APÊL DDYNGAROL WCRÁIN - Adroddiad chwe mis

Page 4

Sut mae rhoddion yn helpu
– Awst 2022 Published January 2023 Cyhoeddwyd Ionawr 2023
APÊL DDYNGAROL WCRÁIN Adroddiad chwe mis Mawrth

APÊL DDYNGAROL DEC WCRÁIN

LANSIWYD 3 MAWRTH 2022 | DIWEDDARIAD 6 MIS

Mae ymateb cyhoedd y DU yn wyneb erchyllterau'r gwrthdaro yn Wcráin wedi gwneud Apêl Ddyngarol Wcráin yn un o'r mwyaf yn hanes DEC, sy'n ymestyn yn ôl 60 mlynedd. Cefnogodd miliynau o bobl ar hyd a lled y wlad yr apêl, drwy decstio arian, roi arian trwy ein gwefan, fynychu digwyddiadau codi arian neu ymgymryd â heriau noddedig. Daeth cymunedau, busnesau, cyrff chwaraeon, sefydliadau celfyddydol a phobl o bob cefndir at ei gilydd, i gyd wedi'u hysbrydoli i weithredu.

Mae elusennau sy'n aelodau o DEC wedi ymateb i'r her o ddiwallu'r anghenion dyngarol eang ac amrywiol, ac mae maint y rhoddion wedi caniatáu iddynt gyrraedd miliynau o bobl gyda chymorth hanfodol. Ni fu'r ymateb heb ei heriau wrth gwrs. Ond er hynny maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd nifer fawr o bobl sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro gyda chymorth hanfodol.

Hoffai DEC dalu teyrnged i ddewrder anhygoel ac ymrwymiad y gweithwyr cymorth a'r gwirfoddolwyr ar lawr gwlad, y rhan fwyaf ohonynt yn Wcrainiaid sydd wedi parhau â'u gwaith hynod bwysig mewn amodau hynod o anodd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cymaint.

Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar y gwaith a wnaed gan yr 13 o'n helusennau sy'n aelodau ac sy'n gweithio yn Wcráin a gwledydd cyfagos gan ddefnyddio cronfeydd DEC yn chwe mis cyntaf yr ymateb a chyrraedd miliynau o bobl. Yn anffodus mae'r anghenion yn parhau i dyfu a newid wrth i'r gwrthdaro barhau, ond mae'r ymateb anhygoel o hael i'r apêl hon yn golygu ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl nawr ac yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

LLINELL AMSER APÊL

7.8 MILIWN

O FFOADURIAID WEDI FFOI O WCRÁIN

(dyddiad: 16/11/22)

6.5 MILIWN

o bobl wedi'u Dadleoli'n Fewnol (PDF)

4.29 BILIWN

gofyniad cyllido ar gyfer y tu mewn i Wcráin a nodwyd gan asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

1.85 BILIWN

gofyniad cyllido ar gyfer y gwledydd cyfagos a nodwyd gan asiantaethau cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

Mae cyllid Cam 1 (6 mis cyntaf) ar gyfer gweithgareddau ymateb ar unwaith. Mae Cam 2 (o leiaf 30 mis) yn canolbwyntio ar gefnogi bywoliaethau, cryfhau gwytnwch a chapasiti ac ailadeiladu.

Mawrth 2022

Lansio apêl

Rhan

Gorffennaf 2022

Astudiaeth canfyddiad buddiolwyr yn cychwyn

Awst 2022

Adolygiad amser real yn dechrau

Rhan

Tachwedd 2022

Cyfnod presennol yr ymateb

Ionawr 2025

Gwerthusiadau annibynnol elusennau aelod

WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI
1
2
© World Vision
Elusen DEC yn cyflenwi dau lwyth fan o gyflenwadau bwyd a meddygol brys i ysbyty yn Wcráin

YMATEB DEC

GWLAD PWYL

29% 6%

Gwariant cam 136% Arian wedi'i ddyrannu85%

£389.4 MILIWN WEDI'I GODI 65%

LLWYDDIANNAU YN Y CHWE MIS CYNTAF

392,800 O BOBL

£251.6 miliwn o roddwyr uniongyrchol DEC

£25m o Gymorth Cyfatebol FCDO

£112.8M Incwm Argadwedig Asiantaeth Aelod

Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1 Gwariant 6 mis

£81,794,586 £85,598,512

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

Ffigyrau incwm hyd at Hydref 2022.

GWARIANT YN ÔL GWLAD

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

59% Wcráin

17% Rwmania

16% Gwlad Pwyl

4% Moldofa

2% Hwngari

2% Diogelu rhanbarthol a rhaglenni adeiladu capasiti

GWARIANT YN ÔL SECTOR

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

47% Arian amlbwrpas

17% Cymorth bwyd

15% Iechyd

9% Dŵr, glanweithdra a hylendid

4% Amddiffyniad

2% Arall

2% Atebolrwydd i boblogaethau yr effeithir arnynt

1% Addysg

1% Lloches

1% Adeiladu capasiti

WEDI CAEL CYMORTH BWYD, ER ENGHRAIFFT PRYDAU POETH, PECYNNAU BWYD

127,900

O BOBL

wedi defnyddio gwasanaethau sylfaenol mewn canolfannau dros dro

37,600 O BOBL

wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a chefnogaeth seicogymdeithasol

338,000

O BOBL

wedi elwa o gymorth arian parod aml-bwrpasol i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol

114,800 O BOBL

wedi derbyn cymorth a chefnogaeth gyfreithiol

1,956,400 O BOBL

wedi elwa o gyflenwad dŵr glân

10,800 O BOBL

wedi elwa o'r ddarpariaeth lloches

71,300 O BOBL

wedi derbyn gwasanaethau gofal iechyd cynradd

Arian i'w ddyrannu 10% Costau DEC 5%
WCRÁIN MOLDOFA RWMANIA HWNGARI
WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI
O'R YMATEB AR DRAWS POB GWLAD

CYD-DESTUN DYNGAROL YN WCRÁIN

Mae ymosodiadau, taflegrau a bomiau yn dal i fod yn gyffredin ar draws Wcráin wrth i'r gwrthdaro barhau.

Mae ysgolion yn parhau i gau wrth i’r ymosodiadau a’r ffrwydradau barhau. Mae'r difrod i seilwaith critigol Wcráin, yn enwedig y seilwaith ynni, wedi cael effaith sylweddol ar pobl gyffredin.

Yn ddiweddar mae cannoedd o drefi a phentrefi wedi colli pŵer, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Sumska ac oblastau canolbarth Dnipropetrovska.

Mae'r Llywodraeth wedi gofyn unwaith eto i ddinasyddion gyfyngu ar eu defnydd o drydan, yn enwedig yn ystod yr oriau brig.

Ddiwedd mis Medi, cynhaliodd swyddogion Rwsia refferenda ar gyfeddiant y rhanbarthau canlynol o Wcráin – Donetsk, Luhansk, Kherson a Zaporizhzhia. Mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn datgan bod y refferenda honedig a’r cyfeddiant o'r pedwar oblast Wcráiniaidd yn anghyfreithlon.

Y brif flaenoriaeth i ddyngarwyr sy'n gweithredu yn y wlad yw paratoi 2.4 miliwn o ddinasyddion ar gyfer y gaeaf caled sydd o'u blaenau. Mae’r her yn arwyddocaol gan fod llawer o'r wlad yn brwydro heb bethau angenrheidiol fel trydan, ac mewn rhai mannau, dŵr. Mae'r dinistr parhaus o gartrefi ac adeiladau yn achosi dadleoli ac angen dyngarol parhaus.

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Gyda defnydd o ynni yn her sylweddol ac adnoddau yn brin yn Wcráin, lliniarodd aelodau hyn drwy roi cymorth ariannol i boblogaethau yr effeithiwyd arnynt yn ddigidol; hysbysebasant y cynllun drwy gyfryngau cymdeithasol a defnyddio ffurflen gais ddigidol i gasglu data cofrestru yn hytrach na defnyddio papur. Yn yr un modd, gan mai ond dim ond 15 munud roedd hi’n ei gymryd i gofrestru, lleihawyd ar y defnydd o dabledi, dyfeisiau ac egni yn sylweddol.

7.8 MILIWN

O FFOADURIAID WEDI FFOI

O WCRÁIN

(dyddiad: 16/11/22)

6.5 MILIWN

o bobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (PDF)

4.29 BILIWN

gofyniad cyllido ar gyfer y tu mewn i Wcráin a nodwyd gan asiantaethau

cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

1.85

BILIWN

gofyniad cyllido ar gyfer y gwledydd cyfagos a nodwyd asiantaethau

cymorth dyngarol a'r Cenhedloedd Unedig

© Kasia Strek/DEC
WCRÁIN GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI
Anna, cyfarwyddwraig y Ganolfan Datblygu a Chymdeithasu ar gyfer plant ag awtistiaeth, yn chwarae gyda Kuzma* o ranbarth Donbas, yn Lviv, Wcráin. Mae aelod DEC, Cymorth Cristnogol, yn gweithio gyda'i phartner lleol, HIA, i roi Grantiau Bach Hyblyg i sefydliadau cymunedol yng ngorllewin Wcráin. Mae’r grantiau hyn yn helpu pobl leol i ddarparu lloches a gwasanaethau hanfodol eraill i deuluoedd sydd wedi'u dadleoli gan y gwrthdaro. © Kasia Strek/DEC Anatoliy, cydlynydd prosiect chwaraeon ar gyfer pobl wedi'u dadleoli, yn sgwrsio â phlant yn ystod lansiad prosiect gweithgareddau chwaraeon yn Wcráin. Mae aelod DEC yn gweithio gyda'i phartner lleol, HIA, i roi Grantiau Bach Hyblyg i sefydliadau yn y gymuned. (dyddiad: 16/11/22)

YMATEB DEC

1,886,400 O BOBL

177,000 O BOBL

wedi derbyn cymorth ariannol

Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1

14% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID

£2,118,396 wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol

WCRÁIN GWARIANT YN ÔL SECTOR

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

70,800 O BOBL

wedi derbyn gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol

41,800 O BOBL

wedi derbyn pecynnau hylendid sy'n cynnwys eitemau megis past dannedd, sebon, siampŵ a cynhyrchion misglwyf

4,400 AELWYD

wedi elwa ar becynnau sy'n cynnwys eitemau cartref hanfodol, fel blancedi, tywelion, matresi, dillad gwely a setiau cegin

1,431

CYFLEUSTER IECHYD

wedi'u cefnogi drwy e.e. gyflenwadau ac offer meddygol hanfodol

93 MAN DIOGEL

wedi'u sefydlu ar gyfer teuluoedd a phlant wedi'u dadleoli

129,700 O BOBL

wedi elwa o gymorth bwyd gan gynnwys prydau poeth a phecynnau bwyd

YN DERBYN CYFLENWAD DŴ R GLÂN
WCRÁIN MOLDOFA RWMANIA HWNGARI
£50,605,380
£49,191,685
GWLAD PWYL
Gwariant 6 mis
© Kasia Strek/DEC
Bach Hyblyg i sefydliadau yn y gymuned.
Galyna*,
22 oed, yn dangos ei ffotograffau uwchsain yn ei hystafell yn y lloches mewn eglwys ar gyrion Lviv, Wcráin. Mae elusen DEC Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phartner lleol, HIA, i roi Grantiau
21 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL 10 PARTNER ARALL
© Dmytro Minyailo/DEC Viktoria, gwirfoddolwr beic, yn cyflenwi bwyd i Larysa, un o drigolion hŷn Kharkiv. 37% Arian parod amlbwrpas 23% Cymorth bwyd 23% Iechyd 12% Dŵr, glanweithdra a hylendid 3% Arall 1% Amddiffyniad 1% Lloches
WCRÁIN GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI

CYD-DESTUN DYNGAROL

Er bod y mewnlifiad o ffoaduriaid sy'n cyrraedd Gwlad

Pwyl wedi arafu'n sylweddol ers Ebrill/Mai, a gyda llawer o sefydliadau'n cau eu mannau cymorth ar y ffin, rhagwelir y gallai nifer y ffoaduriaid gynyddu eto wrth i'r gaeaf agosáu a'r tywydd droi'n oerach. Yng nghyd-destun cynnydd byd eang mewn prisiau ac argyfwng ynni, gall ffoaduriaid o'r Wcráin benderfynu teithio i Wlad Pwyl a gwledydd eraill cyfagos wrth iddynt geisio amodau byw gwell yn ystod y cyfnod oer.

Adroddir bod aelodau o'r gymuned Roma sy'n ffoi o Wcráin yn wynebu gwahaniaethu wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig tai. Mae unigolion o wledydd trydydd, yn arbennig tu allan i Ewrop, hefyd yn cael eu gwahaniaethu – yn enwedig ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Belarwsia, lle bu adroddiadau o wthio'n ôl a thorri hawliau dynol eraill ffoaduriaid sy'n ceisio mynd i Wlad Pwyl.

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Gan fod Gwlad Pwyl wedi profi'n amgylchedd rheoledig iawn sy'n newydd i ymateb dyngarol ar y raddfa hon, mae'r broses recriwtio staff dyngarol wedi bod yn gymhleth ac yn heriol. Er mwyn lliniaru'r risgiau o ddiffyg staff technegol parhaol, gofynnwyd am adnoddau ychwanegol gan dimau ymchwydd i lenwi'r bylchau a rheoli'r ymateb.

7.5 MILIWN

O BOBL YN CROESI'R FFIN

(dyddiad: 15/11/22)

1.4 MILIWN O FFOADURIAID

o Wcráin wedi'u cofrestru yng Ngwlad Pwyl ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)

40% O

FFOADURIAID

yn byw gyda theuluoedd lletyol

41% O

FFOADURIAID

yn byw mewn llety wedi'i rentu

Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan

YNG NGWLAD PWYL
© Anthony Upton/DEC
WCRÁIN GWLAD PWYL RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI
Marynia*, 61 oed, o ranbarth Donbas, Wcráin, yng nghanolfan dderbynfa Dolhobycgow, dwyrain Gwlad Pwyl, Teithiodd ddau ddiwrnod a hanner gyda phlant ei chymydog i ddianc rhag y
gwrthdaro. Mae Marynia* yn bwriadu teithio ymlaen i Slupsk, gogledd Gwlad Pwyl.
Ffoaduriaid
o Wcráin mewn campfa ysgol yng Ngwlad Pwyl lle mae partner lleol aelod DEC, CAFOD, wedi sefydlu lloches dros dro, gan ddarparu gwelyau, bwyd a chymorth arall.
© Philipp Spalek/Caritas Germany

YMATEB DEC

GWLAD PWYL HWNGARI

46,300 O BOBL

Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1

£12,181,805

Gwariant 6 mis

£14,007,236

20% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID

30 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL

LLEOL/CENEDLAETHOL

1 PARTNER ARALL

WEDI ELWA O GYMORTH ARIAN PAROD AML-BWRPAS I DDIWALLU EU HANGHENION SYLFAENOL

1,900 O BOBL

wedi defnyddio gwasanaethau trais ar sail rhywedd

15,700

O BOBL

wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol

£4,803,225

wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol

GWLAD PWYL: GWARIANT YN ÔL SECTOR

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

78% Arian parod amlbwrpas

8% Addysg

6% Amddiffyniad

4% Dŵr, glanweithdra a hylendid

2% Cymorth bwyd

1% Arall

1% Rheolaeth gwersyll a chydlyniad

42,400 O BOBL

wedi derbyn prydau poeth a phecynnau bwyd

27 MAN

DIOGEL

i fenywod, merched neu bobl hŷn wedi'i sefydlu

3,500 O BOBL

2,800 ATHRAWON

wedi'u hyfforddi i gefnogi'r rheiny sy'n ffoi o Wcráin

wedi derbyn citiau hylendid yn cynnwys sebon, papur toiled a deunyddiau glanhau

WCRÁIN MOLDOFA RWMANIA
© Toby Madden/DEC
Margaryta* 11 oed a Vita* ym Man Cymorth Dyngarol Gwlad Pwyl y Groes Goch ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd, mewn adeilad Tesco yn Przemysl, Gwlad Pwyl. © Toby Madden/DEC Man Cymorth Dyngarol y Groes Goch Gwlad Pwyl ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, mewn adeilad Tesco yn Przemysl, Gwlad Pwyl.
WCRÁIN GWLAD PWYL RWMANIA | MOLDOFA | HWNGARI

CYD-DESTUN DYNGAROL YN RWMANIA

Er ei bod yn ymddangos bod uchafbwynt yr argyfwng ffoaduriaid yn Rwmania wedi mynd heibio, gyda'r rhan fwyaf o ganolfannau dros dro bellach wedi cau, mae Wcrainiaid sydd wedi penderfynu aros yn y wlad yn parhau i wynebu rhwystrau i gwrdd ag anghenion sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.

Nid yw Tŷ Yswiriant Cenedlaethol Rwmania wedi dyrannu digon o adnoddau eto i alluogi ffoaduriaid Wcreinaidd i gael eu cynnwys yn eu cynlluniau blynyddol a chael mynediad at wasanaethau meddygol. Nid yw meddygon teulu wedi cael eu had-dalu ar gyfer ymgynghoriadau gyda ffoaduriaid, gan olygu eu bod yn amharod i ddarparu cymorth pellach. Mewn ysgolion, mae plant ffoaduriaid yn cymryd rhan fel 'arsylwyr' ac ni fyddant yn cael eu cofrestru'n ffurfiol nes eu bod yn gallu siarad Rwmaneg. Nid yw buddion diogelu cymdeithasol ar gael i lawer o ffoaduriaid oherwydd nad yw llywodraeth Rwmania yn gallu asesu a dilysu incwm ymgeiswyr sy'n ffoaduriaid. Mae hyn wedi gadael bylchau difrifol yn y gwasanaeth i ffoaduriaid, ac mae cyrff cymdeithas sifil yn parhau i'w llenwi.

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Mae bylchau sylweddol yn parhau i fod mewn rhaglenni amddiffyn, gyda menywod, pobl ifanc ac aelodau o'r gymuned Roma mewn peryg dirfawr o drais a masnachu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu yn erbyn y gymuned Roma yn parhau i fod yn broblem yn Rwmania. Mae'r aelodau'n lliniaru'r risg hon drwy sicrhau bod partneriaid a gwirfoddolwyr yn mabwysiadu polisi dim goddefgarwch os bydd ymddygiad gwahaniaethol mewn llochesi neu ganolfannau, ac mae rhai aelodau'n gweithio gyda sefydliadau dan arweiniad Roma sy'n cefnogi menywod Roma i hunan-eirioli drwy ddarparu sesiynau briffio ar ddeddfwriaeth leol sy'n gysylltiedig â thrais yn y cartref a gwahaniaethu.

1.5 MILIWN

O BOBL YN CROESI'R FFIN

(dyddiad: 15/11/22)

90,000 O FFOADURIAID

o Wcráin wedi'u cofrestru yn Rwmania ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)

38% O FFOADURIAID

gyda theuluoedd lletyol

27% O FFOADURIAID

yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro

© George Calin/DEC © George Calin/DEC
Mae dau blentyn Vicktoria*, 2 a 14 oed, wedi bod yn aros gyda hi mewn lloches yn Bucharest Cefnogodd aelod DEC, Plan International, a'r partner lleol, ADRA, ei theulu gyda £100 o dalebau bwyd. Saleh Saeed a Hannah Richards o DEC yn cwrdd â ffoaduriaid o Wcráin mewn gwesty sy'n cael ei redeg gan bartner CAFOD, JRS, ac sy'n darparu llety dros dro i ffoaduriaid Wcreinaidd. Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan
WCRÁIN | GWLAD PWYL RWMANIA MOLDOFA | HWNGARI

YMATEB DEC

GWLAD PWYL

HWNGARI

RWMANIA

WCRÁIN

Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1

Gwariant 6 mis £13,311,130

MOLDOFA £14,389,873

28% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID

33 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL

2 BARTNER ARALL

£5,296,400 wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol

ROMANIA: GWARIANT YN ÔL SECTOR

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

66% Arian parod amlbwrpas

13% Amddiffyniad

9% Cymorth bwyd

5% Dŵr, glanweithdra a hylendid

4% Arall

3% Lloches

105,700 O BOBL

WEDI ELWA O GYMORTH ARIAN PAROD AML-BWRPAS I DDIWALLU EU HANGHENION SYLFAENOL

47,400 O BOBL

wedi derbyn cymorth bwyd gan gynnwys prydau poeth a/neu becynnau bwyd

12,000 O BOBL

4,100 O BOBL

wedi derbyn eitemau cartref hanfodol fel blancedi, gobenyddion, amddiffynwyr matres a diffoddwyr tân

wedi derbyn cefnogaeth iechyd meddwl neu seicogymdeithasol

3,000 O BOBL

wedi derbyn llety dros dro a chymorth lloches/arian parod mewn canolfannau ar y cyd

31,900 O BOBL

70,000 O BOBL

wedi cael mynediad at gyfleusterau glanweithdra

wedi derbyn cymorth cyfreithiol fel cyngor ar fewnfudo neu fynediad at wasanaethau

© George Calin/DEC Elena a'i merch, 7 oed, gyda'i chelf yn y gwesty sy'n darparu llety dros dro i ffoaduriaid o Wcráin yn Bucharest, Rwmania, ac sy'n cael ei redeg gan aelod DEC a phartner CAFOD, JRS. © George Calin/DEC Mae Olesia, wnaeth ffoi o Wcráin gyda'i merch, yn derbyn arian ar gyfer rhent, cyfleustodau a bwyd o'r ganolfan sy'n cael ei redeg gan aelod DEC a phartner CAFOD, JRS.
PWYL RWMANIA MOLDOFA
WCRÁIN | GWLAD
| HWNGARI

CYD-DESTUN DYNGAROL YM MOLDOFA

Mae'r rhan fwyaf o ffoaduriaid o'r Wcráin yn dod o oblast Odessa ac wedi mynd i mewn i'r wlad drwy'r trefi a'r pentrefi sydd ar y ffin, sef Palanca, Tudora ac Otaci. Mae'r nifer uchaf ohonynt yn y brifddinas Chisinau a Balti, sef ail ddinas fwyaf Moldofa yn y gogledd. Nid yw'r canolfannau swyddogol eto'n llawn gan fod y mwyafrif o ffoaduriaid yn byw gyda theuluoedd Moldofaidd neu yn y cymunedau lletyol.

Er mwyn ymateb i anghenion sylfaenol ffoaduriaid, sefydlodd awdurdodau Moldofa 90 o Ganolfannau Llety Ffoaduriaid ar draws y wlad gan ddarparu llety a phrydau poeth i ffoaduriaid. Fodd bynnag, mae darparu bwyd i ffoaduriaid yn y canolfannau hyn yn faich enfawr ar y gyllideb Fwrdeistrefol a Llywodraethol yn y tymor hir, yn enwedig gan y rhagwelir y bydd cyfraddau tlodi a chwyddiant yn cynyddu ym Moldofa ac mae angen adnoddau ar y canolfannau i gefnogi eu hymdrechion.

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Her allweddol y mae'r aelodau wedi ei hwynebu ym Moldofa yw gweithgareddau'n cael eu dyblygu gan sefydliadau eraill sy'n cynnig gwasanaethau tebyg. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae aelodau a'u partneriaid lleol wedi bod yn cyfathrebu'n gyson â'r weinyddiaeth leol a rheolwyr y Canolfannau Llety Ffoaduriaid.

693,000

O BOBL YN CROESI'R FFIN

(dyddiad: 15/11/22)

95,000 O FFOADURIAID

o Wcráin wedi'u cofrestru ym Moldofa ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)

38% O FFOADURIAID

yn byw gyda theuluoedd lletyol

34% O FFOADURIAID

yn byw mewn canolfannau derbyn/dros dro

gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan

© Andreea
Campeanu/DEC
Tatiana, 60 oed ac yn ffoadur o Wcráin, yn chwarae gyda'i wyres Alyssa, 3 oed, mewn warws dosbarthu bwyd lle mae hi'n gwirfoddoli. Mae'r warws yn cael ei redeg gan bartner lleol yr aelod DEC Plan International, ac mae'n darparu pecynnau bwyd a hylendid i ffoaduriaid eu casglu bob wythnos. © Andreea Câmpeanu/DEC Elena a Victor, yn derbyn talebau arian parod DEC a ddarperir gan Age International trwy ei bartner lleol HelpAge International yng nghanolbarth Moldofa Data
WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA MOLDOFA HWNGARI

WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA MOLDOFA HWNGARI

YMATEB DEC

Andreea Câmpeanu/DEC

Ffoaduriaid o Wcráin sy'n byw mewn cymunedau lletyol ar hyn o bryd yn arwyddo papurau i dderbyn pecynnau bwyd a hylendid a ariennir gan DEC ac sy'n cael eu darparu gan aelod DEC Action Against Hunger a'i bartner Communitas yn nwyrain Moldofa.

18% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

10 SEFYDLIAD ANLLYWODRAETHOL LLEOL/CENEDLAETHOL

£1,382,139

MOLDOFA: GWARIANT YN ÔL SECTOR

25% Amddiffyniad

22% Dŵr, glanweithdra a hylendid

7% Arian parod amlbwrpas

5% Addysg

1% Lloches

1% Adeiladu capasiti

© Andreea Câmpeanu/DEC

172,100 O BOBL

WEDI DERBYN PRYDAU POETH A PHECYNNAU BWYD

5,200

O BOBL

27,400

O BOBL

wedi derbyn pecynnau hylendid sy'n cynnwys eitemau fel matresi, tywelion, dillad, powdr golchi a deunyddiau hylendid

600 O BLANT YSGOL

wedi derbyn bagiau cefn sy'n cynnwys deunyddiau addysgol

6,600

O BOBL

wedi derbyn cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol

3,700

O BOBL

wedi derbyn cymorth cyfreithiol gan ddesgiau cymorth cyfreithiol symudol

MOLDOFA WCRÁIN HWNGARI GWLAD PWYL RWMANIA
Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22 ©
wedi derbyn cymorth ariannol amlbwrpas i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol £3,571,844 Gwariant 6 mis £4,036,012.00 Cyllideb Wedi’i Chadarnhau Cam 1
CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID
38% Cymorth bwyd
1% Arall
Plant o Wcráin yn derbyn cymorth gan dimau cymorth seicolegol symudol a ddarperir gan aelod DEC Plan International ym Moldofa.
wedi'i wario gan sefydliadau anllywodraethol lleol/cenedlaethol

CYD-DESTUN DYNGAROL YN HWNGARI

Mae Hwngari yn parhau i fod â pholisi ffin agored cyffredinol ar gyfer Wcrainiaid ac mae'n wlad trawstaith a chyrchfan. Er bod ceisiadau am Amddiffyniad Dros Dro yn dal i gael eu cyflwyno, mae nifer yr ymgeiswyr yn gostwng yn sylweddol.

Mae ffoaduriaid sy'n cyrraedd o Wcráin yn cael eu cyfeirio at lety tymor byr mewn cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu gyda rhwydweithiau gwirfoddol. Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng economaidd parhaus a chwyddiant esgynnol, mae dod o hyd i lety fforddiadwy i ffoaduriaid sy'n setlo yno yn her sylweddol. Ynghyd â hyn, yn aml nid yw'r drafodaeth gyhoeddus yn Hwngari wedi bod yn groesawgar i ffoaduriaid; mae llywodraeth Hwngari hyd yn oed wedi annog pobl i beidio â chefnogi ymyriadau ar sail arian parod

CYD-DESTUN GWEITHREDOL

Yn Hwngari, her gyffredinol i gefnogi'r rhai mwyaf bregus oedd y diffyg cydlyniad yn y system ymateb. Mae awdurdodau lleol a'r llywodraeth wedi cymryd agwedd ymarferol iawn tuag at yr argyfwng ac wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb i gyrff anllywodraethol, sy'n golygu bod partneriaid wedi gorfod ceisio cydlynu'r rhai sy'n cefnogi ffoaduriaid. Mae hyn wedi cael effaith negyddol o ran sicrhau y gellir cefnogi pawb sydd angen cymorth yn effeithiol, ond mae aelodau'n gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn cyd-weithio gan gynnwys gyda sefydliadau a phartneriaid eraill i gyrraedd pobl mewn angen.

1.7 MILIWN

BOBL YN CROESI'R FFIN

(dyddiad: 15/11/22)

31,000 O FFOADURIAID

o Wcráin wedi'u cofrestru yn Hwngari ar hyn o bryd (dyddiad: 15/11/22)

41% O

FFOADURIAID

yn byw mewn llety wedi'i rentu

31% O FFOADURIAID

yn byw mewn safleoedd casglu/cynlluniedig

Data gan UNHCR (2022) Bywydau wedi'u hoedi: proffil a bwriadau ffoaduriaid o Wcráin. Data ddim o reidrwydd yn cynrychioli'r boblogaeth ffoaduriaid gyfan

O
Staff a gwirfoddolwyr partner elusen sy'n aelod o DEC yn cynorthwyo pobl sydd wedi cyrraedd o Wcráin mewn gorsaf reilffordd yn Budapest, gydag arian DEC. © ICRC WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA HWNGARI

YMATEB DEC

76,600 O BOBL

WEDI CAEL EU HAMDDIFFYN AC WEDI DERBYN GWYBODAETH YN YMWNEUD Â’U HAWLIAU.

1,000 O BOBL

wedi derbyn eitemau cartref hanfodol megis blancedi, taflenni a thywelion

3,700

O BOBL

wedi elwa o gymorth ariannol amlbwrpas i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol

Staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn Hwngari wrthi'n paratoi parseli sy'n cynnwys eitemau dillad gwely a hylendid i bobl yn cyrraedd o Wcráin.

Cyllideb ddiwygiedig Cam 1

Gwariant 6 mis £1,712,680

£1,599,912

100% Cyfraniad DEC i ymateb cyffredinol aelodau i'r argyfwng

CYDWEITHIO GYDA PHARTNERIAID

2 BARTNER RHYNGWLADOL

HWNGARI: GWARIANT YN ÔL SECTOR

Gwariant 6 mis: 3 Mawrth - 31 Awst 22

59% Arian parod amlbwrpas

23% Rheolaeth a chydlyniad gwersyll

7% Dŵr, glanweithdra a hylendid

4% Lloches

4% Amddiffyniad

2% Cymorth bwyd

1% Arall

1% Atebolrwydd i boblogaethau yr effeithir arnynt

4,000

O BOBL

wedi elwa o becynnau hylendid, gan gynnwys tywelion misglwyf a phadiau anymataliaeth

1,000

O BOBL

wedi derbyn cymorth cysgodi

DISASTERS EMERGENCY COMMITTEE

17-21 Wenlock Road, Llundain, N1 7GT

Ffôn: 020 7387 0200

www.dec.org.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1062638 Rhif Cwmni 03356526

© Michael Kappeler/dpa

HWNGARI WCRÁIN MOLDOFA
RWMANIA
GWLAD PWYL
© Croes Goch Gwlad Pwyl
WCRÁIN | GWLAD PWYL | RWMANIA | MOLDOFA HWNGARI

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.