EICH LLAIS
EICH UNDEB Bydd llawer o’ch bywyd cymdeithasol yn y Brifysgol yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr sef Undeb Bangor. Mae Undeb Bangor yn darparu gwasanaethau, cefnogaeth, gweithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr. Mae’r Undeb yn cynrychioli myfyrwyr ar holl faterion. Mae Undeb Bangor yn cael ei redeg gan Swyddogion Sabothol etholedig. Mae’r Undeb yn bodoli i hyrwyddo eich lles a’ch diddordebau, ac yn fodd i fyfyrwyr gyfathrebu â’r Brifysgol.
Ffair yr Wythnos Groeso Yn ystod yr Wythnos Groeso, bydd Undeb Bangor yn cynnal Ffair yr Wythnos Groeso sef y digwyddiad poblogaidd, Serendipedd. Cewch flas o’r holl gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr gan gynnwys cymdeithasau, timoedd chwaraeon a phrojectau gwirfoddoli. Mae’r Ffair hefyd yn gyfle i chi gwrdd â thimoedd Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol.
20
Undeb y Myfyrwyr