©Iwan Williams
WWW.BANGOR.AC.UK/CWRDD
AM OLYGFA , AM OGONEDDUS…
Dublin Dun Laoghaire
Holyhead
Bangor A55
Gyda'i chyfoeth o hanes a mynyddoedd ysblennydd Eryri a thraethau godidog Môn ond taith ychydig funudau i ffwrdd, mae Bangor yn cynnig profiad digymar i ymwelwyr.
Inverness Aberdeen
A5A5 Car Anglesey
Perth
Caernarfon M9
A487 A487
M90
Glasgow M8 M74
Edinburgh
Carlisle
A74M
Middlesborough
M6
Manchester
Gosodwyd Gogledd Cymru yn y pedwerydd safel o’r rhanbarthau gorau” i ymweld â hwy yn 2017.” LONELY PLANET
Leeds
Liverpool
Dublin
Menai Bridge
Newcastle
Belfast
Hull
M62
A55
M56
Norwich M1
M6 M6T
Birmingham Swansea
M5
Car
M1 M40
Bristol
Plymouth
London
M25
Southampton
Ipswich
Dover
Brighton
© Crown copyright (2014) Visit Wales
Cysylltwch â ni: + 44 (0) 1248 388088 | conferences@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor, sydd ynghanol golygfeydd cyfareddol, yn gartref i ymchwil a chyfleusterau o'r radd flaenaf. P'un a oes gennych ddigwyddiadau mawr neu rai bychan cartrefol, gadewch i’r ardal brydferth hon eich ysbrydoli tra bo ein cyfleusterau ym Mhrifysgol Bangor yn hwyluso popeth i chi. Mae gennym dîm o staff ymroddedig wrth law i'ch cynorthwyo drwy gydol eich ymweliad gan sicrhau y bydd eich amser gyda ni yma yn un cofiadwy.
Neuadd Reichel
REICHEL Wedi'i chynllunio gyda steil a hyblygrwydd mewn golwg, Neuadd Reichel yw'r lle perffaith i amrywiaeth o ddigwyddiadau...
Ar gael Trwy gydol y flwyddyn
Mae Neuadd Reichel yn lle poblogaidd i gynnal hyfforddiant, cyfarfodydd, priodasau, cynadleddau a dyddiau cwrdd i ffwrdd. Mae'n rhoi hyblygrwydd i drefnwyr ddewis o blith amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod, sydd wedi'u lleoli'n hwylus wrth ymyl ein llety a chyfleusterau hamdden ar y safle. Mae Neuadd Reichel yn lle helaeth a modern sy'n cynnwys nifer o ystafelloedd cyfarfod deniadol gyda golau dydd naturiol a'r holl gyfleusterau diweddaraf.
Gydag ystafelloedd unigol a all gynnwys hyd at 150 o westeion neu gynadleddwyr, mae'r neuadd wych hon yn gwbl briodol ar gyfer pob math o gyfarfodydd a digwyddiadau. Ceir derbynfa fawr, sy’n lle delfrydol i gofrestru neu i osod bwrdd croesawu. Ceir drysau'n agor allan i'r Teras mewn ychydig o'r ystafelloedd, sy'n rhoi cyfle i westeion fwyta yn yr awyr agored neu fwynhau'r awyr iach.
Dinorwig
Cyfleusterau a Maint Mae gan y mwyafrif o'n darlithfeydd ac ystafelloedd cyfarfod daflunydd data a chyfrifiadur sefydlog fel offer safonol, neu gellwch gysylltu eich gliniadur eich hun i'r taflunydd.
Ystafell Fawr - Neuadd Reichel Ffestiniog
Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
Stondinau Arddangos
150
110
20
Ystafell Ganolig - Penrhyn
Ysgrifennaf atoch i ddiolch i chi a’ch tîm am y gwasanaeth ardderchog yn ystod y gynhadledd… roedd y trefniadau’n berffaith, y bwyd yn flasus, a byddwn yn fwy na pharod i argymell Neuadd Reichel fel lle delfrydol i gynnal cynhadledd o’r fath.
Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
70
60
Ystafell Ganolig - Ffestiniog Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
60
50
Ystafell Ganolig - Dinorwig Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
40
30
Ystafell Fach - Dorothea Ystafell Bwrdd
Canolfan Peirianneg Niwclear
10 Cys ylltwc h â n i: + 44 ( 0) 1248 388088 | con feren ces @b an g or.ac .uk
Neuadd Pritchard Jones
PRIF ADEILAD Y CELFYDDYDAU Ychydig o fannau cynnal digwyddiadau a gwleddoedd a all gymharu â Phrif Adeilad y Brifysgol am steil, gwychder a rhwysg.
Ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ceir nifer o ddarlithfeydd, neuaddau ac ystafelloedd cyfarfod, sydd ar gael tu allan i amser dysgu. Mae lleoedd mwy o faint yn cynnwys neuadd fawreddog Neuadd Pritchard Jones a Neuadd Powis gyda'r murlun trawiadol, sy'n cryfhau naws bensaernïol yr adeilad rhyfeddol hwn.
Ar gael Gyda’r nos, penwythnosau a thu allan i’r tymor
Ar gyfer digwyddiadau llai, mae Ystafelloedd Cledwyn yn ystafelloedd ffasiynol a chyfoes gyda golygfeydd dros y ddinas. Gyda'i bensaernïaeth fawreddog ac ysblennydd, mae'r Prif Adeilad yn lle delfrydol i gynnal cynadleddau a digwyddiadau o bob math.
Neuadd Powis
Cyfleusterau a maint Mae pob un o'n darlithfeydd yn cynnwys offer clyweled o'r safon orau.
Ystafell Fawr - Neuadd Pritchard Jones Ystafell Cledwyn 3
Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
Stondinau Arddangos
400
270
25
Ystafell Ganolig - Powis
Diolch unwaith eto am drefnu'r hyn a ddisgrifiodd llawer o'n cynadleddwyr - yn cynnwys rhai gyda phrofiadau rhyngwladol sylweddol - fel 'digwyddiad o safon gyda'r orau yn y byd'
Dull Theatr
Ciniawa /Cabaret
200
90
Ystafell Fach - Ystafell Cledwyn 3 Ciniawa / Cabaret
Ystafell Bwrdd
50
20
Ystafelloedd Ychwanegol Yn ogystal â’r ystafelloedd hyn, mae yna 20 ystafell arall ar gael. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Cynhadledd EEAC
Cys ylltwc h â n i: + 44 ( 0) 1248 388088 | con feren ces @b an g or.ac .uk
Pontio
PONTIO Mae tîm Cynadleddau Bangor yn eich croesawu chi i'r adeilad mwyaf trawiadol sydd gan Brifysgol Bangor i'w gynnig, Pontio - cartref y celfyddydau ac arloesi.
Ar gael Gyda’r nos, penwythnosau a tu allan i’r tymor Canolfan y celfyddydau ac arloesi flaengar yw Pontio sy’n cynnig ystafelloedd hyblyg ar gyfer cynadleddau a dewis eang o gyfleusterau bwyd a diod, a all gael eu neilltuo i’ch defnydd chi. Yno hefyd ceir theatr ganolig ei maint, sinema ac ystafelloedd stiwdio. Gall Ystafell Cemlyn Jones ar Lefel 2 ddal hyd at 150 mewn dull theatr a gellir ei defnyddio hefyd ar gyfer ciniawau a gweithdai. Ar lefel 5, ceir darlithfa fawr, a all ddal hyd at 450. Ar y lefel hon hefyd ceir gofod dysgu cymdeithasol sy’n berffaith fel lle ar gyfer trafod mewn grwpiau llai.
Cyfleusterau a maint Taflunydd data a chyfrifiadur sefydlog yw’r offer safonol, neu gellwch gysylltu eich gliniadur eich hun i’r taflunydd.
Ystafell Fawr - PL 5 Seddau Sefydlog 450
Ystafell Ganolig - Ystafell Cemlyn Jones Dull Theatr
Ciniawa / Cabaret
Stondinau Arddangos
200
110
20
Ystafell Cledwyn Jones
PL 5
Roeddwn eisiau anfon e-bost yn syth i ddiolch i chi am ddiwrnod gwych iawn ddoe - er fod gennym amserlen heriol newydd mewn lleoliad anghyfarwydd fe aeth popeth yn hynod ddidrafferth ac roedd pawb mor barod i helpu.
INCERTS Cys ylltwc h â n i: + 44 ( 0) 1248 388088 | con feren ces @b an g or.ac .uk
BLASUS A FFRES Credwn fod bwyd rhagorol yn rhan allweddol o gynhadledd lwyddiannus.
Rydym yn deall pwysigrwydd bwyd da yn ystod eich digwyddiad, a dyna pam mae ein tîm arlwyo rhagorol yn darparu amrywiaeth hyblyg o'r safon uchaf. O frechdanau neu fwffe cyllell a fforc i giniawau ysblennydd a barbeciws, gallwn gynnig gwasanaeth arlwyo cyflawn i'ch cynhadledd neu ddigwyddiad.
Cafodd yr holl fwydydd sawrus groeso brwdfrydig, a’r ffrwythau hefyd, a gyflwynwyd mewn ffordd mor ddeniadol – ond achosodd y brownies dipyn o gynnwrf – roedden nhw MOR boblogaidd. Academi Ffotoneg Cymru @ Bangor (PAWB)
Cys ylltwc h â n i: + 44 ( 0) 1248 388088 | con feren ces @b an g or.ac .uk
Mae ein tîm o gogyddion profiadol yn cymryd pleser mewn creu prydau cytbwys a blasus, gan ddefnyddio cynnyrch lleol a masnach deg lle bynnag y bo modd. Gallwn roi sylw i bob math o ofynion dietegol arbennig. Mae ein canapés cartref, seigiau sawrus, cacennau a phwdinau yn tystio i'n hymroddiad i gynhyrchu danteithion hynod flasus.
Yn agos i Church Bay
YMLACIO A DADFLINO Sinema Pontio
Pan fyddwch yn cynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal â chael llety fforddiadwy a chyfleus ar y safle, gallwch chi a’ch cynadleddwyr fwynhau mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau. Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig ystafelloedd safon ansawdd Llety Campws 4* gan Croeso Cymru. Gallwch archebu eich ystafelloedd ar lein www.bangor.ac.uk/aros. Tu allan i’r tymor dysgu gallwn gynnig cannoedd mwy o ystafelloedd sydd wedi derbyn safon ansawdd llety campws 3-4* gan Croeso Cymru, perffaith ar gyfer cynadleddau preswyl a digwyddiadau mawr.
© Crown copyright (2014) Visit Wales
Ystafell wely sengl en-suite
Cyfforddus, cynnes a hynod lân. Brecwast poeth da. Gwerth da am arian - byddwn yn dod eto.
Mae ein pecyn llety rhesymol ei bris yn cynnwys dillad gwely, tyweli, sebonau a gwasanaeth ystafell. Ceir cyfleusterau gwneud te a choffi ym mhob ystafell a gallwch ddefnyddio WIFI y brifysgol ar y safle. P'un a oes angen llety arnoch i’ch
cynadleddwyr neu os ydych chi'n bwriadu aros a mwynhau’r ardal leol, mae ein llety wedi'i leoli'n ganolog ar gyfer ymweld â’r hyn sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig.
Canolfan Brailsford Os ydych yn mwynhau chwaraeon ac ymarfer, mae gennym yr union le i chi. Mae Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon y brifysgol, yn lle delfrydol i gadw'n heini ar ôl diwrnod prysur o gynadledda. Mae croeso i ymwelwyr a chynadleddwyr ddefnyddio'r cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd a chodir prisiau staff arnynt fel rheol. Mae yna gyfleusterau dan do ac awyr agored ar gyfer pob math o chwaraeon a gweithgareddau ffitrwydd.
Canolfan Brailsford
Adolygiad o’r llety Cys ylltwc h â n i: + 44 ( 0) 1248 388088 | con feren ces @b an g or.ac .uk
CYSYLLTWCH Â NI: + 44 (0 ) 1 2 48 388088 co n fe rences@ bangor.ac .uk WWW.BANGOR.AC.UK/CWRDD