Prospectws Ôl-raddedig 2018 Cymraeg

Page 1

PRIFYSGOL BANGOR PROSPECTWS ÔL-RADD


CYNNWYS

CYFLWYNIAD 1 2 4 6

Cyflwyniad i’r Brifysgol Gwybodaeth am y Brifysgol Rhagoriaeth Ymchwil Ryngwladol Arwain ar y Gymraeg

BYW AC ASTUDIO YM MANGOR 8 Llety 9 Cefnogaeth i Fyfyrwyr 14 Byw ac Astudio ym Mangor

CYFLEUSTERAU AC ADNODDAU 12 Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau 13 Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth

CYLLID MYFYRWYR A GWNEUD CAIS 16 Cyllid a Ffïoedd Myfyrwyr 18 Gwneud Cais a Gofynion Mynediad 19 Dewisiadau Astudio

GWYBODAETH GYFFREDINOL 66 Mynegai Pwnc 67 Mynegai Cyffredinol 68 Cysylltiadau Defnyddiol

@prifysgolbangor www.facebook.com/PrifysgolBangor

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau

20 22 24 25 30 33 34 36 37

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Ysgol Cerddoriaeth Ysgol y Gymraeg Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Ysgol Ieithoedd Modern Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ysgol y Saesneg 38 Ysgol Dysgu Gydol Oes

40 COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG A GWYDDORAU CYMDEITHAS 41 Ysgol Busnes Bangor 43 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas 45 Ysgol y Gyfraith 46 Ysgol Addysg 50 52 54 55

COLEG GWYDDORAU NATURIOL Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Ysgol Gwyddorau Eigion

56 57 58 59 60 61

COLEG IECHYD A GWYDDORAU YMDDYGIAD Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ysgol Gwyddorau Meddygol Ysgol Seicoleg Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol

62 63 64 65

COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL Ysgol Cemeg Ysgol Cyfrifiadureg Ysgol Peirianneg Electronig


CYFLWYNIAD I’R BRIFYSGOL Wedi ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad maith o ragoriaeth ac mae’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau, o ran safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr. Heddiw mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ffyniannus a blaengar sy’n cynnig cyfleoedd ôl-radd rhagorol mewn cyrsiau hyfforddedig a graddau ymchwil. Mae gennym record ragorol am ansawdd ein hymchwil a’n haddysgu. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, nodwyd bod ymchwil o safon gyda’r orau yn y byd yn cael ei gwneud ym mhob un o’n 19 maes pwnc a aseswyd, gyda bron 50% yn cael y graddfeydd uchaf o 3* a 4*. Gall myfyrwyr ar gyrsiau ôl-radd hyfforddedig fwynhau dysgu o safon ragorol a gyflwynir gan rai sy’n wir arbenigwyr yn eu meysydd. Mae gan Fangor sylfaen ymchwil gadarn ar draws nifer o ddisgyblaethau academaidd gan ymwneud ag ymchwil ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff ymchwil ei gwneud naill ai’n uniongyrchol yn yr Ysgolion neu mewn Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o Ysgolion. Caiff Prifysgol Bangor ei chydnabod yn rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar sail ei phortffolio amrywiol o raglenni academaidd ac am ansawdd uchel y profiad y mae’n ei roi i’w myfyrwyr a’i staff. Mae gennym ystod o bartneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol gyda nifer o brifysgolion eraill sy’n rhoi cyfle i ni gydweithio mewn ymchwil ac astudio. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n gadarn i roi profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr drwy addysgu, dysgu a chefnogaeth. Mae nifer ein staff dysgu i bob myfyriwr yn ein galluogi i ganolbwyntio ar anghenion unigol pob myfyriwr. Rydym wedi ymrwymo i annog ac ysbrydoli pob myfyriwr i gyrraedd eu llawn botensial.

“Mae Bangor yn gymuned brifysgol sy’n gwirioneddol ofalu am ei myfyrwyr a’u cefnogi, ac rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaeth rhagorol rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr. Mae hwn yn cynnwys cyngor a chefnogaeth ar faterion academaidd, ariannol, gyrfaoedd a phersonol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Yn ogystal, mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd ysblennydd Eryri a thraethau godidog yr ardal yn ychwanegu at brofiad prifysgol digymar.” Yr Athro JOHN G. HUGHES Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 1


GWYBODAETH AM Y BRIFYSGOL

Saif y Brifysgol yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Brifysgol.

Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd, mae Bangor yn rhoi cyfle i chi ddod yn rhan o gymuned fywiog o fyfyrwyr yn un o’r mannau mwyaf deniadol i astudio ynddo yng ngwledydd Prydain. Mae Bangor hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio mewn prifysgol gadarn sydd ag enw da rhagorol iddi am ddysgu ac ymchwil. Saif y Brifysgol hefyd yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Brifysgol. Gall tua 70% o boblogaeth Gwynedd siarad Cymraeg a defnyddir y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd yr ardal. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn nhreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyfoethog yr ardal a bydd yn parhau i chwarae rhan amlwg yn meithrin y bywiogrwydd diwylliannol hwn. Dysgir ein holl gyrsiau yn Saesneg, er bod cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio nifer o gyrsiau drwy’r Gymraeg. Mae dros 20% o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg a Saesneg, tra bod 58% o’n staff yn ddwyieithog neu’n dysgu Cymraeg. Caiff Bangor ei chydnabod yn un o brifysgolion amlycaf y byd ym maes ymchwil i ddwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Mae dros hanner ein myfyrwyr yn ferched ac rydym yn recriwtio myfyrwyr o bob cefndir. Rydym yn arbennig o boblogaidd gyda myfyrwyr sy’n hoff o’r ymdeimlad cymunedol llai y gall y Brifysgol a dinas Bangor eu cynnig. Daw tua 20% o’n myfyrwyr llawn-amser o 28 gwlad yr Undeb Ewropeaidd ac o 87 o wledydd eraill ledled y byd. Daw rhai o gyn belled â Bahrain, Bangladesh, Brunei, Chile, China, Ghana, Japan, Kazakhstan, Libya, Fietnam a’r Unol Daleithiau.

2 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Pam asudio ym Mangor? Mae Prifysgol Bangor yn amfalchïo yn ansawdd yr addysgu a gynigir, ac mae adolygiad diweddar gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r achrediad uchaf bosib i safonau academaidd y Brifysgol. Mae dyfarniad o ‘hyder’ gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn cadarnhau safle a phroffil academaidd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi gwneud yn dda mewn amrywaieth o arolygon myfyrwyr sy’n mesur lefel boddhad a phrofiad yn gyffredinol. Er enghraifft cafodd Bangor ei rhoi yn y 12 uchaf am ddarparu addysg uwch mewn grwpiau bychain (Times Higher Education). Mewn arolwg myfyrwyr cenedlaethol diweddar (Times Higher Education) roedd Bangor ymysg y 10 uchaf am ansawdd ein llety. Mae gwobrau Dewis Myfyrwyr gan What Uni hefyd wedi rhoi ein neuaddau yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig.


“Mae’r cyrsiau yn ddiddorol, mae’r awyrgylch yn y Brifysgol yn gyfeillgar ac yn gefnogol, ac mae’r lleoliad yn hardd.”

“Dewch i Fangor achos mae’n ddinas fach ond mae popeth angenrheidiol yma ar eich cyfer, mae teimlad diogel iawn i’r lle ac mae’r Brifysgol yn gefnogol iawn o’i holl fyfyrwyr.”

“Mae Bangor yn dref llawn bwrlwm, mae pawb mor gyfeillgar ac rwy’n mwynhau’r bywyd cymdeithasol yn fawr a chael gwneud hynny yn y Gymraeg.”

“Mae popeth yn gyfleus, o ran teithio ac adnoddau, ac mae’r gymuned Gymraeg yn arbennig, yn groesawgar a chefnogol i waith ymchwil.”

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 3


RHAGORIAETH YMCHWIL RYNGWLADOL Prifysgol Ymchwil-ddwys Mae gan Brifysgol Bangor sylfaen ymchwil gadarn sy’n rhychwantu amrediad o ddisgyblaethau academaidd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Brifysgol yn rhoi cefnogaeth gref i weithgareddau ymchwil sy’n cynnwys annog cysylltiadau gyda chyrff masnachol a diwydiannol yn y DU a thramor. Un o amcanion y Brifysgol yw bod yn ymatebol i anghenion lleol a rhanbarthol, ac mae’n arbennig o ymwybodol o’i lleoliad yng ngogledd Cymru a’i swyddogaeth fel canolfan ymchwil a hyfforddiant i Gymru. Buddsoddi yn Eich Dyfodol Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr, clwb nos newydd i Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd megis y Ganolfan Rheolaeth ac adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru. Y project mawr nesaf yw Pontio - Canolfan newydd i’r Celfyddydau ac Arloesi a fydd yn rhoi cyfleusterau celfyddydau ac adloniant cyffrous i’r Brifysgol a’r gymuned leol. Ymchwil Bangor a Chi Mae addysgu ac ymchwil Bangor wedi’u cyfuno â chyfleusterau o safon uchel yn cynnig cyfleoedd ymchwil a dysgu o safon fyd-eang i chi. P’un a ydych chi’n astudio cwrs ôl-radd a addysgir ynteu radd ymchwil ôl-radd, byddwch yn cyfrannu at ein rhagoriaeth ymchwil. Byddwch yn elwa o addysgu o safon uchel a gyflwynir gan wir arbenigwyr yn eu maes ac yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil arloesol.

Ymarfer Asesu Ymchwil Mae’r Ymarfer Asesu Ymchwil yn mesur ansawdd yr ymchwil a gyflawnir mewn prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae’r cyrff ariannu addysg uwch yn defnyddio’r canlyniadau i ddewis pa lefel o grant ymchwil i’w roi i sefydliadau. Dyma’r categorïau asesu: 4* = arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd 3* = rhagoriaeth ryngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd, ond ychydig yn is na’r safon uchaf o ragoriaeth 2* = cydnabyddiaeth ryngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd 1* = cydnabyddiaeth genedlaethol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd Annosbarthedig = is na safon gwaith a gydnabyddir yn genedlaethol Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, canfuwyd ymchwil o safon fyd-eang ym mhob un o’r 19 maes pwnc a aseswyd ym Mangor, a chafodd bron 50% o’r rhain y radd uchaf sef 3* a 4*. Mae meysydd o ragoriaeth benodol yn cynnwys Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Busnes – y gorau ym Mhrydain, a Pheirianneg Electronig – yr ail orau ym Mhrydian. Hefyd, mae Gwyddor Chwaraeon a Chymraeg yn y 10 uchaf yn eu hunedau asesu ac mae Seicoleg yn 11eg ym Mhrydain. O ran y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ystyriwyd bod 90% o staff ymchwil yr Ysgol Gerddoriaeth, er enghraifft, o safon sy’n arwain y byd neu o safon ryngwladol. Ac ystyriwyd hefyd bod 90% o staff ymchwil ym maes Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd, sy’n cynnwys Gwyddorau Eigion, o safon sy’n arwain y byd neu o safon ryngwladol.

4 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


PRIFYSGOL RYNGWLADOL I’R RHANBARTH "Yn academaidd, mae gan Fangor draddodiad hir o ragoriaeth. Cafodd ei sefydlu yn 1884, a chafodd ei safle fel sefydliad addysg uwch o'r radd flaenaf ei gadarnhau gan yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, pan nodwyd bod ymchwil gyda'r orau yn y byd yn cael ei gwneud ymhob un o'n 19 maes pwnc a aseswyd." CANLLAW PRIFYSGOLION Y SUNDAY TIMES

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 5


ARWAIN AR Y GYMRAEG Y Gymraeg ym Mangor Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith cynhwysfawr ac wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Prif nod y Cynllun yw hyrwyddo a datblygu gwaith y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi fframwaith ar gyfer datblygiadau pellach i’r dyfodol. Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’i myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Brifysgol wedi ymroi yn benodol i gynyddu nifer y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd. Beth ydi gwerth hyn oll? Fydd dewis astudio yn y Gymraeg o ddefnydd yn y pen draw? Yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o fusnesau a sefydliadau gydnabod ac ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft: • Gwaith cymdeithasol • Cyngor gyrfaoedd • Cyllid • Addysg • Y sector cyfiawnder • Llywodraeth leol • Rheoli gweinyddol a busnes • Technoleg darlledu • Therapyddion iaith a therapyddion lleferydd • Swyddi gweinyddol Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, mae astudio o leiaf ran o gwrs ôl-radd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd. Bydd sgiliau Cymraeg mewn maes arbenigol yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Astudio drwy’r Gymraeg – pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr ôl-radd Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Rhan bwysig iawn o’r gefnogaeth hon ydy’r gwasanaethau mae Canolfan Bedwyr yn eu cynnig. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: 1. Modiwl Sgiliau Iaith 2. Meddalwedd Cyfrifiadurol 3. Gwasanaeth Terminoleg 4. Gwasanaeth Cyfieithu Llawn 5. Fforwm Drafod 1. Modiwl datblygu sgiliau iaith – Ymdrin â’ch pwnc drwy’r Gymraeg Mae’r modiwl hwn wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer anghenion myfyrwyr ôl-radd ac yn cynnig cymorth i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl ddatblygu eu sgiliau iaith fel y gallant ymdrin â’u pynciau yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. 2. Meddalwedd cyfrifiadurol, Cysgliad, i’ch helpu i ysgrifennu Cymraeg cywir Mae Cysgliad yn becyn poblogaidd dros ben, ac yn adnodd hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg. Mae Cysgliad wedi’i osod ar rwydwaith y Brifysgol, ac mae hefyd ar gael i’w brynu o Ganolfan Bedwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau arbennig i fyfyrwyr. 3. Gwasanaeth Terminoleg Mae gwasanaeth terminoleg Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda’r gwaith o ganfod y termau cywir yn eich maes pwnc. Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Mae swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Fel rhan o’r project cenedlaethol gall myfyrwyr gysylltu â’r swyddog am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio. 4. Gwasanaeth cyfieithu llawn Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn: • cyfieithu i’r Saesneg waith ysgrifenedig myfyrwyr sydd i’w asesu • cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Saesneg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 5. Fforwm Drafod Fforwm ar gyfer myfyrwyr ôl-radd a myfyrwyr ymchwil sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r Fforwm Drafod. Mae’n cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, ac mae’n gyfle i rannu profiadau ac arferion da am faterion sy’n ymwneud ag ymchwil a dysgu. Ffôn: 01248 383293 E-bost: swyddfa.canolfanbedwyr@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr

6 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn bodoli ers Ebrill 2011, a’i fwriad yw hybu dysg a gwybodaeth drwy gynllunio a datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym maes addysg uwch. Nid yw’r Coleg yn bodoli mewn un lleoliad daearyddol, nac yn dyfarnu ei raddau ei hun, ond yn hytrach, mae’n gweithio gyda’r sefydliadau addysg uwch presennol yng Nghymru. Mae cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Am ragor o wybodaeth gweler www.colegcymraeg.ac.uk Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd meistr – naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob ysgoloriaeth yn werth £1,500, ac er mwyn bod yn gymwys, rhaid: • dilyn un o’r cyrsiau meistr cymwys • dilyn o leiaf 60 credyd o ran 1 y cwrs drwy’r Gymraeg • llunio’r traethawd estynedig yn y Gymraeg. Ceir rhestr o’r cyrsiau cymwys, y canllawiau ymgeisio a’r amodau a thelerau ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn darparu nawdd ariannol sylweddol – sy’n gyfwerth ag ysgoloriaethau ôl-raddedig Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) – i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth. Y Brifysgol sy’n gyfrifol am enwebu myfyrwyr ar gyfer yr ysgoloriaethau hyn.

“Mae’n fraint cael arwain nifer o ddatblygiadau sy’n cyfrannu’n ymarferol at nod Llywodraeth Cymru o gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Ar yr un pryd, rydym yn falch iawn o fod yn ganolbwynt i ymdrechion Prifysgol Bagnor i ddatblygu a chryfhau ei safle fel y Brifysgol arweiniol o ran y Gymraeg ac addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.” DR LLION JONES Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr

Gweler tudalen 16 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 7


LLETY

Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd mewn llety a reolir gan y Brifysgol. Mae holl lety’r Brifysgol yn hunanarlwyol a rhennir ceginau â chyd-fyfyrwyr y neuaddau. Mae’r offer a ddarperir yn y ceginau’n amrywio o neuadd i neuadd, ond bydd cyfleusterau sylfaenol megis poptai, oergelloedd a rhewgelloedd ym mhob un. Mae ein safleoedd llety wedi’u lleoli drwy’r ddinas i gyd felly ni fyddwch chi byth yn bell o siopau, tafarndai a chaffis o bob math. Mae mwy o fanylion ar gael yn: www.bangor.ac.uk/llety

Mannau Bwyta Mae amrywiaeth o fannau bwyta, sydd ar agor i bawb, ar gael mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y campws. Mae’r rhain wedi’u lleoli ar brif safle llety Ffriddoedd (Bar Uno), Safle’r Normal (Y Bistro), ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (Café Teras), yn Adeilad Canolfan Amgylchedd Cymru (Caffi Glas) ac yn y Ganolfan Rheolaeth. Mae ein holl leoliadau arlwyo’n defnyddio cynnyrch lleol a Masnach Deg pryd bynnag y bo’n bosibl.

Fodd bynnag, mae’n well gan lawer o ôl-raddedigion fyw yn y sector preifat, ac mae’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn gallu darparu gwybodaeth am lety, fflatiau, bythynnod a thai.

Os yw’n well gennych fwyta allan, mae nifer o fwytai a siopau prydau parod (Groegaidd, Eidalaidd, Tsieineaidd ac Indiaidd) yn agos at brif adeiladau’r Brifysgol.

Y Swyddfa Tai Myfyrwyr sy’n delio â llety rhentu preifat i fyfyrwyr. Mae staff y Swyddfa Tai Myfyrwyr ar gael i roi cymorth a chyngor ac mae’r holl eiddo hefyd wedi’i hysbysebu ar ein gwefan lle gallwch chwilio yn ein cronfa ddata am yr eiddo delfrydol i’w rentu i chi. Rydym hefyd yn darparu Canllawiau Myfyrwyr i Lety Preifat, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu wrth chwilio am eich tŷ cyntaf yn y sector rhentu preifat, gan nodi beth i chwilio amdano a’ch hawliau chi fel tenant. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/taimyfyrwyr neu e-bost taimyfyrwyr@bangor.ac.uk

8 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


CEFNOGAETH I FYFYRWYR Ym Mangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. Os oes arnoch angen cymorth â mater ariannol, personol, academaidd neu weinyddol, mae gennym staff profiadol i’ch helpu. Cefnogaeth Academaidd Er mwyn rhoi i fyfyrwyr ôl-radd y portffolio eang o sgiliau y mae cyflogwyr yn eu mynnu, rydym yn darparu cyfres o gyrsiau sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa wedi’i chreu i helpu myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor fodloni gofynion Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Cynghorau Ymchwil y DU. Cyflenwir y Rhaglen fel partneriaeth rhwng yr Uned Datblygu Academaidd ac Ysgolion a Cholegau academaidd ac fe’i cynigir yn ddidâl i bob myfyriwr ôl-radd ym Mangor, beth bynnag yw ei ffynhonnell gyllid. Cyflenwir yr hyfforddiant mewn amrywiaeth o fformatau, o fodiwlau a addysgir yn ffurfiol i weithdai hanner diwrnod. Rydym yn cynnig rhaglen hyblyg y gall myfyrwyr, gan ymgynghori â’u goruchwylwyr, ei theilwra i’w hanghenion unigol ac i anghenion eu projectau ymchwil. Mae mwy o fanylion ar gael yn: www.bangor.ac.uk/adu Mae’r Rhaglen PGCertHE ar gael i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym meysydd addysgu, dysgu ac asesu, gan gynnwys staff academaidd, cynorthwywyr ymchwil ac ôl-raddedigion. Mae mwy o fanylion yn: www.bangor.ac.uk/adu/the_scheme/the.php.cy Sgiliau Astudio Mae Canolfan Sgiliau Astudio’r Brifysgol yn rhoi cyngor cyffredinol ar bob agwedd ar astudio, yn cynnwys materion fel cymryd nodiadau, cynllunio traethodau hir a’u hysgrifennu, cyflwyniadau llafar a mathemateg, ystadegau a rhifedd. Mae ymgynghoriadau unigol ar gael, ynghyd â gweithdai i grwpiau ac adnoddau ar-lein. Mae mwy o fanylion i’w cael o’r wefan Sgiliau Astudio: http://studyskills.bangor.ac.uk/index.php.cy

Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd Y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd yw’r corff swyddogol sy’n cynrychioli myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae croeso i holl fyfyrwyr ôlradd gymryd rhan yn y digwyddiadau, dod i’r cyfarfodydd a sefyll mewn etholiadau. Mae’r Fforwm yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â ffurfio cyswllt rhwng y myfyrwyr yn gyffredinol a grwpiau tasg neu baneli gweithredu’r Brifysgol. Gwasanaethau Myfyrwyr Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig y cymorth a ganlyn: • gwasanaeth cynghori am ddim a chyfrinachol • cynghorwyr iechyd meddwl i gynorthwyo myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau a rhoi gwybod iddynt am ffynonellau cymorth a chefnogaeth eraill • tîm o staff i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau difrifol yn ymwneud â myfyrwyr y tu allan i oriau Prifysgol arferol • gofal iechyd drwy feddygfeydd dyddiol • mae ein tîm o Gaplaniaid yn rhoi cefnogaeth i holl aelodau’r Brifysgol, beth bynnag fo eu daliadau crefyddol • Swyddfa Cefnogaeth Ariannol • Swyddfa Tai - am lety yn y sector breifat. Undeb y Myfyrwyr Mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch cefnogi gydol eich cyfnod ym Mangor drwy’r canlynol: • cynrychiolaeth academaidd • eiriol ar eich rhan ynghylch gwasanaethau • gellwch alw ein gwasanaeth gwrando cyfrinachol, Nawdd Nos • mae’r Is-lywydd dros Addysg a Lles yn Undeb y Myfyrwyr yno i’ch helpu gydag unrhyw faterion o’r fath sydd gennych tra byddwch yn y Brifysgol. Maent yn cynnal y cynllun cynrychiolwyr cyrsiau ac maent wrth law i ymdrin ag unrhyw broblem y gellwch ei hwynebu. Gallant eich cyfeirio at y person mwyaf priodol i’ch helpu i gael ateb i’ch problem.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 9


Gwasanaeth Anabledd Rydym yn cynnig gwasanaeth i bob myfyriwr anabl boed yn fyfyriwr llawn-amser neu ran-amser. Mae cynnwys gwybodaeth am eich anabledd, cyflwr iechyd parhaus neu anhawster iechyd meddwl ar eich ffurflen gais yn ein galluogi i ddechrau trafod ar y dechrau unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfrinachol ac ni chaiff gwybodaeth ei rhannu oni bai bod rhywun arall yn y Brifysgol angen gwybod, pan fo hynny’n briodol a gyda’ch caniatâd chi. Caiff gofynion pob unigolyn eu hystyried yn unigol ond mae rhywfaint o’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys: • gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag anabledd neu iechyd meddwl • paratoi Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol a gytunir gyda myfyrwyr a’u hysgolion academaidd • trefnu i wneud addasiadau penodol i arholiadau, er enghraifft, amser ychwanegol • rhoi cyngor ar strategaethau er mwyn hwyluso astudio a thasgau bob dydd • cymorth i wneud cais am gyllid trwy Lwfans Myfyrwyr Anabl lle bo’n berthnasol a defnyddio’r Lwfans Myfyrwyr Anabl i ddarparu gweithwyr cefnogi • trwy'r Lwfans Myfyrwyr Anabl, darparu gweithwyr cefnogi, e.e. mentoriaid, ysgrifenwyr nodiadau, gweithwyr cefnogi dysgu • trefnu gwasanaeth cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain • eich helpu i gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i gael cefnogaeth gofal personol • gweithio gydag ysgolion academaidd a’r brifysgol yn ehangach i sicrhau polisïau ac arferion cynhwysol. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd yn: Gwasanaeth Anabledd Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DF Ffôn: 01248 382032 E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/anabledd

10 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Canolfan Dyslecsia Miles Bangor Mae Gwasanaeth Canolfan Dyslecsia Miles i Fyfyrwyr yn darparu cefnogaeth gyffredinol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd â dyslecsia, a gwahaniaethau dysgu penodol eraill megis dyspracsia ac ADD/AD(H)D. Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio â staff y Brifysgol i ddarparu gwybodaeth a helpu i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol ym Mangor. Ceir mwy o wybodaeth ar y wefan: www.dyslexia.bangor.ac.uk Gallwch gysylltu â Chanolfan Dyslecsia Miles yn: Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslex-admin@bangor.ac.uk Cynllun Llysgennad Ôl-raddedigion Mae’r cynllun hwn wedi’i fodelu ar ein Cynllun Arweinwyr Cyfoed llwyddiannus i israddedigion, sy’n cynnig croeso cynnes a chymorth i setlo ym mywyd Bangor. Mae’r Llysgenhadon Ôl-raddedigion yn deall sut beth yw cymryd y cam i fyny i astudio ôl-radd, felly gallant roi rhai awgrymiadau cyfeillgar i chi a’ch cyflwyno i fyfyrwyr eraill. Maent i gyd yn gyfarwydd â bod yn fyfyriwr ym Mangor a gallant ddangos i chi ble mae popeth y gallai fod ei angen arnoch. Os oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth arnoch ac na allant hwy eu hunain ei rhoi i chi, byddant yn gallu eich cyfeirio at rywun arall a all eich helpu. Cadwch lygad amdanynt pan gyrhaeddwch chi – byddant i’w gweld yn eich Ysgol academaidd yn gwisgo eu ‘hwdis’ gwyrdd. Os na wnewch chi ddigwydd cyfarfod ag un am ryw reswm, cysylltwch â: llysgenhadonolradd@bangor.ac.uk


twitter.com/gyrfaoeddbangor www.facebook.com/gyrfaoeddbangor

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Ein nod yw eich helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gwneud penderfyniadau gwybodus a phriodol yn ymwneud â’ch gyrfa, yn ogystal â chael sgiliau defnyddiol wrth chwilio am waith, megis ysgrifennu CV a sut i fod yn llwyddiannus mewn cyfweliadau. Mae ein tîm, sydd â chymwysterau proffesiynol, yn gwneud hyn drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i chi. Mae’r rhain yn cynnwys arweiniad ar yrfaoedd, cyfleoedd profiad gwaith, cael hyd i swyddi yn ystod y tymor a thros y gwyliau, a datblygu sgiliau menter ac entrepreneuraidd. Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau ar Yrfaoedd Cymorthfeydd a chyfweliadau cynghori unigol ar yrfaoedd, darpariaeth e-ganllawiau ar-lein, adnoddau gwybodaeth, rhaglen weithdai a sgyrsiau gan gyflogwyr. GO Wales Mae gwneud cyfnod o brofiad gwaith yn ffactor hollbwysig i gael swydd dda yn y dyfodol. I’ch helpu yn hynny o beth, rydym yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi ar gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac adegau gwyliau. Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion sydd â chyfeiriad yng Nghymru ennill y blaen yn y farchnad gystadleuol am swyddi drwy gynnig iddynt amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith o safon, a gwasanaethau eraill cysylltiedig, drwy’r amryw o rhaglenni megis: lleoliadau gwaith, cyfnodau blasu gwaith, rhaglen hyfforddiant Academi Graddedigion, cyrsiau hyffoddiant byr a chyllid. JobZone Gall JobZone eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser, swyddi gwag i raddedigion, profiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli. Ewch i JobZone ar-lein: www.bangor.ac.uk/jobzone

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Mae cynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) wedi’i gynllunio er mwyn gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y tymhorau byr a hirach. Mae’n cynnig rhaglen rheoli gyrfa a datblygu sgiliau, tra’n achredu gweithgareddau allgyrsiol na fyddent, o bosib, yn cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn y cwricwlwm academaidd. Mae peilot o’r fersiwn ôl-radd ar y gweill ar hyn o bryd - cysylltwch â cyflogadwyedd@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth. Byddwch Fentrus / B-Enterprising Nod tîm Byddwch Fentrus yw eich annog i fod yn fwy mentrus beth bynnag fo eich maes astudio a ph’un a ydych yn rhagweld eich hun yn gweithio i rywun arall neu’n rhedeg eich busnes eich hun. Rydym wedi datblygu ystod o wahanol gyfleoedd dysgu i’ch galluogi i gael ymwybyddiaeth fasnachol a sgiliau menter eraill, a rhoi cyfleoedd ymarferol i chi gymryd rhan drwy weithdai magu profiad, cystadlaethau a digwyddiadau. Yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau menter, mae Byddwch Fentrus hefyd yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth entrepreneuraidd i gefnogi darpar entrepreneuriaid ac mae’n gweithio’n agos â phartneriaid allanol i ddarparu cefnogaeth fentora unigol, gyfrinachol ac am ddim i’ch helpu i ddatblygu eich syniad busnes. Mae manylion am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau i’w cael yn www.bangor.ac.uk/b-enterprising www.facebook.com/b-enterprising Gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn: Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, 2il Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor, Gwynedd, LL57 2DG Ffôn: 01248 382071 E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gyrfaoedd

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 11


CYFLEUSTERAU AC ADNODDAU Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau Ein nod yw darparu amgylchedd astudio deniadol, gyda llefydd hyblyg ar gyfer holl anghenion dysgu ac ymchwil, yn cynnwys mannau i gydweithio, ystafelloedd cyfarfod a llefydd i astudio’n dawel. Byddwch yn manteisio drwy fynediad hwylus at ein casgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion electronig a phrintiedig, a chronfeydd data ar-lein gyda chysylltiadau i erthyglau testun llawn. Gellir mynd at y rhan fwyaf o adnoddau electronig ar y campws ac oddi arno 24/7 ac maent yn cynnwys pob maes pwnc, o’r celfyddydau i’r gwyddorau naturiol. Mae’r llyfrgell yn tanysgrifio i becynnau cyfnodolion electronig o bwys, yn cynnwys yr Elsevier ScienceDirect, Springer, Wiley, Oxford University Press, Cambridge University Press, Sage, PsycARTICLES, IEEE Xplore, Royal Society of Chemistry, American Chemical Society, American Institute of Physics, BioOne, JSTOR a Project Muse. Gellir mynd at 95% o’n cyfnodolion cyfredol ar-lein. Lle bai bosib, rydym yn prynu e-lyfrau yn ogystal â’r fersiwn printiedig. Gan ddefnyddio ein catalog llyfrgell ar-lein, gellwch ddod o hyd i’r gwahanol adnoddau, yn ogystal ag adnewyddu eich benthyciadau, archebu eitemau a chael golwg ar hen bapurau arholiad. Mae cyfleusterau hunanwasanaeth a mynediad at beiriannau argraffu, llungopïo, sganio a chyfrifiaduron i’w cael yn ein holl lyfrgelloedd. Ceir gwasanaeth wi-fi yn ein holl lyfrgelloedd, yn ogystal ag ystafelloedd cefnogi astudio, gydag offer technoleg gynorthwyol a boglynwyr Braille. Mae gennym un o’r Archifau Prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond drwy wledydd Prydain. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys deunydd hanesyddol a llenyddol yn ymwneud â Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys archifau bron bob un o ystadau tiriog mawr yr ardal.

12 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Mae Gwasanaethau TG yn gyfrifol am weithredu a chynnal rhwydwaith TG y Brifysgol. Maent yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau, yn cynnwys diwifr a mynediad rhwydwaith cyflym ar y campws ac ym mhob neuadd breswyl, a mynediad o bell i TG oddi ar y campws. Mae staff y Ganolfan Gymorth TG ar gael bob amser i roi cyngor, help a chefnogaeth gydag unrhyw beth yn ymwneud â TG. Adnoddau TG ar y Campws - Mae gennym nifer o ystafelloedd/mannau cyfrifiadurol gyda dros 1,000 o gyfrifiaduron ar gael i fyfyrwyr ar draws y campws lle gellir mynd at rwydwaith y Brifysgol. Mae mynediad diwifr a socedi ar gyfer gliniaduron hefyd ar gael. Hefyd mae’r ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored am oriau hir ac am 24 awr y dydd mewn rhai achosion. Mae gan bob cyfrifiadur y meddalwedd angenrheidiol ar gyfer eich gwaith yn y Brifysgol, yn cynnwys Microsoft Office, porwyr gwe, meddalwedd e-bost, meddalwedd ystadegau a meddalwedd graffeg ac ati. Ceir cyfleusterau argraffu a chopïo, yn cynnwys gwasanaeth diwifr, ym mhob ystafell gyfrifiaduron mynediad agored neu gerllaw, ac ym mhob llyfrgell. Mae amrywiaeth o feddalwedd ar gael yn Gymraeg, yn cynnwys Microsoft Office, meddalwedd e-bost, porwyr gwe ac amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Ceir cyfleusterau cyfrifiadurol arbenigol yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau a llyfrgell Deiniol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron gydag amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn y gellir newid eu huchder. Adnoddau TG mewn Neuaddau Preswyl - Gellwch gysylltu â’r rhyngrwyd o’r neuaddau preswyl drwy ein rhwydwaith gwifrog a diwifr. Mae gan bob ystafell wely gysylltiad rhyngrwyd â holl wasanaethau cyfreithlon y we. ‘DesktopAnywhere’ - Trwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘DesktopAnywhere’ cewch fynediad at amrywiaeth o becynnau meddalwedd o rwydwaith y Brifysgol heb orfod gosod unrhyw feddalwedd ychwanegol arbennig ar eich cyfrifiadur. Gellwch gael mynediad o neuaddau preswyl, o’ch cartref, o barthau diwifr, o’r ystafelloedd cyfrifiadur ar y campws neu o unrhyw le sydd â chysylltiad band eang neu well. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu cyfrif e-bost i chi, ynghyd â lle i gadw eich gwaith academaidd, a gellwch ei ddefnyddio mewn unrhyw le sydd â chysylltiad rhyngrwyd. Adnoddau TG i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws - Gellwch ddefnyddio cyfleusterau TG y Brifysgol o’ch cartref neu rywle arall oddi ar y campws gan ddefnyddio unrhyw gysylltiad rhyngrwyd sy’n eich galluogi i bori’r we. Gellwch wedyn ddefnyddio’r un gwasanaeth ‘DesktopAnywhere’ (gweler uchod). Dod â’ch cyfrifiadur eich hun i’r Brifysgol? - Nid oes rhaid i chi gael eich cyfrifiadur eich hun, ond os byddwch yn penderfynu dod â chyfrifiadur gyda chi mae gennym gysylltiad diwifr i’r rhyngrwyd sy’n hawdd ei ddefnyddio ledled y campws.

A allaf fenthyca cyfrifiadur? - Rydym yn cynnig gwasanaeth benthyca gliniaduron – mae gliniaduron PC Notebooks ar gael am ddim am gyfnodau o 1 wythnos a 3 wythnos gan y Ganolfan Cymorth TG, Adeilad Deiniol. Gyda chyfrifiadur a chysylltiad i’r rhyngrwyd gellwch ddefnyddio’r amrywiaeth eang o feddalwedd, e-bost a storfeydd ffeiliau ac ati sydd ar y rhwydwaith. Gwasanaethau i Fyfyrwyr Anabl Mae gwasanaeth DSAKit i Brifysgolion yn wasanaeth achrededig sy’n cyflenwi offer TG yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i gael y Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA). Lle bo’r corff cyllido wedi dewis DSAKit yn gyflenwydd offer, bydd yn cydlynu’r gwaith o ddarparu a gosod cyfarpar a meddalwed TG ac o hyfforddi ayyb, ac yn eich cynorthwyo chi i ddechrau defnyddio’r cyfarpar yn fuan ac yn rhwydd. Am wybodaeth pellach, cysylltwch â DSAKit: E-bost: dsakit@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 388104 www.bangor.ac.uk/dsakit Am ragor o fanylion lwfansau myfyrwyr anabl (DSA), cysylltwch â’r Ganolfan Access. E-bost: access_centre@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 382101 www.bangor.ac.uk/access-centre Technoleg Dysgu Dysgu ar-lein - Mae ‘Blackboard’, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, ar gael i bob defnyddiwr ar y campws ac oddi ar y campws. Mae’n rhoi cefnogaeth ar-lein ychwanegol yn cynnwys nodiadau cwrs, byrddau trafod, hysbysiadau a llawer mwy. Panopto - Meddalwedd recordio darlithoedd wedi ei osod mewn llawer o'r prif ddarlithfeydd. Os yw darlithydd wedi dewis defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’r system yn recordio’r sain ynghyd â’r hyn sy’n ymddangos ar y taflunydd. Gwasanaethau Ar-lein - Mae’r Brifysgol yn darparu mynediad ar-lein at wybodaeth a gwasanaethau i’ch cefnogi yn y Brifysgol, er mwyn arbed amser ac egni i chi, sy’n cynnwys: amserlen ar-lein, pa fodiwlau rydych yn eu hastudio, eich marciau, eich cyfrif TG. Uned Argraffu a Rhwymo - Mae gennym Uned Argraffu a Rhwymo ganolog yn y Brifysgol ac mae’r gwasanaethau ar gael yn cynnwys: • argraffu digidol • rhwymo traethodau hir - cloriau caled a meddal • argraffu crysau T a matiau llygoden • argraffu posteri mawr. • lamineiddio o A4 - A0 Cymorth a Chefnogaeth TG - Mae staff y Ganolfan Gymorth TG yn barod bob amser i helpu a rhoi cyngor gydag unrhyw faterion yn ymwneud â TG. Caiff pob defnyddiwr newydd ganllawiau cynhwysfawr ar yr holl wasanaethau TG sydd ar gael ym Mangor (fersiwn electronig a fersiwn bapur ar gael). Rydym hefyd yn darparu ystod eang o arweinlyfrau TG sydd ar gael ar-lein.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 13


BYW AC ASTUDIO YM MANGOR Y Ddinas a’r Ardal Leol Mae Bangor yn ddinas gadeiriol hynafol mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ar arfordir gogledd Cymru, ble mae mynyddoedd Eryri’n cyfarfod â’r môr. Ystyrir hi’n un o ddinasoedd rhataf y DU i fyw ac astudio ynddi. Mae’r ardal yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr â diddordeb yn yr awyr agored, gan gynnwys hwylio, cerdded, dringo, syrffio, rhwyfo, caiacio a bordhwylio. Mae gan y ddinas ganolfan siopa fyrlymus sy’n cynnwys stryd fawr hiraf Cymru. Mae yna gymysgedd dda o siopau cadwyn cenedlaethol a busnesau lleol llai. Hefyd, mae gan Fangor ddewis da o archfarchnadoedd ac ychydig funudau y tu allan i’r ddinas ceir parc adwerthu â chymysgedd o siopau cenedlaethol. Mae maint bach y ddinas ei hun yn golygu bod cyfleusterau myfyrwyr – gan gynnwys adeiladau’r Brifysgol, llety, y Ganolfan Chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr – o fewn pellter cerdded rhwydd i brif adeiladau’r Brifysgol. Mae siopau’r Stryd Fawr, banciau, archfarchnadoedd, bwytai a bariau hefyd yn gyfagos. Mae maint a natur gyfeillgar Bangor yn golygu ei bod yn hawdd dod i adnabod pobl a bod ein myfyrwyr yn ymgartrefu’n gyflym. Mae arolygon myfyrwyr yn dangos bod cyfran uchel o fyfyrwyr yn dewis Bangor oherwydd natur fach a chyfeillgar y Brifysgol a’r dref. Er bod popeth ym Mangor ei hun yn agos ac yn gyfleus, mae’r ardal leol yn cynnig digonedd o fannau agored. Mae mynyddoedd ac arfordir Eryri’n ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan gynnig cyfleoedd hamdden gwych i chi, o weithgareddau awyr agored i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.

Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant Mae Bangor yn sicr yn ddinas Brifysgol – mae’r adloniant a’r bywyd nos wedi’i anelu at fyfyrwyr a’i arwain gan fyfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu nifer mawr o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr, gan ymdrin ag amrediad eang o ddiddordebau chwaraeon, cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol. Caiff y ffilmiau diweddaraf eu dangos yn y sinema Cineworld Multiplex naw sgrin yng Nghyffordd Llandudno. Ceir amrywiaeth o adloniant yn Galeri Caernarfon, ac yn theatr Venue Cymru yn Llandudno, y ddau ohonynt yn llai na hanner awr o daith o Fangor. O ran cerddoriaeth glasurol, mae Bangor yn cynnig un o’r rhaglenni cyngherddau mwyaf cyffrous ac amrywiol ymysg prifysgolion Prydain i gyd, gyda dros 30 cyngerdd bob tymor. Yn ogystal ag Ensemble Siambr y Brifysgol ei hun, ceir ymweliadau gan artistiaid o safon ryngwladol, perfformiadau rheolaidd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac ymweliadau achlysurol gan gerddorfeydd rhyngwladol. Pontio Bydd Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi newydd ar gampws y Brifysgol, yn debyg o gael effaith sylweddol ar yr economi leol, yn ogystal â dod yn ganolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Mae project Pontio wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Bwriedir i’r Ganolfan – a fydd yn agor yn 2014 – ddod yn sefydliad o fri byd-eang ym maes arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau creadigol, a bydd yn cynnwys theatr, ystafelloedd darlithio, mannau cynnal arddangosfeydd, bar a chaffi. Disgwylir iddi hefyd greu neu ddiogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan i hybu twf economaidd yn yr ardal. Bydd Pontio’n dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol, gan dynnu pobl a busnesau at ei gilydd i hyrwyddo buddsoddi ac adfywio yng Ngogledd Cymru. Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Fangor ydi hwn. Byddwn yn creu Canolfan o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio a fydd yn symbol grymus o adfywio a chydweithio i’r gymuned gyfan.”

14 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Chwaraeon a Ffitrwydd Mae Bangor mewn lleoliad arbennig o dda i fyfyrwyr â diddordeb mewn chwaraeon – yn enwedig chwaraeon awyr agored. Mae dringo creigiau, beicio mynydd, canŵio, hwylio a syrffio i gyd ar gael, yn ogystal â chwaraeon tîm megis rygbi, hoci a phêl-droed. Mae gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, Maes Glas, gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored helaeth gan gynnwys tair campfa â chyfarpar da ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd a hyfforddiant codi pwysau, neuadd gymnasteg, wal ddringo aml-lwybr o wahanol anhawster, a rhan clogfaen, yn ogystal â phedwar cwrt sboncen o safon ryngwladol. Y tu allan, mae gennym ni gaeau glaswellt pêl-droed a rygbi, i gyd mewn safleoedd â golygfeydd prydferth, cae synthetig â llifoleuadau ar gyfer gemau hoci a hyfforddi, a dau gyfleuster amlbwrpas ar gyfer tenis, pêl-droed pump bob ochr a phêl-rwyd. Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae Bangor yn cynnig cyfle i bobl sy’n siarad Cymraeg fod yn rhan o gymdeithas glòs, hynod o fywiog. O’r funud yr ydych yn cyrraedd y Brifysgol mae UMCB yn sicrhau fod pob myfyriwr Cymraeg yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae UMCB yn bodoli i hybu a diogelu buddiannau’r Cymry ym Mangor, ac mae’r aelodau yn medru manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Undeb, tra hefyd yn mwynhau sylw personol a gofalus eu hundeb eu hunain dan arweiniad Llywydd UMCB. Clybiau a Chymdeithasau Gellwch ddilyn diddordebau sydd gennych eisoes, neu rai newydd, drwy’r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau sydd ar gael. Ym Mhrifysgol Bangor ni chodir tâl ar fyfyrwyr am fod yn aelodau o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Mae yma dros 135 o glybiau a chymdeithasau i gyd, yn amrywio o gymdeithasau fel rhai ffilm, ffotograffiaeth a drama, i glybiau chwaraeon fel canŵio, pêl-droed a syrffio, felly rydych yn sicr o gael hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

“Mae’r bywyd cymdeithasol yn eang iawn yma. Rydw i’n gallu byw a chymdeithasu yn Gymraeg yma. Mae Bangor yn cynnig popeth sydd ei angen ar fyfyriwr ac mae’r ardal o amgylch yn cynnig amryw o weithgareddau awyr agored a hamdden.” DANIEL SAJKO, o Sir Benfro, cwrs TAR PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 15


CYLLID A FFIOEDD MYFYRWYR Ffioedd Dysgu Y ffioedd dysgu sy’n talu costau astudio yn y Brifysgol. Mae’r ffioedd hyn yn dibynnu o ba wlad mae’r myfyrwyr yn dod ac maent weithiau’n amrywio gan ddibynnu pa fath o bwnc sy’n cael ei astudio. Er mwyn cael eu hystyried yn fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd at ddibenion talu ffioedd dysgu, rhaid i fyfyrwyr: • fod wedi byw yn y DU neu’r wlad yn yr UE ar ddyddiad dechrau’r cwrs. Diffinnir ‘byw’ fel gallu byw yn y DU/UE heb gyfyngiadau; a • bod wedi preswylio’n arferol yn y DU/UE am y cyfnod tair blynedd llawn yn union cyn dechrau’r cwrs astudio; a • heb fod yn preswylio yn y DU/UE yn llwyr neu’n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawn-amser yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod tair blynedd. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael statws ffoadur neu hawl eithriadol i aros o ganlyniad i gais am loches i Lywodraeth y DU hefyd yn gymwys i dalu cyfradd ffioedd dysgu’r DU/UE. Canllaw’n unig yw’r wybodaeth hon. I weld yr holl ffioedd dysgu presennol ac i gael mwy o wybodaeth am ffioedd cyrsiau penodol, ewch i: www.bangor.ac.uk/ar/main/fees/index.php.cy Cyllid Mae nifer o wahanol ffynonellau cyllid ar gael i fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n hanfodol eich bod yn dechrau meddwl am sut i ariannu eich astudiaethau ôl-radd cyn gynted â phosibl, oherwydd yn aml bydd terfynau amser wedi’u pennu ar gyfer gwneud cais am gyllid. Yn ogystal ag ystyried cyllid allanol, mae’n werth gwybod bod Prifysgol Bangor yn cynnig nifer o’i Hysgoloriaethau ei hun, Ysgoloriaethau Ysgolion academaidd, Efrydiaethau a Bwrsariaethau. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn cynnig sawl ysgoloriaeth i fyfrwyr ôl-radd. Gweler tudalen 7 am fwy o wybodaeth. Mae manylion llawn ffynonellau cyllid ar gael yn: www.bangor.ac.uk/cyllidmyfyrwyr Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd i gyllido eich astudiaethau’n llawn neu’n rhannol drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Yn achos cyrsiau Meistr, mae’r rhain yn amrywio fel rheol o tua £500 i £5,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar y maes pwnc, ac fel rheol maent yn cael eu rhoi ar sail gystadleuol. Yn achos graddau ymchwil, fel PhD, mae’r Brifysgol yn hysbysebu nifer sylweddol o efrydiaethau ymchwil a gyllidir yn llawn bob blwyddyn. Daw cyllid y rhain o gronfeydd ysgoloriaethau canolog, Ysgolion academaidd, Cynghorau Ymchwil y DU a sefydliadau elusennol. Gall cyfleoedd i dderbyn cyllid at astudiaethau godi gydol y flwyddyn, felly fe’ch cynghorir i edrych ar ein gwefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf: www.bangor.ac.uk/scholarships/postgraduate.php.cy

16 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Cynllun Ysgoloriaethau Astudio Dramor Santander Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil Prifysgol Bangor astudio neu ymchwilio dramor mewn sefydliadau o fewn Rhwydwaith Grupo Santander yn ystod y flwyddyn academaidd. Dylai bod cysylltiad rhwng y gweithgareddau y gwneir cais am yr ysgoloriaeth ar eu cyfer â chynlluniau ymchwil presennol a dyfodol yr ymgeisydd, a dylent wneud cyfraniad cadarnhaol i’w Coleg/Ysgol ac/neu i’r Brifysgol. Am fwy o fanylion ewch i: www.bangor.ac.uk/scholarships/santander/santandermobility.php.cy Cyllid gan Drydydd Parti Weithiau mae’n bosibl cael cefnogaeth ariannol gan drydydd parti at eich astudiaethau. Gall hyn ddod gan elusen, sefydliad neu ymddiriedolaeth y mae ei hamcan a’i diddordebau’n cyfateb i’ch maes ymchwil arfaethedig chi, neu efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon eich noddi. Yn y naill achos neu’r llall, mae’r cyfrifoldeb arnoch chi fel y darpar fyfyriwr i sicrhau’r math yma o gyllid ar gyfer eich astudiaethau. Fel rheol, dim ond talu costau eich astudiaethau’n rhannol fydd cyllid gan drydydd parti, ac felly efallai y bydd angen i chi wneud cais i nifer o ffynonellau i sicrhau’r gost lawn. Talu eich hun Mae’n gyffredin i fyfyrwyr ôl-radd, yn arbennig rhai sy’n gwneud cwrs hyfforddedig byrrach (e.e. gradd Meistr), dalu am eu hastudiaethau eu hunain. Gwneir hyn drwy ddefnyddio cynilion sydd ganddynt, gweithio’n rhan-amser i dalu eich costau byw, neu ddefnyddio Benthyciad Datblygu Gyrfa gan un o fanciau’r Stryd Fawr a thalu hyn yn ôl mewn rhandaliadau a gytunwyd â’r banc. Yn aml, mae’n gyfuniad o’r uchod. Am fwy o wybodaeth: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/self_funding Os ydych yn talu am eich astudiaethau eich hun, mae’n werth cofio nad yw’r ofynnol bob amser gan y Brifysgol i chi dalu’r ffioedd dysgu llawn i gyd ar y dechrau; yn aml gellwch dalu mewn rhandaliadau y cytunwyd arnynt, neu drwy ddebyd uniongyrchol misol. I gael mwy o wybodaeth, gweler: www.bangor.ac.uk/finance/ic/ic105.php.cy Cronfeydd Caledi Mae gan y Brifysgol beth cyllid i helpu myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol brys. Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn yn cael ei darparu i sefydliadau er mwyn iddynt fedru rhoi help ariannol i gynorthwyo myfyrwyr sydd mewn trafferthion, yn arbennig i’w helpu i fynd i mewn i addysg uwch ac aros ynddi. Rhoddir cymorth ar ffurf grant nad oes raid ei thalu’n ôl. I gael mwy o wybodaeth, gweler: www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/hardship.php.cy


Ystyrir Bangor yn lle cymharol rad i astudio ynddo, felly gellwch wneud y gorau o’ch arian yma. Costau Byw Isel Mae ymchwil i’r farchnad yn dangos bod costau byw ym Mangor yn llawer is nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Disgrifiwyd Bangor fel ‘un o’r llefydd rhataf ym Mhrydain’ i fod yn fyfyriwr ynddo (The Independent’s A-Z of Universities and Colleges) ac mae’n cael ei nodi’n gyson fel un o’r mannau rhataf i astudio ynddo ym Mhrydain. Trwy ddewis Prifysgol Bangor, rydych eisoes yn gwneud arbediad sylweddol mae’n fwy na thebyg. Rydym yn amcangyfrif y gellwch fyw yn bur gyfforddus yng nghanol dinas Bangor am tua £160 yr wythnos gan rannu llety. Mae hyn wedi’i seilio ar y dadansoddiad costau a ganlyn#: Rhent ystafell mewn llety preifat: Biliau bwyd a gwasanaethau: Costau personol a llyfrau:

tua £70 tua £60 tua £30

O’i gymharu â hyn, gallech ddisgwyl talu tua £285 yr wythnos yn Llundain.* # Nid yw’r amcangyfrifon hyn yn cynnwys costau teithio yn ôl a blaen i Fangor. + Gan ei bod yn ddinas weddol fach, nid oes angen defnyddio cludiant cyhoeddus/preifat ym Mangor fel rheol. * www3.imperial.ac.uk/registry/studentfinance/livingcosts Sylwer: mae’r ffigurau hyn wedi’u seilio ar brisiau cyfredol, prisiau rhenti a’r wybodaeth gyfredol sydd ar gael. Ceir amrywiaeth mawr mewn costau a chanllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 17


GWNEUD CAIS A GOFYNION MYNEDIAD Sut i Wneud Cais Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer pob cwrs ôl-radd a addysgir a phob rhaglen ymchwil ôl-radd (ac eithrio’r TAR, MA Gwaith Cymdeithasol, Diploma Therapi Galwedigaethol a DClinPsy – gweler isod am fwy o fanylion) yn: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/application.php.cy Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y Canllawiau i Ymgeiswyr cyn llenwi’r ffurflen a darllen y wybodaeth gyffredinol: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/apply_taught.php.cy Cais am Raglenni Ymchwil Ôl-radd Anogir ymgeiswyr am radd ymchwil i enwi a thrafod y pwnc ymchwil gyda’r adran berthnasol cyn cyflwyno’r cais. Dylai’r cais am radd ymchwil gynnwys cynnig ymchwil yn amlinellu pwnc, pwrpas a sail resymegol yr ymchwil dan sylw. Os ydych angen cymorth pellach unrhyw bryd yn ystod y broses dderbyniadau, cysylltwch â: Swyddfa Derbyniadau Ôl-radd, Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 382016 Ceisiadau am Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Dylai ymgeiswyr nodi bod proses gwneud cais rhaglenni TAR yn wahanol i weithdrefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor. Gwneir ceisiadau drwy’r Graduate Teacher Training Registry (GTTR) ; mae eu terfynau amser hwy’n gynharach. Gellir cael mwy o wybodaeth am y GTTR yn: www.gttr.ac.uk Gellir gwneud cais ar-lein yn: www.gttr.ac.uk/students/apply/ Ceisiadau ar gyfer DClinPsy: rhaid gwneud ceisiadau drwy The Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology. Gweler y manylion cyswllt ar y dudalen nesaf. Ceisiadau am Ddiploma Therapi Galwedigaethol Mae’r ffurflen gais a manylion y broses gwneud cais ar gael yn: www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/occtherapy/admissions.php.cy

Ceisiadau am MA Gwaith Cymdeithasol Mae’r ffurflen gais a manylion y broses gwneud cais ar gael yn: www.bangor.ac.uk/so/listcourses_pg

Gofynion Mynediad Mae’r cymwysterau, y sgiliau a’r rhinweddau sy’n ofynnol ar gyfer astudio ôl-radd ym Mangor yn amrywio o gwrs i gwrs ac o Ysgol i Ysgol academaidd. Mae manylion llawn ar gael yn ein prosbectws ôlradd ar-lein yn: www.bangor.ac.uk/cyrsiau/olradd

18 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Academaidd Er mwyn cael mynediad at raglenni ôl-radd, mae angen gradd Baglor/gyntaf gan Brifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch cymeradwy. Fel rheol, i gael mynediad at gyrsiau Meistr, y dosbarthiad gradd isaf a dderbynnir yw anrhydedd ail ddosbarth is neu gywerth ac ar gyfer graddau ymchwil, anrhydedd ail ddosbarth uwch neu gywerth. Fel rheol, caiff graddau baglor a enillwyd yn y DU eu derbyn. Dylai myfyrwyr â graddau o wledydd eraill edrych ar: www.bangor.ac.uk/international Efallai y bydd angen dosbarthiad gradd uwch neu ddyfarniad gradd uwch ar gyfer rhai rhaglenni. Rheoliadau Myfyrwyr Hŷn Gellir ystyried myfyrwyr hŷn sydd heb y cymwysterau academaidd sy’n ofynnol fel rheol ar gyfer mynediad i raglenni gradd ôl-radd. Gellir cydnabod o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith proffesiynol perthnasol fel cymhwyster mynediad a gellir derbyn hyn yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Cefnogaeth Anabledd/Ymgeiswyr ag Anghenion Cefnogaeth Ychwanegol Os ydych chi’n ymgeisydd ag anghenion cefnogaeth ychwanegol, gallwch gysylltu ag ymgynghorydd yn y Gwasanaeth Anabledd (o fewn y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr) i drafod unrhyw anghenion cefnogaeth sydd gennych ac unrhyw drefniadau y gallai fod eu hangen. Ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion yn: www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/anabledd Fel arall, cysylltwch â’r: Ymgynghorwyr Anabledd, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF Ffôn: 01248 388650 E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk


DEWISIADAU ASTUDIO Mae amrywiaeth o ddewisiadau astudio ar gael ym Mangor. Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr sy’n astudio cymhwyster ôl-radd yn gwneud hynny’n llawn-amser, ond mae nifer o’n cyrsiau a addysgir, a’n rhaglenni ymchwil, ar gael ar sail ran-amser ac mae rhai Ysgolion academaidd yn cynnig cyrsiau dysgu o bell. Efallai bod gennych chi syniad pendant pa bwnc yr hoffech ei astudio, ond nad ydych chi’n siŵr sut yr hoffech ei astudio. Bydd y wybodaeth ganlynol yn egluro’r gwahanol ddewisiadau astudio ôl-radd sydd ar gael ym Mangor. Cyrsiau a Addysgir Fel rheol, mae Diplomâu Ôl-radd a Graddau Meistr yn golygu blwyddyn o astudio llawn-amser. Mae’r elfen gwaith cwrs yn cymryd wyth mis, ac ar ôl hynny, gellir dyfarnu Diploma Ôl-radd. Os cyrhaeddwch safon ddigon uchel yn yr asesiad Diploma, cewch ddewis cyflawni project ymchwil a thraethawd hir (sydd fel rheol yn cymryd 4-7 mis) am radd Meistr (MA, MSc, MTh, MMus, MBA, fel sy’n briodol). Mae modd gadael y rhan fwyaf o gyrsiau Meistr ar lefel Diploma Ôl-radd. Mae’r cyrsiau Meistr yn cynnwys darlithoedd, projectau ac aseiniadau. Mae’r cyrsiau ôl-radd a addysgir eraill a gynigir yn cynnwys: Tystysgrif Ôl-radd, Diploma Ôl-radd, TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion – cymhwyster dysgu proffesiynol). Rhaglenni Ymchwil Graddau ymchwil yw graddau MPhil a PhD ac fe’u dyfernir ar ôl archwilio traethawd yr ymgeisydd, sy’n cael ei gynhyrchu ar ôl cyfnod o ymchwil. Er bod y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn astudio graddau ymchwil yn llawn-amser, dan rai amgylchiadau penodol mae’n bosibl cynnig cynlluniau astudio rhan-amser. Gallwch gofrestru ar gyfer y graddau hyn ar ddechrau unrhyw fis. Mae MPhil yn dangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ymchwil dan oruchwyliaeth drwy ddadansoddi data sy’n bodoli eisoes mewn modd systematig. I fyfyrwyr sy’n dymuno cael mwy o hyfforddiant ym maes ymchwil, mae MRes yn cynnwys llai o fodiwlau a addysgir a mwy o elfen ymchwil na gradd Meistr. Mae PhD yn dangos gallu i gynnal ymchwil wreiddiol, ar ôl meithrin y sgiliau angenrheidiol o ran methodoleg ymchwil. Bydd yn astudiaeth annibynnol, gan ddefnyddio data newydd, sy’n ehangu gorwelion gwybodaeth yn y pwnc dan sylw. Mae hunangymhelliant yn hanfodol i gwblhau gradd ymchwil yn llwyddiannus; mae myfyrwyr ymchwil yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain, felly bydd angen i chi ddefnyddio eich adnoddau eich hun yn aml er mwyn cwblhau eich gwaith. Y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer rhaglenni ymchwil yw: Llawn-amser: MPhil 2 flynedd / PhD 3 blynedd Rhan-amser: MPhil 3 blynedd / PhD 5 mlynedd DClinPsy Mae’r rhaglen lawn-amser 3 blynedd hon yn arwain at radd Doethur Seicoleg Glinigol, ac mae’n cynnwys cyrsiau a addysgir, lleoliadau clinigol a phroject ymchwil sylweddol. NID YW ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael eu gwneud drwy’r Brifysgol. Rhaid eu cyfeirio at The Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology, 15 Hyde Terrace, Leeds, LS2 9LT. Ewch i’w gwefan i gael manylion a dyddiadau cau: www.leeds.ac.uk/chpccp

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 19


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU Ynglŷn â’r Coleg Mae ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn dyddio’n ôl i 1884 pan gafodd Coleg y Brifysgol ei sefydlu. Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n cyfuno amrywiaeth o brojectau cydweithredol ac amrediad eang o arbenigedd academaidd, gan gynnig dewis amrywiol o raglenni astudio ôl-radd. Os ydych chi’n ystyried gyrfa ôl-radd mewn Celfyddydau a Dyniaethau, mae Bangor yn ddewis naturiol sy’n cynnig dros hanner cant o raglenni ôl-radd gwahanol a heriol. Cryfderau ymchwil Mae ymchwil yn y Coleg yn rhychwantu ystod eang o ddisgyblaethau ac mewn sawl achos mae’n cyfuno arbenigedd ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Mae gennym hanes rhyngwladol o gyraeddiadau ymchwil ac mae staff y Coleg i gyd yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau’n rheolaidd – mae hyn yn golygu y byddwch yn rhannu amgylchedd dysgu ag academyddion sydd ar flaen y gad yn eu maes. Hefyd, ceir posibiliadau amrywiol am ymchwil yng nghanolfannau ymchwil y Coleg, megis y Ganolfan Dwyieithrwydd, y Ganolfan Ymchwil mewn Cerddoriaeth Gynnar, y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), i enwi dim ond rhai. Cyfleusterau Mae ystod eang o adnoddau addysgu, dysgu a chefnogi’r Brifysgol ar gael i’r Coleg, yn ogystal â’r adnoddau hynny sydd ar gael gan ein Hysgolion cyfansoddol. Mae gennym ystafelloedd astudio, ble mae mannau astudio a chyfleusterau TG ar gael i fyfyrwyr, ac mae’r llyfrgell yn cynnwys ystafell ymchwil bwrpasol i gelfyddydau a dyniaethau ble ceir cyfrolau cyfeirio at ddefnydd ôlraddedigion a staff y Coleg yn unig.

Canolfannau Rhagoriaeth Mae’r canolfannau ymchwil canlynol wedi’u lleoli yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau: • Canolfan Uwchastudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CUACC) Mae CUACC yn cydlynu ac yn datblygu ysgolheictod cerddoriaeth Cymru drwy hyrwyddo cynadleddau a chyhoeddiadau, darparu adnoddau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg, a chydweithio ag ysgolheigion mewn gwledydd Celtaidd eraill. • Y Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar Mae’r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2006, yn cydlynu gweithgareddau staff cerddoriaeth sy’n ymchwilio cerddoriaeth cyn 1700 – y crynodiad gorau o ragoriaeth benodol yn unrhyw sefydliad yn y DU. • Y Ganolfan Astudiaethau Galisiaidd yng Nghymru Fforwm ar gyfer ymchwil ar Galisia gyfoes. Mae materion sy’n ymwneud â dwyieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol a’u perthnasedd i ddiwylliant Galisiaidd a Chymreig o ddiddordeb arbennig. • Y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn meithrin cydweithio a chyfnewid ysgolheigaidd ym maes Astudiaethau Canoloesol ym Mangor a thu hwnt. Mae’n hyrwyddo addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-radd ac yn annog mentrau sy’n cynnwys mwy nag un adran. • Electroacwstig Cymru Mae Electroacwstig Cymru yn cefnogi cyfansoddi cerddoriaeth electroacwstig ac ymchwil yn y maes yn stiwdios yr Ysgol Cerddoriaeth, yn trefnu ac yn hyrwyddo cyngherddau cerddoriaeth electroacwstig, yn cynnal gweithdai am egwyddorion ac arferion cerddoriaeth electroacwstig, ac yn gweithredu fel cyfrwng a chanolbwynt i drafodaethau a chydweithredu rhwng cyfansoddwyr, perfformwyr a gwrandawyr cerddoriaeth electroacwstig yng Nghymru. • Canolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd Mae ymchwil ym maes dwyieithrwydd yn galw ar sawl disgyblaeth, gan gynnwys ieithyddiaeth, seicoleg, niwrowyddoniaeth, addysg, cymdeithaseg, economeg, a gwyddor wleidyddol.

20 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

• Y Rhaglen Astudiaethau Cyfieithu i Raddedigion Mae’r Rhaglen yn cyfuno arbenigedd academyddion ac ymarferwyr ym maes cyfieithu sydd wedi’u lleoli yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, Ysgol y Gymraeg ac Uned Gyfieithu a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. • Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (CRACG) Nod y ganolfan ragoriaeth ryngwladol newydd hon yw ysgogi, cefnogi, dosbarthu ac ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau ym maes amlddisgyblaeth cerddoriaeth gysegredig. • Canolfan R.S. Thomas Cafodd y Ganolfan, sy’n gydweithgarwch rhwng Ysgol y Gymraeg ac Ysgol y Saesneg, ei hagor yn swyddogol gan R.S. Thomas ym mis Ebrill 2000. Mae ei harchif yn cynnwys casgliad estynedig o ddeunydd llawysgrif gan R.S. Thomas, gan gynnwys gwaith heb ei gyhoeddi, yn ogystal â’i holl waith sydd wedi’i gyhoeddi, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, llyfrau ac erthyglau beirniadol, cyfweliadau a deunydd clyweled. Mae’r deunydd hwn ar gael i ysgolheigion sy’n ymweld. • Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru Ystorfa o ffurfiau cerddorol a geiriol wedi’u recordio sy’n cael eu bytholi yn y traddodiad llafar yn hytrach na thrwy eu hysgrifennu neu eu hargraffu. Canolfan ymchwil, addysgu a hyfforddiant yn bennaf, mae’r Archif yn ymdrechu i wasanaethu sefydliadau addysg a’r cyhoedd yn gyffredinol. • Y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS) Mae’r Sefydliad yn adeiladu ar ragoriaeth ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth ac yn defnyddio dull amlddisgyblaethol i astudio’r cyfnodau canoloesol a modern cynnar.


PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 21


Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio rhai o’r syniadau athronyddol a moesegol pwysicaf a mwyaf heriol sydd wedi ffurfio diwylliant y Gorllewin, a’r cysylltiadau rhwng y rhain ac ystyriaethau a damcaniaethau crefyddol Gorllewinol. Mae’r Ysgol wedi datblygu o draddodiad maith o astudio’r pynciau hyn yn y brifysgol ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau trafod a meddwl yn annibynnol mewn awyrgylch gyfeillgar, gefnogol ac anffurfiol. Bydd myfyrwyr yn elwa oddi wrth sylw personol, cael eu dysgu mewn grwpiau bychain a chael goruchwyliaeth bersonol. Mae ein myfyrwyr meistr a doethur yn rhan o Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac mae’r holl fyfyrwyr newydd yn cymryd rhan mewn cwrs cynefino sy’n eu helpu gyda’r sgiliau angenrheidiol i wneud eu hymchwil. Mae’r Ysgol yn cynnal seminarau rheolaidd lle mae myfyrwyr yn cyflwyno'r gwaith sydd ganddynt ar y gweill. Mae hyn yn magu ymdeimlad cryf o gefnogaeth a chydweithio ymysg y myfyrwyr. Yn y rhaglenni Meistr cynigir cymysgedd o fodiwlau hyfforddedig a goruchwyliaeth bersonol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau eu hunain gan fanteisio ar arbenigedd eang yr aelodau staff.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae arbenigedd y staff ym meysydd y Beibl a moeseg, beirniadaeth feiblaidd ffeministaidd, llenyddiaeth feiblaidd a diwinyddiaeth, hanes athroniaeth Orllewinol, Nietzsche, Freud, a mudiadau athronyddol megis rhesymoliaeth, empiriaeth, dirfodaeth a ffenomenoleg. Mae’r modiwlau a gynigir yn edrych ar y prif syniadau, yr anghydfodau a’r dadleuon sydd wedi ffurfio’r meddwl Gorllewinol o’r cyfnod cynnar i’r oes fodern. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o wahanol ddadleuon athronyddol meddylwyr fel Marx, Nietzsche a Freud, cyn edrych yn feirniadol ar eu syniadau a gweld eu dylanwad ar drafodaethau diwylliannol, crefyddol, economaidd-gymdeithasol ac epistemolegol perthnasol eraill. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio seiliau moeseg Gristnogol yn y Testament Newydd a byddant yn archwilio ei gwreiddiau yn y traddodiad crefyddol Iddewig, fel yr adlewyrchir hynny yn yr Hen Destament. Byddant yn dysgu hefyd sut i gymhwyso gwerthoedd Cristnogol at faterion cyfoes dadleuol penodol, megis ymchwil i gelloedd stem, ewthanasia, erthyliad, y gosb eithaf a moeseg amgylcheddol. Mae’r modiwl Testunau mewn Cyd-destun yn rhoi cyflwyniad manwl i fyfyrwyr i ddulliau ymchwil ac i ystod o ddulliau gweithredu beirniadol a damcaniaethol. Yn y rhaglenni MA a MRes mae angen i fyfyrwyr ysgrifennu darn estynedig o ymchwil ar destun o’u dewis.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA/MRes (Rhaglen Dysgu o Bell) • Astudiaethau Athroniaeth a Chrefydd MTh • Diwinyddiaeth Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA/MRes • Astudiaethau Athroniaeth a Chrefydd MTh • Diwinyddiaeth

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382079 E-bost: spar@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/athroniaethachrefydd

Cyrsiau PhD/MPhil Mae goruchwyliaeth ar gael ar gyfer ymchwil mewn Athroniaeth a Chrefydd.

Staff a chyfleusterau Mae staff yr Ysgol yn cael eu cydnabod yn arbenigwyr rhyngwladol yn eu gwahanol feysydd. Maent yn gweithredu fel golygyddion neu aelodau o fyrddau golygyddol cyfnodolion rhyngwladol ym maes athroniaeth a chrefydd ac maent yn ymroi i drosglwyddo eu gwybodaeth i’w myfyrwyr mewn ffyrdd diddorol a bywiog er mwyn cyfoethogi eu profiad dysgu.

PROFFIL STAFF

Gan fod crefydd (mewn gwahanol weddau) ac athroniaeth wedi cael eu dysgu ym Mangor am dros ganrif, mae gan y llyfrgell stoc dda o lyfrau a chyfnodolion sy’n cyd-fynd â diddordebau ymchwil neilltuol yr Ysgol. Dr Eryl W Davies, Darllenydd a Pennaeth yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Arbenigwr ar yr Hen Destament yw Dr Davies a’i brif feysydd diddordeb yw: tir a hawliau etifeddu yn y Beibl, llyfr Numeri, beirniadaeth feiblaidd ffeministaidd, beirniadaeth ymateb darllenwyr, a moeseg yr Hen Destament. Mae’n awdur llawer o gyfrolau ac erthyglau yn Gymraeg, ac yn Saesneg mae wedi cyhoeddi cyfrol ar broffwydoliaeth a moeseg, ac esboniad ar Lyfr Numeri yn y gyfres New Century Bible Commentary. Ei lyfrau diweddaraf yw The Dissenting Reader: Feminist Approaches to the Hebrew Bible (Ashgate, 2003), The Immoral Bible: Approaches to Biblical Ethics (T. & T. Clark International, 2010); Biblical Criticism (T. & T. Clark International, 2013). Mae wedi goruchwylio traethodau hir doethurol ar broffwydi’r wythfed ganrif o safbwynt llwythol; astudiaeth ar Miriam yn yr Hen Destament; dadansoddiad o Numeri 10-14; a thesis ar yr Hen Destament a moeseg amgylcheddol. Ef yw llywydd cyfredol y British Society for Old Testament Study.

22 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Astudio Athroniaeth a Chrefydd (MA/MRes Rhaglen Dysgu o Bell) HYD Y CWRS 1 flwyddyn (llawn-amser) neu 3 blynedd (rhan-amser) GOFYNION MYNEDIAD Dylai ymgeiswyr Ôl-radd fod â gradd addas – gofynnir fel rheol am radd anrhydedd 2.1 mewn unrhyw bwnc, neu mae cymhwyster o brofiad cyfatebol yn dderbyniol. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r rhaglen wedi ei llunio i gyd-fynd â’ch diddordebau o fewn meysydd arbenigol yr Ysgol. Mae wedi ei llunio hefyd i siwtio anghenion rhai nad ydynt yn gallu dod i sesiynau wedi eu hamserlennu ym Mangor.

I wneud yr MRes, bydd myfyrwyr yn cymryd y modiwl Testunau mewn Cyd-destun ac un modiwl arall naill ai o Rhestr A neu B. Yn y rhestr isod, mae’r modiwlau sydd â * wrth eu hymyl yn rhai lle gellir cael cyfarwyddyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Yn achos y modiwlau eraill bydd y cyfarwyddyd drwy’r Saesneg ond gellir ysgrifennu’r traethodau yn Rhan 1 a’r traethawd hir yn Rhan 2 yn Gymraeg. Rhestr A • Testunau mewn Cyd-destun* • Hanes Athroniaeth Orllewinol • Moeseg mewn Diwylliant* • Meistri mewn Drwgdybiaeth

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y sector cyhoeddus neu breifat. Bydd rhai yn mynd i ddysgu mewn ysgolion neu mewn sefydliadau Addysg Uwch. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn penderfynu mynd ymlaen i astudio am ddoethuriaeth a dilyn gyrfa academaidd mewn prifysgol.

Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg neu cysylltwch â’r Ysgol.

Rhestr B (bydd testunau yn cael eu hychwanegu yn flynyddol) • Athroniaeth Wleidyddol • Yr Oes Oleuedig • Globaleiddio • Athroniaeth Nietzsche • Astudiaethau Seicoddadansoddol • Theori Jung • Yr Hen Destament* Rhan 1: I gyflawni’r MA bydd myfyrwyr yn ysgrifennu pedwar traethawd 5,000 o eiriau (sy’n • Theori Moeseg* werth 30 credyd yr un). Bydd teitlau a chynnwys y • Moeseg Ymarferol* • Profiad Crefyddol traethodau yn cael eu pennu mewn ymgynghoriad â’r goruchwyliwr. Ond, rhaid i ddau draethawd ddilyn unrhyw ddau o’r pedwar Rhan 2: Bydd myfyrwyr MA yn ysgrifennu traethawd hir 20,000 o eiriau (gwerth 60 credyd) testun yn Rhestr A a dylai’r ddau arall ddilyn wedi ei oruchwylio; bydd myfyrwyr MRes yn unrhyw ddau destun yn Rhestr B. ysgrifennu traethawd hir 40,000 o eiriau (gwerth 120 credyd) wedi ei oruchwylio. Bydd testun y traethawd hir yn cael ei ddewis gan y myfyriwr mewn ymgynghoriad â’r goruchwyliwr. Mae dwy ran i’r rhaglen. Bydd gan fyfyrwyr gefnogaeth goruchwyliwr (dros e-bost, ffôn, Skype, neu unrhyw ffordd arall sy’n gyfleus i’r myfyriwr / goruchwyliwr). Mae elfen uwch i’r rhaglen MRes, gyda mwy o gredydau i’w cyflawni yn Rhan 2.

Diwinyddiaeth (MTh) HYD Y CWRS 1 flwyddyn (llawn-amser) neu 3 blynedd (rhan-amser) GOFYNION MYNEDIAD Dylai ymgeiswyr Ôl-radd fod â gradd addas – gofynnir fel rheol am radd anrhydedd 2.1 mewn unrhyw bwnc, neu mae cymhwyster o brofiad cyfatebol yn dderbyniol. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r cwrs yma wedi ei anelu at ymgeiswyr sydd naill ai yn y weinidogaeth Gristnogol eisoes, neu’n bwriadu mynd iddi, a’r rhai sydd eisoes yn athrawon astudiaethau crefyddol mewn ysgolion, neu’n bwriadu dilyn yr yrfa honno. Bydd y radd Diwinyddiaeth MTh yn galluogi myfyrwyr i drafod safbwyntiau diwinyddol mewn ffordd deg a beirniadol, a bydd yn magu nodweddion diwinydd creadigol. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i fod yn ymchwilydd annibynnol a bydd yn rhoi ystod eang o sgiliau trosglwydd-adwy i fyfyrwyr.

Rhan 1: Bydd myfyrwyr yn ysgrifennu pedwar traethawd 5,000 o eiriau (sy’n werth 30 credyd yr un). Bydd penawdau a chynnwys y traethodau yn cael eu pennu mewn ymgynghoriad â’r goruchwyliwr ac wedi eu seilio ar un neu fwy o’r meysydd a restrir isod. Yn y rhestr isod mae’r modiwlau sydd â * yn eu hymyl yn rhai y gellir cael cyfarwyddyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Yn achos y modiwlau eraill bydd y cyfarwyddyd drwy’r Saesneg, ond gellir ysgrifennu’r traethodau yn Rhan 1 a’r traethawd hir yn Rhan 2 yn Gymraeg. • Astudiaeth Arbennig ar yr Hen Destament* • Astudiaeth Arbennig ar y Testament Newydd* • Astudiaeth Arbennig mewn Astudiaethau Beiblaidd* • Astudiaeth Arbennig mewn Diwinyddiaeth Theori Feiblaidd* • Astudiaeth Arbennig ar Hanes yr Eglwys* • Astudiaeth Arbennig mewn Diwinyddiaeth Fugeiliol* • Astudiaeth Arbennig mewn Gofal Bugeiliol* • Astudiaeth Arbennig ar yr Eglwys Fore* • Astudiaeth Arbennig ar Hanes Esboniadaeth Feiblaidd • Astudiaeth Arbennig ar Hanes Derbyn y Beibl

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Bydd y radd hon yn gwella cymwysterau myfyrwyr i’w galluogi i fynd i’r weinidogaeth neu i ddysgu crefydd mewn ysgolion. Gellir ei ystyried hefyd yn gymhwyster canol-gyrfa i rheini sydd am gymryd cam ymlaen yn eu gyrfa yn y ddau broffesiwn yma. Bydd rhai yn mynd ymlaen i fyd gwaith, lle bydd gradd uwch yn y dyniaethau o fantais, tra bydd eraill yn penderfynu mynd ymlaen i raglen bellach sy’n arwain at ddoethuriaeth.

Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg neu cysylltwch â’r Ysgol.

Rhan 2: Bydd myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir 20,000 o eiriau (gwerth 60 credyd) wedi ei oruchwylio. Bydd testun y traethawd hir yn cael ei ddewis gan y myfyriwr mewn ymgynghoriad â’r goruchwyliwr.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 23


Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau’n cynnig graddau ar draws amrediad eang o gelfyddydau creadigol, gan gynnwys ffilm, newyddiaduraeth, y cyfryngau, cyfryngau digidol a rhyngweithiol, ysgrifennu proffesiynol a theatr. Mae ein cyrsiau i gyd yn cyfuno gwaith ymarferol a damcaniaethol, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn graddio â gwybodaeth gynhwysfawr o’u pwnc. Un nodwedd benodol sy’n gwneud yr Ysgol yn eithriadol yw’r ffordd y mae myfyrwyr y gwahanol ddisgyblaethau’n cael eu hannog i ryngweithio â’i gilydd a dysgu gan ei gilydd. Mae strwythur ein cyrsiau’n hyblyg dros ben, ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddewis modiwlau o’r tu allan i’w disgyblaethau arbenigol hwy.

PROFFIL STAFF

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio’n anffurfiol â chi am eich astudiaethau os ydych yn dymuno hynny o dro i dro ar rai o’r cyrsiau.

Staff a chyfleusterau Mae ein staff yn cynnwys academyddion uchel eu parch ac ymarferwyr creadigol o fri, a cheir cysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol cryf â’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’r staff academaidd yn arbenigo mewn meysydd ymchwil amrywiol megis cyfryngau Dwyrain Asia, dawns fertigol, technoleg a disgwrs, hysbysebu digidol, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a risg, gemau fideo a rhith fydoedd, teledu byw, ffilmiau dogfen, astudiaethau addasu a chomics. Mae cyfleusterau’r Ysgol yn adlewyrchu ein natur amlddisgyblaethol. Yn ogystal â chyfarpar teledu a radio o safon darlledu, mae gan yr Ysgol fannau pwrpasol i’r rheiny sy’n astudio gemau, cyfryngau digidol, newyddiaduraeth ac ysgrifennu, yn ogystal â theatr a sinema ddigidol.

Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA/Diploma • Y Cyfryngau Digidol • Creu ffilmiau: o’r cysyniad i’r sgrin MA • Seicoleg Defnyddwyr a Chyfryngau Digidol MSc • Seicoleg Defnyddwyr a Chyfryngau Digidol • Rheoli’r Cyfryngau Rhyngwladol (gyda Busnes/y Gyfraith) MRes • Ymarfer Creadigol • Ffilmiau a Diwylliant Gweledol PhD/MPhil • Ysgrifennu Proffesiynol, Ffilm, Y Cyfryngau, Y Cyfryngau Newydd, Newyddiaduraeth, Astudiaethau Creadigol

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae’r graddau Meistr yn yr Ysgol yn cynnig cymysgedd o fodiwlau a addysgir a goruchwyliaeth bersonol i chi, gan eich galluogi i astudio’r maes sydd o ddiddordeb i chi a galw ar arbenigedd eang aelodau staff yr Ysgol.

PhD/MPhil Ymchwil ar sail ymarfer • Ysgrifennu Proffesiynol, Ffilm, Y Cyfryngau, Y Cyfryngau Newydd, Newyddiaduraeth, Astudiaethau Creadigol

Mae cyrsiau PhD/MPhil ar gael mewn pynciau ar draws holl sbectrwm y Diwydiannau Creadigol, ac mae potensial am arbenigeddau ymchwil neu ymchwil wedi’i harwain gan ymarfer.

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 388560 E-bost: scsm@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/creadigol

Dr Eben J. Muse, Darlithydd mewn Cyfryngau Newydd a Chreadigedd y Dyfodol a Dirprwy Bennaeth Ysgol, Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau

“Fy mhrif faes ymchwil yw cyfryngau rhyngweithiol a chyhoeddi digidol. Ar hyn o bryd rwy'n ymchwilio i'r ffyrdd y gall ein profiad o leoliadau a lleoedd (eu hanes, diwylliant, awyrgylch) cael eu cyfleu drwy dechnolegau digidol a symudol er mwyn gwella'r profiad treftadaeth a thwristiaeth ranbarthol. Er bod fy ngwaith ymchwil yn ymwneud yn ddwfn â thechnoleg ddigidol, mae'n tyfu allan o ddiwylliant ac etifeddiaeth Cymru. Rwy'n astudio effaith technoleg ar y cyfryngau a diwylliant (ac i'r gwrthwyneb). Mae hyn yn fy ngalluogi i gefnogi ystod eang o astudiaethau ôl-raddedig, ac rwyf yn gweithio gyda myfyrwyr ôl-raddedig mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ysgrifennu creadigol, delweddu 3D, cyfrifiaduron symudol a pherfformiad yn rheolaidd. Mae'r Ysgol yn cynnig cymysgedd o arbenigeddau nas ceir mewn prifysgolion eraill. Mae myfyriwr sy'n astudio ffilm, er enghraifft, efallai yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr eraill sy'n astudio cynhyrchu fideo, ysgrifennu sgrin, perfformiad, neu dirweddau rhithwir. Mae hyn yn gwneud y dysgu yn fwy cyffrous, ac mae hefyd yn cynnig cyfle unigryw i ôl-raddedigion ddatblygu sgiliau mewn gweithio ar draws disgyblaethau a ffiniau (a sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi fwyfwy mewn diwydiant). Mae ymchwilwyr a darlithwyr ar draws y Brifysgol yn teimlo'n angerddol am y meysydd y maent yn eu hastudio a’u dysgu. Maent wastad yn chwilio am gyfleoedd i symud y tu hwnt i ffiniau traddodiadol o astudio. Bydd myfyrwyr yn yr Ysgol yn cael y cyfle i weithio ar draws Ysgolion fel Cyfrifiadureg a Gwyddorau Peirianneg, Hanes neu Ieithoedd Modern. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig un o'r tirweddau diwylliannol cyfoethocaf a hynaf yn y Deyrnas Unedig. Mae treftadaeth a thwristiaeth yn tyfu'n gyflym yng Nghymru, ac mae'r diwydiant yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan dechnolegau digidol a symudol.”

24 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

RHESTR CYRSIAU:


Ysgol Cerddoriaeth Ynglŷn â’r Ysgol Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth ddiwylliant ôlradd ysgogol, gyda chymuned fywiog o ôlraddedigion a addysgir ac ôl-raddedigion ymchwil yn astudio amrywiaeth eang o feysydd. Mae’r Ysgol yn ddigon bach i fyfyrwyr gael ymdeimlad gwirioneddol o berthyn, ond yn ddigon mawr i gynnig cyfleoedd cyffrous i gydweithio. Mae gennym draddodiad hir o ragoriaeth academaidd; cafodd 70% o’n gwaith sgôr 3* (rhagoriaeth ryngwladol) neu 4* (arwain y byd) yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil mwyaf diweddar, sy’n cadarnhau ein statws fel un o brifysgolion ymchwil gorau’r DU. Hefyd, cafodd yr Ysgol Cerddoriaeth radd ‘Rhagorol’ am ansawdd addysgu. Mae ein cyfres o gyngherddau’n un o rai mwyaf helaeth ac amrywiol unrhyw brifysgol ym Mhrydain. Mae’n cynnwys cyngherddau rheolaidd gan ensembles preswyl (megis Pedwarawd Allegri a Chonsort Orlando – mae aelodau’r rhain hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr) ac Electroacwstig Cymru; un arall o uchafbwyntiau’r tymor yw’r digwyddiad blynyddol Gŵyl Cerddoriaeth Newydd Bangor. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn ymweld ddwywaith y flwyddyn, ac mae gennym gysylltiadau ag Opera Cenedlaethol Cymru. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd astudiaethau ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhestrir y rhain gyfrebyn.

Cryfderau ac arbenigedd O fewn cyfansoddi, y prif feysydd arbenigol yw cyfansoddi electroacwstig a chyfansoddi ar gyfer ffilmiau. Mae cerddoreg yn canolbwyntio ar dair Canolfan Ymchwil sy’n arwain y byd: y Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar, sydd yn ei thro’n rhan o’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar rhyngddisgyblaethol; Canolfan Uwchastudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CUACC); a’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (CRACG). Mae arbenigeddau eraill yn cynnwys cerddoreg olygyddol a cherddoriaeth yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Staff a chyfleusterau Mae ein staff, ynghyd â chynorthwywyr addysgu ôl-radd a dros 30 o hyfforddwyr offerynnol a lleisiol, yn ein galluogi i addysgu o fewn ein gwahanol arbenigeddau ymchwil, a rhoi sylw i amrywiaeth eithriadol eang o bynciau. Mae gan ein holl staff broffiliau ymchwil rhyngwladol sy’n bwydo’n uniongyrchol i’r addysgu ôl-radd; mae myfyrwyr yn elwa o hyn drwy diwtorialau uni-un rheolaidd a/neu addysgu mewn grwpiau bach. Anogir ymdeimlad cryf o gefnogaeth a rhyngweithio ar y cyd drwy ein seminarau ymchwil pythefnosol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys stiwdios electroacwstig o’r radd flaenaf sydd wedi’u cyfarparu at safonau rhyngwladol ar gyfer recordio, ymchwil a chyfansoddi; llyfrgell cerddoriaeth â thros 3,000 o gryno ddisgiau; 20,000 o sgorau a chasgliad helaeth o fideos a disgiau DVD, gydag ystafell wedi’i chyfarparu’n llawn ar gyfer gwrando a gwylio fideos/DVD; Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru arbenigol; ein hadeilad ein hunain sy’n cynnwys ystafelloedd addysgu, mannau ymarfer a nifer o ystafelloedd ymarfer unigol, cyflenwad llawn o bianos, harpsicordiau, organau, telynau ac offerynnau taro; casgliad o dros 300 o offerynnau’r byd. Hefyd, mae gan y Brifysgol 2 neuadd gyngerdd wych.

“Astudiais yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn dod i Brifysgol Bangor i astudio gradd mewn Cerddoriaeth. Rwyf wedi astudio MA mewn Cerddoriaeth ac rwyf bellach wedi cwblhau fy PhD. Dewisais astudio ym Mangor oherwydd bod yr adran gerddoriaeth yn uchel iawn ei chlod. Hefyd dim ond ym Mangor mae’n bosib astudio Cerddoriaeth drwy’r Gymraeg. Mae’r gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr ôl-raddedig yn wych. Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth adnoddau dysgu arbennig, llyfrgell Gerdd wedi ei lleoli yn yr adran, a cheir cyfle i astudio amrediad eang iawn o feysydd o fewn Cerddoriaeth, a hynny o dan ofal darlithwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes. Boed yn gyfansoddi, perfformio, diwylliannau cerddorol byd eang neu gerddoriaeth yr 20fed ganrif, mae’n sicr fod rhywbeth yma at ddant pawb!

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA • Cerddoriaeth - Llwybr Safonol • Cerddoriaeth - Llwybr Arbennig • Cerddoriaeth Gynnar -Llwybr Safonol • Cerddoriaeth yr 20fed -21ain Ganrif - Llwybr Safonol MA/MMus trwy Ymchwil • Cerddoriaeth MMus • Cyfansoddi/Cyfansoddi Electroacwstig/Celfyddyd Sonig - Llwybr Arbennig (MMus) PhD/MPhil • Cerddoriaeth Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Cerddoriaeth - Llwybr Safonol • Cerddoriaeth - Llwybr Arbennig • Cerddoriaeth Gynnar • Cerddoriaeth yr 20fed -21ain Ganrif MA/MMus trwy Ymchwil • Cerddoriaeth MMus • Cyfansoddi/Cyfansoddi Electroacwstig/Celfyddyd Sonig - Llwybr Arbennig (MMus) • Perfformio PhD/MPhil • Cerddoriaeth

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382181 E-bost: cerdd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cerdd

Mae cwrs ôl-radd yn wahanol iawn i gwrs gradd achos mae llawer o’r gwaith yn annibynnol, felly mae’n rhaid gwneud ymdrech i ddod i gysylltiad â myfyrwyr eraill yn yr un sefyllfa a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae’r awyrgylch yma’n gyfeillgar iawn ac mae perthynas glos rhwng y myfyrwyr a’r darlithwyr ac mae rhywun yn wastad ar gael os oes unrhyw broblem. Mae’r bywyd cymdeithasol hefyd yn arbennig, gyda nosweithiau penodol wedi eu trefnu yn yr undeb, er enghraifft noson Clwb Cymru, sy’n cael ei threfnu gan UMCB. Mae Bangor yn ddinas braf iawn i astudio ynddi, mae’r lleoliad yn hyfryd ac mae golygfeydd arbennig o’r Fenai ac Eryri sy’n rhoi digon o gyfle i ffoi o brysurdeb bywyd coleg os oes angen!” GWAWR IFAN, o Grymych, Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 25


Cerddoriaeth (Llwybr Safonol) MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Bydd yn rhaid i berfformwyr gael clyweliad neu, fel arall, gyflwyno perfformiad diweddar ar fideo, heb ei olygu, yn cynnwys repertoire gwrthgyferbyniol (25-30 munud). Efallai y gofynnir i gerddoregwyr neu gyfansoddwyr gyflwyno enghreifftiau o’u gwaith. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MA mewn Cerddoriaeth yn cyfuno arbenigedd mewn un maes (yn cynnwys Cerddoreg Hanesyddol, Cerddoreg Olygyddol, Cyfansoddi, Perfformio Unawdol) gyda mwy o hyfforddiant mewn hyd at dri maes ategol. Oherwydd ehangder y dewis ar y cwrs hwn, mae’n un o’r rhaglenni MA mwyaf hyblyg yn y DU. Gall myfyrwyr wneud eu haddysg mor eang neu gyfyngedig ag y dymunant. I’r rhai sydd â diddordeb neilltuol mewn un maes, mae graddau arbenigol ar gael.

Draddodiadol; Cerddoriaeth yng Nghymru ; Cerddoriaeth a’r Eglwys Gristnogol; Cyfansoddi; Cyfansoddi Electroacwstig; Cyfansoddi Cerddoriaeth Ffilm; Astudio Cerddoriaeth Ffilm; Perfformio Unawdol; Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig; Cerddoriaeth Gynnar ; Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain Ganrif.

CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni.

Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel cyfansoddwyr, perfformwyr, golygyddion, ysgolheigion, gweinyddwyr celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion.

Enillir 40 credyd yn ychwanegol trwy gyflwyniadau mewn meysydd eraill, trwy naill ai un Prif Gyflwyniad Agored neu ddau IsGyflwyniad Agored. Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o feysydd pwnc, yn cynnwys y rhai uchod, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Mae dewisiadau ychwanegol yn cynnwys modiwlau ym meysydd Gweinyddu’r Celfyddydau, Ethnogerddoreg a Dadansoddi.

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a Yn ôl y prif faes arbenigedd, bydd myfyrwyr yn threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a dilyn modiwl craidd mewn cerddoreg methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon Cerddoreg Gyfredol neu gyfansoddi - Cyddestunau a Chysyniadau mewn Cyfansoddi. Tra uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu byddant yn dilyn y modiwlau hyn, bydd myfyrwyr disgyblaeth mewn modd aeddfed. Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi myfyrwyr ar yn ymgyfarwyddo â’r technegau a’r gyfer gofynion swyddi â chymwysterau uchel methodolegau diweddaraf o ran ymchwil a (oddi mewn ac oddi allan i gerddoriaeth). gwaith creadigol yn y disgyblaethau o’u dewis.

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1, 120 o gredydau) a darn o waith annibynnol sylweddol Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: yn y prif faes, i'w gynhyrchu yn ystod yr haf (Rhan Darperir addysg bwnc-benodol trwy gyfuniad o www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn 2, 60 o gredydau). grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif Bwnc ym mhrif faes diddordeb y myfyriwr. Mae’n projectau eu hunain, y byddant yn cael goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. gosod y seiliau ar gyfer project Rhan 2 yn yr un maes. Mae’r pynciau canlynol ar gael: Cerddoreg Hanesyddol; Cerddoreg Olygyddol; Ethnogerddoreg; Cerddoriaeth Geltaidd

Cerddoriaeth (Llwybr Arbennig) MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2-5 mlynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno enghreifftiau o’u gwaith. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MA mewn Cerddoriaeth (Llwybr Arbennig) yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn unrhyw un o’r meysydd canlynol: Cerddoreg Hanesyddol, Cerddoreg Olygyddol, Cerddoriaeth a’r Eglwys Gristnogol, Cerddoriaeth Geltaidd Draddodiadol, Cerddoriaeth yng Nghymru, Astudio Cerddoriaeth Ffilm. Bydd yr holl hyfforddiant yn canolbwyntio ar brif faes y myfyriwr, gyda chymorth golwg ehangach ar sylfaen fethodolegol y ddisgyblaeth yn ei chrynswth (trwy’r modiwl craidd mewn cerddoreg). Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1, 120 o gredydau) a darn o waith annibynnol sylweddol yn y prif faes, i'w gynhyrchu yn ystod yr haf (Rhan 2, 60 o gredydau). Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif Bwnc ym maes arbenigedd y myfyriwr. Archwilir agwedd arall ar yr un maes yn yr Astudiaeth Arbennig Annibynnol. Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2.

26 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Yn ôl y prif faes arbenigedd, bydd myfyrwyr yn dilyn modiwl craidd mewn cerddoreg Cerddoreg Gyfredol. Tra byddant yn dilyn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â’r technegau a’r methodolegau diweddaraf o ran ymchwil a gwaith creadigol yn y disgyblaethau o’u dewis. Darperir addysg bwnc-benodol trwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu projectau eu hunain, y byddant yn cael goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel perfformwyr, golygyddion, ysgolheigion, gweinyddwyr celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu disgyblaeth mewn modd aeddfed. Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion swyddi â chymwysterau uchel (oddi mewn ac oddi allan i gerddoriaeth). Oherwydd ei ganolbwynt cyfyng, bydd y cwrs Llwybr Arbennig yn arwain at lefel uchel o arbenigedd, fel bod myfyrwyr yn gallu eu gwerthu eu hunain yn arbennig o dda yn eu maes hwy o arbenigedd. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg


Cyfansoddi / Cyfansoddi Electroacwstig / Celfyddyd Sonig (Llwybr Arbennig) MMus HYD Y CWRS MMus: blwyddyn llawn-amser, 2-5 mlynedd rhan-amser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Efallai y gofynnir i gyfansoddwyr gyflwyno enghreifftiau o’u gwaith. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MMus mewn Cyfansoddi / Cyfansoddi Electroacwstig / Celfyddyd Sonig (Llwybr Arbennig) yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn unrhyw faes unigol o gyfansoddi, yn cynnwys Cyfansoddi Electroacwstig, Celfyddyd Sonig a Chyfansoddi ar gyfer Ffilm. Bydd yr holl hyfforddiant yn canolbwyntio ar brif faes y myfyriwr, gyda golwg ehangach hefyd ar dechnegau a dulliau o gyfansoddi yn eu cyfanrwydd (trwy’r modiwl craidd mewn Cyfansoddi).

Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion swyddi â chymwysterau uchel (oddi mewn ac oddi allan i gerddoriaeth). Oherwydd ei ganolbwynt cyfyng, bydd y cwrs Llwybr Arbennig yn arwain at lefel uchel o arbenigedd, fel bod myfyrwyr yn gallu eu Darperir addysg bwnc-benodol trwy gyfuniad o gwerthu eu hunain yn arbennig o dda yn eu maes hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a hwy o arbenigedd. ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: projectau eu hunain, y byddant yn cael www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. dilyn y modiwlau hyn, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â’r technegau a’r methodolegau diweddaraf o ran ymchwil a gwaith creadigol yn y disgyblaethau o’u dewis.

CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1, 120 wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel o gredydau) a darn o waith annibynnol sylweddol cyfansoddwyr, perfformwyr, gweinyddwyr yn y prif faes, i'w gynhyrchu yn ystod yr haf (Rhan celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion. 2, 60 o gredydau). Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif Bwnc mewn maes o gyfansoddi o ddewis y myfyriwr. Archwilir agwedd arall ar yr un maes neu ar ddull arall o gyfansoddi yn yr Astudiaeth Arbennig Annibynnol. Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn dilyn modiwl craidd mewn cyfansoddi - Cyd-destunau a Chysyniadau mewn Cyfansoddi. Tra byddant yn

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu disgyblaeth mewn modd aeddfed.

Perfformio MMus HYD Y CWRS MMus: blwyddyn llawn-amser, 2-5 mlynedd rhan-amser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Bydd yn rhaid i berfformwyr gael clyweliad neu, fel arall, gyflwyniad o berfformiad diweddar ar fideo, heb ei olygu, yn cynnwys repertoire gwrthgyferbyniol (25-30 munud). Efallai y gofynnir am enghraifft o waith academaidd. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MMus mewn Perfformio yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn Perfformio Unawdol gyda hyfforddiant ychwanegol mewn hyd at dri maes ategol. Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1) a datganiad sylweddol, i’w baratoi yn ystod yr haf (Rhan 2). Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif Bwnc mewn Perfformio Unawdol. Mae’n gosod sylfeini project Rhan 2, a fydd yn arwain at Brif Ddatganiad. Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2.

Bydd y modiwl craidd mewn cerddoreg yn addysgu myfyrwyr ynglŷn â’r technegau a’r methodolegau diweddaraf o ran ymchwil a gwaith creadigol. Bydd myfyrwyr yn cael 42 awr o hyfforddiant lleisiol/offerynnol. Mewn meysydd pwnc eraill, addysgir trwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu projectau eu hunain, y byddant yn cael goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel perfformwyr, golygyddion, ysgolheigion, gweinyddwyr celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu disgyblaeth mewn modd aeddfed. Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion swyddi â chymwysterau uchel (oddi mewn ac oddi allan i gerddoriaeth). Mae’r canolbwynt penodol ar fedrau a gweithgareddau cysylltiedig â pherfformio yn gwneud myfyrwyr yn arbennig o gyflogadwy fel perfformwyr a hyfforddwyr lleisiol/offerynnol proffesiynol, neu’n eu paratoi ar gyfer rhaglen ddoethurol mewn perfformio. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

Enillir 40 credyd yn ychwanegol trwy gyflwyniadau mewn meysydd eraill cysylltiedig â pherfformio, trwy naill ai un Prif Gyflwyniad Agored neu ddau Is-Gyflwyniad Agored. Mae’r rhain ar gael yn y meysydd pwnc isod: • Ymarfer Perfformio Hanesyddol • Cerddoreg Hanesyddol • Technegau Addysgu Lleisiol/ Offerynnol • Perfformio gyda Chyfarpar Electronig Byw PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 27


Cerddoriaeth Gynnar (Llwybr Safonol) MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2-5 mlynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Efallai y gofynnir am enghraifft o waith academaidd.

• Cerddoreg Hanesyddol • Cerddoreg Olygyddol • Cerddoriaeth a’r Eglwys Gristnogol • Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig • Estheteg Cerddoriaeth • Dadansoddi neu’r modiwlau rhyngddisgyblaethol: • Lladin Ganoloesol • Lladin Uwch i Ôl-raddedigion • Llawysgrifau a Llyfrau Printiedig

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel perfformwyr, golygyddion, ysgolheigion, gweinyddwyr celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion.

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a Darperir addysg bwnc-benodol trwy gyfuniad o threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu disgyblaeth mewn modd aeddfed. projectau eu hunain, y byddant yn cael goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi Ar ben hynny, cymerir golwg ehangach ar sylfaen myfyrwyr ar gyfer gofynion swyddi â CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ fethodolegol y ddisgyblaeth yn ei chyfanrwydd, chymwysterau uchel (oddi mewn ac oddi allan i CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT trwy fodiwl craidd mewn Cerddoreg Gyfredol. Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf gerddoriaeth). Bydd y canolbwynt arbennig ar gerddoriaeth cyn 1700 yn gwneud myfyrwyr yn o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o arbennig o gyflogadwy mewn unrhyw broffesiwn semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1) a a fo’n gysylltiedig â cherddoriaeth gynnar. darn o waith annibynnol sylweddol yn y prif faes, fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni. i’w gynhyrchu yn ystod yr haf (Rhan 2). Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif Bwnc mewn Cerddoriaeth Gynnar. Mae’n gosod y seiliau ar gyfer project Rhan 2 yn yr un maes. Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MA mewn Cerddoriaeth Gynnar (Llwybr Safonol) yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn cerddoriaeth o’r cyfnodau canoloesol a modern cynnar. Yn nodweddiadol, edrychir ar y maes o gyfuniad o wahanol safbwyntiau, megis cerddoreg hanesyddol, cerddoreg olygyddol, astudiaethau cerddoriaeth gysegredig.

Enillir 40 credyd yn ychwanegol trwy gyflwyniadau mewn meysydd eraill, trwy naill ai un Prif Gyflwyniad Agored neu ddau IsGyflwyniad Agored. Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o feysydd pwnc sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth gynnar, yn cynnwys:

Cerddoriaeth yr 20fed - 21ain Ganrif (Llwybr Safonol) MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2-5 mlynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor 2.i neu gymhwyster cyfatebol. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gael clyweliad a/neu gyflwyno enghraifft o’u gwaith. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r MA yng Ngherddoriaeth yr 20fed - 21ain Ganrif (Llwybr Safonol) yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn cerddoriaeth ôl-1900. Yn nodweddiadol, ymdrinnir â’r maes hwn trwy gyfuniad o safbwyntiau gwahanol, megis cerddoreg hanesyddol, dadansoddi, perfformio a chyfansoddi. I gynorthwyo yn hyn o beth, cymerir golwg ehangach ar dechnegau, methodolegau a dulliau (trwy’r modiwl craidd, naill ai mewn Cyfansoddi neu Gerddoreg).

Enillir 40 credyd yn ychwanegol trwy gyflwyniadau mewn meysydd eraill, trwy naill ai un Prif Gyflwyniad Agored neu ddau IsGyflwyniad Agored. Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o feysydd pwnc sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth ôl-1900, yn cynnwys: • Cerddoreg Hanesyddol • Cerddoreg Olygyddol • Ethnogerddoreg • Cerddoriaeth yng Nghymru • Cerddoriaeth a’r Eglwys Gristnogol • Cyfansoddi • Cyfansoddi Electroacwstig • Cyfansoddi Cerddoriaeth Ffilm • Astudio Cerddoriaeth Ffilm • Perfformio Unawdol • Perfformio/Cyfansoddi gyda Chyfarpar Electronig Byw • Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig • Estheteg Cerddoriaeth • Dadansoddi • Gweinyddu’r Celfyddydau • Technegau Stiwdio Gerdd • Astudiaethau Cerddoriaeth Boblogaidd

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy: dau Darperir addysg bwnc-benodol trwy gyfuniad o semester o astudiaeth trwy ddysgu (Rhan 1) a darn o waith annibynnol sylweddol yn y prif faes, hyfforddiant unigol a sesiynau seminar mewn grwpiau bach. O fewn pob un o’r meysydd pwnc a i'w gynhyrchu yn ystod yr haf (Rhan 2). ddewisir, bydd myfyrwyr yn gallu dewis eu projectau eu hunain, y byddant yn cael Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar fodiwl y Prif goruchwyliaeth arbenigol ar eu cyfer. Bwnc yng Ngherddoriaeth yr 20fed - 21ain Ganrif. Mae’n gosod y seiliau ar gyfer project Rhan 2 yn yr un maes. Mae Paratoi ar gyfer Project Rhan 2 yn pontio rhwng Rhannau 1 a 2.

CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Cerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol. Trwy’r cynllun Mynediad i Radd Meistr (ATM), bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau MA ochr yn ochr â phroject ar gyfer cwmni. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Wrth i’r farchnad swyddi ddod yn fwyfwy cystadleuol, mae cymhwyster ôl-radd yn aml o bwys tyngedfennol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dilyn gyrfaoedd proffesiynol fel cyfansoddwyr, perfformwyr, golygyddion, ysgolheigion, gweinyddwyr celfyddydau, llyfrgellwyr, tiwtoriaid offerynnol/lleisiol ac athrawon mewn ysgolion. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu gwybodaeth yn y meysydd pwnc o’u dewis ar lefel uwch, yn cael eu paratoi i wneud ymchwil arbenigol trwy ddull gwybodus a threfnus, wrth ddysgu amrywiaeth o fedrau a methodolegau priodol, ac yn cyrraedd safon uchel o ysgolheictod ac yn dod i ddeall eu disgyblaeth mewn modd aeddfed. Mae’r rhain i gyd yn fedrau allweddol sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion swyddi â chymwysterau uchel (oddi mewn ac oddi allan i gerddoriaeth). Bydd y canolbwynt arbennig ar gerddoriaeth ôl-1900 yn gwneud myfyrwyr yn arbennig o gyflogadwy mewn unrhyw broffesiwn a fo’n gysylltiedig â cherddoriaeth gyfoes. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

28 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Cerddoriaeth trwy Ymchwil MA/MMus HYD Y CWRS Cyfnod cofrestru (heb gynnwys y flwyddyn ysgrifennu): MA/MMus: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhan-amser.

cynnwys ymchwil wreiddiol i astudiaeth hanesyddol, ymarfer perfformio, golygu neu ddadansoddi, gan ganolbwyntio ar agweddau sy’n ymwneud â’r repertoire sydd i’w berfformio neu’n ganolog iddo.

GOFYNION MYNEDIAD Gradd gyntaf ar safon Brydeinig Baglor, fel rheol, gradd ddosbarth cyntaf neu gyfwerth. Bydd disgwyl i ymgeiswyr baratoi cynnig project, yn briodol i hyd ac i lefel academaidd y cwrs. Bydd yn rhaid i berfformwyr gael clyweliad neu, fel arall, gyflwyno perfformiad diweddar ar fideo, heb ei olygu, yn cynnwys repertoire gwrthgyferbyniol (30-40 munud). Efallai y gofynnir i gerddoregwyr neu gyfansoddwyr gyflwyno enghreifftiau o’u gwaith.

Fframwaith y Rhaglen Am ei bod yn rhaglen ymchwil, nid oes gan y cwrs amlinelliad modiwlaidd. Mae pob myfyriwr yn cael goruchwyliaeth fanwl ar broject unigol a gwreiddiol, a allai fod yn gyfraniad newydd a sylweddol at y maes. Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwyliol, dan arweiniad y prif oruchwyliwr, gyda chymorth dau aelod arall o staff sydd ag arbenigedd perthnasol.

Mae graddau uwch trwy ymchwil yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes â rhywfaint o brofiad ar lefel ôl-radd (a ddangosir, fel rheol, trwy radd Meistr). Os gall ymgeiswyr ddangos gallu arbennig o dda yn eu maes dewisol o astudiaeth ar lefel is-radd, bydd modd eu derbyn i’r MA/MMus trwy Ymchwil. Ar wahân i’r gofynion ffurfiol hyn, derbynnir ymgeiswyr ar gryfder eu cynnig ymchwil. DISGRIFIAD O’R CWRS Meysydd Astudiaeth Gellir ennill graddau ymchwil ym meysydd cerddoreg (MA trwy Ymchwil), perfformio a chyfansoddi (y ddau’n MMus trwy Ymchwil) Fel rheol, bydd y project ymchwil yn gyfyngedig i faes penodol unigol. Fodd bynnag, yn ogystal â’u hastudiaethau ymarferol (60%), bydd perfformwyr yn dilyn rhaglen y cytunir â hi, yn

• Perfformio: (i) un datganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 mun) ac un CD (40-50 mun) gyda gorgyffyrddiad rhannol o repertoire (60%) (ii) traethawd hir ar faes cysylltiedig (15,000 o eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar gyfer yr offeryn dan sylw (40%). CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Gerddoriaeth yn gryf o ran creu cysylltiadau cydweithredol, a gyfunir yn aml â chyllid llawn (trwy gynlluniau megis KESS a KTP).

Mae myfyrwyr ymchwil yn cyfarfod yn rheolaidd â’u goruchwyliwr, ac mae ganddynt hawl i ymgynghori ag aelodau eraill o’u pwyllgor, fel y bo hynny’n briodol. Anogir hwy hefyd i gyflwyno adroddiadau ar eu gwaith mewn seminarau a chynadleddau yn ystod blwyddyn yr astudiaeth.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Gradd uwch trwy ymchwil yw’r cymhwyster uchaf y gellir ei ennill trwy astudiaeth. Yn ystod y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cyfrannu mewn modd arwyddocaol a gwreiddiol at eu maes pwnc ac yn dod yn arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn. Er y bydd myfyrwyr yn dysgu dan oruchwyliaeth, Bydd yr asesiad olaf trwy viva voce o flaen panel byddant yn gwneud hynny mewn modd annibynnol a hunan-ysgogol, a byddant yn eu priodol. Mae’r panel yn cynnwys un arholwr mewnol oddi mewn i’r Brifysgol/ Ysgol (gwahanol cyfarwyddo eu hunain. Ynghyd â’u harbenigedd pwnc-benodol, mae hyn yn cymhwyso i aelodau’r pwyllgor goruchwyliol), un arholwr ymgeiswyr ar gyfer gyrfa mewn swyddi allanol sy’n arbenigwr yn y maes, a chadeirydd. rheolaethol neu yrfa academaidd. Cyflwyno Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: • Cerddoreg Hanesyddol/Cerddoreg Olygyddol: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg Thesis 50,000 o eiriau neu gyfatebol • Cyfansoddi: Portffolio o gyfansoddiadau, yn cynnwys rhyw 60 munud o gerddoriaeth (yn ôl cymhlethdod); traethawd ategol o ryw 5,000 – 7,000 o eiriau ar arddull, techneg ac estheteg sy’n rhoi’r portffolio a gyflwynir mewn cyddestun.

Cerddoriaeth PhD/MPhil Fframwaith y Rhaglen Am ei bod yn rhaglen ymchwil, nid oes gan y cwrs amlinelliad modiwlaidd. Mae pob myfyriwr yn cael goruchwyliaeth fanwl ar broject unigol a gwreiddiol, a allai fod yn gyfraniad newydd a sylweddol at y maes.

• Cyfansoddi: Portffolio o gyfansoddiadau, yn cynnwys rhyw 70 munud o gerddoriaeth (yn ôl cymhlethdod); traethawd ategol o ryw 5,000 – 7,000 o eiriau ar arddull, techneg ac estheteg sy’n rhoi’r portffolio a gyflwynir mewn cyddestun. • Perfformio: Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwyliol, (i) un datganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 dan arweiniad y prif oruchwyliwr, gyda chymorth mun) ac un CD (40-50 mun) gyda repertoire GOFYNION MYNEDIAD dau aelod arall o staff sydd ag arbenigedd gwahanol (60%) Gradd ar safon Brydeinig Meistr, fel rheol, perthnasol. (ii) traethawd hir ar faes cysylltiedig (20,000 o teilyngdod neu gyfwerth. Bydd disgwyl i eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar ymgeiswyr baratoi cynnig project, yn briodol i hyd Mae myfyrwyr ymchwil yn cyfarfod yn rheolaidd gyfer yr offeryn dan sylw (40%). ac i lefel academaidd y cwrs. Bydd yn rhaid i â’u goruchwyliwr, ac anogir hwy hefyd i gyflwyno berfformwyr gael clyweliad neu, fel arall, adroddiadau ar eu gwaith mewn seminarau a CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ gyflwyno perfformiad diweddar ar fideo, heb ei chynadleddau yn ystod pob un o’r cyfnodau CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT olygu, yn cynnwys repertoire gwrthgyferbyniol astudiaeth. Bydd yr asesiad olaf trwy viva voce o Yn draddodiadol, bu’r Ysgol Gerddoriaeth yn gryf (45-60 munud). Gofynnir i gerddoregwyr neu o ran creu cysylltiadau cydweithredol, a gyfunir gyfansoddwyr gyflwyno enghreifftiau o’u gwaith. flaen panel priodol. yn aml â chyllid llawn (trwy gynlluniau megis Mae graddau uwch trwy ymchwil yn addas ar KESS a KTP). gyfer ymgeiswyr sydd eisoes â rhywfaint o Cyflwyno - PhD brofiad ar lefel ôl-radd (a ddangosir, fel rheol, • Cerddoreg Hanesyddol/Cerddoreg Olygyddol: RHAGOLYGON GYRFAOEDD trwy radd Meistr). Ar wahân i’r gofynion ffurfiol Thesis 60,000 o eiriau neu gyfatebol Gradd uwch trwy ymchwil yw’r cymhwyster hyn, derbynnir ymgeiswyr ar gryfder eu cynnig • Cyfansoddi: Portffolio o gyfansoddiadau, yn ymchwil. cynnwys rhyw 70 munud o gerddoriaeth (yn ôl uchaf y gellir ei ennill trwy astudiaeth. Yn ystod y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cyfrannu mewn modd cymhlethdod); traethawd ategol o ryw 5,000 – arwyddocaol a gwreiddiol at eu maes pwnc ac yn DISGRIFIAD O’R CWRS 7,000 o eiriau ar arddull, techneg ac estheteg dod yn arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn. Meysydd Astudiaeth sy’n rhoi’r portffolio a gyflwynir mewn cydEr y bydd myfyrwyr yn dysgu dan oruchwyliaeth, Gellir ennill graddau ymchwil ym meysydd destun. byddant yn gwneud hynny mewn modd cerddoreg, perfformio a chyfansoddi. Fel rheol, • Perfformio: annibynnol a hunan-ysgogol, a byddant yn eu bydd y project ymchwil yn gyfyngedig i faes (i) un datganiad cyhoeddus hyd llawn (40-50 cyfarwyddo eu hunain. Ynghyd â’u harbenigedd penodol unigol. Fodd bynnag, yn ogystal â’u mun) ac un CD (40-50 mun) gyda repertoire pwnc-benodol, mae hyn yn cymhwyso hastudiaethau ymarferol (60%), bydd gwahanol (60%) ymgeiswyr ar gyfer gyrfa mewn swyddi perfformwyr yn dilyn rhaglen y cytunir â hi, yn (ii) traethawd hir ar faes cysylltiedig (20,000 o rheolaethol neu yrfa academaidd. cynnwys ymchwil wreiddiol i astudiaeth eiriau) neu gyfansoddiad o hyd cyfwerth ar hanesyddol, ymarfer perfformio, golygu neu gyfer yr offeryn dan sylw (40%). Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: ddadansoddi, gan ganolbwyntio ar agweddau www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg sy’n ymwneud â’r repertoire sydd i’w berfformio Cyflwyno - MPhil neu’n ganolog iddo. • Cerddoreg Hanesyddol / Cerddoreg Olygyddol: Thesis 60,000 o eiriau neu gyfatebol HYD Y CWRS Cyfnod cofrestru (heb gynnwys y flwyddyn ysgrifennu): PhD: 3 blynedd llawn-amser, 6 blynedd rhan-amser; MPhil: 2 flynedd llawn-amser, 4 blynedd rhan-amser.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 29


Ysgol y Gymraeg Ynglŷn â’r Ysgol O ddyddiau John Morris-Jones ac Ifor Williams, hyd at y presennol, y mae aelodau Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi bod yn cyhoeddi gwaith ymchwil o’r radd flaenaf ac wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Ym Mangor, er enghraifft, y paratowyd The Welsh Academy English-Welsh Dictionary: Geiriadur yr Academi (2005) a bu i’r Adran ran ganolog hefyd yn y gwaith o gyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008). Mae’r to presennol o ddarlithwyr oll yn ysgolheigion profiadol, a rhan greiddiol o’u cenhadaeth yw meithrin a chefnogi myfyrwyr ymchwil. Ar hyn o bryd, y mae yn Ysgol y Gymraeg gymuned eithriadol o fywiog o fyfyrwyr ymchwil. Mae cyfran dda ohonynt yn fyfyrwyr a benderfynodd aros gyda ni i astudio ar ôl cael blas mawr ar y cwrs BA Cymraeg. Daeth eraill atom ar ôl graddio mewn prifysgolion eraill, a hynny weithiau mewn pynciau heblaw’r Gymraeg. Yr ydym yn ymfalchïo hefyd fod nifer helaeth o fyfyrwyr hŷn yn dewis dod atom a hynny ar ôl iddynt fod allan o’r system addysg am flynyddoedd lawer. Staff a chyfleusterau Mae ein staff ymysg prif arbenigwyr rhyngwladol eu meysydd astudio. Mae eu cyhoeddiadau’n cwmpasu’r cyfnod canoloesol a llenyddiaeth Cymru mewn blynyddoedd diweddarach. Mae gan yr Ysgol arbenigedd yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg, ac mae ein staff yn cynnwys rhai o brif ysgrifenwyr ac ymarferwyr creadigol y Gymru gyfoes. Gall myfyrwyr fanteisio ar y Gwasanaethau TG rhagorol sydd ar gael yn y Brifysgol ynghyd â chasgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion yn ein Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau. Mae nifer o’r cyfnodolion ar gael arlein mewn fformatau testun llawn ac mae gennym hefyd gronfeydd data, fideos a chryno ddisgiau; micro ddeunydd; casgliad gwych o lawysgrifau a chatalog ar y we i gael mynediad at e-lyfrau, e-gyfnodolion, hen bapurau arholiad, canllawiau pynciau ac adnoddau dysgu eraill.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae’r meysydd ymchwil y gellwch weithio ynddynt ym Mangor yn eithriadol o eang a chyfoethog ac yn ymestyn o farddoniaeth a rhyddiaith yr Oesoedd Canol hyd at lenyddiaeth gyfoethog yr 20fed Ganrif a gwaith nofelwyr y cyfnod presennol megis Owen Martell a Wiliam Owen Roberts. Efallai eich bod yn ymddiddori yn hanes cymdeithasol y Gymraeg, yn hanes y wasg Gymraeg, mewn llên gwerin ac enwau lleoedd, neu yn hynt a helynt y cymunedau Cymraeg hynny a ddatblygodd y tu allan i Gymru. Efallai fod y cyswllt rhwng llenyddiaeth a gwleidyddiaeth, neu rhwng llenyddiaeth a chrefydd o ddiddordeb i chwi. Dyma’r math o feysydd a allai fod yn sail i’ch gwaith ymchwil. Ym Mangor hefyd fe geir darpariaeth ardderchog ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ym maes ysgrifennu creadigol. Mae’r cwrs MA Ysgrifennu Creadigol bellach wedi hen ennill ei blwyf ac mae modd i fyfyrwyr ymgymryd â chynlluniau MPhil a PhD uchelgeisiol yn yr un maes. Ceir cefnogaeth academaidd gref yn y maes hwn, gyda phedwar o ddarlithwyr yr Ysgol yn enillwyr rhai o brif lawryfon yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r cynllun MA a gynigiwn yn cael ei deilwra i ddibenion a diddordebau'r myfyrwyr unigol ac yn cynnwys blwyddyn academaidd o astudio llawn-amser (neu ddwy flynedd yn rhan-amser). Yn ystod y flwyddyn honno, bydd y myfyriwr dan gyfarwyddyd gwahanol aelodau o blith staff yr Ysgol ac yn cyflwyno gwaith traethodol yn rheolaidd. Cyn diwedd y flwyddyn galendr, bydd gofyn i'r myfyriwr gyflwyno traethawd hir ac ynddo hyd at 20,000 o eiriau. Yn achos myfyrwyr a fydd yn dilyn y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol bydd y gwaith yn gyfuniad o ddadansoddi llenyddol a chyflwyno portffolio o waith creadigol yn eu dewis gyfrwng. Cynllun arall yw'r un MPhil a gynigiwn, sy'n golygu cofrestru am ddwy flynedd academaidd gyfan a chyflwyno traethawd hir ac ynddo rhwng 30,000 a 60,000 o eiriau. Gellir hefyd ei ddilyn yn rhan-amser. Mae'r cynlluniau PhD sydd ar gael yn yr Ysgol yn para am dair blynedd o astudiaeth llawnamser, a bydd traethawd ymchwil rhwng 60,000 a 100,000 o eiriau i'w gyflwyno ar ddiwedd y cyfnod hwn. Mae modd cofrestru’n rhan-amser dros gyfnod hwy o amser hefyd. Bydd PhD ym maes ysgrifennu creadigol yn seiliedig ar broject creadigol eang ei gwmpas a fydd hefyd yn cynnwys rhagymadrodd dadansoddol o’r gwaith hwnnw.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA • Cymraeg • Ysgrifennu Creadigol • Y Celtiaid PhD/MPhil • Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg • Ysgrifennu Creadigol

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382240 E-bost: cymraeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg

“Rwyf ar hyn o bryd yn astudio PhD yn Ysgol y Gymraeg ym Mangor dan y teitl ‘Portreadu a Dehongli’r Bröydd Chwarelyddol a’r Diwydiant Llechi yn y Cyfnod Ôlddiwydiannol.’ Ar ôl clywed bod ysgoloriaeth ar gael ym Mangor, roeddwn yn credu ei fod yn gyfle gwych i barhau gyda fy addysg. Mae’r ysgoloriaeth yn golygu fy mod yn cael arian gan Ewrop a Llywodraeth Cymru tuag at fy nghostau bob blwyddyn ac yn rhoi’r cyfle i mi flasu’r byd gwaith. Ers dod yn fyfyriwr yma rwy’n gweld bod y Brifysgol, ac yn enwedig Ysgol y Gymraeg, yn haeddu’r enw da sydd ganddynt. Mae darlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi bod yn hynod o frwdfrydig dros fy mhroject ac yn barod iawn i helpu. Mae hefyd yn wych bod mewn adeilad mor brydferth, gyda golygfa mor anhygoel o Fangor. Rwyf yn cwrdd gyda fy ngoruchwyliwr yn wythnosol i drafod fy ngwaith a’r camau nesaf. Mae’r adran yn trefnu seminarau wythnosol gyda’r myfyrwyr ôl-radd eraill, sy’n werthfawr ac yn ein rhoi ar ben ffordd. Mae darlithwyr eraill yr adran hefyd yn cynghori ac yn gysylltiadau defnyddiol wrth i mi weithio ar y project.” ELIN GWYN, o Sling ger Bethesda, PhD yn Ysgol y Gymraeg mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Lechi Cymru

30 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Cymraeg MA cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill. At hynny, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o’r modiwlau israddedig er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd croeso iddo wneud hynny.

HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol.

CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MA a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Cwmni Da, Rondo Media, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r cylchgrawn Barn. Mae’r profiadau gwaith a gafwyd gyda’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wedi cryfhau cyflogadwyedd y myfyrwyr hyn yn fawr.

DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r cwrs wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un, a’r union gynnwys yn dibynnu ar ba agweddau yn union ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg y canolbwyntir arnynt. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd sef traethawd hir oddeutu 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Yn y blynyddoedd diwethaf bu myfyrwyr yn astudio rhychwant o feysydd, yn eu plith ymateb gwasg Gymraeg America i’r Rhyfel Byd Cyntaf a llenyddiaeth ddinesig, ac mae myfyrwyr wrthi’n gweithio ar hyn o bryd ar brojectau mor amrywiol â chefndir Ewropeaidd Emrys ap Iwan a chymhwyso theori hoyw at lenyddiaeth Gymraeg. Er bod yr holl fodiwlau’n rhai gorfodol, felly, mae elfen gref o ddewis yn nodweddu’r cynnwys.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, rhaglen deledu fel Hacio, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.

Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôlradd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn

Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

Ysgrifennu Creadigol MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhanamser. GOFYNION MYNEDIAD Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r cwrs wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un sef ‘Themâu Creadigol’, ‘Technegau Cyfansoddi’ a ‘Mathau Llenyddol’. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd, sef portffolio o waith creadigol hyd at 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Mater i’w drafod rhwng y myfyriwr a’i gyfarwyddwr academaidd fydd union natur y portffolio, ac mae amryw fodelau’n bosib, e.e. nofel fer, casgliad o storïau byrion neu gerddi, cyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ofynion unigol pob myfyriwr wrth bennu union gynnwys y modiwlau, a chynllunnir rhan gyntaf y rhaglen gyda golwg ar y posibiliadau creadigol a all fwydo’r ail ran.

Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôlradd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, rhaglen deledu fel Hacio, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.

At hynny, cynhelir seminarau ysgrifennu creadigol rheolaidd a bydd cyfle i glywed Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: awduron gwadd fel Wiliam Owen Roberts, Lloyd www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg Jones, Angharad Tomos ac Ifor ap Glyn yn trafod eu gwaith. Yn ogystal, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o’r modiwlau israddedig er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd cyfle iddo wneud hynny. CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MA a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Cwmni Da, Rondo Media, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r cylchgrawn Barn. Mae’r profiadau gwaith a gafwyd gyda’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wedi cryfhau cyflogadwyedd y myfyrwyr ôl-radd yn fawr.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 31


Y Celtiaid MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, hyd at 3 blynedd rhan-amser. GOFYNION MYNEDIAD Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol. DISGRIFIAD O’R CWRS Ychydig iawn o eiriau sydd mor atgofus a chyfareddol â’r term ‘Celtaidd’: awgrymir cywreinrwydd gemwaith yr Oes Efydd, adeiladweithiau enfawr Côr y Cewri a Newgrange, chwedlau Arthur a Cú Chulainn a chrefft farddol brenhinoedd a thywysogion. Ond mae’r ‘Celtaidd’ hefyd yn ymwneud â’r Dadeni, yr Ymoleuo a’r Byd Newydd; â Rhamantiaeth, Chwyldro a brwydr ieithoedd, llenyddiaethau a hunaniaethau cenedlaethol i oroesi yn y cyfnod modern.

cyfarfodydd â’r cyfarwyddwr yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. Modiwlau Gorfodol: • Y Celtiaid: Yr Hanfodion Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif ffynonellau ein gwybodaeth am y ‘Celtiaid’, yn seiliedig ar y gwahanol ddiffiniadau o’r gair a gafwyd dros y canrifoedd. Rhoddir sylw manwl i’r diffiniadau hyn wrth edrych ar y dystiolaeth graidd archaeolegol a hanesyddol. • Creu’r Celt Modern Archwilir sut y cafodd cysyniadau’r ‘Celt’ a’r ‘Celtaidd’ eu defnyddio yn y cyfnod modern. Ystyrir ystod eang o ddisgyrsiau (e.e. ieithyddiaeth, archaeoleg, anthropoleg, celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth) a rhoddir sylw i’r cyd-destunau ideolegol a'u dylanwadau ar hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y 'Celtiaid' eu hunain.

CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau MA a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Cwmni Da, Rondo Media, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r cylchgrawn Barn. Mae’r profiadau gwaith a gafwyd gyda’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wedi cryfhau cyflogadwyedd y myfyrwyr hyn yn fawr. RHAGOLYGON GYRFAOEDD I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, a rhaglen deledu fel Hacio. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.

• Sefydliadau Celtaidd Mae’r cwrs MA newydd hwn yn rhoi’r cyfle a’r Astudir y prif agweddau ar lythrennedd gallu i fyfyrwyr ddidoli’r ffeithiau a’r ffuglen, ac i ateb yn fanwl y cwestiwn: ‘Pwy oedd – a phwy yw ‘Celtaidd’ canoloesol, mewn barddoniaeth a rhyddiaith ar draws ystod o lenddulliau; yn – y Celtiaid?’ ogystal, caiff y celfyddydau gweledol sylw. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: Mae’r prif ffocws ar Gymru ac Iwerddon, ond Ydy’r ‘Celtiaid’ yn bodoli mewn gwirionedd, ac os www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg rhoddir ystyriaeth hefyd i’r gwledydd Celtaidd ydynt, pwy a beth ydynt? Beth fu – a beth yw – perthnasedd gwleidyddol a syniadaethol y ‘Celt’, o eraill. Ystyrir parhad y traddodiadau cynnar hyn yn y cyfnod modern ac, yn wir, hyd at y fryngeiri’r cyfnod cynhanesyddol i lywodraethau presennol. annibynnol a datganoledig y dwthwn hwn? Mae dwy ran i’r cwrs. Yn Rhan 1 dilynir tri modiwl a addysgir gan arbenigwyr o Ysgolion y Gymraeg; Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg; a Cherddoriaeth. Yn Rhan 2 ysgrifennir traethawd hir o ryw 20,000 o eiriau dan oruchwyliaeth cyfarwyddwr academaidd personol. Trefnir

Modiwlau Dewisol: Cynigir nifer helaeth o fodiwlau dewisol gan wahanol Ysgolion yn y Brifysgol, a’r union ddewis yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg / Ysgrifennu Creadigol PhD/MPhil CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MPhil a PhD a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Canolfan Cae’r Gors, Cwmni Da ac Amgueddfa Lechi Gogledd Cymru. Noddwyd cynlluniau eraill gan Fwrdd yr Iaith gynt a’r Coleg Cymraeg GOFYNION MYNEDIAD Cenedlaethol. Enillodd myfyrwyr eraill Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar Ym maes astudiaethau ieithyddol, amrywiodd y ysgoloriaethau gan yr AHRC a chronfa radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu meysydd ymchwil yn fawr: ‘Y Gymraeg a brofiad blaenorol perthnasol. Mae MA mewn Thechnolegau Cyfathrebu’ sy’n canolbwyntio ar y Ysgoloriaethau Dathlu 125 Mlynedd Prifysgol maes perthnasol hefyd yn gymhwyster dymunol, trawsnewidiadau o ddiwylliant print i ddiwylliant Bangor. er nad yw bob tro’n angenrheidiol. electronig; ‘Patrymau defnydd iaith disgyblion RHAGOLYGON GYRFAOEDD Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3’ a Ar ôl cwblhau eu MPhil neu PhD yn llwyddiannus, DISGRIFIAD O’R CWRS olygodd lawer o waith maes mewn ysgolion aeth amryw gyn-fyfyrwyr yn eu blaenau i weithio Mae cwrs MPhil a PhD yn cynrychioli darn o cynradd ac uwchradd; a ‘Cymraeg Ysgrifenedig: ymchwil estynedig i agwedd arbennig ar iaith rhai patrymau caffael’, project sy’n ceisio canfod i mewn amryw feysydd yn y blynyddoedd diweddar, e.e. swyddi hyrwyddo gyda’r Coleg neu lenyddiaeth Gymraeg. Hyd traethawd MPhil ba raddau y mae pobl yn deall yr iaith safonol Cymraeg Cenedlaethol, Cofrestrfa Academaidd nodweddiadol yw rhwng 30,000 a 60,000 o eiriau neu lenyddol heddiw. Prifysgol Bangor ac Uned Recriwtio Prifysgol y tra mae traethawd PhD yn cynnwys rhwng Drindod Dewi Sant, neu faes cynllunio ieithyddol 60,000 a 100,000 o eiriau. Amlygir yr un amrywiaeth gyfoethog mewn gyda Menter Môn. Aeth eraill ymlaen i ddatblygu projectau eraill cyfredol, boed astudiaeth o’r eu gyrfaoedd fel llenorion ac ennill Pennir cyfarwyddwr ymchwil i bob myfyriwr dehongliadau cerddorol modern o destunau cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr Goffa Daniel unigol a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy Cymraeg canoloesol, ymchwil i’r ffordd y Owen a Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn. Ar hyd y gydol cofrestriad y myfyriwr. Cynhelir cyfres portreadwyd y diwydiant llechi a’r broydd blynyddoedd mae myfyrwyr ymchwil o Ysgol y reolaidd o seminarau ar gyfer cymuned ôl-radd chwarelyddol yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol, neu Gymraeg wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus egnïol Ysgol y Gymraeg lle bydd cyfle i rannu drafodaeth ar wasg Gymraeg Unol Daleithiau mewn amryw feysydd, boed yn y cyfryngau, y byd gwybodaeth am brojectau ymchwil myfyrwyr a America a’r Ail Ryfel Byd. addysg, meysydd gweinyddol neu’r byd staff. gwleidyddol. PhD Ysgrifennu Creadigol PhD Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg Gellir dilyn MPhil neu PhD mewn Ysgrifennu Dewisodd amryw fyfyrwyr ganolbwyntio ar Creadigol, cwrs sy’n cynnwys portffolio creadigol Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: astudiaethau testunol a mynd ati i olygu gwaith sylweddol a darn o ymchwil hunan-feirniadol yn www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg beirdd fel Alis ferch Gruffudd (fl. 1540-70) ac seiliedig ar y project creadigol. Ymhlith y projectau diweddar mae nofel hanes, nofel Ieuan ap Gruffudd Leiaf, Robert Leiaf a Rhys gyfoes a chasgliad o gerddi, a chyfres o ysgrifau. Goch, Glyndyfrdwy yn ogystal â chanu’r beirdd i deulu’r Mostyn. Agweddau ar waith llenorion HYD Y CWRS PhD: 3 blynedd llawn-amser gydag 1 flwyddyn ychwanegol i gyflwyno’r gwaith, 6 blynedd rhanamser gydag 1 flwyddyn ychwanegol i gyflwyno’r gwaith; MPhil: 2 flynedd llawn-amser gydag 1 flwyddyn ychwanegol i gyflwyno’r gwaith, 4 blynedd rhan-amser gydag 1 flwyddyn ychwanegol i gyflwyno’r gwaith.

32 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

cyfoes a aeth â bryd myfyrwyr eraill, boed Gwyn Thomas, Angharad Tomos, Wiliam Owen Roberts neu Owen Martell. Denwyd eraill i fyd y ddrama a chafwyd o leiaf dri phroject diweddar yn y maes: ‘Kate Roberts a’r Ddrama’, ‘Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Aled Jones Williams a Siôn Eirian’, ac astudiaeth o gyfresi dramâu teledu, o Bowen a’i Bartner y 1980au cynnar hyd at Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain.


Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Cynigir nifer o fodiwlau arbenigol MA drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe ellir sgrifennu’r traethawd hir MA yn yr iaith honno. Yn ogystal gall staff yr Ysgol arolygu traethodau MPhil a PhD a ysgrifennir yn Gymraeg dros ystod eang o feysydd mewn Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg. Staff a Chyfleusterau Mae gan yr Ysgol 18 o staff dysgu â chryfder penodol mewn hanes Cymru ac archaeoleg Geltaidd. Mae’r llyfrgell yn cynnig adnoddau rhagorol yn y meysydd hyn, gan gynnwys casgliad cynhwysfawr o gyfnodolion a phapurau newydd, casgliadau o ffynonellau wedi’u cyhoeddi, ac amrywiaeth eang o lyfrau sy’n ymdrin â phob agwedd ar orffennol Cymru. Hefyd, ceir casgliad sylweddol o lyfrau prin. Archifau’r Brifysgol yw’r casgliad archif mwyaf yng Nghymru heblaw’r Llyfrgell Genedlaethol, ac maent yn gartref i gyfoeth o lawysgrifau sy’n dyddio o’r oesoedd canol i’r presennol – gan amrywio o gasgliadau sylweddol stadau Mostyn a Phenrhyn i bapurau gwleidyddion, ffigurau llenyddol ac ysgolheigion modern a chyfoes megis Kate Roberts, y sosialydd arloesol David Roberts a’r hanesydd John Edward Lloyd. Yn yr un modd, mae gan bron hanner staff academaidd yr Ysgol ddiddordeb mawr yn hanes Cymru – o oes tywysogion Cymru i ddatganoli, gan gynnwys hefyd arbenigeddau mewn hanes crefyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol modern cynnar, hanes stadau a chymdeithas wledig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hanesyddiaeth Cymru (h.y. hanes ysgrifennu hanes Cymru). Felly, cewch eich addysgu gan bobl sydd wrthi’n ymchwilio ac yn cyhoeddi yn y meysydd y byddwch yn eu hastudio. Mae archaeolegwyr yn manteisio ar leoliad Bangor mewn ardal sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gofadeiladau archaeolegol – beddau cynhanes a chylchoedd cerrig, caerau Rhufeinig, cestyll canoloesol (gan gynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Miwmares, Caernarfon a Chonwy), a gweddillion y chwyldro diwydiannol. Mae diddordebau ymchwil y staff archaeoleg yn cynnwys cynhanes cynnar Prydain ac Iwerddon, yr Oes Haearn Geltaidd yn Ewrop a Phrydain, Arfordir Gorllewin Iwerydd, Cymru ac Iwerddon yn yr oesoedd canol cynnar, a hanes archaeoleg. Mae gan sawl aelod staff brojectau maes yng Nghymru a thu hwnt.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Ym maes Hanes a Hanes Cymru, ceir cryfderau ymchwil yn y meysydd canlynol: • Canoloesol: y byd Eingl-Normanaidd; hanes menywod yn yr Oesoedd Canol; crefydd, cymdeithas a diwylliant. • Y cyfnod modern cynnar: crefydd, hunaniaeth genedlaethol a rhethreg wleidyddol yng Nghymru a Lloegr yn ystod diwedd Cyfnod y Stiwartiaid. • Hanes modern a chyfoes: elusennau; trefi; hiliaeth a chenedlaetholdeb; y mudiad llafur; hanes chwaraeon; diwylliant prynu; datganoli. Ym maes Archaeoleg, ceir cryfderau ymchwil yn y meysydd canlynol: • Cynhanes cynnar: tirweddau a morluniau, marwolaeth a chladdu. • Cynhanes diweddarach a Rhufeinig: tirweddau, anheddu a chladdu, archaeoleg gymdeithasol, archaeoleg Geltaidd. • Dechrau’r Oesoedd Canol cynnar: celf a cherflunwaith, anheddu, archaeoleg gymdeithasol, archaeoleg Geltaidd. Ym maes Treftadaeth, ceir cryfderau ymchwil yn y meysydd canlynol: • Rheoli treftadaeth: cenedlaethol a rhyngwladol, archaeoleg gyhoeddus. Cyrsiau PhD/MPhil Mae goruchwyliaeth ar gael ar gyfer ymchwil yn hanes canoloesol, modern cynnar a modern Prydain ac Ewrop a hanes modern America, yn ogystal ag yn holl gyfnodau Hanes Cymru. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg neu cysylltwch â’r Ysgol.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: PhD/MPhil • Hanes • Hanes Cymru Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA/Diploma • Archaeoleg Geltaidd • Hanes • Hanes Cymru PhD/MPhil • Archaeoleg • Treftadaeth • Hanes • Hanes Cymru

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382144 E-bost: hanes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes

PROFFIL STAFF

Ynglŷn â’r Ysgol Mae Hanes wedi cael ei ddysgu ym Mangor ers i’r Brifysgol gael ei sefydlu yn 1884 ac mae Archaeoleg wedi cael ei ddysgu yma er 1960. Mae’r Ysgol wedi’i lleoli yng nghanol hanesyddol y Brifysgol, ac mae’r ystafelloedd darlithio, y llyfrgell celfyddydau a’r archifau i gyd gerllaw. Mae gan yr ysgol enw rhagorol am addysgu ac ymchwil dros faes eang, gan ymestyn yn gronolegol o gynhanes i’r presennol.

Yr Athro Huw Pryce, Athro Hanes Cymru Mae gan Huw Pryce ddiddordebau eang yn hanes Cymru. Y mae’n gyd-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru (Welsh History Review) ac yn un o olygyddion Studies in Celtic History, cyfres o gyfrolau a gyhoeddwyd gan Boydell. Yn 2011 fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Y mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar Gymru’r oesoedd canol, gan gynnwys golygiad o ddogfennau’r tywysogion Cymreig. Yn ogystal y mae’n ymddiddori yn hanesyddiaeth Cymru, sef pwnc ei lyfr diweddaraf: astudiaeth o’r hanesydd John Edward Lloyd (1861-1947), a fu’n Athro Hanes ym Mangor ac yn awdur y ddwy gyfrol arloesol A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911).

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 33


Ysgol Ieithoedd Modern Ynglŷn â’r Ysgol Mae dysgu Ieithoedd Modern wedi bod yn rhan o gwricwlwm Prifysgol Bangor byth ers i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, fel y’i galwyd ar y pryd, groesawu ei fyfyrwyr cyntaf yn 1884. Mae ein gwaith yn seiliedig ar y traddodiad cadarn a pharhaus hwn ac rydym yn croesawu ac yn hyrwyddo’r pethau gorau sydd gan dechnoleg i’w cynnig i ddysgwyr ieithoedd. Rydym yn cynnig un o ddewisiadau ehangaf a mwyaf hyblyg y DU o gyrsiau gradd mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg – ynghyd â nifer o gyfuniadau â phynciau eraill. Rydym hefyd yn darparu modiwlau sy’n rhoi cyfle i holl fyfyrwyr y Brifysgol ddatblygu eu sgiliau iaith drwy gydol eu cyfnod ym Mangor. Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ôl-radd mewn amrywiaeth o feysydd ac ieithoedd (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Galiseg, Mandarin) mewn amgylchedd cyfeillgar a bywiog. Mae’r Ysgol hefyd yn cynnal y Ganolfan Astudiaethau Galisiaidd yng Nghymru ac mae ganddi gysylltiadau agos â sefydliadau ym mhob rhan o’r DU, Ewrop a’r Dwyrain Pell. Rydym yn cynnal Fforwm Ymchwil rheolaidd gydag amrywiaeth o siaradwyr gwadd, yn ogystal â digwyddiadau rheolaidd gyda’r nod penodol o feithrin sgiliau ymchwil ein myfyrwyr ôl-radd. Mae cyfleoedd dysgu hefyd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd sydd â diddordeb mewn datblygu eu proffil. Ceir cymuned ôl-radd fywiog sy’n ehangu o fewn yr Ysgol, ac mae myfyrwyr yn gweithio mewn amgylchedd clòs a chefnogol.

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor gellir cyflwyno aseiniadau a thraethodau hir yn Gymraeg ar gyfer yr MA Astudiaethau Cyfieithu a'r MA Ieithoedd a Diwylliannau Ewrop. Gellir astudio rhai modiwlau MA Astudiaethau Cyfieithu drwy gyfrwng y Gymraeg, a gellir trefnu cyfarfodydd dwyieithog ar gyfer cyfarwyddyd doethuriaeth. Cynigir hefyd gyfarwyddyd doethuriaeth Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hyn, cynigir cefnogaeth fugeiliol ac addysgol helaeth yn Gymraeg. Staff a chyfleusterau Mae ein staff yn ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae ganddynt arbenigedd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae projectau ar y cyd ar draws y gwahanol feysydd iaith yn golygu bod gan yr ysgol ddiwylliant ymchwil bywiog a thraws-ddisgyblaethol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y cyrsiau ôlradd. Mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad rheolaidd â'r staff trwy'r grwpiau dysgu bach a/neu diwtorialau unigol ac fel rheol mae gan fyfyrwyr ddau oruchwyliwr project. Bydd eich goruchwylwyr yn eich annog i ddatblygu eich proffil ymchwil a'ch gyrfa trwy fynd i ddigwyddiadau hyfforddi, cyflwyno papurau mewn cynadleddau ymchwil a chyhoeddi eich ymchwil. Mae gennym adnoddau rhagorol i gefnogi ymchwil ym Mangor, yn cynnwys cyfrifiaduron pwrpasol ac amrywiaeth eang o adnoddau llyfrgell a chyfryngau. Byddwn yn sicrhau y cewch fynediad llawn i gyfrifiaduron, adnoddau llyfrgell a holl adnoddau'r adran, yn cynnwys ein llyfrgell ffilm helaeth, tanysgrifiadau i gyfryngau mewn ieithoedd tramor, meddalwedd iaith arbenigol a llyfrgell y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol yn cynnig graddau ôl-radd a addysgir a graddau ôlradd seiliedig ar ymchwil, gan ymdrin ag amrywiaeth eang o feysydd arbenigol a rhyngddisgyblaethol. Mae’r rhain yn cynnwys Astudiaethau Cyfieithu, Astudiaethau Iberaidd (gan gynnwys Galisiaidd), Astudiaethau Almaenaidd ac Awstriaidd (gydag arbenigedd penodol ar y cyfnod ar ôl 1945), Astudiaethau Eidalaidd, Astudiaethau Ffilm, Astudiaethau Ffrangeg (y 19eg Ganrif a’r cyfnod cyfoes) a Llenyddiaeth Gymharol. Mae arbenigedd traws-ddisgyblaethol yr ysgol yn arbennig o gryf ym meysydd astudiaethau cof, ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, trosglwyddo diwylliannol, a chyfieithu a newidiadau economaiddwleidyddol.

34 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA • Astudiaethau Cyfieithu Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Ieithoedd a Diwylliannau Ewrop • Astudiaethau Cyfieithu PhD/MPhil • Astudiaethau Ffrengig a Ffrangeg • Astudiaethau Almaeneg • Astudiaethau Eidaleg • Astudiaethau Sbaeneg • Astudiaethau Cyfieithu PhD/MPhil trwy ymarfer • Astudiaethau Cyfieithu

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382130 E-bost: modlangs@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithoeddmodern


Astudiaethau Cyfieithu MA HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhanamser GOFYNION MYNEDIAD Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth.

STRWYTHUR Y CWRS Modiwlau Gorfodol: Semester 1: • Dulliau Ymchwilio • Astudiaethau Cyfieithu: Creu Disgyblaeth

Semester 2: DISGRIFIAD O’R CWRS • Cyfieithu ar Waith Darperir y cwrs hwn ar y cyd ag Ysgol y Gymraeg • Creu Portffolio Cyfieithu (ieithoedd: Cymraeg, a Chanolfan Bedwyr. Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg) Bydd y rhaglen MA hon yn rhoi hyfforddiant theori ac ymarferol i fyfyrwyr er mwyn eu Yr Haf: galluogi i ddilyn y ddisgyblaeth mewn cyd-destun Traethawd hir (pwnc sy'n berthnasol i'r iaith academaidd neu alwedigaethol. Bydd y semester arbenigol a ddewisir neu drydedd iaith neu cyntaf yn darparu'r sylfaen theori a methodolegol astudiaeth gymharol). Gall y traethawd hir trwy fodiwlau mewn Astudiaethau Cyfieithu a ymdrin ag unrhyw agwedd ar Astudiaethau Dulliau Ymchwilio. Bydd y modiwlau yn yr ail Cyfieithu, yn seiliedig ar theori neu ymchwil, neu semester yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i faes gyfieithiad o destun a ddewisir gan y myfyrwyr, o ddiddordeb personol. Bydd y modiwl cyntaf, sef gyda sylwadau. Cyfieithu ar Waith, yn ymdrin ag agweddau megis cyfieithu peirianyddol, cyfieithu ar y pryd, a Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: meddalwedd cyfieithu, tra bydd yr ail, sef y www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg Portffolio o Waith Cyfieithu, yn galluogi'r myfyrwyr i ddewis eu corff o ddeunyddiau eu hunain i'w cyfieithu ac i roi sylwadau arnynt. Dyma ran gyntaf y rhaglen, yr ail ran yw Traethawd Hir 20,000 o eiriau ar faes perthnasol o ddewis y myfyrwyr, a hynny dan oruchwyliaeth arbenigol.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 35


Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ynglŷn â’r Ysgol Sefydlwyd yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn 1960, sy’n golygu ei bod yn un o adrannau Ieithyddiaeth hynaf y DU. Mae’r Ysgol yn darparu amgylchedd addysgu ac ymchwil bywiog, ac mae’n unigryw yn y DU ac yn rhyngwladol o ran y meysydd addysgu a goruchwyliaeth a gynigir ganddi. Caiff myfyrwyr eu haddysgu a’u goruchwylio gan y staff; mae pob aelod staff yn ymchwilio ar hyn o bryd. Mae llawer o staff yr Ysgol yn cael eu cydnabod fel arweinwyr rhyngwladol yn eu meysydd arbenigedd.

Staff a chyfleusterau Mae gan yr Ysgol ddeg darlithydd llawn amser, gan gynnwys darlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymraeg. Mae’r Ysgol hefyd yn falch bod David Crystal yn Athro er Anrhydedd iddi; mae’n treulio diwrnod llawn yn yr Ysgol bob blwyddyn yn rhoi cyfres o ddarlithoedd am amrywiaeth o bynciau’n ymwneud ag iaith. Mae staff yr Ysgol yn cynnal ymchwil i amrywiaeth eang o ieithoedd gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Portiwgaleg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Groeg, Lombard, Iseldireg a Chymraeg.

Mae gan yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ddwy flaenoriaeth ymchwil ble mae ganddi arbenigedd o safon fyd-eang. Mae’r rhain ym meysydd Dwyieithrwydd ac Ieithyddiaeth Wybyddol gan gynnwys meysydd Datblygiad Iaith a Ieithyddiaeth Fforensig. Mae aelodau staff yr Ysgol yn cynnal ymchwil ar wahanol agweddau ar iaith, y meddwl, testun a diwylliant o safbwynt ieithyddol. Mae darpariaeth ieithyddiaeth wybyddol neu ddwyieithrwydd yn rhan ganolog o gwricwlwm israddedig yr Ysgol.

Mae gan yr Ysgol amrywiaeth o gyfleusterau dysgu gan gynnwys labordy cyfrifiaduron i fyfyrwyr ôl-radd yr Ysgol yn unig, casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth a’r Iaith Saesneg a gynhelir gan Gymdeithas Ieithyddiaeth Bangor (cymdeithas a gynhelir gan fyfyrwyr), a labordy seineg sy’n cynnwys cyfleusterau recordio, dadansoddi llais a sain.

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio’n anffurfiol â chi am eich astudiaethau os ydych yn dymuno hynny o dro i dro ar rai o’r cyrsiau.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol O ran y ddarpariaeth a addysgir, mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth gyffrous o raglenni a addysgir yn ymwneud â phob agwedd ar ddwyieithrwydd, cyfathrebu dynol, ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth wybyddol. Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol yn cynnig goruchwyliaeth PhD mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys caffael a newid ieithoedd, ieithyddiaeth fforensig, ieithyddiaeth wybyddol, ieithyddiaeth Gymraeg, dwyieithrwydd, caffael a phrosesu lleferydd, ystyr a gramadeg, prosesu iaith, ac anhwylderau lleferydd ac iaith.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Dwyieithrwydd • Ieithyddiaeth Wybyddol • Ieithyddiaeth MSc • Ieithyddiaeth Fforensig • Datblygiad iaith PhD/MPhil • Dwyieithrwydd • Ieithyddiaeth

MWY O WYBODAETH: Ffôn: : +44 (0) 1248 382264 E-bost: ieithyddiaeth@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithyddiaeth

PROFFIL STAFF

Dr Peredur Glyn Davies, Darlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymraeg, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg “Fy mhrif faes ymchwil yw Dwyieithrwydd, yn benodol y modd y mae siaradwyr dwyieithog yn cymysgu eu hieithoedd wrth siarad, fel ymysg siaradwyr Cymraeg, a hefyd y modd y gall ieithoedd effeithio ar ei gilydd, megis effaith y Saesneg ar ramadeg y Gymraeg. Mae gen i hefyd ddiddordeb cyffredinol mewn ffurf ramadegol Cymraeg lafar gyfoes. Ar hyn o bryd mae fy ngwaith ymchwil yn edrych ar sut mae trefn geiriau Cymraeg llafar yn iaith rhai siaradwyr yn tueddu i gael ei Seisnigeiddio. Rydw i'n defnyddio corpws o sgyrsiau anffurfiol i ddadansoddi'r rhesymau a'r patrymau tu ôl i'r newidiadau hyn. Mae Prifysgol Bangor mewn ardal wirioneddol ddwyieithog, ac mae siaradwyr dwyieithog Cymraeg a Saesneg felly ar riniog y drws inni allu eu hastudio a'u dadansoddi! Mae Canolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd yma, sydd yn galluogi i mi ymchwilio ar y cyd ag ysgolheigion eraill ym maes dwyieithrwydd. Mae'r Ganolfan, a'r Ysgol Ieithyddiaeth, yn gallu darparu offer ac ystafelloedd penodol ar gyfer recordio a dadansoddi llawer o wahanol agweddau pobl ddwyieithog. Rydw i'n dysgu modiwl ôl-radd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd sy’n edrych i mewn i faes dwyieithrwydd o sawl gwahanol ongl, ac felly caiff myfyrwyr gyfle i brofi'r ymchwil diweddara ar y Gymru ddwyieithog yn syth o'r efail. Ym Mangor ceir yr unig adran ieithyddiaeth ymysg Prifysgolion Cymru, ac felly bydd ein myfyrwyr ôl-radd yn cael cyfle unigryw i drafod agweddau ieithyddol y Gymraeg, ac ieithoedd eraill, mewn cyd-destun Cymreig. Ceir ysgolheigion o bedwar ban byd yn ein hadran sydd oll yn athrylithoedd mewn amryw feysydd ieithyddol, ac felly bydd myfyrwyr yn sicr o brofi ystod eang o bynciau cyn diwedd eu cwrs.”

36 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol y Saesneg Ynglŷn â’r Ysgol Mae Ysgol y Saesneg wedi bod yn rhan annatod o Brifysgol Bangor ers i’r Brifysgol agor ei drysau yn 1884. Mae ein hanes hir, ein traddodiad cryf a’n cyfoeth o brofiad yn cael eu hadlewyrchu yn ein harbenigedd ar lefel ôl-radd, a chânt eu hategu gan amrywiaeth o gyrsiau sy’n galluogi ein myfyrwyr i arbenigo mewn sawl maes astudio traddodiadol a chyfoes. Mae ein staff academaidd yn cynnwys rhai o brif awdurdodau’r byd ar Milton, Llenyddiaeth Arthuraidd, Herbert, llenyddiaeth fodern gynnar, hanes y llyfr ac ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, ac mae pob un o staff dysgu’r Ysgol yn feirdd, awduron, beirniaid neu nofelwyr llwyddiannus. Mae’r Ysgol yn cynnig amgylchedd dymunol a chefnogol ar gyfer astudio ôl-radd, gan ganolbwyntio ar addysgu grwpiau bach a goruchwyliaeth un-i-un. Mae myfyrwyr ôlradd yn cydweithio’n agos â staff academaidd mewn cymuned ymchwil sy’n annog gweithgarwch a chyfnewid rhyngddisgyblaethol. Mae myfyrwyr ein cyrsiau Meistr a PhD yn rhan o Ysgol Ôl-radd fywiog o fewn Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sy’n rhoi cyfleoedd am gyfnewid cynhyrchiol ar draws disgyblaethau ac Ysgolion.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae pum maes allweddol i’n harbenigedd: llenyddiaeth ganoloesol hwyr a modern gynnar, hanes y llyfr, ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, llenyddiaeth gyfoes ac ysgrifennu creadigol, a ffilm. Mae tair canolfan ymchwil yn hwyluso ymchwil yn y meysydd hyn: y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), sefydliad ymchwil gydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth sy’n canolbwyntio ar weithgareddau ymchwil yn y cyfnod cyn 1800; a Chanolfan R.S. Thomas sy’n meithrin gwaith newydd yn y maes astudio hwn, yn enwedig drwy ymgysylltu â deunydd ffynhonnell wreiddiol o archifau R.S. Thomas y mae Prifysgol Bangor wedi’u cael yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Ganolfan Barddoniaeth Gyfoes – The Centre for Contemporary Poetry (a adwaenir yn anffurfiol fel ‘Contempo’) yn ganolfan ymchwil gydweithredol a thraws-sefydliadol a sefydlwyd yn 2006. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan Brifysgolion Bangor, Aberystwyth a Brighton. Trwy gyfrwng seminarau cyswllt fideo rheolaidd a symposia, ei nod yw datblygu gwybodaeth am ddulliau barddonol cyfoes, am y cyswllt rhwng y gair a’r gweledol, ac edrych ar y gwahaniaethau rhwng ffurfiau barddonol arbrofol a thraddodiadol.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Llenyddiaeth Arthuraidd • Ysgrifennu Creadigol • Llenyddiaeth Fodern Gynnar • Saesneg • Llenyddiaeth Ganoloesol a Llenyddiaeth Fodern Gynnar • Astudiaethau Canoloesol PhD/MPhil • Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol • Saesneg

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382102 E-bost: pgadmissionstutor@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/saesneg

Staff a chyfleusterau Mae diddordebau ein staff yn ymestyn o’r cyfnod canoloesol i’r unfed ganrif ar hugain ac yn edrych y tu hwnt i’r DU ar dirluniau rhyngwladol cyffrous llenyddiaeth Saesneg. Mae ein staff i gyd yn ymchwilwyr ac addysgwyr brwdfrydig ac maent yn dod at ei gilydd yn y cyrsiau ôl-radd cyflwyniadol i drosglwyddo eu gwybodaeth a’u harbenigedd amhrisiadwy.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 37


Ysgol Dysgu Gydol Oes Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn rhoi cyfleoedd addysgol rhan-amser hyblyg ac o ansawdd uchel ar draws Gogledd Cymru. Mae ein cyrsiau ôl-radd rhan-amser wedi’u hanelu at bobl yn gweithio sy’n chwilio am ddatblygiad proffesiynol a datblygu eu gyrfa, a rhai sy’n dymuno astudio ar lefel uwch er mwyn her a datblygiad personol mwy cyffredinol. Yn yr arolwg myfyrwyr diweddaraf cafodd y rhaglenni sgôr uchel, gan lwyddo i gael 100% ar y rhan fwyaf o fesurau boddhad.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae’r Rhaglen Datblygu Cymunedol yn elwa ar arbenigedd tiwtoriaid academaidd ac ymarferwyr sydd wedi cael eu dwyn ynghyd i sicrhau proses ddysgu ar gyfer newid sydd wedi’i seilio ar adfyfyrio beirniadol ac ymarfer wedi’i seilio ar ymchwil. Elfen allweddol o’r cwrs hwn yw’r rhaglen ymweliadau astudio â chymunedau a rhanbarthau ar draws Ewrop a’r gyfres seminarau a gyflwynir gan arbenigwyr beirniadol yn y maes.

Mae’r Ysgol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ymchwil weithredol a phrojectau’n gysylltiedig â gwahanol agweddau ar ddysgu gydol oes. Ein prif feysydd diddordeb yw: • Datblygu cymunedol • Dysgu, ar gyfer newid • Materion yn ymwneud â merched • Dinasyddiaeth fyd-eang • Dysgwyr hŷn • Technolegau newydd a dysgu gydol oes

Mae’r Rhaglen Astudiaethau Merched yn unigryw i Gymru ac mae wedi cael ei dysgu ym Mangor er 1994. Mae’r rhai sy’n gwneud y rhaglen yn cael golwg feirniadol ar y materion sy’n wynebu merched yn y Gymru gyfoes ac maent yn manteisio ar arbenigedd tiwtoriaid academaidd a siaradwyr nodedig yn eu maes. Mae’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth wedi galluogi merched i symud ymlaen yn llwyddiannus yn eu gwaith a’u bywydau.

Mae ein hymchwil a’n projectau’n cyfoethogi ein gweithgaredd dysgu gan ein galluogi i ddatblygu deunyddiau dysgu newydd ac ymestyn ein gweithgareddau i gyrraedd ystod ehangach o ddysgwyr ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth ac mae gennym ystod eang o bartneriaid Ewropeaidd.

38 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Mae’r Rhaglen MA Celfyddyd Gain yn adeiladu ar y rhaglen lwyddiannus i israddedigion a thrwy dri cham astudio rhanamser mae’n galluogi i ymarfer stiwdio annibynnol ddatblygu dros gyfnod hirach na graddau confensiynol. Bwriad y rhaglen hon yw eich cael i ymwneud ag ymchwil sylweddol wedi’i seilio ar waith stiwdio a byddwch yn adolygu, datblygu a chryfhau eich sefyllfa fel arlunydd.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA/Diploma/Tystysgrif • Datblygu Cymunedol Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA/Diploma/Tystysgrif • Datblygu Cymunedol (rhan-amser) • Celfyddyd Gain (rhan-amser) • Astudiaethau Merched (rhan-amser)

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382475 E-bost: dgo@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/dgo


Datblygu Cymunedol MA/Diploma/Tystysgrif (rhan-amser) HYD Y CWRS MA/Diploma/Tystysgrif: blwyddyn rhan-amser. GOFYNION MYNEDIAD Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr naill ai brofiad gwaith priodol a digonol, neu gymhwyster proffesiynol perthnasol, a/neu gradd anrhydedd dda neu gyfwerth. DISGRIFIAD O’R CWRS Ar y cwrs hwn bydd cyfle i chi: • gynyddu'ch dealltwriaeth o ddatblygu cymunedol • wella'ch ymarfer mewn datblygu cymunedol • rwydweithio gyda phobl eraill sy'n astudio ac yn gweithio mewn datblygu cymunedol a meysydd cysylltiedig • fynd ar ymweliadau astudio yng Nghymru ac Ewrop • fod yn gysylltiedig â phartneriaeth gyffrous o sefydliadau anllywodraethol, cyflogwyr ac academaidd • ryngweithio a thrafod gyda thiwtoriaid sydd â phrofiad ymarferol a chyfoes o ddatblygu cymunedol yng Nghymru, y DU, Ewrop ac yn fyd-eang • ennill cymwysterau cydnabyddedig am gost resymol Dull Astudio Byddwch yn: • cael 2-3 ddiwrnod o gyswllt y mis • astudio drwy hunan gyfarwyddo • derbyn profiad sy'n gysylltiedig â'r gwaith • mynychu ymweliadau astudio dydd a phreswyl Mae'r rhaglen yn defnyddio strategaeth dysgu ac addysgu gyfranogol ac anogir y rhai sy'n cymryd rhan i gysylltu'r cwrs â'u profiad a'u sefyllfa yn y gweithle. Mae'r cyrsiau yn sicrhau bod theori, ymarfer a sgiliau yn cael eu hintegreiddio trwy gydol yr amser. Mae'n bosib dilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg neu drwy gyfuniad o'r ddwy iaith lle mae hynny'n briodol.

Bydd ymweliad astudio gyda phob cwrs sy'n cael ei ddysgu, sy'n elfen hanfodol o'r broses ddysgu. Mae'r ymweliadau yma'n gyfle i fyfyrwyr, staff, y rhai sy'n ymarfer a grwpiau cymunedol rannu syniadau a phrofiadau a sefydlu system rwydweithio. Ymchwil a thraethawd hir yw'r elfen MA a gefnogir gan diwtor traethawd hir. Bydd cefnogaeth tiwtor yn cael ei darparu gan gydlynydd y cwrs, tiwtoriaid y modiwlau a thiwtoriaid cefnogi rhaglen. Anogir myfyrwyr hefyd i gyfarfod a ffurfio grwpiau hunangymorth ac ymuno â rhwydweithiau lleol. Fel myfyrwyr byddwch yn cael: • cyfarfodydd tiwtorial rheolaidd gyda chydlynydd y cwrs • mynediad o bell at amrywiaeth o gylchgronau academaidd perthnasol a chyfleusterau llyfrgell • cyfleoedd i gael trafodaeth ar-lein gyda chydfyfyrwyr • cyfleoedd i ymuno â rhwydweithiau gweithredol perthnasol Y Modiwlau Mae’r modiwlau yn cynnwys dysgu cysylltiedig â'r gwaith, astudio yn seiliedig ar waith desg, ymchwilio ac ysgrifennu aseiniadau a thrafodaeth yn seiliedig ar y we. Yn gyffredinol, mae pob modiwl yn cael ei asesu ar un aseiniad a gall ffurf yr aseiniad amrywio yn ôl natur y modiwl e.e. traethawd, adroddiad, cyflwyniadau astudiaeth maes, datrys problemau ac archwiliadau lleol, gwaith grwp. ˆ Rydym yn annog myfyrwyr i archwilio dulliau anrhaddodiadol o gyflawni gofynion aseiniadau – fideo, tâp, gweithdy neu weithgareddau cynhadledd. Rhaid trafod gofynion yr unigolion gyda chydlynydd y rhaglen a thiwtoriaid y modiwlau cyn ymgymryd â gwaith o'r fath. Prif nod y cyrsiau Tystysgrif a Diploma yw cynyddu dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau ymarferol y gweithwyr ym maes datblygu cymunedol. Mae elfen MA derfynol y rhaglen yn

darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil ac ysgrifennu traethawd dan arweiniad. Cyrsiau modiwlaidd yw'r cyrsiau Tystysgrif a Diploma. Mae'r ddau gwrs yn cynnwys elfennau theori, ymarfer a sgiliau; a chyfran weddol gyfartal o bob un o'r tair elfen yn y ddau gwrs. Nodir strwythur a theitlau'r modiwlau isod. 10 credyd yw gwerth pob modiwl sengl. 60 credyd yw gwerth y Dystysgrif, 60 credyd yw'r Diploma ac 180 yw gwerth yr MA llawn. Tystysgrif Ôl-raddedig: • Deall y Gymuned • Dadansoddi'r Gymuned • Menter yn y Gymuned • Ymarfer Datblygu Cymunedol • Cymunedau Cynaliadwy • Ymweliadau Astudio Diploma Ôl-raddedig: • Datblygu Rhanbarthol a Chymunedol • Theori a Pholisi Datblygu • Cynllunio Cymunedol • Adlewyrchiadau Critigol • Ymchwilio Cymunedau • Ymweliad Astudiaeth • Ymweliad Astudiaeth Ewropeaidd Traethawd MA: Yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymchwilio'n hir ac yn drylwyr i bwnc sy'n berthnasol i faes Datblygu Cymunedol ac i'r amrywiaeth eang o feysydd sy'n cael eu cynrychioli gan y modiwlau hyfforddedig. Amcangyfrifir mai 600 awr fydd cyfanswm yr amser astudio, gyda hyd at 10 awr o oruchwylio. Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Bydd y cwrs yn adlewyrchu’r cyd-destun Cymraeg yn rhan fwyaf o elfennau’r rhaglen. Mae’r rhaglen gyflawn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae modd i chi gyflwyno’ch gwaith yn y Gymraeg a bydd eich gwaith yn cael ei farcio a’i safoni drwy’r iaith o’ch dewis. Gellir cael cefnogaeth diwtorial drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 39


Mae’r Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas yn goleg blaengar sy’n ehangu, gan ddod â phedair disgyblaeth gysylltiedig at ei gilydd i ffurfio Coleg â sail ymchwil gadarn sy’n darparu cyrsiau o’r safon uchaf ar lefel israddedig ac ôl-radd. Mae cyfanswm o tua 180 o staff yn y gyfadran, a chanolfan addysgu yn ninas Llundain. Gallwn ddarparu cefnogaeth bersonol ragorol i chi, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol i Fangor. Mae ein canolfannau ymchwil yn darparu cyfleoedd i staff a myfyrwyr ymchwil gydweithio, ac yn rhoi cefndir i’n rhaglenni ôl-radd a addysgir. Mae ein haddysgu’n seiliedig ar ymchwil ryngddisgyblaethol o safon fyd-eang. Cafodd y Coleg set ragorol o ganlyniadau yn ystod yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf yn 2008; roedd yr Ysgol Busnes ar frig tabl y DU, o flaen pob prifysgol arall sy’n cynnal ymchwil ym maes Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. Mae’r canlyniadau hyn wedi galluogi’r Ysgol Busnes i fynd â’i haddysg a’i harbenigedd o’r radd flaenaf i ddinas Llundain, gan gynnig graddau MSc a MBA arloesol mewn Bancio a Chyllid, yn ogystal â’r rhaglen MBA Bancwr Siartredig arloesol, yn ei chanolfan newydd yng nghanol ardal ariannol Llundain. Mae ymchwilwyr a staff uwch y Coleg hefyd yn addysgu ar ein rhaglenni Meistr. Mae hyn yn golygu y caiff myfyrwyr y cyfle i astudio gyda staff academaidd sy’n ehangu ffiniau ymchwil, a chael darlithoedd ganddynt. Mae’r Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas yn ymroddedig i ddarparu cyfleusterau ac adnoddau o safon i ategu a hyrwyddo profiad dysgu myfyrwyr, sy’n cynnwys mannau astudio ôl-radd pwrpasol, gyda gorsafoedd gwaith unigol a mynediad rhwydwaith. Mae’r Coleg hefyd yn elwa o ganolfan hyfforddiant a chynadledda o safon fyd-eang, sy’n cynnig hyfforddiant rheoli gweithredol a phroffesiynol rhan-amser mewn cyfleusterau addysgu modern o safon uchel.

PROFFIL STAFF

COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG A GWYDDORAU CYMDEITHAS

Yr Athro Owain ap Gwilym, Athro Cyllid, Ysgol Busnes Bangor Mae’r Athro Owain ap Gwilym wedi cyhoeddi dros drigain o erthyglau ymchwil academaidd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn llawer o gyfnodolion rhyngwladol, megis Journal of Banking and Finance, Financial Analysts Journal, Journal of Portfolio Management, Journal of Futures Markets Journal of Derivatives, a Journal of Business Finance and Accounting. Cyn dod i Fangor, bu’n Athro Cyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu hefyd yn ddeiliad swyddi academaidd ym Mhrifysgol Southampton a Phrifysgol Abertawe. Mae’n gyd-olygydd Credit Ratings International a Credit Ratings in Emerging Markets a gyhoeddir gan Interactive Data. Mae wedi gweithio ar brojectau gyda Fitch Ratings, Financial Times, Moody’s Investors Service, a Scottish Widows. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys micro strwythur marchnadoedd; risg credyd a statws credyd a rheoli buddsoddiadau.

Mae’r rhain yn ategu’r adnoddau rhagorol a gynigir yn ganolog gan y Brifysgol, megis cyfleusterau TG, llyfrgell ac archif helaeth. Ymysg y rhain mae ‘BlackBoard’, rhith amgylchedd dysgu ble mae recordiadau o ddarlithoedd, nodiadau, deunydd darllen a llawer o adnoddau eraill ar gael i fyfyrwyr.

Yn ôl ymarfer asesu ymchwil diweddaraf y llywodraeth, Ysgol Busnes Bangor yw’r orau ym Mhrydain o ran ymchwil Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.

40 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol Busnes Bangor Ynglŷn â’r Ysgol Ysgol Busnes Bangor yw un o’r ysgolion astudiaethau ariannol a bancio gorau ym mhrifysgolion Ewrop, ac mae’n cynnig amrediad llawn o ddisgyblaethau o lefel israddedig i lefel doethuriaeth. Yn ôl ymarfer asesu ymchwil diweddaraf y llywodraeth, Ysgol Busnes Bangor yw’r orau ym Mhrydain o ran ymchwil Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. Caiff myfyrwyr eu denu gan ei henw da am safon uchel ac arbenigedd, yn enwedig ym maes Bancio a Gwasanaethau Ariannol, ble mae Bangor yn un o brif ganolfannau Ewrop sy’n cynnal un o ysgolion PhD mwyaf unrhyw ysgol fusnes ym Mhrydain. Caiff papurau ac erthyglau ymchwil y staff eu cyhoeddi’n rheolaidd mewn cyfnodolion nodedig a chaiff eu llyfrau eu cyhoeddi i gynulleidfa fyd-eang. Fel un o brif Ysgolion Bancio a Chyllid Ewrop, ac i adeiladu ar ei safle uchaf * ym Mhrydain am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid, mae Ysgol Busnes Bangor bellach yn darparu portffolio o raddau MBA ac MSc arbenigol yn ei chanolfan yn Ninas Llundain. * yn ôl Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf Llywodraeth y DU. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau Ysgol Busnes Bangor ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2014, bydd yr Ysgol yn cynnig cwrs Meistr cyfrwng Cymraeg newydd mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yn amodol ar gael ei ddilysu.

Staff a chyfleusterau Mae prif ymchwilwyr a staff uwch Ysgol Busnes Bangor, a oedd yn gyfrifol am gyrraedd y brig ym Mhrydain am ymchwil Cyfrifeg, Bancio a Chyllid, hefyd yn addysgu ar raglenni Meistr. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn cael darlithoedd gan staff academaidd sy’n ehangu gorwelion ymchwil. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae staff Ysgol Busnes Bangor wedi gwneud gwaith polisi ac ymgynghori mewn cysylltiad â’u hymchwil i sefydliadau mor amrywiol â’r Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd, IMF, Trysorlys y DU, Banc Canolog Ewrop, Deutsche Bundesbank, Cymdeithas Banc Cynilo Sbaen, a nifer o sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Gall myfyrwyr ôl-radd yn Ysgol Busnes Bangor ddewis rhwng sawl math o raglenni a phynciau gradd uwch. Mae’r rhain yn cynnwys graddau MSc, MA ac MBA ym meysydd Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Bancio a Chyllid Islamaidd, Busnes, Rheoli, Marchnata, Seicoleg Defnyddwyr, Cyfrifiadureg a’r Gyfraith. Mae’r Ysgol Busnes hefyd yn cynnal rhaglen lwyddiannus iawn i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio graddau ymchwil MPhil neu PhD. Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau deniadol i annog myfyrwyr â’r cymwysterau a’r talentau perthnasol i gyrraedd eu llawn botensial.

RHESTR CYRSIAU: Cwrs cyfrwng Cymraeg: MA • Gweinyddiaeth Gyhoeddus* Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Bancio a Chyllid • Bancio a’r Gyfraith • Busnes a Marchnata • Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr • Cyllid • Bancio a Chyllid Islamaidd • Rheolaeth a Chyllid MSc • Cyfrifeg a Chyllid • Bancio a Chyllid • Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr • Cyllid • Bancio Rhyngwladol a Chyllid Datblygu • Bancio a Chyllid Islamaidd • Rheolaeth a Chyllid • Rheolaeth Cyfryngau Rhyngwladol MBA • Bancio a Chyllid • Bancio a’r Gyfraith • Rheoli’r Amgylchedd* • Cyllid • Rheoli Gwybodaeth* • Bancio a Chyllid Islamaidd • Y Gyfraith a Rheolaeth • Rheolaeth • Marchnata PhD/MPhil • Astudiaethau Cyfrifeg, Bancio, Economeg, Cyllid, Rheolaeth Canolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor Mae gan Ysgol Busnes Bangor ganolfan yng nghanol dinas Llundain sy’n cynnig amrywiaeth o raddau MBA, MSc a MA arbenigol i unigolion sy’n dymuno byw ac astudio yn Llundain. Am ragor o wybodaeth am ein canolfan yn Llundain, gweler: www.bangor.ac.uk/londonbusiness *cwrs newydd - yn amodol ar gael ei ddilysu

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 383023 E-bost: busnes.or@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/busnes

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 41


Gweinyddiaeth Gyhoeddus MPA* MA HYD Y CWRS Meistr: blwyddyn llawn-amser, 2 flynedd rhanamser. DISGRIFIAD O’R CWRS Bydd y cwrs arloesol hwn yn cynnig hyfforddiant hanfodol i reolwyr a gweithwyr o fewn gweinyddiaeth gyhoeddus a pharatoad gwerthfawr ar gyfer y sawl sydd am weithio yn y maes. Dyma fydd yr unig gymhwyster fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio mewn cyddestun Cymreig, a’r unig gymhwyster MPA sydd ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Cynigir y radd gan Ysgol Busnes Bangor gyda chefnogaeth unedau academaidd eraill o fewn y Brifysgol, gan gynnwys Ysgol y Gyfraith, Ysgol Gwyddor Cymdeithas a Chanolfan Bedwyr. Bydd y cwrs yn cyfuno trafodaeth a beirniadaeth ar bolisïau a chyfraith yn y maes, yn cyflwyno agweddau ar weinyddiaeth a rheolaeth sefydliadol, gweinyddu ariannol a staffio ac yn darlunio ymarfer da o fewn gweithle dwyieithog. Darperir y dysgu drwy ddulliau blaengar er mwyn hwyluso astudio rhan-amser ac astudio o bell. Darperir deunydd a rhywfaint o ddysgu arlein a chynhelir gweithdai preswyl fel rhan o strwythur y radd. Bydd ysgoloriaethau ar gael, gwerth hyd at £9,000. Manylion llawn ar gael o fis Rhagfyr 2014 ymlaen ar: www.bangor.ac.uk/busnes/MPA

PROFFIL STAFF

* Cwrs newydd – yn amodol ar gael ei ddilysu.

Dr Sara Parry, Darlithydd Marchnata, Ysgol Busnes Bangor Graddiodd Dr Sara Parry ym Mhrifysgol Salford lle enillodd radd BSc (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Busnes a Marchnata. Ar ôl ennill ei gradd, bu’n gweithio mewn swyddi gwerthiant a marchnata i Rocco Forte Hotels a Marks & Spencer. Enillodd Sara ei doethuriaeth ym mis Medi 2008. Yn ogystal â dysgu, mae Sara hefyd yn gyfrifol am ddatblygu modiwlau busnes a marchnata trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hefyd yn weithgar yn y gwaith o hybu astudiaethau cyfrwng Cymraeg ym maes busnes. Mae ei chyfrifoldebau eraill yn cynnwys goruchwylio ymchwil is-radd ac ôl-radd a rhoi gofal bugeiliol i fyfyrwyr. Ar hyn o bryd, mae'n rhan o broject cydweithredol sy’n datblygu geiriadur o dermau busnes Cymraeg. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cyfathrebu marchnata/ymateb cwsmeriaid i gyfathrebu marchnata; marchnata mewn busnesau bach a chanolig; marchnata technoleg; marchnata busnes i fusnes/disgwyliadau cwsmeriaid mewn perthynas busnes i fusnes a marchnata firol.

42 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Mae ein graddau Meistr yn cynnig hyfforddiant trwyadl yn egwyddorion ac arferion ymchwil gymdeithasol gan alluogi myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau drwy amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Rydym yn adnabyddus am addysgu’n drwyadl a gofalu am ein myfyrwyr. Hefyd, mae gennym enw da am ymchwil o ragoriaeth genedlaethol a rhyngwladol ac mae cynnyrch yr ymchwil hon yn cael ei fwydo’n barhaus i’n cyrsiau. Mae nifer o gyhoeddiadau ac erthyglau gan y staff wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol mewn meysydd penodol. Mae’r staff hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA, MPhil a PhD yn eu meysydd arbenigol eu hunain. Mae hyn yn golygu y cewch eich addysgu gan diwtoriaid sydd wrthi’n ymchwilio ac yn cyhoeddi yn y meysydd y byddwch yn eu hastudio. Mae ein holl gynlluniau gradd yn cynnig hyfforddiant trwyadl yn egwyddorion sylfaenol gwyddor gymdeithasol, dewis eang o bynciau arbenigol, hyfforddiant mewn ymarfer ymchwil cymdeithasol a pharatoi ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa. Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr MA a PhD. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Mae’r MA Polisi a Chynllunio Iethyddol a’r MA Gwaith Cymdeithasol yn gyrsiau dwyieithog. Cryfderau ac arbenigedd Daeth yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf i’r casgliad bod bron yr holl ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn deilwng o gydnabyddiaeth ryngwladol, a bod rhywfaint ohono’n arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd. Mae pedair prif thema i ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas: Cymunedau a Rhwydweithiau Cymdeithasol; Ieithoedd a Diwylliannau Lleiafrifol; Ymchwil Gwerthuso Polisi; Troseddu a Chymdeithas Ddinesig. Mae’r rhain wedi rhoi llwyfan i weithgarwch cydweithredol â mwy o ffocws wedi’i leoli o gwmpas canolfannau ymchwil yr Ysgol: • Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru • Y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol a Gwyddorau Gwerthuso • Canolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru • Dulliau ac Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithas

Mae gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru raglen uchelgeisiol o waith i helpu ymchwilwyr i ddefnyddio data’n well, datblygu projectau rhyngddisgyblaethol mawr, cyflawni ymchwil i gyfres o leoliadau, ac adeiladu partneriaethau â sefydliadau a chymunedau lleol. Mae’r ganolfan yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gydweithio i ddatblygu darlun manylach o bobl Cymru drwy gasglu, dadansoddi a dosbarthu data mewn meysydd o weithgarwch a thwf economaidd i addysg, cyfranogi cymunedol, iechyd a gofal cymdeithasol. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Rydym yn cynnig portffolio o raglenni Meistr sy’n adlewyrchu arbenigedd yr Ysgol a’i hymroddiad i addysgu ôl-radd ar lefel uchel. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o raddau MA, gan ganolbwyntio’n benodol ar Droseddeg Gymharol a Chyfiawnder Troseddol; Cymdeithaseg; Cynllunio a Pholisi Iaith; Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol; Ymchwilio a Gwerthuso Polisi; Troseddeg a’r Gyfraith a Gwaith Cymdeithasol. Mae’r Meistr drwy Ymchwil, yr MPhil a’r PhD yn raddau uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau hyfforddiant ac ymchwil uwch sy’n arwain at draethawd. Nod gradd ymchwil yw darparu hyfforddiant yn seiliedig yn fras ar wyddor gymdeithasol yn ogystal â hyfforddiant penodol mewn meysydd penodol sy’n berthnasol i’r project ymchwil. Ar y cyfan, mae’r hyfforddiant yn rhoi’r cyd-destun a’r sgiliau i’r myfyriwr gynnal ymchwiliad gwreiddiol, yn arwain at baratoi traethawd sy’n gyfraniad annibynnol a gwreiddiol at wybodaeth.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA • Polisi a Chynllunio Ieithyddol • Gwaith Cymdeithasol (cwrs dwyieithog) Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MA • Gwaith Cymdeithasol Rhyngwladol • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Cymharol • Troseddeg a Chymdeithaseg • Troseddeg a’r Gyfraith • Polisi a Chynllunio Ieithyddol • Ymchwil a Gwerthuso Polisi • Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol LLM • Y Gyfraith a Troseddeg MARes • Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol, Polisi Cymdeithasol, Cymdeithaseg PhD/MPhil • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol • Polisi Cymdeithasol

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 383023 E-bost: gwyddoraucymdeithas.or@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gc

PROFFIL STAFF

Ynglŷn â’r Ysgol Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ei sefydlu yn 1966 ac mae’n ganolfan ffyniannus ar gyfer addysgu ac ymchwil ym meysydd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Polisi Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol, Polisi Cyhoeddus, Cymdeithaseg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dr Rhian Siân Hodges, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg), a Chydlynydd cwrs MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Cafodd Rhian ei phenodi’n ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ym Medi 2009. Cyn hynny, treuliodd gyfnod o saith mlynedd rhwng 2002 a 2009 yn astudio gradd BA Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg (dosbarth 1af), gradd ôl-radd MA Ymchwil Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol a gradd PhD Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Erbyn hyn, mae Rhian yn darlithio ar nifer o fodiwlau is-radd ac ôl-radd ac yn gydlynydd y cwrs MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys addysg cyfrwng Cymraeg a’r rhesymau mae rhieni di-Gymraeg yn dewis y system i’w plant, cynllunio ieithyddol, trosglwyddo iaith o fewn y teulu, cymuned a’r gweithle. PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 43


Polisi a Chynllunio Ieithyddol# MA # Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn gydag elfennau dwyieithog yn rhan ohono.

yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r cwestiynau theoretig yng nghyswllt Cynllunio Iaith.

Fframwaith Mae’r rhaglen yn anelu at ymdrin ag anghenion unigolion, cymunedau a sefydliadau am ddealltwriaeth fwy soffistigedig o gynllunio iaith, yn cynnwys gwybodaeth theoretig. Cynigir y GOFYNION MYNEDIAD Fel rheol, gradd gyntaf 2.i neu uwch mewn maes rhaglen fel MA (180 credyd), Diploma ôl-radd perthnasol a/neu brofiad proffesiynol perthnasol (120 credyd) a Thystysgrif ôl-radd (60 credyd) gyda’r posibilrwydd o ymadael ar ôl pob lefel. Ar gyda thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar. Caiff bob lefel (Meistr, Diploma a Thystysgrif), mae’r ymgeiswyr gyfweliad. rhaglen wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr, fel y gallant weithredu DISGRIFIAD O’R CWRS systemau llwyddiannus o gynllunio iaith yn y Mae nifer y cymunedau a’r gweithleoedd gweithle, y gymuned, y system addysg a’r teulu. dwyieithog ac amlieithog ar gynnydd, a Ar lefel Meistr a Diploma, bydd disgwyl hefyd i chynllunio ieithyddol yn faes o bwysigrwydd fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gadarn o cynyddol. O’r herwydd, ceir mwyfwy o alw am ddulliau ymchwil. Trwy’r traethawd hir, bydd y unigolion sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau rhaglen Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio angenrheidiol i lunio strategaethau a systemau effeithiol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ieithyddol. ymhellach agwedd benodol ar gynllunio iaith, ac yn gam tuag at astudiaethau ar lefel ddoethurol Wrth i ystyriaethau ieithyddol ddod yn flaenoriaeth ar gyfer llawer o feysydd – datblygu, os bydd myfyrwyr yn dymuno. cynllunio, addysg, iechyd, TG, marchnata – mae Modiwlau Craidd: angen i staff mewn amrywiaeth eang o feysydd • Y Broses Ymchwil/The Research Process* (40 ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau ym maes credyd) neu Ddulliau Ymchwil ym maes cynllunio ieithyddol. Ar ben hynny, mae cyhoeddi Addysg/Research Methods in Education (30 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi newid y credyd)* a Dulliau Meintiol/Quantitative fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Methods (10 credyd) Gymraeg ac felly’n golygu galw cynyddol fyth am • Cynllunio Ieithyddol/Language Planning (20 weithlu dwyieithog, amryddawn. credyd) • Traethawd Hir/Dissertation Module (60 credyd) Mae’r MA mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn archwilio, mewn modd arloesol a chynhwysfawr, faes sy’n dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru a’r Modiwlau Dewisol: • Agweddau ar Ddwyieithrwydd (20 credyd) tu hwnt. Mae’r rhaglen yn elwa o arbenigedd amrywiol Ysgolion Prifysgol Bangor ym meysydd • Dysgu yn y Gweithle/Work Based Learning* (20 credyd) Gwyddorau Cymdeithas, Ieithyddiaeth, Y Gyfraith, • Hanes y Gymraeg (20 credyd) Busnes, Y Gymraeg, a Gwyddorau Iechyd a fydd HYD Y CWRS MA: blwyddyn llawn-amser, hyd at 4 blwyddyn rhan-amser.

44 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

• Hawliau Ieithyddol (20 credyd) • Hawliau Dynol ac Amrywiaeth Gymdeithasol/ Diversity and Human Rights (20 credyd) * • Rheolaeth yn y Sector Cyhoeddus/Public Sector Management* (20 credyd) • Y Gyfraith a Datganoli yng Nghymru ac Ewrop/ Law & Devolution in Wales & Europe (20 credyd)* • Materion Cyfoes ym Maes Dwyieithrwydd/ Current Issues in Bilingualism* (20 credyd) * modiwl dwyieithog Cyllido Mae’r Ysgol yn cynnig bwrsariaethau amrywiol y flwyddyn i fyfyrwyr tuag at ffioedd dysgu'r MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig bwrsariaethau amrywiol i fyfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, cyn belled a bo hynny’n bosib. Dyfernir y bwrsariaethau fel gostyngiad ar ffioedd y cwrs. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae’r rhaglen yn paratoi myfyrwyr i weithio mewn amrywiaeth o swyddi. Mae’r rhaglen hefyd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer astudiaeth ar lefel ddoethurol ym maes eang cynllunio iaith. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn addas iawn i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n barod ym maes cynllunio ieithyddol ond sydd am gymhwyso fframwaith theoretig a chyd-destun rhyngwladol i’w gwaith dyddiol. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg neu cysylltwch â Chyfarwyddwr y cwrs, Dr Rhian Hodges: r.s.hodges@bangor.ac.uk


Ynglŷn â’r Ysgol Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn ysgol ryngwladol arloesol sy’n ehangu, gan ganolbwyntio ar systemau cyfreithiol a’r amgylchedd cyfreithiol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein cyrsiau’n rhoi sylw i faterion cyfoes sy’n berthnasol i’r amgylchedd busnes a gwleidyddol yn fydeang, a byddant yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i fyfyrwyr er mwyn gweithredu’n llwyddiannus yn y farchnad fydeang. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau Ysgol y Gyfraith ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Staff a chyfleusterau Mae Ysgol y Gyfraith yn hyrwyddo amgylchedd o ddysgu ac ymchwil. Mae ein staff profiadol ac amlieithog yn raddedigion o nifer o brifysgolion llewyrchus, ac mae rhai wedi cael eu cyflogi’n flaenorol fel gweithwyr proffesiynol yn y sector cyfreithiol. Adlewyrchir yr arbenigedd hwn yn addysgu cyrsiau Meistr, yn ogystal â llawer o weithgarwch ymchwil a phrojectau megis y Project Ymchwil Caffael Cyhoeddus gwerth €3.7 miliwn, ‘Ennill wrth Dendro’. Ynghyd â’r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol mewn meysydd megis Cyfraith yr UE, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cwmnïau, y Gyfraith a Chrefydd, Cyfraith Plant a Theuluoedd, a Chyfraith Eiddo Deallusol. Mae datblygu gweithwyr proffesiynol ifanc drwy hyfforddiant ymchwil yn rhan ganolog o genhadaeth yr Ysgol ac mae’r rhaglen doethuriaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at hyfforddiant ymchwilwyr y dyfodol. Er mwyn cefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, mae’r Ysgol yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu gyda chefnogaeth staff profiadol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys Llyfrgell y Gyfraith sy’n cael ei goruchwylio gan Lyfrgellydd penodol y Gyfraith sy’n darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol i fyfyrwyr. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Rydym yn cynnig cyfres o raglenni LLM ac MA/MBA ar y cyd sy’n adlewyrchu arbenigedd yr Ysgol a’i hymroddiad i addysgu ôl-radd ar lefel uchel. Mae Ysgol y Gyfraith hefyd yn darparu goruchwyliaeth arbenigol PhD ac MPhil mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol. I helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial, mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr ôl-radd.

PROFFIL STAFF

Ysgol y Gyfraith

Gwilym Owen, Darlithydd llawn-amser ac Ymarferwr Cyfraith Contract Mae Gwilym Owen yn ddarlithydd llawnamser yn Ysgol y Gyfraith, yn arbenigo mewn cyfraith eiddo. Mae hefyd yn aelod o dîm project ‘Ennill wrth Dendro’ ac mae ei waith ar y project ymchwil hwn yn ymwneud ag asesu’r effaith y mae’r ‘European Remedies Directive’ diweddaraf wedi gael ar gaffael yng Nghymru, gan ystyried agweddau megis mynediad at gyfiawnder. Trwy ein hymdrechion parhaus i ddatblygu cysylltiadau gydag ymarferwyr cyfreithiol trwy’r Deyrnas Unedig, gall Ysgol y Gyfraith gynnig rhaglen nodedig o Brofiad Gwaith i’w myfyrwyr a Gwilym, fel Swyddog Lleoliadau Gwaith yr Ysgol, sydd yn arwain y rhaglen hon. Mae Profiad Gwaith yn rhoi cyfle unigryw i brofi’r math o yrfaoedd cyfreithiol sydd ar gael i raddedigion y Gyfraith, o Bractis Cyfreithiwr i Lywodraeth Leol. Maent yn galluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglˆyn â beth yn union i’w wneud ar ôl graddio, boed hynny’n astudiaethau pellach, cyflawni ymchwil mewn maes arbenigol, neu ddewis y llwybr gyrfa gorau iddyn nhw.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: LLM • Cyfraith Masnach a Busnes Rhyngwladol • Y Gyfraith • LLM Uwch Cyfraith Gaffael Gyhoeddus a Strategaeth • Cyfraith Eiddo Deallusol Rhyngwladol • Cyfraith Ryngwladol • Cyfraith Ryngwladol (Cyfraith Ewrop) • Cyfraith Ryngwladol (Cyfraith Masnach Rhyngwladol) • Cyfraith Ryngwladol (Cyfraith Drosedd Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol) • Y Gyfraith a Bancio • Y Gyfraith a Throseddeg • Cyfraith Gaffael Gyhoeddus a Strategaeth MA • Bancio a’r Gyfraith • Troseddeg a’r Gyfraith MBA • Bancio a’r Gyfraith • Y Gyfraith a Rheolaeth PhD/MPhil/LLM trwy ymchwil • Y Gyfraith

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 383023 E-bost: cyfraith.or@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith

Dyma rai o’r cwmnïau sy’n cynnig Profiad Gwaith i fyfyrwyr Bangor: • Hill Dickinson • Hugh James • Gamlins • Tudur Owen Roberts Glynne & Co • Hillyer McKeown • Cyngor Gwynedd • Siambrau Bargyfreithwyr yng Nghaer, Lerpwl a Manceinion

Mae Ysgol y Gyfraith yn ysgol ryngwladol arloesol, ac yn cynnig cyrsiau sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn gweithredu’n llwyddiannus yn y farchnad fyd-eang. PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 45


Ysgol Addysg Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Addysg wedi sefydlu enw da ym maes hyfforddi athrawon. Mae’r Ysgol hefyd wedi sefydlu partneriaethau ag ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol. Dan arweiniad staff brwdfrydig, mae’r Ysgol hefyd yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau blaengar eraill sy’n arwain at amrywiaeth o gymwysterau ôl-radd. Gallwch ddilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog. Yn y cyd-destun Ewropeaidd, mae’r arbenigedd dwyieithog hwn yn rhoi dimensiwn cyffrous i’n holl gyrsiau ac yn rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu cysylltiadau ag Ewrop. Mae gan yr Ysgol awyrgylch cyfeillgar ac mae myfyrwyr o bob rhanbarth ac o wahanol gefndiroedd yn setlo’n gyflym yma. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith a chymdeithasol sy’n fywiog ac yn galonogol, ac mae gennym adnoddau heb eu hail i’ch helpu i astudio. Mae’r Ysgol yn ymwneud yn rheolaidd â llawer o waith datblygiadol, gan gynnwys maes addysg cyfrwng Cymraeg. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd astudiaethau ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhestrir y rhain gyfrebyn.

PROFFIL STAFF

Staff a chyfleusterau I’ch helpu gyda’ch astudiaethau, rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu gyda chefnogaeth staff profiadol. Yn ein Llyfrgell Addysg, mae gennym gasgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion, ac mae llawer o’r cyfnodolion ar gael ar-lein mewn fformat testun llawn. Hefyd, mae gennym labordai cyfrifiaduron ar y safle ac ystafelloedd astudio ôl-radd pwrpasol i fyfyrwyr llawnamser ble gallant astudio, cynnal seminarau ac ymgasglu i drafod eu hymchwil mewn amgylchedd dysgu â chefnogaeth.

46 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Ers bron i ddeugain mlynedd, mae Bangor wedi cynnig cwrs Meistr y Celfyddydau/ Meistr Addysg hyblyg, rhan-amser, modiwlaidd sy’n diwallu anghenion proffesiynol a phersonol athrawon, gweithwyr iechyd, staff gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae ein cyrsiau ôl-radd rhan-amser wedi’u hanelu at bobl sy’n gweithio ac sy’n chwilio am ddatblygiadau gyrfa, ac at y rheini sy’n dymuno astudio pwnc ar lefel uwch. Wrth adolygu ceisiadau, rydym yn ystyried profiad proffesiynol a phersonol, ac yn ystyried pob myfyriwr yn ôl ei rinweddau. Mae cynnwys elfennau a addysgir y rhaglenni MA ac EdD yn adlewyrchu arbenigedd a phrofiad staff yr Ysgol. Mae amrywiaeth eang o fodiwlau ar gael ac maent yn cynnwys Addysg Ddwyieithog, Addysg Ryngddiwylliannol, TESOL, Cynhwysiant/ Anghenion Addysgol Arbennig, Amrywiaeth mewn Addysg, Cynghori, Addysg Blynyddoedd Cynnar, Hawliau Plant, Addysg Fydeang ac Arweinyddiaeth Addysgol. Hefyd, cewch hyfforddiant mewn Dulliau Ymchwil. Mae’r Ysgol yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil PhD, MPhil ac EdD llawn-amser a rhan-amser mewn amrywiaeth eang o feysydd Addysg gan ganolbwyntio ar yr arbenigedd ymchwil sydd yn yr Ysgol, sy’n cynnwys Dwyieithrwydd/Addysg Ddwyieithog, Cynhwysiant/Anghenion Addysgol Arbennig, Addysg Ryngddiwylliannol a Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Agweddau Proffesiynol ar Addysgu mewn Ysgolion ac mewn Addysg Uwch.

Jessica Clapham, Darlithydd, Ysgol Addysg Mae Jessica Clapham yn Ddarlithydd mewn Addysg. Fe'i haddysgwyd yn PB a Phrifysgol Caerdydd a chafodd radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac (yn 1994) radd MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae wedi gweithio fel athrawes yn Sudan a Tsieina a gweithredu fel ymgynghorydd a hyfforddwr llythrennedd yn Jamaica, Lesotho, a Pacistan. Ar hyn o bryd mae'n darlithio ar raglenni israddedig mewn Dwyieithrwydd, EAL, Llenyddiaeth Plant, ac Iaith ar gyfer Dylunio a Thechnoleg. Yn ogystal mae'n addysgu ar raglenni ôl-radd, gan ddarlithio ar Iaith i'r Cwrs TAR Cynradd, ac mae hefyd yn cyflwyno modiwl MA mewn TESOL.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: Tystysgrif Addysg i Raddedigion – TAR • Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Cynradd) • Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Uwchradd) MA • Astudiaethau Addysg (rhan-amser) PhD/MPhil • Addysg Cyrsiau cyfrwng Saesneg: Tystysgrif Addysg i Raddedigion – TAR • Addysg Gynradd • Addysg Uwchradd MA • Astudiaethau Addysg (llawn-amser) • Astudiaethau Addysg (rhan-amser) EdD • Rhaglen Doethuriaeth mewn Addysg PhD/MPhil • Addysg

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382933 E-bost: postgrad-education@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg

Fel Tiwtor Traethawd Hir i fyfyrwyr MA mae Jessica'n gyfrifol am roi cyngor i ôlraddedigion ar fethodoleg ansoddol. Mae'n cynorthwyo gyda chynnal y rhaglen MA/MEd rhan-amser/llawn-amser, a Phanel StaffMyfyrwyr. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu'r Project Cymru-Jamaica (sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgolion lleol weithio gyda Cholegau Hyfforddi Athrawon yn Jamaica) ac mae wedi cyd-ysgrifennu erthyglau ar gyfer English in Education ac Education Transactions. Mae meysydd ymchwil Jessica yn cynnwys defnydd athrawon o gyfnewid codau; meithrin ail iaith mewn dosbarth amlieithog.


Y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Addysg Gynradd (yn arwain at Statws Athro Cymhwysol) HYD Y CWRS Tystysgrif: blwyddyn llawn-amser. GOFYNION MYNEDIAD Dylai bod gan fyfyrwyr radd gyntaf sy’n berthnasol i’r cwricwlwm cynradd, yn ogystal â gradd B neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg, Mathemateg pan fyddant yn gwneud cais. DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r cwrs TAR yn paratoi hyfforddeion i ddysgu mewn ysgolion cynradd. Mae’n gwrs dwys 38 wythnos i raddedigion a’i nod yw datblygu a meithrin y sgiliau addysgu a dysgu sydd eu hangen ar athro/athrawes ysgol gynradd. Gall myfyrwyr arbenigo mewn addysg blynyddoedd cynnar (3-7) neu’r cam iau (7-11). Rhoddir pwyslais ar y Cwricwlwm Cenedlaethol a’i weithredu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r rhan o’r cwrs a dreulir mewn ysgolion yn cynnwys tua 18 wythnos mewn ysgolion partneriaeth a bwriedir i’r lleoliadau roi profiadau cyferbyniol. Hwn yw craidd y cwrs ac mae’n cynnwys cyswllt rheolaidd â disgyblion. Mae cyswllt agos rhwng y darlithoedd a’r seminarau yn yr Ysgol a’r profiad dysgu hwn. Caiff myfyrwyr eu hasesu yn yr ysgolion gan fentoriaid profiadol (athrawon) yn ogystal â chan diwtoriaid cyswllt yr Ysgol Addysg. Mae’n bosibl gwneud y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Bydd gan hyfforddeion llwyddiannus y sgiliau dysgu sy’n cyrraedd y safonau statudol ar gyfer rhoi Statws Athro Cymhwysol (QTS). Byddwch wedi datblygu’r sgiliau dysgu priodol a fydd yn eich galluogi i ddod yn ymarferwyr adfyfyriol a fydd, yn eich cynllunio a’ch dysgu, yn gallu dadansoddi, cyfosod, defnyddio a rheoli, a gwerthuso deunyddiau a gweithdrefnau a dulliau • Dysgu Sut i Addysgu 2 – proffesiynol. Bydd y sgiliau trosglwyddadwy a Datblygu Sgiliau Addysgu gewch yn ystod y cwrs hwn yn fanteisiol i chi Mae cynnwys y modiwl hwn yn adeiladu ar Dysgu sut i Addysgu 1 ac mae’n helpu i gryfhau, gydol eich gyrfa. datblygu a mireinio gwybodaeth a defnydd Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: myfyrwyr o’r sgiliau dysgu uwch. www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg • Traethawd Hir Yn y modiwl Traethawd Hir mae angen i fyfyrwyr gyflwyno Astudiaeth Arbennig (6,000 – 8,000 o eiriau). Bydd deilliannau dysgu’r modiwl hwn yn adlewyrchu gwaith a ddisgwylir ar Lefel 7 (Meistr). Modiwlau: • Dysgu Sut i Addysgu 1 – Cyflwyniad i Sgiliau Addysgu Mae cynnwys y modiwl hwn wedi ei seilio ar y wybodaeth, y sgiliau a’r dulliau cymhwyso sylfaenol sydd eu hangen i ddod yn athro cynradd/athrawes gynradd (l)lwyddiannus.

Elfennau Ychwanegol: • Astudiaethau Proffesiynol • Meysydd Astudio A a B Cam Sylfaen (Cynradd Is) • Astudiaethau Pwnc Craidd (Cynradd Uwch) • Astudiaethau Pwnc All-graidd (Cynradd Uwch) • Profiad mewn Ysgolion

Y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Addysg Uwchradd (yn arwain at Statws Athro Cymhwysol) Modiwlau: • Dysgu Sut i Addysgu 1 Mae cynnwys y modiwl hwn wedi ei seilio ar y wybodaeth, y sgiliau a’r dulliau cymhwyso GOFYNION MYNEDIAD I gael eu hystyried am gyfweliad, mae’n rhaid bod sylfaenol sydd eu hangen i ddod yn athro/athrawes uwchradd (l)lwyddiannus. gan ymgeiswyr radd o sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster cyfwerth, yn • Dysgu Sut i Addysgu 2 ogystal â gradd B yn yr arholiadau TGAU mewn Mae cynnwys y modiwl hwn yn adeiladu ar Saesneg a Mathemateg. Fodiwl 1 ac yn cynorthwyo i ehangu, datblygu a mireinio gwybodaeth hyfforddeion o sgiliau DISGRIFIAD O’R CWRS addysgu uwch a sut i’w cymhwyso. Mae’r cwrs TAR mewn Addysg Uwchradd, sy’n arwain at statws athro cymhwysol, yn paratoi • Traethawd Hir myfyrwyr ar gyfer dysgu mewn ysgolion Yn y modiwl hwn bydd angen i hyfforddeion uwchradd. gyflwyno’r canlynol: (i) aseiniad Astudiaethau Proffesiynol yn Mae athrawon dan hyfforddiant yn cymryd un ymwneud â chymhwyso ymchwil a theori at prif bwnc ac, mewn rhai achosion, maent yn cael ymarfer cyfle i wneud ail bwnc, os dymunant. Cynigir y (ii) Astudiaeth Arbennig pynciau canlynol: • Celf a Dylunio Cydrannau’r Cwrs: • Bioleg • Astudiaethau Dull Pwnc • Cemeg • Astudiaethau Proffesiynol • Mathemateg • Profiad mewn Ysgolion • Cerddoriaeth • Addysg Awyr Agored • Addysg Gorfforol • Ffiseg • Addysg Grefyddol • Cymraeg HYD Y CWRS Tystysgrif: blwyddyn llawn-amser.

RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae gweithio fel athro/athrawes yn ddewis pwysig, a chynyddol boblogaidd, i gael gyrfa lwyddiannus sy’n rhoi boddhad. Sail gyrfa athro/athrawes yw datblygu perthynas â’ch disgyblion a’u hysbrydoli i ddysgu. Mae athrawon uwchradd yn gweithio gyda phlant rhwng 11 a 18 oed. Mae dysgu’n broffesiwn pwysig mewn mwy nag un ffordd; mae’n yrfa lle ceir cyfleoedd gwych i ddod yn eich blaen a datblygu ymhellach. Anogir hyfforddeion i ddatblygu’n ymarferwyr adfyfyriol a all weld beth yw eu cryfderau yn ogystal â’u hanghenion, ac sydd â gwybodaeth gadarn am ystod eang o faterion yn ymwneud ag addysg plant. Hyfforddir hyfforddeion i ddysgu naill ai oedran 11-18 neu 11-16. Nod y cwrs yw rhoi i hyfforddeion y sgiliau y byddant eu hangen yn ystod eu blynyddoedd cynnar fel athrawon, a hefyd fframwaith iddynt fedru datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth ymhellach yn ystod eu gyrfaoedd. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 47


Astudiaethau Addysg MA (rhan-amser) HYD Y CWRS MA: 3 blynedd rhan-amser. GOFYNION MYNEDIAD Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr naill ai radd gyntaf, cymhwyster cyfatebol cydnabyddedig, neu o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol.

DISGRIFIAD O’R CWRS Mae’r rhaglen MA ran-amser, sydd wedi ei sefydlu ers cryn amser, yn rhoi cyfleoedd hyblyg i fyfyrwyr astudio modiwlau mewn ystod eang o feysydd pwnc er mwyn cyfoethogi eu datblygiad proffesiynol eu hunain.

Mae’r cynllun o bum penwythnos y flwyddyn y mae’r rhaglen Feistr wedi’i seilio arno yn addas i Gofynnir i ymgeiswyr roi enw canolwr a all dystio bobl leol ac i rai sy’n teithio ymhellach, ac mae’n dros allu’r ymgeisydd i astudio ar lefel meistr. Yn cynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i astudio ynddi. Rydym yn gallu ymestyn y cyfleoedd sydd achlysurol, gellir gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad cyn y gellir cadarnhau cynnig o le ar y ar gael i ymgeiswyr drwy gynnwys nifer o fodiwlau sy’n cael eu cynnal fel dosbarthiadau cwrs. nos neu drwy ddysgu o bell. Gall rhai modiwlau bennu gofynion mynediad Modiwlau: penodol, ychwanegol; er enghraifft, profiad • Addysg Bersonol a Chymdeithasol/Cynghori blaenorol o ddysgu. Pobl Ifanc • Cyflawni Anghenion Addysgol Arbennig • Dysgu Dysgwyr Dyslecsig • Egwyddorion Asesu i Athrawon • Addysg a Dinasyddiaeth Fyd-eang • Amrywiaeth mewn Addysg • Addysgu a Dysgu yn y Blynyddoedd Cynnar • Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau – Addysg i Weithwyr Proffesiynol • Ailgyflwyno Anabledd Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

48 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


“Rwy’n athro Cymraeg yn Ysgol John Bright, Llandudno (ac yn gerddor) a phenderfynais ddilyn cwrs ôl-radd gan fy mod yn awyddus i ddatblygu fy nealltwriaeth a’m gwybodaeth o fyd addysg er mwyn sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn fy ysgol. Roedd y cwrs MEd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau a oedd o ddiddordeb i mi ac rwy’n gwybod o brofiadau blaenorol fod Bangor yn cynnig addysg o’r radd flaenaf. Mae fy nhiwtoriaid wedi fy nghefnogi’n dda trwy gynnig arweiniad gyda modiwlau ac aseiniadau. Mae eu gwaith caled a’u sêl yn ysbrydoli myfyrwyr i gyflawni eu nod. Heb os, nid yn unig rydych yn dysgu cymaint, ond mae hefyd yn adlewyrchu pa mor weithgar a pha mor benderfynol o ganolbwyntio ar ei faes yw rhywun.” Mae Bangor yn brifysgol ryfeddol sy’n llawn darlithwyr blaengar a deinamig sy’n eich ysbrydoli ac sy’n ymdrechu i sicrhau llwyddiant i’w myfyrwyr. Mae’r Brifysgol ar y bryn yn eistedd yn hapus uwchben cymuned gyffrous sy’n cynnig cyfleoedd di-ri. Bangor yw’r lle i fod! ELFED MORGAN MORRIS, o Deiniolen ger Caernarfon, cwrs MEd

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 49


COLEG GWYDDORAU NATURIOL Y Coleg Gwyddorau Naturiol yw un o brif ganolfannau’r DU ar gyfer addysgu ac ymchwil ym meysydd bioleg, gwyddorau amgylcheddol a gwyddorau eigion. Ein nod yw addysgu a hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr, sy’n ymwybodol o anghenion cymdeithas, mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil sydd o safon fyd-eang. Mae gennym gysylltiadau rhyngwladol helaeth ac mae ein diddordebau ymchwil yn ymestyn ar draws amrywiaeth o gynefinoedd o arwyddocâd byd-eang o riffiau cwrel i gapiau rhew’r pegynau. Mae’r Coleg yn cynnwys tair Ysgol: Yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, sy’n cynnwys cyrsiau ôl-radd mewn bioleg, bioleg foleciwlaidd, gwyddorau naturiol ac ecoleg; Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, sy’n cynnig cyrsiau mewn gwyddorau amgylcheddol, cadwraeth a choedwigaeth; a’r Ysgol Gwyddorau Eigion, sy’n cynnig cyrsiau mewn bioleg forol, gwyddorau eigion a gwyddor daear forol. Mae gan y Coleg enw da rhyngwladol am ymchwil mewn meysydd sy’n hanfodol i gymdeithas, megis ymchwil i beth sy’n achosi canser, goblygiadau newid yn yr hinsawdd, hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chynnal bioamrywiaeth. Mae manteision cyfuno ymchwil ac addysgu’n golygu bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan wyddonwyr sydd ar flaen y gad yn eu maes, a rhyngweithio bywiog rhwng myfyrwyr a staff. Mae ein hymchwil wedi’i rhannu i’r grwpiau ymchwil canlynol: • Byw gyda Newid Amgylcheddol • Datblygu a Chlefydau • Ecoleg Foleciwlaidd ac Esblygiad • Planhigion, Pridd ac Ecosystemau • Gwyddor Systemau Tir-Môr • Cynhyrchu a Datblygu Cynaliadwy Mae Bangor yn darparu amrywiaeth gwych o amgylcheddau’n lleol, gan gynnwys rhai morol, dŵr croyw, gwyllt ac wedi’u ffermio. Mae gennym gyfleusterau ymchwil ac addysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys cyfleusterau dilyniant DNA a bioleg foleciwlaidd, Gardd Fotanegol, gerddi arbrofol, busnes ffermio wedi’i leoli yn y Brifysgol a mannau arbrofol ar gyfer coedwigaeth, yn ogystal â llong ymchwil gefnforol o safon uchel – y Prince Madog. Mae’r Sefydliad Cymreig dros Adnoddau Naturiol, sy’n ymgorffori’r Ganolfan Biogyfansoddion, y Ganolfan Ymchwil Uwch i Ddatblygiad Amaethyddol, a’r Ganolfan Gwyddor Forol Gymhwysol, yn rhai o’r prif gyfranwyr at drosglwyddo gwybodaeth a menter yn y Coleg. Mae’r Coleg hefyd yn gysylltiedig â Chanolfan Amgylchedd Cymru, sefydliad ymchwil ar gyfer integreiddio gwyddorau amgylcheddol sy’n fenter mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli mewn adeilad o’r radd flaenaf sy’n defnyddio mesurau effeithlonrwydd egni, golau naturiol a thechnolegau egni adnewyddadwy. Mae gan yr adeilad enw da rhyngwladol fel adeilad sy’n enghraifft o ddylunio ac adeiladu cynaliadwy, ac mae’n un o ddim ond tri adeilad ledled y byd sydd wedi cael ei gymeradwyo am ei nodweddion cynaliadwy. Mae ein Hysgol Ôl-radd yn darparu cefnogaeth bwrpasol i fyfyrwyr ôl-radd ac yn cynnig yr amgylchedd gorau i ddatblygiad personol ac academaidd myfyrwyr ar draws disgyblaethau ac o wahanol gefndiroedd a gwledydd.

50 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

“Fe wnes i ddewis astudio ym Mangor ar ôl darllen ar y we fod yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn un o’r adrannau gorau yn y wlad. Wrth edrych ar y manylion ar wefan Prifysgol Bangor, roedd yn amlwg i mi fod y cwrs MSc Gwarchod Amgylchedd y Môr wedi’i hen sefydlu, ac y byddai cwrs ôlradd yn fy helpu i gael swydd yn y maes amgylcheddol. Mae’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig yn yr Ysgol yn arbennig. Ceir llawr yn yr adran i fyfyrwyr ôlraddedig yn unig. Ar y llawr hwnnw, ceir darlithfeydd, ystafell goffi ac ystafell gyfrifiaduron. Mae myfyrwyr yn gallu defnyddio’r cyfleusterau yma 24 awr y dydd. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi yn ystod y flwyddyn; mae’n bwysig iawn cael lle tawel i gwblhau gwaith. Prifysgol Bangor yw’r unig brifysgol yn y wlad sydd yn berchen ar long ymchwil, ac fel rhan o’r cwrs, mae’r myfyrwyr yn gwneud ychydig o waith ymchwil ar y llong. Rwy’n meddwl bod y daith ar y RV Prince Madog yn un o uchafbwyntiau’r cwrs. Mae’n brofiad arbennig cael gwneud gwaith ymchwil ac mae’r cwrs yn wych i bobl sy’n awyddus i gael mwy o brofiad yn gwneud gwaith ymarferol. Mae’r cwrs wedi rhoi cyfle arbennig imi gwrdd â llawer o bobl o bedwar ban byd. Gan fod yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn un gymharol fach, roedd yn hawdd gwneud ffrindiau newydd, ac mae awyrgylch gyfeillgar iawn yno. Roedd rhywun bob amser ar gael i helpu os oedd problem gyda’n gwaith. Er mai dinas fach yw Bangor, mae’n cynnig y rhan fwyaf o’r gwasanaethau a geir mewn dinasoedd mwy. Mae gogledd Cymru yn lle gwych i bobl sydd yn hoffi bod allan yn yr awyr agored. Mae Bangor yn agos iawn at Barc Cenedlaethol Eryri a’r traethau prydferth yn Sir Fôn. Mae’n lle arbennig i bobl sydd yn mwynhau gweithgareddau fel dringo, cerdded yn y mynyddoedd neu syrffio. Er bod y cwrs yn ddwys, roedd cyfle i gymdeithasu a mwynhau’r amgylchoedd prydferth. Mae Bangor yn lle bendigedig i astudio, mae ’na ddigon o amrywiaeth i bawb – yn academaidd a hefyd o ran bywyd myfyriwr yn gymdeithasol.” ANELMA VEAREY-ROBERTS, o Aberaeron, Ceredigion, sy’n astudio MSc Gwarchod Amgylchedd y Môr


PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 51


Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Mae enw da’r Ysgol am ymchwil yn amlwg yn nifer y projectau ymchwil y mae’n eu cynnal; ar hyn o bryd, mae gennym dros 60 o fyfyrwyr yn cyflawni ymchwil ar gyfer cyrsiau PhD. Caiff eu gwaith ei gyflawni dros gyfnod tair blynedd, gan arwain at gynhyrchu traethawd a nifer o bapurau gwyddonol. Mae’r crynodiad hwn o ôl-raddedigion sy’n gweithio ar bynciau amgylcheddol a rheoli adnoddau’n golygu bod yr Ysgol yn rym sylweddol o ran ymchwil fyd-eang. Rydym yn denu ysgolheigion i ymweld o bedwar ban byd; yn eu tro, maent yn cyfrannu at awyrgylch fywiog ac ysgogol yn yr Ysgol. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Rydym yn cynnal cwrs meistr MA/MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, mae modd i unrhyw fyfyrwyr ôl-radd gynnal a chyflwyno eu gwaith ymchwil ar gyfer eu traethawd hir yn y Gymraeg. Mae nifer o staff yr Ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Cyfleusterau Mae gan yr Ysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau modern gan gynnwys Canolfan Ymchwil bwrpasol sydd bum milltir tu allan i’r ddinas. Mae’r Ysgol yn cynnal canolfannau ymchwil mawr eraill sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol a chenedlaethol, megis y Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth, a’r Ganolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig. Mae ein lleoliad yn darparu cyfleoedd unigryw i astudio’r disgyblaethau yr ydym yn ymdrin â hwy, yn enwedig yr amgylchedd naturiol, defnyddio tir a chadwraeth. Mae Parc Cenedlaethol Eryri lai nag 20 munud i ffwrdd ac mae’n darparu ‘labordy byw’ ar gyfer llawer o’n gwaith addysgu ac ymchwil.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni gradd gan gynnwys rhaglenni Meistr mewn Amaeth-goedwigaeth; Cadwraeth a Rheoli Tir; Coedwigaeth Amgylcheddol; Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy; a Choedwigaeth Gynaliadwy a Rheoli Natur. Hefyd, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-radd a addysgir ar sail dysgu o bell. Cynigir graddau ymchwil mewn amrywiaeth eang o bynciau amgylcheddol; megis Gwyddor Planhigion a Phridd; Ecoleg Adnoddau Naturiol; Cadwraeth a Rheoli; a Gwyddor Cnydau a Choedwigoedd. Mae nifer o’n rhaglenni wedi’u hachredu’n broffesiynol, gan gynnwys ein rhaglenni coedwigaeth sydd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, a’n rhaglenni Amgylcheddol sydd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Gwyddorau Amgylcheddol. Mae’r mathau o ymchwil sy’n cael ei chyflawni’n amrywio’n eang ar draws sbectrwm yr amgylchedd a defnyddio tir. Caiff llawer o’n hymchwil ei chyflawni dramor ac mae gennym brojectau mewn gwledydd mor bell â Fietnam, Ethiopia a Pheriw. Mae rhai enghreifftiau o’n projectau cyfredol yn cynnwys: • Ecosystemau Antarctig – rhannu adnoddau rhwng planhigion a microbau • Allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n dod o briddoedd mawnaidd tir isel • Cynnal ac adfer amrywiaeth fioddiwylliannol safleoedd cysegredig brodorol yn Ethiopia. • Gwarchod a rheoli adnoddau naturiol, yn wyneb heriau hinsawdd sy’n newid yn Bangladesh.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Cymraeg: MA/MSc • Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Amaethgoedwigaeth • Cadwraeth a Rheolaeth Tir • Coedwigaeth Amgylcheddol • Rheolaeth Goedwigaeth a Natur Gynaliadwy • Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy MSc Dysgu o Bell • Coedwigaeth • Coedwigaeth Drofannol • Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd sy’n Newid MBA • Rheoli’r Amgylchedd PhD/MPhil • Systemau Amaethyddol • Amaethgoedwigaeth • Cadwraeth Bioamrywiaeth • Gwyddor yr Amgylchedd a Gwyddor Pridd • Ecoleg a Rheoli Coedwigoedd • Deunyddiau Adnewyddadwy • Daearyddiaeth * Cwrs newydd - yn anodol ar gael ei ddilysu

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382281 E-bost: adnodd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/adnodd

PROFFIL STAFF

Ynglŷn â’r Ysgol Mae gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth enw da o safon fydeang ym maes ymchwil, gydag arbenigedd penodol mewn ecoleg a rheoli coedwigoedd; gwyddor amgylcheddol a phridd; systemau amaethyddol; amaeth-goedwigaeth; cadwraeth bioamrywiaeth; ac ecosystemau trofannol. Mae’r Ysgol wedi cael y sgôr annibynnol uchaf posibl am ansawdd yr addysgu ac mae’r gofal bugeiliol yr ydym yn ei ddarparu i’n myfyrwyr hefyd wedi cael sgôr uchel iawn.

Dr Paula Roberts, Darlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Mae Paula Roberts wedi ei chyflogi o dan gynllun staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Paula yn cyfarwyddo cwrs MA/MSc Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy ac yn cydlynu ac yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg is-radd ac ôl-radd yn yr adran. Mae ymchwil Paula yn canolbwyntio ar ymddygiad cemegau yn y pridd a’i effaith ar brosesau naturiol eraill. Mae hyn yn cwmpasu ymddygiad cemegau sy’n hanfodol i gynnal planhigion ac ymddygiad cemegau sy’n llygru pridd a’i sgil effeithiau ar brosesau naturiol eraill. Mae rhywfaint o’i gwaith yn canolbwyntio ar astudio carbon a nitrogen ym mhriddoedd yr Arctig a’r Antarctig ac mae ambell i gyfnod o waith maes yn mynd â hi i’r ardaloedd hynny. Mae ganddi ddiddordeb hefyd ym mhroses a datblygiad systemau rheoli gwastraff, yn benodol mewn ailgylchu gwastraff bioddiraddadwy fel maeth i blanhigion neu fel tanwydd carbon isel. 52 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Rheolaeth Amgylcheddol Gynailadwy MA/MSc HYD Y CWRS MA/MSc: blwyddyn llawn-amser.

• Archwilio ac Asesu'r Amgylchedd Mae’r modiwl hwn yn astudio sustemau o fesur effaith datblygiadau a'u cost amgylcheddol. Cewch gyfle i ddod yn gyfarwydd â sustemau cyffredin o archwilio ac asesu datblygiadau diwydiannol gyda arbenigwyr yn y maes.

GOFYNION MYNEDIAD Dylai bod gan ymgeiswyr radd Dosbarth 2.ii, neu uwch, mewn maes perthnasol. Derbynnir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr gyda chefndir mewn meysydd eraill ond sydd â gwir ymroddiad • Gwaith Maes a diddordeb mewn astudio’r pwnc. Hefyd byddwn Mae gwaith maes yn elfen ganolog yn y modiwlau i gyd. Yn ogystal, ceir wythnos o waith yn derbyn ymgeiswyr sydd heb radd ond sydd â maes preswyl dwys ym Mhlas Tan y Bwlch lle phrofiad eang o waith perthnasol ac sy’n byddwn yn astudio agweddau ar ddefnydd tir, awyddus i ddatblygu neu newid gyrfa. cynllunio a datblygiad cynaliadwy ar lefel gymunedol. DISGRIFIAD O’R CWRS Modiwlau: • Gloywi Iaith ar gyfer Amgylcheddwyr • Cysyniadau Datblygiad Cynaliadwy Modiwl arbennig ar gyfer gweithwyr ym maes Cewch sylfaen gadarn o’r cysyniadau allweddol yr amgylchedd fydd yn datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â datblygiad cynaliadwy, gan cyfathrebu yn yr iaith Gymraeg. Mae’r modiwl gynnwys yr elfennau amgylcheddol, economeg wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr a chymdeithasol. Byddwn yn ystyried y cwrs meistr. cynaladwyedd mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig, yn ogystal â’r elfen ryngwladol, gan • Methodoleg Ymchwil gynnwys astudio polisïau a deddfwriaeth Cyn dechrau ar y project ymchwil unigol yn lywodraethol. Bydd nifer o arbenigwyr Rhan 2, mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno Cynllun proffesiynol allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag Ymchwil manwl sy’n cynnwys adolygiad o at y modiwl. lenyddiaeth berthnasol, manylion yn ymwneud â dulliau a thechnegau ymchwilio a manylion • Rheolaeth Cefn Gwlad ymarferol eraill. Cewch astudio elfennau o ddefnydd tir, e.e. cadwraeth, datblygiad cymunedol, • Lleoliad Gwaith Proffesiynol amaethyddiaeth, coedwigaeth, cynllunio, ynni Mae hwn yn fodiwl allweddol i’r cwrs ac yn rhoi amgen, twristiaeth gynaliadwy a hamdden. cyfle i fyfyrwyr gael profiad proffesiynol gyda Byddwn yn astudio projectau sy’n ymwneud â chorff neu fudiad amgylcheddol perthnasol i’ch datblygu cefn gwlad cynaliadwy a cheir diddordebau. Cyfrifoldeb y myfyrwyr eu hunain, cyfraniadau pwysig gan nifer o’r asiantaethau gydag arweiniad adrannol, yw trefnu’r lleoliad amgylcheddol, cyrff gwirfoddol, awdurdodau ymlaen llaw ac mae cyfleoedd gwych ar gael lleol, busnesau a grwpiau cymunedol. mewn awdurdodau lleol, cyrff amgylcheddol, busnesau, grwpiau cymunedol a’r sector

wirfoddol. Un o fanteision amlwg y lleoliad yw ehangu gorwelion a phrofiadau gyda darpar gyflogwyr a fydd o gymorth mawr wrth ymgeisio am swyddi a datblygu gyrfa yn y maes. CYSYLLTIADAU YMCHWIL/ CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT Mae'r cwrs yn cyflwyno'r myfyrwyr i rhwydwaith eang o gysylltiadau diwydiannol ym maes rheolaeth amgylcheddol trwy gyfnodau o seminarau neu deithiau maes yn y gwahanol sectorau amgylcheddol sydd yng Nghymru. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Un o brif amcanion y cwrs meistr arbennig hwn yw ymateb i’r galw cynyddol sydd ymysg cyflogwyr yng Nghymru am unigolion gyda’r cefndir academaidd perthnasol a hefyd y sgiliau a’r hyder i gyfathrebu’n effeithiol mewn sefyllfaoedd dwyieithog. Mae gwir angen staff dwyieithog mewn awdurdodau lleol, adrannau cynllunio ac ym myd busnes a’r sector breifat. Rhai o’r prif gyflogwyr yw’r cyrff amgylcheddol statudol a’r sector wirfoddol. Mae cyfleoedd hefyd yn y maes ymgynghorol, byd addysg a diwydiant. Mae’r cwrs hwn hefyd yn arbennig o addas ar gyfer unigolion sydd yn ystyried newid cyfeiriad neu sydd eisoes mewn swydd berthnasol ac sy’n awyddus i ehangu eu gorwelion. Mae’n bosib dilyn y cwrs yn llawnamser, neu’n rhan-amser fel rhan o ddatblygiad proffesiynol mewn swydd. Am fanylion pellach, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/go/pg/cyfrwng_cymraeg

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 53


Ysgol Gwyddorau Biolegol Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ôl-radd ac rydym yn ymfalchïo yn ein hawyrgylch cefnogol a chyfeillgar, yn safon ryngwladol ein hymchwil ac yn safon uchel ein haddysgu. Mae’r Ysgol yn gartref i Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy’n ganolfan ragoriaeth i ymchwil canser yng Nghymru. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Biolegol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Staff a chyfleusterau Mae rhywfaint o’n gwaith addysgu ac ymchwil bioleg planhigion yn cael ei gynnal yng Ngerddi Botanegol Treborth sydd wedi’u lleoli ar hyd afon Menai ac sy’n cynnig gerddi wedi’u tirlunio ac amrywiaeth o gynefinoedd glaswelltir a choetir. Mae’r Ysgol yn anarferol gan fod ganddi ei Hamgueddfa Byd Natur ei hun gyda chasgliad mawr o sbesimenau fertebrataidd ac infertebrataidd ac acwariwm morol mawr, ac acwariwm dŵr croyw newydd. Fel myfyriwr ôl-radd, gallwch astudio Graddau Meistr blwyddyn a addysgir mewn Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg, a Bioleg Foleciwlaidd gyda Biotechnoleg. Mae graddau MRes blwyddyn, sy’n wahanol i’r rhaglenni Meistr a addysgir gan eu bod yn rhoi mwy o bwyslais ar y project ymchwil, ar gael mewn Ecoleg a Gwyddorau Naturiol.

54 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae graddau ymchwil ar gael mewn pynciau sy’n cwmpasu sbectrwm cyfan ein harbenigedd ymchwil, gan gynnwys ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, astudiaethau canser moleciwlaidd, bioddiraddio a bioadfer, systemau planhigion a thechnoleg, bioddaeargemeg tir gwlyb, niwrowyddoniaeth, egnïeg anifeiliaid ac ecoffisioleg. Rydym yn cael cymorth ariannol sylweddol gan y Cynghorau Ymchwil, elusennau, adrannau’r llywodraeth a diwydiant ym Mhrydain a thramor. Mae ein diddordebau amrywiol yn hwyluso cyfnewid llawer o syniadau a thechnegau rhyngddisgyblaethol ac yn hybu cydweithio o fewn yr ysgol ac â chydweithwyr mewn sefydliadau a diwydiannau.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg • Bioleg Foleciwlaidd gyda Biotechnoleg MRes • Ecoleg • Gwyddorau Naturiol PhD/MPhil • Gwyddorau Biolegol

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382527 E-bost: postgrad.enquiries@sbs.bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/bioleg


Ysgol Gwyddorau Eigion Ynglŷn â’r Ysgol Yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor yw un o’r adrannau gwyddor eigion mwyaf ym mhrifysgolion Ewrop ac mae’n sefydliad sy’n arwain ymchwil yn rhyngwladol. Mae mewn lleoliad delfrydol ar lannau afon Menai yng ngogledd Cymru. Mae’r Ysgol yn gartref i’r Ganolfan Gwyddorau Morol sy’n cadw cysylltiadau agos iawn ag asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, cyrff llywodraethol a’r gymuned defnyddwyr. Mae hefyd yn rhoi cyngor am bolisi ac mae wedi cael effaith sylweddol ar wyddor gymhwysol moroedd silff drwy waith ar olrhain gronynnau, rheoli gollyngiadau olew, ac acwafeithrin a chadwraeth forol.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae’r Ysgol yn sefydliad ymchwil sy’n weithgar ar y cefnfor, ac mae ganddi enw da rhyngwladol am ansawdd ei hymchwil ar foroedd silff ac amgylcheddau morol bas. Ymylon cefnforoedd, moroedd silff, morydau a’r parth arfordirol yw elfennau allweddol y system forol o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd (lefel y môr, gweithredu ecosystemau) a rhyngweithio anthropogenig. Mae ein gweithgarwch yn rhoi sylw i awyr las, ymchwil strategol a chymhwysol, a throsglwyddo gwybodaeth actif. Mae diwylliant ymchwil yr Ysgol yn seiliedig ar ymchwilio systemau a phrosesau morol bas mewn modd amlddisgyblaethol sy’n seiliedig ar systemau daear.

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Eigion ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Geowyddoniaeth Forol Gymhwysol • Bioleg y Môr • Gwarchod Amgylchedd y Môr • Eigioneg Ffisegol PhD/MPhil • Gwyddorau’r Eigion – Prosesau Moroedd yr Ysgafell a Phrosesau Arfordirol; Biogeogemeg a Phalaeoeigioneg; Ecosystemau Morol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau

MWY O WYBODAETH: Ffôn: +44 (0) 1248 382842 E-bost: oss011@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwyddoraueigion

PROFFIL STAFF

Cyfleusterau Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion gyfleusterau cefnogi rhagorol ar gyfer addysgu ac ymchwil. Mae’r rhain yn amrywio o labordai addysgu mawr, modern â chyfarpar da i labordai ymchwil ‘uwchdechnoleg’; o rwydwaith cyfrifiaduron ardal leol i orsafoedd gwaith pwerus i brosesu rhif wrth fodelu’r cefnfor yn rhifiadol; o systemau graffeg cyhoeddi bwrdd gwaith a ffotograffig i weithdai trydanol a mecanyddol mewnol sy’n gallu dylunio ac adeiladu cyfarpar eigioneg o’r radd flaenaf; o gyflenwad dŵr môr wedi’i hidlo’n uniongyrchol o afon Menai i acwaria morol trofannol a dŵr oer. Mae ein gallu i fynd ar y môr yn cael ei hwyluso gan Long Ymchwil y Prince Madog, sef llong ymchwil o’r radd flaenaf, a fflyd o gychod glannau.

RHESTR CYRSIAU:

Dr Dei Huws, Darlithydd, Ysgol Gwyddorau Eigion Mae ein holl raglenni ôl-radd a addysgir wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Peirianneg Forol, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n golygu eu bod yn hwyluso eich cynnydd at statws Siartredig yn ddiweddarach yn eich bywyd proffesiynol. Cynigir cyrsiau blwyddyn gradd Meistr a addysgir a graddau ymchwil hefyd mewn amrywiaeth eang o bynciau morol.

“Rwyf yn ddarlithydd ym maes Geoffiseg Môr yma yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae fy mhrif ddiddordeb yn ymwneud â chloriannu’r posibiliadau sydd i fesuriadau daearyddol wrth fesur nodweddion geodechnegol gwaddodion môr, a deall y ffactorau sy'n rheoli'r nodweddion hyn. Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r modd y gellir defnyddio mesuriadau cyflymder tonnau croesrym er mwyn llunio paramedrau ar gyfer y dylanwad a gaiff ffabrig gwaddod naturiol ar ymddygiad priddoedd môr wrth setlo o dan faich sydd wedi’i arosod. Rwyf hefyd wrthi’n arolygu project sy’n anelu at greu model 2-D ger yr wyneb, o gyflymder tonnau croesrym trwy gyfuniad o lawr uniongyrchol y môr, arbrofion â phlygiant tonnau croesrym, wedi’u cyfuno â gwrthdroad tonnau Scholte a Love gwasgaredig. Yn olaf, mae gennyf ddiddordeb ymchwil mewn defnyddio a chloriannu sut y gellir defnyddio cyfuniad o dechnegau geoffisegol uwch-fanwl (ar y môr ac ar y tir) i ail-greu amgylcheddau hynafol Holosen. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn wych – mae drysau’r staff bob amser ar agor i fyfyrwyr ddod i drafod eu gwaith neu unrhyw fater arall. Yn ogystal, mae pwyslais ar hybu ymwybyddiaeth myfyrwyr o ddiwydiant ac ar wneud cysylltiadau â diwydiant. I gefnogi hynny, rydym yn gwahodd cyn-fyfyrwyr o’r Ysgol i ddod i siarad â’n myfyrwyr ôl-radd am eu gwaith yn rheolaidd. Hefyd, mae’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr, er enghraifft ein cychod a’n labordai, yn fodern ac o safon diwydiant. Byddwn i’n pwysleisio pwysigrwydd yr angen i fyfyrwyr wybod beth yw eu nod ar ôl gorffen y cwrs ôl-radd cyn penderfynu pa gwrs ôl-radd i’w ddilyn. Mae’n hynod o bwysig bod gan ddarpar-fyfyrwyr ôl-radd feddwl clir am yr hyn maen nhw’n gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol. Mae’n flwyddyn galed o waith!”

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 55


COLEG IECHYD A GWYDDORAU YMDDYGIAD Y Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad yw un o’r mwyaf yn y Brifysgol sydd â chryfrderau eithriadol mewn dysgu ac ymchwil ac sy’n darparu profiad myfyriwr eithriadol. Mae ganddo gysylltiadau ffurfiol â’r ymddiriedolaeth GIG leol sy’n galluogi dull integredig o ddatblygu ymchwil, hyfforddiant, ac addysg gofal iechyd a meddygol yng ngogledd Cymru.

Ysgolion academaidd: • Ysgol Seicoleg • Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer • Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd • Ysgol Gwyddorau Meddygol

Mae’r Coleg wedi ceisio adeiladu ar ei hanes hir mewn ymchwil cysylltiedig ag iechyd a gwyddor ymddygiad, gydag arbenigedd yn cwmpasu heneiddio a dementia, gwasanaethau iechyd a rheoli, clefydau cronig, ailsefydlu anhwylderau’r ymennydd, seicoleg wybyddol a datblygu, treialon iechyd ar hap, ffisioleg a seicoleg perfformiad uchel, a gwerthusiadau economaidd o fentrau ffarmacolegol ac iechyd cyhoeddus. Caiff ymroddiad y Coleg i ymchwil wyddonol drwyadl o safon fyd-eang ei gadarnhau gan ei fuddsoddiad sylweddol mewn labordai a chyfarpar biocemeg, hydrodwysfesuredd, bioleg celloedd, profion echddygol canfyddiadol a delweddu ymennydd fMRI. Ein hethos ymchwil yw gwella gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol, herio safbwyntiau presennol am iechyd a gwyddor ymddygiad a bod yn sail i ddarpariaeth addysgu a dysgu’r Coleg.

Sefydliadau ymchwil: • Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol • Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Cychwynnol

Mae nifer mawr o unedau ymchwil, canolfannau a sefydliadau penodol, naill ai o fewn y coleg, neu â chysylltiadau agos ag ef (neu ag aelodau ei staff), gan gynnwys y rhai a restrir isod:

Er bod pob Ysgol/Sefydliad yn cadw eu hunaniaeth benodol a chyfanrwydd eu pynciau, mae’r Coleg yn meithrin cydweithio rhwng ysgolion a rhannu nodau ac arferion academaidd. Mae addysgu’r Coleg yn seiliedig ar ymchwil gydweithredol o safon fyd-eang. Mae hyn yn golygu y caiff myfyrwyr y cyfle i astudio gydag academyddion sydd ar flaen y gad yn eu disgyblaethau academaidd, boed hynny’n berfformiad chwaraeon elit, yn hyfforddi nyrsys neu’n ddelweddu ymennydd fMRI.

• Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion • Canolfan Seicoleg Defnyddwyr Arbrofol • Canolfan Ymchwil Cysylltiedig ag Iechyd • Canolfan Datblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl • Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Cychwynnol • Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar • Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth • Meithrinfa Gofal Dydd a Chanolfan Datblygu Plant: Tir Na n-Og • Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia • Uned Dyslecsia • Uned Delweddu Bangor • Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgarwch • Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol • Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit • Sefydliad Adsefydlu • Sefydliad Gogledd Cymru dros Dreialon ar Hap mewn Iechyd • Canolfan Dadansoddi Ymddygiad Cymru • Canolfan Wolfson ar gyfer Niwrowyddorau Clinigol a Gwybyddol

Mae’r Coleg yn cynnwys 4 Ysgol academaidd a 2 Sefydliad ymchwil:

Mae ein hymchwil yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd yn ymwneud â gwyddor iechyd, biofeddygol, chwaraeon, ymarfer a pherfformiad, a gwyddor ymddygiad. Mae ansawdd a dyfnder ymchwil y Coleg i’w gweld yn ei set ragorol o ganlyniadau o’r Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf. Cafodd yr Ymarfer ei gynnal ar dros 70 aelod staff o’r Coleg. Nododd y paneli weithgarwch ymchwil o safon ryngwladol ragorol ac, yn wir, a oedd yn arwain y byd, yn y tair uned asesu a ymgeisiodd (Ymchwil Gwasanaethau Iechyd, Seicoleg, ac Astudiaethau Cysylltiedig â Chwaraeon).

Adnoddau a Chyfleusterau Modern – fel myfyriwr, bydd yr holl adnoddau dysgu a fydd eu hangen arnoch ar gael i chi allu astudio’n llwyddiannus.

56 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi bod yn darparu rhaglenni MSc o safon uchel er 2000. Cadarnhaodd yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf ein henw da am ymchwil o’r safon uchaf; barnwyd bod 80% o’n gwaith ar lefel sy’n arwain y byd neu ar lefel ryngwladol. Roedd hyn yn golygu ein bod yn un o’r deg Ysgol Gwyddor Chwaraeon orau yn y DU. Mae ein rhagoriaeth mewn ymchwil yn bwydo’n uniongyrchol i’n rhaglenni ôl-radd, gan fod myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan yr ymchwilwyr sy’n creu’r gronfa wybodaeth yn y meysydd y maent yn eu hastudio, ac yn cydweithio â hwy. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n awyddus i ehangu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae pump o staff yr Ysgol yn siarad Cymraeg ac ar gael i gynorthwyo myfyrwyr sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn yr Ysgol.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae’r Ysgol yn cynnig amrediad llawn o gyrsiau ôl-radd a addysgir mewn gwyddor chwaraeon, iechyd ac ymarfer. Mae’r rhaglenni MSc wedi’u chynllunio i fod yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion a diddordebau unigol y myfyriwr, gyda phwyslais cryf ar ddefnyddio theori mewn ymarfer proffesiynol. Mae graddau MRes wedi’u hanelu at fyfyrwyr sy’n dymuno cael hyfforddiant mwy estynedig mewn ymchwil ym maes gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer. Mae rhaglenni MPhil a PhD ar gael i’r rheini sy’n dymuno dilyn cwrs sy’n seiliedig yn llwyr ar ymchwil. Mae myfyrwyr sy’n dilyn unrhyw raglen astudio ôl-radd (MSc, MRes neu PhD/MPhil) yn gallu cael cyfle i baratoi ar gyfer hyfforddiant profiad goruchwylio Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain, sydd fel rheol yn un o ragofynion achrediad proffesiynol y Gymdeithas.

Er enghraifft: • siambr amgylcheddol; • sganiwr amsugnometreg pelydr-x egni deuol; • cipio mudiant ar fuanedd uchel ar gyfer symudiadau llygaid ac aelodau; • cyfres o ystafelloedd arbrofol seicoechddygol; • labordy ymyriadau ac arsylwadau seicolegol; • labordai bioleg celloedd a biocemeg.

PROFFIL STAFF

Cyfleusterau Mae gan yr Ysgol ystod helaeth o labordai a chyfarpar o safon uchel ar gyfer ffisioleg, seicoleg, rheolaeth dros symudiadau a dysgu a dadansoddi mudiant ym maes chwaraeon ac ymarfer.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Gymhwysol • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Gymhwysol • Gwyddorau Chwaraeon Cymhwysol • Gwyddorau Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Cymhwysol • Adsefydlu Ymarfer • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer (wedi ei achredu gan y BPS) MRes/Tystysgrif Ôl-radd • Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer PhD/MPhil • Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

MWY O WYBODAETH: Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ffôn: +44 (0) 1248 388256 E-bost: Cyrsiau trwy ddysgu: mscsport@bangor.ac.uk Cyrsiau ymchwil: shesphds@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/chwaraeon

Sarah Williams, Cydlynydd Dysgu ac Addysgu, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon “Rwy’n gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer fel Cydlynydd Dysgu ac Addysgu. Pwrpas y swydd yw recriwtio, cefnogi myfyrwyr a gweithgareddau mynediad myfyrwyr. Rwyf hefyd yn cefnogi gweinyddiaeth cwricwlwm, strategaethau dysgu ac addysgu a mentrau newydd yn yr Ysgol. Un o’r datblygiadau diweddaraf yn yr Ysgol yw’r ymgyrch i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn sicr, mae fy sgiliau ieithyddol wedi golygu fy mod wedi chwarae rhan flaenllaw yn y datblygiadau yma. Mae’r Ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi sicrhau Cymrodoriaeth Dysgu Cyfrwng Cymraeg. Bydd y cymrodyr a benodir yn darlithio am o leiaf bum awr yr wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â datblygu darpariaeth newydd yn y Gymraeg. Yn ychwanegol rwyf ar ganol cyflawni project byr sy’n ymchwilio i anghenion myfyrwyr sydd eisiau astudio trwy’r Gymraeg ym maes addysg gorfforol. Bydd y gwaith yn cynnwys cynnal grwpiau ffocws gydag athrawon, disgyblion ysgol a’n myfyrwyr ni. Mae canlyniadau’r project hwn am osod seiliau cadarn i’r Gymraeg yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor.”

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 57


Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn lle cyfeillgar a chefnogol i astudio ynddo. Rydym yn ymfalchïo mewn cefnogi myfyrwyr mewn amgylchedd sy’n sefydlu a chynnal safon uchel o ansawdd a rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu, yn ogystal ag mewn ymchwil. Mae ein hymchwil newydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu a chyfuno gwybodaeth, a’i defnyddio i gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel a datblygu gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd a chost effeithiolrwydd ymyriadau, gwasanaethau a sefydliadau. Rydym hefyd yn datblygu a defnyddio dulliau ymchwil newydd i gyfuno beth sy’n hysbys, ac i gael gwell dealltwriaeth o sut a pham y mae tystiolaeth neu wybodaeth yn cael neu’n peidio â chael eu defnyddio mewn ymarfer. O fewn y maes ymchwil cyffredinol hwn mae gennym lefel uchel o arbenigedd rhyngwladol ym meysydd plant anabl, pobl hŷn, strôc, sensitifrwydd ieithyddol a diwylliannol, theori trosi gwybodaeth, ymarfer a dulliau gwerthuso. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Staff a Chyfleusterau Daw ein staff o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ac mae ein hymchwilwyr a’n darlithwyr profiadol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a lles wedi ymrwymo i’n nod canolog o helpu myfyrwyr i sicrhau’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer academaidd a chlinigol. Mae gennym gysylltiadau cadarnhaol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol eraill yng Ngogledd Cymru, ac rydym hefyd yn cynnig cynadleddau, seminarau a gweithdai ar feysydd allweddol gofal iechyd a chymdeithasol. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ymateb i’r newidiadau mewn amgylchedd gwaith a bydd cyfleoedd i brofi ymarfer ac addysg ddwyieithog. Mae gennym gasgliad llyfrgell helaeth ym maes gofal iechyd a chymdeithasol a llyfrgellydd penodol i’r Ysgol i’ch cynorthwyo i gael hyd i’r wybodaeth rydych ei hangen. Mae gennym hefyd Gynllun Achredu Dysgu Blaenorol, fel y gall profiadau academaidd blaenorol gael eu hachredu.

58 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Rydym yn cynnig ystod o lwybrau ôl-radd sy’n cynnwys rhaglenni cyn-gofrestru ac ôlgofrestru, h.y. llwybrau sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol neu ddatblygiad proffesiynol pellach yn achos myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol yn barod. Mae ein rhaglenni MSc wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac mewn ymateb i’n profiad a’n gwaith yn rhyngwladol. Mae cyrsiau’n rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol, gan eich galluogi i fanteisio ar ystod o brofiadau clinigol a rhai’n ymwneud â gwasanaethau. Cafodd llwybrau ôl-gofrestru eu creu i roi sylw i dargedau cyfredol mewn datblygiad proffesiynol parhaus – ond gydag elfennau hyblyg i alluogi myfyrwyr i addasu gwaith asesu i’w hanghenion eu hunain. Gall myfyrwyr llawnamser gwblhau’r radd mewn 18 mis, mae myfyrwyr rhan-amser fel rheol yn cymryd 3 blynedd, tra gall myfyrwyr cysylltiol gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau eu hastudiaethau. Mae llawer o raglenni’n cynnwys elfennau theori ac ymarfer; mae’r rhain wedi’u cynllunio i ymateb i’r newidiadau a achoswyd gan ymchwil, newidiadau mewn cymdeithas ac mewn iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol. Mae’r Ysgol wedi datblygu rhaglen amlddisgyblaethol ar lefel Meistr i weithwyr proffesiynol ôl-gofrestru, iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill, yn ogystal â pheth darpariaeth ôl-radd gyn-gofrestru. Mae mwyafrif y modiwlau a’r llwybrau ar gael ar sail ran-amser neu lawn-amser i gyflawni anghenion amrywiaeth o fyfyrwyr sy’n gwneud gradd uwch ac fe’u cyflwynir yn hyblyg lle bynnag y bo modd. Defnyddir dull dysgu cyfunol sy’n cynnwys dysgu mewn amrywiaeth o amgylcheddau, megis ystafell ddosbarth, lleoliadau ymarfer a dysgu rhithwir. Mae pwyslais cryf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i fyfyrwyr, a gefnogir gan ystod o weithgareddau addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel i fyfyrwyr ôl-radd.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: Cymhwyster Lefel 6 • Sylfeini Ymarfer Cymunedol • Cymhwyster Ymarfer Arbenigol mewn Ymarfer Nyrsio Cyffredinol Tystysgrif Ôl-radd • Rheolaeth Clefyd Siwgr MSc/Diploma/Tystysgrif Ôl-radd • Ymarfer Clinigol Uwch # • Arweinyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Gwyddor Iechyd • Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd • Rheoli Risg MSc/Diploma • Therapi Galwedigaethol # MRes/Tystysgrif Ôl-radd • Rhoi Tystiolaeth ar Waith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol # PhD/MPhil • Astudiaethau Iechyd/Gwyddor Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Radiograffeg a Phroffesiynau Perthnasol i Iechyd # #

cynghorir myfyrwyr rhyngwladol i gysylltu â’r Ysgol cyn gwneud cais

MWY O WYBODAETH: Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ffôn: +44 (0) 1248 383123 E-bost: admissions.health@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwyddoraugofaliechyd

PROFFIL STAFF

Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi myfyrwyr ôl-radd sy’n dod i astudio gyda gwybodaeth, sgiliau, profiad, gwerthoedd a daliadau blaenorol, a chymerir y rhain fel man cychwyn ar gyfer datblygu.

Ruth Wyn Williams, Darlithydd Nyrsio Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Enillodd Ruth Wyn Williams ysgoloriaeth ymchwil Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2008 a 2010. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Ruth yn creu adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ac enillodd un o Wobrau Cymraeg mewn Gofal Iechyd gan GIG Cymru. Mae Ruth wedi cael ei phenodi yn Ddarlithydd Nyrsio Cyfrwng Cymraeg, sy’n swydd sydd wedi ei chyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


Ysgol Gwyddorau Meddygol Ynglŷn â’r Ysgol Yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yw canolbwynt addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Ysgol yn cynnig graddau israddedig ac ôlradd, ac amrywiaeth o gyfleoedd ymchwil meddygol. Mae’r Ysgol yn un o bartneriaid Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, partneriaeth rhwng y Sefydliadau Addysg Uwch sy’n gweithredu yng ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru’n rhoi amgylchedd cydweithredol i addysg ac ymchwil meddygol yng ngogledd Cymru. Rydym yn ymroddedig i ddarparu cyrsiau astudio ôl-radd sy’n briodol i ofal iechyd a phroffesiynau cysylltiedig. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Meddygol ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Staff Rydym yn cyflogi nifer o staff academaidd clinigol ac anghlinigol yn ymwneud ag ymchwil sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau gofal iechyd cenedlaethol a lleol, yn enwedig ym meysydd heneiddio, clefydau cronig, clefydau cardiofasgwlaidd, canser ac iechyd meddwl. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ragoriaeth ym maes ymchwil iechyd. Mae’r Ysgol Gwyddorau Meddygol yn adeiladu ar y cryfderau hyn.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: Tystysgrif Ôl-radd • Ymarfer Addysg Feddygol PhD/MPhil • Efrydiaethau Ymchwil

MWY O WYBODAETH: Ysgol Gwyddorau Meddygol Ffôn: +44 (0) 1248 383244 E-bost: gwyddoraumeddygol@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwyddoraumeddygol

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 59


Ysgol Seicoleg Ynglŷn â’r Ysgol Fel myfyriwr Seicoleg ôl-radd, byddwch yn cydweithio ag ymchwilwyr sy’n adnabyddus yn rhyngwladol ac yn defnyddio cyfleusterau ymchwil o’r safon orau. Yn ogystal mae ein haelodau staff academaidd yn cynhyrchu ymchwil o’r safon uchaf, gyda dylanwadau yn y sector cyhoeddus (yn enwedig gweithgareddau Iechyd a Chlinigol) yn ogystal ag mewn diwydiant ac yn y byd academaidd. Ystyrir bod yr Ysgol yn un o 7 adran seicoleg orau’r DU o ran pŵer ymchwil.

Staff a chyfleusterau Mae’r canolfannau ymchwil yn yr Ysgol yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr wneud gwaith project sy’n ymdrin ag elfennau damcaniaethol ac ymarferol pwysig. Mae nifer o labordai ymchwil arbenigol ar gael i’r staff a’r myfyrwyr gan gynnwys sganiwr MRI 3T, Labordai TMS, ERP, cewyll Faraday, labordy anatomeg ymennydd, cyfleusterau dilyn llygaid a meithrinfa ar y safle gyda chyfleusterau arsylwi, yn ogystal â dwsinau o labordai profi sy’n defnyddio cyfrifiaduron.

Mae’r Ysgol yn un o’r rhai mwyaf yn y DU o ran niferoedd ac mae’n cynnig cyfuniad o ansawdd a maint sydd ddim ar gael yn unman arall. Yn ogystal â safonau academaidd uchel, mae’r Ysgol yn darparu cefnogaeth academaidd o’r safon orau. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein henw da fel adran gyfeillgar.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae rhaglenni ôl-radd yr Ysgol yn ymdrin â nifer o feysydd arbenigol sy’n adlewyrchu’r gymysgedd o arbenigedd ymchwil yn yr adran. Mae gan yr adran dros 50 aelod o’r Gyfadran Academaidd, ac mae nifer o’r rhain yn arbenigwyr sy’n arwain y byd neu’n adnabyddus yn rhyngwladol yn eu meysydd. Mae modd crynhoi meysydd ymchwil y staff yn y categorïau bras canlynol: • Niwrowyddoniaeth Wybyddol • Iaith, Heneiddio a Dementia • Clinigol ac Iechyd • Newid Ymddygiad • Seicoleg Defnyddwyr Arbrofol

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Ar hyn o bryd, mae’n bosib gwneud project ymchwil gydag un o bedwar aelod staff sy’n siarad Cymraeg, yn y meysydd Iaith, Ymyrraeth Plant, Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymddygiad. Gallwch hefyd gyflwyno’r traethawd hir yn Gymraeg hyd yn oed os ydych yn cael eich goruchwylio drwy’r Saesneg. Mae Ysgoloriaethau Ffioedd Dysgu ar gael i siaradwyr Cymraeg sydd eisiau dilyn y cwrs Meistr Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, ac mae modd mynychu seminarau cyfrwng Cymraeg ar y cwrs yma.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: Tystysgrif Ôl-radd • Delweddu’r Ymennydd yn Glinigol a Gweithredol (rhan-amser) Diploma • Dysgu Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar MSc/Diploma/Tystysgrif Ôl-radd • Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol MA • Seicoleg MSc • Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol • Sylfeini Seicoleg Glinigol • Niwroddelweddu • Ymchwil Seicolegol MA/MSc • Seicoleg Defnyddwyr a Chyfryngau Digidol • Seicoleg Defnyddwyr gyda Busnes • Dulliau wedi’u seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar MRes/Tystysgrif Ôl-radd • Seicoleg MSc drwy Ymchwil • Seicoleg PhD • Seicoleg DClinPsy • Seicoleg Glinigol

MWY O WYBODAETH: Ysgol Seicoleg Ffôn: +44 (0) 1248 382629 E-bost: seicoleg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/seicoleg

A WYDDECH CHI... Bu mwy na 30 o fyfyrwyr meistr Seicoleg Defnyddwyr a Busnes yn cynnal projectau ymchwil ar hyd y semester yn y gymuned leol. Fel rhan o fodiwl Seicoleg Gymhwysol Defnyddwyr bu myfyrwyr yn ymchwilio i amrywiaeth o faterion seicolegol yn ymwneud â gweithgareddau defnyddwyr. Er enghraifft, bu un tîm o fyfyrwyr yn gweithio gyda Siop Fwydydd Iechyd Dimensions (ym Mangor Uchaf) i ddeall pethau megis: beth sy’n ysgogi pobl i siopa yno, sut bobl yw’r rhai nad ydynt yn siopa, a sut y mae pobl yn llywio trwy eu siopa ar-lein a’i harchwilio. Bu timau eraill yn astudio dirnadaeth ynglŷn â lle a phris, ac yn cynorthwyo sefydliadau a oedd yn cynnwys Castell Penrhyn ac Achub o’r Mynyddoedd – Dyffryn Ogwen. 60 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol Ynglŷn â’r Sefydliad Sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol (IMSCaR) yn 1997, i roi ffocws i ymchwil y Brifysgol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Nod IMSCaR yw cyflawni ymchwil o safon ryngwladol, gan gael mwy o grantiau gan gynghorau ymchwil, sydd er budd lleol a chenedlaethol i gleifion a’u gofalwyr proffesiynol ac anffurfiol. Mae IMSCaR yn cyflawni ymchwil amlddisgyblaethol, gan ddod â staff o economegwyr iechyd, seicolegwyr ac ystadegwyr at ei gilydd; gan gydweithio ag amrywiaeth eang o arbenigeddau clinigol sy’n cynnwys oncoleg, fferylliaeth, rhiwmatoleg ac iechyd y cyhoedd. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau IMSCaR ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Staff a chyfleusterau Mae IMSCaR yn sefydliad ymchwil pwrpasol â thros 70 o staff ymchwil a myfyrwyr ymchwil ôl-radd mewn tair canolfan ymchwil wahanol wedi’u cydgysylltu – y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion; y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia; a Sefydliad Gogledd Cymru dros Dreialon ar Hap mewn Iechyd, sef Uned Treialon Clinigol Bangor. Er bod y staff yn cyfrannu at fodiwlau MSc a addysgir ar draws y Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad, mae ffocws IMSCaR ar ddatblygu eu rhaglen ymchwil doethuriaeth. Mae hyn yn golygu bod ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd, sy’n aml yn cael cyllid allanol gan MRC, NISCHR, ac elusennau megis Tenovus, yn cael eu cynnwys yn llawn ym mywyd ymchwil y Sefydliad, o rannu swyddfeydd â staff ymchwil, clybiau cyfnodolion, cefnogi projectau ymchwil sydd ar y gweill a chyfleoedd i rannu eu canfyddiadau PhD mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Os yw’n bosibl, cynigir cyfle i fyfyrwyr gysylltu ag astudiaeth neu dreial clinigol sydd ar y gweill, sy’n rhoi cyfle iddynt gyfrannu at ymchwil wreiddiol, gan elwa o’r tîm ymchwil ehangach o ran materion megis moeseg, diogelu data, dadansoddi a pharatoi llawysgrifau.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn y Sefydliad Mae prif feysydd ymchwil IMSCaR mewn economeg iechyd a gwerthuso moddion; heneiddio a gofal dementia; ystadegau meddygol a methodoleg treialon. Mae myfyrwyr yn cwblhau eu cyrsiau MSc a PhD ar nifer o bynciau; ar hyn o bryd mae’r rhain yn cwmpasu heneiddio a gofal dementia, rhaglenni magu plant i deuluoedd dan anfantais, ffarmacoeconomeg, ac economeg anabledd, gofal canser a thâl am berfformiad yn y GIG. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ymchwil fethodolegol a chymhwysol wrth gynhyrchu eu traethawd.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc trwy ymchwil • Astudiaethau Heneiddio a Dementia • Economeg Iechyd • Ymchwil Gwasanaethau Iechyd PhD/MPhil • Astudiaethau Heneiddio a Dementia • Economeg Iechyd • Ymchwil Gwasanaethau Iechyd

A WYDDECH CHI... Ac yntau’n arbenigwr â chydnabyddiaeth ryngwladol ym maes heneiddio a dementia, yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor oedd y person rhyngwladol cyntaf i dderbyn anrhydedd penodol o America. Mae’r Athro Woods yn Athro Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn, yn Gyfarwyddwr ar y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, ac yn Bennaeth gweithredol ar IMSCaR ym Mhrifysgol Bangor, ac ef oedd y person cyntaf o wlad arall i gael ei anrhydeddu ac i siarad yn 10fed Seremoni Anrhydeddu a Darlith Flynyddol Reisberg.

MWY O WYBODAETH: Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol Ffôn: +44 (0) 1248 388771 E-bost: imscar@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/imscar

Noddir y Wobr gan Sefydliad “I’m Still Here”, sy’n cefnogi gofal a thriniaeth i’r pum miliwn o bobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer yn yr Unol Daleithiau, ac wedi’i henwi ar ôl Dr. Barry Reisberg, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Prifysgol Efrog Newydd i Heneiddio a Dementia. Mae’r wobr yn cydnabod pobl sydd wedi cyfrannu mewn modd nodedig ym maes triniaeth anfferyllol ar gyfer clefyd Alzheimer. Meddai’r Athro Woods, “Mae’r Wobr hon yn dangos bod ymchwil ym Mangor i’w gweld fel pe bai o safon fyd-eang wrth geisio bywyd gwell i bobl â dementia a’u teuluoedd. Mae’n bleser gen i fod yn rhan o hyn. Ymdrech gan dîm yw hon, ac mae gweithwyr yn y maes ym Mangor, y GIG ac mewn mannau eraill yn y DU yn cydweithio’n wych â ni.” Mae’r Athro Woods yn seicolegydd clinigol sy’n ymwneud ers 35 mlynedd â’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol i bobl â dementia a’u cynhalwyr. Bu’n arloesi â dull seiliedig ar dystiolaeth, yn benodol yng nghyswllt symbylu gwybyddol a hel atgofion. Mae’n parhau i weithio’n glinigol ac yn arwain rhaglen ar gyfer lledaenu’r gwaith, yn cynnwys hyfforddi staff a datblygu gwasanaethau. Mae wedi derbyn gwobrau gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig a Chymdeithas Clefyd Alzheimer.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 61


COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL Mae gwreiddiau’r Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol yn ymestyn yn ôl i sefydlu’r Brifysgol yn 1884. Mae ganddo draddodiad hir o ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ac mae’n cyflogi llawer o academyddion sy’n arwain eu meysydd. Mae’r Coleg yn cynnwys tair ysgol: yr Ysgol Cemeg, yr Ysgol Cyfrifiadureg a’r Ysgol Peirianneg Electronig. Y Coleg yw un o’r rhai llwyddiannus yn y Brifysgol o ran ansawdd ei gynnyrch ymchwil. Mae myfyrwyr sy’n astudio gyda ni’n gallu cael sylw unigol drwy gydol eu cyfnod ym Mangor. Cadarnhawyd ansawdd ymchwil y Coleg yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2008); fe wnaeth pob un o’r tair Ysgol – Cemeg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig – wella eu safle’n genedlaethol ac yn lleol. Roedd yr adran Peirianneg Electronig yn gydradd ail yn y DU. Mae’r Ysgolion i gyd yn elwa o lawer o gydweithio gwerthfawr o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r gyfran uchel o gyhoeddiadau sy’n cynnwys cydawduron o sefydliadau eraill o’r DU a thramor yn dystiolaeth o hyn. Mae rhyngweithio a chydweithio fel hyn, ar ben yr arbenigedd a’r cyfleusterau yn y Coleg, yn rhoi adnodd unigryw i fusnesau rhanbarthol a chyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr. Mae cyfeiriadau strategol y Coleg yn glir ac yn mapio’n dda ar bedair colofn strategaeth Addysg Uwch y Llywodraeth: • Economi Ddigidol (TGCh) • Carbon Isel • Economi, Iechyd a Biowyddorau • Uwch Beirianneg a Gweithgynhyrchu Mae gweithgareddau Delweddu a Graffeg Feddygol yr Ysgol Cyfrifiadureg wedi ehangu’n gyflym. Mae’r gwaith ar Adnabod Patrymau, sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, ynghyd â’r gweithgarwch cynyddol ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial ac Asiantau Deallus yn ail thema allweddol. Mae Modelu Systemau, sef y drydedd thema Cyfrifiadureg, yn rhoi cyfleoedd i ryngweithio â nifer o ddiwydiannau lleol a chyda chydweithwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig. Yma, y prif themâu yw Optoelectroneg ac Electroneg Organig ac mae gweithgarwch hefyd yn parhau ym maes Microbeiriannu Laser. Mae myfyrwyr sy’n astudio yn y Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol yn cael sicrwydd y bydd eu gwaith yn cyfrannu at ymchwil bresennol ac yn rhan ohoni, ac mae nifer o’n myfyrwyr yn cael papurau wedi’u cyhoeddi yn ystod eu cyfnod ym Mangor. Cemeg yn Rhyngwyneb Gwyddor Bywyd, Cemeg Deunyddiau a Chemeg Theoretig a Chyfrifiannol yw prif themâu’r yr Ysgol Cemeg. Fodd bynnag, mae’r ffiniau rhwng y meysydd hyn yn hyblyg, a llawer o brojectau ymchwil yn eu croesi. Mae cysylltiadau cryf â chydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol yn agor cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

62 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol Cemeg Ynglŷn â’r Ysgol Mae gan Gemeg ym Mangor hanes llewyrchus sy’n mynd yn ôl dros ganrif a chwarter, a Chemeg oedd un o bedair adran wreiddiol y Brifysgol yn 1884. Dros y cyfnod hwn, cenhadaeth yr Ysgol fu’r safonau addysgu uchaf ynghyd ag ymrwymiad cryf i ymchwil. Mae’r Ysgol Cemeg yn cyfuno dulliau traddodiadol â chwricwlwm a dulliau addysgu modern. Y canlyniad yw Ysgol fodern sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ôl-radd sydd wedi cael adolygiadau da gan ein harchwilwyr allanol. Mae gwaith ymchwil yn yr Ysgol yn greadigol iawn ac o’r safon uchaf, gan rychwantu meysydd traddodiadol cemeg organig, anorganig a ffisegol, wedi’u grwpio gyda’i gilydd dan dair thema ymchwil cemeg ar y rhyngwyneb gwyddor bywyd, cemeg defnyddiau a chemeg ddamcaniaethol.

PROFFIL STAFF

Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Cemeg ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Staff a chyfleusterau Mae gan yr Ysgol gyflenwad llawn o staff academaidd sy’n gweithio mewn cyfleusterau addysgu ac ymchwil modern. Mae addysgu a dysgu ôl-radd yn cael eu hatgyfnerthu gan ddarlithoedd traddodiadol, seminarau, sesiynau cyfrifiaduron a dosbarthiadau labordy, ac mae’r prif bwyslais ar waith ymchwil. Mae gennym labordai â chyfarpar da ac offer o safon ddiwydiannol at ddefnydd y myfyrwyr, gan gynnwys NMR, GC, HPLC, MS, sbectrosgopeg (FTIR ac UV-vis), TGA, XRD a microsgopeg. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae gan yr Ysgol Cemeg gymuned ymchwil weithgar sy’n cynnwys myfyrwyr MSc Cemeg Ddadansoddol, MSc Cemeg Amgylcheddol, MRes, MPhil a PhD i gyd yn gweithio dan themâu ymchwil cyffredinol yr Ysgol sef cemeg defnyddiau, cemeg ar y rhyngwyneb gwyddor bywyd a chemeg ddamcaniaethol. Rydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill o fewn Prifysgol Bangor ac yn fyd-eang.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc/Diploma • Cemeg Dadansoddol • Cemeg Amgylcheddol MRes • Cemeg PhD/MPhil • Cemeg

MWY O WYBODAETH: Ysgol Cemeg Ffôn: + 44 (0) 1248 382375 E-bost: chemistry@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cemeg

Mae diddordebau ymchwil penodol yn cynnwys cemeg polymerau, ffotofoltäeg, cemeg werdd; biosynhwyryddion, dynameg cwantwm, dynameg darnio peptidau a chemeg synthetig. Mae gennym nifer o gysylltiadau â phartneriaid diwydiannol ac academaidd ledled y byd, sy’n cyfrannu at enw da rhyngwladol yr Ysgol am ragoriaeth.

Enlli Haf Huws, Academydd Labordy ac Addysgu, Ysgol Cemeg “Dewisais ddilyn cwrs ôl-radd ym Mangor gan fy mod wedi gwneud fy nghwrs is-radd ym Mangor a ro’n i wedi mwynhau’n fawr iawn. O’n i hefyd yn hapus iawn yn yr ardal. Roedd pawb wedi bod yn gefnogol pan o’n i’n gwneud fy ngradd gyntaf ac o’n i’n meddwl y buaswn i’n licio treulio mwy o amser yn yr adran. Roedd y rhan fwyaf o’r cwrs PhD yn seiliedig ar wneud ymchwil mewn cemeg synthetig organig yn y labordy, ac roedd yr adnoddau perthnasol ar gael i’w defnyddio, fel sbectromedr NMR ac adnoddau hanfodol eraill i gemegwyr. Dwi’n meddwl mai’r uchafbwynt drwy gydol yr amser oedd llwyddo i synthesu cyfansoddyn newydd penodol ar ôl treulio amser hir iawn yn trio. Mae pawb yn yr adran i’w gweld yn gefnogol i fyfyrwyr PhD, ond mae’n amlwg mai’r arolygwyr sydd yn rhoi’r rhan fwyaf o’r gefnogaeth (ond os oes arnoch chi angen help gan ddarlithydd arall nad yw’n arolygwr arnoch chi, chi maen nhw hefyd yn hapus i helpu). O ran y gefnogaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, mae tri aelod o staff academaidd yn awr yn siarad Cymraeg ac yn barod i helpu os oes problem. Mae’r rhan fwyaf o’r technegwyr hefyd yn siarad Cymraeg ac mae eu cefnogaeth nhw hefyd yn bwysig gan fod yna lot o ryngweithio gyda nhw i gyflawni pethau. Mi wnes i ddilyn cwrs gloywi iaith er mwyn dod i arfer i ymdrin â chemeg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mi nes i fwynhau bod yn fyfyrwraig yn yr Ysgol Cemeg yn fawr iawn. Mae’r Ysgol Cemeg yn Ysgol glòs iawn ac mae pawb i’w gweld fel pe baen nhw’n nabod pawb. Mae pawb yn glên ac yn gefnogol ac yn barod i helpu. Mae hefyd amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol o fewn yr adran fel partïon Nadolig, tripiau i’r sw a paintballing. Mae digon i’w wneud hefyd ym Mangor, mae llawer o weithgareddau awyr agored fel mynydda ac ati, ac mae ’na lwyth o glybiau y gellwch chi ymuno â nhw ac mae nifer y clybiau nos ym Mangor i’w weld fel petai’n mynd yn fwy bob blwyddyn. Erbyn hyn, rwy’n gweithio yn yr Ysgol Cemeg fel academydd labordy ac addysgu. Dwi’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn y labordy gyda’r israddedigion. Ar y funud, dwi hefyd yn trio cynyddu’r addysgu cyfrwng Cymraeg sydd yn yr Ysgol Cemeg, ac yn ceisio creu adnoddau Cymraeg newydd. Mae holl adnoddau’r Ysgol Cemeg ar gael i’r myfyrwyr ôl-raddedig, yn cynnwys sbectromedr NMR, IR a màs, i enwi dim ond rhai. Os ydych chi’n defnyddio rhai o’r offer yma yn gyson, fe gewch eich hyfforddi sut i’w defnyddio gan aelod o staff.”

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 63


Ysgol Cyfrifiadureg Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg yn gymuned ifanc a bywiog o staff academaidd, myfyrwyr israddedig ac ôl-radd a gweithwyr ymchwil sydd wedi cwblhau doethuriaeth. Mae Cyfrifiadureg ym Mangor mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer gyrfa mewn TG yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein rhyngweithio ag amrywiaeth eang o gwmnïau’n sicrhau bod ein cyrsiau gradd yn adlewyrchu tueddiadau presennol a datblygiadau diweddar yn eu pynciau. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Cyfrifiadureg ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfleusterau Mae gan yr Ysgol raglen ôl-radd gref a gweithgar ac mae gan ein myfyrwyr labordai pwrpasol i weithio ynddynt. Mae gan yr Ysgol gyfarpar da o ran ystafelloedd cyfrifiaduron a chyfarpar arbenigol arall (megis labordy Graffeg Feddygol a Delweddu Perfformiad Uchel) sy’n cael eu defnyddio i ategu ac atgyfnerthu gwybodaeth a chysyniadau a gyflwynir mewn darlithoedd a seminarau.

Hefyd, rydym yn ceisio sicrhau bod ein myfyrwyr yn defnyddio caledwedd a meddalwedd sy’n safonol mewn diwydiant o ddechrau eu hastudiaethau, ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn systemau cyfrifiadurol newydd a’r feddalwedd ddiweddaraf i ategu ein haddysgu. Mae ffocws cryf yr Ysgol ar addysgu ac ymchwil ôl-radd yn golygu bod ein myfyrwyr i gyd yn ymwneud â themâu ymchwil presennol o’r dechrau, gan gydweithio’n agos â’u tiwtoriaid personol ar yr ymchwil ddiweddaraf. Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae arbenigedd ymchwil yn yr Ysgol yn cwmpasu graffeg gyfrifiadurol, delweddu, darganfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau addysgu, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at yr ymchwil Gyfrifiadureg ddiweddaraf.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Gwyddor Cyfrifiadurol • Gwyddor Cyfrifiadurol gyda Deallusrwydd Artiffisial * • Gwyddor Cyfrifiadurol gyda Diogelwch * • Gwyddor Cyfrifiadurol gyda Delweddau * MRes • Delweddau Uwch, Amgylcheddau Rhithwir ac Animeiddio Cyfrifiadurol MBA • Rheoli Gwybodaeth PhD/MPhil • Deallusrwydd Artiffisial a Chyfryngau Deallus • Rhwydweithiau a Phrotocolau Cyfathrebu • Delweddu Meddygol ac Efelychiad • Adnabod Patrymau/Dosbarthwyr

MWY O WYBODAETH: Ysgol Cyfrifiadureg Ffôn: + 44 (0) 1248 382686 E-bost: cs-pg-admissions@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfrifiadureg

A WYDDECH CHI... Mae gwaith arloesol ac amlddisgyblaethol gan wyddonwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a’r Ysgol Seicoleg wedi derbyn bron i £550,000 o gyllid gan ddau o brif gyrff ariannu’r DU, sef yr Economic and Social Research Council a’r Engineering and Physical Sciences Research Councils. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn enghraifft o’r math o waith amlddisgyblaethol fydd yn gyrru’r economi wybodaeth yn ei blaen. Wrth ddileu ffiniau traddodiadol, daw cyfuniad newydd o ddulliau ynghyd i geisio diffinio sut yn union mae’r system weledol yn adnabod gwrthrychau tri dimensiwn. Trwy gydweithio, nod y project yw olrhain y broses yn ôl, i ddeall y prosesau niwral cymhleth sy’n gysylltiedig â thasgau syml megis adnabod gwrthrychau er gwaethaf newidiadau o ran safle, golau a chysgod. Dywedodd Dr Ik Soo Lim o’r Ysgol Cyfrifiadureg: “Ein cyfraniad ni at y gwaith fydd cyfieithu’r data o iaith un ddisgyblaeth i iaith un arall. Byddwn yn trosi’r data sy’n cael eu casglu yn labordai’r seicolegwyr yn fodelau cyfrifiadurol fydd yn sail i ddatblygu systemau gweledol artiffisial mwy cymhleth.”

64 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Ysgol Peirianneg Electronig Ynglŷn â’r Ysgol Mae’r Ysgol Peirianneg Electronig ar flaen y gad o ran addysg ac ymchwil ym maes electroneg heddiw, ac mae’n cyflawni ymchwil sy’n arwain y byd ym meysydd optoelectroneg, cyfathrebu optegol, electroneg organig a bioelectroneg. Yn ôl Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth, yr Ysgol oedd yr ail orau yn y DU. Darpariaeth cyfrwng-Cymraeg Er nad yw cyrsiau’r Ysgol Peirianneg Electronig ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â pholisi dwyieithrwydd y Brifysgol, gellir cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Staff a chyfleusterau Gan fod ein staff yn cydweithio â chwmnïau mewn projectau ymchwil ar y cyd, mewn partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ac fel ymgynghorwyr, gall myfyrwyr fod yn siŵr eu bod yn cael eu haddysgu gan beirianwyr a gwyddonwyr proffesiynol sy’n ymarferwyr yn y maes.

Golwg gyffredinol ar y meysydd academaidd yn yr Ysgol Mae ymchwil optoelectroneg yn canolbwyntio ar ddeall ffiseg dyfeisiau optoelectronig lledddargludol, gyda phwyslais penodol ar ddynameg systemau optoelectronig ac ar gydamseru anhrefn optegol a chyfathrebu anhrefn. Mae’r ymchwilwyr Electroneg Organig yn archwilio sut y gellir gweithgynhyrchu dyfeisiau electronig sy’n cynnwys cemegion organig, â phriodweddau electronig dymunol, i gystadlu â silicon, gyda phwyslais penodol ar ddefnyddiau ffotofoltaidd organig ac electroneg plastig rhad. Y rhyngweithio rhwng ffenomena electronig a thrydanol a samplau biolegol yw ffocws yr ymchwil fioelectronig yn yr ysgol. Gellir gwneud offer mesur biolegol drwy ddefnyddio cydadwaith celloedd a meysydd trydanol mini strwythuredig i adeiladu ‘labordy cyfan ar sglodyn’.

RHESTR CYRSIAU: Cyrsiau cyfrwng Saesneg: MSc • Cyfathrebu Band Eang ac Optegol • Peirianneg Electronig • Nanotechnoleg a Microwneuthuriad MRes • Peirianneg Electronig PhD/MPhil • Gwyddor Deunyddiau Trydanol • Microbeiriannu Laser a Labordy-arsglodyn • Cyfathrebu Optegol • Optoelectroneg • Electroneg Organig

MWY O WYBODAETH: Ysgol Peirianneg Electronig Ffôn: + 44 (0) 1248 382686 E-bost: eng-pg-admissions@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/electroneg

Mae gan yr Ysgol Peirianneg Electronig gyfleusterau rhagorol i fyfyrwyr ôl-radd, gan gynnwys labordy cyfrifiaduron pwrpasol i fyfyrwyr MSc a mynediad at y cyfarpar labordy diweddaraf, o ystafelloedd glân i welyau profi cyfathrebu optegol. Gall myfyrwyr fod yn siŵr y bydd cyfarpar a thechnegau arbrofol perthnasol ar gael iddynt, a byddant yn cyflawni eu gwaith project yn labordai ymchwil yr Ysgol sydd wedi’u cyfarparu’n dda.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 65 © Glyn Davies


MYNEGAI PWNC Addysg (PhD/MPhil) Addysg Gynradd (TAR) Addysg Uwchradd (TAR) Astudiaethau Addysg rhan-amser (MA) Astudiaethau Cyfieithu (MA) Astudiaethau Athroniaeth a Chrefydd (MA/MRes)

42 47 47 48 35 23

Cerddoriaeth – Llwybr Safonol (MA) Cerddoriaeth – Llwybr Arbennig (MA) Cerddoriaeth (PhD/MPhil) Cerddoriaeth Gynnar – Llwybr Safonol (MA) Cerddoriaeth yr 20fed-21ain Ganrif – Llwybr Safonol (MA) Cerddoriaeth trwy Ymchwil (MA/MMus)

26 26 29 28 28 29

Cyfansoddi/Cyfansoddi Electroacwstig/ Celfyddyd Sonig – Llwybr Arbennig (MMus) Cymraeg (MA)

27 31

Datblygu Cymunedol rhan-amser (MA/Diploma/Tystysgrif) Diwinyddiaeth (MTh)

39 23

Hanes (PhD/MPhil) Hanes Cymru (PhD/MPhil)

33 33

Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (PhD/MPhil)

32

Perfformio (MMus) Polisi a Chynllunio Ieithyddol (MA)

27 44

Rheolaeth Amgylcheddol Gynailadwy (MA/MSc) Gweinyddiaeth Gyhoeddus MPA* (MA)

53 42

Ysgrifennu Creadigol (MA) Ysgrifennu Creadigol (PhD/MPhil) Y Celtiaid (MA)

31 32 32

* cwrs newydd – yn amodol ar gael ei ddilysu

66 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


MYNEGAI CYFFREDINOL Astudio Drwy’r Gymraeg Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant Canolfan Bedwyr Canolfan Dyslecsia Miles Bangor Cefnogaeth Academaidd Chwaraeon a Ffitrwydd Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas Coleg Cymraeg Cenedlaethol Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Coleg Gwyddorau Naturiol Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad Cyflwyniad i’r Brifysgol Cyllid Cynllun Llysgennad Ôl-raddedigion Dinas Bangor Ffioedd Dysgu Gofynion Mynediad Gwasanaeth Anabledd Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Gwybodaeth am y Brifysgol Llety Pontio – Canolfan Arloesi a Chelfyddydau Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol Sgiliau Astudio

6 14 7 10 9 15 40 7 20 62 50 56 1 16 10 14 16 18 10 11 12 13 2 8 14 61 9

Sut i Wneud Cais Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Uned Argraffu a Rhwymo Ymarfer Asesu Ymchwil Ysgol Addysg Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ysgol Busnes Bangor Ysgol Cemeg Ysgol Cerddoriaeth Ysgol Cyfrifiadureg Ysgol Dysgu Gydol Oes Ysgol Gwyddorau Biolegol Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Ysgol Gwyddorau Eigion Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ysgol Gwyddorau Meddygol Ysgol y Gyfraith Ysgol y Gymraeg Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Ysgol Ieithoedd Modern Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ysgol Peirianneg Electronig Ysgol Saesneg Ysgol Seicoleg

18 15 13 4 46 52 24 22 41 63 25 64 38 54 57 43 55 58 59 45 30 33 34 36 65 37 60

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 67


CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL PRIFYSGOL BANGOR GWYNEDD LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 Gwefan: www.bangor.ac.uk DERBYN Ffôn: 01248 388484 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk GWASANAETHAU MYFYRWYR Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk PROSPECTWS A GWYBODAETH BELLACH Ffôn: 01248 383561/382005 E-bost: prospectws@bangor.ac.uk SWYDDFA NEUADDAU Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk SWYDDFA TAI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk UNED CYMORTH ARIANNOL Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk CANOLFAN DYSLECSIA MILES Ffôn: 01248 383843 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk

DYLUNIO/LLUNIAU: COWBOIS/HAMILTON ARGRAFFU: W.O. JONES PRINTERS LTD Mae Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig rhif: 1141565

68 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


GWYBODAETH BWYSIG Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y Prospectws hwn yn gywir adeg ei argraffu (Tachwedd 2013). Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu’r cyrsiau, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ddysgu a chyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill, gyda gofal a medr rhesymol, fel y’u disgrifir yn y Prospectws hwn. Fodd bynnag, bydd gan y Brifysgol yr hawl, os ystyria hynny’n rhesymol angenrheidiol (gan gynnwys er mwyn rheoli ei hadnoddau a gwella ansawdd ei ddarpariaeth) i wneud newidiadau i’r ddarpariaeth hon gan gynnwys: • newid (er enghraifft) cynnwys a maes llafur cyrsiau a dulliau dysgu ac asesu (gan gynnwys yng nghyswllt lleoliadau); • atal neu ddileu cyrsiau. Er bod hyn yn annhebygol, os bydd y Brifysgol yn terfynu neu yn peidio darparu cwrs neu yn ei newid yn sylweddol cyn iddo ddechrau, bydd y Brifysgol yn dweud wrth yr unigolion perthnasol cyn gynted ag y bo modd. Bydd gan unigolyn yr hawl i dynnu’n ôl o’r cwrs trwy ddweud wrth y Brifysgol yn ysgrifenedig ymhen amser rhesymol o gael gwybod am y newid. Bydd y Brifysgol yn rhoi i’w myfyrwyr y cyfryw gefnogaeth ddysgu a gwasanaethau a chyfleusterau eraill sydd yn briodol ym marn y Brifysgol, ond gall amrywio’r hyn mae’n ei ddarparu a sut y mae’n ei ddarparu (er enghraifft, gall y Brifysgol ei hystyried yn ddoeth newid y ffordd mae’n darparu cefnogaeth llyfrgell neu TG). Nid yw parodrwydd y Brifysgol i ystyried cais yn warant o dderbyn. Derbynnir myfyrwyr i’r Brifysgol ar y sail fod y wybodaeth a ddarparant ar eu ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 69



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.