1 minute read
CYD-DESTUN DYNGAROL
Er bod y mewnlifiad o ffoaduriaid sy'n cyrraedd Gwlad
Pwyl wedi arafu'n sylweddol ers Ebrill/Mai, a gyda llawer o sefydliadau'n cau eu mannau cymorth ar y ffin, rhagwelir y gallai nifer y ffoaduriaid gynyddu eto wrth i'r gaeaf agosáu a'r tywydd droi'n oerach. Yng nghyd-destun cynnydd byd eang mewn prisiau ac argyfwng ynni, gall ffoaduriaid o'r Wcráin benderfynu teithio i Wlad Pwyl a gwledydd eraill cyfagos wrth iddynt geisio amodau byw gwell yn ystod y cyfnod oer.
Adroddir bod aelodau o'r gymuned Roma sy'n ffoi o Wcráin yn wynebu gwahaniaethu wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig tai. Mae unigolion o wledydd trydydd, yn arbennig tu allan i Ewrop, hefyd yn cael eu gwahaniaethu – yn enwedig ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Belarwsia, lle bu adroddiadau o wthio'n ôl a thorri hawliau dynol eraill ffoaduriaid sy'n ceisio mynd i Wlad Pwyl.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Gan fod Gwlad Pwyl wedi profi'n amgylchedd rheoledig iawn sy'n newydd i ymateb dyngarol ar y raddfa hon, mae'r broses recriwtio staff dyngarol wedi bod yn gymhleth ac yn heriol. Er mwyn lliniaru'r risgiau o ddiffyg staff technegol parhaol, gofynnwyd am adnoddau ychwanegol gan dimau ymchwydd i lenwi'r bylchau a rheoli'r ymateb.
7.5 MILIWN
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
1.4 MILIWN O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru yng Ngwlad Pwyl ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
40% O
Ffoaduriaid
yn byw gyda theuluoedd lletyol
41% O
Ffoaduriaid
yn byw mewn llety wedi'i rentu
Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan