Pontio may aug welsh web compressed

Page 1

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor

Rhaglen Artistig Mai-Awst 2017

1


Croeso i Pontio Oriau agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am - 11.00pm Dydd Sul 12.00pm - 8.00pm Ar gau Gŵyl y Banc 1 a 29 Mai, 28 Awst

Ciosg Copa Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am – 5.30pm (yn ystod y tymor yn unig) Bar Ffynnon Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11.00am – 9pm*. * Bydd Bar Ffynnon ar agor tan 11:00pm pan gynhelir perfformiadau gyda'r nos Dydd Sul 12.00pm – 6pm

Bwyty Gorad Dydd Llun – i ddydd Sadwrn 8.30am – archebion bwyd olaf am 8.00pm Dydd Sul 12.00pm archebion bwyd olaf 6pm

Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28

Caffi Cegin Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am – 6.00pm Dydd Sul - Ar Gau

info@pontio.co.uk

Llinellau ffôn ar agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am - 8.30pm Dydd Sul 12.00pm - 6.00pm Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor Pontio_Bangor PontioBangor Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras neu fersiwn clywedol, cysylltwch â ni ar 01248 388 421

Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif elusen cofrestredig: 1141565

Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel

llwyfan

d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—

2

2ch—

c— ch—

1dd— 1d—

r— ph—

n— p—

1c— 1ch—

2c—

a— b—


Cipolwg Pontio Mai-Awst 2017 Mai Sadwrn 6 Sadwrn 6 Sul 7 Mercher 10 Iau 11 Gwener 12 Sadwrn 13 Sadwrn 13 Mawrth 16 Sadwrn 20 Mawrth 23 Iau 25 Gwener 26 Mercher 31 Mercher 31 Mehefin Iau 1 Gwener 2 Iau 8 Gwener 9 Sadwrn 10 Sadwrn 10 Iau 15 Iau 22 Iau 22 Mawrth 27 Iau 29 Gwener 30 Gorffennaf Sadwrn 1 Llun 10 Iau 20 Gwener 21 Sadwrn 22 Sul 23 Iau 27 Awst Iau 3 Llun 7 Mawrth 8 Mawrth 8 Mercher 9 Iau 31 I ddod yn fuan! Iau 5 Hyd Gwener 6 Hyd Sadwrn 28 Hyd Sul 29 Hyd

Amser 7.30pm 1.30pm a 6.30pm 3pm 7.30pm 7pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm 7.30pm 8pm 7.30pm 7pm 7.30pm 8pm 7.30pm 8pm

Mozart a Walton Dawns Prifysgol Bangor – Sioe’r Haf Cyngerdd Coffi Ensemble Cymru RLPO: Bach Concerti NT Live: Obsession The Trials of Oscar Wilde Un Gair Bach Cyngerdd Mawreddog Côr Seiriol Comedy Central Live A King, a Prince, a Church Lleisiau/Voices Y Tŵr Altan Gair o Gariad Andy Parsons – Peak Bullsh*t

Tud 4 5 7 9 11 12 13 14 15 16 17 18 20 21 22

7.30pm 7.30pm 7pm 8pm 2pm 8pm 7.30pm 7pm 7.30pm 8pm 7pm 7pm

Gair o Gariad Cyngerdd Gala Diwedd Blwyddyn Darllediad Byw Gohiriedig: La Traviata - Glyndebourne Al Lewis Band NT Live: Peter Pan Dan Thomas a Phil Cooper A Midsummer Night’s Dream NT Live: Salomé Clasuron yr Haf Comedy Central Live Into the Woods Into the Woods

21 24 25 27 28 29 32 34 35 36 37 37

7pm 7pm 7pm 6pm a 8.30pm 2pm a 7pm 2pm a 7pm 7pm

Y Rhyfedd-Od Darllediad Byw Gohiriedig: Hamlet - Glyndebourne NT Live: Angels in America Part 1 Acelere Acelere Acelere NT Live: Angels in America Part 2

38 39 40 44 44 44 40

7pm 8pm 1pm 3pm 8pm 7.30pm

Darllediad Byw: La Clemenza di Tito - Glyndebourne Llechi Eisteddfod: 9Bach a 'Llechi' Eisteddfod: Rhyfel Troea, Drama Gymraeg Llechi NT Live: Yerma

46 49 48 48 49 50

8pm 8pm 7.30pm 3pm

How To Win Against History How To Win Against History P.A.R.A.D.E P.A.R.A.D.E

51 51 52 52

1


dau a i d d y w g i Rhai o ddddyn gyntaf ein blwy

2


Croeso i dymor yr haf yn Pontio! Wrth i’r dyddiau ymestyn, mae naws yr haf yn ymdreiddio drwy’r arlwy… Bydd Cyngerdd Clasuron yr Haf gan Opera Cenedlaethol Cymru a’u gwestai Rebecca Evans, a chynhyrchiad Midsummer Night’s Dream gan Ballet Cymru yn sicr o swyno. Mae GwleddSYRCASFeast Pontio yn cael ei lleoli’r tro hwn o fewn muriau’r ganolfan – ac yn ganolbwynt i’r unig ŵyl syrcas gyfoes a gynhelir yng Nghymru, mae cynhyrchiad egnïol a lliwgar sy’n llawn campau acrobataidd a cherddorion anhygoel o Dde America. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at groesawu Circolombia…o Bogota i Fangor ac i Gymru am y tro cyntaf erioed.

Daw Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn ôl i Pontio, y tro hwn gyda’r chwaraewr harpsicord byd-enwog Mahan Esfahani, a bydd Music Theatre Wales a’r Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno addasiad operatig hirddisgwyliedig o ddrama Y Tŵr Gwenlyn Parry gan Gwyneth Glyn a Guto Puw. Bydd ystod eang o ffilmiau dyddiol, a chomedi misol y tymor hwn eto, ac i’r rhai ohonoch sydd yn cofio’n ôl i noson LLECHI yn ein rhaglen agoriadol, mae achlysur Eisteddfod Môn yr

haf hwn yn rhoi esgus i ni ail lwyfannu’r gwead hynod hwn o berfformiadau amlgyfrwng sy’n ymateb i thema LLECHI. Curaduwyd y rhaglen gan 9Bach ac fe’i cyflwynwyd i gynulleidfaoedd lleol ac ymwelwyr o Gymru benbaladr. Yn y flwyddyn mae Gwynedd yn cyflwyno achos dros wneud chwareli llechi’r fro yn Ardal Treftadaeth Byd, mae na rywbeth amserol mewn clywed diwylliant cyfoes ardal y llechi yn atseinio eto o fewn muriau theatr Pontio. Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig

2017

Gorffennaf 18-27 July

3


Cerddoriaeth

Nos Sadwrn, 6 Mai 7.30pm Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor

Mozart a Walton Neuadd Prichard-Jones £12/£10/£5 myfyrwyr a phobl ifanc dan 18 Terence Ayebare (bariton) Steven Evans (piano) Chris Collins (arweinydd) Graeme Cotterill (arweinydd) Bydd Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol yn dod at ei gilydd i gyflwyno perfformiad o gantata godidog a hynod gyffrous William Walton, Belshazzar’s

Feast, gyda'r bariton gwych o Uganda, Terence Ayebare. Mae'r cyngerdd yn agor gyda thri o gampweithiau Mozart: y gweithiau corawl swynol Ave verum corpus a Regina Coeli, a’r Concerto afieithus i’r Piano Rhif 9 yn E fflat fwyaf, K.271, gyda'r pianydd lleol Steven Evans.

4


Dawns

Dydd Sadwrn, 6 Mai 1.30pm a 6.30pm Dawns Prifysgol Bangor

Sioe’r Haf Theatr Bryn Terfel £5/£4 gostyngiadau Dawns Prifysgol Bangor yw'r clwb mwyaf yn Undeb Athletau Prifysgol Bangor. Mae'r clwb wrth ei fodd yn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosib ddawnsio a mwynhau eu hunain. Mae dyfalbarhad yr holl ddawnswyr wedi galluogi Dawns Prifysgol Bangor i ddatblygu erbyn heddiw yn dîm dawns sy'n ennill gwobrau cenedlaethol ac

yn cynrychioli'r brifysgol mewn nifer fawr o sioeau, cystadlaethau a digwyddiadau. Dewch i fwynhau perfformiadau gan ddechreuwyr a dawnswyr profiadol mewn jazz, tap, bale, stryd, cyfoes a Lladin a neuadd ddawns, ynghyd â dawnsio Gwyddelig, bwrlesg a swing - i gyd i gyfeiliant trac sain gwych. 5


Bwyd gyda blas o Gymru I archebu: 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk Pontio lefel 2

Byrbrydau sinema, coctels, coffi a mwy!

Bar

Pontio lefel 0

Bagels, wafflau a chacennau wedi eu pobi’n ffres Pontio lefel 3 6 I weld ein horiau agor a’n bwydlenni ewch i www.pontio.co.uk


Cerddoriaeth

Dydd Sul, 7 Mai 3pm Ensemble Cymru

Cyngerdd Coffi Stiwdio Llun: Tom Porteous

£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed Mae Ensemble Cymru wedi cadw’r gorau tan y diwedd gyda’r cyngerdd olaf hwn yn eu Cyfres Gyngherddau odidog 2016-17. Peidiwch â cholli’r cyngerdd hwn gan Ensemble Cymru, fydd yn llwyfannu’r gerddoriaeth siambr orau o Gymru ac ar draws y byd!

Bydd y delynores frenhinol Anne Denholm, ynghyd â’r prif ffliwtydd Jonathan Rimmer a’r feiolydd Lucy Nolan, yn consurio’r byd naturiol i ni gyda Between Earth and Sea gan Sally Beamish a From the Song of Amergin gan y cyfansoddwr o Gymru, Hilary Tann. Hefyd bydd y triawd, gyda’u harddull Debussy, yn crisialu naws delynegol fyfyrgar a hiraethus Elegiac Trio gan Arnold Bax. 7

Bydd y feiolinydd Elenid Owen, a Heather Bills ar y soddgrwth, yn ymuno â ni i berfformio Pedwarawd Ffliwt Rhif 1 yn D fwyaf gan Mozart.


Arddangosfa

Llun: Mar

k Douet (u

chaf ), Io

lo Penri

10 - 29 Mai

Rydym ni yma oherwydd ein bod ni yma Lefel 0 Arddangosfa sy’n cofnodi ‘Rydym ni yma oherwydd ein bod ni yma’, digwyddiad a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2016, lle cymerodd miloedd o wirfoddolwyr ran mewn digwyddiad coffáu cyfoes ar draws y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant Brwydr

y Somme. Comisiynwyd y digwyddiad gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd ei lunio a’i greu gan yr artist Jeremy Deller, enillydd Gwobr Turner, mewn cydweithrediad â 8

Rufus Norris, Cyfarwyddwr y National Theatre. Fe’i cynhyrchwyd gan Birmingham Repertory Theatre a’r National Theatre, mewn cydweithrediad â 23 o theatrau yn y DU, gan gynnwys Pontio.


Cerddoriaeth

Nos Fercher, 10 Mai 7.30pm Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl

Bach Concerti Theatr Bryn Terfel £18/£16 dros 60 /£10 myfyrwyr a rhai o dan 18 Stravinsky Concerto yn D Bach Concerto Harpsicord yn F leiaf BWV1056 Bach Brandenburg Concerto Rhif 5 Bach Concerto Harpsicord yn D leiaf BWV 1052 Stravinsky Danses Concertantes James Clark Cyfarwyddwr/ffidil Mahan Esfahani Harpsicord

Pan drodd Stravinsky at gerddoriaeth y 18fed ganrif am ysbrydoliaeth, tynnodd y beirniaid ei goes gan ddweud ei fod wedi mynd “Nôl at Bach". Mewn gwirionedd, ni fyddai wedi medru gwneud penderfyniad gwell – oherwydd o ddathliadau prysur y Brandenburg Concertos i egni diddiwedd ac arloesedd ei goncertos ar gyfer yr harpsicord, does dim cerddoriaeth fwy pleserus – na chofiadwy – na hyn. Ac mae gennym un o harpsicordwyr mwyaf carismataidd y byd i’w chwarae: Mahan Esfahani. 9

James Clark, Cyd Arweinydd y Gerddorfa, sy’n cyfarwyddo gyda dau o gyfarchion Stravinsky i’r cyfnod Baróc. Yn ystod yr ymweliad bydd cerddorion o’r RLPO yn cynnal gweithdai gyda chynllun Sistema Cymru – Codi’r To


sinema cinema

Sinema i bawb yng nghanol Bangor

1 Sgrin 7 diwrnod yr wythnos 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw

Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28

Cyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein a thrwy raglen fisol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio 10


Nos Iau, 11 Mai 7pm Dangosiad Byw trwy Loeren

Obsession(15) Sinema £12/£10 gostyngiadau Jude Law (The Young Pope, Closer, The Talented Mr Ripley) yw seren y cynhyrchiad llwyfan o Obsession, a ddarlledir yn fyw o Theatr y Barbican yn Llundain. Ivo van Hove (NT Live: A View from the Bridge, Hedda Gabler) sy’n cyfarwyddo’r addasiad newydd hwn i’r llwyfan o ffilm 1943 Luchino Visconti. Mae Gino yn ddyn ar ddisberod ac yn eithriadol o olygus, er ei wisg dlodaidd.

Mewn bwyty ar ochr y ffordd mae'n dod ar draws gŵr a gwraig, Giuseppe a Giovanna. Ni all Gino a Giovanna wrthsefyll yr atyniad rhyngddynt, ac maent yn dechrau perthynas angerddol ac yn cynllwynio i lofruddio ei gŵr. Ond, yn y stori iasoer hon am angerdd a dinistr, ni wna’r drosedd ond eu rhwygo ar wahân. 11

Cynhyrchir y fersiwn llwyfan hon o Obsession gan Barbican Theatre Productions Limited, London and Toneelgroep Amsterdam; fe’i cydgomisiynwyd gan Wiener Festwochen a Les Théâtres de la Ville de Luxembourg; fe’i cyd-gynhyrchwyd gan Holland Festival a David Binder Productions; ac fe’i noddir gan Lysgenhadaeth Teyrnas yr Iseldiroedd.


Drama

Nos Wener, 12 Mai 7.30pm Cyd-gynhyrchiad gan Mappa Mundi a Theatr Mwldan

The Trials of Oscar Wilde Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau

Noson agoriadol orfoleddus The Importance of Being Earnest yn 1895 oedd penllanw gyrfa Oscar Wilde. Lai na 100 diwrnod yn ddiweddarach fe’i cafodd ei hun yn y carchar ac yn fethdalwr, wedi ei ddedfrydu gan y Goron i

ddwy flynedd o lafur caled am wrywgydiaeth. Ond beth ddigwyddodd yn ystod yr achos a beth ddywedodd Wilde? A gafodd ei drin yn llym neu ai fo oedd yn gyfrifol am ei gwymp ei hun? Gan ddefnyddio'r union eiriau a lefarwyd yn y llys, gallwn deimlo sut brofiad oedd bod yng nghwmni athrylith amherffaith - wrth i’r gŵr

12

priod llai na delfrydol hwn gael ei ddarostwng mewn modd cwbl drychinebus i ddinodedd llwyr. Yn addas i oed 14+. Noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol. Llun: Jennie Caldwell

Gan Merlin Holland a John O'Connor


Dydd Sadwrn, 13 Mai 11.30am a 2.30pm M6 Theatre Company yn cyflwyno

Un Gair Bach Stiwdio £6/£20

Teulu

teulu family Birmingham Mail

Tocyn Teulu a Ffrindiau

“The excellent M6"

(4 o bobl, o leiaf un o dan 18 oed)

Stori hyfryd a thyner am gyfeillgarwch, brwydro am rym a byd cyfoethog chwarae creadigol. Rydym yn cyfarfod dau gymeriad sy'n cyd-chwarae – yn archwilio lle newydd, gwrthrychau newydd, yn gwisgo i fyny a chymryd eu tro - ond mae brwydr yn datblygu pan fydd un ohonynt am fod yn UNIG Gapten y llong! Addas i oedran 3+

Lyn Gardner, The Guardian

Dyfeisiwyd y sioe hon gan un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Prydain i gynulleidfaoedd ifanc, sydd eisoes wedi rhoi modd i fyw i gynulleidfaoedd Pontio gyda'r sioe hudolus 'Mavis Sparkle'. Mae Un Gair Bach yn cipio dychymyg plant gyda stori deimladwy i gyfeiliant cerddoriaeth wreiddiol yn cael ei hadrodd gyda dim ond UN gair llafar.

“Magical" The Stage

“Outstanding" Herald Scotland

Yn dilyn y sioe bydd gweithdy creadigol AM DDIM gyda Luned Rhys Parri yn cael ei gynnal y tu allan i’r Stiwdio. Cyfle i fod yn greadigol gyda chardfwrdd, weiar a thâp gludiog, a’r sesiwn wedi ei hysbrydoli gan ‘Un Gair Bach’!


Cerddoriaeth

Nos Sadwrn, 13 Mai 7.30pm

Cyngerdd Mawreddog Côr Seiriol Theatr Bryn Terfel £15 Dewch i ddathlu pen-blwydd Côr Seiriol yn bump ar hugain oed yng nghwmni dau o brif gorau Cymru Côr Seiriol a Chôr Godre’r Aran. Cyflwynydd y noson fydd Nia Roberts, BBC Radio Cymru, sydd newydd dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor. Cewch hefyd

fwynhau a gwerthfawrogi doniau dau ŵr ifanc disglair o’r ardal – Steffan Lloyd Owen, enillydd gwobr Kathleen Ferrier, a Jâms Coleman, enillydd Rhuban Glas Offerynnol Eisteddfod Meifod yn 2015 ac ymgeisydd am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Hydref 2016.

14


Nos Fawrth, 16 Mai 8pm Clwb Comedi Pontio a Comedy Central Live yn cyflwyno

MC: Maff Brown Alistair Williams Andrew Ryan Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Oedran 16+ Ymunwch â ni yn ein Clwb Comedi Misol yng nghwmni comedïwyr ar daith o amgylch Prydain.

Caniateir diodydd yn y stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.

15

Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.


Cerddoriaeth

Nos Sadwrn, 20 Mai 7.30pm Cantorion a Cherddorfa Monteverdi

A King, a Prince, a Church Theatr Bryn Terfel £12/£10 myfyrwyr a rhai o dan 18 G F Handel i George II Zadok the Priest The King Shall Rejoice J S Bach i eglwys Sant Thomas, Leipzig, Cantata 147 Jesu Joy of Man’s Desiring L van Beethoven i’r Tywysog Nicholas Esterhazy, Offeren yn C Charlotte Trepess Soprano Anna Saunders Alto Mark Ellse Tenor Mark Rowlinson Bas Edward Davies Blaenwr John Huw Davies Arweinydd

Fe wnaeth brenin, tywysog ac eglwys elwa ar athrylith tri chyfansoddwr nodedig. Mae Zadok the Priest gan Handel, a gomisiynwyd ar gyfer coroni George II yn 1727, wedi cael ei berfformio ym mhob coroniad ers hynny. Mae Jesu Joy of Man’s Desiring yn rhan o un o’r cantatau a gyfansoddwyd gan Bach i eglwys Sant Thomas yn Leipzig, a chomisiynwyd Beethoven gan y Tywysog Nicholas Esterhazy i gyfansoddi’r Offeren yn C ar gyfer ei lys yn Eisenstadt. 16

Côr siambr sy’n cynnwys tua 40 o gantorion yw Cantorion Monteverdi. Mae ei repertoire eang yn ymestyn o’r Diwygiad Protestannaidd i’r presennol. Ers dros hanner can mlynedd mae’r côr wedi perfformio gweithiau o sawl rhan o’r byd, gan gynnwys rhai nad ydynt erioed wedi eu perfformio yng ngogledd Cymru. Croeso cynnes iawn i Gantorion Monteverdi a'r Gerddorfa ar eu hymweliad cyntaf â Pontio.


Nos Fawrth, 23 Mai 7pm BLAS yn cyflwyno

Lleisiau/Voices Stiwdio AM DDIM ond angen tocyn Darlleniad o "Ddrama i Leisiau" air am air gan fyfyrwyr drama ac iechyd a gofal o Ysgol Friars. Mae’n rhan o broject traws genhedlaeth, dan arweiniad cynllun cyfranogol Pontio, BLAS, gydag Ysgol Friars a Chartref Henoed Plas Hedd. Cafodd 10 myfyriwr gyflwyniad i ddementia gan swyddog hyfforddi’r Ganolfan Datblygu

Gwasanaethau Dementia, Joan Woods, cyn ymweld â’r cartref i ddod i adnabod y preswylwyr dros gyfnod o bum wythnos. Fe recordiwyd y sgyrsiau yma yn y cartref a’u datblygu’n ddrama air am air dan arweiniad Branwen Davies, sy’n sgriptwraig wrth ei chrefft. Cyflwynydd y noson arbennig hon fydd Beti George, sydd wedi

17

gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o ddementia ers i’w gŵr gael gwybod fod ganddo’r cyflwr yn 2009. Bydd y noson yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y project, ymateb gan bobl o Blas Hedd, a sgwrs gyda Branwen Davies a Joan Woods.


Cerddoriaeth a Drama

Nos Iau, 25 Mai 7.30pm Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru

Y Tŵr

Opera newydd wedi'i seilio ar y ddrama gan Gwenlyn Parry

Theatr Bryn Terfel £15/£12/£5 myfyrwyr a rhai dan 18 oed Cyfansoddwr Guto Puw Libreto gan Gwyneth Glyn Yn Y Tŵr cawn stori oesol gyffredin am fywyd a chariad, gan gwmni opera newydd mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig a’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg, yn seiliedig ar waith un o ddramodwyr pwysicaf Cymru. Gan archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd, daw drama enwog Gwenlyn Parry yn fyw unwaith eto, ond, y tro hwn, ar ffurf opera newydd, deimladwy a thelynegol

gan y cyfansoddwr Guto Puw a’r gantores, y gyfansoddwraig a'r dramodydd, Gwyneth Glyn. Cenir yn Gymraeg gydag uwch-deitlau Saesneg Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017. Benyw Caryl Hughes Gwryw Gwion Thomas Arweinydd Richard Baker Cyfarwyddwr Michael McCarthy Cynllunydd Samal Blak Cynllunydd Goleuo Ace McCarron

18

6.15 - 7pm Stiwdio Y Tŵr fel Opera Bydd trafodaeth cyn y sioe gyda'r libretydd Gwyneth Glyn a'r cyfansoddwr Guto Puw, yn ogystal â'r actorion a ddaeth â'r ddrama wreiddiol yn fyw, John Ogwen a Maureen Rhys. Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, fydd yn cadeirio. Bydd y drafodaeth yn cael ei ffrydio'n fyw ar y we. Digwyddiadau dwyieithog, darperir cyfieithu ar y pryd.


“ Tyrd. Mi awn ni i fyny, chdi a fi, law yn llaw hefo'n gilydd, heb ofn, heb ddifaru” 19


Cerddoriaeth

Nos Wener, 26 Mai 8pm

Altan Taith Dathlu'r 30ain

”Altan have never sounded better or tighter”

Theatr Bryn Terfel

The Irish Times

£15/£13 gostyngiadau Mae Altan wedi hen ennill ei blwyf fel y band Gwyddelig traddodiadol gorau a mwyaf blaenllaw i ddod o Iwerddon. Gyda'u recordiadau arobryn wedi eu cynhyrchu'n gelfydd, eu recordiad arloesol, ‘Island Angel’, a aeth i rif 2 yn y Billboard World Music Charts ym 1993, eu cerddoriaeth sy'n amrywio o'r baledi hynafol mwyaf sensitif a theimladwy i riliau a jigiau egnïol, a'u perfformiadau byw llon a swynol, mae Altan wedi cyffwrdd cynulleidfaoedd o Donegal yr holl ffordd i Sydney, Seattle, Tokyo a thu hwnt.

Mae cerddoriaeth Altan yn drwm dan ddylanwad treftadaeth gyfoethog a lliwgar Sir Donegal yng ngogledd orllewin Iwerddon. Mae gan Donegal draddodiad ffidil cryf sy'n sail i ysbrydoliaeth a repertoire unigryw Mairéad Ní Mhaonaigh a Ciaran Tourish. Mae Mairéad hefyd o Gaoth Dobhair (rhanbarth Gaeleg ei iaith), yn ardal y Gaeltacht lle dysgodd lawer o'r caneuon mae Altan wedi eu recordio dros y blynyddoedd.

20

Yn ystod haf 2014, aeth Altan i brifddinas y canu gwlad, sef Nashville. Roeddent yn awyddus i roi cynnig ar ddull newydd, ffres o recordio a myfyrio ar sut maent wedi ehangu eu gorwelion cerddorol yn ystod eu gyrfa, a chyda chymorth Garry bu iddynt gynhyrchu The Widening Gyre. Mae teitl yr albwm yn gyfeiriad at gerdd W.B. Yeats, ‘The Second Coming’. Rydym yn croesawu Altan i Fangor fel rhan o'u Taith Dathlu'r 30ain


Nos Fercher, 31 Mai a Nos Iau, 1 Mehefin 7.30pm Theatr Bara Caws

Gair o Gariad Stiwdio £12.50 Dewch i gynnig llwnc destun i gariadon o bob math... cariadon hen a newydd. Cariad rhwng dau, rhwng dwy, rhwng plant a’u rhieni, rhwng ffrindiau, rhwng perchnogion a’u hanifeiliaid… Dymuna Theatr Bara Caws, mewn cydweithrediad â chwmni Uninvited Guests, a gyda chefnogaeth Pontio,

eich gwahodd i rannu atgofion melys, dwys, doniol neu amwys mewn digwyddiad unigryw. Gyrrwch gais am gân i’r cwmni o flaen llaw gan nodi pam fod y darn hwn o gerddoriaeth mor bersonol i chi. Efallai bydd eich ‘Gair o Gariad’ yn cael ei blethu i gorff y sioe, a rhoi cyfle i bawb rannu profiadau hiraethus, hapus, trist, digrif...

21

Oed: 12+ Wrth archebu’ch tocyn, bydd y swyddfa docynnau’n gofyn am eich cyfeiriad e-bost neu’ch rhif ffôn er mwyn i Theatr Bara Caws gysylltu â chi i ofyn am eich cais am gân. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ymhellach, ac mae modd i chi aros yn ddienw os dymunwch.


Comedi

Nos Fercher, 31 Mai 8pm Off The Kerb Productions yn cyflwyno

Andy Parsons – Peak Bullsh*t Theatr Bryn Terfel £15 Ydych chi'n poeni am eich swydd? Yn poeni am eich teulu? Ydych chi'n poeni amdanoch eich hun? Yn poeni am y gwasanaeth iechyd? Addysg? Newid yn yr hinsawdd? Trydydd Rhyfel Byd? Ydych chi'n poeni am boeni? Sod it! Dewch i gael hwyl am y peth. Mae'n un o'r pethau yr ydym yn ei wneud orau. Ond ydi o? Oedd o’n rhywbeth yr oeddem orau am ei wneud, ond fel popeth arall bellach wedi ei golli? Cymerwch y risg! Rhowch

eich trowsus lwcus a’ch esgidiau parti amdanoch - a dewch am noson allan. Neu dewch allan yn gwisgo bag bin, het silc a chlocsiau. Mi allwn i gyd wneud efo rhywbeth i chwerthin yn ei gylch. Fel y gwelir ar Mock the Week, Live at the Apollo, Q.I. etc. – ac ailddangosiadau ar Dave. 14+ (Canllaw i rieni) Peth iaith gref a chynnwys ar gyfer oedolion

22


“A consistently strong exposer of bullsh*t and a plain-speaking truth-teller through his entire career”

“Cracking adlibbing… a joke-rich rallying call for a better Britain” The Guardian

The Guardian

“Potent live performer… can nail a nonsense with beautiful economy of words”

“Brilliantly funny and insightful” The Times

The Times

23


Cerddoriaeth

Nos Wener, 2 Mehefin 7.30pm

Cyngerdd Gala Diwedd Blwyddyn Neuadd Prichard-Jones £12/£10/£5 myfyrwyr a rhai dan 18 oed Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Corws Prifysgol Bangor Band Pres Prifysgol Bangor Cerddorfa Linynnol Prifysgol Bangor

Ymunwch â ni yn Neuadd PJ ar noson olaf tymor y brifysgol yn ein dathliad blynyddol o gerddoriaeth wych gan ensembles y brifysgol. Gwledd o gerddoriaeth at ddant pawb!

Band Cyngerdd Prifysgol Bangor Cerddorfa a Chôr Cymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor

24


Nos Iau, 8 Mehefin 7pm Glyndebourne (darllediad byw gohiriedig)

La Traviata Sinema £12/£10 gostyngiadau Mae un o operâu mwyaf poblogaidd y byd, a ffilmiwyd yn fyw yn 2014, yn dychwelyd i sinemâu. Mae campwaith Verdi yn adrodd hanes Violetta, a chwaraeir gan Venera Gimadieva, seren y Bolshoi.

Cyfarwyddwr y cynhyrchiad hwn yw Tom Cairns a’r arweinydd tra medrus yw Mark Elder (‘exquisitely conducted’ - The Daily Telegraph), sy'n arwain Cerddorfa Ffilharmonig Llundain. 25


Cerddoriaeth

26


Nos Wener, 9 Mehefin 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Al Lewis Band Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Mae hi’n 10 mlynedd bellach ers i Al Lewis ymddangos am y tro gyntaf ar ein sgriniau teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae Al Lewis Band wedi rhyddhau 3 albwm yn y Gymraeg a chafodd yr albwm diwethaf, Heulwen o Hiraeth, ei enwebu am wobr Albwm y Flwyddyn yn Eisteddfod Meifod 2015. Yn ogystal â’i albymau Cymraeg mae Al wedi rhyddhau 2 albwm Saesneg - In the Wake (2011), a enwebwyd am y Wobr Cerddoriaeth Gymreig, a Battles (2013), lle cafodd y sengl ‘Make a Little Room’ ei hychwanegu at restr chwarae BBC Radio 2. Mae Al wedi cael canmoliaeth

27

a chefnogaeth gan DJs adnabyddus fel Bob Harris, Dermot O'Leary a Janice Long ar BBC Radio 2. Ym mis Rhagfyr 2013 fe ryddhawyd cân Nadoligaidd wedi’i seilio ar waith Dylan Thomas, ‘A Child’s Christmas in Wales’. Fe lwyddodd Al unwaith eto i gael y sengl ar restr chwarae BBC Radio 2 a hon fu’r gân gyntaf erioed gyda geiriau Cymraeg i’w chlywed ar y rhestr chwarae. Yn ogystal â’i waith yn y Gymraeg, mae Al wedi ffurfio band newydd o’r enw Lewis and Leigh efo Alva Leigh o Mississippi ac mae’r ddau ohonynt yng nghanol hyrwyddo eu halbwm cyntaf, sef Ghost.


Music

Dydd Sadwrn, 10 Mehefin 2pm NT Live (wedi ei recordio)

Peter Pan(PG) Sinema £12/£10 gostyngiadau Mae pob plentyn, ac eithrio un, yn tyfu i fyny ... Wedi ei ffilmio'n fyw yn y National Theatre, dyma recordiad o berfformiad o stori boblogaidd a dymunol JM Barrie yn cyrraedd y sinemâu.

Pan mae Peter Pan, arweinydd y Lost Boys, yn colli ei gysgod, mae Wendy bengaled yn ei helpu i'w adfer. I ddiolch iddi hi am ei chymorth, caiff ei gwahodd i Neverland, ble mae Tinker Bell, un o’r tylwyth teg, Tiger Lily a Captain Hook ddialgar yn disgwyl amdanynt. Mae gwledd o ddewiniaeth, cerddoriaeth a hud a lledrith yn dilyn. 28

Mae’r cynhyrchiad rhyfeddol o ddyfeisgar hwn yn bleser pur i blant ac oedolion fel ei gilydd. Sally Cookson (NT Live: Jane Eyre) sy'n ei gyfarwyddo ac mae’n gynhyrchiad ar y cyd gyda'r Bristol Old Vic Theatre.


Comedi

Nos Sadwrn, 10 Mehefin 8pm

Dan Thomas a Phil Cooper Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Yng nghanol oes terfysgaeth mae Dan Thomas yn cyflwyno sioe gomedi am ei fagwraeth ….gan derfysgwyr. Tra oedd plant eraill yn cael eu suo i gysgu i gyfeiliant hwiangerddi, cadwyd Dan ar ddihun gan ddadleuon ei fam dros gyfiawnhad llofruddiaeth wleidyddol a rôl hanfodol milisia arfog, cyn canu “The Guns of the IRA”. Roedd rhieni Dan yn

aelodau o’r Free Wales Army. Comedi am fagwraeth lle nad oedd cyfaddawdu yn opsiwn.

comedi. Mae’r sioe newydd yn adeiladu ar lwyddiant ei sioe Caeredin eleni, “Manic Pixie Dream Boy”.

"A barnstorming frenetic bastard after my own heart. Quality." – Russell Kane

Sioe Gymraeg yw hon.

Phil Cooper yw seren dyfodol comedi Cymreig. Mae’n llais unigryw o’r Rhondda, ond yn bwysicach, mae’n llais unigryw o fyd

29

14+ iaith gref achlysurol.


BLAS yw cynllun cyfranogol Pontio, sy’n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau’r celfyddydau. Rydym yn cynnal gweithdai drama yn Stiwdio Pontio: Bob dydd Llun:

Bob dydd Mercher:

Blwyddyn 3 a 4 5-6pm

Blwyddyn 3 a 4 5-6pm

Blwyddyn 5 a 6 6.15-7.15pm

Blwyddyn 5 a 6 6.15-7.15pm

Blwyddyn 7, 8 a 9 7.30-8.30pm

Blwyddyn 10 - 13 7.30-8.30pm

Ein projectau diweddaraf balletLORENT Sn ow White Cynhaliodd BalletLO RENT glyweliadau ymysg plant lleol i ym ddangos gyda’u dawnswyr proffesiy nol yn eu sioe, Snow White, ym mis Tachw edd y llynedd. Cymerodd yr ymge iswyr llwyddiannus ran mewn gweithdai da wns a symudiad i'w paratoi at weithio gyd a'r cwmni proffesiy nol.

Mae BLAS hefyd yn gweithio yn y gymuned a chydag ysgolion. I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828, neu cysylltwch â Mared Huws, m.huws@bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth.

Cofiwch dio ddefnydwrth #BLAS drydar!

yno: Rhîn BLAS yn Cyflw d gan aelodau Sioe a ddyfeisiwy lleoli mewn ei di we dd BLAS sy 'r dŵr wedi dod ae m gwlad hudol ble ddangosodd 76 i ben yn sydyn. Ym ar y llwyfan, nc ifa l ob ph o blant a igol ei hun. un iad er pob un â'i gym

Ar y gweill: Lleisiau/Voices Mae disgyblion o Ysgol Friars wrthi'n gweithio gyda chartre f gofal Plas Hedd i recordio lleisiau'r preswylwyr er mwyn creu drama air am air (ceir rhag or o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar dudalen 17).

30


31


Dawns

Nos Iau, 15 Mehefin 7.30pm

A Midsummer Night’s Dream Theatr Bryn Terfel £12.50/£10.50 gostyngiadau Mae Ballet Cymru, enillwyr sawl gwobr, yn dychwelyd i Pontio gyda'r fersiwn drawiadol o ddrama fwyaf hudolus Shakespeare. Mae'r addasiad doniol a thwymgalon hwn yn cynnwys coreograffi clasurol bywiog a gaiff ei ddawnsio gan rai o'r dawnswyr gorau. Dehonglir cerddoriaeth lawen Mendelssohn gan y cyfarwyddwr artistig Darius James ac mae'r gwisgoedd disglair, y setiau a'r tafluniad trawiadol yn elfennau allweddol o’r cynhyrchiad. Byd o hud ac anhrefn. Mae Titania, brenhines y tylwyth teg a Puck, y negesydd direidus, yn byw mewn teyrnas tylwyth teg oruwchnaturiol. Mae Bottom a'i “Rude Mechanicals” yn eu

bwtsias yn cyflwyno eu drama enwog "Pyramus and Thisbe". Ac yn olaf, mae’r cariadon, a ddaliwyd mewn gwe gyffrous o gamadnabyddiaeth a dryswch, o'r diwedd yn canfod eu ffordd drwy'r goedwig Athenaidd i gymod bythgofiadwy a llawen. Mae Ballet Cymru yn grŵp ifanc, brwdfrydig o ddawnswyr sy'n ymestyn ffiniau bale clasurol. Gan ddefnyddio straeon pwerus ac oesol mae'r cwmni'n herio ei ddawnswyr i ddehongli rhai o'r cymeriadau gorau mewn llenyddiaeth. Dan gyfarwyddiaeth artistig Darius James, mae'r cwmni'n parhau i ddatblygu ei berthynas â chynulleidfaoedd trwy waith estyn allan hygyrch a pherfformiadau eithriadol a chelfydd.

32


“Impressively able dancers and a choreographer who can make use of every gift they have.”

Photo: Sian Trenberth

The Sul Telegraph on A Midsummer Night’s Dream

33


Drama

Nos Iau, 22 Mehefin 7pm NT Live

Salomé(15) Sinema £12/£10 gostyngiadau Mae'r stori hon wedi cael ei hadrodd o'r blaen, ond erioed fel hyn. Cenedl yn yr anialwch wedi ei goresgyn. Dyn radical o'r diffeithwch ar streic newyn. Merch y bydd ei dawnsio rhyfedd yn newid cwrs y byd.

Mae'r ailadroddiad hwn, sy'n llawn cyffro, yn troi'r chwedl feiblaidd hon ar ei phen, gan roi'r ferch yr ydym ni’n ei galw yn Salomé yng nghanol y chwyldro. Mae'r cyfarwyddwr theatr o fri rhyngwladol, Yaël Farber (Les Blancs), yn 34

tynnu elfennau o sawl adroddiad gwahanol i greu'r cynhyrchiad taer, hypnotig hwn ar lwyfan y National Theatre. ‘Epic. A near-perfect production.’ Guardian (am Les Blancs)


Cerddoriaeth

Nos Iau, 22 Mehefin 7.30pm Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru

Clasuron yr Haf Theatr Bryn Terfel £18 / £16 dros 60 / £12 myfyrwyr a dan 18 oed Rebecca Evans Soprano Paul Charles Clarke Tenor Noswaith o uchafbwyntiau operatig gyda cherddoriaeth gan Puccini, Verdi, Tchaikovsky a Lehar, gan gynnwys detholiadau o

Tosca, La Traviata, Eugene Onegin a The Merry Widow. Bydd hefyd agorawdau disglair o La forza del destino gan Verdi, William Tell gan Rossini a chlasuron poblogaidd eraill.

35

I gyd-fynd â'u hymweliad, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio gydag ysgolion lleol i greu cynnwys digidol wedi ei ysbrydoli gan opera. Ceir blas o’r weithgaredd yma ar y sgrîn yng nghyntedd Pontio ynghyd â gwisgoedd cywrain a phropiau o storfa Opera Cenedlaethol Cymru.


Comedi Drama

Nos Fawrth, 27 Mehefin 8pm Clwb Comedi Pontio a Comedy Central Live yn cyflwyno

Danny McLoughlin I'w gadarnhau Craig Murray Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Oedran 16+ Ymunwch â ni yn ein Clwb Comedi Misol yng nghwmni comedïwyr ar daith o amgylch Prydain.

Caniateir diodydd yn y stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.

36

Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.


Digwyddiad Music

Nos Iau a Nos Wener, 29 a 30 Mehefin 7pm Ysgol Friars

Into the Woods Theatr Bryn Terfel £10 Rydym yn falch o groesawu Ysgol Friars sy'n llwyfannu eu cynhyrchiad cyntaf yn Pontio! Sioe gerdd yw Into the Woods gyda cherddoriaeth a geiriau gan Stephen Sondheim a llyfr gan James Lapine. Sioe gerdd yw hon sy'n plethu ynghyd nifer o chwedlau tylwyth teg y

Brodyr Grimm a Charles Perrault, gan edrych ar ganlyniad dymuniadau ac ymchwiliadau’r cymeriadau. Daw'r prif gymeriadau o straeon Yr Hugan Fach Goch, Jac a'r Goeden Ffa, Rapwnsel, a Sinderela, yn ogystal â nifer o straeon eraill. Mae'r sioe gerdd wedi ei seilio ar stori am

37

bobydd di-blant a'i wraig a'u hymgais i ddechrau teulu, eu hymwneud â gwrach sy'n eu melltithio, a'u cysylltiadau â chymeriadau eraill o lyfrau stori yn ystod eu taith.


Digwyddiad

Nos Sadwrn, 1 Gorffennaf 7pm Stiwdio Dawns Bangor

Y Rhyfedd-Od Theatr Bryn Terfel £12 Y Rhyfedd-Od yw’r sioe ddiweddaraf gan Stiwdio Ddawns Bangor dan arweiniad Ffion Williams. Mae’r Stiwdio yn un ar ddeg oed ac maent yn edrych ymlaen at lwyfannu eu sioe flynyddol am y tro cyntaf yn Pontio, gydag amrywiaeth

o ddawnsiau yn y dulliau Ballet, Modern, Tap, Jazz, Stryd, Disco, Lladin a Chyfoes gan yr aelodau, sydd o ddwy i ddeg a thrigain oed. Estynnir croeso cynnes i bawb.

38


Sinema Music

Nos Lun, 10 Gorffennaf 7pm Glyndebourne 2017 (darllediad byw gohiriedig)

Hamlet Sinema £12/£10 gostyngiadau Bydd yr opera newydd sbon yma yn cael première byd yn ystod Glyndebourne 2017. Caiff trasiedi enwocaf Shakespeare ei haillwyfannu gan Brett Dean, un o gyfansoddwyr pwysicaf ein hoes, gan roi golau newydd

ar yr hanes cyfarwydd o gynllwyn a dial. Cenir y brif ran gan Allan Clayton, sydd wedi swyno Glyndebourne gyda’i berfformiadau yn Albert Herring a The Rape of Lucretia. 39


Sinema

Angels in America Part 1, Millennium Approaches (15) Nos Iau, 20 Gorffennaf, 7pm Part 2, Perestroika(15) Nos Iau, 27 Gorffennaf, 7pm Sinema £12 oedolion/£10 gostyngiadau (pris fesul dangosiad) America yng nghanol yr 1980au. Yng nghanol yr argyfwng AIDS a gweinyddiaeth geidwadol Reagan, mae dinasyddion Efrog Newydd yn ymgiprys â bywyd a marwolaeth, cariad a rhyw, nefoedd ac uffern. Andrew Garfield (Silence, Hacksaw Ridge) sydd yn chwarae rhan Prior Walter, ynghyd â chast sy’n cynnwys Denise Gough (People, Places and Things), Nathan Lane (The Producers), James McArdle (Star Wars: The Force Awakens) a Russell Tovey (The Pass).

Mae'r llwyfaniad newydd hwn o'r ddrama arobryn mewn dwy ran gan Tony Kushner wedi ei gynhyrchu gan Marianne Elliott, cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau Olivier a Tony (The Curious Incident of the Dog in the Night-Time a War Horse). Bydd Part Two: Perestroika, hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar 27 Gorffennaf 2017.

40


41


PabelL rhwng

pedair wal!

Mae Pontio yn falch iawn y bydd Gwledd Syrcas Feast yn dychwelyd yn haf 2017. Yn dilyn llwyddiant y sioeau a gynhaliwyd mewn pabell fawr ar Ffordd y Traeth, (FLOWN gan Pirates of the Carabina yn 2015 a BIANCO gan NoFit State Circus yn 2013) eleni daw'r prif berfformwyr CIRCOLOMBIA yn syth o Bogota i Theatr Bryn Terfel ym Mangor, gan ddod â llond gwlad o heulwen, cynnwrf ac ysbryd parti heintus i drawsnewid y ganolfan yn babell rhwng pedair wal!

Unwaith eto, nod Gwledd Syrcas Feast Pontio fydd cynnwys yr holl gymuned yn y dathliadau, gyda phlant ifanc lleol yn cymryd rhan mewn gorymdaith trwy'r ddinas, Storiel yn cynnal arddangosfa ar thema'r syrcas, dosbarthiadau meistr, gweithdai a digwyddiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf y gwyliau a’r cyfnod yn arwain ato.

Edrychwch ar ein gwefan, Twitter, Facebook ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â rhaglen y wledd syrcas... mi welwn ni chi yno! 42


Bydd Pirates of the Carabina yn preswylio yn Pontio yn ystod mis Gorffennaf, ac yn cyflwyno darn o’u cynhyrchiad newydd R.U.H.M. fel rhan o’r Wledd Syrcas 2017. I gydfynd â hyn bydd y cwmni yn cynnig dosbarthiadau meistr mewn gwrthbwyso a syrcas awyrol i ddawnswyr, ymarferwyr theatr ac artistiaid syrcas proffesiynol a dan hyfforddiant. Rydym hefyd wrth ein boddau’n croesawu yn ôl

Acrojou, a chomisiynau newydd gan Articulture. Bydd Vertical Dance Kate Lawrence hefyd yn perfformio’r darn Yn y Golau a grëwyd drwy gynllun i ddod a’r celfyddydau a gwyddoniaeth at ei gilydd gan SYNTHESIS Pontio mewn partneriaeth â Ray Davies. Bydd y Wledd Syrcas yn rhoi ysbrydoliaeth i dri artist preswyl. Bydd yr artistiaid, sydd wedi cwblhau cwrs sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai yn 43

ddiweddar, yn creu gwaith newydd a gwreiddiol mewn ymateb i olygfeydd a synau’r syrcas. Cadwch lygad ar y cwpwrdd gwydr a'r sgrin yn y mannau cyhoeddus a fydd yn cael eu defnyddio fel llyfr braslunio er mwyn i'r artistiaid gael rhannu eu syniadau a’r gwaith sydd ganddynt ar y gweill; caiff detholiad o'r gwaith ei arddangos yma trwy fis Awst.


Syrcas

Nos Wener, 21 Gorffennaf 6pm a 8.30pm Dydd Sadwrn a Nos Sadwrn, 22 Gorffennaf 2pm a 7pm Dydd Sul a Nos Sul, 23 Gorffennaf 2pm a 7pm

“A sexy tangle of muscular limbs" Evening Standard

“An adrenalin-fuelled mix of strength, skill and daring – a great night out" Time Out

Circolombia

“Non-stop circus party that puts a smile on your face and a spring in your step" The Stage

Theatr Bryn Terfel £15/£10 gostyngiadau Yn Roundhouse Llundain cafwyd perfformiad ysgubol gan Circolombia o'u sioe gyntaf Urban a'u cynhyrchiad diweddaraf, Acelere. Mae Pontio’n falch iawn o ddod â Circolombia i Gymru am y tro cyntaf dros yr haf. Nid cwmni syrcas cyffredin mo hwn. Mae grym noeth y perfformwyr, ynghyd â'u sgiliau rhyfeddol a'u parodrwydd i gymryd risgiau arswydus ar y llwyfan ac i herio grym disgyrchiant yn arwain at berfformiadau eithriadol na fyddwch byth yn eu hanghofio.

Ysbrydolwyd Acelere gan gymunedau amrywiol Colombia ac mae ynddi 13 o berfformwyr mwyaf talentog Colombia, sy'n cymysgu perfformiadau syrcas syfrdanol gyda dawns a thrac sain gwreiddiol. Mae'r rhan fwyaf o'r artistiaid wedi eu hyfforddi ac wedi graddio yn ysgol genedlaethol Circo Para Todos ("Circus for All"). Hon yw’r ysgol syrcas broffesiynol gyntaf yn y byd, ac mae wedi ymrwymo i roi pŵer i blant a phobl ifanc lwyddo er gwaethaf unrhyw rwystrau.

44

Mae rhai o'r perfformwyr syrcas uchaf eu parch yn y byd yn aelodau o'r cwmni ifanc hwn. Maent wedi bod ar daith anhygoel i fod yn rhan o gwmni sydd hyd yn oed yn fwy anhygoel. Mae'r sioe hon yn wych ar gyfer teuluoedd. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried dod â phlant ifanc, dylech fod yn ymwybodol y bydd cerddoriaeth uchel trwy gydol y sioe. 60 munud heb egwyl.


Event

45


Sinema

Nos Iau , 3 Awst 7pm Glyndebourne 2017 (darllediad byw)

La Clemenza di Tito Sinema £12/£10 gostyngiadau Ers y dechrau, mae Glyndebourne wedi bod yn gysylltiedig â Mozart, gan gyflwyno sawl un o operâu’r cyfansoddwr i Brydain am y tro cyntaf. Mae’r tymor sinema 2017 yn dod i ben gyda chynhyrchiad newydd

o La Clemenza di Tito, sydd heb gael ei pherfformio yn Glyndebourne er 1999, ac a fydd yn gyfle i groesawu’r cyfarwyddwr nodedig Claus Guth i Glyndebourne am y tro cyntaf. 46


Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm Cwrdd ag ystod eang o bobl Dysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

Derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau yr ydych yn eu datblygu a phwyntiau XP ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666

47


Pontio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 Yr haf hwn, rydym yn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i ogledd Cymru ac i Ynys Môn. Gan fod un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop ar garreg y drws, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o'r rhaglen ddiwylliannol eleni, gyda digwyddiadau ar y maes, presenoldeb yng Nghaffi'r Theatrau a dau berfformiad arbennig o 'Llechi', sef ffrwyth cydweithio arbennig rhwng perfformwyr lleol a ysbrydolwyd gan thema llechi.

Dydd Mawrth, 8 Awst 1pm, Tŷ Gwerin

Dydd Mawrth, 8 Awst 3pm, Cwt Drama

9Bach a ‘Llechi’

Rhyfel Troea, Drama Gymraeg

Cyfle arbennig i fynd dan groen ‘Llechi’, y cydgynhyrchiad gan 9Bach a Pontio a gafodd ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Ebrill 2015 fel rhan o raglen agoriadol Pontio. Caiff ei ail-lwyfannu yn ystod cyfnod yr Eisteddfod yn Theatr Bryn Terfel, ar 7 a 9 Awst. Mwynhewch ychydig o ganeuon, a holwch 9Bach a’u cyd-berfformwyr am eu ffordd ffres ac arloesol o archwilio arwyddocâd llechi i genhedlaeth newydd.

Darlleniad theatrig o uchafbwyntiau un o ddramâu cynharaf Cymru, Troelus a Chresyd (c.1590). O ganlyniad i ryfel ffyrnig rhwng Troea a’r Groegiaid, a all un ferch oroesi? Ai awdures ei hanffawd ei hun neu ddioddefwraig ddieuog yw Cresyd? Gyda sgwrs sy’n datgelu enaid y ddrama, dirgelwch y dramodydd, a chyd-destun ei chyfnod. Sesiwn holi gyda'r Athro Jerry Hunter a Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Invertigo. Cyflwynir gan Gwmni Theatr Invertigo (cwmni cysylltiol Pontio), a Theatr Genedlaethol Cymru. 48

Dydd Gwener, 11 Awst Tafluniadau digidol o ‘Caban’, project barddoni gan Pontio gydag ysgolion lleol er cof am y diweddar Brifardd Emrys Roberts a’i wraig Megan, yn cael eu dangos o gwmpas y Maes.

Drwy’r wythnos Bydd Llif, project a ddatblygwyd dan gomisiwn Synthesis i ddod â’r celfyddydau a gwyddoniaeth at ei gilydd gan Pontio, yn rhan o arddangosfa TROELLI gan Manon Awst yn Y Lle Celf. Ddydd Iau rhwng 1-3pm cynhelir labordy creadigol Llif.


Cerddoriaeth

Nos Lun, 7 Awst, 8pm Nos Fercher, 9 Awst, 8pm Pontio a 9Bach yn cyflwyno

Llechi Theatr Bryn Terfel £15/£13 dros 60 /£12 myfyrwyr a rhai dan 18 oed Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf fel rhan o dymor agoriadol Pontio yn 2016 a gwerthwyd pob tocyn. Sioe newydd sbon yw Llechi sydd wedi ei hysbrydoli gan hanes Bethesda, sy'n hysbys ledled y byd. Mae'r sioe yn ffrwyth cydweithio rhwng artistiaid gweledol, cerddorol ac artistiaid campau awyr. Mae hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i’r chwarelwyr a oedd yn benderfynol o gael dyfodol gwell i'w plant ac a gyfrannodd eu ceiniogau prin tuag at sefydlu Prifysgol Bangor.

Grŵp gwerin amgen yw 9Bach sy'n teithio'n helaeth ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar cawsant eu henwebu yng nghategori 'Grŵp Gorau' Gwobrau Cerddoriaeth Gwerin Radio 2, yn dilyn cipio gwobr yr 'Albwm Gorau' am Tincian yn 2015. Yn ymuno â 9Bach ar y llwyfan bydd Lleuwen Steffan, Siân James, Caleb Rhys, Côr y Penrhyn, Vertical Dance Kate Lawrence, John Ogwen a'r bardd Martin Daws. 49

Diolch arbennig i Guto ‘Cwm Idwal’ Roberts Ieuan Wyn Nebert Gaynor Elis-Williams Gwen Angharad Gruffudd Mared ac Alan Jones Tim Cumine Storiel Llyfrgell Prifysgol Bangor

Fe'i gwnaed yn bosibl ail-lwyfannu cydgynhyrchiad 9Bach/Pontio drwy gefnogaeth hael Cronfa Bangor.


Music

Nos Iau, 31 Awst 7.30pm NT Live

Yerma(15) Sinema £12/£10 gostyngiadau Mae'r anhygoel Billie Piper (Penny Dreadful, Great Britain) yn dychwelyd i'r rhan a roddodd iddi wobr Actores Orau yr Evening Standard. Yng nghynhyrchiad radical Simon Stone o gampwaith pwerus a dolurus Lorca, caiff dynes ifanc ei gwthio i wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i bob amgyffred yn ei hysfa i gael plentyn. Gwerthwyd pob tocyn ar

"Billie Piper makes a shattering Yerma in Simon Stone’s inspired reworking of Lorca"

"A shatteringly powerful reinvention of a familiar classic" The Independent

The Observer

gyfer y ffenomen theatraidd hon yn yr Young Vic ac mae'r adolygwyr yn ei galw yn 'extraordinary theatrical triumph’ (The Times) ac yn ‘stunning, searing, unmissable’ (Mail on Sunday). Caiff perfformiad Billie Piper yn y brif ran ei ddisgrifio fel ‘spellbinding’ (The Evening Standard), ‘astonishing’ (iNews) a ‘devastatingly powerful’ 50

(The Daily Telegraph). Mae'r hanes wedi ei leoli yn Llundain gyfoes ac mae Piper yn portreadu dynes yn ei thridegau sy'n daer eisiau beichiogi. Mae'r hanes yn datblygu gyda grym elfennaidd at uchafbwynt syfrdanol ac ysgytiol. Sylwer nad oes egwyl yn ystod y darllediad hwn.


I ddod yn nhymor yr hydref

Nos Iau, 5 Hydref, 8pm Nos Wener, 6 Hydref, 8pm Cyd-gynhyrchiad Áine Flanagan Productions a Young Vic

How To Win Against History Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Roedd Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn, yn un o ddynion cyfoethoca'r byd, nes iddo golli'r cyfan trwy ei oferedd anhygoel. Daw’r cymeriad rhyfedd a rhyfeddol yma’n fyw yn sioe gerdd ffyrnig, ddoniol, drasig-ysblennydd, gyhyrog, newydd Seiriol Davies. Roedd

ei pherfformio’n un o binaclau gŵyl y Fringe yng Nghaeredin yn 2016 lle cafodd ganmoliaeth di-ben-draw. Taith Cymru a Lloegr i'w chyhoeddi. Bydd perfformiadau Bangor mewn cydweithrediad â Pontio.

"A work of genius" The Daily Telegraph

"Gleeful, ludicrous - a larky collision of Gilbert & Sullivan and Monty Python" Time Out

"Deliriously entertaining" 51

What's On Stage


I ddod yn nhymor yr hydref

Nos Sadwrn, 28 Hydref, 7.30pm Dydd Sul, 29 Hydref, 3pm

P.A.R.A.D.E. Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Cyflwynir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Marc Rees Mae chwyldro yn yr awyr a’r sioe fwyaf ysblennydd ar droed. Bydd dawnswyr, cerddorion, artistiaid a robot yn uno i ail-fyw llwyfaniad eiconig Parade gan y cwmni bale, Ballets Russes, ynghyd â sgôr arloesol Erik Satie sy’n cynnwys teipiadur, corn niwl a mop!

Dyma gyfle i brofi celfyddyd awyr agored cyn dilyn y dorf a pherfformwyr i’r llwyfan, a throchi eich hun yn y ddau berfformiad dawns fodern, chwyldroadol yma. Ymunwch â’r P.A.R.A.D.E Mewn cydweithrediad â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Dawns i Bawb. Oedran: 8+ (neb dan 2) 52


Bwyd a Diod

Bwyd a Diod Plant Children's Food & Drink

Food & Drink

Prif Cwrs, Pwdin a Diod Main Course, Pudding & Dr ink

ch â YmwelwDiod yn Bwyd a ntio.co.uk o www.p wydlen llawn b in e m a d food an Explore es on g drink pa tio.co.uk n o .p w w w ll menu fu r u o for

£6.50

d Pitsa a Dioin k Pizza & Dr

£4.50Diod

a Prif Cwrsse rink D & r u o Main C

£5.50

Plant Bocs Bwyd nch Box u L ’s n e r d il Ch

.5 £29

k | 01248 383826 Archebu | Bookings: bwydabar@pontio.co.u Mae bwyd a diod yn Pontio’n cael ei weithredu gan Adran Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor Pontio food and drink is operated by Bangor University’s Commercial Services Department

53


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.

54

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.