Prospectws Ôl-raddedig 2018

Page 1

PRIFYSGOL BANGOR PROSPECTWS ÔL-RADD


CYNNWYS

CYFLWYNIAD 1 2 4 6

Cyflwyniad i’r Brifysgol Gwybodaeth am y Brifysgol Rhagoriaeth Ymchwil Ryngwladol Arwain ar y Gymraeg

BYW AC ASTUDIO YM MANGOR 8 Llety 9 Cefnogaeth i Fyfyrwyr 14 Byw ac Astudio ym Mangor

CYFLEUSTERAU AC ADNODDAU 12 Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau 13 Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth

CYLLID MYFYRWYR A GWNEUD CAIS 16 Cyllid a Ffïoedd Myfyrwyr 18 Gwneud Cais a Gofynion Mynediad 19 Dewisiadau Astudio

GWYBODAETH GYFFREDINOL 66 Mynegai Pwnc 67 Mynegai Cyffredinol 68 Cysylltiadau Defnyddiol

@prifysgolbangor www.facebook.com/PrifysgolBangor

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau

20 22 24 25 30 33 34 36 37

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Ysgol Cerddoriaeth Ysgol y Gymraeg Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Ysgol Ieithoedd Modern Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ysgol y Saesneg 38 Ysgol Dysgu Gydol Oes

40 COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG A GWYDDORAU CYMDEITHAS 41 Ysgol Busnes Bangor 43 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas 45 Ysgol y Gyfraith 46 Ysgol Addysg 50 52 54 55

COLEG GWYDDORAU NATURIOL Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Ysgol Gwyddorau Eigion

56 57 58 59 60 61

COLEG IECHYD A GWYDDORAU YMDDYGIAD Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Ysgol Gwyddorau Meddygol Ysgol Seicoleg Sefydliad Ymchwil Meddygol a Gofal Cymdeithasol

62 63 64 65

COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL Ysgol Cemeg Ysgol Cyfrifiadureg Ysgol Peirianneg Electronig


CYFLWYNIAD I’R BRIFYSGOL Wedi ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad maith o ragoriaeth ac mae’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau, o ran safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr. Heddiw mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ffyniannus a blaengar sy’n cynnig cyfleoedd ôl-radd rhagorol mewn cyrsiau hyfforddedig a graddau ymchwil. Mae gennym record ragorol am ansawdd ein hymchwil a’n haddysgu. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, nodwyd bod ymchwil o safon gyda’r orau yn y byd yn cael ei gwneud ym mhob un o’n 19 maes pwnc a aseswyd, gyda bron 50% yn cael y graddfeydd uchaf o 3* a 4*. Gall myfyrwyr ar gyrsiau ôl-radd hyfforddedig fwynhau dysgu o safon ragorol a gyflwynir gan rai sy’n wir arbenigwyr yn eu meysydd. Mae gan Fangor sylfaen ymchwil gadarn ar draws nifer o ddisgyblaethau academaidd gan ymwneud ag ymchwil ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff ymchwil ei gwneud naill ai’n uniongyrchol yn yr Ysgolion neu mewn Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o Ysgolion. Caiff Prifysgol Bangor ei chydnabod yn rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar sail ei phortffolio amrywiol o raglenni academaidd ac am ansawdd uchel y profiad y mae’n ei roi i’w myfyrwyr a’i staff. Mae gennym ystod o bartneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol gyda nifer o brifysgolion eraill sy’n rhoi cyfle i ni gydweithio mewn ymchwil ac astudio. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n gadarn i roi profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr drwy addysgu, dysgu a chefnogaeth. Mae nifer ein staff dysgu i bob myfyriwr yn ein galluogi i ganolbwyntio ar anghenion unigol pob myfyriwr. Rydym wedi ymrwymo i annog ac ysbrydoli pob myfyriwr i gyrraedd eu llawn botensial.

“Mae Bangor yn gymuned brifysgol sy’n gwirioneddol ofalu am ei myfyrwyr a’u cefnogi, ac rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaeth rhagorol rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr. Mae hwn yn cynnwys cyngor a chefnogaeth ar faterion academaidd, ariannol, gyrfaoedd a phersonol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Yn ogystal, mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd ysblennydd Eryri a thraethau godidog yr ardal yn ychwanegu at brofiad prifysgol digymar.” Yr Athro JOHN G. HUGHES Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 1


GWYBODAETH AM Y BRIFYSGOL

Saif y Brifysgol yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Brifysgol.

Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd, mae Bangor yn rhoi cyfle i chi ddod yn rhan o gymuned fywiog o fyfyrwyr yn un o’r mannau mwyaf deniadol i astudio ynddo yng ngwledydd Prydain. Mae Bangor hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio mewn prifysgol gadarn sydd ag enw da rhagorol iddi am ddysgu ac ymchwil. Saif y Brifysgol hefyd yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth y Brifysgol. Gall tua 70% o boblogaeth Gwynedd siarad Cymraeg a defnyddir y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd yr ardal. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn nhreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyfoethog yr ardal a bydd yn parhau i chwarae rhan amlwg yn meithrin y bywiogrwydd diwylliannol hwn. Dysgir ein holl gyrsiau yn Saesneg, er bod cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio nifer o gyrsiau drwy’r Gymraeg. Mae dros 20% o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg a Saesneg, tra bod 58% o’n staff yn ddwyieithog neu’n dysgu Cymraeg. Caiff Bangor ei chydnabod yn un o brifysgolion amlycaf y byd ym maes ymchwil i ddwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Mae dros hanner ein myfyrwyr yn ferched ac rydym yn recriwtio myfyrwyr o bob cefndir. Rydym yn arbennig o boblogaidd gyda myfyrwyr sy’n hoff o’r ymdeimlad cymunedol llai y gall y Brifysgol a dinas Bangor eu cynnig. Daw tua 20% o’n myfyrwyr llawn-amser o 28 gwlad yr Undeb Ewropeaidd ac o 87 o wledydd eraill ledled y byd. Daw rhai o gyn belled â Bahrain, Bangladesh, Brunei, Chile, China, Ghana, Japan, Kazakhstan, Libya, Fietnam a’r Unol Daleithiau.

2 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Pam asudio ym Mangor? Mae Prifysgol Bangor yn amfalchïo yn ansawdd yr addysgu a gynigir, ac mae adolygiad diweddar gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r achrediad uchaf bosib i safonau academaidd y Brifysgol. Mae dyfarniad o ‘hyder’ gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn cadarnhau safle a phroffil academaidd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi gwneud yn dda mewn amrywaieth o arolygon myfyrwyr sy’n mesur lefel boddhad a phrofiad yn gyffredinol. Er enghraifft cafodd Bangor ei rhoi yn y 12 uchaf am ddarparu addysg uwch mewn grwpiau bychain (Times Higher Education). Mewn arolwg myfyrwyr cenedlaethol diweddar (Times Higher Education) roedd Bangor ymysg y 10 uchaf am ansawdd ein llety. Mae gwobrau Dewis Myfyrwyr gan What Uni hefyd wedi rhoi ein neuaddau yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig.


“Mae’r cyrsiau yn ddiddorol, mae’r awyrgylch yn y Brifysgol yn gyfeillgar ac yn gefnogol, ac mae’r lleoliad yn hardd.”

“Dewch i Fangor achos mae’n ddinas fach ond mae popeth angenrheidiol yma ar eich cyfer, mae teimlad diogel iawn i’r lle ac mae’r Brifysgol yn gefnogol iawn o’i holl fyfyrwyr.”

“Mae Bangor yn dref llawn bwrlwm, mae pawb mor gyfeillgar ac rwy’n mwynhau’r bywyd cymdeithasol yn fawr a chael gwneud hynny yn y Gymraeg.”

“Mae popeth yn gyfleus, o ran teithio ac adnoddau, ac mae’r gymuned Gymraeg yn arbennig, yn groesawgar a chefnogol i waith ymchwil.”

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 3


RHAGORIAETH YMCHWIL RYNGWLADOL Prifysgol Ymchwil-ddwys Mae gan Brifysgol Bangor sylfaen ymchwil gadarn sy’n rhychwantu amrediad o ddisgyblaethau academaidd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Brifysgol yn rhoi cefnogaeth gref i weithgareddau ymchwil sy’n cynnwys annog cysylltiadau gyda chyrff masnachol a diwydiannol yn y DU a thramor. Un o amcanion y Brifysgol yw bod yn ymatebol i anghenion lleol a rhanbarthol, ac mae’n arbennig o ymwybodol o’i lleoliad yng ngogledd Cymru a’i swyddogaeth fel canolfan ymchwil a hyfforddiant i Gymru. Buddsoddi yn Eich Dyfodol Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr, clwb nos newydd i Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd megis y Ganolfan Rheolaeth ac adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru. Y project mawr nesaf yw Pontio - Canolfan newydd i’r Celfyddydau ac Arloesi a fydd yn rhoi cyfleusterau celfyddydau ac adloniant cyffrous i’r Brifysgol a’r gymuned leol. Ymchwil Bangor a Chi Mae addysgu ac ymchwil Bangor wedi’u cyfuno â chyfleusterau o safon uchel yn cynnig cyfleoedd ymchwil a dysgu o safon fyd-eang i chi. P’un a ydych chi’n astudio cwrs ôl-radd a addysgir ynteu radd ymchwil ôl-radd, byddwch yn cyfrannu at ein rhagoriaeth ymchwil. Byddwch yn elwa o addysgu o safon uchel a gyflwynir gan wir arbenigwyr yn eu maes ac yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil arloesol.

Ymarfer Asesu Ymchwil Mae’r Ymarfer Asesu Ymchwil yn mesur ansawdd yr ymchwil a gyflawnir mewn prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae’r cyrff ariannu addysg uwch yn defnyddio’r canlyniadau i ddewis pa lefel o grant ymchwil i’w roi i sefydliadau. Dyma’r categorïau asesu: 4* = arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd 3* = rhagoriaeth ryngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd, ond ychydig yn is na’r safon uchaf o ragoriaeth 2* = cydnabyddiaeth ryngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd 1* = cydnabyddiaeth genedlaethol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd Annosbarthedig = is na safon gwaith a gydnabyddir yn genedlaethol Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, canfuwyd ymchwil o safon fyd-eang ym mhob un o’r 19 maes pwnc a aseswyd ym Mangor, a chafodd bron 50% o’r rhain y radd uchaf sef 3* a 4*. Mae meysydd o ragoriaeth benodol yn cynnwys Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Busnes – y gorau ym Mhrydain, a Pheirianneg Electronig – yr ail orau ym Mhrydian. Hefyd, mae Gwyddor Chwaraeon a Chymraeg yn y 10 uchaf yn eu hunedau asesu ac mae Seicoleg yn 11eg ym Mhrydain. O ran y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ystyriwyd bod 90% o staff ymchwil yr Ysgol Gerddoriaeth, er enghraifft, o safon sy’n arwain y byd neu o safon ryngwladol. Ac ystyriwyd hefyd bod 90% o staff ymchwil ym maes Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd, sy’n cynnwys Gwyddorau Eigion, o safon sy’n arwain y byd neu o safon ryngwladol.

4 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


PRIFYSGOL RYNGWLADOL I’R RHANBARTH "Yn academaidd, mae gan Fangor draddodiad hir o ragoriaeth. Cafodd ei sefydlu yn 1884, a chafodd ei safle fel sefydliad addysg uwch o'r radd flaenaf ei gadarnhau gan yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf, pan nodwyd bod ymchwil gyda'r orau yn y byd yn cael ei gwneud ymhob un o'n 19 maes pwnc a aseswyd." CANLLAW PRIFYSGOLION Y SUNDAY TIMES

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 5


ARWAIN AR Y GYMRAEG Y Gymraeg ym Mangor Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith cynhwysfawr ac wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Prif nod y Cynllun yw hyrwyddo a datblygu gwaith y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi fframwaith ar gyfer datblygiadau pellach i’r dyfodol. Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’i myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Brifysgol wedi ymroi yn benodol i gynyddu nifer y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd. Beth ydi gwerth hyn oll? Fydd dewis astudio yn y Gymraeg o ddefnydd yn y pen draw? Yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o fusnesau a sefydliadau gydnabod ac ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft: • Gwaith cymdeithasol • Cyngor gyrfaoedd • Cyllid • Addysg • Y sector cyfiawnder • Llywodraeth leol • Rheoli gweinyddol a busnes • Technoleg darlledu • Therapyddion iaith a therapyddion lleferydd • Swyddi gweinyddol Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, mae astudio o leiaf ran o gwrs ôl-radd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd. Bydd sgiliau Cymraeg mewn maes arbenigol yn ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Astudio drwy’r Gymraeg – pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr ôl-radd Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Rhan bwysig iawn o’r gefnogaeth hon ydy’r gwasanaethau mae Canolfan Bedwyr yn eu cynnig. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: 1. Modiwl Sgiliau Iaith 2. Meddalwedd Cyfrifiadurol 3. Gwasanaeth Terminoleg 4. Gwasanaeth Cyfieithu Llawn 5. Fforwm Drafod 1. Modiwl datblygu sgiliau iaith – Ymdrin â’ch pwnc drwy’r Gymraeg Mae’r modiwl hwn wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer anghenion myfyrwyr ôl-radd ac yn cynnig cymorth i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl ddatblygu eu sgiliau iaith fel y gallant ymdrin â’u pynciau yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. 2. Meddalwedd cyfrifiadurol, Cysgliad, i’ch helpu i ysgrifennu Cymraeg cywir Mae Cysgliad yn becyn poblogaidd dros ben, ac yn adnodd hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg. Mae Cysgliad wedi’i osod ar rwydwaith y Brifysgol, ac mae hefyd ar gael i’w brynu o Ganolfan Bedwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau arbennig i fyfyrwyr. 3. Gwasanaeth Terminoleg Mae gwasanaeth terminoleg Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda’r gwaith o ganfod y termau cywir yn eich maes pwnc. Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Mae swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Fel rhan o’r project cenedlaethol gall myfyrwyr gysylltu â’r swyddog am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio. 4. Gwasanaeth cyfieithu llawn Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn: • cyfieithu i’r Saesneg waith ysgrifenedig myfyrwyr sydd i’w asesu • cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Saesneg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 5. Fforwm Drafod Fforwm ar gyfer myfyrwyr ôl-radd a myfyrwyr ymchwil sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r Fforwm Drafod. Mae’n cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, ac mae’n gyfle i rannu profiadau ac arferion da am faterion sy’n ymwneud ag ymchwil a dysgu. Ffôn: 01248 383293 E-bost: swyddfa.canolfanbedwyr@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr

6 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn bodoli ers Ebrill 2011, a’i fwriad yw hybu dysg a gwybodaeth drwy gynllunio a datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym maes addysg uwch. Nid yw’r Coleg yn bodoli mewn un lleoliad daearyddol, nac yn dyfarnu ei raddau ei hun, ond yn hytrach, mae’n gweithio gyda’r sefydliadau addysg uwch presennol yng Nghymru. Mae cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Am ragor o wybodaeth gweler www.colegcymraeg.ac.uk Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd meistr – naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob ysgoloriaeth yn werth £1,500, ac er mwyn bod yn gymwys, rhaid: • dilyn un o’r cyrsiau meistr cymwys • dilyn o leiaf 60 credyd o ran 1 y cwrs drwy’r Gymraeg • llunio’r traethawd estynedig yn y Gymraeg. Ceir rhestr o’r cyrsiau cymwys, y canllawiau ymgeisio a’r amodau a thelerau ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn darparu nawdd ariannol sylweddol – sy’n gyfwerth ag ysgoloriaethau ôl-raddedig Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) – i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth. Y Brifysgol sy’n gyfrifol am enwebu myfyrwyr ar gyfer yr ysgoloriaethau hyn.

“Mae’n fraint cael arwain nifer o ddatblygiadau sy’n cyfrannu’n ymarferol at nod Llywodraeth Cymru o gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Ar yr un pryd, rydym yn falch iawn o fod yn ganolbwynt i ymdrechion Prifysgol Bagnor i ddatblygu a chryfhau ei safle fel y Brifysgol arweiniol o ran y Gymraeg ac addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.” DR LLION JONES Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr

Gweler tudalen 16 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 7


LLETY

Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd mewn llety a reolir gan y Brifysgol. Mae holl lety’r Brifysgol yn hunanarlwyol a rhennir ceginau â chyd-fyfyrwyr y neuaddau. Mae’r offer a ddarperir yn y ceginau’n amrywio o neuadd i neuadd, ond bydd cyfleusterau sylfaenol megis poptai, oergelloedd a rhewgelloedd ym mhob un. Mae ein safleoedd llety wedi’u lleoli drwy’r ddinas i gyd felly ni fyddwch chi byth yn bell o siopau, tafarndai a chaffis o bob math. Mae mwy o fanylion ar gael yn: www.bangor.ac.uk/llety

Mannau Bwyta Mae amrywiaeth o fannau bwyta, sydd ar agor i bawb, ar gael mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y campws. Mae’r rhain wedi’u lleoli ar brif safle llety Ffriddoedd (Bar Uno), Safle’r Normal (Y Bistro), ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (Café Teras), yn Adeilad Canolfan Amgylchedd Cymru (Caffi Glas) ac yn y Ganolfan Rheolaeth. Mae ein holl leoliadau arlwyo’n defnyddio cynnyrch lleol a Masnach Deg pryd bynnag y bo’n bosibl.

Fodd bynnag, mae’n well gan lawer o ôl-raddedigion fyw yn y sector preifat, ac mae’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn gallu darparu gwybodaeth am lety, fflatiau, bythynnod a thai.

Os yw’n well gennych fwyta allan, mae nifer o fwytai a siopau prydau parod (Groegaidd, Eidalaidd, Tsieineaidd ac Indiaidd) yn agos at brif adeiladau’r Brifysgol.

Y Swyddfa Tai Myfyrwyr sy’n delio â llety rhentu preifat i fyfyrwyr. Mae staff y Swyddfa Tai Myfyrwyr ar gael i roi cymorth a chyngor ac mae’r holl eiddo hefyd wedi’i hysbysebu ar ein gwefan lle gallwch chwilio yn ein cronfa ddata am yr eiddo delfrydol i’w rentu i chi. Rydym hefyd yn darparu Canllawiau Myfyrwyr i Lety Preifat, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu wrth chwilio am eich tŷ cyntaf yn y sector rhentu preifat, gan nodi beth i chwilio amdano a’ch hawliau chi fel tenant. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/taimyfyrwyr neu e-bost taimyfyrwyr@bangor.ac.uk

8 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


CEFNOGAETH I FYFYRWYR Ym Mangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. Os oes arnoch angen cymorth â mater ariannol, personol, academaidd neu weinyddol, mae gennym staff profiadol i’ch helpu. Cefnogaeth Academaidd Er mwyn rhoi i fyfyrwyr ôl-radd y portffolio eang o sgiliau y mae cyflogwyr yn eu mynnu, rydym yn darparu cyfres o gyrsiau sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa wedi’i chreu i helpu myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor fodloni gofynion Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Cynghorau Ymchwil y DU. Cyflenwir y Rhaglen fel partneriaeth rhwng yr Uned Datblygu Academaidd ac Ysgolion a Cholegau academaidd ac fe’i cynigir yn ddidâl i bob myfyriwr ôl-radd ym Mangor, beth bynnag yw ei ffynhonnell gyllid. Cyflenwir yr hyfforddiant mewn amrywiaeth o fformatau, o fodiwlau a addysgir yn ffurfiol i weithdai hanner diwrnod. Rydym yn cynnig rhaglen hyblyg y gall myfyrwyr, gan ymgynghori â’u goruchwylwyr, ei theilwra i’w hanghenion unigol ac i anghenion eu projectau ymchwil. Mae mwy o fanylion ar gael yn: www.bangor.ac.uk/adu Mae’r Rhaglen PGCertHE ar gael i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym meysydd addysgu, dysgu ac asesu, gan gynnwys staff academaidd, cynorthwywyr ymchwil ac ôl-raddedigion. Mae mwy o fanylion yn: www.bangor.ac.uk/adu/the_scheme/the.php.cy Sgiliau Astudio Mae Canolfan Sgiliau Astudio’r Brifysgol yn rhoi cyngor cyffredinol ar bob agwedd ar astudio, yn cynnwys materion fel cymryd nodiadau, cynllunio traethodau hir a’u hysgrifennu, cyflwyniadau llafar a mathemateg, ystadegau a rhifedd. Mae ymgynghoriadau unigol ar gael, ynghyd â gweithdai i grwpiau ac adnoddau ar-lein. Mae mwy o fanylion i’w cael o’r wefan Sgiliau Astudio: http://studyskills.bangor.ac.uk/index.php.cy

Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd Y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd yw’r corff swyddogol sy’n cynrychioli myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae croeso i holl fyfyrwyr ôlradd gymryd rhan yn y digwyddiadau, dod i’r cyfarfodydd a sefyll mewn etholiadau. Mae’r Fforwm yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â ffurfio cyswllt rhwng y myfyrwyr yn gyffredinol a grwpiau tasg neu baneli gweithredu’r Brifysgol. Gwasanaethau Myfyrwyr Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig y cymorth a ganlyn: • gwasanaeth cynghori am ddim a chyfrinachol • cynghorwyr iechyd meddwl i gynorthwyo myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau a rhoi gwybod iddynt am ffynonellau cymorth a chefnogaeth eraill • tîm o staff i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau difrifol yn ymwneud â myfyrwyr y tu allan i oriau Prifysgol arferol • gofal iechyd drwy feddygfeydd dyddiol • mae ein tîm o Gaplaniaid yn rhoi cefnogaeth i holl aelodau’r Brifysgol, beth bynnag fo eu daliadau crefyddol • Swyddfa Cefnogaeth Ariannol • Swyddfa Tai - am lety yn y sector breifat. Undeb y Myfyrwyr Mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch cefnogi gydol eich cyfnod ym Mangor drwy’r canlynol: • cynrychiolaeth academaidd • eiriol ar eich rhan ynghylch gwasanaethau • gellwch alw ein gwasanaeth gwrando cyfrinachol, Nawdd Nos • mae’r Is-lywydd dros Addysg a Lles yn Undeb y Myfyrwyr yno i’ch helpu gydag unrhyw faterion o’r fath sydd gennych tra byddwch yn y Brifysgol. Maent yn cynnal y cynllun cynrychiolwyr cyrsiau ac maent wrth law i ymdrin ag unrhyw broblem y gellwch ei hwynebu. Gallant eich cyfeirio at y person mwyaf priodol i’ch helpu i gael ateb i’ch problem.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 9


Gwasanaeth Anabledd Rydym yn cynnig gwasanaeth i bob myfyriwr anabl boed yn fyfyriwr llawn-amser neu ran-amser. Mae cynnwys gwybodaeth am eich anabledd, cyflwr iechyd parhaus neu anhawster iechyd meddwl ar eich ffurflen gais yn ein galluogi i ddechrau trafod ar y dechrau unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfrinachol ac ni chaiff gwybodaeth ei rhannu oni bai bod rhywun arall yn y Brifysgol angen gwybod, pan fo hynny’n briodol a gyda’ch caniatâd chi. Caiff gofynion pob unigolyn eu hystyried yn unigol ond mae rhywfaint o’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys: • gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag anabledd neu iechyd meddwl • paratoi Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol a gytunir gyda myfyrwyr a’u hysgolion academaidd • trefnu i wneud addasiadau penodol i arholiadau, er enghraifft, amser ychwanegol • rhoi cyngor ar strategaethau er mwyn hwyluso astudio a thasgau bob dydd • cymorth i wneud cais am gyllid trwy Lwfans Myfyrwyr Anabl lle bo’n berthnasol a defnyddio’r Lwfans Myfyrwyr Anabl i ddarparu gweithwyr cefnogi • trwy'r Lwfans Myfyrwyr Anabl, darparu gweithwyr cefnogi, e.e. mentoriaid, ysgrifenwyr nodiadau, gweithwyr cefnogi dysgu • trefnu gwasanaeth cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain • eich helpu i gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i gael cefnogaeth gofal personol • gweithio gydag ysgolion academaidd a’r brifysgol yn ehangach i sicrhau polisïau ac arferion cynhwysol. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd yn: Gwasanaeth Anabledd Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DF Ffôn: 01248 382032 E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/anabledd

10 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Canolfan Dyslecsia Miles Bangor Mae Gwasanaeth Canolfan Dyslecsia Miles i Fyfyrwyr yn darparu cefnogaeth gyffredinol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd â dyslecsia, a gwahaniaethau dysgu penodol eraill megis dyspracsia ac ADD/AD(H)D. Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio â staff y Brifysgol i ddarparu gwybodaeth a helpu i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol ym Mangor. Ceir mwy o wybodaeth ar y wefan: www.dyslexia.bangor.ac.uk Gallwch gysylltu â Chanolfan Dyslecsia Miles yn: Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslex-admin@bangor.ac.uk Cynllun Llysgennad Ôl-raddedigion Mae’r cynllun hwn wedi’i fodelu ar ein Cynllun Arweinwyr Cyfoed llwyddiannus i israddedigion, sy’n cynnig croeso cynnes a chymorth i setlo ym mywyd Bangor. Mae’r Llysgenhadon Ôl-raddedigion yn deall sut beth yw cymryd y cam i fyny i astudio ôl-radd, felly gallant roi rhai awgrymiadau cyfeillgar i chi a’ch cyflwyno i fyfyrwyr eraill. Maent i gyd yn gyfarwydd â bod yn fyfyriwr ym Mangor a gallant ddangos i chi ble mae popeth y gallai fod ei angen arnoch. Os oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth arnoch ac na allant hwy eu hunain ei rhoi i chi, byddant yn gallu eich cyfeirio at rywun arall a all eich helpu. Cadwch lygad amdanynt pan gyrhaeddwch chi – byddant i’w gweld yn eich Ysgol academaidd yn gwisgo eu ‘hwdis’ gwyrdd. Os na wnewch chi ddigwydd cyfarfod ag un am ryw reswm, cysylltwch â: llysgenhadonolradd@bangor.ac.uk


twitter.com/gyrfaoeddbangor www.facebook.com/gyrfaoeddbangor

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Ein nod yw eich helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gwneud penderfyniadau gwybodus a phriodol yn ymwneud â’ch gyrfa, yn ogystal â chael sgiliau defnyddiol wrth chwilio am waith, megis ysgrifennu CV a sut i fod yn llwyddiannus mewn cyfweliadau. Mae ein tîm, sydd â chymwysterau proffesiynol, yn gwneud hyn drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i chi. Mae’r rhain yn cynnwys arweiniad ar yrfaoedd, cyfleoedd profiad gwaith, cael hyd i swyddi yn ystod y tymor a thros y gwyliau, a datblygu sgiliau menter ac entrepreneuraidd. Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau ar Yrfaoedd Cymorthfeydd a chyfweliadau cynghori unigol ar yrfaoedd, darpariaeth e-ganllawiau ar-lein, adnoddau gwybodaeth, rhaglen weithdai a sgyrsiau gan gyflogwyr. GO Wales Mae gwneud cyfnod o brofiad gwaith yn ffactor hollbwysig i gael swydd dda yn y dyfodol. I’ch helpu yn hynny o beth, rydym yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi ar gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac adegau gwyliau. Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion sydd â chyfeiriad yng Nghymru ennill y blaen yn y farchnad gystadleuol am swyddi drwy gynnig iddynt amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith o safon, a gwasanaethau eraill cysylltiedig, drwy’r amryw o rhaglenni megis: lleoliadau gwaith, cyfnodau blasu gwaith, rhaglen hyfforddiant Academi Graddedigion, cyrsiau hyffoddiant byr a chyllid. JobZone Gall JobZone eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser, swyddi gwag i raddedigion, profiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli. Ewch i JobZone ar-lein: www.bangor.ac.uk/jobzone

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Mae cynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) wedi’i gynllunio er mwyn gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y tymhorau byr a hirach. Mae’n cynnig rhaglen rheoli gyrfa a datblygu sgiliau, tra’n achredu gweithgareddau allgyrsiol na fyddent, o bosib, yn cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn y cwricwlwm academaidd. Mae peilot o’r fersiwn ôl-radd ar y gweill ar hyn o bryd - cysylltwch â cyflogadwyedd@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth. Byddwch Fentrus / B-Enterprising Nod tîm Byddwch Fentrus yw eich annog i fod yn fwy mentrus beth bynnag fo eich maes astudio a ph’un a ydych yn rhagweld eich hun yn gweithio i rywun arall neu’n rhedeg eich busnes eich hun. Rydym wedi datblygu ystod o wahanol gyfleoedd dysgu i’ch galluogi i gael ymwybyddiaeth fasnachol a sgiliau menter eraill, a rhoi cyfleoedd ymarferol i chi gymryd rhan drwy weithdai magu profiad, cystadlaethau a digwyddiadau. Yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau menter, mae Byddwch Fentrus hefyd yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth entrepreneuraidd i gefnogi darpar entrepreneuriaid ac mae’n gweithio’n agos â phartneriaid allanol i ddarparu cefnogaeth fentora unigol, gyfrinachol ac am ddim i’ch helpu i ddatblygu eich syniad busnes. Mae manylion am ein digwyddiadau a’n gweithgareddau i’w cael yn www.bangor.ac.uk/b-enterprising www.facebook.com/b-enterprising Gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn: Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, 2il Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor, Gwynedd, LL57 2DG Ffôn: 01248 382071 E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gyrfaoedd

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 11


CYFLEUSTERAU AC ADNODDAU Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau Ein nod yw darparu amgylchedd astudio deniadol, gyda llefydd hyblyg ar gyfer holl anghenion dysgu ac ymchwil, yn cynnwys mannau i gydweithio, ystafelloedd cyfarfod a llefydd i astudio’n dawel. Byddwch yn manteisio drwy fynediad hwylus at ein casgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion electronig a phrintiedig, a chronfeydd data ar-lein gyda chysylltiadau i erthyglau testun llawn. Gellir mynd at y rhan fwyaf o adnoddau electronig ar y campws ac oddi arno 24/7 ac maent yn cynnwys pob maes pwnc, o’r celfyddydau i’r gwyddorau naturiol. Mae’r llyfrgell yn tanysgrifio i becynnau cyfnodolion electronig o bwys, yn cynnwys yr Elsevier ScienceDirect, Springer, Wiley, Oxford University Press, Cambridge University Press, Sage, PsycARTICLES, IEEE Xplore, Royal Society of Chemistry, American Chemical Society, American Institute of Physics, BioOne, JSTOR a Project Muse. Gellir mynd at 95% o’n cyfnodolion cyfredol ar-lein. Lle bai bosib, rydym yn prynu e-lyfrau yn ogystal â’r fersiwn printiedig. Gan ddefnyddio ein catalog llyfrgell ar-lein, gellwch ddod o hyd i’r gwahanol adnoddau, yn ogystal ag adnewyddu eich benthyciadau, archebu eitemau a chael golwg ar hen bapurau arholiad. Mae cyfleusterau hunanwasanaeth a mynediad at beiriannau argraffu, llungopïo, sganio a chyfrifiaduron i’w cael yn ein holl lyfrgelloedd. Ceir gwasanaeth wi-fi yn ein holl lyfrgelloedd, yn ogystal ag ystafelloedd cefnogi astudio, gydag offer technoleg gynorthwyol a boglynwyr Braille. Mae gennym un o’r Archifau Prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond drwy wledydd Prydain. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys deunydd hanesyddol a llenyddol yn ymwneud â Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys archifau bron bob un o ystadau tiriog mawr yr ardal.

12 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Mae Gwasanaethau TG yn gyfrifol am weithredu a chynnal rhwydwaith TG y Brifysgol. Maent yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau, yn cynnwys diwifr a mynediad rhwydwaith cyflym ar y campws ac ym mhob neuadd breswyl, a mynediad o bell i TG oddi ar y campws. Mae staff y Ganolfan Gymorth TG ar gael bob amser i roi cyngor, help a chefnogaeth gydag unrhyw beth yn ymwneud â TG. Adnoddau TG ar y Campws - Mae gennym nifer o ystafelloedd/mannau cyfrifiadurol gyda dros 1,000 o gyfrifiaduron ar gael i fyfyrwyr ar draws y campws lle gellir mynd at rwydwaith y Brifysgol. Mae mynediad diwifr a socedi ar gyfer gliniaduron hefyd ar gael. Hefyd mae’r ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored am oriau hir ac am 24 awr y dydd mewn rhai achosion. Mae gan bob cyfrifiadur y meddalwedd angenrheidiol ar gyfer eich gwaith yn y Brifysgol, yn cynnwys Microsoft Office, porwyr gwe, meddalwedd e-bost, meddalwedd ystadegau a meddalwedd graffeg ac ati. Ceir cyfleusterau argraffu a chopïo, yn cynnwys gwasanaeth diwifr, ym mhob ystafell gyfrifiaduron mynediad agored neu gerllaw, ac ym mhob llyfrgell. Mae amrywiaeth o feddalwedd ar gael yn Gymraeg, yn cynnwys Microsoft Office, meddalwedd e-bost, porwyr gwe ac amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Ceir cyfleusterau cyfrifiadurol arbenigol yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau a llyfrgell Deiniol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron gydag amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn y gellir newid eu huchder. Adnoddau TG mewn Neuaddau Preswyl - Gellwch gysylltu â’r rhyngrwyd o’r neuaddau preswyl drwy ein rhwydwaith gwifrog a diwifr. Mae gan bob ystafell wely gysylltiad rhyngrwyd â holl wasanaethau cyfreithlon y we. ‘DesktopAnywhere’ - Trwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘DesktopAnywhere’ cewch fynediad at amrywiaeth o becynnau meddalwedd o rwydwaith y Brifysgol heb orfod gosod unrhyw feddalwedd ychwanegol arbennig ar eich cyfrifiadur. Gellwch gael mynediad o neuaddau preswyl, o’ch cartref, o barthau diwifr, o’r ystafelloedd cyfrifiadur ar y campws neu o unrhyw le sydd â chysylltiad band eang neu well. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu cyfrif e-bost i chi, ynghyd â lle i gadw eich gwaith academaidd, a gellwch ei ddefnyddio mewn unrhyw le sydd â chysylltiad rhyngrwyd. Adnoddau TG i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws - Gellwch ddefnyddio cyfleusterau TG y Brifysgol o’ch cartref neu rywle arall oddi ar y campws gan ddefnyddio unrhyw gysylltiad rhyngrwyd sy’n eich galluogi i bori’r we. Gellwch wedyn ddefnyddio’r un gwasanaeth ‘DesktopAnywhere’ (gweler uchod). Dod â’ch cyfrifiadur eich hun i’r Brifysgol? - Nid oes rhaid i chi gael eich cyfrifiadur eich hun, ond os byddwch yn penderfynu dod â chyfrifiadur gyda chi mae gennym gysylltiad diwifr i’r rhyngrwyd sy’n hawdd ei ddefnyddio ledled y campws.

A allaf fenthyca cyfrifiadur? - Rydym yn cynnig gwasanaeth benthyca gliniaduron – mae gliniaduron PC Notebooks ar gael am ddim am gyfnodau o 1 wythnos a 3 wythnos gan y Ganolfan Cymorth TG, Adeilad Deiniol. Gyda chyfrifiadur a chysylltiad i’r rhyngrwyd gellwch ddefnyddio’r amrywiaeth eang o feddalwedd, e-bost a storfeydd ffeiliau ac ati sydd ar y rhwydwaith. Gwasanaethau i Fyfyrwyr Anabl Mae gwasanaeth DSAKit i Brifysgolion yn wasanaeth achrededig sy’n cyflenwi offer TG yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i gael y Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA). Lle bo’r corff cyllido wedi dewis DSAKit yn gyflenwydd offer, bydd yn cydlynu’r gwaith o ddarparu a gosod cyfarpar a meddalwed TG ac o hyfforddi ayyb, ac yn eich cynorthwyo chi i ddechrau defnyddio’r cyfarpar yn fuan ac yn rhwydd. Am wybodaeth pellach, cysylltwch â DSAKit: E-bost: dsakit@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 388104 www.bangor.ac.uk/dsakit Am ragor o fanylion lwfansau myfyrwyr anabl (DSA), cysylltwch â’r Ganolfan Access. E-bost: access_centre@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 382101 www.bangor.ac.uk/access-centre Technoleg Dysgu Dysgu ar-lein - Mae ‘Blackboard’, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, ar gael i bob defnyddiwr ar y campws ac oddi ar y campws. Mae’n rhoi cefnogaeth ar-lein ychwanegol yn cynnwys nodiadau cwrs, byrddau trafod, hysbysiadau a llawer mwy. Panopto - Meddalwedd recordio darlithoedd wedi ei osod mewn llawer o'r prif ddarlithfeydd. Os yw darlithydd wedi dewis defnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’r system yn recordio’r sain ynghyd â’r hyn sy’n ymddangos ar y taflunydd. Gwasanaethau Ar-lein - Mae’r Brifysgol yn darparu mynediad ar-lein at wybodaeth a gwasanaethau i’ch cefnogi yn y Brifysgol, er mwyn arbed amser ac egni i chi, sy’n cynnwys: amserlen ar-lein, pa fodiwlau rydych yn eu hastudio, eich marciau, eich cyfrif TG. Uned Argraffu a Rhwymo - Mae gennym Uned Argraffu a Rhwymo ganolog yn y Brifysgol ac mae’r gwasanaethau ar gael yn cynnwys: • argraffu digidol • rhwymo traethodau hir - cloriau caled a meddal • argraffu crysau T a matiau llygoden • argraffu posteri mawr. • lamineiddio o A4 - A0 Cymorth a Chefnogaeth TG - Mae staff y Ganolfan Gymorth TG yn barod bob amser i helpu a rhoi cyngor gydag unrhyw faterion yn ymwneud â TG. Caiff pob defnyddiwr newydd ganllawiau cynhwysfawr ar yr holl wasanaethau TG sydd ar gael ym Mangor (fersiwn electronig a fersiwn bapur ar gael). Rydym hefyd yn darparu ystod eang o arweinlyfrau TG sydd ar gael ar-lein.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 13


BYW AC ASTUDIO YM MANGOR Y Ddinas a’r Ardal Leol Mae Bangor yn ddinas gadeiriol hynafol mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ar arfordir gogledd Cymru, ble mae mynyddoedd Eryri’n cyfarfod â’r môr. Ystyrir hi’n un o ddinasoedd rhataf y DU i fyw ac astudio ynddi. Mae’r ardal yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr â diddordeb yn yr awyr agored, gan gynnwys hwylio, cerdded, dringo, syrffio, rhwyfo, caiacio a bordhwylio. Mae gan y ddinas ganolfan siopa fyrlymus sy’n cynnwys stryd fawr hiraf Cymru. Mae yna gymysgedd dda o siopau cadwyn cenedlaethol a busnesau lleol llai. Hefyd, mae gan Fangor ddewis da o archfarchnadoedd ac ychydig funudau y tu allan i’r ddinas ceir parc adwerthu â chymysgedd o siopau cenedlaethol. Mae maint bach y ddinas ei hun yn golygu bod cyfleusterau myfyrwyr – gan gynnwys adeiladau’r Brifysgol, llety, y Ganolfan Chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr – o fewn pellter cerdded rhwydd i brif adeiladau’r Brifysgol. Mae siopau’r Stryd Fawr, banciau, archfarchnadoedd, bwytai a bariau hefyd yn gyfagos. Mae maint a natur gyfeillgar Bangor yn golygu ei bod yn hawdd dod i adnabod pobl a bod ein myfyrwyr yn ymgartrefu’n gyflym. Mae arolygon myfyrwyr yn dangos bod cyfran uchel o fyfyrwyr yn dewis Bangor oherwydd natur fach a chyfeillgar y Brifysgol a’r dref. Er bod popeth ym Mangor ei hun yn agos ac yn gyfleus, mae’r ardal leol yn cynnig digonedd o fannau agored. Mae mynyddoedd ac arfordir Eryri’n ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan gynnig cyfleoedd hamdden gwych i chi, o weithgareddau awyr agored i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.

Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant Mae Bangor yn sicr yn ddinas Brifysgol – mae’r adloniant a’r bywyd nos wedi’i anelu at fyfyrwyr a’i arwain gan fyfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu nifer mawr o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr, gan ymdrin ag amrediad eang o ddiddordebau chwaraeon, cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol. Caiff y ffilmiau diweddaraf eu dangos yn y sinema Cineworld Multiplex naw sgrin yng Nghyffordd Llandudno. Ceir amrywiaeth o adloniant yn Galeri Caernarfon, ac yn theatr Venue Cymru yn Llandudno, y ddau ohonynt yn llai na hanner awr o daith o Fangor. O ran cerddoriaeth glasurol, mae Bangor yn cynnig un o’r rhaglenni cyngherddau mwyaf cyffrous ac amrywiol ymysg prifysgolion Prydain i gyd, gyda dros 30 cyngerdd bob tymor. Yn ogystal ag Ensemble Siambr y Brifysgol ei hun, ceir ymweliadau gan artistiaid o safon ryngwladol, perfformiadau rheolaidd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac ymweliadau achlysurol gan gerddorfeydd rhyngwladol. Pontio Bydd Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi newydd ar gampws y Brifysgol, yn debyg o gael effaith sylweddol ar yr economi leol, yn ogystal â dod yn ganolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Mae project Pontio wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Bwriedir i’r Ganolfan – a fydd yn agor yn 2014 – ddod yn sefydliad o fri byd-eang ym maes arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau creadigol, a bydd yn cynnwys theatr, ystafelloedd darlithio, mannau cynnal arddangosfeydd, bar a chaffi. Disgwylir iddi hefyd greu neu ddiogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan i hybu twf economaidd yn yr ardal. Bydd Pontio’n dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol, gan dynnu pobl a busnesau at ei gilydd i hyrwyddo buddsoddi ac adfywio yng Ngogledd Cymru. Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Fangor ydi hwn. Byddwn yn creu Canolfan o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio a fydd yn symbol grymus o adfywio a chydweithio i’r gymuned gyfan.”

14 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Chwaraeon a Ffitrwydd Mae Bangor mewn lleoliad arbennig o dda i fyfyrwyr â diddordeb mewn chwaraeon – yn enwedig chwaraeon awyr agored. Mae dringo creigiau, beicio mynydd, canŵio, hwylio a syrffio i gyd ar gael, yn ogystal â chwaraeon tîm megis rygbi, hoci a phêl-droed. Mae gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, Maes Glas, gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored helaeth gan gynnwys tair campfa â chyfarpar da ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd a hyfforddiant codi pwysau, neuadd gymnasteg, wal ddringo aml-lwybr o wahanol anhawster, a rhan clogfaen, yn ogystal â phedwar cwrt sboncen o safon ryngwladol. Y tu allan, mae gennym ni gaeau glaswellt pêl-droed a rygbi, i gyd mewn safleoedd â golygfeydd prydferth, cae synthetig â llifoleuadau ar gyfer gemau hoci a hyfforddi, a dau gyfleuster amlbwrpas ar gyfer tenis, pêl-droed pump bob ochr a phêl-rwyd. Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Mae Bangor yn cynnig cyfle i bobl sy’n siarad Cymraeg fod yn rhan o gymdeithas glòs, hynod o fywiog. O’r funud yr ydych yn cyrraedd y Brifysgol mae UMCB yn sicrhau fod pob myfyriwr Cymraeg yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae UMCB yn bodoli i hybu a diogelu buddiannau’r Cymry ym Mangor, ac mae’r aelodau yn medru manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Undeb, tra hefyd yn mwynhau sylw personol a gofalus eu hundeb eu hunain dan arweiniad Llywydd UMCB. Clybiau a Chymdeithasau Gellwch ddilyn diddordebau sydd gennych eisoes, neu rai newydd, drwy’r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau sydd ar gael. Ym Mhrifysgol Bangor ni chodir tâl ar fyfyrwyr am fod yn aelodau o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Mae yma dros 135 o glybiau a chymdeithasau i gyd, yn amrywio o gymdeithasau fel rhai ffilm, ffotograffiaeth a drama, i glybiau chwaraeon fel canŵio, pêl-droed a syrffio, felly rydych yn sicr o gael hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

“Mae’r bywyd cymdeithasol yn eang iawn yma. Rydw i’n gallu byw a chymdeithasu yn Gymraeg yma. Mae Bangor yn cynnig popeth sydd ei angen ar fyfyriwr ac mae’r ardal o amgylch yn cynnig amryw o weithgareddau awyr agored a hamdden.” DANIEL SAJKO, o Sir Benfro, cwrs TAR PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 15


CYLLID A FFIOEDD MYFYRWYR Ffioedd Dysgu Y ffioedd dysgu sy’n talu costau astudio yn y Brifysgol. Mae’r ffioedd hyn yn dibynnu o ba wlad mae’r myfyrwyr yn dod ac maent weithiau’n amrywio gan ddibynnu pa fath o bwnc sy’n cael ei astudio. Er mwyn cael eu hystyried yn fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd at ddibenion talu ffioedd dysgu, rhaid i fyfyrwyr: • fod wedi byw yn y DU neu’r wlad yn yr UE ar ddyddiad dechrau’r cwrs. Diffinnir ‘byw’ fel gallu byw yn y DU/UE heb gyfyngiadau; a • bod wedi preswylio’n arferol yn y DU/UE am y cyfnod tair blynedd llawn yn union cyn dechrau’r cwrs astudio; a • heb fod yn preswylio yn y DU/UE yn llwyr neu’n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawn-amser yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod tair blynedd. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael statws ffoadur neu hawl eithriadol i aros o ganlyniad i gais am loches i Lywodraeth y DU hefyd yn gymwys i dalu cyfradd ffioedd dysgu’r DU/UE. Canllaw’n unig yw’r wybodaeth hon. I weld yr holl ffioedd dysgu presennol ac i gael mwy o wybodaeth am ffioedd cyrsiau penodol, ewch i: www.bangor.ac.uk/ar/main/fees/index.php.cy Cyllid Mae nifer o wahanol ffynonellau cyllid ar gael i fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n hanfodol eich bod yn dechrau meddwl am sut i ariannu eich astudiaethau ôl-radd cyn gynted â phosibl, oherwydd yn aml bydd terfynau amser wedi’u pennu ar gyfer gwneud cais am gyllid. Yn ogystal ag ystyried cyllid allanol, mae’n werth gwybod bod Prifysgol Bangor yn cynnig nifer o’i Hysgoloriaethau ei hun, Ysgoloriaethau Ysgolion academaidd, Efrydiaethau a Bwrsariaethau. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn cynnig sawl ysgoloriaeth i fyfrwyr ôl-radd. Gweler tudalen 7 am fwy o wybodaeth. Mae manylion llawn ffynonellau cyllid ar gael yn: www.bangor.ac.uk/cyllidmyfyrwyr Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd i gyllido eich astudiaethau’n llawn neu’n rhannol drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Yn achos cyrsiau Meistr, mae’r rhain yn amrywio fel rheol o tua £500 i £5,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar y maes pwnc, ac fel rheol maent yn cael eu rhoi ar sail gystadleuol. Yn achos graddau ymchwil, fel PhD, mae’r Brifysgol yn hysbysebu nifer sylweddol o efrydiaethau ymchwil a gyllidir yn llawn bob blwyddyn. Daw cyllid y rhain o gronfeydd ysgoloriaethau canolog, Ysgolion academaidd, Cynghorau Ymchwil y DU a sefydliadau elusennol. Gall cyfleoedd i dderbyn cyllid at astudiaethau godi gydol y flwyddyn, felly fe’ch cynghorir i edrych ar ein gwefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf: www.bangor.ac.uk/scholarships/postgraduate.php.cy

16 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Cynllun Ysgoloriaethau Astudio Dramor Santander Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil Prifysgol Bangor astudio neu ymchwilio dramor mewn sefydliadau o fewn Rhwydwaith Grupo Santander yn ystod y flwyddyn academaidd. Dylai bod cysylltiad rhwng y gweithgareddau y gwneir cais am yr ysgoloriaeth ar eu cyfer â chynlluniau ymchwil presennol a dyfodol yr ymgeisydd, a dylent wneud cyfraniad cadarnhaol i’w Coleg/Ysgol ac/neu i’r Brifysgol. Am fwy o fanylion ewch i: www.bangor.ac.uk/scholarships/santander/santandermobility.php.cy Cyllid gan Drydydd Parti Weithiau mae’n bosibl cael cefnogaeth ariannol gan drydydd parti at eich astudiaethau. Gall hyn ddod gan elusen, sefydliad neu ymddiriedolaeth y mae ei hamcan a’i diddordebau’n cyfateb i’ch maes ymchwil arfaethedig chi, neu efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon eich noddi. Yn y naill achos neu’r llall, mae’r cyfrifoldeb arnoch chi fel y darpar fyfyriwr i sicrhau’r math yma o gyllid ar gyfer eich astudiaethau. Fel rheol, dim ond talu costau eich astudiaethau’n rhannol fydd cyllid gan drydydd parti, ac felly efallai y bydd angen i chi wneud cais i nifer o ffynonellau i sicrhau’r gost lawn. Talu eich hun Mae’n gyffredin i fyfyrwyr ôl-radd, yn arbennig rhai sy’n gwneud cwrs hyfforddedig byrrach (e.e. gradd Meistr), dalu am eu hastudiaethau eu hunain. Gwneir hyn drwy ddefnyddio cynilion sydd ganddynt, gweithio’n rhan-amser i dalu eich costau byw, neu ddefnyddio Benthyciad Datblygu Gyrfa gan un o fanciau’r Stryd Fawr a thalu hyn yn ôl mewn rhandaliadau a gytunwyd â’r banc. Yn aml, mae’n gyfuniad o’r uchod. Am fwy o wybodaeth: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/self_funding Os ydych yn talu am eich astudiaethau eich hun, mae’n werth cofio nad yw’r ofynnol bob amser gan y Brifysgol i chi dalu’r ffioedd dysgu llawn i gyd ar y dechrau; yn aml gellwch dalu mewn rhandaliadau y cytunwyd arnynt, neu drwy ddebyd uniongyrchol misol. I gael mwy o wybodaeth, gweler: www.bangor.ac.uk/finance/ic/ic105.php.cy Cronfeydd Caledi Mae gan y Brifysgol beth cyllid i helpu myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol brys. Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn yn cael ei darparu i sefydliadau er mwyn iddynt fedru rhoi help ariannol i gynorthwyo myfyrwyr sydd mewn trafferthion, yn arbennig i’w helpu i fynd i mewn i addysg uwch ac aros ynddi. Rhoddir cymorth ar ffurf grant nad oes raid ei thalu’n ôl. I gael mwy o wybodaeth, gweler: www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/hardship.php.cy


Ystyrir Bangor yn lle cymharol rad i astudio ynddo, felly gellwch wneud y gorau o’ch arian yma. Costau Byw Isel Mae ymchwil i’r farchnad yn dangos bod costau byw ym Mangor yn llawer is nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Disgrifiwyd Bangor fel ‘un o’r llefydd rhataf ym Mhrydain’ i fod yn fyfyriwr ynddo (The Independent’s A-Z of Universities and Colleges) ac mae’n cael ei nodi’n gyson fel un o’r mannau rhataf i astudio ynddo ym Mhrydain. Trwy ddewis Prifysgol Bangor, rydych eisoes yn gwneud arbediad sylweddol mae’n fwy na thebyg. Rydym yn amcangyfrif y gellwch fyw yn bur gyfforddus yng nghanol dinas Bangor am tua £160 yr wythnos gan rannu llety. Mae hyn wedi’i seilio ar y dadansoddiad costau a ganlyn#: Rhent ystafell mewn llety preifat: Biliau bwyd a gwasanaethau: Costau personol a llyfrau:

tua £70 tua £60 tua £30

O’i gymharu â hyn, gallech ddisgwyl talu tua £285 yr wythnos yn Llundain.* # Nid yw’r amcangyfrifon hyn yn cynnwys costau teithio yn ôl a blaen i Fangor. + Gan ei bod yn ddinas weddol fach, nid oes angen defnyddio cludiant cyhoeddus/preifat ym Mangor fel rheol. * www3.imperial.ac.uk/registry/studentfinance/livingcosts Sylwer: mae’r ffigurau hyn wedi’u seilio ar brisiau cyfredol, prisiau rhenti a’r wybodaeth gyfredol sydd ar gael. Ceir amrywiaeth mawr mewn costau a chanllawiau’n unig yw’r ffigurau hyn.

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 17


GWNEUD CAIS A GOFYNION MYNEDIAD Sut i Wneud Cais Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer pob cwrs ôl-radd a addysgir a phob rhaglen ymchwil ôl-radd (ac eithrio’r TAR, MA Gwaith Cymdeithasol, Diploma Therapi Galwedigaethol a DClinPsy – gweler isod am fwy o fanylion) yn: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/application.php.cy Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y Canllawiau i Ymgeiswyr cyn llenwi’r ffurflen a darllen y wybodaeth gyffredinol: www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/apply_taught.php.cy Cais am Raglenni Ymchwil Ôl-radd Anogir ymgeiswyr am radd ymchwil i enwi a thrafod y pwnc ymchwil gyda’r adran berthnasol cyn cyflwyno’r cais. Dylai’r cais am radd ymchwil gynnwys cynnig ymchwil yn amlinellu pwnc, pwrpas a sail resymegol yr ymchwil dan sylw. Os ydych angen cymorth pellach unrhyw bryd yn ystod y broses dderbyniadau, cysylltwch â: Swyddfa Derbyniadau Ôl-radd, Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 382016 Ceisiadau am Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Dylai ymgeiswyr nodi bod proses gwneud cais rhaglenni TAR yn wahanol i weithdrefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor. Gwneir ceisiadau drwy’r Graduate Teacher Training Registry (GTTR) ; mae eu terfynau amser hwy’n gynharach. Gellir cael mwy o wybodaeth am y GTTR yn: www.gttr.ac.uk Gellir gwneud cais ar-lein yn: www.gttr.ac.uk/students/apply/ Ceisiadau ar gyfer DClinPsy: rhaid gwneud ceisiadau drwy The Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology. Gweler y manylion cyswllt ar y dudalen nesaf. Ceisiadau am Ddiploma Therapi Galwedigaethol Mae’r ffurflen gais a manylion y broses gwneud cais ar gael yn: www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/occtherapy/admissions.php.cy

Ceisiadau am MA Gwaith Cymdeithasol Mae’r ffurflen gais a manylion y broses gwneud cais ar gael yn: www.bangor.ac.uk/so/listcourses_pg

Gofynion Mynediad Mae’r cymwysterau, y sgiliau a’r rhinweddau sy’n ofynnol ar gyfer astudio ôl-radd ym Mangor yn amrywio o gwrs i gwrs ac o Ysgol i Ysgol academaidd. Mae manylion llawn ar gael yn ein prosbectws ôlradd ar-lein yn: www.bangor.ac.uk/cyrsiau/olradd

18 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR

Academaidd Er mwyn cael mynediad at raglenni ôl-radd, mae angen gradd Baglor/gyntaf gan Brifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch cymeradwy. Fel rheol, i gael mynediad at gyrsiau Meistr, y dosbarthiad gradd isaf a dderbynnir yw anrhydedd ail ddosbarth is neu gywerth ac ar gyfer graddau ymchwil, anrhydedd ail ddosbarth uwch neu gywerth. Fel rheol, caiff graddau baglor a enillwyd yn y DU eu derbyn. Dylai myfyrwyr â graddau o wledydd eraill edrych ar: www.bangor.ac.uk/international Efallai y bydd angen dosbarthiad gradd uwch neu ddyfarniad gradd uwch ar gyfer rhai rhaglenni. Rheoliadau Myfyrwyr Hŷn Gellir ystyried myfyrwyr hŷn sydd heb y cymwysterau academaidd sy’n ofynnol fel rheol ar gyfer mynediad i raglenni gradd ôl-radd. Gellir cydnabod o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith proffesiynol perthnasol fel cymhwyster mynediad a gellir derbyn hyn yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Cefnogaeth Anabledd/Ymgeiswyr ag Anghenion Cefnogaeth Ychwanegol Os ydych chi’n ymgeisydd ag anghenion cefnogaeth ychwanegol, gallwch gysylltu ag ymgynghorydd yn y Gwasanaeth Anabledd (o fewn y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr) i drafod unrhyw anghenion cefnogaeth sydd gennych ac unrhyw drefniadau y gallai fod eu hangen. Ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion yn: www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/anabledd Fel arall, cysylltwch â’r: Ymgynghorwyr Anabledd, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF Ffôn: 01248 388650 E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk


DEWISIADAU ASTUDIO Mae amrywiaeth o ddewisiadau astudio ar gael ym Mangor. Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr sy’n astudio cymhwyster ôl-radd yn gwneud hynny’n llawn-amser, ond mae nifer o’n cyrsiau a addysgir, a’n rhaglenni ymchwil, ar gael ar sail ran-amser ac mae rhai Ysgolion academaidd yn cynnig cyrsiau dysgu o bell. Efallai bod gennych chi syniad pendant pa bwnc yr hoffech ei astudio, ond nad ydych chi’n siŵr sut yr hoffech ei astudio. Bydd y wybodaeth ganlynol yn egluro’r gwahanol ddewisiadau astudio ôl-radd sydd ar gael ym Mangor. Cyrsiau a Addysgir Fel rheol, mae Diplomâu Ôl-radd a Graddau Meistr yn golygu blwyddyn o astudio llawn-amser. Mae’r elfen gwaith cwrs yn cymryd wyth mis, ac ar ôl hynny, gellir dyfarnu Diploma Ôl-radd. Os cyrhaeddwch safon ddigon uchel yn yr asesiad Diploma, cewch ddewis cyflawni project ymchwil a thraethawd hir (sydd fel rheol yn cymryd 4-7 mis) am radd Meistr (MA, MSc, MTh, MMus, MBA, fel sy’n briodol). Mae modd gadael y rhan fwyaf o gyrsiau Meistr ar lefel Diploma Ôl-radd. Mae’r cyrsiau Meistr yn cynnwys darlithoedd, projectau ac aseiniadau. Mae’r cyrsiau ôl-radd a addysgir eraill a gynigir yn cynnwys: Tystysgrif Ôl-radd, Diploma Ôl-radd, TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion – cymhwyster dysgu proffesiynol). Rhaglenni Ymchwil Graddau ymchwil yw graddau MPhil a PhD ac fe’u dyfernir ar ôl archwilio traethawd yr ymgeisydd, sy’n cael ei gynhyrchu ar ôl cyfnod o ymchwil. Er bod y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn astudio graddau ymchwil yn llawn-amser, dan rai amgylchiadau penodol mae’n bosibl cynnig cynlluniau astudio rhan-amser. Gallwch gofrestru ar gyfer y graddau hyn ar ddechrau unrhyw fis. Mae MPhil yn dangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ymchwil dan oruchwyliaeth drwy ddadansoddi data sy’n bodoli eisoes mewn modd systematig. I fyfyrwyr sy’n dymuno cael mwy o hyfforddiant ym maes ymchwil, mae MRes yn cynnwys llai o fodiwlau a addysgir a mwy o elfen ymchwil na gradd Meistr. Mae PhD yn dangos gallu i gynnal ymchwil wreiddiol, ar ôl meithrin y sgiliau angenrheidiol o ran methodoleg ymchwil. Bydd yn astudiaeth annibynnol, gan ddefnyddio data newydd, sy’n ehangu gorwelion gwybodaeth yn y pwnc dan sylw. Mae hunangymhelliant yn hanfodol i gwblhau gradd ymchwil yn llwyddiannus; mae myfyrwyr ymchwil yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain, felly bydd angen i chi ddefnyddio eich adnoddau eich hun yn aml er mwyn cwblhau eich gwaith. Y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer rhaglenni ymchwil yw: Llawn-amser: MPhil 2 flynedd / PhD 3 blynedd Rhan-amser: MPhil 3 blynedd / PhD 5 mlynedd DClinPsy Mae’r rhaglen lawn-amser 3 blynedd hon yn arwain at radd Doethur Seicoleg Glinigol, ac mae’n cynnwys cyrsiau a addysgir, lleoliadau clinigol a phroject ymchwil sylweddol. NID YW ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael eu gwneud drwy’r Brifysgol. Rhaid eu cyfeirio at The Clearing House for Postgraduate Courses in Clinical Psychology, 15 Hyde Terrace, Leeds, LS2 9LT. Ewch i’w gwefan i gael manylion a dyddiadau cau: www.leeds.ac.uk/chpccp

PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR 19


CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL PRIFYSGOL BANGOR GWYNEDD LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 Gwefan: www.bangor.ac.uk DERBYN Ffôn: 01248 388484 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk GWASANAETHAU MYFYRWYR Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk PROSPECTWS A GWYBODAETH BELLACH Ffôn: 01248 383561/382005 E-bost: prospectws@bangor.ac.uk SWYDDFA NEUADDAU Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk SWYDDFA TAI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk UNED CYMORTH ARIANNOL Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk CANOLFAN DYSLECSIA MILES Ffôn: 01248 383843 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk

DYLUNIO/LLUNIAU: COWBOIS/HAMILTON ARGRAFFU: W.O. JONES PRINTERS LTD Mae Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig rhif: 1141565

68 PROSPECTWS ÔL-RADD PRIFYSGOL BANGOR


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.