1 minute read

CYD-DESTUN DYNGAROL YN WCRÁIN

Mae ymosodiadau, taflegrau a bomiau yn dal i fod yn gyffredin ar draws Wcráin wrth i'r gwrthdaro barhau.

Mae ysgolion yn parhau i gau wrth i’r ymosodiadau a’r ffrwydradau barhau. Mae'r difrod i seilwaith critigol Wcráin, yn enwedig y seilwaith ynni, wedi cael effaith sylweddol ar pobl gyffredin.

Yn ddiweddar mae cannoedd o drefi a phentrefi wedi colli pŵer, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Sumska ac oblastau canolbarth Dnipropetrovska.

Mae'r Llywodraeth wedi gofyn unwaith eto i ddinasyddion gyfyngu ar eu defnydd o drydan, yn enwedig yn ystod yr oriau brig.

Ddiwedd mis Medi, cynhaliodd swyddogion Rwsia refferenda ar gyfeddiant y rhanbarthau canlynol o Wcráin – Donetsk, Luhansk, Kherson a Zaporizhzhia. Mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn datgan bod y refferenda honedig a’r cyfeddiant o'r pedwar oblast Wcráiniaidd yn anghyfreithlon.

Y brif flaenoriaeth i ddyngarwyr sy'n gweithredu yn y wlad yw paratoi 2.4 miliwn o ddinasyddion ar gyfer y gaeaf caled sydd o'u blaenau. Mae’r her yn arwyddocaol gan fod llawer o'r wlad yn brwydro heb bethau angenrheidiol fel trydan, ac mewn rhai mannau, dŵr. Mae'r dinistr parhaus o gartrefi ac adeiladau yn achosi dadleoli ac angen dyngarol parhaus.

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Gyda defnydd o ynni yn her sylweddol ac adnoddau yn brin yn Wcráin, lliniarodd aelodau hyn drwy roi cymorth ariannol i boblogaethau yr effeithiwyd arnynt yn ddigidol; hysbysebasant y cynllun drwy gyfryngau cymdeithasol a defnyddio ffurflen gais ddigidol i gasglu data cofrestru yn hytrach na defnyddio papur. Yn yr un modd, gan mai ond dim ond 15 munud roedd hi’n ei gymryd i gofrestru, lleihawyd ar y defnydd o dabledi, dyfeisiau ac egni yn sylweddol.

7.8 MILIWN

O Ffoaduriaid Wedi Ffoi

O Wcr In

(dyddiad: 16/11/22)

6.5 MILIWN o bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (PDF)

4.29 BILIWN gofyniad cyllido ar gyfer y tu mewn i Wcráin a nodwyd gan asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

1.85

BILIWN gofyniad cyllido ar gyfer y gwledydd cyfagos a nodwyd asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

This article is from: