ADNODDAU DYSGU
Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth
Mae gennym gyfleusterau TG helaeth i chi eu defnyddio, pedair llyfrgell, cyfleusterau pwrpasol ym maes y Cyfryngau a Chanolfan Sgiliau Astudio. Mae staff yma i’ch helpu i gael y budd gorau o’n hadnoddau yn ystod eich cyfnod ym Mangor.
Dysgu Ar-lein a Recordio Darlithoedd
Mae gennym nifer o ystafelloedd/mannau cyfrifiadurol (rhai yn agored 24/7) ac mae mynediad di-wifr a socedi ar gyfer gliniaduron hefyd ar gael ar draws y campws. Mae gan bob ystafell wely yn neuaddau Prifysgol Bangor fynediad di-wifr i’r rhyngrwyd (mae gan rai gysylltiad gwifr hefyd). Mae’r cyflymder yn cyfateb i fandeang domestig ffibr lleol.
Mae Blackboard, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, ar gael i bob defnyddiwr ar y campws ac oddi ar y campws. Os yw darlithydd wedi dewis defnyddio’r system recordio darlithoedd Panopto, mae’r system yn recordio’r sain â’r hyn sy’n ymddangos ar y cyfrifiadur (e.e. sleidiau PowerPoint).
fyMangor Mae fyMangor yn rhoi mynediad ar-lein at wybodaeth a gwasanaethau i’ch cefnogi yn y Brifysgol. Er enghraifft, trwy fyMangor gallwch:
50
Adnoddau Dysgu
•
gofrestru gyda’r Brifysgol a gweld eich amserlen a chalendr personol
•
weld y marciau a gawsoch a rhoi sylwadau ar fodiwlau rydych wedi’i astudio
•
weld eich cyfrif ariannol gyda’r Brifysgol
•
weld eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (os oes gennych un).