ARWEINLYFR I FYFYRWYR ˆN HY
Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151
www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor
Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu.
36004 10/12
@prifysgolbangor
CYNNWYS
“Er bod y cwrs yn ddwys a’r baich gwaith yn gallu bod yn drwm weithiau, roedd y profiad yn cynnig sialens bleserus. Gwneir y sialens yn haws trwy awyrgylch eithriadol o groesawgar a chynnes yr Ysgol.” CARYS EVANS, LLB Y Gyfraith
02
Croeso
03
Cyngor a Chefnogaeth
06
Cyllid Myfyrwyr
09
Llety
10
Adnoddau a Chyfleusterau
12
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
13
Cysylltiadau Defnyddiol
CROESO
CYNGOR A CHEFNOGAETH
Yma ym Mangor, rydym yn sylweddoli eich bod chi, fel myfyriwr hˆyn, ychydig yn wahanol i fyfyrwyr sy’n cyrraedd yma’n syth o’r ysgol ar ôl cwblhau astudiaethau lefel A.
Gwasanaethau Myfyrwyr Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu amryw o wasanaethau cefnogaeth broffesiynol i fyfyrwyr. Mae wedi ei lleoli yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ac mae’n agored trwy’r flwyddyn.
Rydym yn deall ei bod yn bosib y bydd gennych ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill, y gall y modd yr ydych yn trin bywyd coleg, yn academaidd ac yn gymdeithasol, fod yn wahanol, eich bod wedi cael mwy o brofiad bywyd, ac i’ch llwybr chi at addysg uwch fod yn wahanol. Dyma’r rhesymau ein bod yn cydnabod y ffaith fod eich anghenion, eich pryderon a’ch cwestiynau yngly ˆn â chychwyn yn y Brifysgol yn unigryw.
Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys: Cynghorwr Myfyrwyr Hˆyn: y cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr hyˆn sydd ag unrhyw broblemau neu gwestiynau ar bynciau yn amrywio o gyllid i astudiaeth. Uned Cymorth Ariannol: i gael cyngor a chyfarwyddyd ariannol a gwybodaeth am y Gronfa Galedi.
Ymgais yw’r llyfr hwn i ateb rhai o’ch cwestiynau. Cewch ynddo amlinelliad o’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ar gael – yn benodol i fyfyrwyr hyˆn.
Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr: gwasanaeth cynghori sy’n llwyr gyfrinachol a phroffesiynol.
Rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn arweiniad i chi pan gychwynnwch ym Mangor, a bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi yn ystod eich amser yma.
Cynghorwr Iechyd Meddwl: aelod o staff a all roi gwybodaeth , yn cynnwys lle i gael cefnogaeth a chyfarwyddyd os oes gennych broblemau oherwydd anawsterau iechyd meddwl. Gwasanaeth Tai Myfyrwyr: am fanylion ynglyˆn â llety preifat, llety i deuluoedd a chymorth a chyngor cyffredinol o ran chwilio am dyˆ.
”Fy nghyngor i fyddai i weithio’n galed, ond mwynhau eich hunain hefyd! Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth a chefnogaeth os ydych yn cael problemau gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gymryd.” DEWI SIÔN, BA Cyfathrebu a'r Cyfryngau 2
Gwasanaeth Cefnogi ar gyfer Anabledd: am wybodaeth a chyngor ynglyˆn â gwasanaethau, cefnogaeth a chyfleusterau a lwfansau myfyrwyr anabl. Cyngor ar dynnu’n ôl / trosglwyddo i gwrs arall: aelod o staff a all gynnig cyfarwyddyd ar ddewisiadau, gan gysylltu ag adrannau ac Awdurdodau Addysg Lleol. Gwasanaethau Iechyd Myfyrwyr: gwasanaethau iechyd i fyfyrwyr, ardystio; cyngor ar lîd yr ymennydd a chlwy’r pennau. Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr
GWASANAETHAU CEFNOGAETH UNDEB Y MYFYRWYR Mae Undeb y Myfyrwyr yma i gynrychioli pob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac maent yn gwneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r pum Swyddog Sabothol yn gweithio i sicrhau bod eich amser ym Mangor mor ddifyr a gwerthfawr â phosib. Mae’r cynllun Cynrychiolwyr Cwrs yn cael ei gydlynu gan yr Undeb ac felly hefyd yr holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau – sydd yn agored i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim. Mae’r Undeb hefyd yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn a bydd digonedd o gyfleoedd i chi gymryd rhan – weithiau mewn ffyrdd annisgwyl! Mae yma hefyd Seneddwr Myfyrwyr Aeddfed sy’n aelod o Senedd Undeb y Myfyrwyr (y gr wp ˆ sy’n penderfynu ar bolisi’r Undeb) er mwyn gwneud yn siw ˆ r bod anghenion myfyrwyr aeddfed yn cael eu cynrychioli’n llawn. Felly pam na gysylltwch chi? Mae’r holl fanylion cyswllt ar wefan Undeb y Myfyrwyr: www.myfyrwyrbangor.com neu os nad ydych yn siwr ˆ ynghylch pwy sydd angen i chi siarad â nhw, galwch heibio. Nawdd Nos Gwasanaeth gwrando a gwybodaeth yw Nawdd Nos a gynhelir gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae pob gwirfoddolwr wedi cael ei hyfforddi, ac yn sicrhau gwasanaeth gwrando a gwybodaeth ddiduedd, ddienw, cwbl gyfrinachol, di-gynghorol. Rydym yn agored rhwng 8pm-8am pob nos yn ystod adeg tymor a byd rhywun ar ddyletswydd i wrando arnoch neu i ateb eich ymholiadau. Nawdd Nos: 01248 362121 Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: E-bost: nightline@undeb.bangor.ac.uk www.bangorstudents.com/nightline www.facebook.com/dafydd.nightline
EICH TIWTOR PERSONOL Dynodir tiwtor personol i bob myfyriwr israddedig. Yn ogystal â mynd at eich Tiwtor am gyngor a chymorth ynglyˆn â materion academaidd, gellwch ddewis mynd ato/ati fel cyswllt cyntaf o ran materion mwy personol neu faterion yn ymwneud â lles, er y bydd hi’n bosib y bydd rhaid iddo o/hi eich cyfeirio at wasanaethau eraill am fwy o gymorth a chyfarwyddyd. 3
CYNGOR A CHEFNOGAETH BELLACH Tiwtoriaid Cynghori Mae rhai o aelodau staff yn gweithredu fel tiwtoriaid cynghori. Maent yn barod i wrando ar fyfyrwyr a all fod â phroblemau -academaidd neu bersonol -- ac mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol. Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at yr Arweinlyfr Myfyrwyr fyddwch wedi ei dderbyn cyn cyrraedd yma. Uwch Warden a Warden Myfyrwyr mewn Neuaddau Mae gan Uwch Wardeiniaid mewn Neuaddau swyddogaeth ddeublyg, o ran lles a disgyblaeth. Cânt gymorth gan FyfyrwyrWardeiniaid wrth roi cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr sy’n preswylio mewn Neuaddau. Gall myfyrwyr ofyn am gyngor neu gefnogaeth gan unrhyw Fyfyriwr-Warden ar unrhyw adeg. Cewch fanylion am sut i gysylltu â staff y Neuaddau yn Llawlyfr y Neuadd berthnasol. Gwasanaeth Caplaniaeth Cewch fanylion llawn am wasanaethau caplaniaeth a darpariaethau ffydd yn yr Arweinlyfr Myfyrwyr.
Canolfannau Cefnogaeth Astudio Mae dwy Ganolfan Gefnogaeth (y naill ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau a’r llall yn Adeilad Deiniol/Llyfrgell Wyddoniaeth) yn darparu amrywiaeth o gyfarpar arbenigol i fyfyrwyr, e.e. boglynnydd Braille, cyfrifiaduron a weithredir â llais, Cyfrifiaduron Personol sydd â meddalwedd arbenigol ar gyfer myfyrwyr dyslecsig a myfyrwyr sydd â nam ar y golwg. Ceir hefyd ddewis o feddalwedd gynorthwyol ar draws rhwydwaith cyfrifiadurol y Brifysgol, megis SuperNova, Inspiration a Texthelp. Ffôn: 01248 382425 Canolfan Dyslecsia Miles Caiff myfyrwyr â dyslecsia gymorth o’r Gwasanaethau Cefnogi a gynhelir gan Ganolfan Dyslecsia Miles. Maent yn gweithio ar fedrau astudio mewn grwpiau neu ar lefel un i un, ac mae’r Tiwtor neu’r Cynghorwr ar gael i roi cefnogaeth o ran astudiaeth unigol neu’n bersonol. Bydd y Ganolfan yn trefnu asesiadau, yn cynorthwyo myfyrwyr i wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl, ac yn cynorthwyo i drefnu darpariaeth ar gyfer arholiadau. Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk www.dyslexia.bangor.ac.uk Gwasanaethau Iechyd Myfyrwyr Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru â Meddyg Teulu. Mae gan y Brifysgol gontract â meddygfa leol i roi gwasanaethau arbennig i fyfyrwyr. Ar hyn o bryd, Canolfan Meddygol Bodnant yn Rhodfa Menai, Bangor Uchaf, sydd â’r contract hwn. Apwyntiadau: 01248 364492 (rhwng 8.00am a 6.30pm ar ddyddiau’r wythnos). Am fwy o fanylion a rhestr o feddygon teulu lleol eraill, cyfeiriwch at eich Arweinlyfr Myfyrwyr.
4
5
CYLLID MYFYRWYR Ffioedd dysgu Oherwydd y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, lefel y ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr o Gymru yn ystod 2012/13 oedd £3,465 y flwyddyn. Fe’ch cynghorwn ni chi i fynd i wefan y Brifysgol am y wybodaeth ddiweddaraf. Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). Caiff y taliad ei ohirio nes ar ôl i chi raddio trwy fenthyciad ffi dysgu. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill dros £21,000 y flwyddyn.
6
Costau byw Gall myfyrwyr o Brydain wneud cais am fenthyciad costau byw (a gyfeirir ato weithiau fel benthyciad cynnal myfyrwyr) i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Nid oes rhaid ad-dalu’r benthyciad yma nes y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £21,000 y flwyddyn. Mae grantiau ar gael hefyd i’ch helpu. Yn achos myfyrwyr o Gymru, mae Grant Dysgu’r Cynulliad o hyd at £5,000 ar gael a roddir wedi asesiad o incwm eich cartref. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, mae cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i rai myfyrwyr e.e. myfyrwyr anabl, myfyrwyr gyda phlant neu ddibynyddion eraill.
Budd-daliadau Lles Os ydych yn hawlio budd-daliadau cyn cychwyn yn y Brifysgol, gallai’r ffaith eich bod yn fyfyriwr effeithio arnynt. Gofynnwch am gyngor cyn cychwyn yn y Brifysgol. Mae rhai myfyrwyr yn gymwys i dderbyn budddaliadau penodol fel myfyrwyr, e.e. mae gan rieni sengl hawl i gael Budd-dal Tai. Am gyngor ynglˆyn â budd-dal, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-daliadau, neu â’r Uned Cymorth Ariannol (yng Ngwasanaethau Myfyrwyr). Myfyrwyr Rhan-amser Efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol os ydych yn dilyn cwrs sy’n para am o leiaf un flwyddyn academaidd ac sy’n cyfateb i 50% neu fwy o gwrs llawn-amser. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn grant tuag at eich ffioedd a grant tuag at eich cwrs. Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar eich incwm.
Uned Cymorth Ariannol O fewn yr Uned Cymorth Ariannol ym Mangor, mae gennym Gynghorwr Ariannol ar gyfer myfyrwyr, a all gynorthwyo myfyrwyr i gynllunio cyllideb, ateb ymholiadau ariannol, neu gynorthwyo myfyriwr i ymdrin â phroblemau ariannol. Mae gan y Brifysgol Gronfa At Raid (Cronfa Galedi) i gynorthwyo myfyrwyr o’r DU sy’n profi caledi ariannol annisgwyl. Nid oes angen ad-dalu’r taliadau yma. Cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglˆyn â materion ariannol: Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/ cyngorariannol Cyllid Myfyrwyr Cymru: Ffôn: 08456 028845 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
7
LLETY Ym Mangor, rydym yn cynnig llety hunan-arlwyol – sy’n cynnwys ystafelloedd safonol neu en-suite ac rydym yn gallu sicrhau llety i holl israddedigion blwyddyn gyntaf sengl sy’n ymgeisio am lety o fewn yr adegau priodol.
Llety i Deuluoedd Mae’r Brifysgol yn adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer llety i deuluoedd. Cysylltwch â’r Swyddfa Neuaddau am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.
Bydd myfyrwyr israddedig sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn gynnig amodol) i astudio ym Mangor ym mis Medi yn cael eu e-bostio ddechrau Mehefin i egluro sut i wneud cais am lety ac mae hi’n bwysig bod gan y Brifysgol eich cyfeiriad e-bost cywir gan y bydd popeth yn ymwneud â llety yn cael ei drefnu drwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi rhoi eich cais i mewn ni fyddwch yn clywed gan y Brifysgol nes bod eich lle wedi cael ei gadarnhau o ganol mis Awst ymlaen.
Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/llety
Pob blwyddyn rydym yn ceisio darparu rhai ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau aros mewn amgylchedd tawelach. Bydd manylion ynglˆyn â pha neuadd sydd wedi cael ei dynodi i’r bwriad hwn ar ein gwefan. Gall yr ystafelloedd hyn fod yn addas, ond nid yn gyfan gwbl, ar gyfer myfyrwyr aeddfed sydd well ganddynt amgylchedd mwy tawel. Ond, er hyn cofiwch y bydd byw yn gymunedol yn naturiol yn fwy swnllyd na byw yn eich cartref eich hun ac ni allwn reoli unrhyw swn ˆ sydd yn digwydd tu allan i’r adeilad. Nodwch mai ond nifer cyfyngedig o'r ystafelloedd hyn sydd ar gael felly ni allwn sicrhau y bydd pob cais am ystafell ‘dawel’ yn llwyddiannus.
Llety Preifat Mae gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr restr o lety preifat yn ardal Bangor. Gallwch weld y wybodaeth yma yn y Swyddfa Tai Myfyrwyr ei hun (Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg) ble bydd yno staff i’ch cynorthwyo a’ch cynghori. Mae’r rhan fwyaf, os nad pob un o’r tai yma hefyd yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan lle gallwch chwilio drwy ein cronfa ddata am y lle delfrydol i chi rentu: www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumy fyrwyr/taimyfyrwyr Hoffem eich cynghori i beidio â llofnodi cytundeb/contract tenantiaeth hyd nes eich bod wedi gweld yr eiddo a sicrhau ei fod yn addas ar eich cyfer. Er mwyn tawelwch meddwl, bydd aelod o staff Canolfan Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn gwirio’r contract cyn i chi lofnodi. Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/tai myfyrwyr
Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/llety
8
9
ADNODDAU A CHYFLEUSTERAU Undeb y Myfyrwyr Camdybiaeth gyffredin ynglˆyn ag Undeb y Myfyrwyr yw nad yw’n darparu ond ar gyfer y myfyriwr ‘nodweddiadol’, h.y. rhywun 18-22 oed; nid yw hyn yn wir! Bob blwyddyn, bydd Bangor yn agor ei drysau i fyfyrwyr o bob oedran, o 18 i 80 ac, o’r herwydd, un o amcanion allweddol Undeb y Myfyrwyr yw rhoi cymorth a chynrychiolaeth briodol ar gyfer myfyrwyr hˆyn. Mae gennym Seneddwr Myfyrwyr Hˆy n ar y Senedd sydd yno i gynrychioli anghenion myfyrwyr hˆyn. Mae’r gynrychiolaeth hon yn hollbwysig i waith yr Undeb, am fod y Seneddwr yn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion penodol iawn, megis gofal plant ac ystyriaethau teuluol, ymrwymiadau gwaith, neu ofynion dysgu penodol, yn cael ystyriaeth briodol o fewn gwaith yr Undeb. Elfen allweddol arall i’w swyddogaeth yw’r ochr gymdeithasol, ac mae’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd o gwmpas Bangor – edrychwch am bosteri’n hysbysebu’r un nesaf! Wrth reswm, mae’r Undeb yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer y cyfan o boblogaeth y myfyrwyr, faint bynnag a fo eu hoedran. Mae yna dros 135 o wahanol glybiau a chymdeithasau i chi fod yn rhan ohonynt yn amrywio o ffilm a ffotograffiaeth, a drama o chwaraeon fel canˆ wio, pêl-droed a syrffio. Mae ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Ym Medi 2011, agorodd Academi – clwb nos newydd Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal â chlwb nos, mae yno ddau far, caffi a siop.
Ystafell ddydd Bydd llawer o fyfyrwyr hˆyn yn teithio i Fangor bob dydd o leoedd eithaf pell. Gall weithiau fod yn anodd cael hyd i rywle i ymlacio, ymhell o’r llyfrgell a’r barrau coffi. Mae ystafell ddydd ar gael ar y llawr isaf, Neuadd Rathbone, oddi ar Ffordd y Coleg. Yma, gellwch eistedd, ymlacio a bwyta’ch brechdanau, darllen y papur newydd a.y.b. Llyfrgell I’ch helpu i ddod yn gyfarwydd â defnyddio cyfleusterau’r llyfrgell bydd y Brifysgol yn trefnu teithiau rhagarweiniol o gwmpas y llyfrgell yn eich Wythnos Groeso. Ar y teithiau hyn, byddwch yn dysgu sut i gael hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell. Mae’r teithiau hyn yn arbennig o ddefnyddiol, bydd yn arbed llawer o amser ichi yn y tymor hir, yn enwedig pan fyddwch yn derbyn eich rhestr ddarllen yn y darlithiau cyntaf hynny. Cewch fanylion am deithiau’r llyfrgell yn eich pecyn adrannol ar gyfer yr Wythnos Groeso. Mae gan Brifysgol Bangor wyth llyfrgell, a phob un ohonynt yn gwasanaethu cyfadrannau gwahanol. Mae gan unrhyw un sydd wedi cofrestru’n fyfyriwr ym Mangor hawliau benthyca awtomataidd o’r llyfrgell. Mae angen cerdyn llyfrgell a mynediad dilys i ddefnyddio cyfleusterau’r llyfrgell; byddwch yn cael un adeg yn ystod yr Wythnos Groeso.
Mae Undeb y Myfyrwyr wedi’i leoli yn adeilad Bryn Haul ger Safle Ffriddoedd ar Heol Victoria.
Os nad ydych yn byw’n lleol ac yn ei ffeindio’n annodd dod i’r llyfrgell, mae gan y llyfrgell gynllun o’r enw LINC y Gogledd, sy’n golygu gall unrhyw un sy’n aelod presennol o un o lyfrgelloedd partner LINC ofyn am ddeunydd llyfrgell Prifysgol Bangor i’w nôl o’u llyfrgell leol. Gofynnwch am y cynllun wrth y ddesg yn un o lyfrgelloedd y Brifysgol neu yn eich llyfrgell leol.
Ffôn: 01248 388000 E-bost: undeb@undeb.bangor.ac.uk www.undeb.bangor.ac.uk
Os hoffech gael mwy o fanylion am y llyfrgelloedd e.e. rheoliadau, lleoliadau, oriau agor a.y.b. ewch i www.bangor.ac.uk/llyfrgell
BangorStudentsUnion undebmyfyrwyrcymraeg.bangor
Ceir mwy o wybodaeth am barcio yma: www.bangor.ac.uk/ea/VehicleParking
Ysgolion Uwchradd ym Mangor: Ysgol Friars Ysgol Tryfan I gofrestru eich plentyn mewn ysgol, cysylltwch â’r ysgol agosaf at y lle rydych yn byw. Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith nad oes sicrwydd y caiff eich plentyn le yn yr ysgol agosaf at ei g/chyfeiriad cartref, efallai na fydd lle ar ei g/chyfer. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth am Wasanaethau Ysgolion ar 01286 679904 (Gwynedd) neu 01248 752915 (Môn).
ADDYSG
GOFAL PLANT
Os ydych yn symud i Fangor gyda’ch teulu, efallai y bydd angen gwybodaeth arnoch ynglˆyn ag ysgolion lleol a gofal plant. Yng Ngwynedd, caiff plant gychwyn mewn ysgol gynradd yn rhan-amser ym Medi ar ôl eu pen blwydd yn 3 oed. Byddant yn mynychu ysgol gynradd yn llawn-amser ym Medi ar ôl eu pen blwydd yn 4 oed.
Am wybodaeth am yr holl agweddau ar ofal plant, yn cynnwys meithrinfeydd, gofalwyr plant, clybiau ar ôl oriau ysgol, clybiau gwyliau / cynlluniau chwarae a.y.b. yn yr ardal, ffoniwch:
Parcio yn y Brifysgol Mae angen trwydded parcio cerbydau i barcio ym meysydd parcio’r Brifysgol. Gallwch wneud cais am drwydded parcio ym Mar Uno ar Safle Ffriddoedd yn ystod wythnos gyntaf y tymor ac yn y Swyddfa Ystadau a Chyfleusterau (uwchben Bar Uno) ar ôl hynny.
Ysgolion Cynradd ym Mangor: Ysgol Cae Top Ysgol Our Lady RC (Ysgol Babyddol) Ysgol Hirael Ysgol y Faenol Ysgol y Felinheli Ysgol y Garnedd (Ysgol Gymraeg) Ysgol Babanod Coed Mawr Ysgol Glanadda Ysgol Glancegin Ysgol Llandygái
Gwynedd: 01286 675570 Ynys Môn: 01248 752699 Conwy: 01492 876260 Meithrinfa ym mherchnogaeth y Brifysgol yw Tir Na n-Óg, wedi’i lleoli ar Safle’r Santes Fair, Lôn Popty, sy’n darparu gofal ar gyfer plant staff, trigolion lleol a myfyrwyr, os dewisant. Meithrinfa Tir Na n-Óg: 01248 370747 Mae grantiau gofal plant ar gael i fyfyrwyr cymwys, trwy AALl.
@Bangorstudents 10
11
GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD I nifer o fyfyrwyr, mae addysg uwch yn gam ar hyd llwybr i nifer o gyfleoedd yn y dyfodol. Gyda’r buddsoddiad y byddwch yn ei wneud o ran amser ac arian, mae arnoch angen bod yn si wr ˆ y cewch y cyfleoedd gorau am lwyddiant fel myfyriwr â gradd. Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau i’ch helpu i gyflawni’ch dyheadau ar ôl graddio. O’r munud y cyrhaeddwch Fangor, byddwn yno i’ch cynghori a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am brofiad gwaith, swyddi yn ystod y gwyliau, gwaith amser tymor ac, wrth gwrs, eich helpu i nodi’r hyn a wnewch ar ôl graddio. Oherwydd ein bod am i chi gyflawni’ch amcanion, byddwn hyd yn oed yn parhau i’ch cefnogi am dair blynedd ar ôl graddio. Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor Cynlluniwyd Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r cymhwyster ar gael i fyfyrwyr israddedig ac mae’n gweithio ochr yn ochr ag Ysgolion academaidd y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr Bangor, a hefyd gyda sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’r cynllun yn meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o’r potensial hir dymor sy’n deillio o’r gweithgareddau maent yn cymryd rhan ynddynt tra yn y Brifysgol. Mae’r cynllun hefyd yn eu hannog i fanteisio ar bob cyfle sy’n dod i’w rhan er mwyn datblygu eu hunain a’u cyflogadwyedd. Mae’r cynllun yn cynnig achrediad ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac allgwricwlaidd efallai nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn y rhaglen radd academaidd (e.e. gwirfoddoli, profiadau gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd) ond sy’n werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion.
12
Y Jobzone
Rhaglen byddwch fentrus
Y Jobzone yw gwasanaeth cyflogaeth y Brifysgol, yma i’ch helpu i gael hyd i waith yn ystod y tymor o gwmpas eich astudiaethau; gwaith gwyliau ac, yn bwysicaf oll, cyfleoedd i raddedigion, yn genedlaethol ac yn lleol. Ar ben hynny, rydym hefyd yn hysbysebu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, interniaethau a gwaith gwirfoddol. Gellwch gyrchu’r wybodaeth ar-lein, neu alw heibio i gael cymorth a chyngor ar chwilio am gyfleoedd gwaith a gwneud ceisiadau.
Mae ein Rhaglen Byddwch Fentrus yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth ym myd busnes i ddarpar-entrepreneuriaid. Bydd y rhaglen yn eich helpu i ystyried hunangyflogaeth a pharatoi ar ei chyfer. Byddwn hefyd yn eich helpu i ddatblygu medrau mentro er mwyn ichi fod yn fwy llwyddiannus, p’un a fyddoch am fod yn gyflogedig ynteu redeg eich busnes eich hun. Byddwch yn dysgu sut i rwydweithio, meddwl yn greadigol, hyrwyddo eich hun neu gynnyrch yn effeithiol, yn ogystal â datblygu medrau mwy ymarferol sy’n ymwneud â chychwyn busnes.
Cynlluniau Profiad Gwaith Mae Profiad Gwaith yn ffactor hanfodol mewn cael cyflogaeth yn y dyfodol i raddedigion. Rydym yn cydnabod hyn drwy roi cyngor a gwybodaeth i chi am amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a’r gwyliau, a hyd yn oed yn cyflwyno rhaglen o leoliadau gwaith trwy GO Wales. Mae’r rhaglen Lleoliad Gwaith uchel ei pharch, GO Wales, yn gynllun profiad gwaith â thâl sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf i weithio â chyflogwyr yn ystod y tymor a’r gwyliau, gan wneud projectau lefel uchel. Mae hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth ymarferol, ymwybyddiaeth am fusnesau a sgiliau masnachol, tra rydych hefyd yn ennill incwm defnyddiol iawn! Fel rhan o’r rhaglen GO Wales rydym hefyd yn cynnig y rhaglen Blas ar Waith sy’n eich helpu i wneud cyfnod o gysgodi yn y gweithle, a chael golwg ar broffesiynau drosoch eich hun. Cynllun Arweinwyr Cyfoed
Gwirfoddoli I fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli tra byddant yn y brifysgol gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i drefnu profiad gwirfoddol trwy’r Rhaglen Blasu Gwaith GO Wales, Mentora Myfyrwyr a’r Cynllun Arweinwyr Cyfoed. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau recriwtio i fudiadau lleol ac yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill ar ein JobZone.
RHIFAU CYSWLLT DEFNYDDIOL I drefnu ymweliad i Fangor: 01248 388143 Uned Cymorth Ariannol: 01248 383637 neu 383566 Gwasanaethau Myfyrwyr: 01248 382024 Swyddfa Neuaddau: 01248 383477 neu 383941 Llinell Gymorth Mynediad (adeg canlyniadau ym mis Awst): 0800 0851818
YN OLAF... Am fwy o fanylion ynglˆyn â’r holl wasanaethau cefnogi myfyrwyr, am wybodaeth am eich cwrs, eich hawliau fel myfyriwr, rheolau a rheoliadau’r Brifysgol, edrychwch ar yr Arweinlyfr Myfyriwr a gewch oddi wrth eich Tiwtor, adeg Cofrestru, neu o Wasanaethau Myfyrwyr.
Cyngor gyrfaoedd ar-lein Oherwydd ein bod yn sylweddoli bod angen yn aml i fyfyrwyr gael cyngor gyrfaoedd ar fyr rybudd, rydym yn cynnig cyngor ar-lein i ategu ein darpariaeth cyngor arferol. Ffôn: 01248 382071 E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gyrfaoedd
Rydym hefyd yn rhedeg y Cynllun Arweinwyr Cyfoed sy’n cael parch uchel o fewn y sector Addysg Uwch. Mae ein Harweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr o’r ail a’r drydedd flwyddyn sydd wedi eu hyfforddi i gynnig ychydig o gymorth cyfeillgar i chi wrth i chi ymgartrefu ym Mangor. Mae tua 500 o Arweinwyr Cyfoed – un am bob 4-5 o fyfyrwyr newydd!
13