CEFNOGI EIN MYFYRWYR Ym Mangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu gofal a chefnogaeth i fyfyrwyr. O’r adeg pan gyrhaeddwch yma, cewch gymaint o gymorth a chefnogaeth ag y bo modd gyda materion iechyd a gofal yn ogystal â gwaith academaidd.
Wythnos Groeso Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a chyfarfod pobl newydd, rydym yn trefnu Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd. Bydd nifer o ddigwyddiadau adloniadol a chymdeithasol wedi eu trefnu i’ch cynorthwyo i gyfarfod â myfyrwyr eraill. Byddwch yn mynd i gyfarfod sy’n eich croesawu’n swyddogol i’r Brifysgol, bydd eich Ysgol academaidd ac Undeb y Myfyrwyr yn trefnu gweithgareddau trwy’r wythnos a bydd Arweinwyr Cyfoed wrth law i’ch helpu i ymgartrefu.
Arweinwyr Cyfoed Mae’r Cynllun Arweinwyr Cyfoed wedi derbyn cydnabyddiaeth cenedlaethol.
“Cefais decst gan fy Arweinydd Cyfoed cyn cyrraedd y Brifysgol, ac roedd hynny o gymorth mawr.”
Mae ein holl Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr gan mai hwy yw’r bobl orau i’ch helpu i ymgartrefu. Wedi’r cwbl, does dim cymaint â hynny ers iddynt hwythau fod yn fyfyrwyr newydd. Maent yno i helpu myfyrwyr newydd i setlo, i drefnu gweithgareddau cymdeithasol, ac i fynd â myfyrwyr newydd o gwmpas y campws a chynnig cyngor cyffredinol. Unwaith y byddwch wedi ymgartrefu, efallai y byddwch chithau â’ch bryd ar ddod yn Arweinydd Cyfoed i groesawu myfyrwyr newydd i Fangor.
44
Cefnogi Myfyrwyr