Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Page 1

YSGOL GWYDDORAU CHWARAEON, IECHYD AC YMARFER

TAFLEN CYRSIAU ISRADDEDIG


PAM ASTUDIO GWYDDORAU CHWARAEON YM MANGOR? Mae dewis lle rydych yn mynd i astudio am y tair i bedair blynedd nesaf yn benderfyniad pwysig, ac yn un mae angen i chi ei ystyried yn ofalus. Credwn fod chwech o bethau allweddol rydych angen eu gwybod: •

Boddhad myfyrwyr

Ansawdd yr addysgu

Y chwaraeon a gynigir

Eich rhagolygon am swydd ar ôl gadael

Ariannu’ch astudiaethau

Opsiynau astudio hyblyg

Bywyd myfyrwyr llawn bwrlwm. Mae Bangor yn lle gwych i fyw. Mae’r ffaith bod y ddinas a'r brifysgol yn fach a’u hawyrgylch yn gyfeillgar yn ei gwneud yn haws i chi wneud llawer o ffrindiau mewn amgylchedd diogel a fforddiadwy. Yn ogystal: •

Y brifysgol yw un o’r lleoedd gorau i fod yn fyfyriwr ynddo (gwefan Llety i Fyfyrwyr)

Mae gan y brifysgol un o’r beichiau gwaith tecaf i fyfyrwyr mewn unrhyw brifysgol yn y DU (Arolwg Profiad Myfyrwyr yn The Times Higher Education)

Fel rhan o raglen buddsoddi miliynau o bunnoedd mae neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr yn cael eu hadeiladu mewn lleoliadau cyfleus ar hyd a lled y ddinas. Mae neuaddau Bangor yn chweched yn y DU am ansawdd y llety ac yn enwog am y golygfeydd rhagorol o fynyddoedd Eryri.

Bydd adeilad newydd Pontio yn cynnig theatr, theatr stiwdio, sinema, stiwdio gynllunio, cyfleusterau addysgu a dysgu, Undeb y Myfyrwyr, caffis a llawer mwy.

Enillodd Undeb y Myfyrwyr Bangor y wobr ‘Undeb y Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn' yng ngwobrau Undeb Myfyrwyr Cymru 2014.

Gan gadw'r rhain mewn cof dyma pam rydym yn meddwl y dylech ystyried Bangor. Rhagorol o ran boddhad myfyrwyr. Mae'r ysgol yn bedwerydd drwy'r DU o ran boddhad myfyrwyr (ymhlith Ysgolion Gwyddorau Chwaraeon) yn y Complete University Guide 2015. What I love about my course is that I am actually studying a subject that I am passionate about" Susannah Richmond, Year 2, Sport, Health and Exercise Science


Rhagoriaeth mewn Addysgu ac Ymchwil. Ym Mangor, rydym wedi bod yn dysgu graddau o ansawdd uchel i israddedigion ers bron i 40 mlynedd. Yn ystod yr amser hwn rydym wedi denu staff academaidd gorau'r byd sydd wedi helpu i greu rhai o'r rhaglenni gradd gwyddorau chwaraeon gorau yn y DU. Cefnogir ein holl addysgu gan ymchwil rhagorol o safon ryngwladol. Felly fel myfyriwr ym Mangor byddwch yn cael addysg wych gan bobl sy'n arweinwyr yn eich maes astudio. "Mae Bangor yn cynnig y cyrsiau gwyddorau chwaraeon ac awyr agored gorau yn y DU! Rwy’n wir mwynhau’r cyfuniad o waith academaidd a sesiynau ymarferol yn yr awyr agored." Chris ScottCombes, Blwyddyn 3, Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) Mae’r Ysgol yn derbyn tua 150 o israddedigion bob blwyddyn felly rydym yn llawer llai na nifer o ysgolion gwyddorau chwaraeon mewn prifysgolion eraill. Mae pawb yn adnabod ei gilydd ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o’r

adrannau mwyaf cyfeillgar a chroesawgar mewn prifysgol gyfeillgar. Mae gennym bolisi 'drws agored' fel y gallwch ddewis tiwtorialau gydag unrhyw aelod o'n staff. Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored ym Mangor. Ein profiad ni yw bod y rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn ogystal â dysgu amdanynt. Mae gan y Brifysgol nifer o glybiau chwaraeon a chymdeithasau poblogaidd iawn, a mwy na thebyg dyma'r lle gorau yn y DU i astudio os ydych yn mwynhau chwaraeon awyr agored anturus. Mae ein lleoliad unigryw rhwng Ynys Môn, y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri yn golygu bod yma gyfleoedd mynydda, rhedeg, dringo, rhwyfo, caiacio a hwylio ar riniog ein drws. Fel myfyriwr bydd gennych fynediad at hynny i gyd, yn ogystal â'n cyfleusterau chwaraeon a hamdden helaeth. •

Ym mis Hydref 2013, enwyd Bangor gan Gyngor Mynydda Prydain fel un o'r deg prifysgol gorau ar gyfer dringwyr a cherddwyr.


“Rwyf wrth fy modd â'r ardal o gwmpas y brifysgol, sy'n rhoi amser i mi fwynhau chwaraeon awyr agored yn rhwydd.” John Smith, Blwyddyn 3, Gwyddor Chwaraeon

Roedd Clybiau a Chymdeithasau Bangor yn chweched drwy'r DU (WhatUni? Student Choice Awards, 2014)

Fel rhan o'n rhaglen buddsoddi barhaus, mae'r ganolfan chwaraeon, Canolfan Brailsford, a gafodd ei hadnewyddu a'i hymestyn yn ddiweddar yn cynnwys neuaddau chwaraeon, campfeydd, ystafelloedd codi pwysau a chardiofasgwlaidd, cyrtiau sboncen o safon ryngwladol, wal ddringo 'Livingstone', dôm chwaraeon a chaeau chwarae awyr agored.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o brifysgolion, yma ym Mangor mae’n rhad ac am ddim i ymaelodi â’n holl glybiau a chymdeithasau, felly nid ydych yn talu unrhyw danysgrifiadau drud.

Rhowch hwb i'ch rhagolygon am swydd. I'ch helpu i fynd ymhellach gyda'ch gradd o Fangor, gellwch ddatblygu sgiliau ychwanegol, ennill cymwysterau a chwblhau profiad gwaith sy'n berthnasol i'ch gradd a'ch gyrfa at y dyfodol. Mae hyn yn golygu eich bod nid yn unig yn cael gradd o'r safon uchaf, ond bod gennych hefyd CV gwell sy'n dangos y sgiliau trosglwyddadwy rydych eu hangen i ragori yn y farchnad swyddi gystadleuol.

Mae 95% o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn naill ai'n gweithio neu mewn astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio (Gwyddor Chwaraeon, UniStats 2013)

Yn y 10 uchaf yn y DU am fyfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon sy'n ennill graddau dosbarth cyntaf neu 2.1

Cydnabyddir Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU.

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn agored i'r holl fyfyrwyr. Mae'n cydnabod ac yn cofnodi'n ffurfiol eich holl weithgareddau allgyrsiol a chydgyrsiol, yn gwella eich CV ac yn sicrhau y cewch y gwerth gorau o'ch cyfnod yma. “Cefais nifer o wahanol gyfleoedd i wella fy CV... o ddysgu cysyniadau damcaniaethol i fodiwl am sgiliau portffolio...sy'n rhoi mantais i fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer mewn marchnad swyddi gystadleuol.” Ben Price, enillydd Gwobr Cyflogadwyedd Bangor 2014


Hyblygrwydd yn y ffordd rydych yn astudio. Mae'r ystod eang o raddau a gynigir gennym yn golygu bod gennych lawer o ddewis: •

Caiff graddau MSci eu hastudio dros bedair blynedd sy'n eich galluogi i gael cymhwyster ar lefel Meistr a ariannir trwy eich benthyciad myfyriwr (yn wahanol i'r llwybr traddodiadol o radd tair blynedd a ddilynir gan gwrs MSc un flwyddyn a hunan-gyllidir gan amlaf).

Graddau BSc Anrhydedd yw'r ffordd fwy traddodiadol o astudio dros dair blynedd.

Gradd sylfaen a gynigir mewn partneriaeth â Choleg Menai (ein coleg addysg bellach lleol). Os byddwch yn cwblhau gradd sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i wneud cais am ein gradd dilyniant un flwyddyn.

Mae graddau dilyniant yn troi eich gradd sylfaen (neu HND o rywle arall), yn radd BSc Anrhydedd mewn Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored).

Mae Graddau BSc Anrhydedd ar y Cyd n cyfuno Gwyddor Chwaraeon neu Addysg Gorfforol gydag amrywiaeth o bynciau yn cynnwys marchnata, astudiaethau busnes ac ieithoedd.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein graddau sylfaen, dilyniant neu gydanrhydedd, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn falch iawn o'ch helpu. Ariannu’ch astudiaethau. Rydym yn cynnig nifer o ffyrdd i'ch helpu i ariannu eich astudiaethau ac i wneud y defnydd gorau o'ch arian. •

Bangor yw "un o’r lleoedd rhataf ym Mhrydain" i fod yn fyfyriwr. (The Independent's A-Z of Universities and Higher Education Colleges).

Gall y brifysgol eich helpu i gael gwaith rhan-amser tra byddwch yma (trwy’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyfleoedd) ac mae cymorth ariannol ar gael. Ewch i’r tudalennau Cyllid Israddedigion ar wefan y brifysgol am ragor o wybodaeth.

Mae ein hopsiwn MSci newydd yn golygu y gellwch ariannu eich gradd a chymhwyster lefel Meistr gyda'ch benthyciad myfyriwr.


PA GWRS DDYLWN EI DDEWIS? Bydd pa radd a ddewiswch yn dibynnu ar eich diddordebau penodol a pha yrfa y gobeithiwch ei dilyn.

MSci/BSc Gwyddor Chwaraeon

Ffocws blaengar cymhwysol ar wella perfformiad

MSci/BSc Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Ffocws cymhwysol ar sut y gall ymarfer fod yn fuddiol i adferiad clinigol a heneiddio’n iach

MSci/BSc Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer

Ffocws seicolegol cymhwysol ar ddeall profiad ac ymddygiad mewn chwaraeon ac ymarfer

MSci/BSc Gwyddor Chwaraeon (ODA)

Elfennau cymhwysol a galwedigaethol i gefnogi dealltwriaeth o weithgareddau awyr agored a ffisioleg amgylcheddol

Ffocws eang cymhwysol gydagelfennau BSc Chwaraeon, Iechyd yn cysylltu chwaraeon, iechyd ac addysg ac Addysg Gorfforol (SHAPE) gorfforol BSc Gwyddor Chwaraeon (addysg gorfforol)

Elfennau cymhwysol a galwedigaethol i ganolbwyntio ar ennill sgiliau a pherfformiad technegol mewn addysg gorfforol

FD/BSc Gwyddor Chwaraeon Cefndir eang ym mhob maes gwyddorau chwaraeon ac addysg awyr agored. (Hamdden Awyr Agored)

Pa bynnag gradd a ddewiswch, rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn sgiliau perfformiad ac ymchwil. Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn astudio modiwlau sydd â’r nod o ddatblygu dull annibynnol at ddysgu a’ch paratoi gydag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy.


COURSE DETAILS Cyrsiau

Cod UCAS FD/BSc

Cod UCAS MSci

Gwyddor Chwaraeon

C600

TBC

Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

CB69

TBC

Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer

C680

TBC

Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored)

C602

TBC

BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol

C650

BSc Gwyddor Chwaraeon (Addysg Gorfforol)

CX6H

FD Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored)

26NC

BSc Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored) - dilyniant

C605

Hyd y cyrsiau: • Gradd MSci - 4 blynedd • Gradd BSc Anrhydedd - 3 blynedd. • Gradd sylfaen - 2 flynedd • Gradd dilyniant - un flwyddyn (yn ychwanegol i'n gradd sylfaen neu FD addas arall). • Graddau BSc Anrhydedd ar y Cyd gydag iaith - 4 blynedd


GOFYNION MYNEDIAD • Cyrsiau MSci/BSc – 340 – 260 pwynt ar raddfa UCAS (yn dibynnu ar y cwrs penodol), o lefelau A/AS (gydag o leiaf 180 ar A2); Scottish Highers; Irish Leaving Certificate; Diploma Cenedlaethol BTEC mewn pwnc perthnasol. Ystyrir pob pwnc, ac eithrio Lefel A mewn Astudiaethau Cyffredinol. • Cymhwyster TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg, neu gyfwerth. • Gellir mynd yn syth i Flwyddyn 2 gyda HND perthnasol neu radd sylfaen. • Rydym hefyd yn cydnabod cymwysterau eraill, yn cynnwys y Bagloriaethau Cymreig a • • Rhyngwladol. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cymwysterau rydych yn astudio ar eu cyfer. • Rydym yn croesawu cymhlethdod bywyd ac yn falch o ystyried myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad astudio diweddar, neu brofiad perthnasol arall, yn ôl eu teilyngdod unigol. • Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) - Os ydych yn gwneud cais am gwrs sy'n cynnwys elfen o weithgareddau awyr agored, – mae'n rhaid i chi hefyd ddangos ymrwymiad i weithgareddau awyr agored (e.e. profiad ymarferol perthnasol gyda dogfennau i gadarnhau hynny, Gwobr Dug Caeredin neu statws hyfforddwr cymwysedig). Eisiau gwybod mwy? Cam cyntaf da yw mynd i dudalennau gwybodaeth am y cwrs sydd ar y we: www.bangor.ac.uk/sport/courses.php.en Ar ôl hynny, pam na ddewch draw yma i’n gweld? Mae gan Fangor gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da gyda Manceinion, Lerpwl (y ddwy ddinas tuag awr a hanner i ffwrdd), Birmingham, Llundain (tair awr ar y trên) a Dulyn/Dun Laoghaire ar y fferi gyflym o Gaergybi. Mae sawl cyfle i ymweld trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys Diwrnodau Agored y Brifysgol yn yr haf a’r hydref, a Diwrnodau Agored Ysgolion – a gynhelir rhwng mis Chwefror ac Ebrill. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais drwy UCAS fe gewch wahoddiad i ddod.

Ffôn:01248 388256 E-bost: shes.admissions@bangor.ac.uk Dilynwch SHES ar @SportSciBangor

www.bangor.ac.uk/sport

Please note: the University makes all reasonable efforts to ensure that the information in this booklet is correct at the time of printing.

39180 • 3/15

Fel arall, cysylltwch â: Derbyniadau, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.