1 minute read

YMATEB DEC

Andreea Câmpeanu/DEC

Ffoaduriaid o Wcráin sy'n byw mewn cymunedau lletyol ar hyn o bryd yn arwyddo papurau i dderbyn pecynnau bwyd a hylendid a ariennir gan DEC ac sy'n cael eu darparu gan aelod DEC Action Against Hunger a'i bartner Communitas yn nwyrain Moldofa.

18% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

10 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL

£1,382,139

MOLDOFA: GWARIANT YN ÔL SECTOR

25% Amddiffyniad

22% Dŵr, glanweithdra a hylendid

7% Arian parod amlbwrpas

5% Addysg

1% Lloches

1% Adeiladu capasiti

© Andreea Câmpeanu/DEC

172,100 O BOBL

WEDI DERBYN PRYDAU POETH A PHECYNNAU BWYD

5,200

O BOBL

27,400

O BOBL wedi derbyn pecynnau hylendid sy'n cynnwys eitemau fel matresi, tywelion, dillad, powdr golchi a deunyddiau hylendid

600 O BLANT YSGOL wedi derbyn bagiau cefn sy'n cynnwys deunyddiau addysgol

6,600

O BOBL wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol

3,700

O BOBL wedi derbyn cymorth cyfreithiol gan ddesgiau cymorth cyfreithiol symudol

CYD-DESTUN DYNGAROL YN HWNGARI

Mae Hwngari yn parhau i fod â pholisi ffin agored cyffredinol ar gyfer Wcrainiaid ac mae'n wlad trawstaith a chyrchfan. Er bod ceisiadau am Amddiffyniad Dros Dro yn dal i gael eu cyflwyno, mae nifer yr ymgeiswyr yn gostwng yn sylweddol.

Mae ffoaduriaid sy'n cyrraedd o Wcráin yn cael eu cyfeirio at lety tymor byr mewn cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu gyda rhwydweithiau gwirfoddol. Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng economaidd parhaus a chwyddiant esgynnol, mae dod o hyd i lety fforddiadwy i ffoaduriaid sy'n setlo yno yn her sylweddol. Ynghyd â hyn, yn aml nid yw'r drafodaeth gyhoeddus yn Hwngari wedi bod yn groesawgar i ffoaduriaid; mae llywodraeth Hwngari hyd yn oed wedi annog pobl i beidio â chefnogi ymyriadau ar sail arian parod

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Yn Hwngari, her gyffredinol i gefnogi'r rhai mwyaf bregus oedd y diffyg cydlyniad yn y system ymateb. Mae awdurdodau lleol a'r llywodraeth wedi cymryd agwedd ymarferol iawn tuag at yr argyfwng ac wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb i gyrff anllywodraethol, sy'n golygu bod partneriaid wedi gorfod ceisio cydlynu'r rhai sy'n cefnogi ffoaduriaid. Mae hyn wedi cael effaith negyddol o ran sicrhau y gellir cefnogi pawb sydd angen cymorth yn effeithiol, ond mae aelodau'n gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn cyd-weithio gan gynnwys gyda sefydliadau a phartneriaid eraill i gyrraedd pobl mewn angen.

1.7 MILIWN

BOBL YN CROESI'R FFIN

(dyddiad: 15/11/22)

31,000 O FFOADURIAID

o Wcráin wedi'u cofrestru yn Hwngari ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)

41% O

Ffoaduriaid

yn byw mewn llety wedi'i rentu

31% O FFOADURIAID

yn byw mewn safleoedd casglu/cynlluniedig

Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan

This article is from: