwysicaf oll, cyfleoedd i raddedigion, yn genedlaethol ac yn lleol. Rydym hefyd yn hysbysebu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, interniaethau a gwaith gwirfoddol. Gellwch weld y wybodaeth ar-lein, neu alw heibio i gael cymorth a chyngor.
37
YMESTYN EICH PROFIADAU A'CH SGILIAU Cynlluniau Profiad Gwaith
Cynllun Arweinwyr Cyfoed
Mae Profiad Gwaith yn ffactor hanfodol mewn cael cyflogaeth yn y dyfodol i raddedigion. Rydym yn cydnabod hyn drwy roi cyngor a gwybodaeth i chi am amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a’r gwyliau, a hyd yn oed yn cyflwyno rhaglen o leoliadau gwaith gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Mae bod yn Arweinydd Cyfoed yn cynnig cyfle delfrydol i chi gymryd rhan lawn ym mywyd myfyriwr yn ogystal â’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau trefnu. Mae cyflogwyr graddedigion yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r sgiliau byddwch yn eu hennill drwy fod yn Arweinydd Cyfoed.
Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau agos â chwmnïau mawr fel banc Santander a Siemens ac mae cytundeb swyddogol wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar â chwmni Pŵer Niwclear Horizon (sy’n rhan o’r cwmni byd-eang Hitachi).
Rhaglen Byddwch Fentrus Mae’r Rhaglen yma’n rhoi hyfforddiant a chefnogaeth ym myd busnes i ddarpar entrepreneuriaid. Bydd y rhaglen yn eich helpu i ystyried hunan-gyflogaeth a pharatoi ar ei chyfer. Byddwch yn dysgu sut i rwydweithio, meddwl yn greadigol, hyrwyddo eich hun neu gynnyrch yn effeithiol.
Gwirfoddoli Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i drefnu profiad gwirfoddol a chyfleon gyda Chlybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau recriwtio i fudiadau lleol ac yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill ar ein Rhagolygon Bangor.
38
GWOBR CYFLOGADWYEDD BANGOR Cynlluniwyd Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r wobr yn gweithio gydag Ysgolion academaidd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr Bangor, a hefyd gyda sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae cynllun GCB yn cydnabod eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau sy’n datblygu’ch sgiliau a’ch galluoedd tra ydych ym Mhrifysgol Bangor. Bydd GCB yn eich cynorthwyo i sylweddoli eich potensial i fod yn gyflogadwy, a’ch atgoffa o’r angen i fanteisio ar bob cyfle sy’n codi er mwyn datblygu eich sgiliau a chi’ch hunan.
Cyngor Gyrfaoedd Ar-lein Oherwydd ein bod yn sylweddoli bod angen yn aml i fyfyrwyr gael cyngor gyrfaoedd ar fyr rybudd, rydym yn cynnig cyngor ar-lein i ategu ein darpariaeth arferol.
Gall cymryd rhan lawn yn y cynllun hwn wneud gwahaniaeth mawr i’ch perfformiad ym marchnad swyddi graddedigion y dyfodol.
Cynllun Interniaeth Prifysgol Bangor Dyma gyfle i chi gael profiad gwaith (efo cyflog) o lefel graddedig, yn adrannau ac Ysgolion academaidd y Brifysgol. Bydd y math o waith yn waith project, yn amrywio o farchnata, dylunio gwe, neu broject ymrwymiad myfyrwyr, i gefnogi project ymchwil, gwaith maes, neu reoli data.
Ieithoedd i Bawb Mae cyfle i chi ddysgu iaith newydd, neu wella’ch sgiliau iaith drwy’r rhaglen Ieithoedd i Bawb sy’n cynnig dosbarthiadau nos am ddim i fyfyrwyr Bangor. Gallwch ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg (Mandarin) a Japanëeg. Gall y modiwlau iaith hyn gyfrannu pwyntiau at Wobr Cyflogadwyedd Bangor a bydd meddu ar sgiliau iaith ychwanegol yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd.
“Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn cynnig cyfleon gwych fel gwirfoddoli a helpu’r gymuned.” MARTHA CORDINER, o Ddinbych,sy’n astudio Cymraeg ac Astudiaethau Plentyndod
Mae GCB yn cynnig achrediad ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac allgwricwlaidd (e.e. gwirfoddoli, profiadau gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd) efallai nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn y rhaglen radd academaidd, ond sy’n werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion. Gall ymddangos ar eich Adroddaid Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR). Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag aelod o dîm GCB: Ffôn: 01248 382071 E-bost: cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
39
LLEOLIADAU GWAITH A PHROFIADAU MYFYRWYR Gyda’r amryw o raglenni datblygu gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr, byddwch yn gallu cynllunio ar gyfer eich gyrfa mewn da bryd. Dyma brofiadau rhai o’n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith, interniaethau a Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Bangor.
“Dwi’n falch iawn fy mod i wedi cymryd y cyfle i wirfoddoli ar y project hwn. Mae wedi cynnig profiadau newydd i mi, a dwi’n sicr yn fwy hyderus o sylweddoli fy ngallu i hwyluso gweithgareddau gyda phobl ifanc. Nid yw’r project wedi cymryd llawer o’m hamser hamdden ac mae digon o amser ar ôl i ganolbwyntio ar waith gradd. Roeddwn yn gweld y project hwn yn un hwyliog ac yn rhywbeth roeddwn yn edrych ymlaen at fynd iddo’n wythnosol. Byddwn yn sicr yn annog unrhyw un sy’n ystyried rhoi cynnig arni i fynd amdani!” KIMBERLEY ROBERTS, bu’n gwirfoddoli gyda phroject ‘Profi’ o dan faner Pontio, yn ymwneud â herio pobl ifanc i edrych ar broblemau sy’n wynebu eu cymuned a’u datrys
“Mae gweithio tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor wedi fy ysgogi i i feddwl pa sgiliau penodol rwyf wedi eu cyflawni trwy weithgareddau allgyrsiol. Rwy’n gadael yn teimlo’n galonogol bod Prifysgol Bangor wedi cydnabod fy ymrwymiadau eraill ac nid yn unig fy ngwaith academaidd.” CYN-FYFYRIWR, a gymerodd ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor
40
“Teimlaf mai’r peth gorau am astudio ym Mangor yw fod llawer o gyfleoedd academaidd ac all gyrsiol yma. Mae’r wobr Cyflogadwyedd sy’n cael ei chynnal yma yn rhywbeth i’w chanmol am ei bod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynychu gweithdai sydd o fudd ar gyfer y dyfodol pan yn wynebu cyfweliadau neu’n paratoi CV.” ELIN OWEN JONES, o’r Efailnewydd, sy’n astudio Cyfrifeg a Chyllid BSc
"Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor o fudd mawr a dwi'n gobeithio ennill mwy o bwyntiau. Bydd hyn, heb os, yn fantais i mi wrth ymgeisio am swydd yn y dyfodol.” STEFFAN NICHOLAS, o Gaerfyrddin, sy’n astudio Addysg Gynradd
"Yr uchafbwynt i mi yw cyfarfod criw arbennig iawn o ffrindiau a phobl ifanc drwy fod yn rhan o Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor. Mae wedi agor cymaint o ddrysau ac wedi fy siapio fel person. Dyma’r peth gorau am fod ym Mangor - mae’r holl staff yn Gwrfoddoli Myfyrwyr Bangor yn bobl arbennig iawn, sydd o hyd yn barod eu cymwynas.” LORA LEWIS, o Bwllheli, sy’n astudio Cymraeg
“Ar hyn o bryd dwi’n treulio lot o amser yn Llundain yn gwneud fideos hyrwyddo. Er enghraifft, efo’r gwaith i Nikon, ro’n i yn dilyn ffotograffydd oedd yn defnyddio un o’u camerâu nhw i dynnu lluniau o feysydd parcio! Ond, faswn i ddim wedi cael y gwaith yna heb y ffilm a wnes i ar gyfer fy ngradd.” ANDREW PRITCHARD, cyn-fyfyriwr Astudiaethau’r Cyfryngau, sy’n sicr mai’r ffilm a wnaeth i hyrwyddo Eryri fel rhan o’i gwrs gradd a barodd iddo gael pob math o waith tra yn y Brifysgol ac ar ôl iddo raddio
41
ASTUDIO DRAMOR Mae Bangor yn cynnig y cyfle am gyfnewid a lleoliad gwaith ledled Gogledd America, Awstralia, Ewrop a’r Dwyrain Pell. Yn ystod eich amser yma cewch gyfle i astudio dramor fel rhan o’ch rhaglen radd. Gyda prifysgolion sy’n bartneriaid i ni ledled Ewrop, Gogledd America, Awstralia a’r Dwyrain Pell, rydym yn cynnig rhaglen profiad rhyngwladol heb ffiniau.
Medrwch dreulio rhwng 3 a 12 mis yn astudio yn ystod eich ail flwyddyn a bydd eich gwaith yn cyfrannu at eich gradd. Mae gennych hefyd y cyfle i gymryd blwyddyn allan ar ein rhaglen Profiad Rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr sy’n dilyn yr opsiwn yma yn astudio dramor am un flwyddyn ychwanegol, yn elwa o ddewis llawer mwy eang o leoliadau a bydd ‘gyda phrofiad rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eu gradd. Mae’n gyfle gwych i astudio gydag arbenigwyr, gweld ffordd wahanol o fyw, ehangu eich gorwelion ac, wrth gwrs, gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa.
Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfnewid o fewn Ewrop yn cael ei gefnogi gan y Comisiwn o’r Cymunedau Ewropeaidd o fewn y fframwaith o’r rhaglen Erasmus ac mae gennym gytundebau â 100 o Brifysgolion mewn 20 gwlad. Rhoddir grant i fyfyrwyr sy’n cyfranogi i gynorthwyo â chostau teithio a byw. Efallai y bydd gennych hefyd ddiddordeb yn ein rhaglenni haf yn Ne Corea a China.
ENGHREIFFTIAU O BYNCIAU A’U LLEOLIAD Addysg: Awstria a’r Ffindir
Bancio a Chyllid: UDA
Bioleg: UDA a Ffrainc
Cemeg: Portiwgal a Ffrainc
Coedwigaeth: Canada a’r Ffindir
Cymdeithaseg: Yr Almaen a’r Ffindir
Gwyddorau Eigion: Gwlad Belg, Denmarc ac UDA
Ieithoedd Modern: Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Sbaen
Ieithyddiaeth: Sbaen a’r Almaen
Seicoleg: Yr Iseldiroedd a’r Almaen Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio dramor, bydd cyd-drefnydd y cyfnewidiadau yn eich Ysgol chi a’r Swyddog Cyfnewidiadau Rhyngwladol yn barod iawn i roi gwybodaeth i chi yn ystod eich semester cyntaf ym Mangor. Mae gwybodaeth ychwanegol am ein holl bartneriaid a chyrchfannau ar gael ar ein gwefan: www.bangor. ac.uk/cyfnewidiau
BYD O
GYFLEOEDD 42
Os gwelwch y logo yma ar y dudalen, mae’n dynodi bod cyfle i gael profiad rhyngwladol os byddwch yn dilyn y cwrs hwnnw/cwrs yn yr Ysgol.
Astudiwch ym Mharis, UDA, Seoul, neu yn Ne Corea fel rhan o'r rhaglen astudio dramor dros yr haf.
43
CEFNOGI EIN MYFYRWYR
Ym Mangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu gofal a chefnogaeth i fyfyrwyr. O’r adeg pan gyrhaeddwch yma, cewch gymaint o gymorth a chefnogaeth ag y bo modd gyda materion iechyd a gofal yn ogystal â gwaith academaidd. Wythnos Groeso
Arweinwyr Cyfoed
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a chyfarfod pobl newydd, rydym yn trefnu Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd.
Mae Bangor yn adnabyddus am y croeso cynnes a gynhigir i fyfyrwyr newydd, ac mae llawer o hyn oherwydd ein Cynllun Arweinwyr Cyfoed. Mae’r Cynllun wedi derbyn cydnabyddiaeth cenedlaethol a chafodd ei roi ar rhestr fer y Times Higher Education am Wobr Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr.
Bydd nifer o ddigwyddiadau adloniadol a chymdeithasol wedi eu trefnu i’ch cynorthwyo i gyfarfod â myfyrwyr eraill. Byddwch yn mynd i gyfarfod sy’n eich croesawu’n swyddogol i’r Brifysgol, byddwch yn dewis eich modiwlau ac yn dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr. Cynhelir Ffair Wythnos Groeso dros ddau ddiwrnod er mwyn i chi ddod i wybod am yr holl weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon sydd ar gael, fel clybiau cerdded a Chlwb Cymru. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a mwynhewch! Bydd arweinwyr cyfoed o’ch Ysgol academaidd yn eich helpu i ddod adnabod y brifysgol yn ystod yr wythnos ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol i’ch helpu i gwrdd â myfyrwyr eraill ac ymgartrefu.
44
Mae ein holl Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr gan mai hwy yw’r bobl orau i’ch helpu i ymgartrefu. Wedi’r cwbl, does dim cymaint â hynny ers iddynt hwythau fod yn fyfyrwyr newydd. Mae ein holl Arweinwyr Cyfoed wedi cael eu hyfforddi ac maent yno i helpu myfyrwyr newydd i setlo, i drefnu gweithgareddau cymdeithasol, ac i fynd â myfyrwyr newydd o gwmpas y campws. Byddwch yn gweld llawer ar eich Arweinwyr Cyfoed yn ystod yr Wythnos Groeso, ond nid dyna ddiwedd y mater. Byddant wrth law am gyhyd ag y byddwch yn teimlo bod arnoch angen ychydig bach o help. Ac wrth reswm, unwaith y byddwch wedi ymgartrefu, efallai y byddwch chithau â’ch bryd ar ddod yn Arweinydd Cyfoed.
“Rwyf wedi cael cefnogaeth gan fy Nhiwtor Personol a’m Harweinydd Cyfoed. Roeddynt wastad yno i gynnig cymorth ac yn barod i wrando ar unrhyw achlysur.” LIAM EVANS, o Hen Golwyn, sy’n astudio Cymraeg a Hanes
“Ar fy niwrnod cyntaf ym Mangor, daeth Arweinwyr Cyfored i’m croesawu. Am yr wythnos gyntaf, roedd criw ohonom yn cerdded i’r darlithoedd gyda’n gilydd. Rydw i hefyd yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy Nhiwtor Personol sy’n ddefnyddiol iawn.” GWEN ALAW WILLIAMS, o Lanberis, sy’n astudio Cymraeg
“Mae'r Brifysgol yn gefnogol iawn o'i myfyrwyr. Mae pob math o gefnogaeth ar gael yma, boed efo gwaith neu yrfaoedd. Bu'r Arweinwyr Cyfoed o help mawr i mi gan sicrhau fy mod i'n hapus yma yn ystod fy wythnosau cyntaf. Mae fy Nhiwtor Personol hefyd yn gefnogol ac yn sicrhau fy mod yn hapus gyda fy ngwaith.” ELAIN ELIS, o Abergele, sy’n astudio Cymraeg
45
GWASANAETHAU MYFYRWYR Rydym yn awyddus i chi fwynhau eich cyfnod ym Mangor, ac yn sylweddoli efallai y bydd arnoch angen cefnogaeth i ddatrys rhai problemau personol a all godi. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig y canlynol i’ch helpu: • Gwasanaeth cynghori cyfrinachol yn gwbl rad ac am ddim. Gallwch wneud apwyntiad neu galwch i mewn. Bydd gennych hefyd Diwtor Personol ac mae Warden ym mhob neuadd breswyl sydd yno i ofalu amdanoch. • Mae cynghorwyr iechyd meddwl yn cynorthwyo myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau a gallant nodi ffynonellau cymorth a chefnogaeth. • Person cyswllt penodol i fyfyrwyr o ofal o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr. • Cynghorydd i’ch helpu os ydych yn sâl neu os ydi eich amgylchiadau’n newid a chithau’n gorfod rhoi’r gorau i’ch astudiaethau dros dro. • Meddygfeydd dyddiol penodol gyda phractis meddygon teulu. • Cynghorwr ar gyfer myfyrwyr tramor a all helpu gyda materion sy’n ymwneud â chysylltu ag adrannau’r Brifysgol a staff, neu aelodau’r cyhoedd a mudiadau lleol. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau amrywiol er mwyn gwella sgiliau myfyrwyr yn yr iaith Saesneg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:
• Mae Tîm y Gaplaniaeth ar gael i gefnogi holl aelodau’r Brifysgol, waeth beth yw eu daliadau crefyddol.
Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
• Mae mentoriaid astudio yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr ar sail anghenion unigol.
Ffôn: 01248 382024
46
E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr
47
GWASANAETHAU ANABLEDD I FYFYRWYR Ni fydd pawb sy’n defnyddio Gwasanaethau Anabledd yn meddwl amdanynt eu hunain fel person anabl, neu fel rhywun ag ‘anabledd’. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio’r term hwn i gynnwys y rhwystrau mae myfyrwyr yn eu hwynebu gydag amrywiaeth eang o namau corfforol a synhwyraidd, cyflyrau iechyd hir-dymor, anawsterau iechyd meddwl, ac anawsterau dysgu penodol fel dyslecsia neu ddyspracsia. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth proffesiynol, cyfeillgar, ac rydyn ni wedi cael adborth rhagorol gan fyfyrwyr. Mae gan bob Ysgol academaidd o fewn y Brifysgol Diwtor Anabledd enwebedig hefyd, sy’n aelod staff academaidd. Caiff Cynlluniau Cefnogi Dysgu eu llunio rhwng myfyrwyr, eu Hysgol academaidd a Gwasanaethau Anabledd, i nodi gofynion unigol, ac i sicrhau bod trefniadau priodol mewn lle.
Asesu Anawsterau Dysgu Gall myfyrwyr nad ydynt wedi cael asesiad blaenorol am ddyslecsia, dyspracsia neu anawsterau sylwol gael asesiad sgrinio anffurfiol. Mae Prifysgol Bangor yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr anabl gan anelu at ddarparu cyfle cyfartal i bob myfyriwr. Rydym yn eich cynghori i roi tic yn y bocs perthnasol mewn perthynas ag anabledd ar eich ffurflen UCAS fel y gallem drafod eich gofynion gyda chi.
Canolfan Asesu Bangor Mae gennym Ganolfan Fynediad sydd wedi’i hen sefydlu, a gallwn wneud asesiadau anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA). Gall y lwfansau hyn helpu i gwrdd ag unrhyw gostau cwrs ychwanegol o ganlyniad i anabledd.
Myfyrwyr gyda thrafferth symud Os oes gennych drafferth symud, fe’ch cynghorir i ddod draw i’r Brifysgol lle bydd yn bleser gan staff eich tywys o amgylch. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Am wybodaeth bellach: Gwasanaeth Anabledd, Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Isaf, Neuadd Rathbone, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF E-mail: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethanabledd
Esiamplau o’r hyn y gallwn ei wneud i chi 48
Esiamplau o'r hyn y gallwn ei wneud i chi • Eich cynghori ar strategaethau er hwyluso astudio a thasgau beunyddiol • Cynorthwyo i drefnu yn ôl gofynion penodol ar gyfer arholiadau e.e. amser ychwanegol • Gweithio’n agos â’r Tiwtor Anabledd yn eich Ysgol academaidd • Trefnu benthyg offer e.e. recordydd digidol • Trefnu mynediad i Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol gyda chyfrifiaduron, a meddalwedd technoleg gynorthwyol • Eich cynorthwyo i wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl • Darparu gweithwyr cynnal, er enghraifft mentoriaid a chynorthwywyr ymarferol • Trefnu darparu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain • Cysylltu â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol i drafod darparu cymorth gofal personol • Rhoi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr dyslecsig, dyspracsig ac AD(H)D • Cyngor unigol gan diwtoriaid / mentoriaid arbenigol gyda gwaith cwrs, gyda datblygu sgiliau astudio annibynnol, a chyda threfnu – rheoli amser a llwyth gwaith a straen.
49
Canolfan Sgiliau Astudio Yn ychwanegol at y cyngor a'r gefnogaeth y mae ysgolion academaidd yn ei gynnig, gall Canolfan Sgiliau Astudio Bangor helpu wrth ddechrau yn y brifysgol a gallant barhau i roi cefnogaeth i chi â'ch astudiaethau academaidd. Mae'r Ganolfan yn gweithio ochr yn ochr â staff academaidd er mwyn integreiddio sgiliau academaidd yn rhan o'r cwricwlwm ac mae’n darparu ystod o gyfleoedd dysgu i unigolion a grwpiau.
Mae’r Gefnogaeth Astudio yn cynnwys:
Apwyntiadau unigol i roi sylw i sgiliau ysgrifennu ac astudio Gallwch drefnu apwyntiad unigol gydag un o'n Hymgynghorwyr Astudio er mwyn trafod anghenion unigol ac i ganolbwyntio ar waith yr ydych yn ei wneud ar gyfer eich aseiniadau. Mae ein hymgynghorwyr yn cael eu cefnogi gan dîm o Fentoriaid Ysgrifennu i Gyfoedion sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol i weithio ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr wrth iddynt ysgrifennu aseiniadau academaidd.
• Tiwtor Personol i roi cyngor a chefnogaeth, yn ogystal ag adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd • Cefnogaeth ychwanegol gan y Ganolfan Sgiliau Astudio – sy’n cynnwys help efo ysgrifennu academaidd, adolygu, mathemateg ac ystadegau
Tiwtor Personol
• Adnoddau sy’n cefnogi pynciau penodol gan gynnwys llong ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, sganiwr MRI ac amgueddfa Byd Natur • Gwella cefnogaeth astudio’n barhaus, gan gynnwys uwchraddio gwerth £1.5 o ofodau dysgu ar hyd y campws • Buddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaeth y llyfrgell, gan gynnwys oriau agor 24/7 ar y prif safleoedd.
CEFNOGAETH
ASTUDIO YM MANGOR
50
Pan ddewch yn fyfyriwr, cewch Diwtor Personol sydd, fel rheol, yn aelod o’ch Ysgol academaidd. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch Tiwtor Personol trwy gydol eich cwrs, a bydd ef/hi yno i roi cyngor a chefnogaeth i chi ar faterion personol ac academaidd.
Apwyntiadau a galw heibio i drafod mathemateg ac ystadegau Mae ein gwasanaeth mathemateg ac ystadegau yn darparu cymorth wedi ei deilwra ar gyfer pecynnau a chysyniadau ystadegol, a hefyd cymorth gyda rhifedd sylfaenol. Mae sesiynau galw heibio ac apwyntiadau wedi eu trefnu ar gael.
Mae’r cyfarfodydd efo’ch Tiwtor Personol yn ffordd o gael adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd, i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich cwrs ac i wireddu eich llawn botensial. Yn ogystal â’r cyfarfodydd rheolaidd yma, gallwch ofyn i gael gweld eich Tiwtor Personol ar unrhyw adeg arall i gael cyngor a chefnogaeth. Bydd eich Tiwtor yn gwneud y gorau i’ch helpu neu, os oes angen, i’ch cyfeirio at aelod arall o staff neu wasanaeth am gefnogaeth neu arweiniad.
Gweithdai Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal rhaglen dreigl o weithdai. Mae'r pynciau'n cynnwys: meistroli'r broses ysgrifennu; dadansoddi gofynion tasgau; darllen yn feirniadol; defnyddio gwaith awduron eraill, datblygu eich ymchwil, a manteisio i'r eithaf ar arholiadau.
“Mae yna berthynas agos rhwng y Tiwtoriaid Personol (neu’r Brifysgol) a’r myfyrwyr... Rwy’n cael cyfarfodydd cyson gyda fy nhiwtor, sydd yn rhoi’r cyfle i drafod unrhyw faterion neu broblemau – boed ynglŷn â fy ngwaith neu ar lefel bersonol.”
Adnoddau ar-lein Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau astudio ac yn rhoi trosolwg o brif agweddau astudiaethau academaidd. Ar y safle mae canllawiau ynglŷn ag ysgrifennu, darllen ac ymchwilio'n academaidd, sgiliau cyfathrebu llafar, cynnwys cyfeiriadau ar ffynonellau, a sgiliau arholiadau. Cewch ragor o wybodaeth am y Ganolfan ar y wefan: www.bangor.ac.uk/sgiliauastudio
GRISIAL PUGH, o Ddinas Mawddwy, sy’n astudio Busnes
51
ADNODDAU DYSGU Adnoddau arbenigol ar gyfer I’ch helpu gyda’ch astudiaethau rydym Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau pynciau arbennig • M ae ein pedair llyfrgell yn darparu yn darparu amrywiaeth o adnoddau amgylchedd astudio deniadol sy'n cynnwys Mae gennym ystod o adnoddu dysgu eraill sy’n dysgu yn cynnwys cyfleusterau a gofodau dysgu distaw, cefnogi pynciau penodol. gwasanaethau Llyfrgell, Archifau, • Byddwch yn manteisio drwy fynediad hwylus Sgiliau Astudio, Cyfrifiaduro, Mae rhain yn cynnwys: at ein casgliad helaeth o lyfrau, cyfnodolion a • Canolfan Iaith amlgyfrwng Cyfryngau a Reprograffeg. Mae chronfeydd data ar-lein. Gellir mynd at y rhan gennym gyfleusterau TG helaeth fwyaf o adnoddau electronig 24/7. • Llong ymchwil sy’n rhoi profiad ymarferol o’r môr i chi eu defnyddio, pedair llyfrgell, • Yn ystod yr Wythnos Groeso byddwch yn cael cyfle i gyfarfod â’n staff a chael cyflwyniad cyfleusterau pwrpasol ym maes • Acwaria môr traofannol, môr tymherus a dŵr rhyngweithiol i’n gwasanaeth. croyw y Cyfryngau a Chanolfan Sgiliau • Ceir gwasanaeth wi-fi yn ein holl lyfrgelloedd, • Amgueddfa Hanes Anianol Astudio. Mae staff profiadol yma yn ogystal ag ystafelloedd cefnogi astudio, i’ch helpu i gael y budd gorau o’n • Sganiwr MRI gwerth £1.5M gydag offer technoleg gynorthwyol a hadnoddau yn ystod eich cyfnod ym boglynwyr Braille. • Gerddi Botaneg ar lannau’r Fenai Mangor. • Mae gan yr Archif a Chasgliadau Arbennig gasgliad pwysig o lawysgrifau, casgliadau archifol ac amrywiaeth o lyfrau a deunydd printiedig prin sy’n cael eu hystyried yn ddeunydd ymchwil a dysgu gwerthfawr yn fyd-eang.
• Ffarm gyda rhaglen ymchwil mewn cnydau, coedamaeth, a’r gwyddorau amgylcheddol. Gweler hefyd y tudalennau cwrs unigol am wybodaeth am gyfleusterau ac adnoddau pwnc-benodol.
TECHNOLEG GWYBODAETH
Recordio darlithoedd
fyMangor
Mae’r Gwasanaethau TG yn cynnwys diwifr a mynediad rhwydwaith cyflym ar y campws ac ym mhob neuadd breswyl a mynediad o bell i TG oddi ar y campws. Mae staff y Ganolfan Gymorth TG ar gael bob amser i roi cyngor, help a chefnogaeth gydag unrhyw beth yn ymwneud â TG.
Os yw darlithydd wedi dewis defnyddio’r system recordio darlithoedd Panopto, mae’r system yn recordio’r sain ynghyd â’r hyn sy’n ymddangos ar y cyfrifiadur (e.e. sleidiau PowerPoint). Caiff y data eu cadw a gellir ei gyhoeddi ar Blackboard, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol. Mae myfyrwyr yn defnyddio hwn i adolygu beth maent wedi’i ddysgu mewn darlithoedd.
Mae fyMangor yn rhoi mynediad ar-lein at wybodaeth a gwasanaethau i’ch cefnogi yn y Brifysgol. Trwy fyMangor gallwch:
Adnoddau TG Mae gennym nifer o ystafelloedd/mannau cyfrifiadurol ar draws y campws lle gellir mynd at rwydwaith y Brifysgol. Mae mynediad diwifr a socedi ar gyfer gliniaduron hefyd ar gael. Hefyd mae’r ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored am oriau hir ac am 24 awr y dydd mewn rhai achosion. Ceir cyfleusterau cyfrifiadurol arbenigol yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau a llyfrgell Deiniol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron sy’n cynnwys amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn y gellir newid eu huchder.
Dysgu ar-lein Mae Blackboard, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, ar gael i bob defnyddiwr ar y campws ac oddi ar y campws. Mae’n rhoi cefnogaeth ar-lein ychwanegol yn cynnwys nodiadau cwrs, byrddau trafod, hysbysiadau a llawer mwy.
Mynediad i’r Rhyngrwyd yn y Neuaddau Mae gan bob ystafell wely yn neuaddau Prifysgol Bangor fynediad di-wifr i’r rhyngrwyd (mae gan rai gysylltiad gwifr hefyd). Mae’r cyflymder yn cyfateb i fandeang domestig lleol.
• Gofrestru gyda’r Brifysgol a gweld eich amserlen a chalendr personol • Weld eich marciau a gawsoch a rhoi sylwadau ar fodiwlau rydych wedi’i astudio • Weld eich cyfrif ariannol gyda’r Brifysgol a mwy...
Mae’r Brifysgol drwy’r ‘Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol’ yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr anabl (a rhai gyda chyflyrau meddygol TG i Fyfyrwyr sy’n Byw mewn Neuaddau parhaus, anawsterau iechyd meddwl a ac oddi ar y Campws anawsterau dysgu sbesiffig. Gellir gwneud cais am y rhain ar-lein, ac unwaith y bydd y myfyriwr Mae llawer o feddalwedd y Brifysgol wedi’i osod ar y we a gellir ei ddefnyddio o rywle gyda a’r Gwasanaethau Anabledd wedi cytuno ar gynllun, mae cynlluniau cefnogi dysgu personol chysylltiad rhyngrwyd (e.e. e-bost a chalendr ar gael yn fyMangor, gan alluogi staff i helpu trwy gyfrwng Office 365, amgylchedd dysgu i ddarparu’r gefnogaeth y mae ar fyfyrwyr ei rhithiol Blackboard etc.) Gallwch hefyd gael hangen. mynediad oddi ar y campws at y rhan fwyaf o'r feddalwedd sydd ar rwydwaith y Brifysgol trwy Gwasanaeth i Fyfyrwyr Anabl ddefnyddio DesktopAnywhere heb orfod gosod meddalwedd arbennig ar eich cyfrifiadur - y Mae gan y Brifysgol Ganolfan Fynediad sy’n cyfan sydd ei angen arnoch yw cysylltiad rhoi Asesiad Anghenion Astudio i fyfyrwyr sy’n rhyngrwyd gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl dan gynllun y llywodraeth. Dan y cynllun hwn gall myfyrwyr gael offer a meddalwedd TG. A allaf fenthyca cyfrifiadur? Rydym yn cynnig gwasanaeth benthyca gliniaduron yn y Ganolfan Cymorth TG.
E-bost: access_centre@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 388101 www.bangor.ac.uk/access-centre
52
53
MYFYRWYR HŶN Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn a byddem yn gwneud ein gorau i’ch helpu a’ch cefnogi ynystod eich amser yma. Rydym yn deall eich bod, fel myfyriwr hŷn, ychydig yn wahanol i fyfyrwyr sy’n dod yma yn syth o’r ysgol. Efallai eich bod yn ystyried astudio yma’n llawn-amser, neu os ydych yn byw’n lleol, efallai bod astudio’n rhan-amser yn apelio. Ymysg y gwasanaethau a fydd o ddiddordeb i chi fydd y Cynghorydd Myfyrwyr hŷn yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, y cyngor a’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan yr Uned Cefnogaeth Ariannol, a’r gefnogaeth ym maes Sgiliau Astudio sy’n cael ei gynnig gan y Ganolfan Sgiliau Astudio (gwelwch dudalen 51). Mae rhai o’r gwasanaethau wedi cael eu hamlinellu yma, ond ewch i www.bangor.ac.uk/aeddfed am fwy o wybodaeth. Rydym hefyd yn eich annog i gysylltu â’r Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn am fwy o wybodaeth am yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr hŷn. Gwasanaethau Myfyrwyr Ffôn: 01248 383637 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk • Yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr mae Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn ar gael i gynnig cymorth gydag amrywiaetho faterion
"Dewisais Fangor oherwydd, fel myfyriwr hŷn gyda theulu ifanc, roedd mor gyfleus ac mae gan Brifysgol Bangor enw da... Rwy’n siŵr mai astudio fel myfyriwr hŷn oedd y ffordd orau i mi gan nad wyf yn credu fy mod yn barod i astudio ar y lefel hon pan oeddwn yn 17 oed.” EIRA WINROW, graddiodd gyda gradd gyd-anrhydedd dosbarth cyntaf, mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
54
• Mae gan Undeb y Myfyrwyr Seneddwr Myfyrwyr Hŷn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr hŷn yn cael eu cynrychioli • Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gweithdai ac adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod y broses o ddechrau yn y Brifysgol a symud ymlaen trwyddi • Gall yr Uned Cefnogaeth Ariannol roi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr hŷn.
Ariannu eich Astudiaethau Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, efallai byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol ychwanegol. Er enghraifft, gall myfyrwyr sy’n rhieni ac sy’n gymwys am gymorth ychwanegol gael Grant Gofal Plant neu Lwfans Dysgu i Rieni, ac mae hefyd grantiau ar gael i rai sydd ag oedolion sy’n ddibynnol arnynt.
Uned Cefnogaeth Ariannol Gwasanaethau Myfyrwyr Ffôn: 01248 38356/383637 E-bost: cefnogaethariannol@bangor. ac.uk
55
CYLLID MYFYRWYR
Rydym yn awyddus i’ch helpu cymaint â phosib efo materion ariannol – mae cyngor ar gael cyn i chi ymgeisio a thra rydych yn astudio yn y Brifysgol trwy’r Uned Cymorth Ariannol yn Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr o Gymru hefyd ar gael ar wefan www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ffioedd Dysgu
Myfyrwyr o Gymru
Nid yw’r ffi ddysgu ar gyfer 2018 wedi ei phennu eto felly fe’ch cynghorwn i fynd i’n gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf. £9,000 oedd y ffi ddysgu ar gyfer 2017.
Gall myfyrwyr o Gymru sy’n astudio am eu gradd gyntaf wneud cais am Fenythciad Ffi Ddysgu gwerth £9,000*, y byddwch yn dechrau ei ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn.
Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). I fyfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf, caiff y taliad ei ohirio nes ar ôl i chi raddio trwy Fenthyciad Ffi Ddysgu. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill dros £21,000 y flwyddyn. Caiff y Benthyciad Ffi Ddysgu ei dalu’n uniongyrchol i’r Brifysgol i dalu’r ffioedd ar eich rhan.
*ffigwr 2017
Talu eich Costau Byw
Uned Cymorth Ariannol Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG
Gall fod gan fyfyrwyr Prifysgol o Gymru hawl i dderbyn Benthyciad Cynhaliaeth (a gyfeirir ato weithiau fel Benthyciad Costau Byw) i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Daw’r arian hwn gan y llywodraeth drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae’n rhaid i’r benthyciad gael ei ad-dalu unwaith y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £21,000 y flwyddyn. Ar hyn o bryd, yn achos myfyrwyr o Gymru gall fod Grant Cynhaliaeth ar gael a roddir ar asesiad incwm eich cartref. Ar adeg printio’r prospectws, nid oedd y manylion wedi eu pennu ar gyfer 2018 felly ewch i’n gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf am Grantiau Cynhaliaeth 2018.
Gwybodaeth am Ffioedd a Benthyca Oherwydd bod y prospectws yma’n cael ei baratoi gryn amser ymlaen llaw, rydym yn eich cynghori i geisio’r wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd a benthyciadau. Cysylltwch ag:
Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0845 602 8845 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n werth cofio bod costau byw ym Mangor yn is yn gyffredinol nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith rhan-amser neu achlysurol yn ystod y gwyliau ac/neu adeg tymor i helpu gyda’u costau. Mae gennym ein swyddfa cyflogaeth myfyrwyr ein hunain (Rhagolygon Bangor) a all eich helpu i gael hyd i rywbeth addas (gweler tudalen 37).
56
57
BWRSARIAETHAU AC YSGOLORIAETHAU Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy’n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, rydyn ni’n awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr newydd. Bydd amrywiaeth o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael i rai’n dechrau ym Mangor yn 2018.
BWRSARIAETHAU Bwrsariaethau Bangor Bwriad y Cynllun Bwrsariaethau Bangor yw rhoi cymorth ychwanegol i rai o deuluoedd ar incwm is. Wedi ei seilio ar ffigyrau 2017/18, mae Bwrsariaeth Bangor yn golygu y gellwch dderbyn hyd at £3,000 mewn cymorth ariannol ychwanegol dros hyd eich cwrs.
Bydd eich hawl am Fwrsariaeth Bangor yn cael ei asesu fel rhan o’r broses o wneud prawf modd statudol ar ôl i chi lenwi’r ffurflen gais am gyllid myfyriwr am fenthyciadau a grant costau byw ayyb. Golyga hyn: • na fydd rhaid i chi wneud cais uniongyrchol i Fangor am un o’r Bwrsariaethau – byddwch yn ei dderbyn yn awtomatig a chymryd bod incwm eich cartref yn is na’r swm a nodwyd a’ch bod wedi darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar y ffurflen gais am gyllid myfyriwr gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Daw Bwrsariaethau Bangor ar ben grantiau cynhaliaeth y wladwriaeth a’r benthyciadau Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ac ar ben unrhyw un arall o fwrsariaethau’r bwrsariaethau ac ysgoloriaethau? Brifysgol mae hawl gennych chi i’w gael. Dyfernir y bwrsariaethau a gynigir yn y Brifysgol Ni fydd myfyrwyr sy’n derbyn taliadau • gan fod angen i chi lenwi ffurflen gais am bwrsariaethau eraill (e.e. GIG, Cyngor Iechyd a yn ôl meini prawf penodol – er enghraifft, gyllid myfyriwr bob blwyddyn, gallai swm Gofal Cymdeithasol) yn gymwys ar gyfer Cynllun dyfernir Bwrsariaethau Bangor i’r rhai sy’n unrhyw un o fwrsariaethau Bangor y mae gymwys ar gyfer bwrsariaeth o’r fath oherwydd Bwrsariaeth Bangor. hawl gennych chi i’w gael newid o flwyddyn i eu hincwm teuluol. Ar yr amod eich bod yn ateb flwyddyn hefyd. Mae’ch hawl i gael un o Fwrsariaethau Bangor y meini prawf ac wedi llenwi’r ffurflen briodol ar fel rheol yn dibynnu ar: gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr, dylech dderbyn y Bydd mwy o fanylion am Fwrsariaethau Bangor fwrsariaeth berthnasol yn awtomatig. • incwm eich cartref; yn ôl ffigyrau 2017/18, 2018/19 ar gael ar wefan y Brifysgol pan fydd y bydd pawb sydd ag incwm cartref o dan manylion wedi eu cadarnhau. Fodd bynnag, teilyngdod yw maen prawf y £40,000 yn cael bwrsari o naill ai £1,000 neu rhan fwyaf o’r Ysgoloriaethau a gynigir gan y £500 y flwyddyn gan y Brifysgol Brifysgol. Er enghraifft, gall y rhai sy’n rhagori Bwrsariaethau Cychwyn yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad y • y cwrs rydych chi’n ei astudio: mae’n rhaid i chi Mae Bwrsariaethau Cychwyn o £1,000 ar gael i’r Brifysgol ennill Ysgoloriaethau Teilyngdod fod yn astudio ar gwrs israddedigllawn-amser rhai sy’n dod i’r Brifysgol o ofal. gwerth hyd at £3,000. gyda ffi ddysgu lawn i’w thalu i’r Brifysgol. Nid oes rhaid talu’r bwrsariaethau yma yn ôl.
Bwrsariaethau Astudio trwy'r Gymraeg Mae’r cynllun bwrsariaethau yn golygu fod bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Bwrsariaethau ar gyfer 2018 ar gael ar wefan y Brifysgol pan fydd y manylion wedi eu cadarnhau.
58
YSGOLORIAETHAU
Ysgoloriaeth Chwaraeon
Ysgoloriaethau Academaidd
Mae Bangor yn cynnig cynllun ysgoloriaeth hael, Rydyn ni hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau gyda myfyrwyr israddedig newydd yn derbyn Chwaraeon (sy’n werth hyd at £3,000 y rhyw £100,000 bob blwyddyn. flwyddyn) mewn cynllun sy’n ceisio adnabod potensial a datblygu rhagoriaeth ym maes chwaraeon. Ni fydd yr ysgoloriaethau Ysgoloriaethau Mynediad ac chwaraeon wedi eu cyfyngu i unrhyw agwedd Ysgoloriaethau Teilyngdod arbennig ar chwaraeon nag i fyfyriwr ar Fel rhan o gynllun Ysgoloriaethau Mynediad unrhyw gwrs penodol. Fodd bynnag, fel rheol, Bangor, mae oddeutu 40 Ysgoloriaeth bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolion Deilyngdod o hyd at £3,000 yr un ar gael i’r rheiny sy’n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau fydd yn gallu cynrychioli Prifysgol Bangor yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Mynediad blynyddol y Brifysgol. Cholegau Prydain (BUCS).
Mae rhai o Ysgolion academaidd Bangor yn cynnig eu hysgoloriaethau eu hunain, er enghraifft: Cerddoriaeth, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, Cemeg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Fe gewch chi fanylion am yr ysgoloriaethau hyn yn uniongyrchol gan yr Ysgolion perthnasol.
I gael eich ystyried ar gyfer yr Ysgoloriaethau Teilyngdod ac Ysgoloriaethau Mynediad eraill, mae’n rhaid i chi:
E-bost: marchnata@bangor.ac.uk
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am Ysgoloriaethau Chwaraeon 2018, ewch i: www.bangor.ac.uk/ysgoloriaethchwaraeon
Ceir mwy o wybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau gan: Adran Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata Ffôn: 01248 383561/382005 www.bangor.ac.uk/bwrsariaethau
• lenwi ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad Ysgoloriaeth MA (15 Ionawr 2018 yw’r dyddiad cau ar gyfer Bydd myfyrwyr sy’n cychwyn ar gwrs BA yn Ysgoloriaethau Mynediad 2018) yr Ysgolion Ieithoedd a Diwylliannau Modern, • sefyll arholiad yn eich dewis bwnc (bydd yr Cerddoriaeth, Athroniaeth a Chrefydd, arholiad yn cael ei gynnal yn eich ysgol/coleg Cymraeg neu Lenyddiaeth Saesneg yn gymwys ar ddyddiad penodol ym mis Ionawr). ar gyfer Ysgoloriaeth MA. Bydd yr ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sydd wedi Mae Ysgoloriaethau Mynediad Bangor hefyd cwblhau gradd BA yn un o’r Ysgolion yn cynnwys nifer o ysgoloriaethau cronfeydd hyn ym Mhrifysgol Bangor; wedi ennill 2:1 neu ymddiriedolaeth, sawl ysgoloriaeth mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru’n eu dyfarnu, ac uwch, ac wedi cael lle ar raglen flwyddyn Meistr trwy Ddysgu yn un o’r Ysgolion uchod. Bydd ysgoloriaethau pwnc fel Ysgoloriaethau Ysgol myfyrwyr sy’n cael gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith, Ysgoloriaethau’r Ysgol Peirianneg Electronig, Ysgoloriaethiau’r Ysgol Cyfrifiadureg. cael eu heithrio’n awtomataidd rhag talu ffioedd dysgu ar gyfer yr MA tra bydd rhai sy’n graddio efo 2:1 yn derbyn gostyngiad awtomataidd ar eu ffioedd, ac yn talu ffioedd o £1,000 ar gyfer yr MA. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: cah@bangor. ac.uk
59
“Ges i’r ysgoloriaeth lawn sef £3,000 ac mae o wedi bod o fydd mawr i mi ar gyfer helpu prynu llyfrau a deunyddiau academaidd ac yn help gyda chostau byw.” RHIANNON WILLIAMS, o Gaerdydd, sy'n astudio Cymraeg
GWNEUD CAIS I ASTUDIO YM MANGOR GOFYNION MYNEDIAD
Isafswm Gofynion
SUT I WNEUD CAIS
Yr ydym wedi ymrwymo i ehangu cyfle i fynd i addysg uwch a byddwn yn derbyn myfyrwyr gydag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd.
Os ydych yn gwneud cais am gwrs gradd, yna dylai cyfanswm y pwyntiau gynnwys o leiaf dau GCE lefel A neu gymwysterau cyfatebol. Ar gyfer rhaglenni tystysgrif a diploma, fel rheol bydd arnoch angen o leiaf un lefel A neu gyfatebol neu ddau lefel AS neu lwyddiannau cyfatebol. Bydd gofynion mynediad manylach yn cael eu rhoi ar dudalen y cwrs unigol.
Yn achos pob cwrs addysg uwch llawn-amser dylech wneud cais ar-lein ar www.ucas.com Ffôn: 0371 468 0468.
Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun – gan asesu eich potensial i lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono. Bydd angen i chi feddu ar safon dda o lythrennedd a rhifedd. Yr ydym hefyd yn rhoi gwerth ar sgiliau TG a chyfathrebu da. Efallai bydd y Brifysgol yn gallu ymateb yn hyblyg i’ch cais os na fydd eich canlyniadau yn cyfateb yn union i delerau eich cynnig gwreiddiol.
Wrth gwblhau eich cais, dylech roi cod UCAS Am eglurhad llawn o system tariff UCAS, ewch i: Prifysgol Bangor Bangr B06 ynghyd â chod y cwrs a ffurf fer teitl y cwrs (e.e. N400 BA/AF www.ucas.com/ucas/undergraduate/ Cyfrifeg a Chyllid). Nodir y codau a’r talfyriadau gettingstarted/entry-requirements/tariff/ ar dudalennau perthnasol y prosbectws hwn ac new-tariffgol. ar wefan UCAS.
Cyrsiau Mynediad a derbyn yn hŷn Byddwn yn croesawu eich cais os ydych yn dilyn cwrs Mynediad a ddilyswyd. Yr ydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn fedr ddangos y symbyliad a’r ymrwymiad i astudio rhaglen brifysgol.
YSGOLORIAETHAU Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Prif Ysgoloriaethau’r Coleg Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgoloriaethau Cymhelliant Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn astudio o leiaf 120 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
I ymgeisio ar gyfer un o’r Ysgoloriaethau hyn ym Mangor, mae gofyn i chi sefyll ein arholiad Ysgoloriaethau Mynediad (manylion ar dudalen 59). Mae mwy o fanylion am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael ar: www.colegcymraeg.ac.uk
Bydd yr ysgoloriaethau hyn ar gyfer cyrsiau penodol mewn meysydd academaidd lle bydd modd astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar: www.colegcymraeg.ac.uk
“Eisteddais arholiad ysgoloriaeth Bangor ym mlwyddyn 13 a llwyddais i ennill ysgoloriaeth. Mae hyn yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn i mi tra’n fyfyriwr, yn enwedig i fyw arno, i brynu llyfrau ar gyfer fy nghwrs ac i dalu am rai o'r gweithgareddau di-ri sy’n cael eu cynnal gan UMCB.”
Mae cyfarwyddiadau llawn a hawdd eu dilyn ar lenwi eich cais ar-lein ar www.ucas.com.
Bagloriaeth Ryngwladol Fel rheol, dylech fod wedi cael y diploma llawn a gall cynigion amrywio yn ôl y cwrs yr ydych yn gwneud cais amdano.
Sicrhewch fod yr holl wybodaeth a roddwchi gefnogi eich cais yn gywir ac yn gyflawn. Bydd cynigion fel rheol yn cael eu seilio ar y wybodaeth yma a gall unrhyw fanylion anghywir neu esgeulustra annilysu’r cynnig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol: Y Swyddfa Dderbyniadau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2TF. Ffôn: 01248 383717 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk
ELINOR MAIR PRITCHARD, o Rosneigr, sy'n astudio Cymraeg
*Yn seiliedig ar wybodaeth ar gyfer mynediad yn 2017.
60
61
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Myfyrwyr Anabl
Pryd i wneud cais
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais?
Rydym yn annog myfyrwyr anabl i ymgeisio gan anelu at ddarparu cyfle cyfartal i bob myfyriwr. Os ydych yn anabl, neu gydag anghenion ychwanegol, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn wneud trefniadau priodol lle bo’r angen. Gall hyn gynnwys anghenion o ran llety, mynediad i adeiladau, gweithwyr cefnogi, neu addasiadau i addysgu ac asesu.
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Ar gyfer mynediad i’r Brifysgol yn 2018 dylai myfyrwyr wneud cais rhwng 1 Medi 2017 a 15 Ionawr 2018.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais gan UCAS, mae ein Swyddfa Derbyniadau’n gweithio’n agos â’r Ysgol academaidd berthnasol i ystyried a allwn wneud cynnig i chi; gall hwn fod yn amodol ar i chi gael graddau penodol yn yr arholiadau y byddwch yn eu sefyll. Yna bydd y Swyddfa Derbyniadau’n anfon manylion am y cynnig at UCAS a fydd, wedyn, yn rhoi gwybod i chi’n swyddogol am ein penderfyniad.
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd neu’r cyn gynted â phosibl i gael gwybod mwy ynglŷn â pha addasiadau fydd eu hangen efallai tra byddwch yma ym Mangor. Gwasanaethau Anabledd Ffôn: 01248 383620/382032 E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/ anabledd www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/ iechydmeddwl
Ceisiadau hwyr Bydd ceisiadau ar ôl y dyddiadau uchod yn dal i gael eu hystyried gan fod rhai lleoedd yn aml yn dal ar gael.
“Teimlaf fy mod wedi setlo yma yn dda iawn mewn cyfnod byr o amser ac mae’r diolch am hynny i’r myfyrwyr eraill a’m darlithwyr.” RHUN LLWYD DAFYDD, o’r Bala, sy’n astudio Cymraeg gyda Newyddiaduraeth
Ar ôl i chi gael cynnig lle, bydd yr Ysgol academaidd yn cysylltu â chi fel rheol gyda gwybodaeth bellach a’ch gwahodd i ymweld ag un o Ddiwrnodiau Ymweld i Ymgeiswyr UCAS a gynhelir rhwng Rhagfyr ac Ebrill. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â staff dysgu, cael taith amgylch Bangor a’r ardal gyfagos, a gweld y gwahanol gyfleusterau sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mangor. Hyd yn oed os byddwch eisoes wedi ymweld â Bangor, mae’n werth dod i’r Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr UCAS i gael mwy o wybodaeth yn hwyrach yn y broses derbyn. Os na fyddwch eisoes wedi ymweld â ni, bydd dod i Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr UCAS yn gyfle i chi, eich teulu a’ch ffrindiau gyfarfod â staff a myfyrwyr, cael mwy o wybodaeth am y cwrs gradd a ddewiswyd gennych, a gweld y Brifysgol a dinas Bangor. Os na ellwch ddod ar y dyddiau penodedig, byddwn yn barod iawn i drefnu ymweliad preifat. Ewch i www.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda, neu anfon e-bost at ymweliadau@bangor.ac.uk
62
63
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD A CHODAU UCAS Gallwch ddewis astudio dau bwnc er mwyn ennill gradd gyd-anrhydedd.
Astudiaethau Busnes a: Cymraeg
NQ26 BA/ABCH
Dyma restr o’r graddau cyd-anrhydedd y gellir eu hastudio’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Mae teitlau yn y Gymraeg ar gael drwy’r Gymraeg, tra dysgir teitlau Saesneg drwy’r Saesneg.
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid: Cymdeithaseg Cymraeg Psychology Polisi Cymdeithasol
X316 BA/APIC X321 BA/APC X320 BA/APIS X318 BA/APIPC
Astudiaethau’r Cyfryngau a: Cerddoriaeth
PW33 BA/MSMus
Cerddoriaeth ac: Astudiaethau’r Cyfryngau Athroniaeth a Chrefydd Creative Studies Creative Writing Cymraeg English Literature Film Studies Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Hanes a Hanes Cymru Italian (4 blynedd) Spanish (4 blynedd)
W3P3 BA/ACC VVW3 BA/PRM WW93BA/CStMus WW38BA/MusCW QW53 BA/MuW 32N6 BA/ELM WW36 BA/MusFS RW13 BA/MuFr WR32 BA/MuGe WV32BA/MuHWH WR33 BA/MuIt WR34 BA/MuSp
Cymdeithaseg ac: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Criminology and Criminal Justice Cymraeg Hanes Hanes Cymru Health and Social Care
X316 BA/APIC LM39 BA/SCr LQH5 BA/SWW LVJ1 BA/HSW LVH1 BA/SWWH LL3M BA/CHSC
Cymraeg ac: Cymraeg Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Athroniaeth a Chrefydd Cerddoriaeth Cymdeithaseg English Literature Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Hanes Hanes Cymru Italian (4 blynedd) Linguistics Polisi Cymdeithasol Sociology Spanish (4 blynedd) Sport Science Chinese
NQ26 BA/ABCH X321 BA/APC VVQ5 BA/PRW QW53 BA/MuW LQH5 BA/SWW 3Q5Q BA/CEL QR51 BA/WFr QR52 BA/GW QV51 BA/HW QVM2 BA/WHW QR53 BA/ItCy QQ15 BA/WL LQK5 BA/SPWW LQ35 BA/WS QR54 BA/SpCy CQ65 BA/SpSw T102 BA/CHCY
Gweler tudalennau yr Ysgolion unigol am ragor o fanylion: mae nifer o fodiwlau unigol ar gael yn y Gymraeg. Am yr holl raddau cyd-anrhydedd, edrychwch ar y prospectws ar-lein ar wefan y Brifysgol. Bydd teitl eich gradd yn dibynnu ar y pynciau yr ydych wedi dewis eu cyfuno (e.e. BA (Anrhydedd) Cymraeg a Hanes). Bwriwch olwg ar un o’r pynciau yr ydych am eu hastudio i weld pa bynciau eraill y gallwch eu cyfuno â’r pwnc hwnnw. Mae’r codau cwrs UCAS hefyd yn cael eu nodi. Y mae hefyd yn bosibl astudio pwnc ‘gydag’ un arall, mewn rhaniad ²/³ i ¹/³. Edrychwch ar y tudalennau cwrs am fanylion.
64
Hanes ac: Athroniaeth a Chrefydd Criminology and Criminal Justice Cymdeithaseg Cymraeg Economics English Literature Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Italian (4 blynedd) Polisi Cymdeithasol Spanish (4 blynedd)
YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH
VVV1 BA/PRH MVX1 BA/HCr LVJ1 BA/HSW QV51 BA/HW LV11 BA/HEc 3QV1 BA/ELH RV11 BA/HFr RV21 BA/HG RV31 BA/HIt LVK1 BA/SPWH RV41 BA/HSp
Hanes a Hanes Cymru a: Cerddoriaeth WV32BA/MuHWH Hanes Cymru ac: Athroniaeth a Chrefydd Cymdeithaseg Cymraeg Film Studies Polisi Cymdeithasol
VVV2 BA/PRWH LVH1 BA/SWWH QVM2 BA/WHW VP23/BA/WHFS LVL1 BA/SPWWH
Polisi Cymdeithasol ac: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Criminology and Criminal Justice Cymraeg Hanes Hanes Cymru Health and Social Care
X318 BA/APIPC LM49 BA/SPCr LQK5 BA/SPWW LVK1 BA/SPWH LVL1 BA/SPWWH LL54 BA/HSCSP 1
2
3
1 Astudio theori ac ymarfer cadwraeth rhywogaethau sydd dan fygythiad 2 Myfyrwyr yn mwynhau’r ymweliad maes â Tenerife 3 Dysgu Coedwigaeth ers dros 110 mlynedd
‘
Dros gyfnod o bedair blynedd, roeddwn yn llawn edmygedd o’r safonau a gyrhaeddwyd ar y cwrs hwn.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
‘
Roedd safon y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau a ddangoswyd gan y myfyrwyr yn glod i’r staff academaidd. Bydd [y graddedigion] yn cynnal enw da gradd o Fangor yn y byd coedwigaeth.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
65
GWYDDORAU BIOLEGOL
YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MEnvSci, MGeog, MFor a graddau gyda blwyddyn yn y man gwaith) Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • 128-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd, 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer MEnvSci, MGeog, MFor • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Am fanylion gofynion mynediad penodol (gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol), ewch i’n gwefan.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Cydlynydd Mynediad Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Ffôn: 01248 382281 e-bost: adnodd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/adnodd
66
CWRS BSc (anrhydedd) Cadwraeth gyda Choedwigaeth: BSc (anrhydedd) Cadwraeth gyda Choedwigaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Cadwraeth Amgylcheddol: BSc (anrhydedd) Cadwraeth Amgylcheddol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Coedwigaeth: MFor Coedwigaeth: BSc (anrhydedd) Coedwigaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BA/BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth: MGeog Daearyddiaeth BSc (anrhydedd) Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol: BSc (anrhydedd) Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Gwyddor yr Amgylchedd: MEnvSci Gwyddor yr Amgylchedd: BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth Amgylcheddol: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau cyfan gwbl Gymraeg ar gael yn yr Ysgol hon. Mae rhai o’n graddau yn cymhwyso ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac o ganlyniad mae’n bosib dilyn o leiaf 40 credyd neu rhwng 33% a 55% o’ch gradd yn y Gymraeg. Dyma rai o’r modiwlau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael: • Tiwtorialau Academaidd • Dadansoddi Data Amgylcheddol • Daearyddiaeth Ddynol • Methodoleg Maes • Dulliau Ymchwil a SGD • Datblygiad Cynaliadwy • Gwaith Maes • Project Anrhydedd • Materion Cyfoes yr Amgylchedd • Cynllun Rheoli INTERNATIONAL • Materion Amgylcheddol EXPERIENCE CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r Ysgol yn mynd i’r afael â rhai o’r prif faterion sy’n wynebu’r ddynoliaeth heddiw, sef cynhyrchu bwyd a deunyddiau diwydiannol INTERNATIONAL cynaliadwy, rheoli adnoddau cefn EXPERIENCE gwlad a gwarchod yr amgylchedd a’i gyfoethogi. Cewch gyfle i ymchwilio i’r ffordd mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn effeithio ar bobl, cynefinoedd, a pholisïau amgylcheddol lleol, cenedlaethol a byd-eang. Ceir rhaglen helaeth o ymweliadau maes lleol a theithiau
5DKD 5DLD D447 D448 D500 D512 D501 L700/F800 F801 C180 C183 F900 F850 F803/F804
astudio i ranbarthau eraill o Brydain ac Ewrop. Mae’r rhain yn ychwanegu at y dysgu mewn darlithoedd ac yn cyflwyno syniadau a chysyniadau newydd. Rydym yn credu bod ein cyrsiau yn eich paratoi’n drwyadl i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes cyffrous hwn. PAM DEWIS BANGOR? • Mae pynciau amgylcheddol wedi cael eu dysgu ym Mangor ers dros ganrif. • Mae ein staff yn meithrin ac yn datblygu cysylltiadau rhagorol â diwydiant a sefydliadau eraill. • Mae rhai rhaglenni yn eich galluogi i dreulio blwyddyn yn cael profiad gwaith buddiol mewn diwydiant, naill ai ym Mhrydain neu dramor. • Mae gennym fferm arbrofol lle gallwch dreulio amser yn gweithio ar broject o’ch dewis chi. • Mae gennym arbenigedd mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gydag ystafell gyfrifiaduron benodol ar ei gyfer. • Mae’r cyrsiau yn manteisio’n llawn ar ein lleoliad ardderchog, yn cynnwys arfordir a mynyddoedd gogledd Cymru, tirweddau dynodedig, treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog yr ardal.
Mesur pridd ar y cwrs maes yn Tenerife
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a rhai dewisol a fydd yn eich cyflwyno i’r pwnc yr ydych wedi ei ddewis cyn mynd â chi ymlaen i arbenigo yn y pynciau yr ydych yn ymddiddori ynddynt. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mae modiwlau’r Ysgol yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol, gwaith maes, seminarau a thiwtorialau. Bydd seminarau a thiwtorialau yn canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio, ac ar gefnogi deunydd a gyflwynwyd mewn darlithoedd. Mae’r awyrgylch anffurfiol yn aml yn annog trafodaeth fywiog am faterion cyfoes. Fel arfer rydym yn asesu 60% drwy waith cwrs a 40% drwy arholi. Mae’r rhan fwyaf o’n modiwlau’n defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor, sef Blackboard, sy’n caniatáu mynediad at adnoddau addysgu, dogfennau’r cwrs a nodiadau darlithoedd.
1
2
3
1 Myfyrwyr yn y labordy 2 Astudio gwyddorau’r môr 3 Marian Pye, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Sŵoleg
‘
Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dewis dod i astudio ym Mhrifysgol Bangor ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’r staff am draddodi darlithoedd gafaelgar a llawn brwdfrydedd..
’
SONNY CULKIN Myfyriwr graddedig mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth
‘
Mae’n amlwg bod myfyrwyr wedi mwynhau eu hamser ym Mangor. Roedd yr holl fyfyrwyr y gwnes i eu cyfweld yn canmol ansawdd y dysgu a’r gofal a ddarparwyd gan staff yr Ysgol Gwyddorau Biolegol... Mae’n amlwg bod gan y staff ymrwymiad pendant i ddarparu dysgu rhagorol ac maen nhw’n gofalu am eu myfyrwyr.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
67
GWYDDORAU EIGION
GWYDDORAU BIOLEGOL Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cewch y manylion llawn trwy ddarllen prospectws Saesneg y Brifysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn yn y prospectws Saesneg cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Cyrsiau BSc (anrhydedd) 3 blynedd a chyrsiau Meistr 4 blynedd: • 136-112 pwynt tariff yn cynnwys Bioleg ac fel rheol un pwnc gwyddonol arall o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Cyrsiau Meistr 4 blynedd: • Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar gyfer y cwrs Meistr ar ddiwedd blwyddyn 2. Am fanylion gofynion mynediad penodol (gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol), ewch i’n gwefan.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gweinyddwr Mynediad Ysgol y Gwyddorau Biolegol Ffôn: 01248 382527 e-bost: gwyddoraubiolegol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/bioleg
68
CWRS BSc (anrhydedd) Bioleg neu MBioleg BSc (anrhydedd) Swˆoleg neu MSwˆoleg BSc (anrhydedd) Swˆoleg gyda Chadwraeth neu MSwˆoleg (Cadwraeth) BSc (anrhydedd) Swˆoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid neu MSwˆoleg (Ymddygiad Anifeiliaid) BSc (anrhydedd) Swˆoleg gyda Swˆoleg Môr neu MSwˆoleg (Swˆoleg Môr) BSc (anrhydedd) Swˆoleg gyda Herpetoleg neu MSwˆoleg (Herpetoleg) BSc (anrhydedd) Bioleg gyda Biotechnoleg neu MBioleg (Biotechnoleg)
Hyd: 3 neu 4 blynedd C100 C101 C300 C301 C3L2 CD34 C3D3 C302 C350 C352 C304 C303 C511 C510
Darllenwch y prospectws Saesneg am fanylion y cyrsiau 4 blynedd.
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Gwyddorau Biolegol ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae’r modiwlau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg* canlynol ar gael: • Ymarferion Biolegol • Sgiliau Ymchwil* • Modiwl Tiwtorial • Medrau Biowyddoniaeth • Cyrsiau Maes • Traethawd Hir • Ehangu Gwyddoniaeth Yn ogystal, mae modd gwneud dosbarthiadau tiwtorial yn y Gymraeg yn ôl y galw, a gallwch drafod eich gwaith gyda darlithydd sy’n siarad Cymraeg. CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r cyrsiau ym Mangor wedi pwysleisio ehangder y Gwyddorau Biolegol, o ddynameg poblogaethau iINTERNATIONAL agweddau cellog a moleciwlar EXPERIENCE bywyd. Mae graddedigion Bangor mewn swyddi cyfrifol ledled y byd, gyda llawer ohonynt yn defnyddio eu gwybodaeth o’r gwyddorau biolegol. Bydd llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i wneud gradd uwch (MSc neu PhD) ac mae galw mawr INTERNATIONAL EXPERIENCE Wrth gwrs, mae lleoliad amdanynt. Bangor yn ei wneud yn lle delfrydol i astudio’r gwyddorau biolegol. Rydym yn manteisio yn llawn ar yr amgylchedd trawiadol.
PAM DEWIS BANGOR • Mae lleoliad Bangor yn ei wneud yn lle delfrydol i astudio bioleg – mae’r holl wahanol fathau o bridd a chreigiau, yr hinsawdd a’r dopograffeg – y môr a’r tir – yn rhoi nifer o gynefinoedd amrywiol, oll o fewn cyrraedd rhwydd ar gyfer astudiaethau maes. • Mae gennym ddarlithfeydd a labordai dysgu arloesol. • Mae’r wyddoniaeth gyfoes, sy’n rhan greiddiol o’n rhaglenni ymchwil, yn bwydo drwodd i’n dysgu. • Mae ein hymchwil yn cwmpasu anifeiliaid, planhigion a microbau; gydag arbenigedd ryngwladol mewn nifer o feysydd megis geneteg poblogaeth pysgod ac ymlusgiaid, ecoleg moleciwlar, bioleg dw ˆ r croyw, datblygiad niwronau, microbioleg amgylcheddol, bioleg nadroedd, bioleg moleciwlar planhigion, bioffiseg celloedd a chylchoedd nwyon tŷ gwydr. • Mae Bangor yn gartref i Gyfoeth Naturiol Cymru ac un o swyddfeydd rhanbarthol y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH). Mae gan y rhain, ynghyd â sawl cwmni lleol, gysylltiadau agos â’r Brifysgol a’r staff. • Mae un aelod o staff yn aelod gweithgar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe gewch eich annog i gadw a datblygu eich sgiliau Cymraeg. Mae’r cyrsiau Bioleg a Sŵoleg yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg.
Myfyrwyr Sw ˆ oleg yn y maes
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol yn ogystal â nifer o ddewisiadau yn ystod eich cwrs. Mae’r modiwlau a’r dewisiadau yn amrywio, yn dibynnu ar y cwrs. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd a sesiynau ymarferol, teithiau natur, projectau unigol, projectau grw ˆ p. Mae’r asesiad yn gymysgedd o arholiadau a gwaith ymarferol/gwaith cwrs (yn cynnwys project).
‘
Mae’r Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mangor yn un hynod o gref ac yn y maes rydw i’n diddori ynddo, sef Herpetoleg, mae yma ddarlithwyr ac ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac wedi gwneud gwaith hynod o ddylanwadol.
1
2
3
1 Arolwg plymio, arfordir yr Alban 2 Sŵoleg fertebratau morol 3 Tirfesur yn Nhalacharn
‘
Unwaith eto, rhaid canmol staff a myfyrwyr Bangor: myfyrwyr brwdfrydig, athrawon ymroddedig sy’n rhoi’r pwyslais ar ymchwil a chynnyrch o ansawdd uchel …
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
Rydw i’n mwynhau dysgu am yr amrywiaeth o organebau, ecoleg a geneteg. Rydw i’n hollol hapus gyda fy narlithwyr Cymraeg, yn enwedig gyda fy nhiwtor gan ei bod hi’n hollol gefnogol ac yn gadael i’w myfyrwyr wybod am gyfleoedd neu adnoddau a fydd yn help iddyn nhw wella yn y maes…
’
RHIANNON CARYS WILLIAMS BSc (MZool) Sŵoleg gyda Herpetoleg
69
CEMEG
GWYDDORAU EIGION Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd (BSc); 4 blynedd (MMBiol, MOcean, MMSci) GOFYNION MYNEDIAD: • 112-136 pwynt tariff ar lefel 3* ac fel rheol yn cynnwys A2 (neu gyfwerth) mewn dau bwnc gwyddonol (Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Daearyddiaeth, Daeareg neu Wyddor yr Amgylchedd) yn ogystal â Gradd C ar lefel TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl ac Iaith Saesneg neu Gymraeg. Sylwer bod A2 Bioleg yn hanfodol ar gyfer ein cyrsiau gradd Bioleg Môr. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Rydym yn eich cynghori i ddarllen y prospectws Saesneg neu edrych ar wefan y Brifysgol i gael manylion llawn gofynion mynediad ein holl raddau.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
CWRS Hyd: 3 neu 4 blynedd BSc (anrhydedd) Astudiaethau Amgylchedd y Môr: F710 BSc (anrhydedd) Bioleg Môr: C160 MSci Bioleg Môr: C167 BSc (anrhydedd) Bioleg Môr ac Eigioneg: CF17 MSci Bioleg Môr ac Eigioneg: F712 BSc (anrhydedd) Bioleg Môr a Swˆoleg: CC13 MSci Bioleg Môr a Swˆoleg: C169 BSc (anrhydedd) Bioleg Môr Gymhwysol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): C163 BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth Morol: F842 MSci Eigioneg Ffisegol: F734 BSc (anrhydedd) Eigioneg Ddaearegol: F650 MSci Eigioneg Ddaearegol: F652 BSc (anrydedd) Ffiseg Morol a Geoffiseg: F7F6 BSc (anrhydedd) Gwyddor Eigion: F700 BSc (anrhydedd) Swˆoleg Fertebratau Morol: C351 MSci Swˆoleg Fertebratau Morol: C168 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Gwyddorau Eigion ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae’r modiwlau cyfrwng Cymraeg canlynol ar gael: Blwyddyn 1 • Tiwtorial 1 • Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol • Bioleg Môr: Gwaith Ymarferol 1 Blwyddyn 2 • Cyfathrebu Gwyddoniaeth • Bioleg Môr: Gwaith Ymarferol 2 Blwyddyn 3 • Project Maes Tramor VIMS (UDA) • Project Maes Rhynglanw • Traethawd Hir Yn ogystal, mae staff academaidd sy’n siarad Cymraeg ar gael i’r INTERNATIONAL myfyrwyr EXPERIENCEhynny sy’n dymuno trafod eu gwaith yn anffurfiol yn y Gymraeg.
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Eigion
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382851 e-bost: gwyddoraueigion@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwyddoraueigion
DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd Daearyddiaeth ac Eigioneg Ffisegol BSc a Gwyddor Cadwraeth y Môr BSc yn cael eu cynnig 2018 yn ddibynnol ar gael eu dilysu. Ewch i’r wefan am y manylion diweddaraf.
70
CEFNDIR Y CYRSIAU Os ydych yn astudio gwyddoniaeth yn yr Ysgol bydd o leiaf un o’r canghennau gwyddor môr yn sicr o fod at eich dant. Yr Ysgol hon yw un o’r canolfannau prifysgol mwyaf ym Mhrydain sy’n dysgu gwyddorau môr, ac y mae’n un o’r rhai mwyaf yn Ewrop hefyd. Mae gan yr Ysgol ei llong ymchwil ei hun, sef y Prince Madog. Hon yw’r unig long fawr o’i bath sy’n cael ei defnyddio yn uniongyrchol gan brifysgol ym Mhrydain. Bydd ein dewis o gyrsiau gradd yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd. PAM DEWIS BANGOR? • Ein Hysgol ni yw’r fwyaf ym Mhrydain sy’n dysgu gwyddorau môr, ac mae’n un o’r rhai mwyaf yn Ewrop. • Rydym wedi ein lleoli ychydig fetrau o’r môr, sy’n wych ar gyfer datblygu medrau casglu gwybodaeth yn yr aberoedd, ar lan y môr, ac ar y môr. Mae lleoliad y Brifysgol hefyd yn addas iawn ar gyfer astudio amgylcheddau naturiol eraill gan fod Parc Cenedlaethol Eryri wrth law. • Mae gan ein graddedigion hanes arbennig o dda o ran cyflogaeth – mae eu medrau yn amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
1
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn nifer o fodiwlau gorfodol a phynciau dewisol a gymerir o restr eang. Mae cynnwys y modiwlau a’r dewisiadau yn dibynnu ar y cwrs gradd. Am fwy o fanylion ar gynnwys y modiwlau, darllenwch brospectws Saesneg y Brifysgol. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, gwaith ymarferol, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, aseiniadau, gwaith maes. Mae asesiad yn cynnwys arholiadau, gwaith ymarferol a gwaith project.
Mae pob cwrs (heblaw Gwyddor Eigion BSc) ar gael gyda blwyddyn ychwanegol, i’w threulio mewn prifysgol dramor. Bydd disgwyl i chi astudio pynciau sy’n gyffelyb i’ch cwrs ym Mangor. Bydd hyn yn ychwanegu blwyddyn at hyd eich cwrs.
2
1 Myfyrwyr Israddedig Cemeg yn y labordy 2 Mae microsgop yn declyn pwysig ar gyfer dadansoddi deunyddiau uwch
‘
Y prif reswm pam i mi ddewis Bangor oedd y cyfle i allu astudio rhan o’m cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefais fy mhlesio gan yr hyn a oedd gan yr Ysgol Cemeg i’w gynnig ar y Diwrnod Agored ac roeddwn yn teimlo’n rhan o’r Ysgol cyn gynted ag y cyrhaeddais. Rwy’n mwynhau’r cwrs, yn enwedig y sesiynau ymarferol yn y labordy... Rwyf hefyd yn mwynhau cydweithio â myfyrwyr eraill mewn tiwtorialau. Mae’r darlithoedd yn ddiddorol a chyfleusterau’r labordai yn wych!
’
SARA MENAI STOCKWELL Myfyrwraig yn yr Ysgol Cemeg
‘
’
Mae’r Ysgol yn drefnus ac effeithlon ac yn darparu rhaglen ardderchog mewn Cemeg… ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
71
CEMEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MChem; BSc gyda Phrofiad Ewropeaidd/ Profiad Diwydiannol); 5 mlynedd (MChem gyda Phrofiad Diwydiannol) GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer F104 ac F101: • 128-152 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* gan gynnwys gradd A mewn Cemeg lefel A2 neu gyfwerth (ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol) • 3 pwnc lefel A2 neu gyfwerth ac eithrio Sgiliau Allweddol Ar gyfer F100, F102, F103: • 104-128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* gan gynnwys gradd B mewn Cemeg lefel A2 neu gyfwerth (ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol) • 2 bwnc lefel A2 neu gyfwerth ac eithrio Sgiliau Allweddol • Mae mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 yn bosibl gyda Diploma Cenedlaethol Uwch perthnasol. Holl gyrsiau Cemeg: • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Gweler y prospectws Saesneg neu’r wefan am fanylion llawn gofynion mynediad y graddau unigol.
CYFLEOEDD PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
CYFLEOEDD MWY O WYBODAETH PROFIAD Tiwtor Mynediad RHYNGWLADOL
Ysgol Cemeg
Ffôn: 01248 382375 e-bost: chem.ucas@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cemeg
72
CWRS MChem: F104 MChem gyda Phrofiad Diwydiannol: F101 MChem gyda Phrofiad Rhyngwladol: F106 BSc (anrhydedd) Cemeg: F100 BSc (anrhydedd) Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol: F103 BSc (anrhydedd) Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd: F102 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Cemeg ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae modd astudio canran o’r modiwlau canlynol yn ddwyieithog: Blwyddyn 1 • Cemeg 1 a 2 • Ein Cemeg Ni • Labordy Cemeg 1 a 2 • Dulliau Offerynnol a Dadansoddol • Medrau Cyfrifiannu ac Astudio • Medrau Mathemateg i Gemegwyr • Cemeg 1 – Gweithdai • Cemeg 2 – Gweithdai Blwyddyn 2 • Cysyniadau Cemegol Craidd • Sgiliau proffesiynol ar gyfer cemegwyr • Pynciau Arbenigol i Gemegwyr • Labordy Cemeg Graidd • Labordy Cemeg Arbenigol • Cemeg Ffisegol Blwyddyn 3 • Cemeg Arbenigol Uwch • Sgiliau Ymchwil i Gemegwyr • Cemeg Graidd Uwch • Project Ymarferol Blwyddyn 4 • Prosesau mewn rhyngwynebau • Project Ymarferol INTERNATIONAL EXPERIENCE
Canllaw yn unig yw’r rhestr modiwlau ac fe allent newid yn flynyddol. CEFNDIR Y CYRSIAU Mae Cemeg yn wyddor arbrofol sy’n INTERNATIONAL delio â chwestiynau yn ymwneud EXPERIENCE â‘r byd o’n hamgylch ar lefel atomig a moleciwlaidd. Mae’n ymdrechu i ateb nifer o’r problemau y deuwn ar eu traws yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Cemeg sy’n gyfrifol am ddarganfod cyffuriau newydd, am ddatblygiad plastig a ffibrau a nifer o ddatblygiadau newydd ym maes offer meddygol. Mae’r cyfleoedd gyrfa yn niferus ac
© Glyn Davies
amrywiol, o feysydd traddodiadol megis ymchwil mewn fferylliaeth i ddysgu, cyfrifyddiaeth a marchnata. Mae’r cwrs Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad gwaith diwydiannol yn Ewrop. Mae’r cwrs Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol yn rhoi’r cyfle i chi yn eich trydedd flwyddyn gael profiad o ymchwilio i faes cemeg diwydiannol gyda chorff perthnasol yn y Deyrnas Unedig neu yn Ewrop. PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig sylw unigol mewn awyrgylch gofalgar a chyfeillgar, ac eto gyda’r holl gyfarpar ac adnoddau angenrheidiol sydd, fel rheol, ond ar gael mewn adrannau mawr. • Rydym yn cynnig dewis o gyrsiau gradd ar gyfer diddordebau gwahanol, yn cynnwys Cemeg yr Amgylchedd, Cemeg Môr a gradd baglor 4 blynedd. • Os ydych yn dymuno gwneud hynny, gallwch astudio cwrs dros 4 blynedd, gan gynnwys blwyddyn mewn prifysgol yn Ewrop (Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd) neu flwyddyn o brofiad gwaith (Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol). • Mae rhaglen ymchwil fywiog gan yr Ysgol sy’n ychwanegu at y dysgu, ac rydym yn trefnu rhaglen wythnosol o seminarau lle mae gwyddonwyr adnabyddus trwy’r byd yn disgrifio’u gwaith. • Rydym yn cynnig ysgoloriaethau Cemeg bob blwyddyn ac mae hefyd yn bosib gwneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio Cemeg.
Cromatograffaeth Nwy/Sbectrometreg Màs: defnyddir hwn i ganfod symiau hybrin o gyfansoddion organig anweddol
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau gorfodol a phynciau dewisol. Mae cynnwys y modiwlau a’r dewisiadau yn dibynnu ar y cwrs gradd. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, gwaith yn y labordy, a dosbarthiadau tiwtorial; ymweliadau â diwydiannau lleol; projectau unigol a phrojectau grw ˆp. Asesir trwy arholiadau a gwaith ymarferol.
‘
Mae’r cymorth a’r gefnogaeth rwyf wedi eu derbyn dros y 4 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhagorol…
’
SYLWADAU MYFYRIWR yn yr Ysgol Cemeg
CYFRIFIADUREG
‘
Fe ddes i Fangor oherwydd bod gan y Brifysgol enw da... Roedd yr holl staff a oedd yn fy nysgu yn eithriadol o gefnogol a doedd dim yn ormod o drafferth iddynt. NICOLA JAYNE PRICE Myfyrwraig yn yr Ysgol
’
73
ELECTRONEG
CYFRIFIADUREG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd Am fwy o fanylion, darllenwch brospectws Saesneg y Brifysgol. GOFYNION MYNEDIAD: • Mae’r rhain yn amrywio, o 80 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol) i 120-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Cyfrifiadureg). • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Gweler y prospectws Saesneg neu’r wefan am fanylion llawn gofynion mynediad y graddau unigol.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Mynediad Ysgol Cyfrifiadureg Ffôn: 01248 382686 e-bost: cs.admissions@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfrifiadureg
74
CWRS BSc (anrhydedd) Cyfrifiadureg: BSc (anrhydedd) Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes: BSc (anrhydedd) Technolegau Creadigol: BSc (anrhydedd) Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol: BSc (anrhydedd) Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol ar gyfer Busnes: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg mewn Cyfrifiadureg. Mae modd i fyfyrwyr astudio rhai o’r modiwlau cyfrwng Cymraeg canlynol fel rhan o’r cyrsiau Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes: • Cyflwyniad i Fusnes/Rheolaeth • Cyflwyniad i Farchnata • Economeg 1 • Economeg 2 Hefyd, gall myfyrwyr astudio’r modiwl cyfrwng Cymraeg Systemau Gwybodaeth a’r modiwl dwyieithog Project Unigol Cyfrifiadureg fel rhan o’r cyrsiau Cyfrifiadureg, Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes a Thechnolegau Creadigol. Yn ogystal, bydd darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith o dro i dro yn ein holl bynciau. CEFNDIR Y CYRSIAU Rydym yn cynnig cyrsiau ar draws sbectrwm eang sy’n golygu y gallwn eich helpu i gael y cymhwyster iawn ar gyfer y swydd yr ydych chi am ei gwneud. Mae’r Ysgol yn gymuned fywiog, ac mae ein hymchwil a’n cysylltiad agos â INTERNATIONAL EXPERIENCEyn sicrhau fod ein cyrsiau diwydiant yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan. Maen nhw’n adlewyrchu’r tueddiadau cyfredol a’r datblygiadau diweddaraf. INTERNATIONAL EXPERIENCE
G400 GN41 GW49 I110 IN00
PAM DEWIS BANGOR? • Credwn fod yr ystod o fodiwlau dwyieithog a Chymraeg sydd ar gael fel rhan o’n holl gyrsiau yn gyfle gwerthfawr i chi fagu’r hyder i drafod eich pwnc trwy’r Gymraeg. Credwn hefyd y bydd darpar-gyflogwyr, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn croesawu’r hyder yma. • Hanes hir o arbenigedd yn y maes. • Mae ein hymchwil a’n cysylltiadau â diwydiant yn golygu fod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf. • Mae ein staff yn bobl broffesiynol sy’n gweithio ar brojectau ar y cyd â diwydiant ac sydd hefyd yn ymgynghorwyr i ddiwydiant. • Gallwch dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae projectau’r flwyddyn derfynol yn aml yn cael eu gwneud mewn cydweithrediad â chwmni, ac mae hyn bob amser yn fanteisiol pan ydych yn chwilio am waith. • Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr cymwys. Cysylltwch â’r Tiwtor Mynediad am fanylion. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau sydd wedi cael eu dethol yn ofalus ar gyfer y cwrs yr ydych wedi ei ddewis. Mae manylion llawn am y modiwlau ar gael yn y prospectws Saesneg sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Brifysgol.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, sesiynau yn y labordy, dosbarthiadau tiwtorial.
© Glyn Davies
1
Asesir drwy arholiad ar gynnwys pob modiwl ar ddiwedd y semester. Asesir drwy waith cwrs hefyd mewn rhai modiwlau. Bydd eich adroddiadau aseiniad a’ch project unigol hefyd yn cyfrannu at eich marciau.
‘
Dewisais Fangor oherwydd roedd ar y rhestr o’r deg lle gorau i astudio Cyfrifiadureg drwy’r wlad. Mae Eryri a’r Wyddfa yn agos iawn hefyd, mae’r ardal o amgylch y Brifysgol yn hyfryd iawn, ac felly yn gwneud Bangor yn lle deniadol iawn i astudio ynddo. Mae pawb yn hapus iawn i helpu yn yr Ysgol. Rydw i’n teimlo’n ddigon cyfforddus i fynd at aelod o’r staff os wyf angen unrhyw gymorth. ILLTUD JONES Cyn-fyfyriwr Cyfrifiadureg
2
1 Mae gan fyfyrwyr fynediad at y dechnoleg ymchwil ddiweddaraf fel y Blwch Menig Nitrogen 2 Myfyrwyr yn gweithio yn ein hystafell lân microelectroneg Class 1000
‘
…mae’r gwaith project yn enwedig o safon uchel. Mae’r myfyrwyr yn cael eu darparu gyda dewis eang o brojectau heriol sy’n rhoi’r cyfle iddynt ragori. ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
‘
’
’
Mae’r cwrs yn hynod o dda oherwydd ei fod yn cynnig sialens go iawn. ELIS GWILYM ROBERTS BSc Peirianneg Electronig
’
75
GWYDDORAU CHWARAEON, IECHYD AC YMARFER
ELECTRONEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MEng) Am fwy o fanylion, darllenwch brospectws Saesneg y Brifysgol. GOFYNION MYNEDIAD: • Mae’r rhain yn amrywio, o 80 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (BSc Peirianneg Electronig) i 136-120 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* (MEng Peirianneg Electronig). • Mae anghenion penodol ar gyfer y cyrsiau BEng ac MEng: rhaid cael gradd C neu uwch mewn A2 Mathemateg a Ffiseg neu Beirianneg Drydanol (neu gyfwerth). • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Gweler y prospectws Saesneg neu’r wefan am fanylion llawn gofynion mynediad y graddau unigol.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Mynediad Ysgol Peirianneg Electronig
CWRS BEng (anrhydedd) Peirianneg Electronig**: BEng (anrhydedd) Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol**: MEng Peirianneg Electronig**: MEng Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol**: MEng Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth: MEng Peirianneg Diogelwch Critigol: BSc (anrhydedd) Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol: BSc (anrhydedd) Peirianneg Electronig: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg mewn Electroneg. Gall myfyrwyr astudio rhai o’r modiwlau dwyieithog canlynol fel rhan o’r cyrsiau Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol, Peirianneg Electronig, Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth a Pheirianneg Diogelwch Critigol: • Cylchedau Digidol 2 • Project Unigol Electroneg (40 credyd) • Project Unigol Electroneg (30 credyd) • Labordy Electroneg 1 (20 credyd) Yn ogystal, bydd darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith o dro i dro yn ein holl bynciau. CEFNDIR Y CYRSIAU Rydym yn cynnig cyrsiau ar draws sbectrwm eang sy’n golygu y gallwn eich helpu i gael y cymhwyster iawn ar gyfer y swydd yr ydych chi am ei gwneud. Mae’r Ysgol yn gymuned fywiog, ac mae ein hymchwil a’n cysylltiad agos â INTERNATIONAL diwydiant EXPERIENCEyn sicrhau fod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan. Maen nhw’n adlewyrchu’r tueddiadau cyfredol a’r datblygiadau diweddaraf. INTERNATIONAL EXPERIENCE
H610 H612 H601 H617 H661 H660 H603 H611
PAM DEWIS BANGOR? • Mae pob myfyriwr israddedig yn derbyn gliniadur am ddim gyda’r feddalwedd dylunio electroneg ddiweddaraf arno. • Credwn fod y modiwlau dwyieithog a Chymraeg sydd ar gael fel rhan o’n holl gyrsiau yn gyfle gwerthfawr i chi fagu’r hyder i drafod eich pwnc trwy’r Gymraeg. Credwn hefyd y bydd darpargyflogwyr, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn croesawu’r hyder yma. • Hanes hir o arbenigedd yn y maes ac ystod o gyrsiau. • Mae ein hymchwil a’n cysylltiadau â diwydiant yn golygu bod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf. • Mae ein staff yn bobl broffesiynol sy’n gweithio ar brojectau ar y cyd â diwydiant ac sydd hefyd yn ymgynghorwyr i ddiwydiant. • Gallwch dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng blwyddyn 2 a 3. Mae projectau’r flwyddyn derfynol yn aml yn cael eu gwneud mewn cydweithrediad â chwmni, sy’n fanteisiol pan ydych yn chwilio am waith. • Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig o hyd at £1,500. Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau eraill ar gael hefyd.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau sydd wedi cael eu dethol yn ofalus ar gyfer y cwrs yr ydych wedi ei ddewis. Mae manylion llawn am y modiwlau ar gael yn y prospectws Saesneg sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Brifysgol. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, sesiynau yn y labordy, dosbarthiadau tiwtorial. Asesir trwy arholiad ar gynnwys pob modiwl ar ddiwedd y semester. Asesir trwy waith cwrs hefyd mewn rhai modiwlau. Bydd eich adroddiadau aseiniad a’ch project unigol hefyd yn cyfrannu at eich marciau. **Mae’r cyrsiau yma wedi cael eu hachredu gan y Cyngor Peirianneg.
CWRS PERTHNASOL Yr ydym hefyd yn cynnig cwrs cyd-anrhydedd BSc Cerddoriaeth a Pheirianneg Electronig ond mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau ar y cwrs hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Gweler y prospectws Saesneg am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
1
2
1 Arweinwyr Cyfoed a myfyrwyr newydd ar drip i draeth Aberffraw yn ystod yr Wythnos Groeso 2 Casglu samplau gwaed capilarïau ar gyfer crynodiad lactad y gwaed yn ystod ergometreg cylch cynyddol
‘
Mae Bangor yn brifysgol wych i astudio ynddi. Mae’r cyrsiau yn dda ac mae’r darlithwyr yn barod i helpu. Rwy’n cael gymaint o gefnogaeth i wneud fy ngwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
’
HANNAH DUNCAN BSc Gwyddor Chwaraeon
‘
Mae’r holl ddarlithwyr yn gyfeillgar iawn, mae hi’n hawdd mynd atynt, ac mae’r holl gyfleusterau yn wych…
’
KELLY BALDWIN Myfyrwraig Gwyddorau Chwaraeon
‘
Mae’r cwrs yn wych. Mae’r darlithwyr sydd yma gyda’r gorau yn eu maes ac maent yn frwdfrydig iawn i weld eu myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu.
’
GWION LLŶR MORGAN EVANS BA Cyd-Anrhydedd Cymraeg a Gwyddor Chwaraeon
Ffôn: 01248 382686 e-bost: derbyniadau.peirianneg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/electroneg
76
77
GWYDDORAU MEDDYGOL A GOFAL IECHYD
GWYDDORAU CHWARAEON, IECHYD AC YMARFER Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd (cyrsiau gradd); Blwyddyn (rhyngosodol) GOFYNION MYNEDIAD: • Gweler y wefan am fanylion llawn gofynion mynediad y graddau unigol. Mae’r gofynion yn amrywio: 120-104; 128-112; 136-128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3*. • Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. BSc Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) • Yn ogystal â’r uchod, dylai ymgeiswyr ddangos ymroddiad i’r awyr agored (profiad ymarferol, profiad gwaith, Gwobr Dug Caeredin). Graddau Rhyngosodol (BSc) • Pennir meini prawf mynediad penodol rhwng eich Ysgol Feddygol a Phrifysgol Bangor. Cyfeiriwch at eich Ysgol Feddygol am fanylion. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Derbyniadau Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ffôn: 01248 388256 e-bost: gwyddorauchwaraeon@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/chwaraeon
78
CWRS Hyd: 3 neu 4 blynedd BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon neu MSci Gwyddor Chwaraeon: C600 C607 BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer neu CB69 C608 MSci Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer: BSc (anrhydedd) Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol: C651 BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) neu C602 C609 MSci (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored): BSc (anrhydedd) Seicoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer wedi ei achredu C680 gan y BPS: BSc (anrhydedd gyflawn) Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored) blwyddyn: C615 GRADDAU RHYNGOSODOL (BSc) Mae’r graddau hyn wedi eu hanelu at fyfyrwyr meddygol sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y nifer gofynnol o flynyddoedd mewn Ysgol Feddygol, ac sy’n dymuno cael BSc i arbenigo neu gael profiad yn y meysydd canlynol: BSc Gwyddor Chwaraeon (rhyngosodol): C603 BSc Ffisioleg Ymarfer (rhyngosodol): B120 BSc Ymarfer, Newid Ymddygiad ac Atal Afiechydon (rhyngosodol): C882 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Bydd yn bosib astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg ar y mwyafrif o gyrsiau’r Ysgol (gweler ein gwefan am y manylion diweddaraf). Mae hefyd yn bosib cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg. PAM DEWIS BANGOR? Ymchwil ac Addysgu Rhagorol – Ym Mangor, byddwch yn astudio yn un o’r Ysgolion Gwyddorau Chwaraeon gorau a arweinir gan ymchwil ym Mhrydain. Rydym wedi cael ein rhoi yn: • 7fed ym Mhrydain am ein Hymchwil (REF, 2014) INTERNATIONAL • Yn y 10 uchaf ym Mhrydain EXPERIENCE (Guardian University Guide 2017). Mae ein holl staff yn ymchwilgynhyrchiol ac yn gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon a’r arbenigwyr meddygol gorau ym INTERNATIONAL Mhrydain ac yn fyd-eang. Mae’r EXPERIENCE gweithgareddau ymchwil hyn yn bwydo’n uniongyrchol i’r addysgu a bydd llawer o fyfyrwyr yn cael cyfle i fod yn rhan o’r prosesau ymchwil hyn.
Cefnogaeth a Phrofiad Myfyrwyr Rhagorol – Rydym yn Ysgol gymharol fach ac mae pawb yn adnabod ei gilydd ac rydym yn ymfalchïo yn y croeso cynnes a roddwn i fyfyrwyr newydd. Byddwch yn astudio yn un o’r lleoliadau gorau ym Mhrydain ac cewch hefyd aelodaeth am ddim o holl glybiau a chymdeithasau y Brifysgol. Hwb i’ch Rhagolygon Gyrfaol – Cewch gyfle i ennill cymhwyster proffesiynol mewn amryw o feysydd yn cynnwys Dadansoddi Perfformiad Dartfish, Hyfforddwr Ffitrwydd lefel 2, codi pwysau Olympaidd, cwrs tapio, tylinio chwaraeon a chymorth cyntaf anghysbell. Cewch gyfle hefyd i fynd ar leoliadau a gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn maes sy’n berthnasol i’ch gradd a’ch gyrfa yn y dyfodol.
Cyfleusterau ac Offer – Mae’r Ysgol yn cynnwys pob math o adnoddau ar gyfer astudio chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn wyddonol. Mae ganddi nifer helaeth o labordai yn cynnwys yr offer diweddaraf ar gyfer ffisioleg chwaraeon ac ymarfer, seicoleg, rheolaeth dros symudiadau a dadansoddi mudiant. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Fel rheol bydd gennych awr neu ddwy o ddarlithoedd bob wythnos ar gyfer pob modiwl, yn ogystal â chyfnodau labordy, seminarau a thiwtorialau. Bydd hyn yn gysylltiedig â darllen, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a phoster. Y rhain fydd sail eich asesiad, ynghyd ag arholiadau, astudiaethau achos a beirniadaethau ar ymchwil. Mae’r niferoedd yn ein darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau labordy i gyd yn fychain. Golyga hyn fod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â staff. EICH GYRFA YN Y DYFODOL Bydd ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd chwaraeon; gweithio gydag athletwyr a pherfformwyr elît; ymchwil i wyddor chwaraeon; gweithio yn y sector iechyd cyhoeddus, e.e. ym maes therapi/ ffisiotherapi chwaraeon; neu weithio yn y diwydiant iechyd/ffitrwydd yn gyffredinol. Mae astudio ôl-radd a gyrfa mewn dysgu (ar ôl gwneud tystysgrif addysg i raddedigion), ymchwil a darlithio yn llwybr arall. Mae rhai yn defnyddio eu cymhwyster a’u sgiliau trosglwyddadwy i weithio mewn rheolaeth, gyda’r gwasanaethau brys neu i sefydlu eu busnes eu hunain.
‘
Penderfynais astudio yma oherwydd mae’r cwrs yn ardderchog ac mae Bangor yn ddinas fendigedig i fyw ynddi. Rydw i’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn. Fy hoff beth am y cwrs ydi’r gwaith ymarferol, mae’n hollol wahanol i bob dim dwi wedi ei wneud o’r blaen, ac mae o’n llawer o hwyl.
’
FFION JONES Myfyrwraig Gwyddorau Biofeddygol
‘
Mae’r myfyrwyr yn unfrydol eu canmoliaeth i’r staff dysgu ac yn arbennig lefel uchel y sylw personol yr oeddynt yn ei dderbyn.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
‘
Mae’r fframwaith cefnogaeth a’r adborth manwl ac adeiladol a gaiff y myfyrwyr yn benigamp.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
79
GWYDDORAU MEDDYGOL A GOFAL IECHYD Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd (cyrsiau gradd); blwyddyn (Astudiaethau Iechyd); hyd at 5 mlynedd (Astudiaethau Iechyd, rhan-amser). Mae rhai o’r cyrsiau hyn yn gyrsiau ôl-gofrestru. Mae manylion llawn ar gael ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol. GOFYNION MYNEDIAD: • Mae’r rhain yn amrywio, felly rydym yn eich cynghori i fwrw golwg ar y manylion llawn ar y wefan neu ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ffôn: 01248 383134 e-bost: gwyddoraugofaliechyd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ gwyddoraugofaliechyd Ysgol Gwyddorau Meddygol Ffôn: 01248 383244 e-bost: gwyddoraumeddygol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ gwyddoraumeddygol
80
CWRS PAM DEWIS BANGOR? BSc (anrhydedd) Astudiaethau Iechyd (rhan amser): amherthnasol • Rydym yn darparu lefel uchel o BSc (anrhydedd) Astudiaethau Iechyd a Chymwysterau Ymarfer Arbenigol amherthnasol gefnogaeth ac arweiniad. (rhan amser): • Cyfle i ddatblygu medrau BM (anrhydedd) Baglor mewn Bydwreigiaeth: B720 gwerthfawr megis rheoli amser, BN (anrhydedd) Baglor mewn Nyrsio: B740//B761/B760/B731 ymchwilio, datrys problemau a BSc (anrhydedd) Gwyddor Biofeddygol: B102 chyflwyniadau. BSc (anrhydedd) Bioleg Feddygol: B103 • Amgylchedd astudio dymunol, MBiol Bioleg Feddygol (4 mlynedd): B104 llawn her. BSc (anrhydedd) Gofal Critigol (rhan-amser): amherthnasol BMedSci Gwyddorau Meddygol: B100 BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? BSc (anrhydedd) Iechyd a Llês*: B704 Os ydych yn dewis un o’r cyrsiau BSc (anrhydedd) Radiograffeg Diagnostig: B821 uchod, byddwch yn cael cyfle i ddilyn cwrs safonol a fydd yn eich galluogi *Mae’r cwrs yma yn cael ei ddilysu ar hyn o bryd. i ddilyn gyrfa ym maes gofal iechyd. Mae pob cwrs yn cynnwys theori a ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG YSGOL GWYDDORAU MEDDYGOL gwaith ymarferol. Mae rhai elfennau o’r cyrsiau hyn Mae’r Ysgol yma yn un newydd a yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg. bywiog, sy’n ffurfio rhan o’r Coleg SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad Mae’r cyrsiau hyn yn gymysgedd a’r Ysgol Gwyddorau Meddygol yn yn y Brifysgol. Mae ffocws yr Ysgol o waith academaidd a gwaith yn awyddus iawn i gefnogi myfyrwyr ar addysg feddygol ac ymchwil y maes o dan oruchwyliaeth. Yn drwy gyfrwng y ddwy iaith. ac mae ganddi gysylltiadau agos dibynnu ar pa gwrs y byddwch yn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi ei ddewis, asesir drwy gymysgedd YSGOL GWYDDORAU GOFAL Cadwaladr. Mae’r staff academaidd o arholiadau, aseiniadau, arbrofion IECHYD yn dal swyddi clinigol o fewn y ymarferol ac asesiadau clinigol. Mae’r Ysgol yn darparu amgylchedd Bwrdd Iechyd lleol. Mae ganddynt ysgogol a chefnogol i’n myfyrwyr amrywiaeth eang o brofiad o’r GRADDAU CYSYLLTIEDIG i ennill cymwysterau israddedig GIG yn ogystal â mewn addysg ac Graddau Rhyngosodol a gynigir gan mewn gofal iechyd sy’n eu galluogi ymchwil feddygol a gofal iechyd – yr Ysgol Seicoleg: i hawlio cofrestriad proffesiynol ar lefel ranbarthol, genedlaethol a • BSc Niwroseicoleg gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd rhyngwladol. a Gofal/Cyngor Nyrsio a BydwreigGraddau Rhyngosodol a gynigir gan iaeth. Bydd astudio yn yr Ysgol, CEFNDIR Y CYRSIAU yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, gweithio mewn partneriaeth â’r Mae’r cyrsiau yn eich helpu i Iechyd ac Ymarfer: INTERNATIONAL GIG, cymryd rhan mewn rhaglenni ddatblygu’r wybodaeth, y medrau • BSc Ymarfer, Newid Ymddygiad ac Atal EXPERIENCE ymchwil bywiog, ac ymwneud â’r a’r agweddau sy’n angenrheidiol i Afiechydon cyfleoedd dysgu rhyngbroffesiynol nyrsys proffesiynol, radiograffwyr, • BSc Ffisioleg Ymarfer a gynigir i fyfyrwyr yn sicrhau bod bydwragedd, ymwelwyr iechyd • BSc Gwyddor Chwaraeon ein graddedigion yn cael eu paratoi neu weithwyr proffesiynol eraill ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn ym maes gofal iechyd. Mae pob un gofal iechyd (sy’n cynnwys nyrsio, o’n cyrsiau gradd yn rhoi pwyslais INTERNATIONAL radiograffeg a bydwreigiaeth, sylweddol ar ddatblygu a defnyddio EXPERIENCE phroffesiynau eraill). medrau ymchwil, a datblygu medrau personol y gallwch eu defnyddio Mae gan yr Ysgol arbenigedd mewn gyrfa yn y dyfodol. mewn cyd-destun dwyieithog o ddarpariaeth gofal clinigol a Mae’r cwrs BMedSci Gwyddorau chymdeithasol, yng Nghymru ac yn Meddygol yn gwrs deinamig o fewn rhyngwladol. yr Ysgol Gwyddorau Meddygol sy’n rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr am anatomeg dynol, ffisioleg dynol, sgiliau clinigol a sgiliau cyfathrebu mewn perthynas â gofal iechyd, diagnosis clefyd a thriniaeth.
BAGLOR MEWN NYRSIO BN [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: B740 (Nyrsio Oedolion); B761 (Nyrsio Anableddau Dysgu); B760 (Nyrsio Iechyd Meddwl); B731 (Nyrsio Plant) Dysgir y cyrsiau yma ym Mangor a Chanolfan Archimedes Wrecsam: Nyrsio Oedolion; Nyrsio Iechyd Meddwl Dysgir y cwrs yma ym Mangor yn unig: Nyrsio Anableddau Dysgu Dysgir y cwrs yma yng Nghanolfan Archimedes Wrecsam yn unig: Nyrsio Plant Am fanylion lleoliadau y meysydd ymarfer ewch i’n gwefan neu cysylltwch â ni. Mae Nyrsio Oedolion yn cychwyn ym mis Medi a Mawrth. Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Mae manylion llawn y gofynion mynediad, y broses sgrinio a chyfweld ar ein gwefan. Gallwch gael gwybodaeth am safonau nyrsio cyn-gofrestru’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), y safonau gofynnol i gael eich derbyn (llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu) a’r gofynion mewn perthynas ag iechyd da a chymeriad da ar wefan yr NMC: www.nmc-uk.org
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ffôn: 01248 383134 e-bost: gwyddoraugofaliechyd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ gwyddoraugofaliechyd
GOFYNION MYNEDIAD: Rhaid i bob ymgeisydd i’r radd Baglor mewn Nyrsio fodloni ystod o feini prawf mynediad - darllenwch safonau cyn-gofrestru addysg nyrsio y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu e-bostiwch admissions. health@bangor.ac.uk i gael rhagor o gyngor neu wybodaeth. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos eich bod mewn iechyd da ac o gymeriad da. Mae’r Ysgol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill i ddangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofynion am iechyd da. Rhaid i bob ymgeisydd gyflawni gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth am lythrennedd a rhifedd. Gan amlaf dangosir hyn trwy gael TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg (o leiaf graddau A i C) neu gymhwyster cyfatebol mewn sgiliau allweddol rhifedd a chyfathrebu ar lefel 3. Gofynion academaidd nodweddiadol (gweler y wefan i gael manylion):
• 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan INTERNATIONAL UCAS ar www.ucas.com. EXPERIENCE
Dylai ymgeiswyr sydd wedi cyflawni’r cymwysterau uchod dros 5 mlynedd neu fwy yn ôl brofi eu bod wedi astudio ar lefel briodol yn ddiweddar. INTERNATIONAL EXPERIENCE
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r cyrsiau BN yn raddau sy’n berthnasol i faes penodol sef: Nyrsio Oedolion, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl a Phlant. Mae’r radd Baglor mewn Nyrsio yn addas i yrfaoedd sy’n golygu gweithio gyda phobl o bob oed sy’n wynebu heriau iechyd, neu sy’n byw gydag anableddau dysgu ac sydd angen gofal nyrsio proffesiynol. Mae nyrsio yn cynnig ystod o yrfaoedd diddorol a buddiol mewn gofal iechyd – gellir cael cyngor ar ofynion mynediad a gyrfaoedd yn Gyrfaoedd GIG – http:// www.nhscareers.nhs.uk/exploreby-career/nursing/ PAM EIN DEWIS NI? • Gallwn eich helpu i wireddu eich potensial ac mae gennym dîm brwdfrydig i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau. • Ceir cyfle i brofi a chymryd rhan mewn dysgu dwyieithog ac ymarfer clinigol – mae ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. • Mae gennym gysylltiadau cadarnhaol â’r Bwrdd Iechyd Prifysgol lleol a darparwyr gofal yng ngogledd Cymru ac mae ein cyrsiau yn ymateb i newidiadau yn y gweithle. • Telir ffioedd y cwrs gan y GIG yn ogystal â mynediad at gynllun bwrsariaeth GIG Cymru – gellir cael gwybodaeth am gymwysterau yn: http://www.wales.nhs.uk/ sitesplus/829/page/36092 BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Gallwch astudio un o’r pedwar maes ymarfer: nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio anableddau dysgu neu nyrsio plant. Mae’r cwrs yn seiliedig ar theori ac ymarfer yn gyfartal – treulir 50% ar astudio damcaniaethol a 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu’r cymhwysedd sydd ei angen i gael eich derbyn ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Byddwch yn datblygu sgiliau ac ymddygiad, gwerthoedd ac agweddau proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan nyrs er mwyn sicrhau diogelwch pobl o bob oed a’u gofalwyr a’u teuluoedd a’u hamddiffyn. Ceir cyfle i astudio ochr yn ochr â swyddogion gofal iechyd eraill sy’n fyfyrwyr ac mae gan yr Ysgol strategaeth ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol. O fewn y graddau unigol bydd cyfle i bob maes ddysgu gyda’i gilydd am elfennau generig perthnasol fel anatomeg a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, y gyfraith a moeseg. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Bydd yn orfodol i chi astudio yn yr Ysgol ac ar leoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/ neu breswyl yng ngogledd Cymru. Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth agos yn golygu y gallwch arsylwi gweithwyr proffesiynol wrth eu gwaith, a chymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio yn gynnar yn y cwrs. Cewch eich cefnogi gan diwtor personol sy’n nyrs gofrestredig ac yn aelod o’r staff academaidd a chewch oruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig weithredol yn y lleoliad. Caiff gwaith theori ac ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau ac Asesiad Ymarfer Clinigol Cymru gyfan. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Bydd cymhwyso fel nyrs gofrestredig yng Nghymru yn golygu y byddwch yn cofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gellir cael gyrfa gyda chyflogwyr mawr, er enghraifft byrddau iechyd GIG, neu sefydliadau llai ac annibynnol yn y sector, a all arwain at gyfleoedd mewn arbenigeddau clinigol, rheolaeth, ymchwil neu addysg.
81
SEICOLEG
BAGLOR MEWN BYDWREIGIAETH BM [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: B720 Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i gofrestru a gweithredu fel bydwraig a chael Gradd Anrhydedd mewn Bydwreigiaeth. Lleoliad: Dysgir y cwrs hwn ym Mangor a Chanolfan Archimedes Wrecsam. Hyd: 3 blynedd llawn-amser. Mae’r cwrs yn dechrau ym mis Medi. GOFYNION MYNEDIAD: Mae’r gofynion derbyn yn y golofn nesaf yn amlinellu’r gofynion addysgol y mae’n rhaid eu cael. Disgwylir i ymgeiswyr ddod am gyfweliad os byddant yn cael eu dewis a chael eu sgrinio ymhellach cyn dechrau mewn bydwreigiaeth.
GOFYNION MYNEDIAD: Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn pennu gofynion derbyn i ymgeiswyr, yn cynnwys dangos eu bod mewn iechyd da ac o gymeriad da. Bydd yr Ysgol yn mynnu bod ymgeiswyr yn cydymffurfio â safonau iechyd galwedigaethol a gwiriadau’r DBS. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflawni gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd lefel 3. Y rhain fel rheol fydd cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg (graddau A i C) neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn sgiliau allweddol rhifedd a chyfathrebu. Gofynion academaidd:
• 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
Dylai ymgeiswyr sydd wedi cyflawni’r cymwysterau uchod dros 5 mlynedd neu fwy yn ôl brofi eu bod wedi astudio ar lefel briodol yn ddiweddar.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd e-bost: bydwreigiaeth@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ gwyddoraugofaliechyd
82
CEFNDIR Y CWRS Byddwch yn cael cyfle i gael profiad clinigol mewn unedau mamolaeth sy’n cynnig gofal i ferched beichiog INTERNATIONAL EXPERIENCE a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda thimau bydwreigiaeth yn y gymuned a darparu gofal parhaus.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
PAM EIN DEWIS NI? • Mae gennym hanes maith o hyfforddi bydwragedd i safon uchel. • Nod y cwrs yw helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i ymarfer bydwreigiaeth i safon uchel. • Mae’r darparwyr bydwreigiaeth glinigol yn rhoi cyfleoedd amrywiol a chyffrous i chi weithio gyda mentoriaid yn y gymuned ac mewn ysbytai. • Mae ffioedd y cwrs yn cael eu talu gan y GIG ynghyd â mynediad i Gynllun Bwrsariaeth y GIG – gweler http://www.wales.nhs.uk/ siteplus/955/page/72050 • Mae gwyliau blynyddol wedi eu pennu ymlaen llaw ar gyfer y cwrs. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae’r cwrs wedi ei seilio ar egwyddorion sylfaenol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy’n pennu’r athroniaeth a’r gwerthoedd sy’n sail i’r gofynion ar gyfer cael eich derbyn i’r rhan bydwreigiaeth o’r gofrestr broffesiynol: • Darparu gofal sy’n canolbwyntio ar ferched • Ymrwymiadau moesegol a chyfreithiol • Parch tuag at unigolion a chymunedau • Ansawdd a rhagoriaeth mewn gofal bydwreigiaeth • Dysgu gydol oes • Natur a chyd-destun cyfnewidiol ymarfer bydwreigiaeth • Ymarfer a dysgu wedi ei seilio ar dystiolaeth.
‘
Rwy’n mwynhau’r cwrs. Mae’r modiwlau yn diddorol… mae cymysgedd dda o waith academaidd, gwaith grŵp a dysgu sgiliau. Dwi wedi gwneud ffrindiau da ar y cwrs, ac mae pawb yn gymorth i’w gilydd. Mae’r darlithwyr yn ffantastig ac mae’r cymorth gan y staff yn wych. Gan mai nifer fach sy’n dilyn y cwrs, mae gan y darlithwyr fwy o gyfle i siarad â ni fel myfyrwyr i wneud yn siŵr ein bod yn cael y profiad gorau gallwn ni..
’
SARA OGDEN BM Bydwreigiaeth
1
2
1 Croeso i Seicoleg ym Mangor 2 Mae’r delweddau a sganiwyd o’r ymennydd yn ein helpu i ddeall y meddwl dynol
‘
Adlewyrchir rhagoriaeth ymchwil y staff yn y dysgu, yn enwedig o gofio fod myfyrwyr Bangor yn gweithio’n glòs â’r staff ar brojectau ymchwil israddedig mewn amrywiaeth o feysydd seicolegol... Mae’n amlwg fod safonau ymchwil rhagorol yr Ysgol hon yn esgor ar amgylchedd deallus, bywiog ac ysgogol i’r myfyrwyr.
’
‘
Mae’r adran Seicoleg yn rhoi llawer o gyfleoedd i’w myfyrwyr, maent yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau diddorol ac mae’r staff mor gefnogol a charedig. Mae’r cwrs yn grêt ac rwy’n wir yn mwynhau.
’
MEDI ALAW WILLIAMS Myfyrwraig yn yr Ysgol Seicoleg
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Cyflwynir rhan theori y cwrs yn bennaf yn ein canolfan astudio ym Mangor a hefyd yn Wrecsam, ynghyd â lleoliadau eraill yng ngogledd Cymru ac astudiaeth breifat. Bydd lleoliadau ymarfer ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ceir asesu parhaus drwy gydol y cwrs. Mae’n cynnwys asesu theori a chlinigol, ynghyd â gwaith cwrs a gwaith grw ˆp.
83
SEICOLEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cod cwrs UCAS: Seicoleg C800 BSc/PS’ Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd C880 BSc/PHS Seicoleg gyda Niwroseicoleg C801 BSc/PsyN Seicoleg gyda Busnes 2R87 BSc/PWB Hyd: 3 blynedd Seicoleg C807 MSci/PS Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd C808 MSci/PHS Hyd: 4 blynedd Niwroseicoleg (gradd ryngosodol) B140 BSc/CN Hyd: 1 flwyddyn GOFYNION MYNEDIAD: • 136-112 pwynt tariff o
gymwysterau lefel 3* yn cynnwys 2 bwnc lefel A2 (neu gyfwerth) ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Mae o leiaf un pwnc Gwyddoniaeth lefel A2 o fantais gref. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg yn angenrheidiol, Gwyddoniaeth lefel TGAU o fantais. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgrifennydd Mynediad Ysgol Seicoleg Ffôn: 01248 382629 e-bost: seicoleg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/seicoleg
84
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Ar hyn o bryd mae o leiaf 40 credyd ar gael yn ddwyieithog ym mhob blwyddyn o’r cwrs israddedig. Golygai hyn y byddwch yn gymwys am ysgoloriaethau (hyd at £750 y flwyddyn) gan Brifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol petaech yn dewis gwneud y cwrs yn ddwyieithog. Mae’r modiwlau hyn yn amrywio o ran eu darpariaeth Cymraeg, ond gan amlaf maent yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â seminarau a thiwtorialau Cymraeg. Cewch gyflwyno aseiniadau ac/neu sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – chi biau’r dewis. Yn ogystal â modiwlau dwyieithog, cewch gefnogaeth gyson gan diwtor personol sy’n siarad Cymraeg a chefnogaeth gan Ganolfan Bedwyr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n darparu adnoddau ar gyfer cynorthwyo astudiaethau cyfrwng Cymraeg. BETH YW SEICOLEG? Fel myfyriwr yn yr Ysgol Seicoleg ym Mangor cewch eich cyflwyno i seiliau gwyddonol ymddygiad dynol. Mae ein cyrsiau yn cynnwys y sbectrwm llawn o’r cynnwys sy’n ofynnol gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, ac felly cewch gyfle i astudio ymddygiad dynol oINTERNATIONAL safbwyntiau gwahanol. Ymhlith llawer o bynciau diddorol eraill, EXPERIENCE byddwch yn dysgu am wahaniaethau unigol, gwybyddiaeth, dylanwad yr ymennydd ar ymddygiad, hanes seicoleg, a sut i gasglu a dadansoddi data fel gwyddonydd. INTERNATIONAL Bydd y sgiliau y byddwch yn EXPERIENCE meithrin yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun cyflogadwyedd, ac yn eich paratoi am hyfforddiant pellach fel seicolegydd proffesiynol, ymchwilydd gwyddonol, neu fel gweithiwr graddedig mewn ystod amrywiol o yrfaoedd eraill.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cael canlyniadau uchel o ran boddhad myfyrwyr (4ydd allan o 117 ym Mhrydain), ac mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn aml yn ein rhoi o fewn y 10 adran gorau ym Mhrydain. • Rydym o fewn yr 20 adran orau ym Mhrydain o ran ymchwil, ac mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil wedi nodi fod canran uchel o’n hymchwil yn rhagorol ar lefel ryngwladol a byd-eang. • Mae’r Ysgol yn rhoi pwyslais penodol ar yr ochr fugeiliol o brofiad myfyrwyr. Mae gennym dîm o addysgwyr sy’n darparu lefelau uchel o gymorth i’n myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. • Ni yw’r sefydliad arweiniol yng Nghymru o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Seicoleg. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, a bellach yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg. MEYSYDD ARBENIGEDD Rydym yn ymddiddori mewn ystod eang o bynciau yma ym Mangor, ac yn ymfalchïo yn arbenigedd ein staff academaidd. Yn benodol, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: Canfyddiad, Gweithredu a Chof Mae’r grŵp yma yn ymchwilio i’r ffordd yr ydym yn tynnu a defnyddio gwybodaeth o’r amgylchedd i arwain ein gweithrediadau, a sut mae rhyngweithio o’r fath yn arwain at ddysgu a chof. Seicoleg Glinigol, Iechyd ac Ymddygiad Nod y grŵp ymchwil yma yw cymhwyso gwybodaeth seicolegol i ddeall a mynd i’r afael ag ymddygiad dynol a lles seicolegol ehangach. Wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau seicolegol, mae’r grŵp yma yn ceisio gwneud newidiadau buddiol i ymddygiadau unigolion.
Iaith, Dwyieithrwydd, a Datblygiad Gwybyddol Mae’r grŵp yma yn defnyddio amryw o dechnegau ymddygiadol a niwrowyddonol i ymchwilio i’r rhyngweithiad rhwng iaith a gwybyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae nifer o brojectau ar y gweill, gan gynnwys rhaglenni triniaeth ar gyfer unigolion dwyieithog sydd ag affasia, ac ymchwil yn ymwneud ag effaith dwyieithrwydd ar ymennydd babanod, plant, ac oedolion. Niwrowyddoniaeth Cymdeithasol Yn gyffredinol, mae’r grŵp ymchwil yma yn ymddiddori yng ngallu’r ymennydd i wneud synnwyr o’r byd cymdeithasol. Yn benodol, maent yn ymddiddori mewn canfyddiad, y gallu i ddeall ymddygiad pobl eraill, dysgu cymdeithasol, ac emosiwn. ADNODDAU’R YSGOL SEICOLEG Mae gennym yr adnoddau diweddaraf a labordai o safon uchel i gefnogi eich dysgu. Mae’r adnoddau’n cynnwys labordy Mac lle ceir yr holl adnoddau cyfrifiadurol angenrheidiol, darlithfeydd gyda’r dechnoleg aml-gyfrwng diweddaraf, a labordai ar gyfer gwaith ymarferol a phrosiectau. SUT BYDDAF YN DYSGU? Rydym yn defnyddio amryw o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Rydym yn hybu gwaith grŵp a gwaith annibynnol, a byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o brojectau ymchwil fel cyfranogwyr. Yn ogystal â dulliau traddodiadol o addysgu, cewch gyfle i wrando ar bodlediadau cyfrwng Cymraeg ar ambell i fodiwl.
BUSNES, CYLLID, RHEOLAETH A MARCHNATA
‘
O safbwynt cael swydd a gwella rhagolygon gyrfa mae nifer o resymau dros ddewis astudio drwy’r Gymraeg. Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr efo sgiliau dwyieithog ac o gofio pa mor gystadleuol ydi’r byd gwaith heddiw, mae’r ffaith eich bod wedi astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod yn fantais fawr.
Myfyrwyr Bodlon!
DR SARA PARRY Darlithydd mewn Marchnata Ysgol Busnes Bangor
(RPEc, Ionawr 2017).
’
Derbyniodd Ysgol Busnes Bangor raddau uchel gan ei myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr mwyaf diweddar (2016), yn cynnwys 95% ar gyfer Cyfrifeg a 96% ym maes Cyllid. Mae’r canlyniadau rhagorol yma yn rhoi Bangor ymhlith y 10 sefydliad gorau yn y D.U. ym maes Cyllid.
Ymhlith yr 25 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil ym maes Bancio
85
CYFLWYNIAD I GYRSIAU GRADD ERAILL YSGOL BUSNES BANGOR
CYLLID, BUSNES, RHEOLAETH A MARCHNATA Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd am radd gydag iaith fel rhan ar-y-cyd neu fel prif ran. Cewch y manylion llawn trwy ddarllen prospectws Saesneg y Brifysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Os ydych yn bwriadu dilyn cwrs gradd cyd-anrhydedd, mae’n bwysig eich bod yn bwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall. • 120-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • TGAU Mathemateg gradd C neu gyfwerth yn hanfodol • Os oes gennych gymwysterau blaenorol perthnasol, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau’r cwrs ym mlwyddyn 2. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Busnes Bangor Ffôn: 01248 382085 e-bost: busnes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/busnes
CWRS BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes a Chyllid: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes a Marchnata: BA/BSc (anrhydedd) Bancio a Chyllid: BSc (anrhydedd) Cyfrifeg a Bancio: BA/BSc (anrhydedd) Cyfrifeg a Chyllid: BSc (anrhydedd) Cyfrifeg ac Economeg: BSc (anrhydedd) Economeg Cyllidol: BSc (anrhydedd) Economeg Busnes: BSc (anrhydedd) Marchnata: BSc (anrhydedd) Rheolaeth gyda Chyfrifeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Marchnata gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Marchnata gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Marchnata gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Marchnata gyda Sbaeneg:
N101 NN1H NN1M N322/N391 NN43 N400/NN4H NL41 L111 L190 N501 N2NK N1R1 N1R2 N1R3 N1R4 N5R1 N5R2 N5R3 N5R4
Mae’r term ‘gyda’ yn y teitl yn dynodi fod y pwnc cyntaf yn werth 67% o’r cwrs a’r ail bwnc yn werth 33% o’r cwrs. Mae’r term ‘a’ yn y teitl yn dynodi fod y ddau bwnc yn werth 50% o’r cwrs. ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Gellir dilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg ym mhob un o’r rhaglenni gradd yn Ysgol Busnes Bangor. Cynigir y modiwlau canlynol naill ai’n ddwyieithog neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigir detholiad o’r modiwlau gyferbyn ym mhob un o’r rhaglenni gradd ond cyflwynir termau yn ddwyieithog ac mae’r cyfeirlyfrau gan amlaf yn Saesneg. Yn unol â pholisi dwyieithrwydd Prifysgol Bangor, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll INTERNATIONAL EXPERIENCE drwy gyfrwng y Gymraeg arholiadau ym mhob modiwl.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Blwyddyn 1 • Marchnata • Cyfrifeg Rheolaeth ac Ariannol • Economeg • Sgiliau Astudio Busnes • Dulliau Meintiol • Busnes a Rheolaeth • Marchnadoedd Sefydliadau Ariannol Blwyddyn 2 • Egwyddorion Marchnata • Cyfathrebu Marchnata • Lleoliad Gwaith • Cyfrifeg Ariannol • Ymchwil Marchnata • Systemau Gwybodaeth Busnes • Economeg i Reolwyr • Microeconomeg • Macroeconomeg Blwyddyn 3 • Traethawd Hir • Entrepreneuriaeth, Cyfalaf a’r Cwmni • Strategaeth Hysbysebu • Trethiant
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae Ysgol Busnes Bangor yn ysgol amlddisgyblaeth sy’n cyflogi arbenigwyr i gyflwyno dewis eang o bynciau, yn cynnwys cyfrifeg, bancio, cyllid, economeg, rheolaeth a marchnata. Mae llawer o’n graddedigion yn dewis dilyn gyrfa mewn cyfrifeg, bancio, buddsoddi, y farchnad stoc, yswiriant, rheolaeth adwerthu, llywodraeth leol neu’r gwasanaeth sifil. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gan ein staff enw da yn rhyngwladol am ymchwil. Mae Bangor ymysg yr 25 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil Bancio (RePEc, Ionawr 2017). • Mae awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol yn yr Ysgol. • Adnoddau cyfrifiadurol rhagorol, a chymorth cyfrifiadurol arbenigol i’r myfyrwyr. • Mae holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n dilyn cwrs gradd unigol yn gwneud yr un modiwlau craidd. Felly, os ydych yn dymuno gwneud hynny, gallwch newid eich cwrs gradd yn yr Ysgol hyd at ddechrau’r ail flwyddyn. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau craidd a phynciau dewisol yn ystod eich cwrs tair blynedd. Bydd y pynciau’n dibynnu ar y cwrs gradd yr ydych wedi ei ddewis. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial. Asesir drwy waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig. GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
Cyfrifeg a Chyllid / Cyfrifeg a Bancio / Cyfrifeg ac Economeg Mae ein graddau Cyfrifeg wedi eu hachredu gan yr ACCA (Association of Chartered Certified Accountants) sy’n gorff rhyngwladol ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael eu heithrio o rai arholiadau proffesiynol yr ACCA. Drwy astudio gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, Cyfrifeg a Bancio neu Gyfrifeg ac Economeg, byddwch yn dysgu sgiliau sy’n allweddol i reoli sefydliadau, i fesur perfformiad a chynnal y llif arian sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant unrhyw gwmni preifat neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Mae cyfrifeg yn cynnwys llawer mwy na thrin data ariannol yn dechnegol i gynhyrchu cyfrifon cwmnïau. Rhaid defnyddio’r dulliau o ddarparu gwybodaeth gyfrifyddol yn ofalus, gyda dealltwriaeth o bwrpas y wybodaeth. Mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau angen deall y prif egwyddorion sy’n sail i’r ffigurau a gyflwynir gan gyfrifwyr ar gyfer cost ac elw. Bancio a Chyllid Mae gradd mewn Bancio a Chyllid yn rhoi cyfle i chi astudio elfennau theori ac ymarferol gwasanaethau ariannol a marchnadoedd ariannol, a dadansoddi rôl ehangach y sector ariannol o ran economïau cenedlaethol a byd-eang. Mae gwasanaethau bancio a chyllidol yn sector cystadleuol iawn sy’n newid yn gyflym ym mhob economi fodern. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae elfennau fel globaleiddio, newidiadau technolegol, dadreoleiddio ac integreiddio rhyngwladol wedi gweddnewid yn llwyr y sector gwasanaethau bancio a chyllido.
Economeg Gyllidol Mae’r radd mewn Economeg Gyllidol yn cynnig cyfle ichi astudio economeg o fewn cyd-destun byd go-iawn, gan ddatblygu medrau dadansoddol cryf a chan ennill cymhwyster perthnasol i yrfa ym maes economeg a’i chymhwyso at gyllid byd-eang. Mae’r rhaglen yn cynnwys cydrannau craidd mewn economeg a chyllid. Wrth astudio microeconomeg a macroeconomeg, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o economeg, ar lefel yr unigolyn ac ar lefel yr economi yn ei chrynswth. Mae’r elfen sy’n ymwneud â chyllid yn ymdrin yn drylwyr â phynciau megis y gyfundrefn ariannol, marchnadoedd a chynhyrchion arian, cyllido cwmnïau a swyddogaeth buddsoddi. Mae ystod eang o fodiwlau dewisol ar gael hefyd, fel y gellwch addasu eich rhaglen astudiaeth i’ch diddordebau a’ch gobeithion gyrfaol. Byddwch yn datblygu portffolio o fedrau dadansoddol a fydd yn atyniadol i amrywiaeth eang o gyflogwyr yn y sector cyllid a thu hwnt. Astudiaethau Busnes / Astudiaethau Busnes a Chyllid / Astudiaethau Busnes a Marchnata Mae gradd mewn Astudiaethau Busnes yn ddarpariaeth ddelfrydol ar gyfer gyrfa mewn busnes a rheolaeth. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau busnes penodol, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu agweddau cadarnhaol a beirniadol tuag at newid a menter. Gallwch gyfuno Astudiaethau Busnes gyda Chyllid neu Farchnata.
Economeg Busnes Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi gyfuno rhaglen graidd o astudiaeth mewn economeg gyda dewis eang o fodiwlau opsiynol mewn busnes, cyllid a rheolaeth. Mae Economeg wedi cael ei ddiffinio fel astudiaeth o ddewis dynol, ac effaith y dewis ar gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio adnoddau prin. Mae micro-economeg yn delio â’r dewis ar lefel yr unigolyn, ac mae macro-economeg yn dadansoddi’r economi yn gyffredinol. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cydran micro-economeg a macro-economeg craidd, ac arbenigedd sy’n canolbwyntio ar gyd-destun economaidd o safbwynt gwneud penderfyniadau mewn busnes. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o ddefnyddio economeg mewn meysydd sy’n cynnwys rheolaeth busnes, cyllid a pholisi cyhoeddus.
‘
Heb amheuaeth, Bangor ydi un o’r llefydd gorau i fyfyrwyr Cymraeg o ran cymdeithasau ac o ran astudio. Mae’r safon a’r cymorth sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardderchog. Oherwydd bod yna cyn lleied ohonom, mae yna grwpiau bach – sy’n ei gwneud hi’n haws i ni allu gofyn cwestiynau i’r darlithydd gan fod y ddarlith yn fwy anffurfiol. Gan fy mod i yn y flwyddyn gyntaf rwy’n cael blas o bob maes busnes sydd yn braf. Rwyf yn dilyn y mwyafrif o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly dim ond 6 neu lai ohonom sydd yn y ddarlith, sydd yn braf iawn...
’
LLIO FFLUR DAVIES Cyn-fyfyriwr Astudiaethau Busnes a Marchnata
Seicoleg gyda Busnes Mae’r cwrs Seicoleg gyda Busnes yn cyflwyno addysg israddedig ym meysydd busnes a seicoleg, ynghyd â sgiliau allweddol mewn ymchwil wyddonol ac ymchwil i’r farchnad a sgiliau ysgrifennu a chyflwyno. Mae’r cysylltiadau â busnes yn cynnig llwybr i israddedigion sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn meysydd mwy cymhwysol, ac yn datblygu gallu myfyrwyr seicoleg i gael golwg strategol ar faterion busnes a sefydliadol. Bydd y cwrs Seicoleg gyda Busnes hefyd yn paratoi myfyrwyr i astudio at gymwysterau pellach (e.e. MSc) a/neu ddilyn ystod eang o lwybrau gyrfaol gan gynnwys cyfleoedd mewn meysydd fel marchnata, ymchwil i’r farchnad, rheoli brandiau, datblygu brandiau, datblygu cynnyrch a manwerthu ar-lein. Gweler tudalen 86 am y cod UCAS a mwy am yr Ysgol Seicoleg.
86
87
CYFLWYNIAD I GYRSIAU GRADD ERAILL YSGOL BUSNES BANGOR BA Busnes a’r Gyfraith Mae’r Gyfraith yn cael dylanwad ar bob agwedd ar ein bywyd bob dydd, ac mae ymwybyddiaeth o’r Gyfraith yn cynyddu ein dealltwriaeth o fyd busnes, gwleidyddiaeth ac o gymdeithas. Mae’r cwrs gradd hwn yn cyfuno’r Gyfraith gyda Busnes, ac yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddeall y cyd-destun cyfreithiol sy’n rheoli pob agwedd ar ein bywyd bob dydd, yn ogystal â datblygu gwybodaeth a sgiliau busnes fydd yn sylfaen dda ar gyfer sefydlu gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cyfuno pynciau mewn Busnes a’r Gyfraith, yn cynnwys Rheolaeth, Marchnata, Cyfraith Cytundebau, Cyfraith Fasnachol ayyb. Gallai addysg brifysgol yn y meysydd hyn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd eang a diddorol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n anelu at yrfaoedd mewn Busnes a Rheolaeth, ond sydd hefyd eisiau datblygu dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd cyfreithiol byd busnes. Gall hefyd fod yn addas ar gyfer unigolion a hoffai weithio fel rheolwyr o fewn y sector gyfreithiol, lle gall cefndir yn y Gyfraith a Busnes fod yn hynod werthfawr. Nid yw hwn yn gwrs cymhwysol yn y Gyfraith. Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynd yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr ymgeisio am un o raddau LLB Ysgol y Gyfraith (gweler tudalen 90). Mae pob un o’r graddau LLB yn gyrsiau cymhwysol yn y gyfraith ac felly’n cael eu cydnabod at ddibenion proffesiynol.
Y GYFRAITH
Rheolaeth gyda Chyfrifeg Mae Rheolaeth yn cynnwys y broses o arwain a chyfarwyddo sefydliad, a gwneud penderfyniadau ynglyˆn â dosbarthu adnoddau. Byddwch yn astudio egwyddorion rheolaeth, ac yn datblygu sgiliau mewn ymwybyddiaeth, arweinyddiaeth, cyfathrebu a chyflwyno masnachol. Bydd gradd mewn Rheolaeth gyda Chyfrifeg yn eich galluogi i ddeall yr egwyddorion allweddol sy’n sail i’r ffigyrau a gyflwynir gan gyfrifwyr ar gyfer cost ac elw, ac i werthfawrogi goblygiadau data cyfrifeg ar gyfer gwneud penderfyniadau rheoli. Marchnata Wrth astudio am radd mewn Marchnata, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth am y prif agweddau strategol a gweithredol, a byddwch yn cael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd marchnata allanol. Mae agweddau strategol a gweithredol yn cynnwys llunio strategaethau marchnata; rheoli’r swyddogaeth farchnata a’i pherthnasedd o ran swyddogaethau busnes allweddol eraill; hysbysebu a brandio; rheoli cysylltiadau cwsmeriaid; defnyddio technoleg gwybodaeth; ac e-farchnata. Mae’r amgylchedd marchnata allanol yn cynnwys ymddygiad defnyddwyr a seicoleg defnyddwyr, cyfathrebu marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil marchnata.
Ysgol Busnes Bangor yw’r darparwr pennaf yng Nghymru ym maes Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
‘
Y cymorth rwyf yn ei gael gan y darlithwyr, yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r safon academaidd yn wych yma ac mae yma gymdeithas glos.
’
LLIO DAVIES Busnes a Marchnata
‘
Teimlaf fod Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg gan fod yna gymdeithas glos iawn sy’n dod â phawb at ei gilydd. Mae darlithwyr yr Ysgol Fusnes yn gefnogol iawn, ac yn barod i roi cymorth ynglŷn â gwaith ar unrhyw bryd. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried dod i Fangor i weithio’n galed yn eu hastudiaethau a cheisio am unrhyw ysgoloriaeth maent yn gymwys ar ei chyfer. Byddwn hefyd yn eu hannog i fynychu’r diwrnodau agored sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol, er mwyn profi’r ddinas a’r gymdeithas sydd yma o flaen llaw. ELIN OWEN JONES BSc Cyfrifeg a Chyllid
88
’
‘
Ar y Diwrnod Agored roedd yr holl aelodau staff yn gymwynasgar iawn, yn ogystal â’r arweinwyr cyfoed mewn crysau coch o amgylch y safle. Cefais fy ngwneud i deimlo’n ofnadwy o gartrefol ac roedd yr adnoddau ar gael heb eu hail felly doedd dim amheuaeth… Fe gefais y cyfle i fynd i adran Gyfreithiol Cyngor Gwynedd ar brofiad gwaith am ddiwrnod yr wythnos am 24 wythnos ac fe fuodd yn help mawr i mi o ran gweld sut oedd swyddfa broffesiynol yn gweithredu o ddydd i ddydd. Dwi’n teimlo fy mod i wedi dechrau efo sylfaen gadarn. Dw i’n hynod o falch fy mod i wedi dewis astudio’r gyfraith.
’
SIÂN ROBERTS Cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol, sydd bellach yn gweithio i Gyngor Gwynedd
‘
’
Bu angen am ddatblygiad fel hwn yng ngogledd Cymru ac mae’r cwrs hwn yn arloesol a chyda fframwaith cydlynol.
ASESWR ALLANOL
Myfyrwyr bodlon! Nodwyd graddfa foddhad o 93% ym maes y Gyfraith yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr mwyaf diweddar (2016).
89
Y GYFRAITH LLB Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Rhaglen 3 blynedd M100; Rhaglen 2 flynedd M101 Gweler ‘Y Gyfraith gyda phwnc arall’ ar gyfer codau UCAS graddau cydanrhydedd. Hyd: 3 blynedd (2 flynedd i raddedigion mewn pwnc arall); GOFYNION MYNEDIAD: • Rhaglen 3 blynedd: 128-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol fel rheol). • Rhaglen 2 flynedd: Gradd gyntaf mewn pwnc arall o Brifysgol Bangor neu sefydliad achrededig arall. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Rydym yn derbyn cymwysterau Cyfreithiol eraill. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
90
Y GYFRAITH GYDA’R GYMRAEG LLB ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Gyda’r twf yn statws y Gymraeg fel iaith swyddogol ac fel iaith busnes a chyfraith, mae galw cynyddol am swyddogion a chyfreithwyr a all weithredu yn y byd cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mewn ymateb i’r galw hwn, mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi datblygu cyrsiau dwyieithog i alluogi myfyrwyr i ennill cymwysterau addas a datblygu’r sgiliau a’r hyder i ddiwallu anghenion cyfreithiol newydd Cymru. Gallwch ddewis cael tiwtorialau ym mhob un o’r pynciau craidd naill ai yn Gymraeg neu Saesneg (lle caiff tiwtorialau eu cynnig fel rhan o’r cwricwlwm). Yn ogystal â’r tiwtorialau cyfrwng Cymraeg, gellir cyflwyno pob aseiniad, gan gynnwys y modiwl traethawd hir, a sefyll pob arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg. CEFNDIR Y CWRS Mae’r gyfraith yn effeithio ar fywydau pob un ohonom ac mae gwybodaeth o’r gyfraith yn ein galluogi i ddeall cymdeithas a’r byd rydym yn byw ynddo yn well. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi addysg gyflawn yn y Gyfraith, neu yn y Gyfraith a disgyblaeth arall, er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r fath a galluogi’r rhai sy’n dymuno symud ymlaen i yrfaoedd yn y proffesiynau cyfreithiol. PAM DEWIS BANGOR? • Bangor yw’r unig sefydliad yng INTERNATIONAL EXPERIENCE ngogledd Cymru sy’n cynnig gradd yn y Gyfraith a neilltuwyd adnoddau sylweddol i ddatblygu’r pwnc. • Dysgir y radd gan staff dwyieithog sydd ag amrywiaeth eang o arbenigedd yn y pwnc. INTERNATIONAL • Mae pob un o’r cyrsiau LLB wedi eu EXPERIENCE hachredu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor Bar Prydain ac felly maent yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith. • Gan fod y graddau yn rhai Cymhwysol yn y Gyfraith, mae ein myfyrwyr wrth raddio o Fangor yn cwblhau’r elfen academaidd o’r hyfforddiant proffesiynol i fod yn
gyfreithwyr neu fargyfreithwyr. • Mae gan yr Ysgol ystafell ‘llys’ ar gyfer cystadleuthau ffug-lysoedd. • Mae graddau Bangor yn ymdrin â’r datblygiadau cyfreithiol cyfoes yn y dimensiynau Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd. • Mae strwythur y radd yn eich galluogi i arbenigo, yn ogystal ag ymdrin ag amrywiaeth ehangach o opsiynau, ac wynebu her ddeallusol y maes pwnc. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio’r saith pwnc sylfaen i gael Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith, yn ogystal â phynciau yn ymwneud â’r gyfraith, ac/neu eraill sy’n eich galluogi i arbenigo. Byddwch yn cael eich annog i astudio mewn meysydd sy’n cyd-fynd â’r cynllun gradd o’ch dewis. Seiliau Gwybodaeth Gyfreithiol i gael Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith yw: • Cyfraith Gyhoeddus • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd • Cyfraith Trosedd • Ymrwymiadau (yn cynnwys Contract, Adferiad a Chamwedd) • Cyfraith Eiddo • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau • Ymchwil Gyfreithiol Blwyddyn 1 Modiwlau craidd: • Cyflwyniad i’r Gyfraith • Cyfraith Contract • Cyfraith Gyhoeddus • Sgiliau Cyfreithiol
Blwyddyn 3 Modiwlau craidd: • Cyfraith Cwmni • Cyfraith Tir Blynyddoedd 2 a 3 Modiwlau dewisol Gweler y wefan os gwelwch yn dda. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mewn modiwlau gorfodol, byddwch yn cael 2 awr o ddarlithoedd bob wythnos fel rheol a thiwtorial am awr bob pythefnos. Mewn cyrsiau dewisol ceir seminarau wythnosol a fydd yn para am ddwy awr. Cyn tiwtorialau a seminarau bydd angen darllen ac ymchwilio. Rhoddir traethodau a/neu brofion dosbarth ym mhob cwrs yn ystod y flwyddyn. Asesir yr holl fodiwlau craidd trwy waith cwrs ac arholiadau. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae’r holl raddau LLB yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith (QLD), sy’n caniatáu i raddedigion symud ymlaen yn uniongyrchol i gyfnod galwedigaethol yr hyfforddiant proffesiynol sydd ei angen i fod yn fargyfreithwyr neu gyfreithwyr. Mae gradd yn y gyfraith hefyd yn gymhwyster gwerthfawr ar gyfer mynediad i yrfaoedd eraill. Mae galw mawr am gyfreithwyr â medrau ychwanegol yn y Gymru ôl-ddatganoli sydd ohoni a hefyd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: M1Q5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 120-128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol fel rheol) yn cynnwys Lefel A Cymraeg (Iaith Gyntaf) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Rydym yn derbyn cymwysterau Cyfreithiol eraill. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
Blwyddyn 2 Modiwlau craidd: • Cyfraith Trosedd • Cyfraith Camweddau • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
MWY O WYBODAETH Ysgol y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
CEFNDIR Y CWRS Mae hwn yn gyfle arbennig ac unigryw i fyfyrwyr sydd eisoes wedi astudio Cymraeg fel pwnc Lefel A i astudio gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg, sy’n Radd Gymhwysol yn y Gyfraith (QLD). Trwy astudio traean o’r cwrs yn Ysgol y Gymraeg, bydd y radd hon yn gloywi a datblygu’r sgiliau yn y Gymraeg, a bydd y tiwtorialau cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Gyfraith yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau cyfreithiol yn ddwyieithog – gallu a chymhwyster gwerthfawr a hanfodol i gyfreithwyr Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae tiwtorialau cyfrwng Cymraeg ar gael yn yr holl fodiwlau craidd a restrir ar dudalen 90 (lle caiff tiwtorialau eu cynnig fel rhan o’r cwricwlwm). Gyda dyfodiad Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff deddfwriaethol yng Nghaerdydd. Yn unol â’r Deddfau, mae’n rhaid i bob darn o ddeddfwriaeth a gynhyrchir gan y Cynulliad gael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. Felly, mae galw mawr yng Nghymru, nid yn unig am gyfreithwyr sy’n gallu darllen a deall y naill fersiwn a’r llall o’r testun, ond sydd hefyd yn gallu cyfrannu at ddrafftio’r ddeddfwriaeth yn ddwyieithog. INTERNATIONALBydd y galw yma’n EXPERIENCE sicr o gynyddu wrth i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad ddatblygu gydag amser.
Myfyrwyr Ysgol y Gyfraith gyda’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, Arglwydd Brif Ustus Lloegr a Chymru, yn lansiad ystafell ‘llys’ Prifysgol Bangor.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Isod rhestrir y modiwlau gorfodol yn y Gymraeg a astudir ochr yn ochr â’r modiwlau craidd yn y Gyfraith, a restrir ar dudalen 90. Blwyddyn 1 • Defnyddio’r Gymraeg • Llenyddiaeth Gyfoes Blwyddyn 3 • Medrau Cyfieithu Gellwch hefyd ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg eraill fel modiwlau dewisol ychwanegol.
‘
Y peth gorau am astudio ym Mangor ydy fod yna lawer o gymorth ar gael gan y darlithwyr. Mae Bangor yn lle da ar gyfer myfyrwyr Cymraeg hefyd. Mae nifer o fodiwlau yn cynnig sesiynau cyfrwng Cymraeg ac mae nifer o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg yma. Rwyf yn mwynhau fy nghwrs fwyfwy pob blwyddyn. Mae o wedi bod yn gyfle da i ddod i adnabod pobl newydd, yn fyfyrwyr ac yn ddarlithwyr, ac mae nifer o siaradwyr gwadd wedi bod yma hefyd, sydd wedi bod o fudd mawr.
’
RHODRI MARC JONES LLB Y Gyfraith.
Nod y radd gymhwysol unigryw hon yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg yw paratoi ein graddedigion ar gyfer INTERNATIONAL gyrfaoedd EXPERIENCE fel cyfreithwyr yn y Gymru fodern, ac i fod yr un mor gymwys a hyderus yn y ddwy iaith, cam a ystyrir yn hanfodol yn natblygiad Cymru’r Gyfraith a chymdeithas ddwyieithog y Gymru fodern.
91
GWYDDORAU CYMDEITHAS
Y GYFRAITH GYDA PHWNC ARALL LLB Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Gweler y golofn nesaf Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd ar gyfer graddau yn y Gyfraith gydag Ieithoedd Modern (yn cynnwys blwyddyn yng Nghyfadran y Gyfraith mewn gwlad lle caiff yr iaith dan sylw ei siarad). GOFYNION MYNEDIAD: • Gweler y wefan am fanylion llawn gofynion mynediad y graddau unigol. Mae’r gofynion yn amrywio o 128-112 i 142 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol fel rheol) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Rydym yn derbyn cymwysterau Cyfreithiol eraill. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
CEFNDIR Y CYRSIAU Gallwch gyfuno astudio’r Gyfraith gydag un o’r pynciau isod a bydd tua thraean o’r cwricwlwm yn cael ei neilltuo i’r ail bwnc. Mae hwn yn ddewis deniadol i’r rhai sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth o’r ffordd y rhoddir y Gyfraith ar waith mewn maes arbennig. Ffrangeg (4 blynedd) M105 Almaeneg (4 blynedd) M106 Eidaleg (4 blynedd) M107 Sbaeneg (4 blynedd) M109 Astudiaethau Busnes M1N1 Troseddeg M1M9 Cyfrifeg a Chyllid M1N4 Polisi Cymdeithasol M1L4 Ysgrifennu ar gyfer Cyfryngau Creadigol M1W1 Hanes* M1V1 Astudiaethau Cyfryngau M1P1 Athroniaeth a Chrefydd M1V5 Astudiaethau Tsieinëeg Gyfoes MT10 *yn amodol ar gael ei ddilysu Gallwch hefyd ddilyn gradd gyfun mewn Busnes a’r Gyfraith lle mae cydbwysedd cyfartal rhwng y ddau bwnc. Sylwer nad oes statws QLD i’r cwrs hwn, ac mai gradd BA ydyw yn hytrach na gradd LLB. Gweler tudalen 88 am fwy o wybodaeth am y cwrs hwn.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
92
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio’r saith pwnc sylfaen i wybodaeth gyfreithiol (a restrir ar dudalen 90), sy’n sicrhau INTERNATIONAL fod pob un o’r graddau a restrir EXPERIENCE uchod (ac eithrio BA Busnes a’r Gyfraith) yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith (QLD). Byddwch hefyd yn astudio pynciau arbenigol yn un o’r meysydd uchod. Mae’n bosib dilyn rhai o’r modiwlau arbenigol hynny INTERNATIONAL drwy gyfrwng y Gymraeg. EXPERIENCE
Gellir hefyd ddilyn cwrs y Gyfraith gyda’r Gymraeg (rhagor o wybodaeth ar dudalen 91).
Diwrnod Graddio Ysgol y Gyfraith
‘
Rwy’n mwynhau fy nghwrs yn fawr, ac rwy’n hynod falch fy mod wedi dewis astudio yn adran y gyfraith ym Mangor. Y peth gorau amdano yw bod y cwrs nid yn unig yn cyflenwi’r ochr academaidd, ond hefyd yn rhoi cyfle i ni fel myfyrwyr i wella ein datblygiad personol a’n paratoi at fyd gwaith trwy’r ystod eang o gyfleodd. Mae’r adran yn sicrhau fod pob myfyriwr yn cael ei gefnogi ac mae teimlad cartrefol yno.
’
MIRIAM HUGHES BA Y Gyfraith gyda Busnes
‘
Mae’r radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn gynllun pwysig ac arloesol sy’n parhau’n esiampl i weddill y sector. Hyd heddiw dyma’r unig radd yn y Gwyddorau Cymdeithasol sy’n cael ei dysgu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg… Mae’r dysgu o safon uchel a’r adborth ac asesu’n gyson ragorol. Gall Prifysgol Bangor fod yn wirioneddol falch o’r cynllun…
’
ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
Rhagoriaeth Ymchwil
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ymhlith y 20 sefydliad uchaf ym Mhrydain am ragoriaeth ymchwil yn y maes (REF 2014).
Myfyrwyr bodlon!
Yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr mwyaf diweddar (2016), dyfarnwyd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y gorau yng Nghymru am foddhad ym maes Cymdeithaseg.
93
GWYDDORAU CYMDEITHAS Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 104-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol; 112-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau eraill • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Rydym yn eich cynghori i fwrw golwg ar y manylion llawn ar y wefan.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Ffôn: 01248 382085 e-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gc
94
CWRS CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG BA (anrhydedd)/MSocSci Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol: CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG (gyda rhai modiwlau cyfrwng Cymraeg) BA (anrhydedd)/MSocSci Cymdeithaseg: BA (anrhydedd)/MSocSci Iechyd a Gofal Cymdeithasol: BA (anrhydedd)/MSocSci Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol: BA (anrhydedd)/MSocSci Polisi Cymdeithasol:
L3LK/L3L5 L300/L302 L510/L514 M930/M932 L402/L403
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Yn ogystal â’r cwrs cyfrwng Cymraeg uchod, mae rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar rai o’r cyrsiau cyfrwng Saesneg. Cewch fanylion llawn ar y wefan.
Mae Polisi Cymdeithasol yn ymwneud ag astudio’r cysylltiadau cymdeithasol a’r systemau sy’n cynnal a hyrwyddo lles dynol. Mae’n rhoi sylw i ddarparu lloches, hybu iechyd ac osgoi gwahaniaethu.
CEFNDIR Y CYRSIAU Yn y cyrsiau Cymdeithaseg byddwch yn cael eich annog i archwilio’r dystiolaeth a’r syniadau sy’n cael eu defnyddio gan wyddonwyr cymdeithasol i wella ein dealltwriaeth o sut mae ein cymdeithas yn gweithio.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes ac yn rhoi’r pwys mwyaf ar ddysgu, a chreu awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol. • Mae gennym yr adnoddau technoleg diweddaraf i gefnogi eich dysgu. • Rydym yn eich paratoi ar gyfer dewis eang o swyddi.
Mae Troseddeg yn edrych ar ddamcaniaethau a thystiolaeth yn ymwneud â throsedd, troseddwyr a dioddefwyr, tra bo astudiaethau Cyfiawnder Troseddol yn edrych ar y gwahanol ymatebion i drosedd a dioddefwyr, o gamau anffurfiol i fesurau deddfwriaethol ffurfiol INTERNATIONAL rheolaeth gymdeithasol ac atal EXPERIENCE trosedd. Mae hefyd yn edrych ar y ffordd mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio - o blismona i garcharu. Mae Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn cynnig dewis gwahanol i hyfforddiant INTERNATIONAL clinigol. Mae pwyslais y cyrsiau hyn EXPERIENCE ar brofiadau cymdeithasol iechyd a gofal, yn cynnwys y materion polisi, darparu a rheoli gwasanaethau, a gwerthuso tystiolaeth.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, gwaith ymarferol, aseiniadau, gwaith grw ˆ p, gwaith project. Asesir drwy waith cwrs, arholiadau a thraethawd estynedig.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol a modiwlau dewisol a fydd, yn y lle cyntaf, yn eich cyflwyno i’r pwnc yr ydych wedi ei ddewis, ac yna yn eich helpu i ddatblygu eich diddordeb personol eich hun yn y pwn
Rwy’n mwynhau’r cwrs cydanrhydedd gan ei fod yn rhoi amrywiaeth i mi. Mae’r darlithwyr yma ym Mangor o safon ac mae’n fraint cael fy nysgu ganddynt.
’
MARI ELEN HUGHES BA Cymraeg a Chymdeithaseg
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
CYMDEITHASEG A PHOLISI CYMDEITHASOL BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: L3LK Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 104-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs hwn yn codi rhai cwestiynau pwysig ynglyˆn â sut y mae ein cymdeithas yn gweithio, ac ynglyˆn â’r polisïau y byddai’n bosib eu dyfeisio i fynd i’r afael â rhai o’i phroblemau dwysaf. Mae’n darparu’r wybodaeth a’r dulliau dadansoddi sy’n ein galluogi i ddeall cymdeithas, a datblygu barn wybodus ar faterion cymdeithasol cymhleth. PAM DEWIS BANGOR? • Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, ac yn eich annog i ddatblygu’ch diddordebau eich hunain. • Mae ein modiwlau i gyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr Cymraeg eraill. • Mae’r cwrs yn canolbwyntio yn arbennig ar Gymru a materion Cymreig mewn fframwaith Ewropeaidd. • Mae ein staff yn ymchwilwyr cydnabyddedig yn eu meysydd pwnc, ac mae gan yr uned record dda o gynhyrchu graddedigion ar gyfer graddau MPhil a PhD, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen wedyn i wneud ymchwil bellach.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Ffôn: 01248 382085 e-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gc
INTERNATIONAL EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol • Sgiliau Ymchwil • Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes Blwyddyn 2 a 3 Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, byddwch yn gwneud nifer o ddewisiadau sy’n adlewyrchu eich diddordebau er mwyn gweithio ar draethawd estynedig. Modiwlau gorfodol: • Dulliau Ymchwil • Gwasanaethau Cymdeithasol • Traethawd Hir • Theori Gymdeithasol • Methodoleg Ymchwil • Pŵer, Cyfalaf a Chymdeithas • Llywodraeth: Iechyd a Lles SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael darlithoedd a grwpiau seminar bob wythnos yn ogystal â dosbarthiadau tiwtorial lle bo’r angen. Byddwch hefyd yn gwneud traethodau, gwneud gwaith paratoi ar gyfer cyflwyniadau seminar, darllen, ymchwilio, dadansoddi dogfennau a gwneud gwaith cwrs arall. Os byddwch yn dilyn y cwrs fel pwnc gradd unigol, byddwch yn gwneud traethawd estynedig yn ymwneud ag ymchwil mewn maes o’ch dewis chi. Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau asesu, yn cynnwys gwaith cwrs, arholiadau a’r traethawd estynedig. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu hasesu trwy waith cwrs.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn radd eang, sy’n rhoi sail academaidd gadarn i chi, ac yn eich paratoi’n ardderchog i ddilyn gyrfa mewn nifer o feysydd, yn cynnwys: y gwasanaeth prawf, yr Heddlu, dysgu, ymchwil, gwaith cymdeithasol, y gwasanaeth sifil, y cyfryngau, llywodraeth ganolog a lleol, llysoedd barn a mudiadau gwirfoddol. LLEOLIADAU GWAITH HEDDLU GOGLEDD CYMRU Ceir 6 wythnos o leoliad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru, sy’n rhoi cyfleoedd gwych i chi weld sut mae gwasanaeth brys yn gweithredu a’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael. Mae’n cynnig amrywiaeth, cyffro, her a boddhad. Detholir myfyrwyr llwyddiannus ar sail gystadleuol wrth ddilyn y modiwl Sgiliau Craidd yr Heddlu ym mlwyddyn 1. MSocSci Gallwch ymestyn eich astudiaethau o flwyddyn ychwanegol er mwyn graddio gyda gradd Meistr (MSocSci), y cymhwyster gyntaf o’i math yng Nghymru ac yn wir y DU ym maes Gwyddorau Cymdeithas.
‘
Rwyf wrth fy modd efo’r cwrs a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n ystyried ei ddilyn. Mae astudio’r cwrs yma yn rhoi’r potensial i mi allu gweithio mewn amryw o feysydd gwaith cymdeithasol a thu hwnt.
’
LOWRI LLOYD PARRY BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
95
CERDDORIAETH
‘
Un o’r pethau gorau am y cwrs oedd brwdfrydedd ac arbenigedd y darlithwyr, ochr yn ochr â’u parodrwydd i gynnig cymorth ac arweiniad ar bob achlysur. Bu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg arwain at gyswllt llawer mwy personol rhwng y darlithydd a’r myfyrwyr, gan fod nifer y myfyrwyr yn llawer llai nag ar y cwrs cyfrwng Saesneg. Roedd hyn yn creu awyrgylch mwy cartrefol yn ystod y darlithoedd a’r seminarau, gan fod pawb ar y cwrs yn adnabod ei gilydd.
’
ADAM PIERCE Graddiodd gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
‘
’
Mae ansawdd addysg gerddorol Prifysgol Bangor yn rhagorol. ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
‘
’
Mae staff a myfyrwyr Bangor yn uchel eu parch yn y maes cenedlaethol a rhyngwladol. ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
‘
Des i Fangor oherwydd fy mod yn medru astudio Cerdd yn Gymraeg, ac oherwydd bod y Brifysgol wedi apelio ataf yn ystod y Diwrnod Agored – roedd y darlithwyr yn ysbrydoledig iawn. Er bod y ddinas a’r adran yn fach, mae dewis eang a diddorol o fodiwlau ar gael, a apeliodd ataf gan wybod nad oedd y cwrs am fod yn un undonog. Dewch i Fangor achos mae’n ddinas fach ond mae popeth angenrheidiol yma ar eich cyfer. Mae teimlad diogel iawn i’r lle ac mae’r Brifysgol yn gefnogol iawn o’i holl fyfyrwyr.
’
MARI MORGAN Myfyrwraig Cerddoriaeth
Mae Cerddoriaeth ym Mangor ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr. (Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2016)
96
97
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd]
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: W300 BA/Mus; W302 BMus/Mus; Hyd: 3 blynedd llawn-amser (cynigir cyrsiau rhan-amser hefyd) GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd, dylech hefyd edrych ar y gofynion mynediad ar gyfer eich dewis bwnc arall. • 128-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* fel rheol gydag o leiaf gradd B mewn Lefel A Cerddoriaeth (neu gyfwerth) a/neu Teilyngdod mewn Gradd 5 ABRSM Theori neu Gradd 7/8 Ymarferol. Ewch i’r wefan i weld yr holl gymwysterau Cerddoriaeth rydym yn eu derbyn. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyniadau Yr Ysgol Cerddoriaeth Ffôn: 01248 382181 e-bost: cerdd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cerddoriaeth
98
CEFNDIR Y CYRSIAU Nod ac amcan y cyrsiau hyn yw perfformio, cyfansoddi, ac astudio cerddoriaeth o bob cyfnod mewn awyrgylch greadigol fyrlymus ac ysgolheigaidd.
• Ymhlith ein haelodau staff • Mae ein cyfres gyngherddau yn un cyfeillgar a hynod gefnogol, fe geir o’r rhai ehangaf a’r fwyaf amrywiol cyfansoddwyr, cerddoregwyr a mewn unrhyw brifysgol ym pherfformwyr sydd ag arbenigedd Mhrydain. Mae’r gyfres yn cynnwys mewn amrywiaeth eang o feysydd cyngherddau cerddoriaeth siambr ym maes cerddoriaeth. (a phreswyliaeth flynyddol gan • Gwneir llawer o’r dysgu mewn Ensemble Cymru a’r Benyounes PAM DEWIS BANGOR? grwpiau bach sy’n creu Quartet, sydd hefyd yn cynnig • Rydym yn cynnig amrywiaeth amgylchedd dysgu ysbrydoledig dosbarthiadau meistr); eang o ddewisiadau sy’n eich a chefnogol. Mae’r dewisiadau yn datganiadau gan gantorion ac INTERNATIONAL galluogi i lunio’ch cwrs gradd i cynnwys hyfforddiant ensemble, offerynwyr blaenllaw, EXPERIENCE adlewyrchu’ch diddordebau a’ch projectau yn y gymuned a cyngherddau o gerddoriaeth cryfderau. hyfforddiant yng nghrefft yr acwstmatig a roddir gan • Yn yr Archwiliad Safonau Mewnol arweinydd. Electroacwstig Cymru, ac diweddaraf fe ganmolodd y • Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ymweliadau cyson gan Gerddorfa panel annibynnol yr Ysgol am ansawdd dysgu ac yn Arolwg Genedlaethol Gymreig y BBC. “gwricwlwm heriol … sy’n nodedig Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016 Yn ogystal â hyn, cynhelir Gw ˆ yl am natur amrywiol ei ddarpariaeth dyfarnwyd sgôr o 100% i’r Ysgol Cerddoriaeth Newydd yn yr Ysgol. INTERNATIONAL ac am y graddau sy’n cael eu am foddhad myfyrwyr. Mae tocynnau tymor ar gael i EXPERIENCE cynnig i’r myfyrwyr.” fyfyrwyr am bris rhesymol iawn. • Mae gennym gôr mawr a cherddorfa symffoni, côr siambr, grwpiau cerddoriaeth gynnar ac amrywiaeth o ensemblau eraill.
• Rhoddir cyfle i berfformwyr chwarae concertos gyda cherddorfa symffoni’r Brifysgol. Perfformir cyfansoddiadau gan ein myfyrwyr, yn aml gan gerddorion proffesiynol sy’n ymweld â’r Ysgol. Mae Cymdeithas Gerdd y Brifysgol hefyd yn cynnal cerddorfa a chôr ac mae cymdeithasau eraill Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys band pres, band jazz, a chymdeithas sioeau cerdd. • Mae gennym ddwy neuadd gyngerdd odidog ac adeiladau adrannol sy’n cynnwys ystafelloedd dysgu, neuadd ymarfer a nifer o ystafelloedd ymarfer ar gyfer unigolion. Mae gan yr Ysgol gasgliad eang o bianos, organau, telynau, offerynnau taro a harpsicordiau. Mae ein 4 stiwdio yn cynnwys offer o safon ryngwladol ar gyfer recordio, ymchwilio a chyfansoddi. Mae gennym dros 3,000 o gryno ddisgiau ac 20,000 o sgorau. • Mae gennym amrywiaeth helaeth o adnoddau electronig, yn cynnwys Llyfrgell Gerddoriaeth Naxos a cherddoriaeth Grove ar-lein. Mae gennym hefyd gyfrifiaduron gyda meddalwedd Sibelius a meddal- wedd cerddoriaeth arall arnynt. • Cynigir Ysgoloriaethau Perfformio i’r offerynwyr neu’r cantorion mwyaf addawol. Cewch fwy o fanylion gan y Tiwtor Mynediad. • Mae gennym gysylltiad cryf â’r diwylliant Cymreig ac rydym wedi ymrwymo i’w astudio. Mae’r Ysgol yn gartref i Archif Cerddoriaeth Draddodiadol (sy’n cynnwys casgliad o dros 300 o offerynnau o ddiwylliannau byd-eang), Archif Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig (sy’n cynnwys llyfrgell sylweddol o recordiau), a Chasgliad Crossley- Holland (sy’n cynnwys casgliad o dros 2,000 o offerynnau o ddiwylliannau byd-eang).
BETH FYDDAF YN EI DDYSGU? Os byddwch yn dilyn cwrs gradd cyd-anrhydedd, byddwch yn astudio hanner eich modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth bob blwyddyn, gan gynnwys traean o’r modiwlau craidd. Blwyddyn 1: Os byddwch chi’n dilyn cwrs Cerddoriaeth BA, byddwch yn cymryd rhwng 80 a 120 credyd mewn cerddoriaeth (mae gofyn i chi gwblhau 120 credyd bob blwyddyn); bydd myfyrwyr BMus yn cymryd y 120 i gyd mewn cerddoriaeth. Modiwlau craidd: • Astudio Cerddoriaeth • Harmoni a Gwrthbwynt
Dewisiadau yn cynnwys: Perfformio Unawdol; Cyfansoddi; Technoleg Cerddoriaeth; Diwylliannau Cerdd Byd-Eang; Boblogaidd, Creu Cerddoriaeth.
Astudiaethau Cyfansoddwyr: Wagner, Elgar, Falla, Stravinsky, Bartók, Y Beatles, Boulez, Handel, Hildegard o Bingen, Vaughan Williams, Nyman, Zappa, Dvořák.
Blwyddyn 2: Ar gyfer y cwrs Cerddoriaeth BA, byddwch yn cymryd rhwng 100 a 120 credyd mewn Cerddoriaeth; bydd myfyrwyr BMus yn cymryd 120 credyd mewn Cerddoriaeth.
Dewisiadau (dewis eang yn cynnwys): Harmoni a Gwrthbwynt; Ethnogerddoreg; Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru; Gweinyddu’r Celfyddydau; Cerddoriaeth yn y Gymuned; Offeryniaeth a Threfnu; Cyfansoddi Acwsmatig; Technegau Recordio; Perfformio gydag Ensemble; Cerddoriaeth Mewn Iechyd a Lles; Astudiaethau Perfformio Hanesyddol; Arwain; Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a’r Cyfryngau; Cyhoeddi a Chysodi Cerddoriaeth.
Modiwlau gorfodol: • Rhaid dewis o leiaf ddau o’r modiwlau canlynol: Cerddoreg; Cyfansoddi; Perfformio Unawdol; Nodiant a Golygu. • Byddwch hefyd yn astudio o leiaf un o’r Astudiaethau Genre neu Gyfansoddwyr ym mhob semester. Mae’r rhain yn newid bob blwyddyn, ond ymhlith enghreifftiau ceir:
Manylion Blwyddyn 3 trosodd …
Astudiaethau Genre: Hanes Cerddoriaeth Bop Gymraeg, Symffoni’r Ugeinfed Ganrif, Beethoven a’r Pedwarawd Llinynnol, Madrigal y Dadeni, Minimaliaeth.
99
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd] Blwyddyn 3: Bydd yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio yn rhai Cerddoriaeth, p’un a fyddwch chi’n dilyn cwrs BA neu BMus. Bydd yn rhaid i chi wneud gwaith project mewn un o leiaf o’r meysydd project canlynol: Traethawd Hir, Golygu, Cyfansoddi (yn cynnwys Cyfansoddi Acwstig, Cyfansoddi Acwsmatig, Cyfansoddi Poblogaidd), Perfformio Unawdol.
RHAGOLYGON GYRFAOEDD Tra bo llawer o raddedigion yn dilyn gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth, mae’r cyrsiau gradd hyn hefyd yn baratoad da ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi mewn gweinyddu, masnach a rheoli. Mae ein graddedigion wedi dod yn berfformwyr proffesiynol, cyfansoddwyr, athrawon, gweinyddwyr celfyddydau, therapyddion cerdd, cyhoeddwyr Mae’r dewisiadau ar gyfer y cerddoriaeth, llyfrgellwyr, rheolwyr modiwlau sy’n cael eu dysgu cyngherddau, rheolwyr llwyfan, yn cynnwys: Technegau Dysgu ar cynhyrchwyr recordio a darlledu, gyfer Perfformio Unawdol; Arwain; Ffiwg; a pheirianwyr sain. Mae llawer o Astudiaethau Genre, Astudiaethau Cyfansoddwyr gyn-fyfyrwyr wedi dilyn hyfforddiant a modiwlau dewisol o flwyddyn 2. cerddorol ychwanegol ar ôl y cyrsiau gradd hyn, fel perfformwyr, SUT Y BYDDAF YN DYSGU? ysgolheigion neu gyfansoddwyr, a Byddwch yn cael tua 12 awr o cheir cyfleoedd i astudio’r rhain i gyd ddarlithoedd yr wythnos gan ym Mangor. gynnwys seminarau a dosbarthiadau tiwtorial, ynghyd â hyfforddiant unigol os byddwch yn dilyn modiwl Perfformio Unawdol. Ar ben hynny, byddwch yn treulio amser yn darllen gwaith cefndir, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs a pharatoi ar gyfer seminarau, ynghyd ag ymarfer a pherfformio mewn ensemblau, corau a cherddorfeydd. Mae nifer o fodiwlau yn cynnwys ymweliadau maes, er enghraifft â neuaddau cyngerdd, cwmnïau recordio a chyhoeddwyr cerddoriaeth. Bydd rhai yn cynnwys lleoliadau byr y tu allan i’r Brifysgol (gyda’r modiwl Cerddoriaeth yn y Gymuned, er enghraifft). Mae gan yr Ysgol gyswllt agos â rhai o brif sefydliadau cerddorol Prydain gan gynnwys Cerddorfa Philharmonig Lerpwl, Sinffonietta Llundain, Cwmni Sain (Llandwrog) ayyb. Gallwch ddisgwyl treulio rhwng traean a dwy ran o dair o’r flwyddyn olaf yn gweithio ar brojectau cerddoriaeth annibynnol.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
100
Y CYFRYNGAU, THEATR, FFILM A NEWYDDIADURAETH
‘
...mae’r myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n dda iawn gan y staff, yn academaidd ac yn bersonol. Mae’r staff yn cymryd diddordeb yn y myfyrwyr a’u cynnydd. Mae hi’n hynod o amlwg bod safon yr addysgu yn yr Ysgol yn uchel ac yn cymharu’n ffafriol efo’r hyn rwy’n ei weld yng ngweddill Prydain.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL CWRS PERTHNASOL Yr ydym hefyd yn cynnig cwrs cyd-anrhydedd BA Cerddoriaeth a Pheirianneg Electronig ond mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau ar y cwrs hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Gweler y prospectws Saesneg am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
‘
‘
Y mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw yn y Gymraeg i fyfyrwyr astudio maes sy’n ddylanwadol iawn ac sy’n gyflogwr pwysig. Ni allaf ond canmol ymroddiad y staff a’u gofal dros y myfyrwyr.
Mae’r cwrs yn rhoi lot o bwyslais ar syniadau ac yn un ymarferol iawn. Fy uchelgais ydi bod yn gynhyrchydd-gyfarwyddwr neu’n cyflwyno rhaglenni dogfen, felly mae o’r union beth dwi ei angen!
ARHOLWR ALLANOL
CARYL BURKE Graddiodd gyda Gradd Dosbarth Cyntaf, cyn dilyn y cwrs MA Cynhyrchu Ffilmiau
‘
’
Y mae’r cwrs yn un cyffrous sy’n cyfuno elfennau damcaniaethol ac ymarferol yn y maes. Llongyfarchaf y staff ar eu dysgu egnïol a’u monitro cydwybodol o’r myfyrwyr yn eu gofal. ARHOLWR ALLANOL
’
’
Cafodd adeilad yr Ysgol Cerddoriaeth ei adnewyddu’n ddiweddar. Dyma un o’r gofodau dysgu cymdeithasol.
101
Y CYFRYNGAU, THEATR, FFILM A NEWYDDIADURAETH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd fel arfer GOFYNION MYNEDIAD: • 120-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. • Rydym yn cyfweld pob myfyriwr. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Rydym yn eich cynghori i fwrw golwg ar fanylion llawn y gofynion mynediad a’r cyrsiau ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol.
CYRSIAU BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Astudiaethau Creadigol: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd) Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Astudiaethau Ffilm gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd) Astudiaethau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd)/MArts Cyfryngau: MArts Ymarfer Creadigol: MArts Ysgrifennu Proffesiynol: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Cynigir modiwlau Cymraeg a dwyieithog ym mhob un o’r graddau a’r meysydd dysgu, gyda darpariaeth Ysgrifennu Creadigol ar gael yn Ysgol y Gymraeg. Gellir dilyn Astudiaethau’r Cyfryngau gan ddewis modiwlau Cymraeg a dwyieithog yn unig.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Y Tiwtor Derbyniadau Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Ffôn: 01248 388560 e-bost: creadigol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/creadigol
102
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r graddau, sy’n cyfuno agweddau academaidd ac ymarferol, yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr i’r rhai sy’n dymuno astudio meysydd y cyfryngau, newyddiaduraeth, theatr, ffilm, technoleg gwybodaeth a llenyddiaeth gyfoes. Byddwch yn dewis teitl penodol i’ch cynllun INTERNATIONAL gradd, ond bydd modd i chi ddewis EXPERIENCE modiwlau o blith meysydd eraill. PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Rydym yn cynnig dewis eang o INTERNATIONAL fodiwlau cyffrous. EXPERIENCE • Mae’r adnoddau a’r cyfarpar diweddaraf ar gael yn ein canolfan gyfryngau sydd wedi’i lleoli yn Neuadd John Phillips. Defnyddir y neuadd hefyd ar gyfer gwaith ymarferol theatr a pherfformiadau byw. Mae’r Ysgol hefyd yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn adeilad newydd Pontio.
ASTUDIAETHAU’R CYFRYNGAU BA [Anrhydedd] P3O6 WPQ0 P3R1 P3R2 P3R3 P3R4 P3WL W620 P3W5 PP53 W890 WP83 P308 W900 W891 P3W9 W6W8
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: P306 Hyd: 3 blynedd
© BAFTA Cymru/Huw John
‘
Mae’r staff yn yr Ysgol yno arbennig o dda, ac yna i’ch helpu ar unrhyw adeg. Hebddyn nhw, fyswn i byth wedi cael yr holl gyfleoedd rydw i wedi eu cael hyd yma gyda chyflogwyr fel y • Mae gennym gysylltiadau agos â BBC ac amryw o gwmnïau teledu nifer o gyflogwyr a sefydliadau ym annibynnol. Mae astudio trwy’r maes y diwydiannau creadigol, yn Gymraeg hefyd yn fantais – lleol ac yn genedlaethol. oherwydd fod yna lai ohonom ni, rydym ni’n cael mwy o sylw yn BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? ystod y darlithoedd a’r seminarau. Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol, yn Mae’r cwrs yn un diddorol ac yn dibynnu ar eich llwybr gradd. Mae hwyl, a dydw i ddim yn difaru dod i manylion pob cwrs yn dangos Fangor i astudio! yr amrywiaeth eang o feysydd cyfoes a chyffrous y medrwch eu dilyn, ar drywydd sy’n gwbl berthnasol i Gymru’r mileniwm newydd. Byddwch yn datblygu amrediad o fedrau dadansoddol ac ymarferol a fydd yn adlewyrchu eich diddordebau fel unigolyn.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? • Darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial ym mhob gradd, gyda defnydd hefyd o’r rhith-amgylchedd dysgu Blackboard. • Cyfnodau gwylio a gwrando ym meysydd y cyfryngau, ffilm, theatr a newyddiaduraeth. • Gweithdai yn y cyfryngau, theatr, newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol. • Mae’r dulliau asesu yn amrywio – o waith cwrs i arholiadau, i waith ymarferol.
GOFYNION MYNEDIAD: • 120-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Rydym yn cyfweld pob myfyriwr • Os oes gennych HND addas mae’n bosibl y gallwch ddechrau ym mlwyddyn 2. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Rydym yn eich cynghori i fwrw golwg ar fanylion llawn y gofynion mynediad a’r cyrsiau ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol.
’
OSIAN WILLIAMS Cyn-fyfyriwr israddedig sydd bellach wedi graddio gyda MA, ac enillydd gwobr BAFTA Cymru.
Blwyddyn 1 Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
DATBLYGIADAU NEWYDD Yn amodol ar gael eu dilysu, bydd y cyrsiau canlynol ar gael yn 2018: Y Cyfryngau a Dylunio Gemau BA, Ysgrifennu i’r Cyfryngau a Dylunio Gemau BA. Ewch i’r wefan am y manylion diweddaraf.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym gysylltiadau arbennig gyda’r diwydiannau creadigol proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys cwmnïau teledu annibynnol, BBC Cymru, S4C, a’r wasg leol a chenedlaethol. • Mae Canolfan y Cyfryngau yn cynnwys stiwdio radio sain gydag offer hunan-reoli, unedau symudol fideo a sain ac ystafell benodol ar gyfer y cyfryngau newydd. • Yn yr un ganolfan ceir yr offer golygu digidol diweddaraf: Final Cut Pro ar gyfer sain a fideo. • Cynhelir dangosiadau o raglenni a ffilmiau gyda thaflunydd DVD a sain Dolby yn theatr yr Ysgol ac yn adeilad Pontio. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
PROFIAD RHYNGWLADOL
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
CEFNDIR Y CWRS Ar y cwrs cyffrous hwn byddwch yn dysgu am ddulliau gwahanol o gyfathrebu – mewn geiriau a delweddau, ac agweddau gwahanol ar y cyfryngau – radio, teledu ac amlgyfryngedd. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu’r medrau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd perthnasol i’r meysydd hynny.
MWY O WYBODAETH Y Tiwtor Derbyniadau Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Ffôn: 01248 388560 e-bost: creadigol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/creadigol
• C yflwyniad i Newyddiaduraeth INTERNATIONAL Ymarferol EXPERIENCE • Cyfathrebu Digidol • Y Ddelwedd Symudol • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau • Diwylliant y Cyfryngau • Sgriptio Teledu • Dyfeisio Theatr •INTERNATIONAL Perfformio ar y Llwyfan a’r Sgrin EXPERIENCE
Blwyddyn 2 a 3 Mae’r canlynol ymhlith y modiwlau a gynigir: • Y Ffilm Ddogfen: Theori • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol • Radio: Theori ac Ymarfer • Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarferol • Animeiddio a Graffeg Symudol • Ymarfer Theatr Gyfoes • Cyn-gynhyrchu’r Ffilm fer • Cynhyrchu’r Ffilm fer • Y Sgrin Fach Gymraeg • Sgriptio • Ymarfer Proffesiynol • Perfformio Safle-benodol • Y Theatr Gymraeg Fodern • Astudiaeth Unigol neu Draethawd SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn mynychu darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau gwylio, gan gyflawni tasgau ymarferol a dadansoddol.
dulliau asesu yn amrywio yn ôl y modiwlau a ddewisir. Bydd llawer o’r dysgu yn cael ei gyflawni mewn grwpiau bach. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Yn ogystal â magu dealltwriaeth o gynhyrchu cyfryngol a’r cyddestun ehangach, bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu nifer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr. Mae ein graddedigion felly yn gweithio mewn nifer o feysydd amrywiol, gan gynnwys y diwydiannau creadigol, a’r cyfryngau creadigol yn arbennig, addysg a’r sector cyhoeddus, a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Mae nifer ohonynt wedi parhau â’u haddysg drwy gyflawni astudiaethau ôl-radd yn yr Ysgol.
Mae’r modiwlau cyfryngau ymarferol yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cynhyrchu ffilm a theledu, cynhyrchu radio a chyfryngau digidol yn fwy cyffredinol. Asesir y modiwlau hyn ar sail y gwaith creadigol a gallu’r unigolyn i ddadansoddi’r gwaith. Bydd y modiwlau sydd yn ymwneud â hanes, dylanwad a diwylliant y cyfryngau yn cael eu hasesu drwy aseiniadau ac arholiadau, ond mae’r
103
CYMRAEG
‘
Mae’r cwrs wedi bod yn hynod o werthfawr i mi fagu hyder a’m helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant newyddiadurol. Cyn dechrau’r cwrs doedd gen i ddim profiad o wneud gwaith newyddiadurol, ond erbyn hyn dwi’n teimlo’n ddigon hyderus bod gen i’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant. Mae’r holl gwrs wedi bod yn wych. Fyswn i’n dweud mai’r ffaith bod hi mor hawdd integreiddio yma – efo’r darlithwyr a’m cyd-fyfyrwyr – yw’r uchafbwynt. Mae ‘na deimlad reit gartrefol yma, mae pawb yn fodlon helpu’i gilydd, mae pawb eisio llwyddo – mae’n gwrs bendigedig ar y cyfan!
’
JAMIE THOMAS, BA Newyddiaduraeth ac Astudiaethau Creadigol ac awdur The Dragon Roars Again: Wales’ Journey to Euro 2016 a When Dragons Dare To Dream
104
‘
Y mae’r safonau’n uchel a’r dulliau asesu’n deg iawn. Dangoswyd cryn ddychymyg wrth lunio’r amrywiaeth mawr o gyrsiau sy’n cael eu cynnig yn yr Ysgol, ac roeddwn yn gallu synhwyro o atebion y myfyrwyr iddynt gael blas anghyffredin ar eu gwaith.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
Mae Ysgol y Gymraeg ym Mangor yn gyson yn cyflawni lefel boddhad cyffredinol o dros 95% ymysg ei myfyrwyr – y lefel uchaf yn genedlaethol ym maes y Gymraeg (yn ôl arolygon myfyrwyr diweddar).
105
CYMRAEG: LLWYBRAU AMRYWIOL Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall. • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Ar gyfer graddau Ysgol y Gymraeg, dylai hyn gynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG BA (anrhydedd) Cymraeg: BA (anrhydedd) Cymraeg Proffesiynol: BA (anrhydedd) Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Cymraeg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd: BA (anrhydedd) Cymraeg i Ddechreuwyr (Welsh for Beginners)**:
Q562 Q563 Q5WK Q5P5 QWM5 QW5H Q522
SYLWCH: Cynigir y cyrsiau yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg (heblaw am Gymraeg i Ddechreuwyr). ** Mae’r cwrs yma’n cael ei ddilysu ar hyn o bryd. PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
106
INTERNATIONAL
CEFNDIR EXPERIENCEY CYRSIAU Mae’r graddau anrhydedd hyn yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr i’r rhai ohonoch sy’n dymuno astudio cyrsiau sy’n ymwneud â’r Gymraeg fel pwnc, neu â meysydd theatr, newyddiaduraeth neu’r cyfryngau. INTERNATIONAL Gellir cyfuno gwahanol agweddau EXPERIENCE ar y meysydd hyn os ydych am wneud cyrsiau diddorol ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i ddilyn trywydd academaidd neu gyfuniad o’r academaidd a’r galwedigaethol.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau. • Cewch gyfnod o brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs. • Mae parch mawr at safon ein graddau.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn dibynnu ar eich llwybr gradd unigol. Mae manylion pob cwrs yn dangos amrywiaeth eang y meysydd traddodiadol a newydd y gallwch eu dilyn ar drywydd gradd berthnasol i’r Gymru gyfoes. Mae galw mawr am raddedigion yr Ysgol hon mewn nifer o feysydd: Cyfieithu, y Cyfryngau a’r Theatr, Byd Addysg, Gweinyddu a Pholisi, Cysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth, Llywodraeth Leol a’r Gwasanaeth Sifil, etc. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai. Cyfnodau gwylio a gwrando rhaglenni, gwaith ymarferol theatrig, cyfryngol a newyddiadurol yn y graddau sy’n cyflwyno’r meysydd hynny. Mae’r dulliau asesu yn amrywio yn ôl gofynion y modiwlau unigol.
CYMRAEG BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Mae’r cwrs hwn ar gael i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Cod cwrs UCAS: Q562 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech edrych hefyd ar y gofynion mynediad yn eich pwnc dewisol arall. • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
CEFNDIR Y CWRS Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor. Mewn meysydd mor amrywiol â’r cyfryngau, addysg, y gwasanaeth sifil, cysylltiadau cyhoeddus, byd cyfieithu a llywodraeth leol, y mae galw aruthrol am rai sydd â gradd dda yn y Gymraeg. Mae Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi ymateb yn egnïol i’r alwad hon drwy greu cyrsiau diddorol a blaengar sy’n berthnasol i ofynion y byd modern. Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o’r gorffennol yw’r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Os ydych chi’n dilyn y cwrs gradd Cymraeg, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a gallwch ddilyn rhai dewisiadau ychwanegol yn y pwnc.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar fel medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr. • Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr. • Mae’r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu creadigol. • Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o INTERNATIONAL alw am ein myfyrwyr ni. EXPERIENCEbarhau i astudio yn yr • Gallwch Ysgol hyd at lefel MA, MPhil a PhD. • Mae Bangor yn ddewis delfrydol os yw’r Gymraeg yn ail iaith i chi. Byddwn yn eich annog i ddatblygu’n siaradwr hyderus trwy gyfrwng dysgu mewn INTERNATIONAL grwpiau bach a modiwlau EXPERIENCE arbennig. • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn (gwelwch y tudalennau ar ddechrau’r prospectws).
Ail Iaith Modiwlau gorfodol: • Ysgrifennu Cymraeg • Cymraeg Llafar • Golwg ar Lenyddiaeth • Llên a Llun
Blwyddyn 1 Iaith Gyntaf Modiwlau gorfodol: • Llên Gyfoes • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Yr Iaith ar Waith • Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar • Theatr Fodern Ewrop Dewisiadau: • Gweithdy Creadigol • Sgriptio Teledu • Amryw fodiwlau eraill • Gwyddeleg Modern
Dewisiadau: • Dewisir modiwlau eraill o blith y rhai iaith gyntaf Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 Byddwch yn astudio modiwlau gorfodol ac yn dethol dewisiadau o blith ystod eang o fodiwlau, e.e.: • Barddoniaeth Fodern • Rhyddid y Nofel • Dafydd ap Gwilym • Chwedlau’r Oesoedd Canol • Medrau Cyfieithu • Ymarfer Ysgrifennu • Y Sgrin Fach Gymraeg • Sgriptio • Y Theatr Gymraeg Fodern • Llenyddiaeth Gymraeg America • Canu Llys • Traethawd Estynedig • Athroniaeth a Llenyddiaeth • O’r Llyfr i’r Llwyfan
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Cewch eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Byddwch hefyd yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Mae’r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Os ydych chi’n astudio cwrs gradd anrhydedd sengl, byddwch hefyd ym mlwyddyn 3 yn gwneud traethawd hir ar bwnc o’ch dewis.
‘
Mae cyfle i fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg deithio i ddewis mawr o wledydd yn rhan o’u cynllun gradd. Mae gennym gytundebau newydd â dwy brifysgol yng Ngwlad Pwyl i drefnu teithiau cyfnewid i fyfyrwyr ac mae yno ddiddordeb mawr yn y Gymraeg. Y mae cysylltiadau eraill yn golygu bod modd teithio i wledydd eraill yn Ewrop ac mor bell â’r Unol Daleithiau a Tsieina. Mae’r cyfle i deithio fel rhan o’r radd Gymraeg yn ddi-ben-draw. Ac nid yn unig drwy deithio y mae modd gweld y byd drwy astudio gyda ni. Cofiwch am y modiwl Llenyddiaeth Gymraeg America a hefyd y cyfle i ddysgu Gwyddeleg Modern, un o chwaer ieithoedd y Gymraeg.
’
DR ALED LLION JONES Uwch-Ddarlithydd, Cydlynydd Teithiau Tramor a Thiwtor Mynediad yn Ysgol y Gymraeg GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
107
CYMRAEG PROFFESIYNOL BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Q563 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A (neu gyfwerth) mewn Cymraeg neu bwnc arall e.e. Hanes, Astudiaethau Crefyddol, Saesneg neu Ffrangeg. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
108
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs newydd hwn yn ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr a chwmnïau proffesiynol. Mae’r cwrs hwn yn cydweithio’n agos â Chanolfan Bedwyr. Byddwch yn elwa o’r arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol y mae Canolfan Bedwyr wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi ddilyn gradd gyda’r holl elfennau sy’n ddisgwyliedig o fewn gradd draddodiadol yn y Gymraeg, ond gyda llwybr ymarferol clir a fydd yn arwain i gyfeiriadau gyrfaol amrywiol. Ymhlith y cyrff cyhoeddus sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r radd newydd hon mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Menter Iaith Môn, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae cefnogaeth o’r fath yn ychwanegu at hygrededd proffesiynol y rhaglen hon. PAM DEWIS BANGOR? INTERNATIONAL •EXPERIENCE Mae hon yn radd sy’n gyfuniad amrywiol o fodiwlau newydd a modiwlau traddodiadol a fydd yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd. • Cewch eich dysgu mewn dosbarthiadau bychain, a fydd yn INTERNATIONAL eich galluogi i ddod i adnabod y EXPERIENCE staff a’ch cyd-fyfyrwyr yn dda. • Mae gan yr Ysgol draddodiad llwyddiannus o safbwynt safon ei dysgu a boddhad myfyrwyr. • Cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau.
• Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ein safonau yn golygu bod llawer o alw gan gyflogwyr am ein myfyrwyr ni. • Mae Bangor yn eich galluogi i fyw bywyd myfyriwr i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar a naturiol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Defnyddio’r Gymraeg • O’r Senedd i’r Swyddfa • Llên Gyfoes • Llên y Cyfnod Modern Cynnar • Cyflwyniad i Bolisi a Chynllunio Ieithyddol Cewch ddewis hyd at 40 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill. Bydd cyfle i chi fynd ar leoliad gwaith a byddwch yn cael nifer o ddarlithoedd gwadd gan gynrychiolwyr o wahanol broffesiynau. Blwyddyn 2 Modiwlau gorfodol: • Iaith Gwaith • Ymarfer Ysgrifennu • Datblygiad yr Iaith
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a chewch gyfle i fynd ar leoliad gwaith. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn ôl yr hyn sy’n briodol i ofynion modiwlau unigol. Y nod yw rhoi’r cyfle i chi astudio’r iaith Gymraeg mewn modd ymarferol a fydd yn cryfhau eich sgiliau ysgrifenedig a llafar yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi astudio agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg hyd at y presennol. Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg yn y gweithle. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae gradd mewn Cymraeg Proffesiynol yn gallu arwain at ystod eang o yrfaoedd. Y mae galw mawr am raddedigion yr Ysgol hon ac mae’r sgiliau a ddysgwch wrth ddilyn modiwlau mwy ymarferol yn baratoad gwych ar gyfer gyrfa a swydd. Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amryw o feysydd megis addysgu, cyfieithu, newyddiadura, y cyfryngau, golygu a’r byd cyhoeddi, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, swyddogion y wasg, cynllunio ieithyddol, gweinyddiaeth a’r gwasanaeth sifil.
Cewch gyfle i ddewis unrhyw 40-60 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill. Blwyddyn 3 Modiwlau gorfodol: • Medrau Cyfieithu • Portffolio Proffesiynol ar fedrau ymchwilio annibynnol. Cewch ddewis unrhyw 60 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg (heblaw am fodiwl Y Traethawd Estynedig).
108
‘ ‘
Mae’r radd Cymraeg Proffesiynol yn ymateb i alw, ac mae hefyd yn rhan o’n hymdrech barhaus i ddatblygu modiwlau a chyrsiau sy’n berthnasol i anghenion y Gymru sydd ohoni. Rydym ni’n awyddus i roi cymaint o sgiliau ag sy’n bosib i’n myfyrwyr i’w paratoi nhw orau allwn ni at y farchnad waith. Mae yna nifer o gwmniau a chyrff cyhoeddus yn cefnogi’r radd ac yn barod i dderbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith. Yn eu mysg mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Menter Iaith Môn, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
’
Yr Athro GERWYN WILIAMS, Pennaeth Ysgol y Gymraeg
109
109
CYMRAEG GYDA NEWYDDIADURAETH BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cod cwrs UCAS: Q5P5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs hwn yn agor nifer o lwybrau gyrfa. Mae’n cynnig sylfaen academaidd dda mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’r cwrs) ynghyd â nifer o fodiwlau ymarferol ac academaidd mewn Newyddiaduraeth. Ceir cyfle i flasu newyddiaduraeth heb gau’r drws ar yrfa yn yr holl feysydd sy’n gofyn am radd mewn Cymraeg. PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar megis medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr. • Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr. • Mae’r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol a’r cyfryngau. • Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni. • Gallwch barhau i astudio yn yr Ysgol hyd at lefel MA, MPhil a PhD. • Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, lle ceir newyddiadurwyr profiadol i’ch hyfforddi. • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu bob INTERNATIONAL blwyddyn (gweler y tudalennau EXPERIENCE ar ddechrau’r prospectws).
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
110
INTERNATIONAL EXPERIENCE
CYMRAEG GYDAG YSGRIFENNU CREADIGOL BA [Anrhydedd] BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Llên Gyfoes • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Yr Iaith ar Waith • Llên y Cyfnod Modern Cynnar Modiwlau dewisol: • Gweithdy Creadigol • Theatr Fodern Ewrop • Sgriptio Teledu Blwyddyn 2 a 3 Modiwlau gorfodol: • Ymarfer Ysgrifennu • Traethawd Estynedig • Medrau Cyfieithu Byddwch hefyd yn dewis modiwlau o blith ystod eang (gweler y cynllun gradd BA (Anrhydedd) Cymraeg uchod). Newyddiaduraeth Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, sydd ag enw da iawn yn y maes hwn. Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau Blwyddyn 2 a 3 Modiwlau gorfodol: • Newyddiaduraeth Ymarferol Ddigidol • Newyddiaduraeth: Moeseg, Cyfraith a Democratiaeth
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Bydd y cyrsiau Newyddiaduraeth yn cynnwys gwaith ymarferol. Bydd yr asesiad terfynol yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs.
‘
Roedd pawb roeddwn wedi siarad â nhw am Fangor yn canmol y lle. Ar ben hynny, Bangor yw un o brifysgolion harddaf y wlad, mewn ardal fendigedig sy’n llawn diwylliant a hanes! Mae’n lle gwych i astudio am fod pawb mor gyfeillgar a chlên, ac er bod Bangor yn ddinas fach, mae yma o hyd rywbeth yn mynd ymlaen. Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn ac mae amrywiaeth o fodiwlau ar gael i’w hastudio. Mae’r darlithwyr i gyd wedi bod yn groesawus a chyfeillgar dros ben! MERYL THOMAS BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth
‘
’
Mae’r darlithwyr wedi bod yn groesawgar... Yn sicr mae digon o gymorth i fyfyrwyr – ar lafar neu ar e-bost.
’
RHUN LLWYD DAFYDD BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Q5WK Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
‘ MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg
CEFNDIR Y CWRS Bydd y radd hon yn eich galluogi i astudio modiwlau iaith a llenyddiaeth Gymraeg wrth i chi ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol. Dylai fod yn arbennig o fuddiol os ydych chi â’ch bryd ar yrfa ym maes dysgu, cyfieithu neu newyddiaduraeth, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn awdur proffesiynol. PAM DEWIS BANGOR? • Mae hon yn radd sy’n unigryw i Fangor. Rydym yn cynnig modiwlau arbennig megis Gweithdy Creadigol, Gweithdy Rhyddiaith, Cerdd Dafod a Sgriptio. • Mae gennym enw da iawn o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr. • Mae aelodau’r staff yn weithgar ym meysydd cyfieithu ac ysgrifennu creadigol (yn yr Ysgol mae beirdd, awduron rhyddiaith, dramodwyr a rhai sy’n ysgrifennu ar gyfer teledu a radio sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith), ac y mae rhai o’r enwau mwyaf blaenllaw ym maes ysgrifennu creadigol, ddoe a heddiw, wedi graddio o’r Ysgol. • Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni. • Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD ym INTERNATIONAL maes ysgrifennu creadigol. EXPERIENCE • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn (gwelwch y tudalennau ar ddechrau’r prospectws).
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Dyma gyflwyniad i’r Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Modiwlau gorfodol: • Gweithdy Creadigol • Sgriptio Teledu • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Yr Iaith ar Waith • Llenyddiaeth Gyfoes • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Theatr Fodern Ewrop • Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Ar ben hynny bydd angen i chi wneud traethodau, ymarferion a darllen yn eang. Wrth asesu datblygiad eich medrau ysgrifennu creadigol byddwn yn talu cryn sylw i’ch gwaith gwreiddiol – e.e. straeon byrion, ymsonau, cerddi.
Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 Cewch y cyfle i astudio dewis eang o fodiwlau cyffrous sy’n torri tir newydd ac yn datblygu eich doniau creadigol. Modiwlau gorfodol: • Gweithdy Rhyddiaith • Sgriptio • Ymarfer Ysgrifennu • Gweithdy Barddoniaeth • Traethawd Estynedig • Gweithdy Cynghanedd Byddwch hefyd yn dethol dewisiadau o blith ystod eang o fodiwlau, er enghraifft: • Rhyddid y Nofel • Dafydd ap Gwilym • Chwedlau’r Oesoedd Canol • Medrau Cyfieithu • Y Theatr Gymraeg Fodern • Llenyddiaeth Gymraeg America • O’r Llyfr i’r Llwyfan • Barddoniaeth Fodern • Y Sgrin Fach Gymraeg • Athroniaeth a Llenyddiaeth
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
111
CYMRAEG, THEATR A’R CYFRYNGAU BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: QWM5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
GRADD YSGOL Y GYMRAEG YN PARATOI MYFYRWYR AT FYD GWAITH Mae’r profiadau a’r sgiliau gwerthfawr mae un fyfyrwraig wedi eu hennill wrth astudio yn Ysgol y Gymraeg wedi arwain at swydd ar ôl iddi raddio. Roedd cyfnod o brofiad gwaith trwy Brifysgol Bangor yn allweddol wrth helpu Erin Bryn i gael swydd fel Cynorthwy-ydd Darlledu ar raglenni newyddion y BBC. Dywedodd Erin:
‘
Doeddwn i ddim wedi meddwl y bwddwn i’n gweithio ym maes darlledu, ond dw i wrth fy modd achos dydy’r newyddion byth yn stopio! Yn ystod y profiad gwaith mi ges i’r cyfle i weithio efo cyflwynwyr a chynhyrchwyr a gweld sut mae pethau’n gweithio yno a sylweddoli y byddwn yn hoffi gwneud y math yna o waith.
’
Dw i’n meddwl fod cael gradd yn y Gymraeg a bod yn ddwyieithog wedi bod yn fantais fawr imi wrth gael y swydd.
112
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
CEFNDIR Y CWRS Dyma gwrs sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg, ac at hynny’n cynnig cyfle i astudio ym maes y theatr a’r cyfryngau. Mae’n cynnig profiadau cyffrous i’r sawl sydd am ddilyn gyrfa nid yn unig ym myd y theatr a’r cyfryngau ond hefyd ym myd addysg. Cewch gyfle i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â drama, theatr, teledu, radio a ffilm. Ceir hefyd gyfle i feithrin dawn greadigol a thalent yn y modiwlau ymarferol. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gan Ysgol y Gymraeg, Bangor enw da o safbwynt safon ei haddysgu a’i gofal am ei myfyrwyr. • Mae gan y rhai sy’n dysgu’r cyrsiau ar y Theatr a’r Cyfryngau brofiad helaeth o weithio yn y meysydd hyn ar lefel broffesiynol. Cynigir rhai o’r modiwlau gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. • Mae proffil uchel Ysgol y Gymraeg a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod galw mawr am ein myfyrwyr ni. • Cewch yn y cwrs hwn wybodaeth ddofn am iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am y cyfryngau. Bydd hyn yn cynyddu’ch apêl i gyflogwyr. • Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD. • Bydd nifer o ysgoloriaethau INTERNATIONAL EXPERIENCE ariannol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn (gwelwch y tudalennau ar ddechrau’r prospectws).
INTERNATIONAL EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Yr Iaith ar Waith • Llên Gyfoes • Llên y Cyfnod Modern Cynnar Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau gorfodol: • Theatr Fodern Ewrop • Sgriptio Teledu • Y Ddelwedd Symudol • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau Blwyddyn 2 a 3 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Ymarfer Ysgrifennu • Traethawd Estynedig Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau gorfodol: • Sgriptio • Y Sgrin Fach Gymraeg • O’r Llyfr i’r Llwyfan • Y Theatr Gymraeg Fodern
Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau dewisol: • Llwyfannu Theatr • Rhaglenni Dogfen a Drama • Theatr yn y Gymdeithas • Celfyddyd Perfformio • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a gweithdai. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio ar draethodau, sgriptiau a chynyrchiadau. Fel rhan o’ch cwrs, disgwylir i chi fynychu cynyrchiadau theatrig yn rheolaidd. Gwahoddir cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd teledu, ffilm a’r theatr i drafod eu gwaith gyda’r myfyrwyr. Mae rhai modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfrwng arholiadau a thraethodau, ac eraill ar sail gwaith cwrs yn unig.
Byddwch hefyd yn medru dewis o blith modiwlau eraill Ysgol y Gymraeg.
113
CYMRAEG CREADIGOL GYDA CHERDDORIAETH BOBLOGAIDD BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: QW5H Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth) a naill ai B mewn Lefel A Cerddoriaeth neu Radd V(5) ym mhapur theori ABRSM • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Dr Aled Llion Jones Tiwtor Mynediad Ysgol y Gymraeg Ffôn: 01248 382240 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
114
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs gradd hwn yn ffrwyth cydweithio rhwng dwy o Ysgolion academaidd mwyaf profiadol a blaengar Prifysgol Bangor, sef Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Cerddoriaeth. Mae’r ddwy Ysgol hon wedi hen arfer cydweithio ac mae’r radd arbennig hon yn cyfuno arbenigedd mewn ysgrifennu creadigol gyda chyfansoddi cerddorol i greu rhaglen academaidd arloesol ac unigryw. Tybed na fyddai’r cwrs hwn wedi apelio at rai o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg fel y cantoriongyfansoddwyr Caryl Parry Jones a Meinir Gwilym?
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
PAM DEWIS BANGOR? • Mae gan Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Cerddoriaeth enwau rhagorol am ansawdd eu dysgu a’u gofal am eu myfyrwyr. Mewn arolygon boddhad myfyrwyr, mae’r ddwy ysgol wedi sgorio’n uchel ar hyd y blynyddoedd. • Yn ogystal â bod yn athrawon medrus, mae’r darlithwyr sy’n cyfrannu at y rhaglen radd hon wedi eu profi eu hunain fel awduron, cyfansoddwyr a pherfformwyr talentog sydd wedi ennill amryw wobrau cenedlaethol am eu gwaith. • Mae proffil amlwg y ddwy ysgol academaidd hon, a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at eu safonau uchel, yn golygu bod galw mawr INTERNATIONAL am eu myfyrwyr. O ganlyniad, EXPERIENCE mae gan raddedigion y ddwy ysgol record ardderchog o safbwynt cyflogadwyaeth. • Cynigir y cwrs hwn yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwch yn astudio gwerth 40 credyd yn Ysgol Cerddoriaeth sef:
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Blwyddyn 1 Byddwch yn astudio gwerth 80 credyd yn Ysgol y Gymraeg, sef cyfuniad o fodiwlau gorfodol fel: • Gweithdy Creadigol • Sgriptio Teledu • Yr Iaith ar Waith a rhai dewisol fel: • Llên Gyfoes • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Y Theatr Gymraeg Fodern • Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar
• Astudio Cerddoriaeth (modiwl gorfodol) • Celfyddyd Sonig Blwyddyn 2 Byddwch yn astudio gwerth 80 credyd yn Ysgol y Gymraeg sef cyfuniad o fodiwlau gorfodol fel: • Gweithdy Rhyddiaith • Gweithdy Cynghanedd • Sgriptio a rhai dewisol fel: • Dafydd ap Gwilym • Rhyddid y Nofel • Llenyddiaeth Gymraeg America • Barddoniaeth Fodern Byddwch yn astudio gwerth 40 credyd yn yr Ysgol Cerddoriaeth sef:
HANES, HANES CYMRU AC ARCHAEOLEG
• Cyfansoddi gyfer Ffilm a‘r Cyfryngau • Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles • Cerddoriaeth yn y Gymuned Blwyddyn 3 Byddwch yn astudio gwerth 80 credyd yn Ysgol y Gymraeg, fel y rhai gorfodol hyn: • Gweithdy Barddoniaeth • Y Theatr Gymraeg Fodern • Traethawd Hir At hynny, gellir dewis modiwlau eraill fel: • Medrau Cyfieithu • Y Sgrin Fach Gymraeg • O’r Llyfr i’r Llwyfan Byddwch yn astudio gwerth 40 credyd yn Ysgol Cerddoriaeth, sef:
‘
• Project Ysrifennu Caneuon SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael cyfuniad o ddarlithoedd ffurfiol, seminarau a gweithdai i grwpiau llai, a thiwtorialau unigol. Cewch brofi hefyd amrywiaeth o ddulliau asesu, o waith cwrs ac ymarferion rheolaidd i draethodau a phrojectau, o brofion llafar i arholiadau ffurfiol.
1
2
1 Myfyrwyr mewn seminar Hanes 2 Myfyrwyr mewn seminar Archaeoleg
‘
Hoffwn ganmol y dewis o fodiwlau sydd ar gael fyfyrwyr yn enwedig y modiwlau Hanes Cymru a’r modiwlau cyfrwng Cymraeg.
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
‘
Mae astudio ym Mangor wedi rhoi amryw o gyfleon i mi astudio ystod o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pawb yma mor gyfeillgar. Rwy’n aelod o’r Gymdeithas Gymraeg, UMCB, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes.
’
BETSAN WILLIAMS BA Hanes Cymru
• Sgiliau Ysgrifennu Caneuon a dewis o blith modiwlau eraill fel: • Y Beatles • Cerddoriaeth David Bowie • Hanes Cerddoriaeth Bop Gymraeg • Technegau Recordio • Cyfansoddi Cerddoriaeth Ffilm • Geiriau a Cherddoriaeth • Dewis o fodiwlau Genre / Cyfansoddwyr • Technegau Recordio
115
HANES, HANES CYMRU AC ARCHAEOLEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • 120-112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Hanes yn ddymunol) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382118 e-bost: hwha@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
116
HANES BA [Anrhydedd]/MArts (Hanes)
CWRS CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG BA (anrhydedd) Hanes: BA (anrhydedd) Hanes Cymru a Hanes BA (anrhydedd) Hanes gyda Newyddiaduraeth: MArts (anrhydedd) Hanes
V100 VV12 V1PM V101
CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG BA (anrhydedd) Hanes Canoloesol a Modern Cynnar: BA (anrhydedd) Hanes Cymru gydag Archaeoleg: BA (anrhydedd) Hanes gydag Archaeoleg: BA (anrhydedd) Hanes gydag Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Hanes Modern a Chyfoes: BA (anrhydedd) Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes:
V130 V1VK V1V4 V1W6 V140 VV41
Ar gyfer cynlluniau gradd cyd-anrhydedd rhwng Hanes neu Hanes Cymru a phynciau eraill, megis Cymraeg neu Saesneg, trowch i dudalen 64. ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Gellir astudio’r cyrsiau canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg – Hanes, Hanes Cymru, a Hanes gyda Newyddiad uduraeth. Mae’r holl fodiwlau Hanes Cymru ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a nifer o fodiwlau Hanes hefyd. Gallwch ysgrifennu eich traethodau a sefyll arholiadau yn Gymraeg lle bo’r darlithoedd yn cael eu cyflwyno yn Saesneg os ydych yn dymuno gwneud hynny. Cofiwch hefyd ei bod yn bosibl gwneud rhai o’ch modiwlau yn Gymraeg a rhai eraill yn Saesneg. Mae hyn yn wir am y cynlluniau gradd Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes; Hanes Canoloesol a Modern Cynnar; Hanes Cyfoes a Modern; Hanes gydag Astudiaethau Ffilm; Hanes gydag Archaeoleg; Hanes Cymru gydag INTERNATIONAL Archaeoleg. EXPERIENCE
MODIWLAU TRWY’R GYMRAEG Mae’n bosib dewis modiwlau yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg, a ddysgir trwy’r Gymraeg, fel rhan o gynlluniau gradd eraill: INTERNATIONAL • Gradd gyd-anrhydedd mewn Hanes a phwnc EXPERIENCE arall megis Troseddeg • Gradd gyd-anrhydedd mewn Hanes Cymru a phwnc arall megis Cymraeg • Hanes gydag Archaeoleg • Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes • Hanes Canoloesol a Modern Cynnar • Hanes Modern a Chyfoes • Hanes gydag Astudiaethau Ffilm
Gallwch ddewis modiwlau e.e.: • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Gwladgarwyr a Gwladychwyr • Môrladron a Brenhinoedd y Môr • Owain Glyndwˆr a’i Fudiad • Cymru 1660-1789 • Cymru: Gormeswyr i Dywysogion • Ail-danio’r Ddraig • Rhyfel Cartef America YR YSGOL Mae’r Ysgol ym mhrif adeilad y Brifysgol ac mae llyfrgell y celfyddydau a’r archifau gerllaw. Mae amgueddfa leol hefyd ym Mangor sy’n cadw casgliad helaeth o arteffactau – o offer o Oes y Cerrig i grochenwaith canoloesol – y bydd myfyrwyr Archaeoleg yn cael cyfle i’w trafod. Mae amrywiaeth eithriadol o henebion yng nghyffiniau Bangor, o feddrodau a chylchoedd cerrig hynafol a cheyrydd Rhufeinig i lysoedd y tywysogion Cymreig, cestyll canoloesol ac olion diwydiannol. Dynodwyd cestyll Biwmares, Caernarfon a Chonwy yn safleoedd Treftadaeth y Byd. Caiff myfyrwyr gyfle i fynd ar deithiau maes i rai o’r canolfannau hyn, a rhoddir cyfle hefyd i weithio yn yr archifdai, yr amgueddfeydd neu’r uned archaeolegol leol. Bydd y cyrsiau Archaeoleg yn cynnwys gwaith cloddio ymarferol.
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r cyrsiau’n cynnig profiad addysgol gwerth chweil, gyda chwmpas eang o ddewisiadau. Byddwch yn astudio themâu a syniadau newydd ac yn datblygu medrau ymarferol hefyd, medrau y mae cyflogwyr yn rhoi cryn bwys arnynt. Mae arolygon yn dangos yn gyson fod graddedigion y dyniaethau yn cael gwaith ynghynt na graddedigion sydd wedi astudio pynciau sydd, ar yr wyneb, yn rhai mwy galwedigaethol. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru ac archaeoleg. Gallwch astudio amrywiaeth o gyfnodau a thestunau neu ddewis arbenigo. • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal ac mae’n adnodd gwych ar gyfer gwaith maes. Dyma’r lle naturiol i ddod i astudio hanes Cymru. • Mae enw rhagorol gan yr Ysgol am ansawdd ei dysgu a’i blaengarwch mewn ymchwil. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. Bydd cyfle i chi wneud traethawd estynedig yn ystod eich blwyddyn olaf, ac mae cyfle hefyd i ddilyn modiwl gweithle. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ar y we, ymweliadau ag amgueddfeydd, teithiau maes. Asesir drwy gymysgedd o arholiadau, seminarau, gwaith cwrs, traethawd estynedig, blogiau a chyflwyniadau llafar.
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: V100; V101 Hyd: 3 blynedd (BA); 4 blynedd (MArts) GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • 120-112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Hanes yn ddymunol) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL
CEFNDIR Y CWRS Mae Hanes yn bwnc ysbrydoledig, deinamig a pherthnasol. Mae wastad yn ehangu ac yn newid i amsugno syniadau newydd ac i ofyn cwestiynau newydd am y gorffennol. Bydd astudio hanes yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n cael eu hystyried yn werthfawr gan gyflogwyr, fel y gallu i gasglu a dadansoddi data ac i lunio dadl glir.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
PAM DEWIS BANGOR? • Mae Hanes yn radd eang sy’n cynnig ystod o opsiynau • Bydd cyfle i chi astudio ystod o gyfnodau a gwledydd, canolbwyntio ar gyfnodau penodol neu astudio hanes Prydeinig neu Ewropeaidd yn bennaf. • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru, archaeoleg a threftadaeth. • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal leol ac mae safleoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ar garreg ein drws, yn adnodd dysgu gwerthfawr. • Mae gan yr Ysgol enw da o safbwynt ei dysgu ac rydym yn cyfuno’r defnydd o dechnoleg newydd â dysgu mewn grwpiau bychain a sylw personol. • Rydym yn cydnabod pwysigrwydd medrau trosglwyddadwy ac yn gwneud defnydd mawr o dechnoleg gwybodaeth. Mae INTERNATIONAL cyfleoedd hefyd i ddefnyddio EXPERIENCE medrau hanes ar leoliad gwaith.
Modiwlau: • Apocalyps: y 14eg Ganrif • Genedigaeth Ewrop Fodern 1460-1560 • Cyflwyniad i Hanes Modern 1815-1914 • Dechrau o’r Dechrau • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Opsiynau Archaeoleg a Threftadaeth
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382118 e-bost: hwha@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
INTERNATIONAL GRADDAU CYD-ANRHYDEDD EXPERIENCE
Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd. CWRS NEWYDD Bydd Hanes ac Arcaheoloeg BA (V103 BA/HA) ar gael yn 2018. Ewch i’r wefan am y manylion diweddaraf.
Blwyddyn 1 Byddwch yn treulio o leiaf draean o’ch amser yn astudio Hanes. Gallwch ddewis mwy o fodiwlau hanes a phynciau cysylltiedig, gwella eich medrau technoleg gwybodaeth neu fedrau ieithyddol, neu gallwch ddilyn pynciau cyflenwol (gweler t.64 am y cyrsiau cyd-anrhydedd).
Blwyddyn 2 Cewch ddewis astudio cyfnodau arbennig mewn dyfnder trwy fodiwlau cyffredinol a chymryd cyrsiau thematig mwy arbenigol. Fel rheol, cewch ddewis 4/ 5 modiwl. Modiwl gorfodol: • Dehongli’r Gorffennol neu • Perceptions of the Past Dewisiadau: Ceir ystod eang o fodiwlau dewisol e.e. Y Tuduriaid; Ewrop: Oes y Rhyfel Oer; Rhyfeloedd Sanctaidd; Cenedlaetholdeb yn Sbaen; Prydain Thatcher; Owain Glyndŵr a’i Fudiad; Ail-danio’r Ddraig: Cymru wedi 1939. Blwyddyn 3 Byddwch yn dewis pwnc arbennig o blith tua 12 sydd ar gael, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil ein staff. Byddwch yn gwneud traethawd estynedig – project ymchwil ar bwnc o ddiddordeb arbennig i chi e.e. Edward I a’r Cyrion Celtaidd, Adfywiad Celtaidd 1800-1920. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud modiwlau pellach o ddetholiad o ddewisiadau.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8 i 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch yn treulio dwywaith yr amser hwnnw yn darllen ac yn gwneud gwaith cwrs. Yn ogystal â hyn, bydd teithiau maes a sesiynau ymarferol ynghlwm â’r modiwlau archaeoleg a threftadaeth. Bydd rhai modiwlau hanes, yn enwedig modiwlau pwnc-arbennig hefyd yn cynnwys teithiau maes. Mae rhai modiwlau hanes, yn enwedig cyrsiau pwnc arbenigol, wedi golygu teithiau i Hampton Court, Caerdydd a mannau lleol, tra gall y modiwlau Ewropeaidd olygu teithiau i fannau o ddiddordeb dramor. Gallwch ddilyn modiwl lleoliad gwaith neu gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid i’r Unol Daleithiau yn ystod yr ail flwyddyn. Os ydych yn dilyn Hanes fel pwnc gradd cydanrhydedd gydag iaith, byddwch yn treulio blwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn. Mae asesiad yn cynnwys cymysgedd o arholiadau a thraethodau cyflwyniadau portffolios, blogiau a’r traethawd estynedig. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Bydd gradd dda mewn Hanes, yn cyfuno gwybodaeth gadarn o hanes ag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno trosglwyddadwy. Byddwch yn gallu dewis o blith amryw o yrfaoedd, e.e. y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion Hanes o Fangor wedi mynd i yrfaoedd mewn masnach, treftadaeth, yn y gyfraith, fel athrawon, ac yn y lluoedd arfog.
117
HANES GYDA NEWYDDIADURAETH BA [Anrhydedd] FFEITHIAU AM Y CWRS Cod cwrs UCAS: V1PM Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • 120-112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Hanes yn ddymunol) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382144 e-bost: hwha@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
118
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cyfryngau – papurau newydd, radio, teledu a’r rhyngrwyd – yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein bywydau. Mae’n bwysig deall, felly, sut y newidiodd swyddogaeth y cyfryngau yn y gorffennol yn ogystal ag yn y presennol. Mae’n debyg fod diddordeb gennych eisoes mewn hanes modern a chyfoes, gwleidyddiaeth neu faterion cyfoes. Mae’n bur debyg fod gennych ddiddordeb byw hefyd mewn un neu fwy o feysydd y cyfryngau. Bydd y cwrs yn rhoi i chi seiliau deallusol ac academaidd amrywiol ac eang. Bydd hefyd yn darparu’r medrau a’r wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym enw da am ymchwil a dysgu mewn Hanes a Hanes Cymru. • Mae nifer o ganolfannau cyfryngau darlledu a’r wasg yn y cyffiniau. • Ceir hyfforddiant mewn Newyddiaduraeth gan newyddiadurwyr profiadol. • Mae bywyd y myfyrwyr yn fywiog ac mae cyfle i Gymry ifanc fwynhau pob math o weithgarwch yn y Gymraeg. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau Hanes a modiwlau sy’n INTERNATIONAL EXPERIENCEâ newyddiaduraeth. ymwneud Bydd y modiwlau Hanes a Hanes Cymru a argymhellir yn rhoi cryn sylw i swyddogaeth y cyfryngau yng ngwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif a’u dylanwad arni, ac yn edrych ar yr her a’r cyfleoedd a roddwyd i Gymru INTERNATIONAL gan ddatblygiadau pan-Ewropeaidd EXPERIENCE diweddar. Bydd gofyn i chi ddewis o leiaf dau fodiwl Hanes, ond gallwch ddewis astudio mwy o fodiwlau Hanes a phynciau cysylltiedig os dymunwch hynny. • Cymru yn y Byd Modern
Bydd modiwlau newyddiadurol yn datblygu medrau sylfaenol ac yn cyflwyno nodweddion allweddol disgyblaeth newydd: • Newyddiaduraeth Ymarferol Sylfaenol • Ysgrifennu, Is-olygu a Sgriptio • Technoleg Gwybodaeth ar gyfer Newyddiadurwyr • Gweinyddu Cyhoeddus Blwyddyn 2 a 3 Byddwch yn treulio bron i ddwy ran o dair o’ch amser yn gwneud cyrsiau Hanes. Cewch gyfle i ddewis amrywiaeth helaeth o gyrsiau. Bydd rhai ohonynt yn gyffredinol ac wedi cael eu cynllunio i ddatblygu ymwybyddiaeth o dueddiadau dros amser, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar un testun/cyfnod. Yn ystod yr ail flwyddyn bydd modiwl gorfodol, Dehongli’r Gorffennol, yn canolbwyntio ar sut y cafodd y gorffennol ei gyflwyno mewn ysgrifen, a dylanwad ysgrifennu ar ddatblygiad hanes ei hun. Rhoddir cyfle hefyd i ddatblygu dealltwriaeth lawn o gymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru ochr yn ochr ag archwilio datblygiadau y tu allan iddi drwy astudio modiwlau ar hanes Ewrop, America a Phrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gallwch hefyd ddilyn modiwlau sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg, gan ysgrifennu gwaith cwrs a gwaith i’w asesu yn Gymraeg os mynnwch. Bydd cyfle i chi hefyd wneud ‘modiwl yn y gweithle’ gyda phapur newydd neu gyfryngau lleol neu ymchwilio mewn archifdy lleol. Yn ystod y drydedd flwyddyn byddwch yn dewis pwnc arbennig a fydd yn caniatáu i chi astudio testun mewn dyfnder. Byddwch yn gwneud traethawd estynedig lle byddwch yn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun. Anogir chi i ysgrifennu ar bwnc hanesyddol sy’n ymwneud â newyddiaduraeth neu’r cyfryngau.
cyd-destun y mae newyddiadurwyr yn gweithredu ynddo, gan edrych ar gyfryngau print a darlledu. Bydd cyfle hefyd i gryfhau medrau ymarferol perthnasol. Ymhlith y modiwlau a gynigir mae: • Newyddiaduraeth a Chymdeithas • Datblygiad a Sensoriaeth Teledu • Newyddiaduraeth Ymarferol • Hanfodion Newyddiaduraeth a Dadansoddi • Ffotonewyddiaduraeth a Chynllunio Gweledol SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8-12 awr o ddarlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn darllen, ymchwilio, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau mewn tiwtorial. Bydd rhai cyrsiau yn gwneud defnydd arbennig o ddogfennau, ffilm a rhaglenni dogfen yn ogystal â hanes llafar. Bydd eraill yn cynnwys teithiau i weld safleoedd perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y modiwlau Newyddiaduraeth yn cynnwys gwaith ymarferol. Bydd cyfle i chi hefyd wneud modiwl ar leoliad gwaith mewn archifdy lleol, neu amgueddfa, neu yn y byd newyddiadurol. Asesir drwy gymysgedd o arholiadau a thraethodau yn ogystal â thraethawd estynedig yn y flwyddyn olaf. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae hwn yn gwrs sy’n rhoi dealltwriaeth ymarferol a theoretig o broffesiwn y newyddiadurwr, ynghyd â dealltwriaeth gyd-destunol fanwl o faterion cyfoes a digwyddiadau blaenorol. Bydd yr amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno a gewch yn eich galluogi i gyflawni tasgau yn y cyfryngau yn gywir ac yn eglur iawn.
‘
Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr yn wych yma. Mae’r darlithwyr yn hawdd siarad â hwy, a’r mwyafrif yn ddwyieithog.
’
CERI LOIS OWEN BA Hanes
‘
Mae’r cwrs cyd-anrhydedd rwy’n ei ddilyn yn cynnig ystod eang o agweddau ac mae’r dulliau dysgu yn amrywio. Mae yna gydbwysedd da rhwng y darlithoedd a’r seminarau ac mae’r darlithwyr wastad yn ceisio amrywio a datblygu cynnwys y cyrsiau.
’
LIAM EVANS BA Cymraeg a Hanes
Bydd y modiwlau newyddiaduraeth yn ystod y blynyddoedd hyn yn datblygu dealltwriaeth ehangach o’r
119
HANES CYMRU A HANES BA [Cyd-Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Mae llawer o fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael ar y cwrs hwn. Cod cwrs UCAS: VV12 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 120-112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (Hanes yn ddymunol) • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382144 e-bost: hwha@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
120
CEFNDIR Y CWRS Mae hon yn radd eang sy’n cynnig y cyfle i astudio ystod eang o gyfnodau gydag arbenigedd mewn Hanes Cymru. Bydd y cwrs yn trafod esblygiad Cymru, ei gwleidyddiaeth a’i diwydiant; ei chymdeithas a’i chrefydd trwy’r canrifoedd, ac yn rhoi hyn yng nghyd-destun datblygiadau mewn Hanes Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd o’r Oesoedd Canol hyd at y presennol. PAM DEWIS BANGOR? • Mae Bangor yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio hanes Cymru. Mae Bangor wedi bod ag enw ardderchog am ymchwil yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer. • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal â mewn hanes canoloesol, modern cynnar a hanes Cymru ac archaeoleg a threftadaeth. • Rydym yn cynnig y cyfle i astudio ystod eang o fodiwlau Hanes Cymru ac mae gan yr Ysgol enw ardderchog am safon ei dysgu ac rydym wedi ein hymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal leol, a chyda safleoedd rhyngwladol bwysig ar garreg ein drws – o Gynhanes hyd at y Chwyldro Diwydiannol – yn darparu adnoddau dysgu gwerthfawr. • Bydd amrywiaeth helaeth o INTERNATIONAL adnoddau’n cael eu defnyddio EXPERIENCE wrth ddysgu’r cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys archifdai lleol ac amgueddfeydd. • Ceir cyfoeth o henebion heb fod ymhell o Fangor gan gynnwys cestyll a safleoedd allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol. INTERNATIONAL EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Dechrau o’r Dechrau
Ac o leiaf un allan o: • Apocalyps: y 14eg Ganrif • Genedigaeth Ewrop Fodern 1470-1600 • Cyflwyniad i Hanes Modern 1815-1914 ae grŵp seminar Cymraeg ar gael M i’r uchod. Cewch ddewis gweddill eich modiwlau allan o amrywiaeth a gynigir gan yr Ysgol, a bydd cyfle i gymryd modiwlau gwerth 20 credyd o Ysgol arall e.e. Cymraeg. Blwyddyn 2 Byddwch yn astudio cyfnodau a themâu mewn dyfnder a gallwch ddewis o amrywiaeth o fodiwlau. Bydd llawer o’r modiwlau yn gwneud defnydd o ffynonellau gwreiddiol ac mae modiwl yn y gweithle hefyd ar gael. Bydd gennych hefyd y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a chyflwyno. Modiwlau gorfodol: • Dehongli’r Gorffennol Modiwlau dewisol Hanes (dewis 2) Mae ystod o fodiwlau ar gael e.e. Y Tuduriaid; Ewrop : Oes y Rhyfel Oer; Rhyfeloedd Sanctaidd; Cenedlaetholdeb yn Sbaen; Rhyfel Cartref America. Modiwlau dewisol Hanes Cymru (dewis 2): Owain Glyndŵr a’i Fudiad; Cymru 1660-1789; Gormeswyr i Dywysogion; Modiwl Gweithle Hanes Cymru; Y Deddfau Uno; Aildanio’r Ddraig: Cymru wedi 1939; Cymru, Ewrop a’r Dadeni Dysg. Blwyddyn 3 Byddwch yn dewis Pwnc Arbennig mewn Hanes neu Hanes Cymru – dyma fodiwl sy’n defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac sy’n seiliedig ar ymchwil y tiwtor. Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir sy’n rhoi’r cyfle i chi wneud eich ymchwil eich hun. Byddwch hefyd yn cwblhau modiwlau eraill (gweler blwyddyn 2 uchod).
Enghreifftiau o ddewisiadau Pwnc Arbennig posib: The Norman Conquest, Going to the Devil – Henry II, Land and Power in England & Wales 1780-1888, Home and Front during WW1, Britain in the 1960s, Edward I a’r Cyrion Celtaidd, Cyfraith a Chymdeithas yng Nghymru 1558-1640, Law and Society in Wales 1558-1640, Adfywiad Celtaidd 1800-1920. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8-12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch hefyd yn treulio cryn dipyn o amser yn darllen, ymchwilio, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau mewn tiwtorial. Bydd rhai modiwlau yn gwneud defnydd arbennig o ddogfennau, ffilm a rhaglenni dogfen, yn ogystal â hanes llafar. Bydd eraill yn cynnwys teithiau i weld safleoedd perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd cyfle i chi hefyd wneud modiwl ar leoliad gwaith mewn archifdy lleol neu amgueddfa a gwneud project ar y deunydd y byddwch yn ei drafod. Asesir trwy gymysgedd o arholiadau a thraethodau a thraethawd estynedig yn y flwyddyn olaf. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth arbenigol am Gymru o fewn cyddestun Ewropeaidd, a chydag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno. Bydd yn eich galluogi i ddewis o blith amryw o yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar weinyddu ac arweiniad cyhoeddus, yn arbennig ond nid yn neilltuol yng Nghymru; er enghraifft, mewn adrannau personél mewn diwydiant yn y sector preifat, yn y gwasanaeth sifil ac mewn llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion wedi mynd i yrfaoedd ym meysydd ymchwil wleidyddol, archifau, y gwasanaethau lles, addysgu a diwydiannau diwylliannol. GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
ATHRONIAETH A CHREFYDD
‘
Mae ansawdd yr addysgu a’r gofal a gymerir dros y myfyrwyr wedi gwneud cryn argraff arnaf. Mae’r staff yn wybodus yn eu meysydd pwnc ac yn cynhyrchu modiwlau cyffrous ac arloesol sy’n hoelio sylw’r myfyrwyr. ARHOLWR ALLANOL
’
Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi datblygu o’r hanes maith ac anrhydeddus o ddysgu ac ymchwil mewn athroniaeth a chrefydd ym Mangor ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
121
ATHRONIAETH A CHREFYDD Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: VV56 BA/PhRe Gweler tudalen 64 ar gyfer cod UCAS graddau cyd-anrhydedd sy’n cynnwys Athroniaeth a Chrefydd Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • Fel arfer 112-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3*. Fe dderbynnir pob pwnc gan gynnwys Astudiaethau Cyffredinol, gydag Athroniaeth neu grefydd yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gweinyddwr yr Ysgol, Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ffôn: 01248 382079 e-bost: spar@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/spar
122
CWRS BA (anrhydedd) Athroniaeth a Chrefydd: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r modiwlau canlynol ar gael yn rhannol drwy’r Gymraeg: • Blwyddyn 1: Moeseg: Agweddau Crefyddol; • Blwyddyn 2 a 3: Moeseg Gymhwysol; Rhywioldeb a Chydraddoldeb Rhywiol; Traethawd estynedig (blwyddyn 3, 40 credyd) Mae’n bosib cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau yn Gymraeg ym mhob modiwl. CEFNDIR Y CYRSIAU Mae ein rhaglenni BA (sengl a chyd-anrhydedd) yn ymdrin â sawl agwedd ar athroniaeth a chrefydd. Mae’r modiwl traethawd hir yn eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch diddordeb eich hun o fewn athroniaeth neu grefydd. Mae ein rhaglen BA hefyd yn rhoi’r dewis i chi gyfuno astudiaethau mewn athroniaeth a chrefydd â phynciau a gynigir gan Ysgolion eraill. Yn eich gradd BA byddwch yn gallu astudio sawl agwedd ar athroniaeth a chrefydd, yn cynnwys: Cyfnod yr Ymoleuo, Moeseg, Dirfodaeth, Testunau Sanctaidd, INTERNATIONAL EXPERIENCE Seicoleg Crefydd, Moeseg, Gender a Rhywioldeb, a’r cysylltiadau rhwng athroniaeth a chrefydd. Bydd yr awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol yn eich helpu i feithrin sgiliau trafod a meddwl yn INTERNATIONAL annibynnol. EXPERIENCE
sy’n cynnwys astudio annibynnol gyda chefnogaeth oruchwylio, gan arwain at gyflwyno traethawd hir 10,000 o eiriau. Os byddwch yn dilyn PAM DEWIS BANGOR? gradd gyd-anrhydedd (Athroniaeth • Gwerthusir ansawdd yr addysgu a Chrefydd a phwnc arall), ym a’r dysgu mewn prifysgolion yn mlwyddyn 1, 2 a 3 byddwch yn rheolaidd gan dimau o aseswyr, ac cymryd modiwlau sy’n cyfateb i 60 fe gymeradwyir staff yr Ysgol yn credyd yn yr Ysgol Athroniaeth a rheolaidd, yn arbennig am Chrefydd a 60 credyd o fodiwlau’r ansawdd eu haddysgu ac am eu Ysgol arall. Yn ddibynnol ar eich gofal bugeiliol dros fyfyrwyr. dewisiadau, efallai y gallwch ddilyn • Mae maint yr Ysgol yn sicrhau eich y modiwl Traethawd Hir (40 credyd) bod yn cael eich addysgu mewn ym mlwyddyn 3 (gweler uchod). amgylchedd academaidd sydd, nid yn unig yn ysgogol, ond hefyd yn SUT Y BYDDAF YN DYSGU? ofalgar ac yn gefnogol ar lefel Dysgir y cyrsiau’n bennaf drwy bersonol. gyfrwng darlithoedd, seminarau a • Mae’r staff yn gynhyrchiol ym thiwtorialau unigol. Mewn llawer maes ymchwil ac yn cael eu o’r modiwlau hefyd defnyddir cydnabod yn ymchwilwyr ac Blackboard, sef amgylchedd dysgu’r awdurdodau rhyngwladol yn eu Brifysgol. Mae’r dulliau asesu yn gwahanol feysydd. Mae eu cynnwys traethodau, adolygu llyfrau, hymchwil yn rhoi dyfnder astudiaethau achos, adroddiadau, ychwanegol i ansawdd eu cyflwyniadau ac arholiadau haddysgu. ysgrifenedig. • Mae’r Ysgol yn cyfuno’r traddodiadol ag ystod fywiog o Roedd y cwrs yma yn un gyrsiau israddedig (BA anrhydedd newydd ym Mangor ar y pryd ac sengl a chyd-anrhydedd) ac roeddwn yn awyddus i’w wneud. astudio ôl-radd ar lefel Meistr a Mae’n gwrs diddorol iawn ac PhD. VV56
‘
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Ym mlwyddyn gyntaf y radd sengl Athroniaeth a Chrefydd BA Anrhydedd, byddwch yn dechrau gyda’r modiwl ‘Introduction to Philosophy of Religion’ (20 credyd), a fydd yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer gweddill y rhaglen radd. Byddwch wedyn yn cymryd 100 credyd o fodiwlau Blwyddyn 1 yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, neu hyd at 20 credyd o Ysgolion eraill. Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn gallu dewis astudio 120 credyd o’r rhestr fodiwlau fydd ar gael y flwyddyn honno yn yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, neu hyd at 20 credyd o Ysgolion eraill; ac ym mlwyddyn 3, cewch ddewis astudio 80 credyd o’r rhestr fodiwlau fydd ar gael y flwyddyn honno yn yr Ysgol. Byddwch hefyd yn cymryd y modiwl Traethawd Hir (40 credyd),
rwy’n mwynhau ac yn teimlo ei bod yn hawdd iawn siarad gyda’r darlithwyr os oes angen unrhyw fath o wybodaeth neu gymorth arnaf. Rwyf wrth fy modd yma ac yn teimlo fy mod yn cael y rhyddid o fod i ffwrdd o adref ond eto heb fod yn rhy bell! Mae’n lle braf iawn ac mae bywyd myfyriwr yn grêt! EMMA WYN ROBERTS BA Athroniaeth a Crefydd
IEITHOEDD A DIWYLLIANNAU MODERN
‘
Roedd gofal y staff am les y myfyrwyr, yn ogystal â’r gwaith academaidd, wedi creu grw ˆ p o fyfyrwyr blwyddyn olaf a oedd yn hapus iawn ac yn fodlon ar ansawdd eu pedair blynedd...
’
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
’
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
123
IEITHOEDD A DIWYLLIANNAU MODERN Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 4 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cofiwch, os ydych yn bwriadu dilyn cwrs gradd cyd-anrhydedd, mae’n bwysig eich bod yn bwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall. Crynodeb yn unig a gewch isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn yn y prospectws Saesneg hefyd. • Fel rheol ar gyfer y cyrsiau Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg bydd angen 104-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys lefel A2 mewn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg neu gyfwerth. Ar gyfer y radd tair iaith mae angen gradd B mewn lefel A2 yn un o’r ieithoedd. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, gweler y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Ffôn: 01248 382130 e-bost: ieithoeddmodern@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithoeddmodern
124
CWRS BA (anrhydedd) Almaeneg: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Seicoleg: BA (cyd-anrhydedd) Eidaleg a phwnc arall: cysylltwch â’r Ysgol BA (anrhydedd) Ffrangeg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Seicoleg: BA (anrhydedd) Sbaeneg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Tsieinëeg a phwnc arall: cysylltwch â’r Ysgol BA (cyd-anrhydedd) 2 iaith: gweler tudalen 126 BA (anrhydedd) 3 iaith: gweler tudalen 126 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Ar hyn o bryd, mae tiwtorialau, seminarau, cymorth gyda gwaith project, a rhai o elfennau’r cwrs ar INTERNATIONAL gael trwy’r Gymraeg ar y cyrsiau EXPERIENCE Ffrangeg. Diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae myfyrwyr sy’n gwneud Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg yn gallu astudio modiwlau diwylliannol trwy’r Gymraeg hefyd. INTERNATIONAL CEFNDIR Y CYRSIAU EXPERIENCE Mae’r Ysgol yn gyfeillgar a bywiog. Mae dewis eang iawn o gyrsiau, sy’n sicrhau y byddwch yn medru dilyn cwrs gradd sy’n union at eich dant. Mae’r dewis eang, a manylder yr hyfforddiant sydd ar gael, yn sicrhau fod myfyrwyr sy’n graddio o’r Ysgol yn ddeniadol i gyflogwyr.
R200 R2NC R2P3 R2R3 R2R1 R2W8 R2N1 R2P5 R2R4 R2C8 R101 R1R2 R1NC R1P3 R1R3 R1W8 R1N1 R1P5 R1R4 R1C8 R400 R4R1 R4R2 R4N1 R4P3 R4R3 R4W8 R4N5 R4P5
Mae myfyrwyr Ieithoedd Modern Bangor yn llwyddo’n rhyfeddol i gael swyddi’n fuan ar ôl graddio. PAM DEWIS BANGOR? • Dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys nifer o ddewisiadau arbenigol, er mwyn i chi sicrhau eich bod yn dilyn gradd sy’n ateb eich anghenion personol chi. • Dysgu mewn grwpiau bychain, a thrwy hynny mae pawb yn dod i adnabod ei gilydd. • Staff blaengar sydd wedi datblygu meddalwedd cyfrifiadurol arbennig ar gyfer ein myfyrwyr, i’w ddefnyddio yn ein Canolfan Ieithoedd amlgyfrwng. • Cysylltiadau rhagorol â phrifysgolion yn Ewrop.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Yn ogystal â modiwlau iaith craidd, yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sydd yn cynnig cyflwyniad i hanes, diwylliant, ffilm a llenyddiaeth Ewrop. Yn yr ail a’r bedwaredd flwyddyn, byddwch yn parhau gyda’ch cyrsiau iaith ac yn dilyn modiwlau mwy arbenigol wrth i chi ddatblygu a dyfnhau eich dealltwriaeth. Fel myfyriwr yn yr Ysgol byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn dramor cyn dychwelyd i Fangor yn eich blwyddyn olaf. Rydym yn cynnig nifer o opsiynau ac, yn dibynnu ar eich gradd, gallwch ddewis astudio, gweithio neu ddysgu fel rhan o’ch blwyddyn dramor. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Hyfforddiant mewn grwpiau bychain. Gwaith yn y Ganolfan Ieithoedd, aseiniadau iaith, traethodau, portffolios, cyflwyniadau tîm a chyflwyniadau llafar. Mae’r dewisiadau ar gyfer asesu yn cynnwys gwaith cwrs a thraethawd estynedig ynghyd ag arholiadau llafar ac ysgrifenedig.
‘
Diwrnod Agored wnaeth fy argyhoeddi mai Bangor oedd y lle i fynd iddo. Roedd pawb mor gyfeillgar gyda’r tiwtoriaid a’r darlithwyr yn hawdd iawn siarad â nhw ac yn barod eu cymwynas. Roedd hyblygrwydd y cyrsiau hefyd yn elfen bwysig iawn i mi. BETHAN JONES Cyn-fyfyrwraig
’
PWNC ARALL AC/GYDAG IAITH FODERN Mae yna amrywiaeth o gyrsiau gradd anrhydedd a chydanrhydedd ar gael hefyd sy’n cyfuno Iaith Fodern gyda phwnc arall sydd bellach yn cynnwys Tsieinëeg. Gweler y prospectws Saesneg os gwelwch yn dda. Mae rhestr o’r cyrsiau cyd-anrhydedd y gellir eu hastudio’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg ar dudalen 64 y prospectws Cymraeg.
125
CYD-ANRHYDEDD MEWN IEITHOEDD / ANRHYDEDD MEWN 3 IAITH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Codau cyrsiau UCAS: gweler y golofn nesaf Hyd: 4 blynedd Ni chaniateir i siaradwyr brodorol Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg nag Tsieinëeg astudio eu mamiaith. GOFYNION MYNEDIAD: Cyd-Anrhydedd mewn Ieithoedd: • Fel rheol bydd angen 104-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys lefel A2 neu gyfwerth mewn o leiaf un o’r ieithoedd. Ar gyfer y radd tair iaith mae angen gradd B mewn lefel A2 yn un o’r ieithoedd. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, gweler y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Derbyn Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Ffôn: 01248 382130 e-bost: ieithoeddmodern@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithoeddmodern
126
CYD-ANRHYDEDD MEWN IEITHOEDD Bydd y cyrsiau cyd-anrhydedd hyn yn eich galluogi i astudio dwy iaith yn gyfartal. Byddant yn rhoi sgiliau uwch i chi yn y ddwy iaith, a dealltwriaeth arbenigol a manwl o ystod eang o agweddau ar ddiwylliant, cymdeithas a hanes y gwledydd lle siaredir yr ieithoedd hyn. Mae ieithoedd wrth wraidd y graddau hyn, gyda modiwlau craidd yn datblygu’r sgiliau allweddol bob blwyddyn, yn cynnwys anghenion ymarferol, fel yr iaith y bydd arnoch ei hangen ar gyfer y flwyddyn dramor ac, yn ddiweddarach, ar gyfer byd gwaith. Isod, ceir rhestr o’r cyfuniadau sydd ar gael: Ffrangeg ac Almaeneg Ffrangeg ac Eidaleg Ffrangeg a Sbaeneg Almaeneg ac Eidaleg Almaeneg a Sbaeneg Eidaleg a Sbaeneg Ffrangeg a Tsieinëeg Almaeneg a Tsieinëeg Sbaeneg a Tsieinëeg Eidaleg a Tsieinëeg
RR12 RR13 RR14 RR23 RR24 RR43 T104 T105 T107 T016
ANRHYDEDD MEWN 3 IAITH Mae’r cyrsiau hyn wedi’u llunio i fyfyrwyr sydd am feithrin lefel uchel o arbenigedd mewn tair iaith ac eithrio eu mamiaith. Maent yn darparu ar gyfer rhai y mae’n well ganddynt ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu iaith, heb unrhyw INTERNATIONAL fodiwlau diwylliannol ychwanegol. EXPERIENCE Bwriedir iddynt apelio at bobl o wahanol wledydd yn y byd sy’n dod i gydweithio mewn cymdeithas ddysg amlieithog. Gyda sgiliau iaith pumieithog (yn achos Cymry Cymraeg), bydd graddedigion y INTERNATIONAL graddau hyn wedi’u paratoi i lwyddo EXPERIENCE yn y proffesiwn a ddewisant ar bob cyfandir. Rydych yn dewis unrhyw dair o blith Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg. Gellwch ddewis astudio’ch tair iaith mewn dau fformat: y tair i gyd i’r un brif lefel, neu ddwy hyd at brif lefel ac un hyd at lefel is.
3 Iaith i’r Un Brif Lefel Ffrangeg+Almaeneg+Sbaeneg R912 Ffrangeg+Almaeneg+Eidaleg R916 Ffrangeg+Eidaleg+Sbaeneg R917 Almaeneg+Eidaleg+Sbaeneg R925
cyfryngau. Ar y cwrs anrhydedd mewn tair iaith, astudir y tair iaith am 4 blynedd gyfan y cwrs, a chanolbwyntir yn gyfan gwbl ar iaith ymarferol.
2 Brif ac 1 Is Iaith Ffrangeg+Almaeneg gydag Eidaleg Ffrangeg+Almaeneg gyda Sbaeneg Ffrangeg+Eidaleg gydag Almaeneg Ffrangeg+Eidaleg gyda Sbaeneg Ffrangeg+Sbaeneg gydag Almaeneg Ffrangeg+Sbaeneg gydag Eidaleg Almaeneg+Eidaleg gyda Ffrangeg Almaeneg+Eidaleg gyda Sbaeneg Almaeneg+Sbaeneg gyda Ffrangeg Almaeneg+Sbaeneg gydag Eidaleg Eidaleg+Sbaeneg gyda Ffrangeg Eidaleg+Sbaeneg gydag Almaeneg Ewch i’r wefan am y dewisiadau sy’n cyfuno Tsieinëeg â Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ag Eidaleg.
Byw Dramor Ar y cwrs anrhydedd mewn tair iaith, lle dewisir astudio tair iaith at yr un lefel, treulir tri semester mewn prifysgolion y tu allan i Brydain, pob un mewn gwlad lle siaredir un o’r ieithoedd a astudir. Lle dewisir astudio dwy iaith at brif lefel ac un iaith at lefel is, treulir dau semester mewn prifysgolion y tu allan i Brydain, pob un mewn gwlad lle siaredir un o’r ieithoedd a astudir. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr ar y cwrs cyd-anrhydedd mewn ieithoedd yn ogystal.
R901 R913 R918 R919 R914 R915 R921 R924 R922 R923 R926 R927
PAM DEWIS BANGOR? • Mae Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Bangor yn rheolaidd ymhlith yr ysgolion sy’n sgorio uchaf yn eu maes pwnc yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr. • Mae ein maint yn golygu ein bod yn cynnig addysg ar raddfa unigol, mewn dosbarthiadau bychain, lle’r ydych yn dod i adnabod y staff a’ch cyd-fyfyrwyr. • Arloesodd Bangor gyda’r rhaglen Gradd mewn Tair Iaith. • Dysgir rhai dewisiadau drwy gyfrwng Ffrangeg/Almaeneg/ Sbaeneg/Eidaleg, ac eraill drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. • Mae gan raddedigion Ieithoedd Modern Bangor hanes da iawn o gael gwaith o safon. • Mae fframweithiau graddau’n hyblyg, gan eich galluogi i newid eich gradd ar ddiwedd blwyddyn 1 os dymunwch. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Ar y cwrs cyd-anrhydedd mewn ieithoedd, yn ogystal â’r ddwy iaith, fe gynigir amrywiaeth o ddewisiadau ysgogol ar gyfer pob un o’ch pynciau. Mae pob un o’r ieithoedd yn cynnig modiwlau ar hanes, sinema a’r
LLENYDDIAETH SAESNEG, IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Bydd gennych 3-4 awr o ddosbarthiadau iaith bob wythnos ymhob un o’r ieithoedd yr ydych wedi’u dewis. Mae’r hyfforddiant gan fwyaf mewn grwpiau bychain, ac nid oes llawer o ddarlithoedd ffurfiol. Mae asesu’n cynnwys gwaith cwrs, ac arholiadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir neu set o brojectau fel rhan o’ch gradd. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae astudio Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon a chyfieithwyr, ond mae’r un nifer wedi dechrau gyrfaoedd llwyddiannus yn y gwasanaeth sifil, busnes a masnach, diwydiant a’r cyfryngau. Mae’r sgiliau a ddysgwch wrth astudio ieithoedd – ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cyfathrebu, cywirdeb, cynllunio a dadansoddi rhesymegol – i gyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr o bob sector o’r economi.
127
ADDYSG, ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD A DYLUNIO CYNNYRCH
LLENYDDIAETH SAESNEG, IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd fel rheol GOFYNION MYNEDIAD: • Ar gyfer cyrsiau yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg mae angen 120-112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* gyda gradd A mewn Saesneg / Llenyddiaeth Saesneg / Iaith Saesneg ar gyfer y cwrs Llenyddiaeth Saesneg (gradd B ar gyfer yr holl gyrsiau eraill yn yr Ysgol). • Ar gyfer cyrsiau yn yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg mae angen 120-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. Edrychwch ar y wefan neu yn y prospectws Saesneg am fanylion llawn y gofynion mynediad a chynnwys y cyrsiau hyn.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ffôn: 01248 382264 e-bost: ieithyddiaeth@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithyddiaeth Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Ffôn: 01248 382102 e-bost: saesneg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/saesneg
128
CWRS CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG YSGOL Y SAESNEG, AC YSGOL IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG BA (anrhydedd) Iaith Saesneg Ryngwladol ar gyfer TEFL: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gyda Llenyddiaeth Saesneg: BA (anrhydedd)/MArts Llenyddiaeth Saesneg: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd)/MArts Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg: BA (anrhydedd)/MArts Iaith Saesneg ar gyfer TEFL: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd)/MArts Ieithyddiaeth: BA (anrhydedd) Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg: BA (anrhydedd) Ieithyddiaeth gyda Llenyddiaeth Saesneg:
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Llenyddiaeth Saesneg na chyrsiau Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn cynnig chwe modiwl yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer myfyrwyr gradd, sef hyd at 40 credyd bob blwyddyn o’ch cwrs. Yn ogystal mae darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio gyda chi am eich astudiaethau os ydych yn dymuno hynny. CEFNDIR Y CYRSIAU Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Mae’r Ysgol ymhlith y gorau ac INTERNATIONAL uchaf ei pharch ym Mhrydain, gyda EXPERIENCE staff sy’n ymchwilwyr cynhyrchiol mewn nifer o feysydd theoretig a chymhwysol – llawer ohonynt o fri rhyngwladol. Bydd ein modiwlau’n rhoi golwg wyddonol ichi ar strwythur a defnydd iaith, yn ogystal INTERNATIONAL ag ar ieithyddiaeth wybyddol (y EXPERIENCE rhwng y meddwl ac iaith) berthynas a dwyieithrwydd (astudio pobl sy’n siarad mwy nag un iaith), ymysg amryw bynciau ieithyddol eraill. Bydd cyfle i chi ymuno a’n cyfres o seminarau cyhoeddus (Cylch Ieithyddiaeth) lle mae academyddion o Fangor a phrifysgolion eraill yn siarad am eu hymchwil yn y
Q314 Q310 Q3Q2 8H25/Q320 32M8 2D13/Q2W9 Q65C Q301 Q315/Q316 Q3WP Q3P3 Q3WL Q100/Q101 Q140 Q1Q3
maes. Hefyd, rydym yn falch o fod yn gysylltiedig â Chymdeithas Ieithyddiaeth Bangor sydd â swyddfa a llyfrgell yn yr Ysgol. Mae’r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau drwy’r flwyddyn lle croesewir staff a myfyrwyr. Llenyddiaeth Saesneg Mae’r graddau anrhydedd hyn yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr i’r rhai ohonoch sy’n dymuno astudio cyrsiau cyfrwng Saesneg sy’n ymwneud â’r Saesneg fel pwnc, neu gyda meysydd ysgrifennu creadigol, theatr, astudiaethau ffilm, newyddiaduraeth ac ieithyddiaeth. Gellir cyfuno gwahanol agweddau ar y meysydd hyn os ydych am wneud cyrsiau diddorol ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i ddilyn trywydd academaidd neu gyfuniad o’r academaidd a’r galwedigaethol.
DATBLYGIADAU NEWYDD Yn amodol ar gael ei ddilysu, bydd Ysgrifennu Creadigol BA ar gael yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn 2018. Ewch i’r wefan am y manylion diweddaraf. PAM DEWIS BANGOR?
Yr awdur poblogaidd Philip Pullman yn rhoi darlith yn y Brifysgol
• Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau. • Mae gennym draddodiad cadarn o ddysgu yn y celfyddydau creadigol a pherfformiadol: mae Richard Attenborough yn gymrawd er anrhydedd y Brifysgol a Danny Boyle, cyfarwyddwr ffilmiau enwog megis Trainspotting, A Life Less Ordinary a Slumdog Millionaire, yn un o’n graddedigion. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol yn dibynnu ar eich llwybr gradd unigol. Mae manylion pob cwrs yn dangos yr amrywiaeth eang o feysydd traddodiadol a chyfoes y gallwch eu dilyn.
‘
Mae o’n gwrs gwych. Mae’r staff dysgu’n wirioneddol gyfeillgar a chefnogol. Dwi eisiau mynd yn athro ar ôl graddio, felly dwi’n gobeithio gwneud y TAR Cynradd ym Mangor hefyd. MYFYRIWR PRESENNOL BA Astudiaethau Plentyndod
‘
’
’
Mae’r cyfleusterau i astudio a safon y cwrs yn uchel iawn. HELEDD WILLIAMS BA Astudiaethau Plentyndod a Chymdeithaseg
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial ym mhob gradd. Cyfnodau gwylio rhaglenni a gwrando arnynt, gwaith ymarferol theatrig, cyfryngol a newyddiadurol yn y graddau sy’n cyflwyno’r meysydd hynny. Mae’r dulliau asesu yn amrywio yn ôl gofynion y modiwlau unigol.
129
ADDYSG GYNRADD BA [Anrhydedd] Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: X122 Lleoliad: Safle’r Normal, Bangor Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* gydag o leiaf dwy radd C mewn lefel A (neu gyfwerth) • Rhaid i bob ymgeisydd i’r cwrs cyfrwng Cymraeg fod wedi cyrraedd safon TGAU gradd C mewn Cymraeg, gradd B mewn Iaith Saesneg, gradd B mewn Mathemateg a gradd C mewn Gwyddoniaeth. Os nad oes gennych y TGAU uchod, efallai y bydd yn bosib i chi gymryd un o’n profion mewnol. Cysylltwch â’r Ysgol. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. • Mae’n rhaid i bob myfyriwr / athro dan hyfforddiant gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
CEFNDIR Y CWRS Bydd y cwrs gradd 3 blynedd hwn yn eich cymhwyso i ddysgu mewn ysgol gynradd. Fe’i lluniwyd mewn ymateb i safonau’r llywodraeth ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon. Cewch eich trwytho yn yr holl gwricwlwm cynradd, gan arbenigo naill ai yn y Cyfnod Sylfaen (3-7) neu yng Nghyfnod Allweddol 2 (7-11) ym mlwyddyn 3. PAM DEWIS BANGOR? • Byddwch wedi eich lleoli ar Safle’r Normal sydd â’i lyfrgell a’i ganolfan adnoddau ei hun lle mae dewis eang o adnoddau dysgu dwyieithog cynradd ac adnoddau blynyddoedd cynnar. • Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyffrous a byddwch yn cyfarfod staff a hyfforddeion sy’n gweithio ar amrywiaeth o brojectau datblygu cwricwlwm ac ymchwil. • Mae ysgolion partneriaeth y Brifysgol yn cynnig amgylchedd hyfforddi llawn amrywiaeth sydd, yr un pryd, yn gefnogol. • Arweinwyr ym maes ymchwil dwyieithrwydd ac addysg dwyieithog.
Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
130
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio holl feysydd y Cwricwlwm Cynradd.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
INTERNATIONAL EXPERIENCE
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn treulio 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd/seminarau. Bydd gofyn i chi hefyd ddarllen, paratoi ar gyfer seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau addysgu.
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: X1WF Lleoliad: Safle’r Normal, Bangor Hyd: 3 blynedd
Profiad Ysgol Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon profiadol a fydd yn rhoi cefnogaeth i chi wrth i chi ddysgu’r sgiliau i fod yn athro neu athrawes dosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â chynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Fframwaith Cyfnod Sylfaen. Byddwch yn dysgu sut i drefnu cynlluniau gwaith addas ac ystyried strategaethau asesu cyflawniad disgyblion. Ceir wyth wythnos o brofiad ysgol ym mhob blwyddyn.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL
DYLUNIO A THECHNOLEG UWCHRADD BSc [Anrhydedd] Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig
Bydd yr elfennau a astudiwch yn y Brifysgol yn cael eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiadau. Bydd eich ymarfer dysgu yn cael ei fonitro gan fentoriaid ysgol a thiwtoriaid cyswllt.
GOFYNION MYNEDIAD: • 96-80 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* gyda lefel A mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth) • TGAU gradd B mewn Iaith Saesneg a Mathemateg. Os nad oes gennych y TGAU uchod, efallai y bydd yn bosib i chi gymryd un o’n profion mewnol. Cysylltwch â’r Ysgol. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. • Mae’n rhaid i bob myfyriwr / athro dan hyfforddiant gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol.
‘
Mae’n gwrs sydd yn rhoi cyfleoedd ichi o brofiad mewn ysgol ac rydw i’n bersonol yn teimlo fy mod wedi datblygu cymaint dros y 3 mlynedd. Mae’r darlithwyr yn rhoi o’u gorau, yn barod eu cyngor a’u cymorth bob amser ac yn gwrando ar ein syniadau fel myfyrwyr... Fy ngobaith ar ôl graddio ydi chwilio am swydd yn dysgu ac efallai mynd ati i gyflawni gradd Meistr yn rhan-amser. CERI ELSBETH LEWIS BA Addysg gyda SAC
’
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
CEFNDIR Y CWRS Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddysgu Dylunio a Thechnoleg mewn ysgolion uwchradd ac mewn sefydliadau ôl-16. Cynlluniwyd y cwrs i roi sylfaen eang i chi ar gyfer dysgu’r pwnc a’i ddatblygu mewn ymateb i safonau diwygiedig y llywodraeth ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon. PAM DEWIS BANGOR? • Byddwch wedi eich lleoli ar Safle’r Normal yn y Brifysgol (y Coleg Normal gynt) sydd â’i lyfrgell a’i ganolfan adnoddau ei hun lle ceir amrywiaeth helaeth o adnoddau dysgu cynradd ac uwchradd. • Mae gan y Ganolfan Dylunio a Thechnoleg amgylchedd gwaith dymunol, ac mae wedi’i hachredu’n Ganolfan Hyfforddi CAD/CAM. • Mae’r Ganolfan yn darparu cyfleusterau ac adnoddau da, yn cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. • Mae’r cwrs yn rhan o bartneriaeth sydd wedi ei hen sefydlu rhwng y Brifysgol ac ysgolion uwchradd lleol ac yn cynnwys cyflwyniadau gan athrawon profiadol a staff ymgynghorol yr AALl. • Mae Profiad Ysgol yn elfen ganolog o’r cwrs, fel y gellwch ddatblygu’r medrau i ddechrau INTERNATIONAL gyrfa fel athro/athrawes dylunio a EXPERIENCE thechnoleg yn hyderus. • Cymhareb staff/myfyrwyr ardderchog. • Bydd myfyrwyr yn cael credydau mewn CAD a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith. INTERNATIONAL EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae tair elfen i’r cwrs: Astudiaethau Pwnc, Astudiaethau Proffesiynol, a Phrofiad Ysgol. Astudiaethau Pwnc Byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol mewn Dylunio a Thechnoleg: • Dylunio a Chyfathrebu (Lefel 1) • Dylunio a Gwneuthuriad 1 (Lefel 1) • Dylunio a Gwneuthuriad 2 a 3 (Lefel 2) • Dylunio a Gwneuthuriad 4 a 5 (Lefel 3) Astudiaethau Proffesiynol Bydd y rhain yn datblygu’r medrau sydd eu hangen i weinyddu cwrs, cynllunio’r addysgu yn ôl gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a chyflawni’r gofynion proffesiynol disgwyliedig o’r maes galwedigaethol. Byddwch hefyd yn treulio wythnos ar leoliad mewn ysgol gynradd. Profiad Ysgol Cyfnod mewn ysgol yw hwn o 24 wythnos dros 3 blynedd, yn cael eich cefnogi gan athrawon profiadol a chan diwtoriaid o’r Brifysgol. Byddwch yn datblygu eich medrau dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddiwallu gwahanol anghenion dysgu. Byddwch yn
dod yn gyfarwydd â chynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn dysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith addas gan ystyried gofynion asesiadau ac adroddiadau. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn treulio 19 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd/seminarau. Bydd angen hefyd i chi ddarllen, paratoi ar gyfer seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau dysgu. Bydd yr elfennau a astudiwch yn y Brifysgol yn cael eu hasesu trwy waith cwrs (yn cynnwys datblygu eich portffolio dylunio a gwaith project ymarferol) ac arholiadau. Bydd eich ymarfer dysgu yn cael ei fonitro gan diwtoriaid.
131
DYLUNIO CYNNYRCH BSc [Anrhydedd] FFEITHIAU AM Y CWRS Cod cwrs UCAS: Ffrwd ddwyieithog W241; Ffrwd Saesneg W240 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • 96-80 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* mewn pwnc perthnasol • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
132
CEFNDIR Y CWRS Bydd y cwrs gradd yma yn eich paratoi am yrfa werth chweil a llawn her mewn dylunio cynnyrch – gyrfa lle gellwch wneud gwahaniaeth. PAM DEWIS BANGOR? • Mae’r Ganolfan Dylunio a Thechnoleg yn rhan o’r Ysgol Addysg. • Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi cael enw da cynyddol am gynhyrchu gwaith o safon uchel iawn, a arddangoswyd yn genedlaethol, ac wedi cael llawer iawn o sylw gan y cyfryngau. • Rydym hefyd yn ganolfan ranbarthol achrededig hyfforddi CAD/CAM. • Mae’r Ganolfan yn darparu llawer o gyfleusterau ac adnoddau, sy’n cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf. • Cymhareb staff/myfyrwyr ardderchog. • Bydd myfyrwyr yn cael credydau mewn CAD a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae’r cwrs yn cael ei lunio i roi sylfaen eang i chi mewn dylunio cynnyrch, a bydd yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd ymhob blwyddyn: • Astudiaethau Proffesiynol INTERNATIONAL • Astudiaethau Pwnc (dau fodiwl) EXPERIENCE • Profiad Gwaith Mewn Astudiaethau Proffesiynol, byddwch yn dysgu am y materion sy’n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch: • Sefydliadau a Rheolaeth INTERNATIONAL • Rheoli Cynnyrch EXPERIENCE • Arloesi • Marchnata
Mewn modiwlau Astudiaethau Pwnc, byddwch yn dysgu am ddylunio a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a gewch drwy ddylunio cynnyrch a chynhyrchu/mireinio prototeipiau: • Egwyddorion Dylunio • Creadigrwydd • Cyfathrebu a Modelau Dylunio • Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) • Cynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM) • Sgiliau Cynhyrchu • Prototeipio • Datblygiad Cynaliadwy • Sgiliau Cyflwyno Mae Profiad yn y Gweithle yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd: • Bloc 8 wythnos yn ystod pob blwyddyn • Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol • Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt • Cynhyrchu • Marchnata • Trefnu Bydd project gradd y flwyddyn olaf yn dod â’r holl elfennau uchod ynghyd.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? • O leiaf 19 awr o amser cyswllt yr wythnos mewn darlithoedd/ seminarau • Darllen, paratoi ar gyfer seminarau, cwblhau gwaith cwrs • Asesu elfennau Astudiaethau Proffesiynol drwy waith cwrs ac arholiadau • Asesiad parhaus o fodiwlau astudiaethau pwnc • Monitro profiad gwaith gan diwtoriaid • Tiwtorialau personol rheolaidd
‘
Roedd profiad gwaith yn golygu y gallwn weithio mewn gwahanol fathau o ddiwydiant gan sicrhau mwy o wybodaeth a sgiliau ar y daith. Fe wnaeth amrywiaeth y cynhyrchion y gwnaethom eu dylunio dros y 3 blynedd roi gwybodaeth ehangach i mi am beiriannau, deunyddiau a gwaith graffeg. HANNAH MARIE TREMATICK BSc Dylunio Cynnyrch
’
133
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID BA [Cyd-Anrhydedd]
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: X314 BA/API (anrhydedd sengl), am gyd-anrhydedd gweler y dudalen nesaf Hyd: 3 blynedd
CEFNDIR Y CWRS Mae hon yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd â diddordeb mewn gweithio â phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa.
GOFYNION MYNEDIAD: • 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* mewn pwnc perthnasol • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Mae’n rhaid i bob myfyriwr / athro dan hyfforddiant gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol.
Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyddestun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
134
Diffinnir ‘Plentyndod’ fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod: • Y Plentyn a’i (d)datblygiad; • Y Plentyn a chymdeithas; • Y Plentyn a byd addysg. Bydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth ar gyfer gwneud ymchwil i faterion yn ymwneud â phlentyndod. PAM DEWIS BANGOR? • Nod y radd yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio INTERNATIONAL gyda phlant, pobl ifanc a’u EXPERIENCE teuluoedd mewn ystod o gyd- destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn INTERNATIONAL cynhyrchu gweithwyr proffesiynol EXPERIENCE a all ymdopi â sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog. • Ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae’r rhaglen yn gwrs tair blynedd llawn-amser.
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: i weld graddau cydanrhydedd edrychwch ar dudalen 64. Hyd: 3 blynedd
Blwyddyn 1 Amcan blwyddyn gyntaf y radd mewn Astudiaethau Plentyndod yw rhoi cyflwyniad eang i dair prif ddisgyblaeth y cwrs i’r myfyrwyr. Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau gorfodol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn mewn agweddau sy’n gysylltiedig â phlentyndod er enghraifft:
GOFYNION MYNEDIAD: • 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* mewn pwnc perthnasol • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol • Mae’n rhaid i bob myfyriwr / athro dan hyfforddiant gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol.
• Plant a Chymdeithas • Seicoleg Plant • Chwarae Plant • Plant, Moeseg a Diwylliant • Iechyd, Ffitrwydd a Lles Plant • Sgiliau ar gyfer Dysgu Blynyddoedd 2 a 3 Mae’r ystod o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi sylfaen drwyadl mewn safbwyntiau damcaniaethol allweddol, methodoleg ymchwil, a’r prif themâu wrth ddehongli profiadau cyfoes plentyndod er enghraifft: • Datblygiad Plentyn • Ymchwilio mewn Plentyndod • Cynhwysiad ac Anghenion Ychwanegol • Y Plentyn Byd-eang • Datblygu Ymarfer Effeithiol • Plant, Llythrennedd a Llenyddiaeth • Plant yn Cyfrif • Y Plentyn yn yr Awyr Agored • Hunaniaethau mewn Plentyndod • Plant, Ieithoedd a Dwyieithrwydd • Athroniaeth Plentyndod • Diogelu Plant
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn treulio 12 awr (anrhydedd sengl) neu 6 awr (cydanrhydedd) yr wythnos mewn darlithoedd rhyngweithiol bychain, tiwtorialau, seminarau, gwaith grŵp, gweithdai a chyflwyniadau lle mae cyfraniad gan fyfyrwyr yn bwysig. Mae gweithdai’n bwysig i ddatblygu ac ymarfer sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy er mwyn paratoi ar gyfer lleoliadau. Disgwylir i chi hefyd astudio’n annibynnol, yn cynnwys darllen ac ymchwilio, paratoi ar gyfer seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, gweithio ar aseiniadau, a thrafodaethau ar-lein. Asesir yr holl fodiwlau drwy ystod o aseiniadau llafar ac ysgrifenedig. Nid oes unrhyw arholiadau ysgrifenedig ffurfiol. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae cynnwys amlddisgyblaethol y radd yn cynnig ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n ymgeisio am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch ymgeisio am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn cyflawni’r gofynion mynediad.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
CEFNDIR Y CWRS Gellir dilyn cwrs gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Plentyndod ar y cyd ag un o’r pynciau a ganlyn, sef Cymdeithaseg, Cymraeg, Polisi Cymdeithasol a Seicoleg. Mae BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd â diddordeb mewn gweithio â phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa. Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyddestun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant. Diffinnir ‘Plentyndod’ fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod: • Y Plentyn a’i (d)datblygiad; • Y Plentyn a chymdeithas; • Y Plentyn a byd addysg. Bydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth ar gyfer gwneud INTERNATIONAL ymchwil i faterion yn ymwneud â EXPERIENCE phlentyndod. PAM DEWIS BANGOR? • Nod y radd yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio INTERNATIONAL gyda phlant, pobl ifanc a’u EXPERIENCE teuluoedd mewn ystod o gyd- destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen, ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi â sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.
• Yn ystod y radd, ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae’r rhaglen yn gwrs tair blynedd llawn-amser. Blwyddyn 1 Amcan blwyddyn gyntaf y radd mewn Astudiaethau Plentyndod yw rhoi cyflwyniad eang i dair prif ddisgyblaeth y cwrs i’r myfyrwyr. Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau gorfodol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn mewn agweddau sy’n gysylltiedig â phlentyndod: • Plant a Chymdeithas • Seicoleg Plant • Sgiliau ar gyfer Dysgu Blynyddoedd 2 a 3 Mae’r ystod o fodiwlau gorfodol yn rhoi sylfaen drwyadl mewn safbwyntiau damcaniaethol allweddol, methodoleg ymchwil, a’r prif themâu wrth ddehongli profiadau cyfoes plentyndod: • Datblygiad Plentyn • Cynhwysiad ac Anghenion Ychwanegol • Y Plentyn Byd-eang • Hunaniaethau mewn Plentyndod • Plant, Ieithoedd a Dwyieithrwydd • Diogelu Plant
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn treulio o leiaf 6 awr yr wythnos mewn darlithoedd rhyngweithiol bychain, tiwtorialau, seminarau, gwaith grŵp, gweithdai a chyflwyniadau, lle mae cyfraniad gan fyfyrwyr yn bwysig. Mae gweithdai’n bwysig i ddatblygu ac ymarfer sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy er mwyn paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith. Disgwylir i chi hefyd astudio’n annibynnol, yn cynnwys darllen ac ymchwilio, paratoi ar gyfer seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, gweithio ar aseiniadau, a thrafodaethau arlein. Asesir yr holl fodiwlau drwy ystod o aseiniadau llafar ac ysgrifenedig. Nid oes unrhyw arholiadau ysgrifenedig ffurfiol. Gall cynnwys rhai modiwlau gael eu cyflwyno mewn dull dwyieithog. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae cynnwys amlddisgyblaethol y radd yn cynnig ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n ymgeisio am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch ymgeisio am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn cyflawni’r gofynion mynediad.
‘
Mae’r cwrs cyd-anrhydedd yn hynod ddiddorol. Am fy mod yn astudio dau bwnc mae’n rhoi persbectif mwy eang i mi ac yn agor drysau i nifer o feysydd gwahanol.
’
MARTHA CORDINER BA Cyd-Anrhydedd Cymraeg ac Astudiaethau Plentyndod
135
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR AC IEUENCTID A CHYMORTH DYSGU FdA Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: X323 Hyd: 2 flynedd llawn-amser neu 4 blynedd rhan-amser Mae’n bosib gadael y cwrs ar lefel Tystysgrif gyda 120 credyd. Mae’r cwrs hefyd ar gael yn Saesneg. GOFYNION MYNEDIAD: Fel rheol, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael cyfweliad. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n ateb y meini prawf canlynol: • O leiaf 32 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith (TGAU) i’r rhai sy’n dymuno dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu radd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (TGAU) i’r rhai sy’n dymuno dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg • Ymarferwyr presennol ym maes Plentyndod Cynnar • Myfyrwyr sydd wedi cwblhau lleoliadau gwaith mewn sefydliadau Blynyddoedd Cynnar fel rhan o gymhwyster lefel 3 • Mynd i gyfweliad a llwyddo ynddo. • Mae’n rhaid i bob myfyriwr / athro dan hyfforddiant gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol. * Gweler y dudalen flaenorol am gymwysterau lefel 3.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Ysgol Addysg Ffôn: 01248 382408 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
136
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Mae’r mwyafrif helaeth o’r modiwlau yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog. Gellir cyflwyno gwaith cwrs pob modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg. CEFNDIR Y CWRS Os byddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd eich dealltwriaeth o faterion ynglŷn â phlant a’r modd y maent yn datblygu a dysgu yn codi i lefel gradd sylfaen genedlaethol. Bydd eich dysgu academaidd yn sylfaen i’r medrau a ddatblygwch yng nghyswllt gwaith. Mae’r cwrs gradd yn seiliedig ar bartneriaeth waith rhwng yr Ysgol Addysg, yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, Coleg Menai, meithrinfeydd a chanolfannau gofal plant lleol. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer ymarferwyr presennol sy’n gweithio ym maes Plentyndod Cynnar ac yn dymuno astudio tra byddant yn parhau i weithio. Mae’r cwrs gradd yn addas ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i ennill gradd genedlaethol gwerth 240 o gredydau. Fodd bynnag, mae’n bosibl dyfarnu tystysgrif (120 o gredydau) pan fydd myfyriwr yn cwblhau Lefel 4 yn llwyddiannus. Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus wneud cais i ymuno â thrydedd flwyddyn y cwrs BA Astudiaethau Plentyndod. INTERNATIONAL EXPERIENCE
Noder: Gan y darperir lleoliadau i fyfyrwyr mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, neilltuir nifer o lefydd ar y cwrs hwn ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl. Sicrhewch eich bod yn nodi eich dewis iaith ar eich INTERNATIONAL ffurflen gais. EXPERIENCE
PAM DEWIS BANGOR? Cwrs hyblyg yw hwn, a gynigir fel cwrs llawn-amser dros 2 flynedd, neu fel cwrs rhan-amser dros 4 blynedd. Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio mewn meysydd sy’n berthnasol i’r radd, megis meithrinfeydd neu ofal plant, rheolaeth gofal plant, neu ganolfannau partneriaeth, ac i gynorthwywyr dysgu mewn ysgolion cynradd. Mae’n bosibl astudio a pharhau i weithio. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 • Dysgu Astudio • Meithrin Ymddygiad Addas • Datblygiad Plant Ifanc • Lleoliad Gwaith • Yr Amgylchedd Dysgu • Chwarae Plant Blwyddyn 2 • Scaffaldio Dysgu • Lleoliad Gwaith • Hawliau Plant • Y Plentyn Iach • Rheoli Meithrinfa • Cefnogi Anghenion Dysgu • Partneriaethau ac Asiantaethau • Dulliau Ymchwil
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mae’r cwrs hwn yn gysylltiedig â gweithle, ac felly mae’n ymarferol iawn. Bydd y rheiny nad ydynt yn gyflogedig yn treulio tua 2 ddiwrnod yr wythnos ar leoliad gwaith. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae’r FdA yn addas i’r rhai sydd am weithio gyda phlant ifanc neu fel cymorthyddion dosbarth mewn ysgol gynradd.
‘
Rwy’n mwynhau’r cwrs ac wedi dysgu llawer wrth ei ddilyn. Mae’n ddiddorol iawn cael y cyfle i fynd i leoliad gwaith a chael profiadau uniongyrchol o weithio gyda phlant.
’
CATRIN EVANS Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu FdA
‘
Mi wnes i ddod i’r Diwrnod Agored ar ddiwrnod poeth yng Ngorffennaf ac roedd y golygfeydd yn werth eu gweld. Roedd y myfyrwyr a’r staff yn groesawgar iawn, felly mi roeddwn i’n gallu gweld fy hun yn byw yma tra’n astudio. Ar y cwrs mae 4 modiwl (profiad ysgol, astudiaethau proffesiynol, pynciau craidd ac allgraidd). Yn y flwyddyn gyntaf roedd y ffocws ar y Cyfnod Sylfaen ac yn yr ail flwyddyn roedd y ffocws ar Gyfnod Allweddol Dau. Rwy wedi mynd ‘mlaen i ddewis Cyfnod Allweddol Dau eto i orffen fy nghwrs yn fy nhrydedd flwyddyn. Y rhan orau o’r cwrs yw’r profiad ysgol rwy’n ei wneud yn ystod yr ail dymor. Mae bod ar brofiad gwaith mewn ysgol yn dod â’r holl ddarlithoedd yn fyw. Rwy’n mwynhau cael addysgu a bod yn ymarferol – rwy’n cael y cyfle i weld fy syniadau yn digwydd, yn hytrach na chynllunio ar bapur yn unig. LOIS CLWYD HUGHES (uchod) BA Addysg Gynradd
’
137
MYNEGAI PWNC ADDYSG
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid*134,135 Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac 136 Ieuenctid a Chymorth Dysgu* Addysg Gynradd* 130 Dylunio a Thechnoleg Uwchradd* 131
ADDYSG GORFFOROL
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol Gwyddor Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored) Gwyddor Chwaraeon (rhyngosodol) Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ffisioleg Ymarfer (rhyngosodol) Ymarfer, Newid Ymddygiad ac Atal Afiechydon (rhyngosodol)
ALMAENEG
Astudiaethau Amgylchedd y Môr Cadwraeth Amgylcheddol Gwyddor yr Amgylchedd Rheoli’r Amgylchedd
ARCHAEOLEG 78 78 78 78 78 78 78 78
(gweler hefyd Ieithoedd Modern) Almaeneg 124 Almaeneg ac un neu ddwy iaith arall 126 Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes 124 Almaeneg gydag 124 Astudiaethau’r Cyfryngau Almaeneg gydag Eidaleg 124 Almaeneg gyda Ffrangeg 124 Almaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Almaeneg gyda Marchnata 124 Almaeneg gyda Newyddiaduraeth 124 Almaeneg gyda Sbaeneg 124 Almaeneg gyda Seicoleg 124
"Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr? Cerwch amdani. Mae Bangor yn lle gwych i astudio, o ran y lleoliad, yr addysg sydd o safon ragorol, y gefnogaeth, a’r gymdeithas gyfeillgar.”
YR AMGYLCHEDD
Hanes gydag Archaeoleg Hanes Cymru gydag Archaeoleg Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes
ASTUDIAETHAU CREADIGOL Astudiaethau Creadigol
70 66 66 66
116 116 116
102
(gweler hefyd Newyddiaduraeth) Astudiaethau’r Cyfryngau* 102, 103 Astudiaethau’r Cyfryngau gydag 102 Iaith Fodern Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 102 a Pherfformio Astudiaethau Newyddiaduraeth 102 a’r Cyfryngau Cymraeg ac Astudiaethau Theatr 106, 113 a’r Cyfryngau* Iaith Saesneg gydag 128 Astudiaethau’r Cyfryngau Ysgrifennu Creadigol ac 102 Astudiaethau’r Cyfryngau Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau 102
Astudiaethau Ffilm Astudiaethau Ffilm gyda Theatr a Pherfformio Hanes gydag Astudiaethau Ffilm Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm
fel pwnc gradd ar y cyd* 64, 135 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid* 134 Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac 136 Ieuenctid Chymorth Dysgu FdA*
ASTUDIAETHAU THEATR
Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 102 Astudiaethau Ffilm gyda Theatr 102 Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r 108, 113 Cyfryngau* Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr 128 a Pherfformio
ATHRONIAETH
ASTUDIAETHAU’R CYFRYNGAU
ASTUDIAETHAU FFILM
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID*
102 102
Athroniath a Chrefydd
BANCIO
Bancio a Chyllid Cyfrifeg a Bancio
122
86, 87 86, 87
BIOLEG
(gweler hefyd Sŵoleg) Bioleg 68 Bioleg Feddygol 80 Bioleg gyda Biotechnoleg 68 Bioleg Môr 70 Bioleg Môr ac Eigioneg 70 Bioleg Môr a Sŵoleg 70 Bioleg Môr Gymhwysol 70 Gwyddor Biofeddygol 80
116 128 102
LLIO DAVIES O Langollen, sy’n astudio Busnes a Marchnata *Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
138
139
BIOLEG MÔR
Bioleg Môr Bioleg Môr ac Eigioneg Bioleg Môr a Sŵoleg Bioleg Môr Gymhwysol Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr Sŵoleg Fertebratau Morol
70 70 70 70 68 70
CREFYDD
BUSNES
(gweler hefyd Cyfrifeg, Rheolaeth, Marchnata) Astudiaethau Busnes 86, 87 Astudiaethau Busnes a Chyllid 86, 87 Astudiaethau Busnes a Marchnata 86, 87 Astudiaethau Busnes gydag 86 Iaith Fodern Busnes a’r Gyfraith 86, 88, 94 Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes 74 Economeg Busnes 86, 87 Economeg Gyllidol 86, 87 Seicoleg gyda Busnes 87 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 ar gyfer Busnes
BYDWREIGIAETH CEMEG
Cemeg BSc, MChem Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd
CERDDORIAETH
fel pwnc gradd ar y cyd Cerddoriaeth* Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd*
Cadwraeth a Choedwigaeth 66 Coedwigaeth 66 Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth 66 Amgylcheddol
80, 82
72 72 72
64, 102 98 106, 114
Athroniaeth a Chrefydd
122
CYFRAITH (gweler Y Gyfraith) CYFRIFEG
(gweler hefyd Bancio) Astudiaethau Busnes a Chyllid Bancio a Chyllid Cyfrifeg a Bancio Cyfrifeg ac Economeg Cyfrifeg a Chyllid Rheolaeth gyda Chyfrifeg
CYFRIFIADUREG
86, 87 86, 87 86, 87 86, 87 86, 87 86, 88
Busnes a Systemau Gwybodaeth 86, 88 Cyfrifiadurol Cyfrifiadureg 74 Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes 74 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol 76 Technolegau Creadigol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 ar gyfer Busnes
CYFRYNGAU (gweler Astudiaethau’r Cyfryngau)
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Cymdeithaseg 94 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol* 94, 95 Iechyd Cymdeithasol 94 Iechyd a Gofal Cymdeithasol 9
CYMRAEG*
fel pwnc gradd ar y cyd Cymraeg* Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau* Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd* Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol* Cymraeg gyda Newyddiaduraeth* Cymraeg i Ddechreuwyr Cymraeg i Proffesiynol
GWYDDOR CHWARAEON
DYSGU (gweler Addysg)
CYMDEITHASEG
COEDWIGAETH
ECOLEG
Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol
ECONOMEG 64 106, 107 106, 113
Cyfrifeg ac Economeg Economeg Busnes Economeg Cyllidol
66
86, 87 86, 87 86, 87
106, 114 106, 111 106, 110 106 106, 108
DAEARYDDIAETH
Daearyddiaeth Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth Amgylcheddol Daearyddiaeth Morol Eigioneg Ddaearegol
66 66 70 70
DRAMA
Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 104 Cymraeg ac Astudiaethau Theatr 106, 113 a’r Cyfryngau* Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr 128 a Pherfformio
DYLUNIO A THECHNOLEG Dylunio a Thechnoleg Uwchradd* Dylunio Cynnyrch*
131 132
EIDALEG
Almaeneg gydag Eidaleg 124 Eidaleg ac un neu ddwy iaith arall 124, 126 Eidaleg a phwnc arall 124 Ffrangeg gydag Eidaleg 124 Sbaeneg gydag Eidaleg 124
EIGIONEG (gweler Gwyddorau Eigion) FFILM (gweler Astudiaethau Ffilm) FFRANGEG
HANES CYMRU
(gweler Addysg Gorfforol)
(gweler hefyd Ieithoedd Modern) Ffrangeg 124 Ffrangeg ac un neu ddwy iaith arall 124,126 Ffrangeg gydag Almaeneg 124 Ffrangeg gydag Astudiaethau Busnes 124 Ffrangeg gydag Astudiaethau ’r Cyfryngau 124 Ffrangeg gydag Eidaleg 124 Ffrangeg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Ffrangeg gyda Marchnata 124 Ffrangeg gyda Newyddiaduraeth 124 Ffrangeg gyda Sbaeneg 124 Ffrangeg gyda Seicoleg 124
GWYDDORAU EIGION
Astudiaethau Amgylchedd y Môr Bioleg Môr BSc, MMBiol Bioleg Môr ac Eigioneg Bioleg Môr a Sŵoleg Bioleg Môr Gymhwysol Daearyddiaeth Morol Eigioneg Ddaearegol Eigioneg Ffisegol Ffiseg Morol a Geoffiseg Gwyddor Eigion Gwyddor Môr (MMSci) Sŵoleg Fertebratau Morol
GWYDDORAU MEDDYGOL Gwyddorau Meddygol
fel pwnc gradd ar y cyd Hanes Cymru a Hanes* Hanes Cymru gydag Archaeoleg 70 70 70 70 70 70 70 70 70 70 70 70
80
64 116, 120 116
IECHYD (gweler hefyd Nyrsio) Astudiaethau Iechyd (rhan-amser) Astudiaethau Iechyd a Chymwysterau Ymarfer Arbenigol (rhan-amser) Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol Gofal Critigol (rhan-amser) Gwyddor Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Gwyddorau Meddygol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Iechyd a Llês Ymarfer, Newid Ymddygiad ac Atal Afiechydon
80 80 78 80 78 78 80 94 80 78
IEITHOEDD
(gweler Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Ieithoedd Modern, Sbaeneg)
GWYDDORAU MÔR
(gweler Gwyddorau Eigion)
HANES
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Hanes* 116, 117 Hanes Canoloesol a Modern Cynnar 116 Hanes Cymru a Hanes* 116, 120 Hanes Cymru gydag Archaeoleg 116 Hanes gydag Archaeoleg 116 Hanes gydag Astudiaethau Ffilm 116 Hanes gyda Newyddiaduraeth* 116, 118 Hanes Modern a Chyfoes 116 Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes 116
IEITHOEDD MODERN
Anrhydedd Tair Iaith 124, 126 Astudiaethau Busnes gydag 86 Iaith Fodern Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd 72 Cyd-Anrhydedd mewn Ieithoedd 124, 126 Marchnata gydag Iaith Fodern 86 Newyddiaduraeth gydag Iaith Fodern 124 Rheolaeth gydag Iaith Fodern 86
IEITHYDDIAETH
Ieithyddiaeth 128 Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg 128 Ieithyddiaeth ac Llenyddiaeth Saesneg 128
CYLLID (gweler Cyfrifeg a Bancio) *Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
140
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
141
LLENYDDIAETH
RADIOGRAFFEG
(gweler Cymraeg a Saesneg)
MARCHNATA
Astudiaethau Busnes a Marchnata Marchnata Marchnata gydag Iaith Fodern
Radiograffeg Diagnostig
86, 87 86, 88 86
NEWYDDIADURAETH
Astudiaethau’r Cyfryngau* 102, 105 Astudiaethau Newyddiaduraeth 102 a’r Cyfryngau Cymraeg gyda Newyddiaduraeth* 106, 110 Hanes gyda Newyddiaduraeth* 116, 118 Newyddiaduraeth gydag Iaith Fodern 124 Llenyddiaeth Saesneg gyda 128 Newyddiaduraeth
NYRSIO (gweler hefyd Iechyd)
Bydwreigiaeth Gofal Critigol (rhan-amser) Nyrsio
80, 82 80 80, 81
RHEOLAETH
Rheolaeth gyda Chyfrifeg Rheoli’r Amgylchedd
SAESNEG (gweler hefyd Ieithyddiaeth) Iaith Saesneg Rhyngwladol Iaith Saesneg Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm Iaith Saesneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ieithyddiaeth gyda Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol Llenyddiaeth Saesneg gyda Newyddiaduraeth
PEIRIANNEG ELECTRONIG (gweler hefyd Cyfrifiadureg) Peirianneg Electronig Peirianneg Diogelwch Critigol Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol
POLISI CYMDEITHASOL
SEICOLEG
80 Almaeneg gyda Seicoleg 124 Ffrangeg gyda Seicoleg 124 Niwroseicoleg (rhyngosodol) 84 Seicoleg 84 Seicoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer 78 86, 88 Seicoleg gyda Busnes 84 66 Seicoleg gyda Niwroseicoleg 84 Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd 84
128 SŴOLEG 128 Sŵoleg 68 128 Sŵoleg Fertebratau Morol 70 128 Sŵoleg gyda Chadwraeth 68 Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid 68 128 Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr 68 Sŵoleg gyda Herpetoleg 68 128 128 128 128 128
THEATR (gweler Astudiaethau Theatr) TREFTADAETH
128 Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes 128
TROSEDDEG
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol 76 76 76 76
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol* 94, 95
116
SBAENEG
94
TROSEDDEG
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
TSIEINËEG GYDA PHWNC ARALL
94
124, 126
Y GYFRAITH
Busnes a’r Gyfraith 86, 88, 94 Y Gyfraith 90 Y Gyfraith gydag Almaeneg 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Busnes 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Cyfryngau 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Crefyddol 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Tsieinëeg 92 Gyfoes Y Gyfraith gyda Chyfrifeg a Chyllid 92 Y Gyfraith gydag Eidaleg 92 Y Gyfraith gyda Ffrangeg 92 Y Gyfraith gyda’r Gymraeg 91 Y Gyfraith gyda Hanes 92 Y Gyfraith gyda Pholisi Cymdeithasol 92 Y Gyfraith gyda Sbaeneg 92 Y Gyfraith gyda Throseddeg 92 Y Gyfraith gydag Ysgrifennu ar gyfer 92 Cyfryngau Creadigol 92
YMARFER CREADIGOL
YSGRIFENNU CREADIGOL
Cymraeg gydag Ysgrifennu 106, 111 Creadigol* Llenyddiaeth Saesneg gydag 128 Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol 102 Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau’r 102 Cyfryngau
YSGRIFENNU PROFFESIYNOL
Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm
102 102
102
Sbaeneg 124 Sbaeneg ac un neu ddwy iaith arall 124, 126 THEATR (gweler Astudiaethau Theatr) Sbaeneg gyda Ffrangeg 124 Sbaeneg gydag Almaeneg 124 Sbaeneg gydag Astudiaethau Busnes 124 Sbaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau 124 Sbaeneg gydag Eidaleg 124 TREFTADAETH 116 Sbaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes Sbaeneg gyda Marchnata 124 Sbaeneg gyda Newyddiaduraeth 124
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
142 142
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
143
CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL
GWYBODAETH BWYSIG
YMUNWCH Â’R SGWRS ar y cyfryngau cymdeithasol – drwy ddefnyddio #PrifysgolBangor @prifysgolbangor facebook.com/PrifysgolBangor @prifysgolbangoruniversity prifysgolbangor
144 144
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Mawrth 2017). Mae’r argraffiad hwn o brospectws y Brifysgol i israddedigion yn disgrifio’r cyfleusterau a’r cyrsiau y mae’r Brifysgol yn bwriadu eu cynnig yn ystod y flwyddyn academaidd yn dechrau yn hydref 2018. Mae’r prospectws a’r gwedudalennau’n cael eu paratoi beth amser cyn y flwyddyn academaidd y maent yn ymwneud â hi a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn ddefnyddiol, yn deg a chywir pan aeth i gael ei argraffu. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid dros amser. Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu’r cyrsiau, hyfforddiant a chefnogaeth ddysgu, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill gyda gofal a medr rhesymol ac yn y ffordd a ddisgrifir yn y prospectws hwn. Fodd bynnag, ni all y Brifysgol roi sicrwydd ynghylch darparu unrhyw gwrs neu gyfleuster. Gall rhai amgylchiadau, megis newidiadau staff, cyfyngiadau ar adnoddau a ffactorau eraill nad oes gan y Brifysgol unrhyw reolaeth drostynt, megis gweithredu diwydiannol neu newid yn y gyfraith neu yn lefel y galw am raglen neu fodiwl neilltuol (sylwer nad yw’r rhestr hon yn un lawn a therfynol), beri i’r Brifysgol orfod tynnu’n ôl neu newid agweddau ar y rhaglenni, modiwlau ac/ neu wasanaethau myfyrwyr ac/neu gyfleusterau a ddisgrifir yn y prospectws. Gall hyn gynnwys staffio, cynnwys rhaglen/modiwl, y fan lle dysgir y rhaglen/modiwl neu’r dull addysgu, a’r cyfleusterau a ddarperir i gyflwyno neu gefnogi’r rhaglen, ond heb fod yn gyfyngedig o angenrheidrwydd i’r materion hyn. Lle bo newid yn anorfod oherwydd amgylchiadau, neu lle mae’n angenrheidiol i’r Brifysgol ddod â rhaglen astudio i ben, bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i leihau’r effaith i’r eithaf. Bydd holl ddarpar ymgeiswyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen berthnasol yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar wefan y Brifysgol (www.bangor.ac.uk). Bydd gan unigolyn hawl i dynnu’n ôl o’r cwrs drwy hysbysu’r Brifysgol yn ysgrifenedig o fewn cyfnod rhesymol o gael ei hysbysu am y newid.
145
Yn ogystal, caiff ymgeiswyr eu hysbysu am unrhyw newidiadau rhwng y prospectws a’r cwrs a gwasanaethau arfaethedig ar yr adeg y gwneir cynnig iddynt. Anogir darpar ymgeiswyr i edrych ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Nid yw parodrwydd y Brifysgol i ystyried cais yn sicrwydd y derbynnir yr ymgeisydd. Derbynnir myfyrwyr i’r Brifysgol ar sail bod y wybodaeth a roddant ar eu ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir. Gall yr holl brisiau a nodir yn y prospectws hwn newid a byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newid o’r fath pan fydd y Brifysgol yn cynnig lle i chi. Pe baech yn dod yn fyfyriwr yn y Brifysgol, bydd yr hysbysiad hwn yn un o delerau unrhyw gontract rhyngoch chi a’r Brifysgol. Bydd unrhyw gynnig o le yn y Brifysgol yn amodol ar yr amodau cofrestru myfyrwyr a rheolau a rheoliadau’r Brifysgol a gaiff eu diwygio o bryd i’w gilydd. Mae copi o delerau ac amodau cyfredol y Brifysgol yn: www.bangor.ac.uk/telerau-ac-amodau neu gellir cael copi papur gan y Cofrestrydd Academaidd, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.
PRIFYSGOL BANGOR GWYNEDD LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 Gwefan: www.bangor.ac.uk DERBYN Ffôn: 01248 383717 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk DIWRNOD AGORED AC YMWELIADAU ERAILL Ffôn: 01248 382420/382015 E-bost: ymweld@bangor.ac.uk GWASANAETHAU CEFNOGI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor. ac.uk LLINELL GYMORTH ADEG CANLYNIADAU Ffôn: 0800 328 5763 PROSPECTWS A GWYBODAETH BELLACH Ffôn: 01248 383561/382005 E-bost: prospectws@bangor.ac.uk SWYDDFA NEUADDAU Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk SWYDDFA TAI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk UNED CYMORTH ARIANNOL Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk CEFNOGAETH DYSLECSIA Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk
145
PRIFYSGOL BANGOR 2018 COD UCAS: Bangr B06
www.bangor.ac.uk
PRIFYSGOL BANGOR Prospectws Israddedigion 2018