Clybiau a Chymdeithasau AM DDIM Mae eich cyfnod fel myfyriwr yn gyfle gwych i chi gael blas ar weithgaredd newydd am y tro cyntaf ac mae aelodaeth o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim. Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n hybu a diogelu buddianau’r Cymry ym Mangor, hefyd yn cynnal nifer o gymdeithasau ac yn ganolbwynt i fywyd cymdeithasol llawer o’r Cymry Cymraeg ym Mangor.
DOES UNM Profiad prifysgol rhyngwladol Mae rhagoriaeth Prifysgol Bangor mewn ymchwil ac addysgu yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd i’r ddinas. Mae hyn yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr gydweithio a chymdeithasu â phobl o bob rhan o’r byd.
10
Bywyd Myfyriwr
Bywyd cymdeithasol ac adloniant Mae Academi, clwb nos y myfyrwyr, yn ganolbwynt i lawer iawn o’r adloniant gyda’r nos. Yn ogystal â nosweithiau wedi eu trefnu gan yr Undeb neu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, mae amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Y Glôb, Bar Uno ym mhentref Ffriddoedd neu Barlow’s ym mhentref y Santes Fair. Mae canolfan y celfyddydau ac arloesi, Pontio, yn ganolbwynt cymdeithasol i fyfyrwyr a’r gymuned ac yn gartref i Undeb y Myfyrwyr. Mae’r ganolfan yn cynnwys sinema, theatr, ystafelloedd darlithio a llefydd i fwyta.