1 minute read
CYD-DESTUN DYNGAROL YN RWMANIA
Er ei bod yn ymddangos bod uchafbwynt yr argyfwng ffoaduriaid yn Rwmania wedi mynd heibio, gyda'r rhan fwyaf o ganolfannau dros dro bellach wedi cau, mae Wcrainiaid sydd wedi penderfynu aros yn y wlad yn parhau i wynebu rhwystrau i gwrdd ag anghenion sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.
Nid yw Tŷ Yswiriant Cenedlaethol Rwmania wedi dyrannu digon o adnoddau eto i alluogi ffoaduriaid Wcreinaidd i gael eu cynnwys yn eu cynlluniau blynyddol a chael mynediad at wasanaethau meddygol. Nid yw meddygon teulu wedi cael eu had-dalu ar gyfer ymgynghoriadau gyda ffoaduriaid, gan olygu eu bod yn amharod i ddarparu cymorth pellach. Mewn ysgolion, mae plant ffoaduriaid yn cymryd rhan fel 'arsylwyr' ac ni fyddant yn cael eu cofrestru'n ffurfiol nes eu bod yn gallu siarad Rwmaneg. Nid yw buddion diogelu cymdeithasol ar gael i lawer o ffoaduriaid oherwydd nad yw llywodraeth Rwmania yn gallu asesu a dilysu incwm ymgeiswyr sy'n ffoaduriaid. Mae hyn wedi gadael bylchau difrifol yn y gwasanaeth i ffoaduriaid, ac mae cyrff cymdeithas sifil yn parhau i'w llenwi.
CYD-DESTUN GWEITHREDOL
Mae bylchau sylweddol yn parhau i fod mewn rhaglenni amddiffyn, gyda menywod, pobl ifanc ac aelodau o'r gymuned Roma mewn peryg dirfawr o drais a masnachu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu yn erbyn y gymuned Roma yn parhau i fod yn broblem yn Rwmania. Mae'r aelodau'n lliniaru'r risg hon drwy sicrhau bod partneriaid a gwirfoddolwyr yn mabwysiadu polisi dim goddefgarwch os bydd ymddygiad gwahaniaethol mewn llochesi neu ganolfannau, ac mae rhai aelodau'n gweithio gyda sefydliadau dan arweiniad Roma sy'n cefnogi menywod Roma i hunan-eirioli drwy ddarparu sesiynau briffio ar ddeddfwriaeth leol sy'n gysylltiedig â thrais yn y cartref a gwahaniaethu.
1.5 MILIWN
O BOBL YN CROESI'R FFIN
(dyddiad: 15/11/22)
90,000 O FFOADURIAID
o Wcráin wedi'u cofrestru yn Rwmania ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)
38% O FFOADURIAID
gyda theuluoedd lletyol
27% O FFOADURIAID
yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro