GIGS CABARET CORAWL BARDDONIAETH COMEDI CYNGHERDDAU FFILM BANGOR BETH SYDD CYMUNED YMLAEN CELF GWANWYN 2014 & MWY…
Cipolwg sydyn Clawr flaen: Georgia Ruth, enillydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2013, fydd yn berfformio yn Ar y Rêls mis Chwefror, tudalen 16
IONAWR
Gwe 31 CORNELI CUDD 2 Neuadd Fwyta Reichel, Prifysgol Bangor, 7.30pm
CHWEFROR
Tudalen
Mer 5 TU ÔL I’R TABLA Siop Pontio, 1pm 31
9
Iau 6 CERDDORIAETH YM MANGOR: TABLEAUX GYDA SHAWN MATIVETSKY Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm 22
Tudalen
Sad 1 GWEITHDY PEINTIO MASGIAU OPERA TSIEINEAIDD Siop Pontio, 11am – 2pm 30
Mer 12 SBARDUN SGWENNU GYDA MARTIN DAWS Siop Pontio, 11am – 1pm 30
31
AR Y RÊLS
Sad 1 AR Y RÊLS: GEORGIA RUTH Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm 16
Iau 20 CERDDORIAETH YM MANGOR: PEDWARAWD LLINYNNOL BENYOUNES Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
23
Iau 6 CERDDORIAETH YM MANGOR: SGWRS AM DDIM CYN Y GYNGERDD Ystafell Cledwyn 3, Prifysgol Bangor, 7pm
GOSODIAD CELF
19
Gwe 21 CABARET: CENHEDLOEDD DAN DDYFROEDD [SIÂN JAMES, GAI TOMS & NUBA NOUR] Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 9pm 13
Iau 6 CERDDORIAETH YM MANGOR: JAMES GILCHRIST & SHOLTO KYNOCH Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm 19
CABARET
Sad 22 CYNGERDD DROS GINIO PEDWARAWD LLINYNNOL BENYOUNES Siop Pontio, 12.30pm 32
Sad 8 CABARET: HANGGAI Neuadd Hendre, Talybont, 9pm
12
Sul 9 GWEITHDY: HANGGAI Gwesty’r Victoria, Porthaethwy, 2.30pm 12 Mer 12 SBARDUN SGWENNU GYDA MARTIN DAWS Siop Pontio, 11am – 1pm
30
Llun 24 COMEDI: ROMESH RANGANATHAN + NATHAN CATON Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm 15 Iau 27 CERDDORIAETH YM MANGOR: CÔR SIAMBR PRIFYSGOL BANGOR Neuadd Powis, 8pm 24 Gwe 28 FFILM GWENER: LE WEEK-END Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm 29
EBRILL
COMEDI CYMUNED FFILM
Tudalen
Gwe 14 CERDDORIAETH YM MANGOR: CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm 20
Iau 3 CERDDORIAETH YM MANGOR: ENSEMBLE CYMRU Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
Gwe 14 FFILM GWENER: UNTOUCHABLE Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
28
Sad 5 CEREBELLIUM BACH Siop Pontio, 11am – 1pm 32
CERDDORIAETH YM MANGOR
Iau 20 CERDDORIAETH YM MANGOR: CERDDORIAETH GYNNAR BANGOR Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm 20 Gwe 21 FFILM GWENER: THE SELFISH GIANT Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm 28
Sad 5 CERDDORIAETH YM MANGOR: CERDDORFA SYMFFONI A CHORWS PRIFYSGOL BANGOR Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm 25
SIOP PONTIO
Sad 22 AR Y RÊLS: MAFFIA MR HUWS Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm 17
Sad 12 GWNEUD EICH MARC Siop Pontio, 10am – 1pm 33
Gwe 28 FFILM GWENER: RENOIR Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm 29
Mer 16 SBARDUN SGWENNU GYDA MARTIN DAWS Siop Pontio, 11am – 1pm
30
PONTIO’N ARGYMELL
Mer 16 CERDDORIAETH YM MANGOR: WILLARD WHITE & EUGENE ASTI Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
26
MAWRTH
Sad 1 CERDDORIAETH YM MANGOR: SGWRS AM DDIM CYN Y GYNGERDD Ystafell Cledwyn 3, Prifysgol Bangor, 6.30pm
2
14
Sad 15 SADWRN GWNEUD A CHREU Siop Pontio, 10.30am - 3pm
Sad 1 CERDDORIAETH YM MANGOR: FREDDY KEMPF Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm 19
Rhif elusen gofrestredig: 1141565
Gwe 7 WET SOUNDS Pwll Nofio Bangor, 8pm
Tudalen
21
Sad 1 CERDDORIAETH YM MANGOR: CERDDORFA SYMFFONI PRIFYSGOL BANGOR Neuadd Prichard-Jones, Prifsygol Bangor, 7.30pm 21
MEHEFIN
24
Tudalen
Gwe 6 CERDDORIAETH YM MANGOR: CYNGERDD GALA DIWEDD Y FLWYDDYN Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm 27 Pontio: Digwyddiadau
@TrydarPontio
3
Bu’r cynhyrchiad rhyngwladol Bodies in Urban Spaces yn symud o gwmpas Bangor gan berfformio ymhob twll a chornel o’n dinas.
Beth wnaeth Pontio yn
Kate Lawrence yn perfformio dawns fertigol awyr agored Angel i lawr ochr Cadeirlan Bangor yn dilyn gorymdaith llusernau trwy Stryd Fawr Bangor.
ystod tymor yr Hydref?
Daeth Dr Xenia Pestova o Brifysgol Bangor â’i phiano tegan i siop Pontio am awr gerddorol.
Fe ddaru ni ddysgu lot am gewri blewog yng ngweithdy pypedau Rhita Flewog.
4
Ymunodd ieuenctid Ysgol Tryfan â’r cerddor Manon Llwyd yn Corneli Cudd 2 - preswyliad artistig yng nghartrefi Plas Hedd a Bryn Llifon ym Mangor.
Cynlluniodd y dawnsiwr Cai Tomos osodiad sain tymor-byr Ar Goll yn siop Pontio, ar sail cyfweliadau ar dâp a ail-feistrolwyd yn ddigidol.
Perfformiodd y chwaraewr cello ifanc Steffan Morris yn Neuadd Powis y Brifysgol fel rhan o gyfres Cerddoriaeth ym Mangor.
5
Sut i archebu
FFOR DD Y T RAET
H
KWIK FIT
YC OL
OL YC
EG
PE NR A
F FO
DD FA RR AR
D RD
V CK SA
IL L
ST RE ET
RD
RO RS E
AM B
AWR YD F STR
Gwesty’r Victoria, Porthaethwy
E
P R
ASDA
FA W
OR
P
FF O
RY D
FF
W FA
A5 IO L
P
DE IN DD OR D OE
DD
RI
D RY ST
L
N
D
FF
Siop Pontio R
IO
DE DD OR
O G L A N R AF
P
CLOC
P
FF
VIC TO RI A
Neuadd Reichel
D
ME
M&S
A5
SAFLE PONTIO
LLT
MORRISONS
RD
S
ALDI
L LT
W FA
LLE I’N CANFOD
DD
OR FF
STR Y
O FF
YD TR
IN
AI EN FA M OD
R
P
LO N
HE OL
OR
OR DD
P
N
FF
E IW SIL DD
BANGOR
Teras
DY RA
Pwll Nofio Bangor
EG
ST
AD-DALIADAU Yn anffodus, unwaith y bydd tocynnau wedi’u prynu, ni allwn eu had-dalu oni bai i’r perfformiad gael ei ddileu. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws.
‘Rydym yn argymell i chi gyrraedd y digwyddiadau hyn 30 munud cyn yr amser cychwyn a hysbysebir.
F
R FO
FF
TEULUOEDD Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod dan 16 oed.
H
RH
SUT I’N CANFOD Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Pontio yn cael eu cynnal mewn lleoliadau hyd a lled Bangor, ond mae perfformiadau hefyd yn cael eu llwyfannu’n rheolaidd o fewn tri deg milltir i’r ddinas, o Ynys Môn i Ben Llŷn, Dyffryn Conwy ac arfordir Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ynglŷn â lleoliad penodol ar: 01248 388090 neu ebostiwch ni: info@pontio.co.uk.
BBC
A WF
NE
TÂL POST Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o 50 ceiniog yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru’ch tocynnau drwy’r post. Er mwyn sicrhau bod
GOSTYNGIADAU Ble bynnag y nodir ‘gostyngiadau’ ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw: plant dan 16 oed, myfyrwyr a’r rhai dros 65. Mynediad am ddim i ofalwyr a phlant o dan 2.
FF
DD OR
IRI ON
YN GL
ARLEIN Bydd modd archebu tocynnau i ddigwyddiadau detholedig Pontio arlein: www.pontio.co.uk. Bydd y gwasanaeth hwn yn terfynnu bedair awr cyn y digwyddiad, neu am 5pm y diwrnod blaenorol os yw’r digwyddiad ymlaen yn y bore.
MYNEDIAD ‘Rydym wedi ymroi i wneud mynediad i’n digwyddiadau mor hwylus â phosib. Cysylltwch â ni pe bae gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig ar: 01248 388090 neu ebost: info@pontio.co.uk.
Neuadd Powis
D
YN BERSONOL Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau Pontio o Siop Pontio ar y Stryd Fawr ym Mangor.
tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi’i archebu o flaen llaw ar gael i’w gasglu wrth y drws.
FFOR DD M E
Neuadd PrichardJones
D OR
AR Y FFÔN Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 382828. Gweithredir ein llinell docynnau mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a darperir gwasanaeth llawn dwyieithog o ddydd Llun - ddydd Sadwrn, 10am-6pm.
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
FF
SUT I ARCHEBU
Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau o flaen llaw. A fyddech cystal â gwirio manylion digwyddiadau unigol am amseroedd, prisiau, manylion archebu a lleoliadau.
RD
D
FA R
RA
GORSAF
R
Clwb y Rheilffordd
Hendre, Talybont
LIDL
6
7
Bydd myfyrwyr wedi mwynhau eu siâr o gigs a chomedi, a bydd ffrindiau lawer wedi oedi ennyd dros ginio yn ein lle bwyta, gan roi’r byd yn ei le wrth sbïo allan dros y ddinas.
Gobeithiwn y byddwch yn maddau i ni felly mai rhaglen lai sydd gennym ni chi’r tro hwn. Dyma ein rhaglen olaf cyn i ni agor drysau’r Ganolfan ym Medi 2014. Yn ystod tymor y Gwanwyn hwn fe gewch fwynhau cyngherddau clasurol proffil uchel, Cabaret cerdd byd, a rhaglen Tamaid bach o Pontio yn y siop.
Hefyd fydd Bedwyr Williams yn dod yn artist preswyl cyntaf Pontio yn ogystal ag arwain ein rhaglen celf gyhoeddus. Ac mae ganddo’ch chi hyd at 30 Ebrill i gyflwyno’ch atgofion am Theatr Gwynedd i ni. Cysylltwch â ni ar gwaddol@pontio.co.uk, drwy’r post, neu trwy Drydar, neu fel arall galwch i mewn i’r siop lle mae blwch atgofion yn eich disgwyl. Cewch groeso cynnes. Ymlaen i 2014 - mae’n mynd i fod yn flwyddyn fawr! Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio @elenpontio
Ffotograffydd: Dewi Glyn
Gwener 31 Ionawr, 7.30pm Neuadd Fwyta Reichel, Prifysgol Bangor
CORNELI
£3 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Ym mis Tachwedd 2013, treuliodd y cerddor amryddawn Manon Llwyd fis cyfan yng nghartref preswyl Plas Hedd, a chartref nyrsio Brynllifon Bangor, yn mynd a cherddoriaeth i bob cwr o’r cartrefi. Corneli Cudd 2 yw ail breswyliad artistig cymunedol Pontio yn dilyn prosiect peilot gynhaliwyd llynedd. A’r tro hwn cafodd Manon gwmni 16 o gerddorion ifanc o Ysgol Tryfan. Gydol y mis roedd Dr Gwawr Ifan yn edrych i mewn i effaith y profiad hwn ar y bobl ifanc fel darn o ymchwil. Cewch glywed mwy am y prosiect gan Manon Llwyd, Dr Gwawr Ifan ac Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio. Bydd cyfle i weld clipiau ffilm, a chlywed profiadau‘r bobl ifanc eu hunain yn dilyn y siwrnai hon.
CYMUNED
CYMUNED
Bydd arddangosfa GWADDOL wedi ei lleoli ar lefel 2, animeiddiadau POBOL wedi eu taflunio drwy’r adeilad, a phrosiect BLAS wedi ymgartrefu yn y stiwdio.
Mae’r 9 mis nesaf felly yn mynd i fod yn gyfnod digon prysur - cyfnod o baratoi, o recriwtio a hyfforddi staff, symud i mewn i’r ganolfan, arfer gydag offer newydd, a chadarnhau ein rhaglen ddigwyddiadau cyntaf… a rhyfeddu at ysblander adeilad newydd fydd yn gartref o’r ansawdd uchaf posib o’r diwedd i’r celfyddydau ac arloesi yma ym Mangor.
CUDD 2
Blwyddyn o nawr fe fydd tymor agoriadol Pontio yn tynnu at ei therfyn a phobl Bangor a thu hwnt wedi cael llu o brofiadau theatr, ffilm, dawns awyr, drama, cerdd byd, Gŵyl Dylan Thomas ac opera siambr yn y Ganolfan newydd.
Croeso cynnes i bawb gan gynnwys staff gofal, nyrsio, ymarferwyr celfyddydol, gwneuthurwyr polisi, academyddion, myfyrwyr a’r gymuned. Prosiect celfyddydol gan Pontio mewn partneriaeth ac ymchwil celfyddydau â dementia Prifysgol Bangor. Ffotograffydd: Osian Williams
8
9
10
Gweithdai drama hwylus wythnosol gan Pontio i ddatblygu sgiliau theatr a pherfformio. Rydym hefyd yn creu perfformiadau dyfeisgar ac yn rhoi llwyfan i bobol ifanc ym Mangor.
HaDAsyniaDA
Ymweliad Dr Ed Wright i Ysgol Talwrn Bu Ed Wright yn gweithio am ddau fore yn ysgol Talwrn i greu celf sain fel modd o adlewyrchu uchafbwyntiau’r prosiect HaDAsyniaDA. Bu plant Ysgol Y Talwrn yn recordio pob math o synau: tractor plastig yn cael ei
wthio ar hyd yr iard, dail y coed, y gogyddes yn ysgwyd bocs o Rice Krispies, ac wrth gwrs y plant yn adrodd detholiadau o’r cerddi. Gyda llyfrgell o synau gwahanol aethant ati i roi popeth at ei gilydd a chreu PONTIO. Perfformiwyd y darn am y tro cyntaf fel rhan o gyngerdd Cerddoriaeth ym Mangor: Electroacwstig Cymru. Gyda system sain amgylchynol hynod â 32 uchelseinyddion, cafodd plant blwyddyn 6 Ysgol y Talwrn y cyfle i weithio ar ddesg sain gyda’r artistiaid proffesiynol eraill.
HaDAsyniaDA
Sioe Chwedlau
Cafwyd pythefnos hwyliog iawn yng nghwmni rhai o feirdd enwocaf Cymru: Dewi Pws, Eurig Salisbury, Tudur Dylan ac Ed Holden. Helpodd y pedwar i ysbrydoli’r plant i ddatblygu eu ‘hadau syniadau’ ar gyfer y ganolfan newydd – a’u mynegi mewn cerddi.
Mae BLAS wedi cael tymor prysur a chyffrous. Mae’r criw wedi cael ‘blas’ ar fywyd actor proffesiynol wrth iddynt ddechrau ymarfer ar gyfer eu sioe Chwedlau, addasiad o sioe wreiddiol Marlyn Samuel, Mon Mam Cymru. Perfformiwyd y ddrama yn Ysgol David Hughes a aethpwyd y gynulleidfa o ystafell fyw Taid y nôl mewn amser i gwrdd â Santes Dwynwen a gwrachod Llanddona.
Bydd y cerddi’n dathlu gweithgarwch artistig y dyfodol yn Pontio. Caiff y HaDAsyniaDA wedyn eu plannu ar y safle. Erbyn hyn rydym wedi casglu bron i 800 o botiau HaDAsyniaDA sydd i’w plannu.
Noson Carped Coch Tra roedd rhan fwyaf o blant yn gwisgo’u mygydau Calan Gaeaf… roedd rhai yn gwisgo’n hynod o smart ar gyfer eu noson Carped Coch yn CAST, Parc Menai. Dyma oedd dangosiad cyntaf eu ffilmiau byr ac fel sypreis roedd Oscars unigol yn aros amdanynt er mwyn sicrhau ei fod yn flas go iawn o Hollywood.
Bodies in Urban Gweithdy Spaces Llusern gyda Gan fod llwybr Mari Gwent perfformiad Bodies in Urban Spaces yn mynd heibio Ysgol Hirael, fe gafodd blant BLAS Hirael y cyfle i wylio’r dawnswyr yn ymarfer eu perfformiad o amgylch strydoedd Bangor.
Ymwelodd yr Artist Mari Gwent ag ysgolion Glancegin a Hirael i greu llusernau ‘angylaidd’ ar gyfer yr orymdaith cyn y Nadolig trwy ganol Bangor a oedd yn rhan o’r sioe Angel.
Angel Fel modd o gloi tymor y Nadolig, roedd y criw yn rhan o berfformiad Angel. Wrth i Kate Lawrence ddawnsio i lawr ochr Cadeirlan Bangor roedd y plant yn canu ac yn arwyddo ‘Anfonaf Angel’.
CYMUNED
CYMUNED
Beth yw BLAS?
Beth mae BLAS wedi bod wrthi’n neud yn ddiweddar?
11
Sadwrn 8 Chwefror, 9pm Neuadd Hendre, Talybont Siop Pontio
Pontio mewn cysylltiad â Byd Mawr
HANGGAI CABARET
ATEB GWASTADIROEDD MONGOLIA I’R POGUES Cychwynnwyd Hanggai gan y rociwr “pync” Ilchi, gyda chyfuniad beiddgar o ganu gwddw Mongolaidd ac offerynnau roc. Daethant yn fyd-enwog. Er bod y grŵp yn defnyddio offerynnau traddodiadol megis y ffidil blew ceffyl a’r liwt dau dant, troes Hanggai’n arloeswyr heb golli golwg ar eu gwreiddiau. Gwyllt, gwrthryfelgar, barddonol, hogia a thân yn eu boliau… dyma rai o’r pethau ddywedir am Hanggai. Clywch sŵn anialdiroedd agored Mongolia yn eu canu cry’. Byddant yn codi hiraeth arnoch am le na fuoch erioed…
‘exhuberant, exotic, exciting and unusual’ Sydney Morning Herald Bydd y cyngerdd yn cynnwys DJ Fflyffilyfbybl ac eraill hefyd yn chwarae ar y noson.
Sul 9 Chwefror, 2.30pm, £3 Gwesty’r Vic, Porthaethwy Gweithdy Hanggai Ymunwch ag aelodau Hanggai am brynhawn Sul difyr yn y Vic, yn dysgu am eu dull unigryw Mongolaidd o ganu ac am eu hofferynnau traddodiadol. Addas i bob oed.
£12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Access All Areas | 30IPS
Cenhedloedd Dan Ddyfroedd CYMRU A NUBIA. DWY GENEDL. UN BENNOD GYFFREDIN.
Mae Cenhedloedd Dan Ddyfroedd yn daith gerddorol sydd yn cynnwys y gantores Siân James a’r gitarydd Gai Toms ochr yn ochr â Nuba Nour, drymwyr ffrâm traddodiadol. Mae penderfyniadau gwleidyddol o’r 1960au yn parhau i lunio’r byd cyfoes. Yn Cenhedloedd Dan Ddyfroedd, bydd lleisiau dwy gymuned, yn uno ar lwyfan i gofio tynged y pentref Capel Celyn - a gollwyd i ddyfroedd Cronfa Dryweryn - a’r mamwledydd Nubian traddodiadol yn Aswan, yr Aifft, a foddwyd ar gyfer adeiladu Argae Uchel yr Arlywydd Nasser.
CABARET
£12/£10 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Gwener 21 Mawrth, 9pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Bydd y cyngherdd yn cynnwys setiau unigol gan bob un o’r artistiaid ynghyd â set gydweithredol arbennig yn cynnwys caneuon am Dryweryn a sefyllfa bryderus y bobl Nubiadd. Bar arian parod yn unig o 7pm. www.dammednations.com Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.
12
13
Gwener 7 Mawrth, 8pm Pwll Nofio Bangor Siop Pontio
Soundlands a Dinas Sain Bangor yn cyflwyno
GOSODIAD CELF
WET SOUNDS
SYNHWYRIADAU DWFN DRWY WRANDO TANDDWR DYCHWELIAD Y PERFFORMIAD CERDDOROL AMGEN HWN I BWLL NOFIO BANGOR Arnofiwch, nofiwch, neu blymiwch i mewn i ddŵr sy’n llawn amryfal seiniau o seinyddion tanddwr. Gwrandewch ar fiwsig byw gan y roc-syrffwyr Y Niwl, ynghyd â mwy o fiwsig byw, perfformiad dawns danddwr, ffilm a gosodiadau. Mae Wet Sounds yn creu dau ofod sain ym Mhwll Nofio Bangor: un o dan wyneb y dŵr ac un uwch ei ben. Dewiswch eich rhaglen wrth i chi arnofio ar yr wyneb, neu blymio oddi tanodd. Daw’r digwyddiad unigryw hwn yn ei ôl wedi ei lwyddiant ysgubol yn 2011, fel rhan o raglen gyffrous Dinas Sain Bangor ar gyfer celf sain gyhoeddus.
“astonishingly immediate, inescapable” - The Guardian “like being in the womb” - Mizled Youth “exhibitions don’t get much more successful” - The Wire www.soundlands.org 14
£8 / £5 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Siop Pontio
Pontio, mewn cydweithrediad â Comedi Bangor, yn cyflwyno
ROMESH RANGANATHAN A NATHAN CATON Datblygodd doniau Romesh Ranganathan fel digrifwr tra oedd yn athro Mathemateg mewn ysgol uwchradd, ac mae wedi datblygu enw da am fod yn eithriadol o ddigri bob amser.
Gyda chyfraniadau i gefnogi’r prif artistiaid drwy ‘stand-ups’ a sgetsus byrfyfyr – bydd Comedi Bangor unwaith eto yn dod â’u sgiliau unigryw eu hunain i Pontio.
Yn ysgrifennwr miniog a doniol mae wedi sgrifennu jôcs i John Bishop a Seann Walsh ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos ar Live at the Apollo, Stand up for the Week, yn ogystal â Edinburgh Comedy Fest Live ar BBC3. Yn ddiweddar derbyniodd Romesh wobr y 2013 Leicester Mercury Comedian Of The Year - mae cyn enillwyr yn cynnwys Rhod Gilbert, Johnny Vegas a Jason Manford. “Searingly dry wit” Three Weeks
COMEDI
£10 / £7 gostyngiadau ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk
Llun 24 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Dechreuodd Nathan Caton ymarfer ei ddoniau fel digrifwr pan oedd ond yn 19 oed ac erbyn hyn mae’n gryn feistr yn y gamp. Mae ei ddeunydd yn gymysgfa o’r personol a’r cyffesol, y cymdeithasol a’r gwleidyddol, a chaiff ei ystyried yn un o’r digrifwyr ifanc gorau ym Mhrydain. Mae Nathan wedi ymddangos ar Mock the Week, Russell Howard’s Good News, yn ogystal â’i gomedi sefyllfa ei hun ar BBC Radio 4 Can’t tell Nathan Caton Nothing.
‘… laidback, on-the-nose material, chopping down fools of all colours, both in day-to-day life and in the media’ – The Guardian
NOSON GOMEDI
15
Sadwrn 1 Chwefror, 8pm Clwb y Rheilffordd, Ffordd Euston, Bangor
Sadwrn 22 Mawrth, 8pm Clwb y Rheilffordd, Ffordd Euston, Bangor
£10/£8 gostyngiadau (Cynnig Codwr Cynnar: £7 cyn Gwener 31 Ionawr) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
£10/£8 gostyngiadau (Cynnig Codwr Cynnar: £7 cyn Gwener 21 Mawrth) ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk Siop Pontio Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
AR Y RÊLS
+ CHRIS JONES
ENILLYDD GWOBR CERDDORIAETH CYMRU 2013 A hithau wedi’i magu’n ddwyieithog yn Aberystwyth, mae Georgia Ruth yn gantores, yn ysgrifennu caneuon ac yn chwarae’r delyn, a’i llais swynol wedi’i gymharu’n ffafriol â chantoresau gwerin hiraethus diwedd y 60au. Ysbrydolwyd ei thechneg ar y delyn yn fwy gan arddull byseddol gitaryddion megis Bert Jansch a Meic Stevens na chan y dull clasurol a ddysgodd yn ei phlentyndod. Serch hynny, mae cerddoriaeth Georgia ei hun yn fwy na chyfuniad o’r dylanwadau cynnar hyn. Mae’n rhywbeth eithaf gwahanol… Mae Georgia yn cael ei chefnogi gan y canwr gwerin gyfoes Cymraeg Chris Jones.
16
“A dazzling debut, rich with sweet pain and joy” (Andy Gill – The Independent – 4*) “Her own debut is a wonder, full of longing and melody” (MOJO – 4*) “It could have been made in 1968, in the loveliest possible way” (Simon Price – The Independent on Sunday – 4*) “One of the British folk discoveries of the year” (The Guardian)
Cerddoriaeth o Gymru yng Nghlwb y Rheilffordd Welwn ni chi Ar y Rêls!
MAFFIA MR HUWS +Y RHACS
ˆ P ROC CYMRAEG ANHYGOEL GRW Am y tro cyntaf mae Maffia Mr Huws, un o fandiau mwyaf dylanwadol y sîn gerddoriaeth Gymreig ers yr 80au, yn dod â’u hegni a’u hagwedd arbennig i Ar y Rêls. Mae’r grŵp yma, a ffurfiwyd ym Methesda, yn rym creadigol nodedig mewn roc Gymraeg – ac mae eu dylanwad yn mynd ymhell y tu hwnt i’w halbyms. Mae Maffia wedi rhyddhau 9 record – yn cynnwys casgliad o’u prif ganeuon yn 2008.
Gyda llais hudolus y prif leisydd, Neil Williams, a grym eu caneuon enwocaf, mae hwn yn fand gwych i wrando arno’n perfformio’n fyw. Cefnogir Maffia gan fand ifanc o Ddyffryn Nantlle Y Rhacs.
AR Y RÊLS
GEORGIA RUTH
“A delight.” (Folk Roots) “Heaven.” (Lauren Laverne, 6Music)
17
James Gilchrist (tenor) Sholto Kynoch (piano) Iau 6 Chwefror // 8pm NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR
YM MANGOR Bydd cyfres cyngherddau Cerddoriaeth ym Mangor yn dod a chyfoeth o artistiaid rhyngwladol a chartref o safon. Y tymor hwn mae gennym ystod eithriadol o berfformwyr enwog, o artistiaid unigol i gerddorfeydd raddfa lawn.
Schubert: Die Schöne Müllerin
Ionawr-Mehefin 2014 Freddy Kempf (piano) Sadwrn 1 Chwefror // 7.30pm
NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR
Sgwrs am ddim cyn y gyngerdd:
£14, £12 gostyngiadau, £3 myfyrwyr
cyflwyniad i farddoniaeth ramantaidd yr Almaen a Lied Schubert gan Dr Anna Saunders (Ystafell Cledwyn 3, Prifysgol Bangor, 7pm).
Archebwch Docyn Tymor y gwanwyn:
01248 38 28 28 www.pontio.co.uk neu’n bersonol yn Siop Pontio.
Mae tocyn tymor yn rhoi sicrwydd o sedd ichi ym mhob cyngerdd, ac eithrio’r rheiny sydd wedi’u nodi’n eithriadau. Tocynnau myfyrwyr: £3. Maent hefyd ar gael i’w prynu ar-lein, ar y ffôn neu’n bersonol, ond nid ydynt yn rhoi mynediad i gyngherddau oni bai fod myfyrwyr yn dangos cerdyn UCM.
Yn ymuno gyda un o brif denoriaid telynegol Lloegr James Gilchrist, mae pianydd a’r cymrawd anrhydeddus o Brifysgol Bangor Sholto Kynoch, mewn perfformiad o gylch caneuon enwog Schubert Die Schöne Müllerin.
Mae cyn-enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ac enillydd gwobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol fawreddog Tchaikovsky ym Mosgo, Freddy Kempf, yn perfformio’n gyson mewn lleoliadau ym mhedwar ban y byd. Dewch i glywed un o bianyddion mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain ac un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol. Campwaith Rwsiaidd enfawr Mussorgsky, Darluniau mewn Arddangosfa, yw uchafbwynt y rhaglen heriol hon. ‘Darn symffonig o ran ei dôn a lliw… yn drwyadl Rwsiaidd…. o ran teimlad ac yn rhyfeddol o atgofus’.
CERDDORIAETH YM MANGOR
CERDDORIAETH YM MANGOR
£12, £9 gostyngiadau, £3 myfyrwyr
Beethoven: Sonata Op. 109 Schumann: Etudes Symffonig Schuman: Toccata Mussorgsky: Daluniau mewn Arddangosfa
18
19
Cerddoriaeth Gynnar Bangor
Andrew Woolley a Hana Vlhová-Wörner (cyfarwyddwyr)
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
Iau 20 Chwefror // 8pm
Katerˇina Marešová (ffidil) Chris Collins (arweinydd)
NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR
Sadwrn 1 Mawrth // 7.30pm
£10, £7 gostyngiadiau, £3 myfyrwyr
NEUADD PRICHARD-JONES, PRIFYSGOL BANGOR
Callum Smart (ffidil) Nicholas Collon (arweinydd) Gwener 14 Chwefror // 7.30pm NEUADD PRICHARD-JONES, PRIFYSGOL BANGOR £12.50, £10.50 gostyngiadau, £6 myfyrwyr (ddim yn rhan o docyn tymor)
Bydd Arweinydd Nicholas Collon yn ymddangos ym Mangor am y tro cyntaf gyda chyngerdd o gampweithiau clasurol a rhamantaidd cynnar, yn cynnwys symffoni ‘Fawreddog’ Schubert yn C fwyaf a choncerto ‘Twrcaidd’ Mozart ar gyfer ffidil, yn A fwyaf, gyda’r feiolinydd ifanc gwobrwyed Callum Smart. Roedd ymweliad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC tymor diwethaf yn boblogaidd dros ben - felly archebwch yn gynnar! Beethoven: ‘Agorawd ‘Leonore’ Rhif 1 Mozart: Concerto Ffidil Rhif 5 yn A fwyaf Schubert: Symffoni Rhif 9 yn C fwyaf
20
Bydd y feiolinydd ifanc o’r Weriniaeth Tsiecaidd, Kateřina Marešová, yn ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol ar gyfer perfformiad o Concerto Ffidil Mendelssohn – gwaith prydferth a chyffrous. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys symffoni ysblennydd Beethoven, yr Eroica, ac rydym yn dathlu Gw ˆyl Ddewi gyda pherfformiad prin o Castell Caernarfon gan Grace Williams, a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Arwisgiad Tywysog Cymru ym 1969. Grace Williams: Castell Caernarfon Mendelssohn: Concerto i Ffidil Beethoven: Symffoni Rhif 3 yn E meddalnod fwyaf, ‘Eroica’ Sgwrs am ddim cyn y cyngerdd: Bydd Dr Graeme Cotterill yn cyflwyno cerddoriaeth Grace Williams (1906-77), y cyfansoddwr Cymreig mwyaf o’i chenhedlaeth (Ystafell Cledwyn 3, Prifysgol Bangor, 6.30pm).
CERDDORIAETH YM MANGOR
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Bydd Ensemble Cerddoriaeth Gynnar Bangor ei hun yn cyflwyno rhaglen gymysg o gerddoriaeth offerynnol a lleisiol, yn cynnwys dilyniant plaengan a cherddoriaeth o’r 17eg a’r 18fed ganrif yn yr arddull Ffrengig, gyda chyfresi gan Lully, Fischer, Telemann ac eraill.
Ffotograffydd: Osian Williams
CERDDORIAETH YM MANGOR
£12, £9 gostyngiadau, £3 myfyrwyr
21
Shawn Mativetsky (tabla) Andrew Wooley (allweddellau) & Josephine Wilkin (ffliwt) Iau 6 Mawrth // 8pm NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR
CERDDORIAETH YM MANGOR
£10, £7 gostyngiadau, £3 myfyriwr
22
Bydd y chwaraewr tabla o Ganada Shawn Mativetsky ynghyd a chyd chwaraewyr, Andrew Woolley a Josephine Wilkin yn cyflwyno rhaglen eclectig o gerddoriaeth newydd ar gyfer y tabla. O unawd tabla Indiaidd clasurol, i weithiau newydd i tabla, ffliwt a tabla gydag electronigs – dyma daith liwgar gerddorol. Bydd y triawd yn archwilio posibiliadau traws gerddorol a thraws ddiwylliant sy’n amlygu eu hunain pan gyfunir cerddoriaeth glasurol orllewinol a gogledd India, gan arddangos drymiau tabla gogledd yr India sy’n enwog am eu sain cyfoethog brydferth a mynegiant rhythm meistrolgar. Dehonglwr y Benares Gharana a disgybl i’r maestro Pandit Sharda Sahai, mae Shawn Mativetsky yn chwaraewr ac addysgwr tabla uchel ei barch. Mae’n hyrwyddwr o’r tabla a cherddoriaeth glasurol gogledd India mewn darlithoedd, gweithdai a pherfformiadau ar draws Canada ac yn rhyngwladol. Yn byw yn Montreal mae Shawn yn dysgu tabla ac offerynnau taro ym Mhrifysgol McGill. Bydd y rhaglen yn cynnwys: Traddodiadol, add. Shawn Mativetsky - Tabla Solo in Teentaal Tabla gyda chyfeiliant allweddell Bruno Paquet - Les arbres célestes (1994, rev. 1998, 2010) * Tabla a chyfryngau sefydlog Payton MacDonald – Alap (2003) Unawd tabla Paul Frehner – Ke-Te (2006) * Unawd tabla Shawn Mativetsky – Bol (2013) * Unawd tabla Tawnie Olson – New Work (2013) * Tabla a chyfryngau sefydlog Jim Hiscott - Shadow Play (2007) * Ffliwt a tabla Yn ystod ei ymweliad bydd Shawn yn rhoi cyflwyniad Tu ôl i’r Tabla i ddisgyblion cerddoriaeth ysgol Friars ynghyd a rhoi perfformiad anffurfiol yn siop Pontio.
Preswyliad Pedwarawd Llinynnol Benyounes Iau 20 Mawrth – Sadwrn 27 Mawrth Croesawn Bedwarawd Llinynnol Benyounes yn ôl i Fangor ar gyfer tridiau o gyngherddau a digwyddiadau bychain yn y gymuned. Yn ystod eu preswyliad fe fydd y pedwarawd yn perfformio yn Uned Gyfeirio Brynffynnon, ymweld â safle adeiladu Pontio i gynnig gwledd o gerddoriaeth fyw dros goffi i’r gweithwyr, ac yn swyno cynulleidfa fechan yn siop Pontio yn ganol dre fel rhan o gyfres Tamaid Bach o Pontio. Mae eu cynlluniau ar gyfer 2014 yn cynnwys datganiadau yn Neuadd y Wigmore a Koncerthaus Fiena a rhyddhau record gyntaf o Concerti Mozart gyda Jeremy Young, ar recordiau Meridian.
Cyngerdd Pedwarawd Llinynnol Benyounes Iau 20 Mawrth // 8pm NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR £10, £7 gostyngiadau, £3 myfyriwr
Yn ennillwyr Cystadleuaeth Pedwarawdau Llinynnol Rhyngwladol Sandor Vegh yn Budapest, mae pedwarawd llinnynol preswyl Prifysgol Bangor wedi ennill clod mawr fel un o’r pedwarawdau ifanc mwyaf deinamig a llwyddiannus i ddod i’r amlwg yn y Deyrnas Unedig mewn blynyddoedd diweddar. Bydd eu rhaglen yn cynnwys: Pedwarawd llinynnol Haydn Op 76 rhif 1 yn G fwyaf Pedwarawd llinynnol Dvorak Op 51 yn E meddalnod Pedwarawd llinynnol Dvorak Op 59 yn F fwyaf
CERDDORIAETH YM MANGOR
Tableaux
23
24
Iau 3 Ebrill // 8pm NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR £12, £9 gostyngiadau, £3 myfyrwyr, tocyn teulu: £25
Côr Siambr Prifysgol Bangor Guto Pryderi Puw (cyfarwyddwr) Yanmi Au (cyfeilydd) Iau 27 Mawrth // 8pm NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR £10, £7 gostyngiadau, £3 myfyriwr
“My subject is War, and the pity of War. The Poetry is in the pity.” (Wilfred Owen) Yn ystod Awst 2014 fe goffeir 100 mlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Mawr. Archwilia’r cyngerdd hwn y farddoniaeth a’r gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan y digwyddiad erchyll. Yn ganolbwynt i’r gyngerdd ceir perfformiad o An Ancient Music gan Judith Bingham, sy’n cyfuno adroddiadau o lythyrau’r bardd Wilfred Owen gyda gosodiadau corawl o gerddi rhyfel Guillaume Apollinaire, ynghyd â darnau eraill gan Howells, Vaughan Williams a Joseph Gregario.
Bydd Ensemble Cymru, Ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, gyda gwesteion arbennig o Bedwarawd Mavron a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yn cyflwyno’r gyngerdd arbennig hon, yn cynnwys cerddoriaeth o’r 18fed ganrif hyd at yr 20fed. Stephen Powell Rees
CERDDORIAETH YM MANGOR
Peryn Clement-Evans (Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru) Adrian Partington (Cyfarwyddwr Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC)
Jehan Alain: Messe Modale Bach: Coffee Cantata, BWV 211 Mendelssohn: Octet
Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Graeme Cotterill, Chris Collins ac Andrew Lewis (arweinyddion) Sadwrn 5 Ebrill // 7.30pm NEUADD PRICHARD-JONES, PRIFYSGOL BANGOR £12, £9 gostyngiadau, £3 myfyrwyr
Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol yn cyflwyno dau waith corawl ysblennydd er cof am Dr David Evans (19432013), cyn-arweinydd hynod boblogaidd Corws y Brifysgol. Ar ôl rhychwant emosiynol enfawr yr Mass for Troubled Times gan Haydn, ceir prydferthwch tangnefeddus ac arallfydol yr Hymnus Paradisi gan Howells. Haydn: ‘Offeren ‘Nelson’ Howells: Hymnus Paradisi
CERDDORIAETH YM MANGOR
Ensemble Cymru gydag aelodau o Bedwarawd Mavron ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
25
SYR WILLARD WHITE (baswr) EUGENE ASTI (piano)
Cyngerdd Gala Diwedd y Flwyddyn Gwener 6 Mehefin // 7.30pm
Mercher 16 Ebrill // 8pm
NEUADD PRICHARD-JONES, PRIFYSGOL BANGOR
NEUADD POWIS, PRIFYSGOL BANGOR
£12, £9 gostyngiadau, £3 myfyrwyr
26
Ers ei berfformiad cyntaf gyda Chwmni Opera Dinas Efrog Newydd, mae Syr Willard White wedi canu’n gyson yn nhyˆ Opera Covent Garden, Opera’r Metropolitan, Efrog Newydd, Cwmni Opera Saesneg, San Francisco, Glyndebourne a thai opera a gwyliau niferus dros y byd i gyd.
Bydd tocynnau ar gyfer y cyngerdd hwn ar gael wrth y drws yn unig. Ni fydd yn bosib archebu o flaen llaw ar yr achlysur hwn oherwydd bod meddalwedd tocynnau newydd ar waith cyn agoriad Pontio.
Y tymor hwn mae Syr Willard White yn dychwelyd i Covent Garden fel Klingsor Parsifal, ac i Munich ar gyfer perfformiadau pellach o Babylon. Mae ymddangosiadau eraill yn cynnwys Alceste yn Madrid a chynhyrchiad newydd o Benvenuto Cellini gyda Terry Gilliam ar gyfer Cwmni Opera Lloegr. Mae ei gyfeilydd Eugene Asti wedi perfformio gydag artistiaid nodedig lu yn cynnwys Angelika Kirchschlager, Y Fonesig Felicity Lott, Sarah Connolly a’r diweddar Fonesig Margaret Price. Mae wedi dyfeisio nifer o gyfresi o ddatganiadau ar gyfer St John’s Smith Square, Llundain a St George’s Bristol i nodi penblwyddi Brahms, Mendelssohn, Poulenc, Strauss a Schumann. Yn 2009 daeth yn bianydd Steinway swyddogol.
CERDDORIAETH YM MANGOR
Daw’r tymor Cerdd ym Mangor i’w derfyn traddodiadol gyda rhaglen o glasuron poblogaidd gan y Gymdeithas Gerdd, Band Pres, Band Cyngerdd, Côr Siambr a Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, yn cynnwys perfformiad o Concerto Lowell Liebermann ar gyfer Ffliwt gyda’r unawdydd Josephine Wilkin, a gwydraid o cava am ddim i bawb.
Mae Syr Willard White, baswr operatig a chyngerdd o fri rhyngwladol, a’r pianydd Eugene Asti yn perfformio ym Mangor am y tro cyntaf erioed. Mae eu rhaglen hyfryd ac amrywiol yn cynnwys lieder a chelf ganeuon fel a ganlyn: Caneuon difrifol Brahms Op 121 Husaren-lieder Shumann Op 117 Detholiad allan o Old American songs Copland a chaneuon Negroaidd
Ffotograffydd: Osian Williams
CERDDORIAETH YM MANGOR
£14, £12 gostyngiadau, £3 myfyriwr
27
Gwener 14 Chwefror, 7.30pm
Gwener 21 Chwefror, 7.30pm
UNTOUCHABLE
THE SELFISH GIANT
(2011) 112 mun – Cofiant | Comedi | Drama Cyfarwyddwyr: Olivier Nackache, Eric Toledano Sêr: François Cluzet, Omar Sy, Anne Le Ny
Drama ysbrydoledig o Ffrainc gyda’i phortread llawn hiwmor amharchus o anabledd, gan dynnu ar brofiadau pobol go iawn. Stori am gyfeillgarwch arwynebol anghymarus sydd yma rhwng gwr cefnog wedi ei barlysu, a’i ofalwr tlawd o gyngarcharor.
28
(2013) 91 mun – Drama Cyfarwyddwr: Clio Barnard Sêr: Conner Chapman, Shaun Thomas, Sean Gilder
Chwedl gyfoes wedi ei hysbrydoli gan stori Oscar Wilde o’r un enw, am ddau fachgen yn eu harddegau yn cael eu rhwydo i mewn i is-fyd o ddwyn copor. Darlun miniog a digyfaddawd o’r Brydain sy’n byw ar y gwynt, gyda diweddglo dirdynnol o drist.
£4/£3 ) 01248 382828 8 www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws Dyma dymor olaf GRŴP FFILM GYMUNEDOL BANGOR cyn agoriad Sinema newydd Pontio yn yr hydref. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth i Pontio dros y pedair blynedd diwethaf ac am eu dewis diddorol o ffilmiau cyfoes.
Gwener 28 Chwefror, 7.30pm
Gwener 28 Mawrth, 7.30pm
RENOIR
LE WEEK-END
Ar y Riviera Ffrengig yn Haf 1915, mae Jean Renoir, mab yr arlunydd argraffiadol PierreAuguste, yn dychwelyd adref i fendio wedi ei anafiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth ei ochor mae Andrée, merch ifanc sy’n ailfywhau, hudo ac ysbrydoli’r tad a’r mab fel ei gilydd.
Mae Nick a Meg yn dathlu penblwydd eu priodas gyda thrip penwythnos i Baris, 30 mlynedd ar ôl eu mis mêl yno. Wrth ail-fyw uchel ac isel-fannau eu perthynas, tra’n para i redeg allan o fwytai heb dalu, dônt ar draws hen gyd-weithiwr i Nick, sy’n arwain at ddatgelu ambell i wirionedd poenus…
(2012) 111 mun – Drama Cyfarwyddwr: Gilles Bourdos Sêr: Michel Bouquet, Christa Theret, Vincent Rottiers
FFILM
FFILM
GWENER
FFILM
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor
(2013) 93 mun – Comedi | Drama Cyfarwyddwr: Roger Michell Sêr: Jeff Goldblum, Jim Broadbent, Lindsay Duncan
29
TAMAID BACH O PONTIO – AR STRYD FAWR BANGOR GWEITHDY PEINTIO MASGIAU OPERA TSIEINEAIDD Dewch draw i siop Pontio i beintio’ch masg opera Tsieineaidd lliwgar eich hun, er mwyn dathlu dyfodiad Blwyddyn Newydd y Chineaid. Mae’r gweithdy arbennig hwn yn cael ei redeg gan Sefydliad Confucius y Brifysgol, ac yn agored i bob oed a gallu. www.bangor.ac.uk/confuciusinstitute
Mercher 12 Chwefror, 12 Mawrth, 16 Ebrill, 11am-1pm, Am ddim
SBARDUN SGWENNU Sesiynau tiwtora ysgrifennu creadigol dwyieithog un-i-un, wedi eu hwyluso gan Fardd Ieuenctid Cymru Martin Daws. Bydd Sbardun Sgwennu yn dwyn ynghyd ystod eang o ysgrifenwyr proffesiynol er mwyn cynnig ymateb personol i’r gwaith, cyngor ar ysgrifennu, a chyfarwyddyd i unrhyw un fyddai’n hoffi datblygu eu hysgrifennu creadigol, boed yn farddoniaeth, rhyddiaith, hunangofiant neu negeseuon rhwydweithio cymdeithasol. Bydd pob sesiwn yn cynnwys darlleniadau anffurfiol o’r gwaith.
SADWRN GWNEUD A CHREU
Mercher 5 Mawrth, 1pm, Am ddim
A
TU OˆL I’R TABLA
SIOP PONTIO
SIOP PONTIO
Sadwrn 1 Chwefror, 11am - 2pm, Am ddim
Sadwrn 15 Mawrth, 10.30am – 3pm, Am ddim
Cyflwyniad i’r Tabla, offeryn taro hynod o’r India, yng nghwmni Shawn Mativetsky, i ragflaenu ei gyngerdd yn Neuadd Powis dydd Iau 6 Mawrth. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres Cerddoriaeth ym Mangor.
Gweithdy crefft a dylunio, mewn cydweithrediad gydag Adran Gelf a Dylunio Coleg Menai, yn arbennig ar gyfer plant o dan 12 oed. Dewch i gael hwyl yn creu darnau o gelf lliwgar, o dan ofal rhai o fyfyrwyr bywiog yr adran. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chanolfan Celf a Dylunio Coleg Menai, ar 01248 674 341 neu e-bostiwch: celf.menai@gllm.ac.uk www.gllm.ac.uk
30
31
SIOP PONTIO
Sadwrn 22 Mawrth, 12.30pm, Am ddim
Sadwrn 12 Ebrill, 10am – 1pm, Am ddim Sadwrn 5 Ebrill, 11am – 1pm, Am ddim
PEDWARAWD CEREBELLIUM BACH LLINYNNOL BENYOUNES ANTURIAETHAU’R YMENNYDD, Mae nhw’n ifanc. Maen nhw’n llawn egni a’u cerddoriaeth yn swyno cynulleidfaoedd led led y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Galwch heibio i’r siop am awr o gerddoriaeth siambr o’r radd flaenaf. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres Cerddoriaeth ym Mangor.
GWNEUD EICH MARC
DARGANFOD PONTIO MEWN 3D Plymiwch i mewn i ‘ofod-z’ newydd Pontio - profiad rhyngweithiol 3D - gan ymweld â chanolfan newydd Pontio hyd yn oed cyn i’w drysau agor. Tarwch i mewn i siop Pontio, gwisgo’r sbectol 3D arbennig, a darganfod drosoch eich hun beth fydd gan Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Bangor i’w gynnig drwy’r cyfrifiadur holographig unigryw hwn…
I BOB OED
Ydi’ch llygaid chi yn dweud y gwir bob amser? Ydi’r hyn welwch chi yn bodoli – go iawn? Ynta ydi’ch meddwl yn chwarae triciau ar rywun? Am rai atebion, dowch draw i Siop Pontio, lle bydd yr anhygoel Broffesor Guillaume Thierry o adran seicoleg Bangor yn eiddgar i’ch tywys ar daith chwareus drwy goridorau dirgel yr ymennydd.
Unrhyw amser yn ystod oriau agor y siop, Am ddim
Addas i bob oed. Angen arolygaeth ar blant iau.
SIOP PONTIO
TAMAID BACH O PONTIO – AR STRYD FAWR BANGOR
Ymunwch a Tam Tomkins a Mr Kobo, artistiaid stryd lleol, ar ddiwrnod cyntaf y gwyliau Pasg i greu celf gyhoeddus tu allan i siop Pontio. Dewch i’w helpu nhw i greu llun 3D ar y palmant gan ddefnyddio sialc stryd. Cyfle i bob oed greu darn o gelf arbrofol. Tu allan i siop Pontio – neu tu mewn os bydd yn glawio.
32
33
CYMUNED
Mae sioe triciau’r-meddwl Cerebellium bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac yn wynebu cyfnod cyffrous yn ei datblygiad. Yn y gwrthdrawiad creadigol hwn rhwng niwro-wyddoniaeth a theatr, byddwn yn archwilio ffyrdd o ddatblygu’r profiad ymhellach. Yng nghwmni’r cyfarwyddwr theatr arloesol Iwan Brioc, y niwro-wyddonydd dyfeisgar Guillaume Thierry, a pherfformwyr a chynllunydd set proffesiynol, byddwn yn tywys Cerebellium i lefel wahanol. Wrth i Cerebellium dyfu, byddwn yn ystyried sut i greu set fwy hyblyg a symudol, sut gall y sioe archwilio themâu hunaniaeth ddiwylliannol, a sut y medrwn ddyfnhau’r elfen o ryngweithio gyda’r gynulleidfa. Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygiad, cynhelir diwrnod rhannu ar Fawrth 29 i gynulleidfa wahoddedig. Bydd hyn yn sail i gyfnod pellach o gynhyrchu i Cerebellium. Gwyliwch y gofod hwn!
34
Mae gan genedlaethau o bobl o bob oed ac o bob cwr o Gymru a thu hwnt, atgofion arbennig o Theatr Gwynedd... Y bwriad yw cynnwys eich atgofion mewn arddangosfa amlgyfrwng, a drefnir mewn partneriaeth ag Oriel Gwynedd, i gyd-fynd ag agoriad Pontio. Bydd yr arddangosfa yn dathlu a choffau sefydliad oedd yn agos iawn at galonnau nifer lawer ac a gyfrannodd yn sylweddol at fywyd diwylliannol Cymru.
Mae llawer wedi cyfrannu eu hatgofion eisoes, rhai yn cofio’r cynyrchiadau mawr, llond y lle i weld Emlyn Williams, Diversions, Llyfr Mawr y Plant… eraill yn cofio sŵn y gwynt yn y ‘fly-tower’, ffyrnigrwydd y gawod, a hwyl y plant wrth lithro lawr y silff o dan risiau’r cyntedd. Ac mae copi ar gael o lais anfarwol y Rheolwr Llwyfan yn cyhoeddi “Foneddigion a boneddigesau, bydd y perfformiad yn cychwyn mewn 3 munud…”!
Gofynnwn i chi ddanfon eich un atgof pennaf atom erbyn 30 Ebrill 2014 ar e-bost i GWADDOL@pontio.co.uk, neu trwy Trydar @TrydarPontio, neu i Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor.
CYMUNED
Calon Cerebellium
Bethyw eich un atgof o Theatr Gwynedd?
Galwch heibio i’n siop ar Stryd Fawr Bangor i weld model Martin Morley o set Llyfr Mawr y Plant, a rhoi eich atgof i lawr ar gerdyn post arbennig. Bydd croeso cynnes i chi yno.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch siop Pontio: 01248 383838. www.pontio.co.uk.
#Gwaddol 35
Gyda llai na blwyddyn hyd nes yr agorir Pontio, rydym wrthi’n ceisio adeiladu ein tîm o wirfoddolwyr, yn barod ar gyfer ein Tymor Agoriadol hir-ddisgwyliedig.
Rydym yn chwilio am unigolion: – sy’n mwynhau theatr, ffilm a’r celfyddydau; – sy’n ddibynadwy, yn brydlon ac yn ddyfal; – sy’n hyderus mewn amgylchedd sy’n ymwneud â chwsmeriaid; – sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd; – sy’n hoffi gwneud ffrindiau. Dewch yn rhan o’n Canolfan egnïol ac unigryw o’r cychwyn cyntaf – a chyfranogwch yn y datblygiad mwyaf a welwyd ym Mangor ers degawdau.
Prosiect Ymwneud â’r Gymuned Os hoffech ymuno â’r tîm yn Pontio, llenwch ein ffurflen gais ar-lein ar www.pontio.co.uk, galwch heibio siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor, neu siaradwch ag aelod o’n tîm mewn unrhyw ddigwyddiad Pontio. Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 16 oed neu’n hŷn. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch siop Pontio ar 01248 383838.
Beth am
36
Wirfoddoli?
Drwy gefnogaeth Sefydliad Esmée Fairbairn, mae Pontio a nifer o bartneriaid eraill yn datblygu rhaglen arloesol ac arbrofol er mwyn hybu ieuenctid lleol i gyrraedd eu llawn botensial. Drwy weithio gyda Chris Walker o People Systems International, bydd disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn helpu i siapio’r prosiect llywio cyntaf yn 2013/14, a wireddwyd drwy arian Ymestyn yn Ehangach.
Bydd pobl ifanc yn cydweithio â myfyrwyr a chyflogwyr lleol i ganfod atebion i her yn y byd go-iawn, tra hefyd yn canolbwyntio ar eu datblygiad personol eu hunain - adeiladu sgiliau a lledu gorwelion. Gall busnesau a chyrff lleol ymwneud â’r prosiect drwy amryfal ffyrdd - i gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Elen Bonner, Rheolwr y Prosiect Ymwneud â’r Gymuned, ar 01248 382813 / e.bonner@ pontio.co.uk
CYMUNED XX
CYMUNED
Wrth ddod yn wirfoddolwr gyda Pontio, dewch yn rhan o grŵp croesawgar a chyfeillgar. Mae nifer o gyfleoedd ar gyfer ein gwirfoddolwyr - o stiwardio’n ein perfformiadau i helpu mewn gweithdai plant. Mae hefyd yn golygu y cewch gyfle i weld rhai sioeau gwych a llawer o’r ffilmiau diweddaraf hefyd!
Mae Pontio’n ddiolchgar i’n rhestr gynyddol o noddwyr, partneriaid, budd-ddeiliaid a chefnogwyr, yn cynnwys: Sefydliad Esmée Fairbairn, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach y Gogledd a’r Canolbarth, Ysgol Gyfun Llangefni, Chris Walker – Cyfarwyddwr People Systems International ac ymgynghorydd busnes, Prifysgol Bangor, Gyrfaoedd Cymru a prosiect Teuluoedd yn Gyntaf, STEMnet Cymru, Technocamps, Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, Uned Pobl a Gwaith, GISDA, Cwmni’r Frân Wen, CBAC.
37
Dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Nosweithiau Tsieinëeg
PONTIO’N AWGRYMU
Bob nos Fawrth, 6-8pm Canolfan Gelfyddydau BOCS, Caernarfon
Galwch heibio a phaentio masg opera Tsieineaidd i’ch hun. Agored i bob oed a gallu, rhad ac am ddim.
2-2.30pm Stryd Fawr Bangor Dathlwch y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2014 - Blwyddyn y Ceffyl - gyda pherfformiad Tsieineaidd traddodiadol yn cynnwys Dawns Lew hudolus yng nghanol y dref.
Arddangosfa Mervyn Rowe: Llyfr Brasluniau Tsieina
2.30-4pm Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
Sadwrn 18 Ionawr - 1 Mawrth Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor Yn ôl oherwydd galw mawr, dyma ail gyfle i weld arddangosfa nodedig o luniadau gan yr artist a dylunydd Mervyn Rowe, sy’n byw yn Abermo, a ysbrydolwyd gan ei deithiau diweddar yn Tsieina. Yn rhad ac am ddim.
38
Sadwrn, 1 Chwefror 11am-2pm Siop Pontio, Bangor
Cwrs iaith anffurfiol i oedolion i ddysgu elfennau sylfaenol Mandarin (am un awr), gyda gweithdy celf a chrefft Tsieinëeg i ddilyn bob wythnos. Bydd yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â BOCS drwy ffonio: 01286 671366 neu anfon e-bost at: oriel@bocs.org.uk.
www.bangor.ac.uk/confucius-institute
Am ragor o wybodaeth am unrhyw rai o’r digwyddiadau hyn, edrychwch ar ein gwefan (www.bangor.ac.uk/confuciusinstitute) neu cysylltwch â Sefydliad Confucius: confuciusinstitute@bangor. ac.uk, 01248 383 555.
Dewch i ymweld â’r oriel am brynhawn o ddiwylliant Tsieineaidd wrth i fyfyrwyr o Brifysgol Bangor berfformio cerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd i gyd-fynd ag arddangosfa gelf newydd a thrawiadol Mervyn Rowe. Llyfr Brasluniau Tsieina. Bydd bwyd bys a bawd Tsieineaidd yn cael ei weini o 2.30pm, trwy garedigrwydd Garden Hotel Bangor. Bwyd am ddim, ar sail y cyntaf i’r felin.
Sadwrn 15 & Sul 16 Mawrth, 10am-10pm Prifysgol Bangor £0-£15
Jazz yn Lolfa’r Teras Beth am fwynhau noson o fwyd gwych, cerddoriaeth dyner a gwin llyfn? Ymunwch â ni ar gyfer ein noson jazz yn Lolfa’r Teras.
28 Chwefror & 1 Mawrth – gyda Huw Warren £8/5 gostyngiadau Lolfa’r Teras, Prifysgol Bangor, Prif Adeilad Y Celfyddydau, Bangor, LL57 2DG teras@bangor.ac.uk ✆ 01248 388686 teras.bangor.ac.uk
Gigs Owen Gwesty Victoria, Porthaethwy Sul 2 Chwefror The Stray Birds www.thestraybirds.com Sadwrn 8 Mawrth Henry Priestman www.henrypriestman.com Mercher 26 Mawrth The Once www.theonce.ca
Mawrth 22 Ebrill Bayou Seco www.bayouseco.com Mercher 30 Ebrill The Sweet Lowdown www.thesweetlowdown.ca
Tocynnau i gyd ar gael o Palas Print Bangor
Am fwy o wybodaeth: www.vicmenai.com/functions Kathleen Supové by Miriam Hendel
INTER/actions:
Symposiwm ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol Mae INTER/actions yn symposiwm a gŵyl fach yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig. Gan gydweithredu â Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, Diaphonique a Yamaha. 8pm, Sadwrn: Stockhausen: Mantra (Xenia Pestova, Pascal Meyer, Jan Panis). 8pm, Sul: Arlene Sierra: Urban Birds and music by other composers (Richard Craig, Clare Hammond, Kathleen Supové, Xenia Pestova, Seth Woods). www.bnmf.co.uk www.bangor.ac.uk/music/ interactions
Sadwrn 8 Mawrth, 1pm – 5pm Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Am ddim
Diwrnod Rhyngwladol Merched
PONTIO’N AWGRYMU
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglen gyfoethog o weithgareddau diwylliannol i ogledd Cymru, gyda chyfle i bawb brofi iaith a diwylliant Tsieina a dysgu mwy amdanynt.
Diwrnod i ddathlu bywydau merched Cymru ac 20ed penblwydd yr MA Astudiaethau Merched. www.bangor.ac.uk/ll Diwrnod Rhyngwladol Merched
39
Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw ar siop arlein Prifysgol Bangor (www.shop.bangor.ac.uk) neu prynwch nhw yn Palas Print, Stryd Fawr Bangor: 01286 674631. Tocynnau unigol o £5-£15; Tocynnau Tymor £15-£50 www.ggnb.co.uk
PONTIO’N AWGRYMU
Mercher 12 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
40
Nos a Dydd Madeleine Mitchell (ffidil) Yn ganolbwynt i’r cyngerdd ceir detholiad o ddarnau synhwyrus a gwrthgyferbyniol Ned Rorem (Night Music a Day Music) gyda’r gerddoriaeth yn deffro’n synhwyrau ac yn ein tywys ar daith o’r tywyllwch i’r goleuni. Cefnogir y rhain gyda darnau diweddarach gan John Woolrich (…that is Night), Anthony Powers (In Sunlight), Rhian Samuel (One Charming Night), Hillary Tann (extract from Seven Poems of Stillness), Michael Berkeley: (Veilleuse Night Watch) a pherfformiad cyntaf o ddarn newydd Mared Emlyn (a gomisiynwyd gan Tŷ Cerdd).
Iau 13 Mawrth, trwy’r dydd Neuadd Powis, Prifysgol Bangor & Greek Taverna, Bangor 10:00-12:00 Dosbarth Meistr gyda Madeleine Mitchell (ffidil), Diane Clark (ffliwt), Matthew Forbes (cello) ac Asaf Sirkis 14:00 Gweithdy Jas gyda Phedwarawd Asaf Sirkis
Electroacwstig CYMRU: Portread o Natasha Barrett Mae Natasha Barrett ar flaen y gâd yn ei defnydd creadigol o dechnoleg mewn sawl genre: electronig byw, gosodiadau sain, aml-gyfrwng a cherddoriaeth fyr fyfyr gyfrifiadurol. Canolbwyntia’r cyngerdd hwn ar ei cherddoriaeth acwsmatig, gan gynnwys premiere byd o’i chomisiwn gan GGNB.
16:00 Darlith yr Ŵyl gan Natasha Barrett 19:30 Electroacwstig CYMRU: Portread o Natasha Barrett 22:00 Pedwarawd Asaf Sirkis (Greek Taverna)
Pedwarawd Asaf Sirkis Asaf Sirkis (drymiau/cyfansoddiadau) Sylwia Bialas (llais/cyfansoddiadau) Patrick Bettison (bass/harmonica) Frank Harrison (piano/allweddellau) “Sirkis is not only an inventive drummer but also a composer of rigour, wit and surprising delicacy.” (MOJO, 2008) Mwynhewch ac ymlaciwch i gyfansoddiadau a threfniannau jas yr offerynnwr talentog hwn, sy’n ymuno i chwarae gyda rhai o’r cerddorion jas gorau o gyfandir Ewrop.
Sadwrn 15 Mawrth, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Stockhausen: Mantra
10:00 Dosbarth Meistr Jas Neuadd yr Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor 13:15 Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor Canolfan Siopa Deiniol, Bangor 16:00 Darlith yr Ŵyl: Robert Saxton Prif Darlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor 18:30 Sgwrs cyn y Cyngerdd Prif Darlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor 20:00 Orchestra of the Swan Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor ECNB Canolfan Siopa Deiniol Perfformiad arbrofol awyr agored o gyfansoddiadau newydd a ysbrydolwyd gan Shakespeare gan Katherine Betteridge, Fran Reader, David Draper a Nel Gwynn, ymysg eraill.
Orchestra of the Swan Madeleine Mitchell (ffidil) Simon Desbruslais (trwmped) David Curtis (arweinydd) Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys adwaith cerddorol tri chyfansoddwr i waith llenyddol Shakespeare, gyda dau premiere byd yn nghyfansoddiad newydd Tom Coults a Concerto Ffidil – Llonyddwch Tyner (comisiwn Tŷ Cerdd) gan Guto Pryderi Puw a Shakespeare Scenes gan Robert Saxton. Dewisir gweddill y rhaglen o restr gomisiynu faith y gerddorfa gyda Symffoni Fechan Huw Watkins a Residuum Tansy Davies.
Fel teyrnged i un o brif ddyfeiswyr cerddorol yr Ugeinfed Ganrif, cyflwyna’r ddeuawd piano Pestova/Meyer y campwaith MANTRA (1970) ar gyfer dau biano ac electronig byw gan Karlheinz Stockhausen. Mae’r digwyddiad hwn mewn cydweithrediad â chynhadledd INTER/actions.
PONTIO’N AWGRYMU
Gwˆyl Gerdd Newydd Bangor
Gwener 14 Mawrth, trwy’r dydd Neuadd Prichard-Jones a Prif Darlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor
41
Llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i: Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG neu ymwelwch â www.pontio.co.uk.
Ymunwch â’n rhestr bostio
#
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Cofrestrwch i gael gwybod am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig.
Beth yw eich… Enw: Ebost: Cyfeiriad:
Côd post:
Ffôn Sut hoffwch chi dderbyn y gwybodaeth? e-bost
post
Beth hoffech chi weld yn digwydd yn Pontio?
Amdanoch chi Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i ddarganfod gwybodaeth am ein hymwelwyr yn unig. Oedran: 4-10
11-15 16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+ Rhyw: Gwryw Benyw
Hoffwn hefyd dderbyn diweddariadau o rhestr bostio Grw ˆp Celfyddydau Gogledd Cymru
42
*Mae Grw ˆp Celfyddydau’r Gogledd yn cynnwys Prifysgol Bangor & Pontio, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Bara Caws, Galeri, Canolfan Ucheldre, Venue Cymru, Cwmni’r Fran Wen, Dawns i Bawb, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Oriel Mostyn, Canolfan Gerdd William Mathias, Neuadd Dwyfor, Cyngor Gwynedd ac Oriel Ynys Môn.