www.bangor.ac.uk/alumni
BANGORIAD HYDREF 2011 Cylchgrawn i Alumni a Chyfeillion Prifysgol Bangor
• NEWYDDION
BANGORIAD HYDREF 2011
CROESO Croeso i argraffiad hydref 2011 o'r Bangoriad. Yn y rhifyn hwn rydym yn dod â newyddion i chi am ein Sefydliad Ymchwil Canser, yn ogystal ag edrych yn ôl ar y Coleg Normal. Fel arfer, rydym hefyd yn dod â’r newyddion pwysig diweddaraf o’r Brifysgol i chi, yn ogystal ag erthyglau ar rai o’ch cyd alumni. Hoffem glywed eich straeon, naill ai o’ch cyfnod ym Mangor neu ers i chi adael y Brifysgol, felly cysylltwch os oes gennych rywbeth i’w rannu a gallwn eu cynnwys yn y Bangoriad nesaf. Cofiwch roi eich manylion cyfredol i ni hefyd drwy ddiweddaru eich manylion ar ein gwefan: www.bangor.ac.uk/alumni/update. Gellwch roi eich cyfeiriad e-bost i ni hefyd fel y gallwn anfon yr holl newyddion diweddaraf am y Brifysgol atoch drwy ein e-newyddlen chwarterol. Dymuniadau gorau, Bethan Perkins, Golygydd Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Gartherwen Prifysgol Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG DU Ffôn: + 44 (0) 1248 388332 / 382020 Ffacs: +44 (0) 1248 383268 e-bost: alumni@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/alumni Prifysgol Bangor: + 44 (0) 1248 351151
BANGORIAD AR-LEIN Helpwch ni i arbed costau ac arbed yr amgylchedd drwy ddewis derbyn y Bangoriad ar-lein yn unig. Os ydych yn fodlon derbyn y Bangoriad drwy e-bost o hyn ymlaen, ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni/update i roi gwybod i ni, neu e-bostio: alumni@bangor.ac.uk
I ddiweddaru eich manylion ewch i:
www.bangor.ac.uk/alumni/update Cadwch mewn cysylltiad ar-lein: Bangor University Alumni Prifysgol Bangor BangorAlumni Bangor University ALUMNI
2 BANGORIAD HYDREF 2011
BUDDSODDIAD Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sefydliad newydd ar gyfer datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru, wedi dyfarnu naw swydd academaidd a phum ysgoloriaeth PhD i Brifysgol Bangor ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Trwy’r buddsoddiad newydd hwn, gall myfyrwyr Bangor a sefydliadau eraill edrych ymlaen at nifer dda o fodiwlau a datblygiadau cyfrwng Cymraeg newydd mewn meysydd mor amrywiol â Ffrangeg, Cemeg, Cerddoriaeth Boblogaidd, Cerddoriaeth ar gyfer Ffilm, Seicoleg, Polisi Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio ac Astudiaethau’r Amgylchedd. Wrth groesawu’r dyfarniadau, dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor: “O roi’r newyddion ardderchog yma ochr yn ochr â phenderfyniad y Brifysgol i benodi Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac i fuddsoddi’n sylweddol yn y neuadd Gymraeg, ni fu erioed amser gwell i fyfyrwyr ddod i Fangor i astudio trwy’r Gymraeg a chael profiad cyfoethog wrth wneud hynny.”
ARIANNU DIABETES UK Mae’r elusen iechyd, Diabetes UK, wedi rhoi grant o £14,500 i Dr John Mulley o Ysgol y Gwyddorau Biolegol i gyllido ymchwil i’r gennyn Pdx2 a’i swyddogaeth mewn cynhyrchu inswlin mewn celloedd dynol. Gobeithir y bydd deall y gennyn hwn yn well yn taflu goleuni ar ffyrdd newydd i ddatblygu triniaethau i bobl yn dioddef oddi wrth glefyd siwgr.
Cydnabyddiaethau: Mae’r cyhoeddiad hwn ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion Prifysgol Bangor. Hyd eithaf ein gwybodaeth, roedd yr erthyglau sydd wedi’u hargraffu yma yn gywir adeg mynd i’r wasg. Nid yw’r safbwyntiau a fynegir yn y cylchgrawn hwn o angenraid yn eiddo i Brifysgol Bangor na’r Golygydd. Am ganiatâd i atgynhyrchu unrhyw erthygl, cysylltwch â’r Golygydd. Gwarchod Data: Cedwir data am alumni yn ddiogel a chyfrinachol yng nghronfa ddata alumni’r Brifysgol yn y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni i’r ddiben o hybu cysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol a’i chyn-fyfyrwyr. Mae’r data ar gael i adrannau academaidd a gweinyddol y Brifysgol i’r diben o hyrwyddo cysylltiadau agosach â cyn-fyfyrwyr, yn ogystal â chyda chymdeithasau cydnabyddedig y Brifysgol. Am fwy o fanylion ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni © Prifysgol Bangor 2011
www.bangor.ac.uk/news • NEWYDDION
NEWYDDION BANGORIAD Yr Athro John G. Hughes a Luna Wu, Cyfarwyddwr Swyddfa Beijing
BANGOR YN BEIJING Mae Prifysgol Bangor wedi agor yn swyddogol swyddfa yn Beijing, Tsieina. Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor, “Erbyn hyn mae Bangor yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr o Tsieina ac mae Tsieina yn cynrychioli rhan allweddol o strategaeth Bangor i recriwtio 20% o’i myfyrwyr o dramor.” Yn ystod yr un ymweliad llofnodwyd
cytundebau â Phrifysgol Shanghai, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth Tsieina a Phrifysgol Cyllid ac Economeg y De Orllewin. Meddai Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol ym Mangor, “Mae’r cytundebau yma’n dyst i olygon cynyddol ryngwladol Bangor a gobeithiwn y ceir llawer o rai tebyg iddynt yn ystod y blynyddoedd i ddod.”
CYDNABYDDIAETH RYNGWLADOL I FOOD DUDES Bydd yr Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn cael y Wobr Trosi Gwyddonol (Trosglwyddo Technoleg) gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Dadansoddiad Ymddygiadol yn ei chynhadledd flynyddol ym Mai 2012. Mae cynllun y Food Dudes, sydd wedi’i anelu at ysgolion cynradd, yn defnyddio pedwar cymeriad cartŵn sy’n bwyta’n iach ynghyd ag amrediad o ddulliau eraill o newid ymddygiad, i helpu plant i fagu hoffter o ffrwythau a llysiau, a’u hannog i’w bwyta gartref ac i ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn bwyta’n iach. “Mae project y Food Dudes yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang am y modd llwyddiannus iawn y gall wella arferion bwyta. Mae hwn yn broject gan Brifysgol Bangor a all gael effaith wirioneddol ar iechyd pobl yn y cymdeithasau hynny ym mhedwar ban byd sydd bellach yn wynebu sialens fawr o ran gordewdra” meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor.
CYFRANIAD GRADDEDIGION Mewn ymgais i gynnal a gwella’i henw da am brofiad o’r safon uchaf i fyfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi cynnig ffioedd hyfforddi o £9,000 ar gyfer myfyrwyr is-radd a TAR o Brydain a’r Undeb Ewropeaidd o 2012. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn talu dim ond y ffi gyfredol o tua £3,400 y flwyddyn. Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes “Mae Bangor wedi ymfalchïo mewn cynnig profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr erioed, ac er gwaethaf yr hinsawdd gyllidol llawn her, rydym yn hollol benderfynol o gynnal a gwella’r hyn a gynigiwn. Bwriadwn gynyddu nifer y bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, buddsoddi yn yr isadeiledd dysgu, a gwella’n darpariaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr. Rydym ni eisoes yn buddsoddi’n helaeth yn natblygiad uchelgeisiol Pontio, sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu newydd yn ogystal â theatr, lle sinema ac Undeb newydd y Myfyrwyr, a bydd y mentrau ychwanegol yma’n adeiladu ar y project cyffrous hwn.” Yng nghyd-destun y gostyngiad sylweddol mewn cefnogaeth gan y llywodraeth i brifysgolion o ganlyniad i’r newid mewn trefn ffioedd, daeth Prifysgol Bangor i’r casgliad o’i hanfodd bod angen y lefel yma o ffi er mwyn sicrhau bod profiad ei myfyrwyr yn parhau’n flaenoriaeth uchel.
PROJECT GWERTH £3.2 MILIWN I HYBU TWF ECONOMAIDD Bydd busnesau bach ac elusennau yng Nghymru ac yn yr Iwerddon yn gallu cystadlu yn well am gontractau'r sector cyhoeddus diolch i broject gwerth £3.2 miliwn sydd ar fin dechrau. Mae'r project yn defnyddio gwaith ymchwil blaenorol a wnaed gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, sydd wedi dylanwadu'n fawr ar newidiadau i gaffael cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Bydd y project 'Ennill wrth Dendro' yn canolbwyntio ar wella sgiliau tendro elusennau a Busnesau Bach a Chanolig a chael gwared ar y rhwystrau diangen y maen nhw'n eu hwynebu.
BANGORIAD HYDREF 2011 3
NEWYDDION • www.bangor.ac.uk/news
r haf yma dathlodd myfyrwraig leol, Sara Lois Roberts o Lanbedrog, nid yn unig gael Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio Cynnyrch, ond hefyd ennill Gwobr Lloyd Jones. Sefydlwyd y wobr gan Mr Lloyd Jones, dyn busnes llwyddiannus o Ogledd America, a’i nod yw hybu a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg myfyrwyr Prifysgol Bangor. Ar gyfer ei phroject terfynol, fe wnaeth Sara ddylunio a chynhyrchu gemwaith sy'n amlygu gwahanol emosiynau. Yn awr bydd Sara’n ymestyn ei phrofiadau yn y diwydiant gemwaith drwy ddatblygu ei nwyddau i’w gwerthu, ac mae’n gobeithio cael swydd yn dylunio a chynhyrchu gemwaith neu sefydlu ei chwmni ei hun. Myfyriwr arall a dderbyniodd Wobr Lloyd Jones oedd Shem ap Geraint o Fachynlleth. Fe wnaeth ef ddylunio fersiwn fodern o’r cylch achub bywyd, y gellir ei daflu’n llawer pellach na chylchau presennol. Cafodd Shem y syniad o ddylunio cylch o’r fath yn dilyn cyfnodau’n gweithio mewn harbwrs a chyda'r RNLI. Yn ogystal, cyflwynodd Shem ei syniad yn gystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd gan Santander yn y Brifysgol. Cafodd myfyrwyr yn astudio ystod eang o bynciau’r dasg gan y tîm Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Y
MYFYRWYR DYLUNIO CYNNYRCH YN RHAGORI a Chyflogadwyedd o lunio syniad busnes arloesol i’w gyflwyno i banel o feirniaid. Mewn cystadleuaeth galed daeth Shem yn
DIGWYDDIAD BUSNES O AMGYLCH CYMRU SEACAMS Fe wnaeth Ehangu Cynaliadwy'r Sectorau Arfordirol a Môr Cymhwysol (SEACAMS), sy’n broject uchelgeisiol i gefnogi ystod lawn o ddiwydiannau'n ymwneud â'r arfordir a'r môr, hwylio o amgylch Cymru ym Mehefin i hyrwyddo ei wasanaethau i fusnesau. Bwriad y project SEACAMS, a gynhelir ar y cyd gan Brifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe, yw cefnogi busnesau arfordirol a môr yng Nghymru trwy gydweithio rhwng academyddion, unigolion a mentrau er mwyn hyrwyddo cynlluniau ymchwil ac astudiaethau dichonoldeb. Fe wnaeth yr ‘Achlysur Busnes o Amgylch Cymru’ roi sylw sylweddol i broject cyffrous ac uchelgeisiol SEACAMS a phwysigrwydd busnesau morwrol cynaliadwy i ddyfodol economaidd Cymru.
SEICOLEG DEFNYDDWYR YN Y GWEITHLE Mae un o raddedigion diweddar Bangor wedi chwarae rhan allweddol yn ennill dwy wobr fusnes genedlaethol bwysig i’w gyflogwr newydd. Clywodd Paul Dazeley am swydd yn mynd yn Ella’s Kitchen, cwmni’n cynhyrchu bwyd organig i fabanod, pan oedd yn gorffen ei MSc mewn Seicoleg Defnyddwyr a Busnes ym Mangor. Fe wnaeth Dr James Intriligator, pennaeth y rhaglen MSc, awgrymu i Paul gynllunio ymchwil wreiddiol yn arbennig ar gyfer Ella’s Kitchen, i arddangos ei sgiliau unigryw newydd. Fe wnaeth astudiaeth Paul o safbwyntiau cwsmeriaid ynghylch gwefannau gwneuthurwyr bwyd babanod gymaint o argraff ar Ella’s Kitchen fel iddynt gynnig swydd iddo’n syth. Cynorthwyodd Paul y cwmni yn eu cais am yr IGD Food Industry Awards a arweiniodd at iddynt ennill Gwobr General Mills am Ddeall Cwsmeriaid. Hefyd enillodd
4 BANGORIAD HYDREF 2011
Ella’s Kitchn y wobr Blackberry Customer Focus i fusnesau bychain yn y Gwobrau Busnes Cenedlaethol. “Mae cwmnïau’n dechrau gweld sut y gall seicoleg defnyddwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r farchnad. O ganlyniad, mae galw mawr am raddedigion o’n rhaglen,” meddai Dr Intriligator.
Paul Dazeley
(C-D) Sara Lois Roberts, Shem ap Geraint a Dewi Rowlands
fuddugol yn y dosbarth i israddedigion ac enillodd wobr o £200.
CYN-FYFYRIWR YN CWBLHAU TAITH EPIG Mae myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Bangor, Carl James o Swydd Buckingham, newydd gwblhau taith o 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica mewn ymgais i godi £10,000 ar gyfer dwy elusen, Link Ethiopia ac Alzheimer’s Research Trust. Fe wnaeth Carl, a raddiodd o Fangor gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon yn 2009, benderfynu cychwyn ar y daith gyda ffrind ysgol, a aeth ag ef drwy 40 o wledydd mewn 11 mis, gan ei fod am gael her newydd ar ôl graddio. I ddarllen y cyfan am eu hantur, ac i roi arian i’r elusennau, ewch i’w gwefan: www.tohelandback.org.uk
AMGYLCHEDD “DOSBARTH CYNTAF” Yn dilyn archwiliad annibynnol trylwyr o’i pholisïau a’i dulliau gweithredu, mae’r Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sydd yn dipyn o gamp. Mae hyn yn adeiladu ar y Lefel 3 y mae’r Brifysgol wedi llwyddo i’w chyrraedd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal â chyflawni’r gamp aruthrol hon, mae’r Brifysgol hefyd wedi cadw’i safle ‘Gradd Dosbarth Cyntaf’ yn y People & Planet's Green League 2011.
www.bangor.ac.uk/news • NEWYDDION
ANRHYDEDDU GOREUON CYMRU A BANGOR Graddiodd dros ddwy fil o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf ac yn eu mysg oedd rhai unigolion a dderbyniodd cymrodoriaethau er anrhydedd. Cymrodyr er Anrhydedd 2011 yw: 1 Paul Feeney Am wasanaeth i’r diwydiant gwasanaethau ariannol: Cyn-fyfyriwr ym Mangor a strategydd buddsoddi rhyngwladol blaenllaw gyda BNY Mellon Asset Management.
1
2 Julian Lewis Jones Am wasanaeth i ddrama: Actor ffilm a theledu a aned ar Ynys Môn. Mae wedi actio yn ffilm 2009 Clint Eastwood, Invictus, ac mewn amryw o ddramâu teledu, yn cynnwys The Bill, Casualty, Holby City a Spooks. 3 John Herbert, Iarll Powis Am wasanaeth i ysgoloriaeth ac astudiaethau llenyddol: Yn gyn-ddarlithydd ac ymchwilydd prifysgol, mae wedi gweithio’n helaeth gydag
2
3
4
5
6
GWOBR ALUMNI Y FLWYDDYN Mae'r Brifysgol yn cyflwyno Gwobr Alumni y Flwyddyn i gyn-fyfyriwr Bangor sydd wedi cael cyflawniadau penodol o deilyngdod neu ragoriaeth yn y sectorau cyhoeddus neu breifat, yng Nghymru, rhannau eraill o'r DU neu'n rhyngwladol. Bydd y Panel Dethol yn ystyried enwebiadau gan gyn-fyfyrwyr sy’n gallu dangos: 1 Llwyddiant proffesiynol o deilyngdod arbennig 2 Gwaith gwirfoddol neu ddyngarol o
academyddion yn Ysgol y Saesneg y Brifysgol. 4 Yr Athro Laura McAllister Am wasanaeth i chwaraeon mewn addysg uwch: Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl ac awdurdod blaenllaw ar wleidyddiaeth Cymru, mae Laura hefyd yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol i Gymru ac yn Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru. 5 Yr Athro Gwyn Thomas Am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru: Cyn-fyfyriwr ym Mangor, cyn Athro Cymraeg yn y Brifysgol, bardd a beirniad llenyddol a Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2006 -7. 6 Duffy Am wasanaeth i gerddoriaeth: Cantores wedi ei geni a’i magu yn Nefyn, Gwynedd. Aeth ei albwm cyntaf Rockferry i rif un yn siartiau albwm y DU yn 2008 gan werthu 1.7 miliwn o gopïau. 7 Rhys Jones, MBE Am wasanaeth i gerddoriaeth a’r gymuned: athro, arweinydd, cyfeilydd a darlledwr.
werth sylweddol 3 Canmoliaeth gwroldeb 4 Gwaith sy'n unigryw neu arbennig o nodedig 5 Cyflawniadau o bwys cenedlaethol neu ryngwladol 6 Gwaith sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i fywydau pobl eraill Dylid cyflwyno enwebiadau gyda datganiad ategol erbyn 31 Mawrth 2012 i Bethan Perkins yn: alumni@bangor.ac.uk neu ffôn: +44 (0) 1248 388 332
RÔL BREUDDWYD GYDA LANDROVER Dechreuodd un o raddedigion Bangor, sydd wrth ei fodd gyda Landrover, mewn swydd gyda’r cwmni’r haf yma. Meddai Robin Boyd, sydd â gradd Meistr mewn Peirianneg Electronig, “Mae fy ngradd wedi fy helpu i feddwl fel peiriannydd, sy’n golygu fy mod i rwan yn meddwl am broblemau a mynd i’r afael â hwy mewn ffordd gwbl wahanol i’r adeg pan ddechreuais ar fy ngradd. Mae astudio Peirianneg ym Mangor yn fwy na gradd... mae’n gyflwr meddwl hefyd!” Ychwanegodd Robin, “Rydw i’n gweithio yno fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch ac felly yn ymwneud ag ymchwil, datblygu a phrofi’r cerbydau diweddaraf. Nid yn unig byddaf yn cael cyfle i ddefnyddio fy ngradd, ond hefyd fe gaf y pleser o wneud un o’m hoff bethau – ymhél â cherbydau Landrover!” Tra ym Mangor, bu Robin hefyd yn ymwneud â’r gystadleuaeth Menter trwy Ddylunio, lle roedd yn rhan o dîm o fyfyrwyr a gafodd y dasg o ddylunio a marchnata cynnyrch newydd. Tîm Robin a enillodd y gystadleuaeth yn y pen draw.
7
GWOBRWYO STAFF PRIFYSGOL BANGOR Mae pedwar unigolyn sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor yn ymddangos ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni. Derbyniodd yr Athro R. Merfyn Jones, cyn Is-Ganghellor y Brifysgol, CBE am ei wasanaeth i addysg uwch yng Nghymru a bydd yr Athro Judy Hutchings o’r Ysgol Seicoleg a chanolfan Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yn derbyn OBE am ei gwasanaethau i blant a theuluoedd. Bydd yr Athro Robert Edwards, a raddiodd o Fangor mewn sŵoleg ym 1951 ac a aeth ymlaen i arloesi ym maes IVF (in-vitro fertilisation), yn cael ei wneud yn Farchog am ei wasanaeth i fioleg atgynhyrchiol ddynol. Mae Dr Dewi Roberts, sydd yn gwasanaethu ar Gyngor y Brifysgol, hefyd i’w longyfarch. Bydd Dr Roberts yn derbyn MBE am ei wasanaethau i gymuned gogledd Cymru trwy ei waith fel cadeirydd Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru.
BANGORIAD HYDREF 2011 5
ERTHYGLAU Llun dyfrlliw o’r Hen Goleg c. 1945
BYWYD NORMAL Os buoch yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, bydd y llyfr newydd Bywyd Normal, a luniwyd gan Dr. Tudor Ellis (un o alumni Prifysgol Bangor), yn sicr o fod at eich dant. n ei ragymadrodd i’r gyfrol mae Dr. Gareth Roberts, Prifathro olaf y Normal, yn amlinellu hanes sefydlu’r Coleg yn 1858 a’i ddatblygiad dros y blynyddoedd cyn iddo integreddio gyda Choleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1996. Nodir y cerrig milltir pwysig yn hanes y Coleg yn ogystal â’r berthynas sigledig achlysurol rhwng y Normal a Choleg y Brifysgol. Yng nghorff y llyfr, mae Dr. Tudor Ellis yn tynnu ar amrywiol ffynonellau, gan gynnwys hunangofiannau a stôr o lythyrau a lluniau a ddanfonwyd gan gyn-fyfyrwyr yn croniclo eu hatgofion o’u dyddiau coleg. Ffynhonnell ysgrifenedig arall o bwys oedd cylchgrawn y Coleg, Y Normalydd, a gyhoeddwyd yn ddi-dor gan y myfyrwyr o 1896 tan 1972. Llwyddodd yr awdur hefyd i ychwanegu at ei wybodaeth trwy gyfweld nifer o gyn-fyfyrwyr. Mae’r gyfrol yn cyfleu profiadau myfyrwyr ar wahanol adegau yn hanes y Coleg. Cyn 1910, dynion yn unig oedd yn ei fynychu. O 1910 ymlaen roedd merched hefyd yn cael eu derbyn, ond, tan ddiwedd y 1950au, roedd y merched a’r dynion yn cael eu cadw ar wahân, mewn theori beth bynnag! Ar y cychwyn, Saesneg oedd y cyfrwng dysgu, ond, o ganol y 1950au ymlaen, gwnaed camau breision i ddefnyddio’r Gymraeg hefyd. Yn y cyfnod olaf hwn codwyd adeiladau newydd ac ehangwyd yn sylweddol ar nifer a natur y cyrsiau, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau gradd galwedigaethol yn ogystal â’r cyrsiau hyfforddi athrawon mwy traddodiadol. Mae’r gyfrol yn dilyn nifer o themâu penodol sy’n olrhain profiadau myfyrwyr: yn yr ystafell ddarlithio ac ar ‘ymarfer dysgu’; yn y neuaddau preswyl; yn eu bywyd diwylliannol
Y
Myfyrwyr Neuadd Seiriol Mai 1986
6 BANGORIAD HYDREF 2011
a chrefyddol; ac yn y gornestau ar y meysydd chwarae. Ydych chi'n cofio souvenir nights, blind dates, serenêdio, dawnsio yn Jimmy's, y Steddfod Coleg, Nosweithiau Llawen, y Woolie Cup a’r Hymphs Cup? Trafodir hefyd adegau penodol o densiwn a gwrthdaro rhwng y myfyrwyr ac awdurdodau'r Coleg, gan gynnwys streic 1890, achos Sheila Davies yn 1953 wrth iddi arwain ymgyrch i geisio llacio rheolau’r Coleg a saga’r Ystafelloedd Agored yn y 1960au. Fel hyn y mae un o gyn-fyfyrwyr y Coleg, y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, yn costrelu sut y bu i’r Normal ennill lle cynnes yng nghalonnau cenedlaethau o fyfyrwyr:
Hen fan dysg ar fin y don – a’i furiau’n Diferu atgofion O’r oriau lleddf a’r rhai llon – Hen goleg yn y galon. Côr Madrigal 1957-59 gyda Ryan Davies ar y blaen
Argraffwyd Bywyd Normal gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon. Mae ar werth trwy siopau lleol am £12.99, ISBN 978-1-907424-18-2. Bwriedir cyhoeddi addasiad Saesneg maes o law dan y teitl Back to Normal.
Y Côr Merched ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd 1995 dan arweinydd Delyth Rees
ae Archif Coleg Normal yn cynnwys eitemau amrywiol a gyflwynwyd gan gyn-fyfyrwyr a chyn-staff – yn ddogfennau, yn lluniau, yn atgofion ac yn femorabilia niferus. Croesewir ychwanegiadau at yr archif, naill ai ar ffurf rhoddion i’w cadw neu ar ffurf benthyciadau i’w copïo neu eu sganio a’u dychwelyd. Hyd yma mae dros gant a hanner o roddion wedi’u derbyn. Am ragor o wybodaeth, gellir cysylltu gyda cheidwad yr archif, Gareth Roberts, d/o Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor LL57 2PZ neu ebost: h.g.f.roberts@bangor.ac.uk
M
ERTHYGLAU
YMCHWIL CANSER YM MANGOR: Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin
efydlwyd Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn 2004 gyda chefnogaeth Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, Prifysgol Bangor a Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r sefydliad wedi ei leoli mewn labordai newydd yn Adeilad Brambell yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol. Mae ymchwilwyr y sefydliad yn defnyddio amrywiaeth o systemau model a thechnolegau blaengar i ymchwilio i amrywiol agweddau ar garsinogenesis, diagnosteg a thriniaeth canser. Mae grwpiau ymchwil Dr. Jane Wakeman a Dr. Ramsay McFarlane yn defnyddio llinellau celloedd i ymchwilio i ddatblygiad a metastasis tiwmorau ac i nodi marcwyr canser newydd y gellir eu defnyddio i roi diagnosis a thrin canser. Mae grwp ˆ Dr. Edgar Hartsuiker yn nodi ac yn nodweddu mecanweithiau newydd sy’n darparu’r gallu i wrthsefyll cyffuriau canser sy’n niweidiol i DNA. Mae gan Dr. David Pryce ddiddordeb ym
S
maes datblygu technolegau newydd ar gyfer ymchwil a diagnosteg canser. Un o’u hamcanion yw trosglwyddo canfyddiadau yr ymchwil i’r maes clinigol er mwyn gwella triniaeth i gleifion sydd â chanser. I’r perwyl hwnnw, maen nhw yn cydweithio’n gynyddol gyda’r Athro Nick Stuart (Oncolegydd Ymgynghorol/Athro Astudiaethau Canser) ac arbenigwyr canser eraill yn y GIG yng ngogledd Cymru. Dros y blynyddoedd, mae’r sefydliad wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion gwyddonol gyda phroffil uchel a denu cyllid o amrywiol ffynonellau. Mae Dr Hartsuiker, cadeirydd y sefydliad, yn egluro: "Rydym yn parhau i ddenu cyllid ymchwil yn llwyddiannus. Yn y blynyddoedd diweddar, mae aelodau ein sefydliad wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid gan y GIG, Llywodraeth y Cynulliad, Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd
Orllewin ac amrywiol elusennau ymchwil canser eraill. Yn sgil cais llwyddiannus i Lywodraeth y Cynulliad a Chronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, rydym wedi penodi arweinydd grwp ˆ ymchwil arall yn ddiweddar. Er gwaetha sefyllfa ariannol sy’n gynyddol anodd, rydym wedi gallu datblygu ein gallu i wneud ymchwil arloesol i ganser ym Mhrifysgol Bangor.”
r mwyn gallu mynd ymhellach gyda’n hymchwil rydym angen buddsoddi yn y cyfarpar, y dechnoleg a’r arbenigedd diweddaraf yn gyson. Os hoffech gefnogi ein hymchwil trwy rodd neu weithgaredd codi arian, neu os hoffech drafod ffyrdd o’n cefnogi, cysylltwch â Dr Edgar Hartsuiker: e.hartsuiker@bangor.ac.uk
E
BANGORIAD HYDREF 2011 7
ERTHYGLAU
PROFFILIAU ALUMNI Pan adawodd Nasera Hamdan Baghdad i astudio ei gradd hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor yn 1977, nid oedd hi’n gwybod sut y byddai’n siapio a dylanwadu ar weddill ei bywyd.
“Rydym yn teimlo fod Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan fawr ddylanwadol o’n bywydau”
Treborth Orchid House
Nasera a Kareem
ae Nasera’n cofio cyrraedd Bangor am y tro cyntaf a byw yn ei neuadd breswyl ym Mryn Kynallt ar Lôn Pobty “Roeddwn i’n nerfus iawn, ond ar ôl i mi gyrraedd Bangor, roeddwn i’n caru popeth am y lle. Roeddwn i’n caru’r môr, y mynyddoedd, y pier, ac wrth gwrs ro’n i’n caru’r awyrgylch academaidd sydd gan Fangor. Roedd pawb mor gyfeillgar a chroesawus, ac mi wnes i lawer o ffrindiau yma.” Roedd Kareem Majid Al-Zubaidi yn fyfyriwr Iracaidd ym Mhrifysgol Bangor yn astudio am ei PhD Biocemeg. Yn wreiddiol roedd eisiau astudio ei PhD yn yr Unol Daleithiau, ond mi ailfeddyliodd ynghylch hyn pan gafodd gynnig astudio PhD ym Mangor gan Dr J. Islwyn Davies; penderfyniad a newidiodd ei fywyd, “Petawn i heb fynd i Fangor, fyddai fy mywyd yn wahanol iawn heddiw. Oherwydd Bangor mi wnes i gyfarfod fy ngwraig ac mi gawsom dair merch brydferth. Hefyd, mi wnaeth fy ngalluogi i gael yr yrfa ro’n i eisiau, ac alla’ i ddim diolch digon i’r Brifysgol.” Priododd y ddau ac fe gafodd Nasera ei gradd yn 1980. Ychydig o flynyddoedd wedyn ar ôl i Kareem orffen ei PhD, bu iddyn nhw deithio’n ôl i’w wlad frodorol lle bu iddynt fagu tair merch, Noor, Thuraya a Hanaan. Am dros ugain mlynedd gweithiodd Nasera a Kareem ym Mhrifysgol Baghdad, lle darlithiodd Nasera mewn Bancio, Rheolaeth ac Yswiriant, a lle’r oedd Kareem yn uwch ddarlithydd Biocemeg.
M
8 BANGORIAD HYDREF 2011
Daeth Prifysgol Bangor yn ôl i mewn i’w bywydau yn 2004, pan fu i'r Athro Deri Tomos o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol gynnig swydd ymchwil sabothol i Kareem am flwyddyn. Oherwydd y cynnydd mewn trafferth yn Irac, a chyswllt y ddau gyda’r Brifysgol, penderfynodd y teulu symud yn ôl i Fangor - a dydyn nhw byth wedi gadael! Roedd yn ddechrau newydd y bydd y cwpl yn
Noor
Hanaan
ddiolchgar amdano am byth, “Fedra’i ddim diolch digon i’r Brifysgol. Ar y diwrnod y cyrhaeddodd Kareem faes awyr Heathrow, gyrrodd Dr Davies a’i wraig yr holl ffordd i’w nôl, a dod ag ef yn ôl i Fangor. A phan bu i’r gweddill ohonom gyrraedd Manceinion, bu iddyn nhw ein cyfarfod ni yna a dod â ni nôl i Fangor hefyd. Mae fy niolch iddynt yn ddiffuant
am yr hyn a wnaethant i ni. Mae’n rhywbeth fydda’i byth yn ei anghofio, ac mae’n dangos haelioni a chyfeillgarwch Prifysgol Bangor.” Mae’r cyswllt rhwng y teulu a’r Brifysgol hyd yn oed fwy cadarn erbyn hyn, diolch i’r tair merch sydd hefyd wedi graddio o’r Brifysgol efo graddau mewn Gwyddor Fiofeddygol (Hanaan a Thuraya) a gradd Feistr mewn Cyfrifiadureg (Noor). Mae’r tair yn dal i fyw ym Mangor, tra bod Noor yn cadw cysylltiad y teulu efo’r Brifysgol, trwy weithio i’r Gofrestrfa Academaidd. Heddiw, mae Kareem wedi ymddeol ac mae gan Nasera amser i ganolbwyntio ar ei chelf, gan ddefnyddio paent acrylig a chyfryngau cymysg, ac mae hi’n cael ei “hysbrydoli gan leoliad unigryw a phrydferth Bangor a’r ardal o’i chwmpas”. Mae’r ddau’n teimlo bod
Thuraya
Cysylltiadau Alumni yn bwysig ac maen nhw wedi mynychu sawl aduniad lle maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a chydalumni o bob rhan o’r byd. “Rydyn ni’n teimlo bod Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan fawr ddylanwadol o’n bywydau” meddai Nasera - a pwy sy’n gallu dadlau efo hynny?
ERTHYGLAU
Phil Nelson
Mae GO Wales yn helpu myfyrwyr a graddedigion i gael y dechrau gorau posibl i'w gyrfaoedd yng Nghymru drwy brofiad gwaith o ansawdd uchel a gwasanaethau cefnogi a datblygu ymarferol eraill.
Daeth Phil Nelson i Fangor yn 1991 i astudio Gwyddor Chwaraeon ac mae wedi cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol ers hynny. euthum i Fangor yn syml oherwydd ei hagosrwydd at y mynyddoedd a’r arfordir. Nid oes unman arall ym Mhrydain lle mae amgylchedd mor amrywiol a thrawiadol ar gael mor hwylus. Wnes i erioed gymryd llawer o ddiddordeb mewn addysg yn yr ysgol a gadewais gydag ychydig o lefelau O ond dim lefelau A. Roeddwn wedi dechrau gyrfa yn yr awyr agored fel hyfforddwr ond, ar ôl sgwrs gyda ffrind, penderfynais y gallai gwneud gradd fod yn beth da ar gyfer y tymor hir. Ar y pryd, roedd gan Fangor enw da am gymryd nifer o fyfyrwyr hˆyn a chefais fy nerbyn ar gwrs Gwyddor Chwaraeon yn dilyn cyfweliad lle llwyddais, diolch i'r drefn, i roi tipyn o frawddegau dealladwy wrth ei gilydd. Roedd yr adran Gwyddor Chwaraeon yn lle da i ddysgu a gwelais yn fuan fod gen i feddwl llawer mwy ymchwilgar nag yr oeddwn wedi sylweddoli erioed. Ar ôl graddio yn 1994 penderfynais aros yn yr ardal a gweithiais ym Mhlas Menai, y Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon D wr, ˆ am ychydig flynyddoedd. Arweiniodd hyn at gyfle i weithio fel ymgynghorydd hyfforddiant rheoli yn cynnal ‘rhaglenni newid diwylliannol’ i gwmnïau ar hyd a lled y byd. Fodd bynnag, penderfynais ddal i fyw yng ngogledd Cymru fel y gallwn dreulio penwythnosau a gwyliau yn yr amgylchedd roeddwn mor hoff ohono. Yn 2000 fe wnaeth fy ngradd fy ysbrydoli i
“D
sefydlu canolfan weithgareddau ddibreswyl yn Llanberis gyda chyd gyn-fyfyriwr o S.H.A.P.E. Ychydig flynyddoedd ar ôl dechrau’r busnes gofynnodd ein hen adran i ni gyflwyno Modiwlau Chwaraeon Dwr ˆ eu gradd newydd Gwyddor Chwaraeon gyda Gweithgareddau Awyr Agored, gwaith rydym yn dal i’w wneud hyd heddiw. Tra bo fy mhartner busnes yn awr wedi symud ymlaen, mae’r berthynas â’r Brifysgol yn dal i dyfu. Rydym yn cymryd myfyrwyr yn rheolaidd drwy’r rhaglen GoWales, sydd wedi arwain at gyflogaeth lawn-amser (mae 75% o’r staff yn gyn-fyfyrwyr Bangor). Rwyf i newydd gwblhau gradd ran-amser MBA Uwch yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol, ac mae un aelod staff ar fin dechrau gradd Meistr mewn Marchnata a Busnes. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda’r adran Gwyddor Chwaraeon ac eleni rydym yn noddi myfyriwr PhD drwy broject KESS sy’n edrych ar ‘reoli emosiwn mewn chwaraeon risg uchel’. Unwaith eto mae fy astudiaethau wedi arwain at ddatblygiad busnes pellach gan fy mod yn troi traethawd hir fy ngradd meistr yn fenter newydd. Yn ddiweddar fe wnaethom lansio ‘Adventure Gym @ Surf-Lines’, sy’n ffordd newydd a chyffrous i brofi, mwynhau ac elwa ar fanteision iechyd bod yn yr awyr agored. Oherwydd yr amgylchedd y deuthum i ogledd Cymru i ddechrau ac rwyf eisiau cael cymaint â phosibl o bobl i fwynhau’r fan ryfeddol hon gymaint â minnau.”
Maen nhw’n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd: • Lleoliadau Gwaith yw prif gynllun profiad gwaith Cymru. Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a graddedigion gael profiad gwaith o ansawdd uchel yng Nghymru mewn maes yn ymwneud â’u gradd. • Blasu Gwaith yw cyfnodau byrion o brofiad gwaith di-dâl gyda’r bwriad o’ch helpu i benderfynu pa yrfa sydd orau i chi. Mae blasu gwaith yn hyblyg iawn, yn amrywio o ddilyn hynt rhywun wrth ei waith am ddiwrnod i ddeg diwrnod o brofiad ymarferol gyda sefydliad. • Mae’r Gronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion ar gael i raddedigion sy’n gweithio mewn busnesau bychain yng Nghymru. Mae’r gronfa (gwerth hyd at £1,500 y pen) yn helpu graddedigion i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach ac, yr un pryd, helpu cyflogwyr i lenwi bylchau sgiliau yn eu sefydliad. Os yw eich sefydliad yn ystyried recriwtio myfyriwr neu rywun wedi graddio, gall GO Wales gynnig cymhorthdal o hyd at £95 yr wythnos at gostau lleoliad, yn ogystal â chefnogi eich sefydliad gyda recriwtio am ddim, sgrinio ymgeiswyr a chefnogi’r ymgeisydd tra bydd ar leoliad. Gallwn eich helpu hefyd i godi proffil eich sefydliad ym Mhrifysgol Bangor. I gael gwybodaeth bellach am unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn, cysylltwch â swyddfa GO Wales ym Mangor ar +44 (0) 1248 383586 neu e-bost: gowales@bangor.ac.uk ‘GO Wales Bangor’
BANGORIAD HYDREF 2011 9
DIGWYDDIADAU • www.bangor.ac.uk/alumni/reunionevents
DIGWYDDIADAU ALUMNI DATBLYGIADAU PONTIO Mae’r gwaith galluogi yn symud ymlaen yn dda ar safle Pontio gyda phrif gontractwr i’w gyhoeddi fis Rhagfyr, a’r gwaith adeiladu i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd. Yn y cyfamser, mae rhaglen Cerrig y Rhyd hydrefol Pontio yn cynnwys digwyddiadau celfyddydol bywiog ym Mangor a’r cyffiniau wrth arwain at agoriad Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd yn 2013. Yn ogystal â nosweithiau cabaret eclectig a sinema wedi’i raglennu ar gyfer y gymuned, byddwn yn dod â dramâu cyffrous i chi gan gwmnïau theatr adnabyddus, gweithdy Capoeira a phantomeim Nadolig gwych. Os hoffech ymuno â rhestr bostio Pontio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, e-bostiwch: info@pontio.co.uk gyda’r gair 'tanysgrifio' yn y maes pwnc. www.pontio.co.uk
DERBYNIAD FFARWELIO Â MYFYRWYR RHYNGWLADOL Fis diwethaf daeth 150 o fyfyrwyr ôl-radd rhyngwladol a’u gwesteion i Dderbyniad Ffarwelio â Myfyrwyr Rhyngwladol, ar achlysur cwblhau eu cyrsiau. Diolchwyd i’r myfyrwyr gan yr Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu a Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol. Cawsant eu diddanu gan berfformiad o ddawns Indiaidd gan myfyriwr Shanti Shanker.
EISTEDDFOD 2011 Ymwelodd dros 150 o alumni a staff â phabell y Brifysgol ar gyfer aduniad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam eleni. Roedd yr aduniad yn cynnwys lansio’r gyfrol Bywyd Normal (gweler tudalen 6) a mwynhaodd yr alumni adloniant cerddorol gan Cyffred, grŵp o gantorion a fu’n gyn-fyfyrwyr yn y Coleg Normal. Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd darlithoedd, lansio llyfrau a diwrnod o weithgareddau gan yr Ysgol Cerddoriaeth hefyd yn y babell.
ADUNIAD Y 1980au Fis diwethaf, croesawodd Prifysgol Bangor alumni o’r 1980au, a’u gwesteion, yn ôl ar gyfer aduniad eu degawd. Mwynhaodd yr alumni ginio’r aduniad, gyda’r Is-Ganghellor yn bresennol. Yna cafwyd disgo gyda cherddoriaeth o’r 80au, a chafodd yr alumni wybod hefyd am y digwyddiadau diweddaraf yn y Brifysgol gan ein staff academaidd – llawer ohonynt yn alumni’r 80au eu hunain.
Cyffred
I weld mwy o luniau o’r aduniad, ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni/reunionevents
10 BANGORIAD HYDREF 2011
www.bangor.ac.uk/alumni/reunionevents • DIGWYDDIADAU
BANGOR YN YR UNOL DALEITHIAU Cynhaliodd Prifysgol Bangor ddigwyddiadau ar draws yr Unol Daleithiau yn 2011. Ym Mawrth cynhaliodd Yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor, ginio i alumni a chyfeillion yn Efrog Newydd a chyfarfu aelodau o’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ag alumni yn Vancouver, Boston, Seattle, Victoria, San Francisco a Los Angeles yn yr haf.
CERDDORIAETH YM MANGOR Cyfres gyngherddau Prifysgol Bangor, Cerddoriaeth ym Mangor, yw cyfres gyngherddau amlycaf gogledd-orllewin Cymru. Fe wnaeth Pennaeth Perfformio newydd yr Ysgol Cerddoriaeth, Xenia Pestova, roi ei chyngerdd cyntaf yn y gyfres Cerddoriaeth ym Mangor fis diwethaf. Yn y datganiad, a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, fe wnaeth Xenia, sy’n wreiddiol o Rwsia, berfformio gweithiau clasurol Ffrengig i’r piano gan Ravel a Messiaen, yn ogystal â cherddoriaeth newydd ar gyfer piano ac offerynnau electronig. I weld rhestr gyngherddau’r tymor newydd, ewch i: www.bangor.ac.uk/concerts neu e-bostio: concerts@bangor.ac.uk
DYDDIADAU I’W COFIO 2012: • Gŵyl Wyddoniaeth Bangor 9-18 Mawrth Am fanylion pellach ewch i: www.bangor.ac.uk/bangorscience festival • Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 4 – 11 Awst Cynhelir aduniad anffurfiol i alumni ym mhabell y Brifysgol ar 8 Awst o 2.30-4pm • Aduniad Chwaraeon Diwedd y 60au/dechrau’r 70au Bangor 31 Awst - 1 Medi Cyswllt: Foster Edwards: boyersorchard35@btinternet.com neu Barry Evans: barry.evans47@ntlworld.com • Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr Cyswllt: ella.owens@btinternet.com
HEN FECHGYN BANGOR ae penwythnos Gŵyl y Banc gyntaf Mai wedi ennill ei phlwyf ers tro fel penwythnos Hen Fechgyn Bangor, lle mae alumni’n dychwelyd i Fangor am benwythnos o gymdeithasu â’i gilydd a gweld a allant barhau i fedru disgleirio ar y cae chwarae! Cynhelir penwythnos 2012 yr Hen Fechgyn ar 5-6 Mai a hoffai’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ehangu gweithgareddau’r penwythnos. Felly, rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw awgrymiadau sut y gallwn wneud penwythnos yr Hen Fechgyn hyd yn oed yn fwy a llawnach. Rhowch wybod i ni am unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu cynllunio hefyd, fel y gallwn eich helpu i wneud y gorau o’ch penwythnos. Yma, mae dau o’n alumni’n dweud wrthym pam eu bod yn dal i ddod yn ôl.
M
“Fe wnes i gyfarfod â Laura, fy ngwraig, ym Mangor ac mae’r cysylltiadau mor glos ag erioed. Dim ond un penwythnos Hen Fechgyn dwi wedi’i cholli mewn 29 mlynedd ac roedd llawer o’r alumni dwi’n eu gweld eisoes yn Hen Fechgyn pan nad oeddwn i ond yn fyfyriwr. Mae cyfeillgarwch oes wedi datblygu rhwng ein plant hefyd ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod draw i’r hyn a ystyrir yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Eleni, fe wnes i gyfarfod â nifer o enethod a adawodd rhyw 6 neu 7 mlynedd yn ôl – maen nhw wedi bod yn dychwelyd bob blwyddyn ers hynny ac yn llwyr fwriadu dal ati i ddod yn ôl. Hefyd gwelais fyfyrwyr blwyddyn olaf sy’n benderfynol o barhau’r traddodiad. Yr ymdeimlad cyffredin yw ‘bod Bangor yn gwneud rhywbeth i chi’. Mae’n gyfuniad o’r lleoliad, y bobl, y cwlwm cyffredin, y tyfu i fyny, yr atgofion, yr hwyl a’r chwerthin... gallwn fynd ymlaen yn hir. Yr hyn sy’n sicr yw bod angen llawer iawn i’m cadw i draw. Fedra i ddim dweud y byddaf yn dal ati i redeg allan ar y cae rygbi yn 51 oed ond, cyn hired ag y gallaf ddal i redeg byddaf yno efo fy nillad! Os oes na gyfoedion allan yna, pam na wnewch chithau roi cynnig arni?” Tim Clay BSc (Anrhydedd) Bioleg Môr ac Eigioneg 1979-1982
“Cymysgedd o bererindod (tebyg i Lourdes, ond bod y dŵr yn dod mewn gwydr peint), adnewyddiad ysbrydol a phenwythnos o hwyl a sbri. Dyna ydi Penwythnos Hen Fechgyn Bangor i mi a bob mis Ionawr byddaf yn ei nodi’n ddeddfol yn fy nyddiadur newydd. Dwi’n meddwl i mi golli tua thair ers i mi adael ...ond dwi’n cydnabod ar bapur nad ydi 'Cookie' wedi colli ‘run! Am le gwych i dreulio penwythnos! Sir Fôn, yr olygfa i lawr y Fenai o’r bont, y mynyddoedd, ond pam mynd yn ôl bob blwyddyn? Mae’r ateb yn hawdd – cefais ddigonedd o hwyl tra oeddwn yn astudio yno ac mae Penwythnos yr Hen Fechgyn yn estyniad o’r hwyl hwnnw. Bydd atgofion yn llifo’n ôl: yr hiwmor crafog, diod, bwyd, mwy o ddiod ond, hefyd, cyfle i ystyried beth sydd wedi dod ohonom ers hynny. Yn fwy na dim, mae fy hen ffrindiau’n fy atgoffa mai rhif yn unig ydi oedran ... er bod fy nghorff yn tynnu’n groes pan fyddaf yn ceisio rhoi tro o amgylch y cae rygbi. Ond mae’r cwestiwn “wyt ti wedi dŵad a dy ddillad?" yn dal yn her a hir y parhao felly.” Ged Bailes BA (Anrhydedd) Seicoleg a TAR, 1974-1978
BANGORIAD HYDREF 2011 11
RHOI I FANGOR • www.bangor.ac.uk/giving
RHOI I FANGOR CRONFA BANGOR afwyd ymateb rhagorol gan alumni’r Brifysgol, staff, aelodau’r Cyngor a Chymrodyr er Anrhydedd i’r ceisiadau am roddion i Gronfa Bangor, a adwaenid gynt fel Y Gronfa Flynyddol. Yn ystod y flwyddyn addawyd £155,000, yn bennaf trwy ein hymgyrch telethon a gynhelir dwywaith y flwyddyn. Diolch o galon i’n holl gyfranwyr caredig. Dyma’r pedwar cynllun a gefnogir gan Gronfa Bangor:
C
CEFNOGI MYFYRWYR Mae rhoddion i’r gronfa hon yn darparu ystod eang o gymorth i fyfyrwyr, yn cynnwys ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau caledi, a hynny ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-radd. Diolch i roddion hael i’r gronfa hon, cwblhawyd saith o Leoliadau Cronfa Bangor yn llwyddiannus dros yr haf gan fyfyrwyr gyda gwahanol anawsterau. Roedd y lleoliadau’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr hyn weithio a chael profiad a hyfforddiant gwerthfawr mewn adrannau gwahanol, yn cynnwys Cyfathrebu a Marchnata, Llyfrgell y Brifysgol, yr Adran TG a’r Gofrestrfa Academaidd. Ystyrid bod yr holl fyfyrwyr a gafodd leoliadau’n unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau, boed yn anabledd neu galedi ariannol. Croesawyd y cynllun gan Carolyn Donaldson-Hughes, Pennaeth y Gwasanaeth Anabledd, “Mae pobl anabl yn aml yn dod ar draws rhwystrau wrth ddod o hyd i waith. Ar ben hynny, gall dod o hyd i waith rhan-amser wrth astudio fod yn broblem i fyfyrwyr anabl sy'n aml yn gorfod rhoi amser ychwanegol i’w hastudiaethau. Mae cael y cyfle amhrisiadwy hwn i ennill profiad perthnasol a dysgu sgiliau newydd felly’n gam cadarnhaol tuag at eu dyfodol, ac yn rhywbeth y mae'r adran yn ei groesawu. Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Bangor am ddarparu'r cyfle hwn.” Yma yn y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni fe wnaeth Gareth Harrison, myfyriwr ail flwyddyn Bioleg Môr gyda Sŵoleg, ddod ar leoliad chwech wythnos fel Cydlynydd Cynorthwyol Digwyddiadau dan gynllun Cronfa Bangor. Bu Gareth yn gweithio'n agos â'r tîm gan gymryd rhan amlwg yn nhrefnu aduniad yr 80au, a gynhaliwyd ym Medi. Mae'n teimlo i'r lleoliad ddatblygu llawer o'i sgiliau: "Un o'r sgiliau pwysicaf wnes i ei ddatblygu oedd fy sgiliau cyfathrebu trwy gweithio gyda staff, alumni a’r cyhoedd.” Heb roddion i Gronfa Bangor, mae Gareth yn teimlo na fyddai wedi cael y profiad tra gwerthfawr yma sydd wedi helpu i ddatblygu ei yrfa, “Heb gyfranwyr hael i gefnogi myfyrwyr, a chreu’r lleoliadau yma, fyddwn i
12 BANGORIAD HYDREF 2011
Rhai o dîm telethon y gwanwyn yn cymryd egwyl o alw ein alumni!
ddim wedi dod ymlaen cystal gyda fy addysg. Erbyn hyn dwi’n deall yn well i ble y gallaf fynd gyda fy ngradd a'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r holl gyfranwyr sydd wedi gwneud y profiad hwn yn bosibl ac rwy'n gobeithio talu’n ôl i’r Brifysgol yn y ffordd rydw i wedi cael cefnogaeth ganddi hi.” GWELLA’R CAMPWS Mae’r gronfa hon yn cefnogi ymdrechion y Brifysgol i ddiogelu ei threftadaeth bensaernïol ac i sicrhau bod myfyrwyr yn byw ac astudio mewn adeiladau sy’n ysgogi dysgu o’r safon uchaf. Y grant diweddaraf a wnaed gan y gronfa hon oedd i uwchraddio ac adnewyddu’r lle dysgu cydweithredol/dysgu cymdeithasol a elwir yn ‘stac y llawr isaf’ ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau. CEFNOGAETH GYDA DARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG Mae rhoddion i'r gronfa hon yn cefnogi ystod eang
o weithgareddau'n ymwneud â'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ledled y Brifysgol. Ym mis Mehefin, diolch i’r cyfraniad ariannol gan Gronfa Bangor, fe wnaeth y Brifysgol lansio ‘Cymorth Cymraeg’ ar ei gwefan. Nod Cymorth Cymraeg yw cynnig cefnogaeth ymarferol i alluogi mwy o fyfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. I lawer, mae diffyg hyder yn eu rhwystro rhag defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth a’r cymhorthion sydd ar gael iddynt. Gydag adnoddau ysgrifennu ac adnoddau siarad, mae Cymorth Cymraeg yn adnodd unigryw ar wefan y Brifysgol i annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith a hwyluso hynny iddynt. CRONFA ANGHENION MWYAF Mae’r gronfa yma yn darparu incwm anghyfyngedig i Fangor i gwrdd â’r her o ddarparu addysg o’r ansawdd gorau. Mae grantiau o’r gronfa hon yn cael eu dyrannu at beth bynnag yw blaenoriaeth y Brifysgol ar y pryd. Am fwy o wybodaeth ar Gronfa Bangor, cysylltwch ag Emma Marshall ar: +44 (0) 1248 382594 neu e-bost: e.marshall@bangor.ac.uk
Gareth yn helpu yn aduniad yr 80au
www.bangor.ac.uk/giving • RHOI I FANGOR
CYFRANWYR YN GWISGO EU PINNAU Â BALCHDER el rhan o gydnabod a diolch i’r rhai sy’n cyfrannu’n hael at Brifysgol Bangor, sefydlwyd cymdeithasau cyfranwyr. Mae cyfranwyr dyngarol yn derbyn Pin Cyfrannwr i’w gwisgo â balchder ac i ddangos eu cefnogaeth i Brifysgol Bangor. Mae cyn-fyfyriwr Bangor Andrew Ray Thomas (1967, Saesneg ac Astudiaethau Beiblaidd) yn gyfranwr sydd yn teimlo'n gryf iawn ynghylch rhoi i Brifysgol Bangor: “Dwi’n gwisgo fy mathodyn â balchder! Mae’n dda gweld bod eich cyfraniadau o fudd i fyfyrwyr presennol, yn arbennig rhai gyda phroblemau ariannol.” Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn rhoi gwybod i’n cyfranwyr am yr holl ddatblygiadau cyfredol yn y Brifysgol a’u gwahodd i ddigwyddiadau a drefnir yn y Brifysgol a chanddi. Meddai Andrew: “Mae’n amlwg bod Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau y mae'n eu cael gan ei alumni. Mae'n dda cael gwybod am ei gweithgareddau a’i llwyddiannau, sy’n gwneud i chi deimlo eich bod yn rhan o’r brifysgol o hyd.” Teimla fod ei gyfraniad yn
F
gwneud gwahaniaeth gwirioneddol: “Dwi’n hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i Brifysgol Bangor bob mis, ac mae hynny mor ddidrafferth. Wedi’r cyfan, roeddwn i’n ffodus o fanteisio ar addysg brifysgol am ddim yn y 1960au. Rŵan gallaf wylio’r brifysgol yn mynd o nerth i nerth, gan wybod fy mod i wedi gwneud cyfraniad bychan at ei llwyddiant." I gael mwy o wybodaeth am Gymdeithasau Cyfrannu Rhoddion, cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ar: +44 (0) 1248 382020 neu e-bost: development@bangor.ac.uk
CWMNI’R BRETHYNWYR ae Cwmni’r Brethynwyr wedi cyhoeddi eu bod am roi dwy fedal bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr ôl-radd (hyfforddedig neu ymchwil) sydd wedi gwneud cyfraniad academaidd, diwylliannol neu gymdeithasol nodedig i'r Brifysgol. Gall cyfraniad o’r fath fod yn rhagoriaeth mewn ysgolheictod, dylanwad ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora, cymorth gyda recriwtio, cynorthwyo’r Brifysgol i gynyddu ei henw da neu gael cyhoeddusrwydd rhagorol i ni. Caiff y medalau eu cyflwyno’n ffurfiol gan Feistr Cwmni’r Brethynwyr yn Ebrill neu Fai bob blwyddyn.
M
Andrew Ray Thomas
PRIFYSGOL BANGOR YN LANSIO COFRESTR RHODDWYR 2009/10 AR-LEIN ae Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno argraffiad diweddaraf Cofrestr Rhoddwyr y Brifysgol. Eleni, fel rhan o ymdrech ymwybodol y Brifysgol i reoli ein cyfrifoldebau amgylcheddol, mae fersiwn ar-lein y Gofrestr Rhoddwyr wedi cael ei gynhyrchu, ac i’w weld ar dudalennau Rhoi’r Brifysgol. Mae’r cyhoeddiad ar-lein yn dathlu’r gefnogaeth hael a roddwyd i Brifysgol Bangor gan alumni, staff, cyfeillion, busnesau ac ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol.
M
Mae’r cyhoeddiad yn dangos cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth ddyngarol a dderbyniwyd gan Fangor ym mlwyddyn academaidd 2009/10, ac yn cydnabod yr holl roddwyr elusengar gan ddiolch iddynt. I weld Cofrestr Rhoddwyr 2009/10, ewch i: www.bangor.ac.uk/ebrochures/rhoddwyr/ 2010
BANGORIAD HYDREF 2011 13
Frances Barber
Oherwydd Bangor...
OHERWYDD
BANGOR dych chi’n teimlo na fyddech chi wedi cyrraedd lle rydych heddiw oni bai am eich cyfnod ym Mangor? Oes gennych chi atgof am le neu ddigwyddiad yn y Brifysgol sydd wedi aros yn eich cof yn gyson? Wnaethoch chi gyfeillion oes yma, sefydlu traddodiadau neu gyfarfod â’ch cymar? Hoffem glywed amdano!
Y
Rydym angen eich help i ddarganfod beth sy’n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig a pham mae’n agos at galonnau ein cyn-fyfyrwyr. Cynorthwywch ni i ddangos pam fod ein cyn-fyfyrwyr yn falch o fod yn alumni Bangor drwy gyfrannu at gasgliad o straeon gan ein cyn-fyfyrwyr drwy’r blynyddoedd. I fod yn rhan o’n hymgyrch ‘Oherwydd Bangor...’ i hyrwyddo balchder ym Mangor a’r Brifysgol, anfonwch eich stori atom yn: alumni@bangor.ac.uk gan gofio cynnwys eich manylion cyswllt, y cwrs a wnaethoch a’r flwyddyn y gwnaethoch raddio. Anfonwch lun ohonoch eich hun hefyd fel y gellir ei gynnwys yn yr oriel o ddyfyniadau a straeon gan alumni ar ein gwefan. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi wedyn i gael gwybodaeth bellach. Yma, mae rhai o’ch cyd-alumni yn ddweud wrthym pam fod gan Fangor le mor gynnes yn eu calonnau...
Eric Hepburn
OHERWYDD BANGOR… OHERWYDD BANGOR…
OHERWYDD BANGOR…
fe wnes i ddarganfod ymdeimlad o antur. Bûm yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor
rwyf wedi mynd ymlaen i weithio ar hyd a lled y byd
o 1975 hyd 1978 gan raddio mewn Mathemateg ac Eigioneg Ffisegol; y prif reswm i mi ddewis Bangor yn hytrach nag unrhyw brifysgol arall oedd enw da’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn fyd-eang. Ond, ar wahân i’r addysg, mwynheais fy hun yn fawr iawn ym Mangor. Roedd yr ymdeimlad o ddinas fach, hanes unigryw a chefn gwlad godidog Cymru ar garreg y drws yn ysgogi rhywun i ddysgu ac i fwynhau bywyd. Fel hogyn 18 oed o ddinas fawr (Lerpwl) roedd yn fantais ac yn antur fawr cael byw yng nghanol mynyddoedd Eryri. Bûm yn byw mewn bwthyn yn Y Gerlan ar gyrion Bethesda ac, ar un achlysur, cawsom ein cau i mewn gan eira yn ein bwthyn gwledig am 4 diwrnod! Yn ddi-os fe wnaeth Bangor fy helpu i dyfu i fyny a rhoi llawer o hyder i mi ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg fe wnaeth fy helpu i ddatblygu gyrfa addawol, yn cynnwys gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Castlemaine Perkins (XXXX) Awstralia a Phrif Swyddog Gweithredol Tyrrells Potato Chips. Erbyn hyn rwy’n rhedeg fu musnes ymgynghorol fy hun, gan helpu busnesau bach ddod i’r farchnad a ffynnu a gwneud elw. Rwy’n edrych yn ôl yn aml ar hynt fy ngyrfa ac yn gwerthfawrogi’r cymorth enfawr a gefais gan y staff a’r myfyrwyr tra oeddwn ym Mangor. Les Sayers, KingsfordSmith Consultancy (1978, Mathemateg ac Eigioneg Ffisegol)
Yn sicr fe wnaeth Bangor ehangu fy nghyfleoedd gyrfa a rhoi cefndir ariannol cadarn i ni. Ar wahân i fod yn Athro, mae fy swyddogaethau ymgynghorol a chynghori mewn llawer o sefydliadau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau (yn cynnwys y Federal Reserve Bank of Chicago) yn dyst i’r enw da arbennig sydd gan Fangor. Santiago Carbo Valverde, Athro Economeg yn yr Universidad de Granada, Sbaen (1993, Economeg)
14 BANGORIAD HYDREF 2011
rydw i’n gweithio i’r Prif Weinidog Graddiais mewn Bancio a Chyllid o Fangor ym 1983 ac, oddi ar hynny, rwyf wedi mwynhau gyrfa amrywiol mewn cyllid a rheolaeth gyffredinol. Mae fy swydd ddiweddaraf, fel Prif Swyddog Gweithredol yn Rhif 10 Downing Street, yn dangos bod gan Fangor enw da sy’n uchel iawn ei barch yn y Ddinas (lle bûm yn gweithio, yn gynnar yn fy ngyrfa mewn Bancio) ac yn y Gwasanaeth Sifil, sydd â meddwl mawr o bobl sydd â chefndir eang ym maes cyllid. Eric Hepburn, Prif Swyddog Gweithredol, Rhif 10 Downing Street (1983, Bancio a Chyllid)
Oherwydd Bangor...
“Dysgais am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd…”
OHERWYDD BANGOR… dysgais am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd Roeddwn ym Mhrifysgol Bangor o 1975 tan 1978, ac astudiais Lenyddiaeth Saesneg a Drama.… Y dyddiau hynny, dim ond wyth o brifysgolion yn y wlad oedd yn arbenigo yn y math hwn o radd gyd-anrhydedd, felly roedd Bangor ar y blaen hyd yn oed y pryd hynny. Fe wnaeth Bangor apelio ataf oherwydd ei bod yn ddinas fach gyda llawer o fyfyrwyr a hynny mewn rhan hynod hardd o Brydain. Teimlais yn gartrefol yn syth yno. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o genhedlaeth o fyfyrwyr ar fy nghwrs a oedd yn cynnwys Danny Boyle, a aeth ymlaen i ennill Oscar, a
hefyd llawer o bersonoliaethau mawr eraill sydd wedi mynd ymlaen i weithio’n llwyddiannus iawn yn y diwydiant Teledu a Ffilm ar amryw o ffurfiau. Roedd y cwrs ei hun yn rhagorol. Roedd y tiwtorialau, darlithoedd a’r staff academaidd yn ddiguro. Roedd y rhan fwyaf eisoes wedi cyhoeddi gweithiau llenyddol ac aeth eraill ymlaen i wneud hynny. Bu un yn rhoi cyngor arbenigol i ffilmiau Shakesperaidd, gan arbenigo yng ngwaith Kenneth Branagh. A rhaid sôn am y bywyd cymdeithasol! Mewn prifysgol fach mae i fyny i’r myfyrwyr i lunio eu difyrrwch eu hunain... ac fe wnaethom lawer o hynny. Fel merch ifanc
18 oed roeddwn yn teimlo’n llawer mwy diogel mewn lle cymharol fychan. Daethom i gyd i adnabod ein gilydd a helpu ein gilydd wrth i ni adael cartref am y tro cyntaf. Treuliais dair o flynyddoedd gorau fy mywyd yno. Rwy’n dal i berthyn i garfan fawr o ‘Hen Fangoriaid’ sy’n parhau’n gyfeillion agos iawn i mi hyd heddiw. Ni allwn fod wedi gobeithio am well. Bydd Prifysgol Bangor bob amser â lle yn fy nghalon, gan imi ddysgu am fywyd, cariad a llenyddiaeth i gyd ar yr un pryd… Hir y parhao i ysbrydoli. Frances Barber, Actores (1978, Saesneg a Drama)
OHERWYDD BANGOR…
OHERWYDD BANGOR…
OHERWYDD BANGOR…
mae gen i ffrindiau am oes
mae gen i atgofion gwych
mae gen i hyder yn fy ngallu
Roedd yn amser hapus iawn, iawn o fy mywyd! Syrthiais mewn cariad â Bangor ar ôl y tro cyntaf i mi fynd yno ar gyfer fy nghyfweliad, a thra ar y ffordd gartref ar y trên y noson honno, yn teimlo - dwi eisiau mynd yno! Roeddwn i wrth fy modd ym Mangor a chefais 3 blynedd wych. Rwy’n dal yn ffrindiau gorau gyda’r hogiau a oedd yn byw ar yr un coridor â mi ar safle Ffriddoedd yn fy mlwyddyn gyntaf! Timothy Jones (2002, Hanes)
Graddiais gyda gradd Saesneg yn 1999 ac mae gen i atgofion gwych o fy amser ym Mangor. Mae’n lle hyfryd gyda golygfeydd godidog a chymuned myfyrwyr hynod gefnogol – alla i ddim meddwl am unrhyw le gwell i astudio. Samantha Davies (1999, Saesneg)
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cymaint i mi. Mae gen i atgofion gwych am fy nghyfnod yn y Brifysgol ac rydw i’n dal mewn cysylltiad efo rhai ffrindiau rhagorol a wnes i tra oeddwn yn astudio ym Mangor. Yn bwysig, drwy gydol fy ngyrfa rydw i wedi darganfod bod cael gradd wedi agor drysau i mi, ac yn sicr wedi rhoi hyder mewnol yn y gweithle i mi. John Jones, Landseer Partners (1980, Mathemateg)
OHERWYDD
BANGOR BANGORIAD HYDREF 2011 15
ER COF • www.bangor.ac.uk/alumni/Obituaries
COFIO STAFF Rydym yn cofio’r canlynol oedd yn aelodau neu’n gyn aelodau o staff y Brifysgol. Ceir teyrngedau llawn staff ac alumni yn: www.bangor.ac.uk/alumni/Obituaries Yr Athro Gareth Edwards-Jones 1962 - 2011 Ganwyd Gareth Edwards-Jones ym 1962 a’i fagu ar fferm yn Nyffryn Clwyd. Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Bioleg o Brifysgol Manceinion (1984) a PhD o Brifysgol Llundain (1988), derbyniodd swydd yng Ngholeg Amaeth yr Alban yng Nghaeredin, fel bioeconomegydd. Bum mlynedd wedyn, yn 1995, daeth yn Bennaeth Adran Rheoli Adnoddau Gwledig y Coleg hwnnw. Yn 1998 penodwyd Gareth yn Athro Amaeth ac Astudiaethau Defnydd Tir yn yr Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth ym Mangor. Dros y 13 blynedd nesaf bu’n arwain y gwaith o ddatblygu amaeth ym Mangor. Sefydlodd Ganolfan Rheoli Bryniau ac Ucheldiroedd ac enillodd gyllid allanol sylweddol ar gyfer projectau cyfalaf, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn Henfaes, sef fferm iseldir yr Ysgol. Roedd gan Gareth ystod eang o
Eric Huggard Jones 1919 - 2011 Fe’i ganed yn Ballina, Swydd Mayo, a symudodd y teulu i Ddulyn ddechrau’r 1920au. Yn ei arddegau bu’n ddisgybl yng Ngholeg Kilkenny cyn mynd ymlaen i astudio Peirianneg Sifil yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Ar ôl graddio yn 1942 ymunodd â’r Llu Awyr. Glaniodd ar Draeth Juno a bu’n gwasanaethu fel AwyrLifftenant yn Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a’r Almaen. Ar ôl dychwelyd i Brydain, ymunodd â’r Comisiwn Coedwigaeth gan weithio, ymysg mannau eraill, yng Nghoedwig Brechfa yn Sir Gaerfyrddin. Yn 1954 ymunodd â’r Adran Goedwigaeth yng Ngholeg Prifysgol
ddiddordebau, yn cwmpasu pynciau’n ymwneud â byd amaeth o agronomeg cywarch a llin i leihau risg E.coli mewn cymunedau gwledig. Roedd yn uchel ei barch fel arbenigwr ar effeithiau cynhyrchu bwyd ar yr amgylchedd, ac yn ddiweddar roedd wedi datblygu diddordeb yn her sicrwydd bwyd i’r byd i gyd. Er gwaethaf ei waith ymchwil a’i amryfal ymrwymiadau eraill, daliodd Gareth i fod yn ddarlithydd gweithgar ac uchel ei barch a ysbrydolai’r myfyrwyr israddedig a fynychai ei ddarlithoedd, a’r llu o fyfyrwyr PhD a fu’n cydweithio ag ef ar ei brojectau ymchwil. Wrth i 2010 ddirwyn i ben cafodd Gareth wybod bod canser arno, a bu farw ar Awst 14 2011 yn rhy ifanc o lawer. Gedy wraig Emma a dau o blant, Gethin ac Elinor. Bydd ei gydweithwyr yn gweld ei golli’n fawr ond caiff ei gofio am ei egni, ei frwdfrydedd ac am yr hyn a gyflawnodd yn ystod gyrfa oedd, er mawr dristwch i bawb, yn rhy fyr o lawer.
Gogledd Cymru fel Darlithydd. Arhosodd yn yr Adran, gan ymddeol fel Uwch Ddarlithydd yn 1982. Tra oedd yn CPGC, ysgrifennodd un llyfr ar goedwigaeth a bu’n gyd-awdur dau arall. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, ailbriododd a symud i fyw i Larne, Swydd Antrim. Parhaodd ei hoffter mawr o chwaraeon, ei synnwyr digrifwch ac edrychai ymlaen yn ddyddiol at her gwneud croeseiriau a sudoku. Hefyd mwynhâi arddio a gyrru ei gar – rhywbeth a wnaeth tan ddiwrnod olaf ei oes. Bu farw ar 23 Mawrth yn 91 oed. Fe’i collir yn fawr gan ei ferch, Brenda, a’i ddwy wyres, Jennifer a Victoria.
Dafydd Ap Thomas 1912 - 2011 Daeth Dafydd Ap Thomas i’r Coleg yn fachgen ifanc o Ysgol y Friars ym Miwmares yn 1930 a graddio mewn Hebraeg yn 1934. Dychwelodd yn ddarlithydd i’r Adran yn 1938, wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen a blwyddyn ym Mhrifysgol Berlin. Yr oedd cysgodion y rhyfel yn crynhoi’n drwchus yn yr Almaen yn y cyfnod hwnnw a penderfynodd Dafydd adael a dod yn ôl adref, a bu yn yr Adran ym Mangor o 1938 hyd ei ymddeoliad yn 1977. Yr oedd yn athro arbennig o dda am ddysgu ieithoedd Semitaidd - Hebraeg, Aramaeg, Arabeg a Syrieg; gallai symleiddio ieithoedd astrus a dieithr i’w fyfyrwyr a chyflwyno’r cyfan yn ddealladwy a phendant. Bu’n aelod o banel cyfieithu’r Hen Destament i Gymraeg (1988), ac yn Gadeirydd y panel am gyfnod. Bu’n ysgrifennydd i’r Society for Old Testament Study o 1961 i 1972 ac yn Llywydd y Gymdeithas am 1973-74. Yr oedd yn ŵr heini ac aml ei ddiddordebau - yn chwarae tennis pan oedd yn y Coleg, yn sgïo, yn teithio’r Cyfandir yn ei gar, hyd yn oed cyn belled â Jerwsalem lle bu’n gwneud gwaith archeolegol, ac yr oedd yn trin ei gar ei hun. Bu farw ar Fai 19, 2011 ar drothwy ei 99 oed.
YMDDIHEURIAD Wrth wneud gwaith glanhau data, nodwyd yn anghywir ar ein cronfa ddata bod rhai o’n alumni wedi marw ac felly, drwy amryfusedd, cawsant eu cynnwys yn y rhestr alumni a fu farw yn rhif gwanwyn 2011 Y Bangoriad. Hoffai’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ymddiheuro’n fawr i’r alumni canlynol a’u teuluoedd a’u ffrindiau
16 BANGORIAD HYDREF 2011
am y trallod a achoswyd gan y camgymeriad hwn: Joanna German 1996 Saesneg Robert Chidley-Williams 2005 Addysg Gorfforol David Parham 1995 Hanes ac Arch. Môr Erica Jones 2002 Busnes a Gweinyddu Cymdeithasol Stephen Oultram 1964 Hanes