Cadwch yr Awen i Lifo

Page 1

GWASANAETHAU MYFYRWYR

: yd

w 8

01

r2

w na

Io

IONAWR – MEHEFIN 2018

d ed ho Cy

AWEN I LIFO

18 GWE I TH DY RHYN GWE I TH I O L I W NEU D EICH YSG R I F ENNU YN W EL L NAG E R I O E D A HYNNY YN RHAD AC AM D D I M ! CANOLFAN SGILIAU ASTUDIO EICH HELPU I WNEUD Y GORAU O’CH ASTUDIAETHAU


AWEN I LIFO

CANOLFAN SGILIAU ASTUDIO EICH HELPU I WNEUD Y GORAU O’CH ASTUDIAETHAU

.uk .ac or ng ba @ dio stu 9 ua 268 ilia 8 sg 8 3 st: 24 bo 01 E- fôn: F

GWASANAETHAU MYFYRWYR

Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi llunio dwy raglen o weithdai ar draws Semester 2: cyfres Bod yn Feirniadol sy’n canolbwyntio ar dasgau sy’n gysylltiedig ag ysgrifennu, a chyfres Traethodau Hir Campus sy’n archwilio ffyrdd i’ch galluogi chi i fynd i’r afael â’ch ymchwil.

IONAWR – MEHEFIN 2018 /BU Study Skills Centre

@studyskills_BU


H Y D : 2 A W R

Mae ein gweithdai yn rhoi cyfle i archwilio arferion a strategaethau sy’n helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddisgwyliadau academaidd ac i wella ansawdd y gwaith rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae sgwrsio yn ganolog i’n dulliau o ymdrin â thasgau, ac mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu.

Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny yn unig sy’n apelio atoch chi. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda chi. MAE’R GWEITHDAI YN RHAD AC AM DDIM AC MAE MODD ARCHEBU EICH LLE AR EIN GWEFAN BANGOR.AC.UK/SGILIAUASTUDIO I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ac i archebu eich lle, ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor.ac.uk/digwyddiadau.php.cy


Mae’r gyfres hon, sydd wedi’i hanelu’n bennaf at fyfyrwyr israddedig ond sydd hefyd yn berthnasol i ôl-raddedigion, yn darparu cyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i astudio yn y brifysgol. Bwriad y gyfres yw darparu sylfaen gadarn ar gyfer ymdrin ag aseiniadau yn y dyfodol, drwy drin a thrafod pynciau megis rheoli eich astudiaethau, defnyddio ffynonellau a dulliau beirniadol o ddarllen ac ysgrifennu, a thrafod ffyrdd o gynhyrchu a threfnu eich syniadau.

2 4 AIN I O N A W R - 2 1 AIN M A W R T H

BANGOR.AC.UK/SGILIAUASTUDIO


24ain Ionawr Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

BOD YN FEIRNIADOL A yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn awgrymu bod angen i chi fod yn fwy beirniadol yn eich gwaith? Cyflwyna’r gweithdy hwn y cysyniad o ysgrifennu beirniadol a pham ei fod yn bwysig i ysgrifennu ar lefel prifysgol. Byddwn yn archwilio ac ymarfer technegau i ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol ac i’w gymhwyso yn eich gwaith.

BOD YN FEIRNIADOL

31ain Ionawr Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

GWNEUD Y GORAU O’CH DARLITHOEDD Mae darlithoedd yn ffynonellau gwybodaeth gwerthfawr, a drwy sicrhau eich bod yn mynd i’r afael â’r rhain bydd gwell siawns gennych o ychwanegu at eich profiad dysgu. Archwilia’r gweithdy hwn ffyrdd o gymryd nodiadau ystyrlon o’ch darlithoedd a dulliau o roi trefn ar eich syniadau i’ch helpu i gynllunio a strwythuro eich gwaith. Os rydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud y gorau o’ch nodiadau ar gyfer ysgrifennu ac adolygu, yna dewch draw.

7fed Chwefror Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

DEALL CWESTIYNAU TRAETHAWD Ydych chi’n ansicr ynghylch beth mae cwestiwn eich traethawd yn ei ofyn? Ydych chi’n ansicr ynghylch sut i strwythuro eich gwaith? Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar dechnegau y gallwch chi eu defnyddio i ddadansoddi canllawiau traethawd ac i greu sgerbwd ar gyfer strwythur eich traethawd.


B Y N F E N IA D O L

Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar gywain deunydd ar gyfer eich aseiniadau. Byddwn yn ystyried sut i ddewis ffynonellau, sut i ddarllen i bwrpas, a thechnegau i gymryd nodiadau defnyddiol.

IR

DARLLEN I YSGRIFENNU

D

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

O

14eg Chwefror

21ain Chwefror Dydd Mercher | 13.00 – 16.00

YSGRIFENNU BRAWDDEGAU GWELL Bydd y gweithdy hwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o olygu gwallau cyffredin o fewn brawddegau, iaith a llif eich gwaith. Dylai’r sesiwn hon fod o fudd os yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn awgrymu bod angen i chi wella eich atalnodi, gramadeg neu’ch iaith.

28ain Chwefror Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

C

ARALLEIRIO AC OSGOI LLÊN-LADRAD

A N F

A

IL

L

G

O

S

A

U

U

N

T

IA

S D

IO

Bydd y gweithdy hwn yn archwilio arferion da o gyfleu a chyfeirnodi gwaith awduron eraill, gan gynnig nifer o ddulliau er mwyn osgoi llên-ladrad.


7fed Mawrth Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

SUT I GRYFHAU EICH DADL Mae’r gweithdy hwn yn ystyried beth yw dadl academaidd, ac yn archwilio sut y gall gwrthddadleuon gryfhau eich dadl eich hun ac i gefnogi eich honiadau.

14eg Mawrth Dydd Mercher | 13.00 – 15.00 C A N O L FA N S G I L I AU A ST U D I O

RHOI GRAEN AR EICH GWAITH Archwilia’r gweithdy hwn strategaethau ailddrafftio a golygu y medrwch chi eu defnyddio i sicrhau eich bod wir yn dweud beth rydych chi’n bwriadu ei ddweud, a’i ddweud yn bwerus.

21ain Mawrth Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

HYDER I GYFLWYNO AR LAFAR Ystyria’r gweithdy hwn ffyrdd o strwythuro cyflwyniad ac o greu rhestr o gamau i’ch helpu i gyfleu eich neges yn effeithiol. Bydd hefyd cyfle i chi weithio gyda phartner a recordio cyflwyniadau cyflym, ac i adfyfyrio ar eich techneg cyflwyno eich hun.


Mae’r gyfres hon, sydd wedi’i hanelu at fyfyrwyr sy’n ystyried eu traethawd hir yn ogystal â’r rhai sy’n paratoi ymchwil cefndirol, yn darparu cyfle ymarferol: i ddatblygu eich targedau a’ch cynigion ymchwil i reoli eich ymchwil i ystyried dulliau o ymdrin ag adolygu ffynonellau i lunio crynodeb i archwilio beth sy’n gwneud rhagarweiniad pwrpasol i ystyried atebion posib ac adfyfyrio ar eich cynnydd.

2 5 AIN I O N A W R - 6 AIN M E H E F I N


25ain Ionawr Dydd Iau | 10.00 – 12.00

LLWYDDO GYDA’CH ASTUDIAETHAU ÔL-RADDEDIG Mae’r gweithdy hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig a chanolbwyntia ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol.

1af Chwefror

18fed Ebrill

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

TRAETHODAU HIR CAMPUS

C A N O L FA N S G I L I AU A ST U D I O

DIFFINIO EICH PWNC A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw? Dyma ddau gwestiwn sy’n cael eu hystyried yn y gweithdy hwn wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi.

8fed Chwefror

25ain Ebrill

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

CYNLLUNIO EICH TRAETHAWD HIR Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar y syniad o ‘archwiliad ymchwil’ fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich prosiect ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.


15fed Chwefror

2ail Mai

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

ADOLYGU’R LLENYDDIAETH Yn y gweithdy hwn, rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan ystyried hefyd sut mae’r adolygiad wedi ei leoli o fewn eich ymchwil. Rydym hefyd yn ystyried sut i lunio safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth a sut i drefnu eich adolygiad yn y modd mwyaf effeithiol.

22ain Chwefror

9fed Mai

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

CYNIGION YMCHWIL PRIFYSGOL BANGOR

Beth sy’n gwneud cynnig ymchwil da? Bwriad y gweithdy hwn yw ateb y cwestiwn yma drwy drafod beth yw ffocws eich cwestiwn ymchwil a pham ei fod yn werth ei wneud. Byddwn yn edrych ar strategaethau i fireinio cwestiwn neu faes eich ymchwil, er mwyn i chi fod mewn gwell sefyllfa i ysgrifennu eich cynnig ymchwil eich hun.

1af Mawrth

16eg Mai

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

YSGRIFENNU CRYNODEBAU Beth sy’n gwneud crynodeb da? Mae’r gweithdy yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn drwy gymharu crynodebau o ystod o wahanol ddisgyblaethau gan ddod i gasgliadau ynghylch rhai o’r nodweddion craidd.


C A N

23ain Mai

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

A

U

U

N

T

IA

S

YSGRIFENNU RHAGARWEINIADAU

F

A

IL

L

G

O

S

8fed Mawrth

D

Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniad ysgrifenedig a’r hyn a wna awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.

IO

15fed Mawrth

30ain Mai

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

TRAETHODAU HIR CAMPUS

CANFOD ATEBION I’CH CWESTIYNAU YMCHWIL Byddwn yn ceisio canfod atebion i’ch cwestiynau ymchwil. Y bwriad yw eich galluogi chi i ymateb i’r broblem dan sylw, ystyried sut rydych chi’n bwriadu mynd i’r afael â hyn ac i archwilio pam ei fod yn werth ei wneud a’ch cyfraniad chi i’r pwnc.

22ain Mawrth

6ed Mehefin

Dydd Iau | 10.00 – 12.00

Dydd Mercher | 13.00 – 15.00

MAPIO EICH TRAETHAWD HIR Bydd y gweithdy hwn yn eich galluogi chi i adfyfyrio ar eich profiad ymchwil hyd yma, yn ogystal â’r heriau rydych chi wedi dod ar eu traws. Y bwriad yw eich helpu chi i ddeall lle rydych chi wedi cyrraedd ac i ystyried sut fedrwch chi adeiladu ar eich cryfderau.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.