ARWEINIAD I’R RHIANT A’R GWARCHGEIDWAD
Astudio mewn lle arbennig
7th IN THE UK* FOR STUDENT SATISFACTION Y GORAU YNG NGHYMRU AC YN Y 10 UCHAF YM MHRYDAIN* AM FODDHAD MYFYRWYR
“Roedd y Brifysgol yn apelio ataf oherwydd yr awyrgylch cartrefol a chyfeillgar lle mae pawb yn adnabod ei gilydd… Mae’n lle hamddenol i fyw, ond eto’n fywiog gyda’r nos.” CERIS MAIR JAMES, sy’n astudio Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol *ymhlith prifysgolion anarbenigol Prydain (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014)
2
Mae yna amryw o resymau dros syrthio mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol, yr ymchwil o safon fyd-eang a’r safle uchaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch glòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o’r llu o weithgareddau myfyrwyr. Mae manteision bod yn fyfyriwr ym Mangor yn cynnwys: Rhagoriaeth Academaidd
Profiad Myfyrwyr
• Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd
• Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 yn rhoi Prifysgol Bangor ar y brig yng Nghymru ac ymysg y 10 prifysgol orau ym Mhrydain am foddhad myfyriwr
• Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y brig yng Nghymru am ddysgu (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014) • Mae Bangor wedi cael ei gosod yn y 10 uchaf ym Mhrydain am ‘gyrsiau a darlithwyr’ (WhatUni? Student Choice Awards) • Mae Prifysgol Bangor yn arwain o ran y Gymraeg, gan gynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg • Yn ôl yr asesiad mwyaf diweddar o ansawdd ymchwil, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod ymysg y 40 uchaf ym Mhrydain (heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig). Cydnabu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod mwy na thri-chwarter o ymchwil Bangor naill ai gyda’r orau yn y byd neu’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.
• Mae Bangor wedi cael ei rhoi ymysg yr 20 prifysgol uchaf ym Mhrydain am brofiad myfyrwyr (Arolwg Profiad Myfyrwyr, THE) • Sicrwydd o lety, costau byw isel, bywyd naturiol Gymraeg, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau gwerth £3.7M, aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau, cynllun arweinwyr cyfoed, dosbarthiadau ieithoedd am ddim, rhaglen profiad rhyngwladol a chynllun cyflogadwyedd – mae’r cyfan yn cyfrannu at brofiad prifysgol bythgofiadwy a digymar • Mae’r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau cefnogi yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach. Ymysg y datblygiadau diweddar mae Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi newydd, neuaddau preswyl newydd a gwelliannau i’r cyfleusterau chwaraeon. 3
Gofynion Derbyn Mae’r tabl isod yn dangos sut mae graddau Lefel A yn trosi’n bwyntiau.
Gwneud cais i astudio ym
Mangor
Pwyntiau UCAS
A*
140
A
120
B
100
C
80
D
60
E
40
CIPOLWG CYFLYM
Diwrnodau Agored i ymgeiswyr UCAS
• Gwneir yr holl geisiadau i Fangor trwy UCAS (Universities and Colleges Admissions Service).
• Os yw eich mab neu’ch merch wedi cael cynnig lle ym Mangor, bydd ef/hi yn cael gwahoddiad i un o’r Diwrnodau Agored i Ymgeiswyr UCAS.
• Rydym yn ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod, gan asesu gallu pob ymgeisydd i lwyddo ar y cwrs ac elwa arno. • Cyn gynted ag y derbynnir y ffurflen gais o UCAS mae ein swyddfa Dderbyniadau ym Mangor yn gweithio’n agos efo’r Ysgol academaidd berthnasol i ystyried os gallwn gynnig lle ai pheidio; bydd cynnig o’r fath fel rheol yn amodol ar i’ch mab neu ferch ennill graddau penodol yn yr arholiadau sydd ar y gorwel. • Bydd y Swyddfa Dderbyniadau wedyn yn hysbysu UCAS am fanylion y cynnig. Bydd UCAS yn rhoi gwybod i’ch mab neu’ch ferch am ein penderfyniad yn swyddogol.
4
Gradd Lefel A
Er enghraifft: os ydi cwrs yn gofyn am 300 pwynt UCAS, dylai’r myfyriwr anelu at gyflawni graddau BBB mewn Lefel A2. Gall pwyntiau o raddau AS ychwanegol hefyd gyfrannu tuag at y cyfanswm, a ddylai gynnwys 2 Lefel A TAG neu gymwysterau cyfwerth. Gall rhai cyrsiau ofyn am radd B neu uwch mewn pwnc Lefel A penodol.
• Ar Ddiwrnod Agored i Ymgeiswyr UCAS bydd cyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr, a bwrw golwg ar y Brifysgol a’r ardal, a gweld y cyfleusterau a’r llety. • Mae’r Diwrnodau Agored i Ymgeiswyr UCAS fel arfer yn cael eu cynnal rhwng Rhagfyr ac Ebrill ac mae croeso i rieni a gwarcheidwaid hefyd! • Bydd rhai Ysgolion academaidd (e.e. Addysg, Gwyddorau Gofal Iechyd) hefyd yn gwahodd ymgeiswyr i ddod i gyfweliad. • Os nad yw dyddiad y Diwrnod Agored i Ymgeiswyr UCAS yn gyfleus, mae cyfleoedd eraill i ymweld, yn cynnwys Diwrnod Agored cyffredinol y Brifysgol (a gynhelir ar ddydd Sadwrn yn yr hydref ac yn yr haf). Fel arall, gellir trefnu ymweliadau unigol, er enghraifft, yn ystod gwyliau ysgol.
LLINELL GYMORTH ADEG CANLYNIADAU 0800 3285763 Beth sy’n digwydd nesaf os yw eich mab neu’ch merch wedi derbyn ein cynnig yn bendant?
Beth sy’n digwydd nesaf os mai Bangor yw dewis wrth gefn eich mab neu’ch merch?
• Os yw’r cynnig yn amodol ar iddo/iddi ennill graddau penodol yn yr arholiadau sydd ar ddod, yna mae’n amlwg fod yr adeg y cyhoeddir y canlyniadau hynny yn un pwysig felly rydym yn eich cynghori i ofalu nad ydych yn cymryd gwyliau haf ar yr un pryd â diwrnod cyhoeddi’r canlyniadau.
• Rydym yn sylweddoli ei f/bod yn dal cynnig gan Brifysgol arall fel eu dewis cyntaf.
• Os mai Bangor yw dewis cyntaf eich mab neu’ch merch ac maent wedi cyflawni amodau ein cynnig, yna bydd angen iddynt fewngofnodi i UCAS Track i weld a yw’r lle wedi cael ei gadarnhau. • Os nad yw ef neu hi wedi cyflawni amodau ein cynnig mae’n bwysig eu bod yn cysylltu â’n Llinell Gymorth (gweler y rhif ffôn uchod). Efallai y byddwn yn gallu ei (h)ystyried ar gyfer ei (d)dewis cyntaf neu efallai caiff gynnig lle ar gwrs gwahanol ym Mangor.
• Os nad yw ef neu hi yn cyflawni eu hamodau nhw ond maent wedi cyflawni ein gofynion ni, bydd ef neu hi yn cael ei r(h)oi’n awtomatig ym Mangor fel rhan o Broses Derbyniadau UCAS a bydd cadarnhad gan UCAS o’i (l)le yn cael ei anfon ychydig o ddyddiau ar ôl y canlyniadau. Pan fydd lle ar gwrs wedi cael ei gadarnhau: • Bydd cadarnhad swyddogol o’n penderfyniad yn cael ei yrru gan UCAS at eich mab neu’ch merch ynghyd â phecyn cofrestru fydd yn cynnwys Dyddiadur Wythnos Groeso a gwybodaeth ddefnyddiol arall am gychwyn bywyd fel myfyriwr ym Mangor.
5
Gwneud cais am le mewn
8
Ffioedd a Chyllid
Myfyriwr
Neuadd
CIPOLWG CYFLYM • Cyn gynted ag y bydd ceisiadau am Neuaddau yn agor bydd eich mab neu’ch merch yn derbyn e-bost yn ei (g)wahodd i wneud cais.
LLETY YMYSG Y 10 GORAU YM MHRYDAIN (WHAT UNI? STUDENT CHOICE AWARDS)
• Mae’r rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu prosesu ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst, a bydd eich mab neu’ch merch yn cael gwybod yn ystod mis Awst neu ddechrau mis Medi pa Neuadd a ddewiswyd iddo/iddi. • Mae popeth yn cael ei drefnu drwy e-bost. Os nad oes gan eich mab neu’ch merch fynediad at e-bost am unrhyw reswm, dylech sicrhau eich bod chi yn gallu darllen ac ymateb i’r e-byst ar eu rhan.
FFIOEDD A BENTHYCIADAU
• Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd dwy brif gost, sef y ffioedd dysgu a chostau byw.
Rydym yn eich cynghori i geisio’r wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd a benthyciadau. Ceir mwy o wybodaeth yma:
• Yn achos myfyrwyr o Gymru, mae cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru at y ffioedd dysgu.
• Mae pob cais yn cael ei wneud ar-lein ac mae’r holl wybodaeth ar gael o’r wefan: www.bangor.ac.uk/llety • Bydd eich mab neu’ch merch yn gallu nodi’r math o Neuadd yr hoffai fyw ynddi a dylai ef/hi anfon y cais cyn gynted â phosib. Mae’r holl fanylion ar: www.bangor.ac.uk/llety
CIPOLWG CYFLYM
“Profiad cymdeithasol iawn yw byw mewn neuadd, gyda digonedd o gyfle i ddod i ’nabod cyd-fyfyrwyr a gwneud ffrindiau newydd. Braf ydi cael pawb yn mynd nôl i’r un lle ar ôl noson allan hefyd!” GETHIN GRIFFITHS, o Fethel, Caernarfon, sy’n astudio Cerddoriaeth
• Does dim angen talu’r ffi ddysgu yn syth – gohirir y talu tan ar ôl i fyfyrwyr raddio. • Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr o Gymru, yn dibynnu ar incwm eu cartref. • Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciad Costau Byw i helpu gyda chostau byw (llety, bwyd, dillad). • Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Prifysgol Bangor ar gael i roi cymorth ariannol ychwanegol (gweler tudalen 8).
Uned Cymorth Ariannol Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0845 602 8845 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
• Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i: www.bangor.ac.uk/cyllidmyfyrwyr
• Unwaith y caiff myfyriwr gynnig ystafell, mae ganddo/ ganddi 7 niwrnod yn unig i ymateb a thalu’r blaendal llety o £300. 6
7
Ysgoloriaethau a
Bwrsariaethau
GAIR O GYNGOR • Ewch i wefannau www.ucas.com a www. cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk er mwyn dysgu am y drefn ymgeisio a materion ariannol.
xx x
£3.7M
O YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU AR GAEL
CIPOPWG CYFLYM • Mae Bwrsariaeth Bangor ar gael i gynorthwyo myfyrwyr o deuluoedd ag incwm is: yn ddibynnol ar incwm eich teulu; gellwch dderbyn hyd at £4,500. • Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg o £250 y flwyddyn i’r rhai sy’n dewis astudio’r cyfan neu ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,000 neu £500 y flwyddyn hefyd ar gael (www.colegcymraeg.ac.uk). • Ysgoloriaethau Teilyngdod o hyd at £3,000 ar gyfer y rheiny sy’n rhagori yn yr arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad. Ewch i www.bangor.ac.uk/ bwrsariaethau am fanylion sut i wneud cais ac am y dyddiad cau. • Ysgoloriaethau Chwaraeon Bangor gwerth hyd at £3,000 i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. • Ceir hefyd nifer o ysgoloriaethau cronfeydd ymddiriedolaeth, sawl ysgoloriaeth mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru’n eu dyfarnu, ac ysgoloriaethau pwnc ar gael.
• Cynghorir ymgeiswyr i ddechrau eu Datganiad Personol mewn da bryd (Medi, Blwyddyn 13). Bydd rhai cyrsiau gradd yn cychwyn y broses gyfweld mor gynnar â mis Rhagfyr e.e. Nyrsio ac Addysg Gynradd. • Anogwch eich mab/merch i fynd i’r Diwrnod Agored i ymgeiswyr UCAS ac i un o Ddiwrnodau Agored cyffredinol y Brifysgol ac i baratoi cwestiynau i staff a myfyrwyr presennol cyn yr ymweliad. • Gwnewch lun-gopïau/sawl printiad o bob ffurflen e.e. llety, UCAS, cyllid, datganiad personol ac ati fel eu bod wrth law os bydd eu hangen. • Dysgwch cyn gynted â phosib pa gymorth ariannol mae hawl gan eich mab neu’ch merch i’w gael, a phryd y bydd ef/hi yn ei dderbyn, fel y gall ef/hi gynllunio ei g/chyllideb. • Gall eich mab neu’ch merch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu, benthyciad costau byw a’r grant cynhaliaeth ar un ffurflen, sef PN1 Cais am Gyllid i Fyfyrwyr. Rydym yn eich cynghori i lenwi’r ffurflen hon cyn gynted ag y bydd ar gael (ym mis Ionawr cyn i’r cwrs ddechrau). Yng Nghymru, mae’r ffurflen PN1 Cais am Gyllid i Fyfyrwyr ar gael o www.cyllidmyfyrwyrcymru. co.uk
• Anogwch eich mab neu’ch merch i agor cyfrif banc myfyriwr cyn iddo/iddi gychwyn yn y Brifysgol. Mae’r Llyfryn Cyngor Ariannol (a anfonir yn y pecyn cofrestru) yn cynnwys cynllunydd cyllideb – gweithiwch trwy hwn gyda’ch mab neu ferch cyn dechrau’r Wythnos Groeso. • Sicrhewch fod gan eich mab neu’ch merch rywfaint o arian yn ei g/chyfrif ar ddechrau’r tymor, rhag ofn bod oedi, am unrhyw reswm, cyn iddo/iddi dderbyn ei fenthyciad. • Bydd datgelu anabledd, dyslecsia neu anhawster iechyd meddwl yn fuan yn gymorth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer unrhyw ofynion cynhaliol y bo eu hangen ar eich mab neu’ch merch. • Peidiwch â phrynu na dod â gormodedd o lestri, sosbenni na chyllyll a ffyrc at ddefnydd eich mab neu’ch merch mewn Neuadd Breswyl, gan y bydd modd rhannu rhai pethau â myfyrwyr eraill yn eu fflat. Mae modd prynu unrhyw beth bo ei angen arnynt yn lleol. • Mae mwy o wybodaeth i rieni a gwarcheidwaid ar www.bangor.ac.uk/rhieni. Gellwch chi neu eich mab/merch gael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y Brifysgol trwy ddilyn Prifysgol Bangor ar Facebook, Twitter neu Instagram.
• Am y wybodaeth mwyaf diweddar ar yr uchod, ewch i: www.bangor.ac.uk/bwrsariaethau 8
9
YMYSG YR 20 UCHAF YM MHRYDAIN AM BROFIAD MYFYRWYR
Bangor
does unman tebyg
Lleoliad Cyfeillgar a Chyfleus
Bangor: Y Profiad
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Llety
• Mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio ynddi, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint bychan a natur gyfeillgar y Brifysgol a’r dref
• Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 yn gosod Prifysgol Bangor ar y brig yng Nghymru ac ymysg y 10 prifysgol orau ym Mhrydain (ymhlith prifysgolion anarbenigol) am foddhad myfyrwyr
• Mae Prifysgol Bangor yn y 20 uchaf o brifysgolion o ran cefnogaeth a lles (Arolwg Profiad Myfyrwyr, THE)
• Sicrwydd o lety i holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n ymgeisio o fewn yr adegau priodol
• Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwr ym Mangor ac mae bwrlwm anhygoel yma o ran bywyd cymdeithasol a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg • Mae’n cael ei gydnabod mewn sawl arolwg myfyrwyr fel un o’r lleoedd gorau ym Mhrydain i fod yn fyfyriwr • Mae maint Bangor yn golygu ei bod yn hawdd dod i adnabod pobl, ac mae ein myfyrwyr yn ymgynefino yn gyflym • Lleoliad gwych ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau awyr agored • Bydd canolfan Pontio yn cynnig rhaglen gyffrous o gelfyddydau ac adloniant.
10
• Mae Bangor wedi cael ei gosod ymysg yr 20 prifysgol uchaf ym Mhrydain am y profiad a gaiff myfyrwyr yno (Arolwg Profiad Myfyrwyr, THE) • Mewn safle delfrydol ac â phob math o gyfleusterau ar gyfer gwahanol chwaraeon – yn enwedig rhai awyr agored • Does dim rhaid i chi fod yn frwd ynghylch chwaraeon i astudio yma – mae llawer o’n myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r lleoliad prydferth, a’r ffaith ei fod yn tueddu i fod yn fwy diogel, yn lanach ac yn fwy cyfeillgar na llefydd llawer mwy • Aelodaeth am ddim o tua 150 o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr
• Mae dros £3.7M ar gael mewn bwrsariaethau ac ysgoloriaethau gan gynnwys Bwrsariaethau Bangor gwerth hyd at £4,000 i rai o deuluoedd ar incwm is, Bwrsariaethau Cychwyn gwerth £1,000 i fyfyrwyr o ofal ac Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth £3,000 • Mae gan Fangor un o’r cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf sydd gan unrhyw Brifysgol • Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau yn y Brifysgol, yn ogystal â chefnogaeth gyson wedyn er mwyn iddynt barhau i wneud cynnydd academaidd • Opsiwn newydd i astudio dramor sy’n rhoi’r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn
• Mae Prifysgol Bangor yn y 10 uchaf ym Mhrydain am ansawdd ein llety • Neuadd JMJ – sy’n ganolbwynt bywyd cymdeithasol clòs a chyfeillgar i fyfyrwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dysgu’r iaith • Gallwch gerdded i adeiladau’r Brifysgol ac i ganol y ddinas • Cefnogaeth Uwch Wardeiniaid, tîm mawr o Wardeiniaid a Staff Diogelwch ar gael 24 awr y dydd.
• Dosbarthiadau iaith gyda’r nos am ddim i holl fyfyrwyr Bangor.
11
#PRIFYSGOL BANGOR 39939 1.15
Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 383561 / 01248 382005 E-bost: diwrnodagored@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk 16
Mae’r Brifysgol yn ymdrechu i’r eithaf o fewn rheswm i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Ionawr, 2015).
16