Dylunio cynnyrch

Page 1

DYLUNIO CYNNYRCH BANGOR 2014-16 CANOLFAN DYLUNIO CYNNYRCH A THECHNOLEG BANGOR YSGOL ADDYSG

www.bangor.ac.uk/addysg

BSc Dylunio Cynnyrch

Bydd Canolfan Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg Bangor yn eich helpu i wireddu syniadau drwy hyfforddiant o’r safon uchaf a chyfleusterau helaeth i lunio prototeipiau a chynhyrchu. Ymunwch â’n cwrs Dylunio Cynnyrch cyffrous i gael cyfleoedd i ddangos eich potensial i ddarpar gyflogwyr drwy fodiwlau profiad yn y gweithle. Os mai eich nod yw ysbrydoli eraill dylech ddewis y rhaglen Dylunio a Thechnoleg sy’n eich hyfforddi i ddysgu’r pwnc mewn ysgolion uwchradd a sefydliadau ôl-16.

Matt Kennedy, BSc Dylunio Cynnyrch / Lleoliad gwaith yn Rethinkthings Ltd, Unilever ac I.S.C. (International Safety Components). Erbyn hyn mae’n gweithio i’r Tîm Dylunio Diwydiannol yn adran cynllunio pecynnu Unilever.

Mae’r BSc tair blynedd mewn Dylunio Cynnyrch yn radd broffesiynol o safon uchel. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fyfyrwyr sydd â’u bryd ar weithio mewn diwydiant. Mae myfyrwyr yn dod i ddeall yr holl broses gynhyrchu ac yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu nwyddau. Mae Profiad yn y Gweithle yn elfen ganolog o’r cwrs a rhoddir sylw i ddatblygu ac asesu safonau proffesiynol yn unol â’r deilliannau dysgu. PAM ASTUDIO DYLUNIO CYNNYRCH? Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi dod yn fwyfwy adnabyddus am gynhyrchu gwaith o safon uchel iawn sydd wedi’i arddangos yn genedlaethol ac wedi cael llawer iawn o sylw gan y cyfryngau. Rydym hefyd yn ganolfan hyfforddi CAD/CAM ranbarthol sydd wedi’i hachredu. Mae’r Ganolfan yn darparu llawer o gyfleusterau ac adnoddau, sy’n cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf. Mae gan yr Ysgol gymhareb staff/myfyrwyr ragorol. Gall myfyrwyr gael achrediad mewn meddalwedd CGC. Gweithio gyda chwmnïau amlwg ym maes Dylunio a Chynhyrchu er mwyn cysylltu astudio academaidd ag ymarfer masnachol.

www.viewcreative.co.uk

Mae Dylunio Cynnyrch ym Mangor wedi rhoi’r wybodaeth a’r hyder i mi i droi syniadau a breuddwydion yn realiti gyda throsiant ac elw.

Bydd y radd hon mewn Dylunio Cynnyrch yn eich paratoi at yrfa lawn her a gwerth chweil mewn dylunio cynnyrch.

Fe wnaeth y cwrs roi cyfle i mi weithio mewn diwydiant rwyf yn frwd yn ei gylch a dilyn yr yrfa o’m dewis. Mae’r lleoliadau gwaith nid yn unig wedi rhoi profiad hanfodol bwysig i mi yn ystod adegau tymor, ond maent hefyd wedi arwain at waith dros yr haf ac, yn y pen draw, sefydlu fy ngyrfa’n gadarn yn y diwydiant ceir. Oliver Willis, BSc Dylunio Cynnyrch / Lleoliad gwaith yn JCB, Aston Martin Lagonda a Bentley Motors.

MODIWLAU Ymarfer Proffesiynol. Astudiaeth Pwnc. Profiad Gwaith. Mewn Ymarfer Proffesiynol, byddwch yn dysgu am y materion sy’n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch: Sefydliadau a Rheolaeth. Egwyddorion Dylunio. Rheolaeth Cynhyrchion. Rheoli Amser. Arloesi. Sgiliau Cyflwyno. Marchnata. Eiddo Deallusol. Mewn modiwlau Astudiaeth Pwnc, byddwch yn dysgu am ddylunio a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a gewch drwy ddylunio cynnyrch a chynhyrchu a mireinio prototeipiau: Defnyddio Egwyddorion Dylunio. Creadigrwydd. Cyfleu Dyluniadau a Modelau. Dylunio trwy Gyfrifiadur (CAD). Cynhyrchu trwy Gyfrifiadur (CAM). Sgiliau Cynhyrchu. Deunyddiau. Prototeipio. Datblygiad Cynaliadwy. Dulliau Gweithio’n Ddiogel.

SUT FYDDA I’N DYSGU? O leiaf 19 awr o amser cyswllt yr wythnos mewn darlithoedd/seminarau. Darllen, paratoi ar gyfer seminarau, cwblhau gwaith cwrs. Asesu elfennau astudiaethau proffesiynol trwy waith cwrs ac arholiadau. Asesu modiwlau astudiaethau pwnc yn barhaus (ni fydd arholiad ysgrifenedig ffurfiol). Monitro profiad gwaith gan diwtoriaid. Tiwtorialau personol cyson. GOFYNION MYNEDIAD: 200-220 o bwyntiau UCAS TAG/Tystysgrif Addysg Alwedigaethol mewn pynciau perthnasol. Diploma Cenedlaethol BTEC gyda chredydau Rhagoriaeth a Theilyngdod mewn pynciau perthnasol. Cais fel myfyriwr hyˆn gyda chymwysterau/profiad perthnasol, yn ôl eu teilyngdod unigol.

Roedd profiad gwaith yn golygu y gallem weithio mewn gwahanol fathau o ddiwydiant gan sicrhau mwy o wybodaeth a sgiliau ar y daith. Fe wnaeth amrywiaeth y cynhyrchion y gwnaethom eu dylunio dros y 3 blynedd roi gwybodaeth ehangach i mi am beiriannau, deunyddiau a gwaith graffeg. Hannah Marie Trematick, BSc Dylunio Cynnyrch

Mae Profiad Gwaith yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd: Bloc 8 wythnos yn ystod bob blwyddyn. Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol. Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o’r coleg. Cynhyrchu. Marchnata. Sefydliad. Bydd project gradd blwyddyn olaf yn dod â’r holl elfennau uchod at ei gilydd. Rhaff ddiogelwch bersonol y gellir ei thynnu i mewn - Project Blwyddyn Olaf Cynhyrchwyd gan Robert Farrar, fel prif broject Blwyddyn 3; nawr yn gweithio gyda’r cwmni partner DMM International.

BSc Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd (YN ARWAIN AT STATWS ATHRO CYMWYSEDIG) Bydd y radd hon yn eich cymhwyso i ddysgu Dylunio a Thechnoleg mewn ysgolion uwchradd a sefyllfaoedd ôl-16. Bwriad y rhaglen radd yw rhoi i chi sylfaen eang o ran dysgu’r pwnc ac mae wedi’i datblygu mewn ymateb i feini prawf diwygiedig y llywodraeth ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae profiad wythnos mewn ysgol gynradd wedi’i gynnwys yn y cwrs. BETH FYDDA I’N EI ASTUDIO? Mae tair elfen i’r radd Dylunio a Thechnoleg (Addysg Uwchradd): Astudiaeth Arbennig, Astudiaethau Proffesiynol a Phrofiad Ysgol. ASTUDIAETH PWNC Mewn modiwlau dylunio a thechnoleg byddwch yn dysgu defnyddio a datblygu eich sgiliau mewn amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau cynhyrchu drwy: Ddylunio a Chyfathrebu Dylunio a Chynhyrchu - modiwlau 1 i 5 (mae’r rhain yn cynnwys: defnyddio egwyddorion dylunio, sgiliau cynhyrchu, creadigrwydd, deunyddiau a llunio prototeip, Cynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CGC), dulliau gweithio’n ddiogel).

Byddwch wedi’ch lleoli ar Safle’r Normal y Brifysgol sydd â’i lyfrgell a’i ganolfan adnoddau ei hun yn cynnwys ystod eang o adnoddau dysgu dwyieithog cynradd ac uwchradd. Mae amgylchedd gweithio dymunol yn y Ganolfan Technoleg Dylunio ac mae’n ganolfan hyfforddi CAD/CAM sydd wedi’i hachredu. Mae’r Ganolfan yn darparu llawer o gyfleusterau ac adnoddau, sy’n cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf i athrawon dan hyfforddiant. Mae’r radd Dylunio a Thechnoleg (Addysg Uwchradd) yn rhan o bartneriaeth gadarn rhwng y Brifysgol ac ysgolion uwchradd lleol a bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan athrawon ysgol a staff cefnogol o’r Awdurdod Addysg Lleol. Mae profiad ysgol yn rhan ganolog o’r cwrs, a bydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau i ddechrau gyrfa’n hyderus fel athro/athrawes Dylunio a Thechnoleg. Mae gan yr Ysgol gymhareb staff/myfyrwyr ragorol. Bydd myfyrwyr yn cael achrediad mewn dulliau gweithio yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch a gallant gael achrediad hefyd mewn meddalwedd CGC.

Mae gennyf ddarlun yn fy mhen o sut yr hoffwn i’r project edrych, ac mae’n hwyl ei weld yn dod yn fyw ar bapur fel prototeip. Fe wnaeth y cwrs hefyd gryfhau fy sgiliau yn yr ystafell ddosbarth a rhoi hyder i mi ragori yn ystod profiad ysgol. Catrin Lloyd Hicks, BSc Dylunio a Thechnoleg SAC. Enillydd Gwobr Entrepreneuriaeth Santander Prifysgol Bangor 2013 a Gwobr Lloyd Jones am Arloesi.

ASTUDIAETHAU PROFFESIYNOL Bydd y rhain yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weinyddu cwrs, cynllunio dysgu i gyflawni Gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, a chyflawni’r gofynion proffesiynol a ddisgwylir yn y proffesiwn. Byddwch hefyd yn treulio wythnos ar leoliad mewn ysgol gynradd. PROFIAD YSGOL Byddwch yn treulio 24 wythnos dros 3 blynedd mewn ysgol, lle byddwch yn cael cefnogaeth dan athrawon profiadol a chan diwtoriaid o’r Brifysgol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau addysgu, gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau sy’n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd dysgu. Byddwch yn dod yn gyfarwydd â chynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu cynllunio cynlluniau gwaith priodol, gan ystyried gofynion asesu ac adrodd. SUT FYDDA I’N DYSGU? Byddwch yn treulio 20 awr ar gyfartaledd mewn darlithoedd/ seminarau. Hefyd bydd angen i chi ddarllen, paratoi at seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau addysgu. Caiff yr elfennau yn y Brifysgol eu hasesu drwy waith cwrs (yn cynnwys datblygu eich portffolio dylunio a gwaith project ymarferol) ac arholiadau. Bydd tiwtoriaid yn monitro eich ymarfer dysgu. GOFYNION MYNEDIAD 200-240 pwynt UCAS yn cynnwys lefel A2/VCE mewn pynciau perthnasol, yn ogystal â TGAU gradd B neu uwch mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg. Diploma Cenedlaethol BTEC gyda chredydau Rhagoriaeth a Theilyngdod mewn pynciau perthnasol. Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyˆn sydd â chymwysterau neu brofiad perthnasol yn ôl eu teilyngdod unigol. Rhaid i holl athrawon dan hyfforddiant wneud cais am ‘Ddatgeliad Uwch’ gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a rhaid i’r Coleg weld bod hwnnw’n foddhaol cyn y gallant ddechrau profiad ysgol. Fel rhan o’r broses cyfweliad proffesiynol bydd disgwyl i chi sefyll prawf llythrennedd a rhifedd.

DYLUNIO CREU ARLOESI YSBRYDOLI EISIAU GWYBOD MWY? Cysylltwch 창: Gweinyddwr y Cwrs Canolfan Dylunio a Thechnoleg Bangor Ysgol Addysg Prifysgol Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG UK +44 (0)1248 383082 canolfanDT@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.