1 minute read
CYD-DESTUN DYNGAROL YM MOLDOFA
Mae'r rhan fwyaf o ffoaduriaid o'r Wcráin yn dod o oblast Odessa ac wedi mynd i mewn i'r wlad drwy'r trefi a'r pentrefi sydd ar y ffin, sef Palanca, Tudora ac Otaci. Mae'r nifer uchaf ohonynt yn y brifddinas Chisinau a Balti, sef ail ddinas fwyaf Moldofa yn y gogledd. Nid yw'r canolfannau swyddogol eto'n llawn gan fod y mwyafrif o ffoaduriaid yn byw gyda theuluoedd Moldofaidd neu yn y cymunedau lletyol.
Er mwyn ymateb i anghenion sylfaenol ffoaduriaid, sefydlodd awdurdodau Moldofa 90 o Ganolfannau Llety Ffoaduriaid ar draws y wlad gan ddarparu llety a phrydau poeth i ffoaduriaid. Fodd bynnag, mae darparu bwyd i ffoaduriaid yn y canolfannau hyn yn faich enfawr ar y gyllideb Fwrdeistrefol a Llywodraethol yn y tymor hir, yn enwedig gan y rhagwelir y bydd cyfraddau tlodi a chwyddiant yn cynyddu ym Moldofa ac mae angen adnoddau ar y canolfannau i gefnogi eu hymdrechion.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Her allweddol y mae'r aelodau wedi ei hwynebu ym Moldofa yw gweithgareddau'n cael eu dyblygu gan sefydliadau eraill sy'n cynnig gwasanaethau tebyg. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae aelodau a'u partneriaid lleol wedi bod yn cyfathrebu'n gyson â'r weinyddiaeth leol a rheolwyr y Canolfannau Llety Ffoaduriaid.
693,000
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
95,000 O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru ym Moldofa ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
38% O FFOADURIAID
yn byw gyda theuluoedd lletyol
34% O FFOADURIAID
yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan
WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA MOLDOFA HWNGARI