Cylchlythyr Preswylwyr

Page 1

MAE EICH LLAIS YN BWYSIG - RHOWCH ENW I’CH CYLCHGRAWN!

Rydym yn diweddaru cylchlythyr y preswylwyr i roi mwy o bwyslais ar breswylwyr ac yn llai corfforaethol, rydym hefyd yn newid yr enw, ac rydym am i chi ei ddewis! Dilynwch y ddolen neu sganiwch y cod QR i ddewis enw newydd i’ch cylchlythyr: https://forms.office.com/r/X2wedj4SmS

C Y LC H LY T H Y R Y

PRESWYLWYR HAF 2021

ENILLWCH DALEB

£50

taleb i L IL N N E I E L F Y C ogledd atyniad yng Ng dleuaeth sta Cymru yn ein cy Tudalen ffotograffiaeth

9

DIY, cyngor garddio a’ch cyfle i hawlio HADAU AM DDIM

Allai eich anifail anwes chi ennill ein cystadleuaeth anifail delaf?

Cyfle i chi ennill £25 mewn talebau Amazon

Tudalen

Tudalen

Tudalen

14

7

20

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol ClwydAlyn is a Charitable Registered Society


EICH CROESO

Cynnwys: EICH CROESO 3 Dewch i Gyfarfod Golygydd Newydd eich Cylchgrawn 3 Brechu EICH NEWYDDION 4

Porth FyClwydAlyn

5 Cyfle i Adnabod ein Haelod y Preswylwyr o’r Pwyllgor 6 Plygu Llyfrau i Godi Arian i Gymorth i Ferched ClwydAlyn 7

Grym Anifeiliaid Anwes

EICH CYMUNED 8-9 Eich Ardal, Atyniadau Lleol a Dyddiau Allan 9 Cystadleuaeth...Lluniau a Lleoedd. Eich cyfle i ennill taleb £50 i atyniadau Gogledd Cymru 10

Datblygiadau Newydd yn Eich Ardal

11 Ymgeisio am Dai - Dysgwch am y dewisiadau gwahanol i wneud cais am gartref yn ClwydAlyn. 12

Strydoedd Diogelach

13

Diwrnod Sgip

EICH CARTREF 14 Awgrymiadau Garddio gan Richard ac eich cyfle i hawlio hadau AM DDIM gan #Dylanwadwch. 15 Awgrymiadau Uwchgylchu a DIY gan Laura 15

Arbedion Ysgolion

16

Ein Strategaeth Amgylcheddol

17

Rysáit Preswyliwr

EICH CIPOLWG AR... 18 Dewch i Gyfarfod ein Huwch Weithiwr Prosiect Tom Humphriss EICH BARN 19 Bag Post - Ateb Eich Cwestiynau EICH CYSTADLEUAETH 20 Cyfle i chi ennill £25 mewn talebau Amazon

2


Laura Mckibbin

Helo.

Laura Mckibbin wyf fi Golygydd newydd Cylchlythyr y Preswylwyr. Rwyf wedi gweithio i ClwydAlyn am bron i dair blynedd, ar ôl dechrau arni yn ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid, lle’r oeddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn siarad â phreswylwyr a’u helpu gyda’u hymholiadau. Rwyf newydd gychwyn mewn swydd newydd gyffrous fel Swyddog Cyfathrebu, sydd wedi rhoi’r cyfle gwych yma i mi ailwampio ein cylchlythyr preswylwyr, gan ddefnyddio popeth yr wyf wedi ei ddysgu o’m dyddiau gwasanaethau cwsmeriaid. Rwy’n angerddol am droi hyn yn rhywbeth fydd yn ddiddorol a defnyddiol i chi. Byddwn yn ei wneud yn llai corfforaethol a mwy amdanoch chi a’ch cartrefi, trwy rannu awgrymiadau DIY, awgrymiadau da, syniadau sut i arbed arian, cyngor swyddi a byddwn bob amser yn cynnig gwobrau gwych.

rbon byddem yn tuag at sero ca ith ta n o’ an rh Fel r o bobl yn hlythyr at rago lc cy y n fo an hoffi weud wrthym chi y gallwch dd ch de yd ra W . ol id ddig n y cylchlythy gennych dderby au or ai yn dd al by yd y w sut di i fycl trwy fewngofno l al ar th ae bi gohe .co.uk .myclwydalyn www.cymraeg

Cadwch lygad ar y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook, Twitter ac Instagram @ClwydAlyn

Edrychwch beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal a beth yr ydym yn ei wneud yn eich cymuned. Rydym yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau hefyd yn ogystal â newyddion o ClwydAlyn, datblygiadau newydd, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gwaith trwsio argyfwng tu allan i oriau swyddfa: 0300 123 3091

Er mwyn gofalu mai amdanoch chi mae’r cyfan mae arnom angen eich helpu, byddwn yn gofyn i chi rannu awgrymiadau da, cyngor a lluniau fel ein bod yn gallu eu cynnwys yn y cylchgrawn yn y dyfodol. Os oes unrhyw beth y byddech yn hoffi ei weld yn cael ei gynnwys, yna anfonwch neges ataf yn syth yn communications@clwdyalyn.co.uk

Laura x BRECHU

Ydych chi wedi cael eich Brechiad eto? Mae’r brechlyn COVID-19 yn diogelu’r unigolyn yn ogystal â diogelu ein hanwyliaid a’n cymunedau. Mwyaf yn y byd gaiff eu brechu gall olygu y gellir llacio’r cyfyngiadau ac y gallwn symud ymhellach tuag at ddychwelyd at fywyd arferol. Mae pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad. Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu fod arnoch angen ail-drefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd llyw.cymru/cael-brechlyn-rhag-covid-19

3

EICH CROESO

Dewch i Gyfarfod Golygydd Newydd eich Cylchgrawn


EICH NEWYDDION

Porth FyClwydAlyn Erbyn hyn gallwch reoli eich tenantiaeth ar-lein! Ryden ni’n gwybod eich bod yn brysur felly rydym am wneud pethau’n gyflym a hawdd i chi reoli eich tenantiaeth; Dyna pam ein bod wedi lansio FyClwydAlyn, gwasanaeth diogel ac am ddim i reoli eich tenantiaeth unrhyw bryd, unrhyw le.

!

eso o r C

Pam ddylwn i ddefnyddio FyClwydAlyn? Gallwch ddefnyddio FyClwydAlyn unrhyw bryd i: - - - - - -

Weld eich gwybodaeth tenant Weld balans eich rhent Weld hanes eich cyfri Dalu eich rhent Gofnodi gwaith trwsio Gofnodi pryder

Dyma adborth gan rai o’n preswylwyr sy’n defnyddio FyClwydAlyn yn barod. “Mae FyClwydAlyn yn dda iawn, ac mae’n ei gwneud yn fwy cyfleus i breswylwyr wirio eu cyfrif rhent a rhoi adroddiad am unrhyw broblemau”.

“Hapus iawn gyda FyClwydAlyn, syml iawn a hawdd ei ddefnyddio”.

4

“Fe fyddwn yn argymell i breswylwyr eraill ddefnyddio FyClwydAlyn yn gryf iawn”.

Am ragor o wybodaeth am FyClwydAlyn, gan gynnwys sut i greu cyfrif ac i gael atebion i rai cwestiynau a ofynnir yn aml, ewch i:

clwydalyn.co.uk/MyClwydAlyn Gobeithio y byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd arnoch ei angen yno.

Arbedwch amser a dechrau rheoli eich tenantiaeth unrhyw bryd, unrhyw le.

cymraeg.myclwydalyn.co.uk


ein

EICH NEWYDDION

Dewch i adnabod Haelod o’r

Pwyllgor Preswylwyr Karolyn Lee

Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â Phwyllgor Preswylwyr ClwydAlyn? Roeddwn wedi bod yn un o breswylwyr ClwydAlyn am tua dwy flynedd pan ddaeth y cyfle i ymuno â’r pwyllgor preswylwyr. Allwn i ddim colli’r cyfle, oherwydd roeddwn am gael gweld sut y mae ClwydAlyn yn gweithio, ac roeddwn yn gwybod bod mwy i’r peth na dim ond bodloni eu hymrwymiadau i bobl ifanc. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn cymryd rhan oherwydd dwi’n gobeithio bod yn weithiwr cefnogi yn y dyfodol, ac ers hynny mae fy niddordeb yn ClwydAlyn a’r hyn maen nhw’n ei wneud wedi tyfu mwy eto.

A ydych wedi bod ar unrhyw Fyrddau neu Bwyllgorau o’r blaen? Y peth agosaf i fod ar bwyllgor yr oeddwn wedi ei wneud o’r blaen oedd pan oeddwn yn yr ysgol, pan oeddwn yn rhan o gyngor yr ysgol yn blentyn.

Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi? Gan fy mod yn breswyliwr fy hun, y peth pwysicaf i mi yw sicrhau fy mod yn byw mewn amgylchedd diogel lle’r wyf yn gallu dal i dyfu fel person a datblygu rhagor. Rwy’n gwybod pa mor bwysig ydi hynny i bobl eraill hefyd.

Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn? Fy ngobeithion a’m huchelgais ar gyfer ClwydAlyn yw i’r preswylwyr iau gael mwy o lais gyda mwy eto o ffyrdd i helpu i wella eu hunain a’u cymunedau yn y dyfodol.

A oedd unrhyw beth a wnaeth eich synnu yn eich cyfarfod cyntaf? Roedd fy nghyfarfod cyntaf yn un diddorol iawn achos nid oeddwn yn gwybod cymaint y mae ClwydAlyn yn ei wneud i bob oed. Nid oeddwn yn gwybod bod mwy o fathau gwahanol o ofal oedd yn cael ei gynnig mewn modd mwy cydradd. Hefyd, nid oeddwn yn sylweddoli faint yr ydych chi i gyd fel cwmni am ddal ati i wella’r ffyrdd yr ydych yn mynd o’i chwmpas hi – eich bod yn cymryd pob argymhelliad/cwyn o ddifri i’ch helpu i ddatblygu’n gwmni gwell a helpu i dyfu fel cymuned.

Yn beth y mae gennych ddiddordeb? Mae gennyf ddiddordeb mewn dysgu pethau newydd waeth pa mor anodd y gallan nhw ymddangos neu fynd. Ar hyn o bryd rwy’n dilyn cyrsiau ar-lein i helpu fy hun i ddod yn weithiwr cefnogi gan fy ngalluogi i helpu mewn pob math o ofal gwahanol.

A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Bwrdd neu’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol? I unrhyw un sy’n meddwl am ymuno â’r pwyllgor neu’r bwrdd, wir yr, ewch amdani, mae’n gymaint o agoriad llygad gweld faint y mae ClwydAlyn yn ei wneud, ac mae cael bod yn rhan o hynny yn beth mor fawr. Fe all ymddangos yn frawychus, ond mae pawb yn hyfryd i’w cyfarfod ac os byddwch chi mewn trafferth fe fyddan nhw’n eich helpu i ddeall cymaint â phosibl ac hyd eithaf eich gallu. Mae pawb yn gweithio tuag at yr un nod i barhau i wella ClwydAlyn yn ei gyfanrwydd, felly nid oes unrhyw gwestiwn gwirion neu ateb anghywir. Mae cyfraniad pawb yn ddilys ac rydych yn cael gweld profiad pawb os ydych yn breswyliwr neu yn gweithio i ClwydAlyn ac mae’n gymaint o agoriad llygad.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y gwaith y mae ClwydAlyn yn ei wneud, yna cysylltwch â Stuart Hughes, Swyddog Cynnwys Preswylwyr InfluenceUs@Clwydalyn.co.uk

5


EICH NEWYDDION

PLYGU LLYFRAU

i godi arian i Gymorth i Ferched ClwydAlyn Codi Arian at Gam-drin Domestig Mae un o’n preswylwyr talentog eithriadol o Blas Telford wedi bod yn plygu llyfrau i godi arian at gam-drin domestig.

Mae’r preswyliwr wedi bod yn cysgodi ers mis Mawrth diwethaf ac fe welodd bod plygu llyfrau ynghyd â chrefftau eraill wedi helpu i ymdopi ag unigrwydd a hunanynysu oherwydd y cyfnod clo. Fe wnaeth ein preswyliwr rannu sut y gwnaeth gweld hysbysebion ar y newyddion am gam-drin domestig a sut y mae’n effeithio ar nid yn unig yr unigolyn ond hefyd ar y teulu cyfan, arwain at fod eisiau helpu mewn rhyw ffordd. Bu’r trawsnewidiadau anhygoel i lyfrau yn boblogaidd iawn, gyda chyfraniadau yn llifo i mewn, mae’r rhain wedi codi £216 anhygoel yn barod. Diolch i’r holl breswylwyr ym Mhlas Telford am

Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn (CAWA) yn rhoi gwasanaethau arbenigol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar sail gwybodaeth i ferched a phlant sy’n profi neu sydd wedi profi, pob ffurf ar gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin emosiynol, seicolegol, corfforol, ariannol/ economaidd, rhywiol a/neu orfodol ac ymddygiad sy’n rheoli trwy orllewin Sir y Fflint. 6

Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn darparu’r gwasanaethau canlynol: • Llety Diogel mewn Argyfwng (lloches/hafan) • Rheoli argyfwng cychwynnol • Cefnogaeth allestyn yn y gymuned.

eu cefnogaeth sydd wedi helpu i godi’r arian yma. Bydd yr holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i Cymorth i Ferched ClwydAlyn.

Neges o ddiolch gan y plygwr llyfrau ei hun; “Trwy wneud hyn rwy’n teimlo, hyd yn oed yn y cyfnod clo fy mod i a’r preswylwyr yn dal yn rhan o gymdeithas. Diolch i’r holl staff a phreswylwyr sydd wedi rhoi llyfrau i mi yma ym Mhlas Telford, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y llyfrau yma. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i’r rhai sydd eisoes wedi cefnogi’r elusen. Os oes gan unrhyw un lyfrau glân wedi eu defnyddio, a allwch chi eu gadael ym Mhlas Telford, os gwelwch yn dda.” • Digwyddiadau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth, • Aelod gweithredol o dimau amlddisgyblaeth (Hyb Help Cynnar/MARAC). • Gwasanaeth argyfwng 3 Haen tu allan i oriau, ar y cyd â’r llinell gymorth Byw Heb Ofn

• Cefnogaeth Iechyd Meddwl Arbenigol • Cynghori tymor byr, yn canolbwyntio ar atebion. • Gwasanaethau cefnogi penodol i blant a phobl ifanc. • Hwyluso rhaglenni adfer, fel y Rhaglen Rhyddid, Perchenogi fy Mywyd, a’r Pecyn Offer cyfun Adfer Oedolion Plant a Phobl Ifanc (DART).

Manylion cyswllt CAWA: Rhif ffôn - 01352 712150 E-bost womens.aid@clwydalyn.co.uk


EICH NEWYDDION

GRYM

ANIFEILIAID ANWES

Fy Llygod Mawr Dof

Pan oeddwn yn ifanc iawn, fe wnes i ddod i adnabod teulu o lygod mawr brown gwyllt oedd yn nythu yn ein sied yn yr ardd. Yn anffodus, fe wnaeth fy nhad gael gwared arnyn nhw’n gyflym iawn, ond roeddwn yn dal â diddordeb mawr yn y ‘trueiniaid’ yma ym myd yr anifeiliaid oedd yn cael enw drwg o hyd. Yn 1990 penderfynais gadw Llygod Mawr Dof gan fod eu poblogrwydd yn cynyddu a sefydlwyd y Gymdeithas ‘National Fancy Rat’ yn 1972. Llygod mawr brown sydd wedi e magu am eu hamrywiaeth, eu lliw, a’u natur yw llygod mawr dof. Nid ydynt yn cario afiechyd. Daeth llygod mawr yn boblogaidd fel anifeiliaid anwes yng nghyfnod Fictoria. Cadwodd un o ddalwyr llygod mawr Fictoria, Jack Black, y llygod mawr albino yr oedd yn eu dal a magu oddi wrthynt, ac roeddent yn mynd yn fwy dof o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd gan Beatrix Potter lygoden fawr wen ac ysgrifennodd ddwy stori amdani, ‘The Tale of Samuel Whiskers’ a ‘The Tailor

of Gloucester’. Heddiw mae cymdeithasau Llygod Mawr Dof dros y byd i gyd, yn cynnal sioeau a digwyddiadau. Mae’r creaduriaid blewog annwyl yma yn ddeallus iawn ac maen nhw’n mynd yn gariadus iawn, gan ymateb wrth eu galw, dysgu triciau ac yn barod i chwarae bob amser. Mae’n nhw’n lân iawn ac fe fyddan nhw’n fy anwesu wrth gael eu brwshio. Mae’n ffaith gydnabyddedig bod ymdrin ag anifeiliaid anwes yn beth da i’n hiechyd corfforol a meddyliol, gan ostwng pwysedd gwaed a lleihau straen – yr union beth oedd arnaf ei angen dros y flwyddyn ddiwethaf! Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn anodd a heriol i ni i gyd: mae rhai wedi colli anwyliaid, colli swyddi, a cholli’r patrymau sy’n rhoi cysur. Bu llawer o bobl yn gaeth yn eu cartrefi, yn methu cyfarfod eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bu unigrwydd a theimlo’n ynysig, yn arbennig i’r rhai ohonom sy’n byw ar ben ein hunain, yn broblem wirioneddol. Mae gan anifeiliaid anwes y grym i godi’n hwyliau a sionci’r dyddiau tywyllaf. Gyda’u mwythau, eu drygioni a’u natur chwareus mae fy llygod mawr, Rosie a Seren, wedi

bod yn gwmni ac yn gysur. Am hynny, rwy’n diolch iddyn nhw.

Liz Barnes, Sŵn y Môr

RYDYM AM GAEL GWELD LLUNIAU O’CH ANIFEILIAID ANWES! Anfonwch eich lluniau delaf neu fwyaf doniol o’ch anifeiliaid anwes atom ni erbyn 18 Awst am eich cyfle i ennill gwobr! Rydym yn gwybod na all ein holl breswylwyr gael anifeiliaid anwes yn eu heiddo, felly os nad oes gennych anifail anwes yna gallwch anfon eich lluniau bywyd gwyllt gorau atom yn lle hynny. Anfonwch unrhyw luniau at communications@clwydalyn.co.uk

7


EICH CYMUNED

EICH ARDAL... ATYNIADAU LLEOL, A DYDDIAU ALLAN! Eich Ardal - Mae cael mynd allan yn dda i’n hiechyd a llesiant ac rydym yn gwybod bod gan Ogledd Cymru gymaint o lefydd hardd i ymweld â nhw. Mae Go North Wales wedi rhannu rhai dyddiau allan gwych ar gyfer yr haf hwn! Gallwch gael rhagor o fanylion yn www.gonorthwales.co.uk

Conwy Water G a

rdens

Yn Nyffryn Conw y hardd, wrth ym yl ein Tŷ Crempog o’r Ise ldiroedd a’n bw yty trwyddedig rydym yn cynnig :-

• 3 Llyn Pysgot a

Bras llawn o stoc • Taith natur sy ’n ymestyn o hy d • Dyfrgwn, Capy baras, llwyth o hwyaid, ieir ac adar gwlyptir. • Acwariwm gy da

dros 70 o dancia u • Canolfan Ddyf rol a Phwll Koi • Ardal chwarae i blant • Mynediad AM DDIM

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am rai o lecynnau harddaf Cymru gan gynnwys cestyll, gerddi gogoneddus a phlastai. Ar eu gwefan cewch wybodaeth am arfordir a thirweddau trawiadol sydd yn bendant yn werth mynd i’w gweld.

Sw Fynyddig Gymreig Ewch yn wyllt yng Nghymru i gael diwrnod gwych allan – sw gadwraeth gyfeillgar, ofalgar mewn gerddi hyfryd. • Cyflwyniad am ddim bob dydd Cyfarfod y Mwncis a rhoi bwyd i’r morlewod. • Profiadau anifeilaidd (Angen archebu ymlaen llaw) • Bwyty: prydau poeth a byrbrydau’n cael eu gweini • Byd Antur y Jyngl • Ewch i’r wefan i gael gwybod am ddigwyddiadau arbennig.

Plas Menai

8

Adventure Parc Snowdonia Yn gartref i lagŵn syrffio cyntaf y byd, Adventure Parc Snowdonia, yng nghanol Eryri yw’r lle gwych am sicrwydd y bydd y don yn torri. Hefyd cofiwch gael golwg ar y gweithgareddau dan do a thu allan gan gynnwys cyfleuster adrenalin newydd sbon dan do ac antur tu allan.

Mostyn (Oriel, Siop, Caffi) Oriel gelf gyfoes amlycaf Cym ru yn nhref lan môr draddodiadol Llandudno. Chwe oriel, yn cyfu no pensaernïaeth fodern a thraddodiadol, yn cyflwyno arddangosfeydd gan artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru ac o gwmpas y byd. Gyda staff cyfeillgar, gweithgareddau i bob oed, siop a chaffi hyfryd, mae rhywbeth i bawb yma

o diroedd wedi eu tirlunio, Agored! Yn sefyll mewn saith erw Anturiaethau Epig yn yr Awyr ddyn a dyma’r gyrchfan Plas Menai ar agor trwy’r flwy yn edrych tuag Ynys Môn, mae ol ac anturiaethau ilio am chwaraeon dŵr eithriad ddelfrydol i unrhyw un sy’n chw gyda llety preswyl olfan i’r diben ac mae’n fodern awyr agored. Adeiladwyd y Gan ol Afon Menai. uniongyrchol i ddyfroedd cysgod i hyd at 140 o bobl a mynediad


Gypsywood Diwrnod Hudolus i’r Teulu Cyfan! Mynnwch reid ar drên Woody, chwiliwch am y tylwyth teg, dewch i gyfarfod yr anifeiliaid, ardaloedd chwarae gwych, siop anrhegion, caffi a llawer, llawer mwy!

Mwynfeydd y Gogarth Ewch i weld Mwynfeydd Efydd byd-enwog Llandudno. Canolfan Ymwelwyr, ffilm ragarweiniol, taith danddaearol, ogof ryfeddol 3,500 mlwydd oed, gwaith agored 4,000 mlwyd oed, arddangosfa mwyndoddi ac ardaloedd gwylio. Un o ryfeddodau gwirioneddol y gorffennol. Ym Mharc Gwledig trawiadol y Gogarth. Dilynwch yr arwyddion i’r gweithfeydd o Landudno.

Canolfan Ddringo’r Boathouse

gylchedd Rydym yn annog am lle gall yr cyfeillgar a pharchus eu hunain, o holl ddringwyr herio ddringwyr ddechreuwyr hyd at profiadol ac uwch. hgareddau Rydym yn cynnig gweit wr i bob gwyliau gyda hyffordd i roi cynnig ar oedran, felly dewch ingo, System ein Sesiynau Blasu Dr den neu Ogofâu Llwybr Llygo dd gyda ni, Ffy wn me id Rhowch Na l Greigiau bydd mynediad i’n Wa â’ch ol un a’n Tŵr Dringo yn gael ar er cofrestriad, mae off i’w llogi.

Sw Môr Môn

Gogledd £50 i un o atyniadau Gallwch ennill taleb fan cy Y di? dy yn nio’n dda Cymru o’ch dewis. Sw yn le ryw o n llu nu d yw tyn sydd raid i chi ei wneu , ed rdd ge i lle hardd eich ardal, gall fod yn syddol, eth, adeiladau hane tra , tur na gwarchodfa yna h, yc gw n llu wl ei fod yn os ydych chi’n medd ble o r by d fia gyda disgri anfonwch o atom ni n. tynnwyd y llu o bob wech enillydd lwcus Byddwn yn dewis ch yn fyd lleol a byddwn he rhan o’n cymunedau dref. hy yr r g nghylchlythy rhannu eich lluniau yn u at: Anfonwch eich llunia 776 n.co.uk neu 07824335 aly InfluenceUs@clwyd ar y clicio! erbyn 30 Awst, hwyl

Tramiau’r Goga rt

h

Yn gwirioni ymwe lwyr ers 1902, mae’n rhaid i ch i fynd ar brif atyniad treftada eth Llandudno ac unig dram ffordd Prydain sy’n cael ei dynnu gan gebl . Mae’r Tram yn m ynd â chi ar daith milltir hardd iaw n i gopa’r Gogart h. Yn yr orsaf hann er ffordd gallwch ddysgu am hane s rhyfeddol y peirianwaith Fic toraidd a gweld y system bwerus yn gweithio. Ar ôl cyrraedd y top, ymlaciwch a rhyfeddu at y golygfeydd ac archwilio’r llu o atyniadau sydd ar y Gogarth.

Parc Teulu Gelli Gyffwrdd Mae Gelli Gyffwrdd yn ymweliad y mae’n rhaid i chi ei wneud! Gan gynnwys yr unig Reid Ddŵr sy’n cael ei gyrru gan yr haul – y Ffigar-êt cyntaf i gael ei yrru gan bobl – Llwybr Troednoeth – Teithiau Sled – Cartiau’r Lleuad – Saethyddiaeth Bwa Hir – Adeiladu deniau – Gwe Gwyllt – Chwarae meddal dan do – Tyrrau Pen y Coed – reid ar yr afon – y Neidiwr Mawr – Hwyl Theatr yn y Goedwig (gwyliau yn unig).

Dewch â’r teulu i weld y Ceffylau Môr, Ostopws, Cimychiaid ac anifeiliaid morol cyffrous ac anodd eu gweld eraill Prydain. Ymgollwch yn ein harddangosfa sglefrod môr neu mentrwch i’r llongddrylliad. Yn yr acwariwm mae siop anrhegion a Chaffi sy’n gweini dewis helaeth o ddiodydd, byrbrydau a phrydau. Os nad yw hynny’n ddigon, mae ardal chwarae i blant, golff gwallgo ac rydym ar Lwybr Arfordir Ynys Môn i sicrhau y cewch ddiwrnod wrth eich bodd.

Os oes gennych unrhyw syniadau am deithiau diwrnod y byddech yn hoffi eu rhannu gyda phreswylwyr eraill yna anfonwch nhw at communications@clwydalyn.co.uk

9

EICH CYMUNED

ENILLWCH

DALEB … H T E A U E L D A T S Y C 0 Lluniau a Lleoedd £5


EICH CYMUNED

DATBLYGIADAU NE YN EICH ARDAL Gan weithio gydag Anwyl Partnerships, rydym yn ddiweddar wedi gorffen adeiladu 92 o gartrefi o safon uchel, fforddiadwy yn Sir y Fflint a Chonwy. Mae’r tri chynllun wedi cynnig cartrefi newydd hyfryd, o safon uchel, fforddiadwy ac mae’r preswylwyr eisoes wedi symud i mewn neu fe fyddant yn symud yn fuan iawn!

Dymunwn bopeth gorau i chi yn eich cartrefi newydd. • Newidiodd tafarn y Boars Head yn Ewlo ei enw i Pen y Baedd, gan gynnig cartrefi i bobl 55 oed a hŷn. Mae 28 o fflatiau i gyd, cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely a 3 tŷ fforddiadwy. Mae’r preswylwyr wedi dechrau symud i mewn. • Mae safle gwesty’r Albion a’r clwb cymdeithasol yng Nghei Conna yn awr yn cael ei alw yn Plas Albion, gan gynnig cartrefi i bobl 55 oed a hŷn. Mae 30 o fflatiau i gyd, cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Mae’r holl breswylwyr wedi symud i mewn. • Gelwir gwesty Edelweiss ym Mae Colwyn yn awr yn Plas Dingle. Mae Plas Dingle yn darparu 31 o dai fforddiadwy, gan gynnwys 14 o fflatiau un ystafell wely ac 17 o fflatiau dwy ystafell wely. Mae’r holl breswylwyr wedi symud i mewn.

ar lygu uchelgeisiol tb a d d n le g a rh o “ Mae ein yn cynnig llawer ru ym C d d le og draws G rywiaeth l sydd angen am ob b i d yd w ne gartrefi au o gartrefi. o wahanol fath ysig o’n yma yn rhan bw u ta ec si ro p r e’ “ Ma d, a thrwy lawni tai newyd yf g i h et a g te stra rships, rydym yn ne rt Pa yl nw A g ydd weithio gyda 2 o gartrefi new 9 ru a rp a d i ed falch o fod w o ansawdd. i amlygu ynllun hefyd wed ch i tr r u’ a lh b yr lleol ac “ Mae cw ddio contractw ny ef d d i is a g el ein huch fforddiant adael i ni roi hy g ’n sy , yr w ct a is-gontr u i bobl y sector adeilad yn u ha et a si ti a phren wyr.” leol a’n preswyl Craig Sparrow yn ClwydAlyn gu

10

eithredol Datbly Cyfarwyddwr Gw

92 O GARTREFDI NEWYD AC MAE’R R PRESWYLWY YN SYMUD I M E W N!


EICH CYMUNED

EWYDD

GWNEUD CAIS AM DAI Awydd newid eich cartref?

Fyddech chi’n hoffi newid eich ardal, neu a oes arnoch angen dod o hyd i dŷ llai/mwy? Efallai y gallwch symud trwy gyfnewid eich cartref gyda phreswyliwr arall gan ddefnyddio’r gwasanaeth cyfenwid cenedlaethol. Os hoffech gael gyfnewid, ewch i’r wefan Cyfnewid Tai am ragor o wybodaeth:

homeswapper.co.uk

Rhestr aros am lety ar rent i breswylwyr newydd

Mae’r broses gofrestru yn ddibynnol ar pa leoliad y mae gennych ddiddordeb ynddo ac mae’n newid rhwng awdurdodau lleol. Os hoffech chi symud i ardal Wrecsam, yna byddai angen i chi ein ffonio ni ar 0800 183 5757 a gallwn anfon pecyn ymgeisio atoch. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw ardaloedd eraill, yna ewch yn syth at y Cyngor Sir perthnasol. Mae rhifau cyswllt y Cynghorau Sir amrywiol fel a ganlyn:

Cyngor Sir Ynys Môn: 01248 752200 Cyngor Sir Conwy: 0300 124 0050 Cyngor Sir Ddinbych: 01824 712911 Cyngor Sir y Fflint: 01352 703777 Cyngor Sir Gwynedd: 01286 685100 Cyngor Sir Powys: 01597 827464

CROESO MAWR I CLWYDALYN…

fe fyddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych yn setlo? Anfonwch eich hanes at

communications@clwydalyn.co.uk Rydym wedi ymrwymo i adeiladu llawer o gartrefi newydd, fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, i fodloni amrywiaeth o anghenion a’n cynllun yw cwblhau dros 1,500 o gartrefi erbyn 2025.

Mae gennym gyfarwyddyd safonol ar gyfer y broses ymgeisio yma

clwydalyn.co.uk/media/documents/guideapplicants-rented-accommodation_cy.pdf Tai Fforddiadwy

Os oes gennych ymholiadau am dai fforddiadwy gallwch ymweld â taiteg.org.uk/cy/ am wybodaeth am gofrestru a’r meini prawf cymhwyster.

Gofal Ychwanegol

Er mwyn ymgeisio am un o’n cynlluniau gofal ychwanegol, ewch i’n gwefan yma

clwydalyn.co.uk/extra-care-information/ Er mwyn gofyn am alwad neu i weld ein taflenni ewch i’n gwefan yma;

clwydalyn.co.uk/care-homes-information/

11


EICH CYMUNED

STRYDOEDD

SAFFACH GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH YN GWNEUD Y STRYDOEDD YN SAFFACH YNG NGORLLEWIN Y RHYL Un o’r prosiectau y mae’r arian hwn wedi eu galluogi yw darparu offer diogelwch i 600 o gartrefi yn yr ardal, gan gynnwys larymau, cloeon, goleuadau tu allan a chamerâu cylch cyfyng. Ymrwymodd ClwydAlyn i ddarparu a gosod yr offer yn yr eiddo y maen nhw’n berchen arnyn nhw ac fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru y gwaith ar weddill yr eiddo. Gwirfoddolodd staff i ddosbarthu’r offer mewnol i breswylwyr, tra gwnaeth Travis Perkins ddarparu’r offer angenrheidiol i osod yr eitemau allanol, gan gynnwys ysgolion, sbectolau diogelwch a driliau. Dywedodd Jenni Griffiths, Rheolwraig Gwasanaethau Tai yn ClwydAlyn:

Rhannwyd pecynnau atal troseddau i gartrefi ar draws Gorllewin y Rhyl, diolch i gynllun newydd a fwriadwyd i leihau troseddu yn yr ardal. Y llynedd, bu’r gymdeithas dai leol ClwydAlyn yn helpu i ffurfio’r cynllun Strydoedd Saffach ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddau. Gwnaeth y grŵp gais llwyddiannus i Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref a dyrannwyd £517,000 iddynt i ddylunio a darparu ymyraethau atal troseddau, gan helpu preswylwyr i deimlo’n saffach yn eu cymuned.

12

“Mae hwn yn gynllun partneriaeth mor bwysig i Orllewin y Rhyl. Rydym wirioneddol am daclo’r ffaith bod gan yr ardal gyfraddau troseddau uwch na threfi cyfagos a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl sy’n byw yma.” Dengys ystadegau’r heddlu ar gyfer Mawrth eleni bod nifer y digwyddiadau troseddol yn y Rhyl chwe gwaith yn uwch na’r ardal agosaf o ran nifer y problemau. Ychwanegodd Jenni: “Mae’r preswylwyr yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ddigwydd, ynghyd â’r partneriaid eraill yn y cynllun hwn.” “Hoffem ddiolch i Travis Perkins am fenthyg yr offer oedd arnom eu hangen i ni osod eitemau diogelwch allanol, ac i’n holl staff a wirfoddolodd eu hamser i gyflawni’r gwaith.”

Dywedodd Stephen Hughes, Prif Weithredwr Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru: “Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig iawn wrth wneud ein cymunedau yn saffach ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gall grwpiau gwahanol ddod at ei gilydd. “Mae gan bobl hawl i fod yn saff a diogel yn eu cartrefi ac ar strydoedd eu cymdogaeth ac mae ein gwaith gyda ClwydAlyn a’r Cyngor Sir wedi dwyn ffrwyth gyda dros hanner miliwn o bunnoedd yn mynd i atal troseddau yng Ngorllewin y Rhyl.” Roedd cangen Travis Perkins yn Queensferry wrth eu bodd eu bod yn gallu cynnig ysgolion, driliau, offer ac offer diogelu personol i gefnogi’r achos teilwng hwn. Dywedodd Andy Craig, Rheolwr Cyfrif Gwasanaethau a Reolir Travis Perkins, yr adran o Travis Perkins sy’n cefnogi’r gadwyn gyflenwi ac atebion caffael i dai cymdeithasol: “Rhoddais i a’r tîm Gwasanaethau a Reolir ein hamser i gynorthwyo gwirfoddolwyr i osod eitemau diogelwch mewn dros 40 eiddo. Rydym yn falch o fod yn chwarae ein rhan i helpu’r preswylwyr yng Ngorllewin y Rhyl i deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi.” Gwahoddir preswylwyr Gorllewin y Rhyl i gymryd rhan yn y cynllun Strydoedd Saffach trwy ddod yn Hwyluswyr Cymunedol. Mae’r swydd yn cynnwys cynnig cyngor ymarferol ar atal troseddau, cynorthwyo i gyflawni cynllun gwylio cymunedol a chymryd rhan weithredol mewn cynlluniau cymunedol.


EICH CYMUNED

Diwrnod Sgip

CYMUNEDOL Fis diwethaf cynhaliwyd diwrnod sgip cymunedol yn Hafan yr Ewyn a Llys y Castell yn y Rhyl. Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda phreswylwyr ac asiantaethau perthnasol yn ein cymunedau. Roedd y diwrnod hwn yn llwyddiant mawr, felly diolch anferth i’n holl staff a phreswylwyr a gymerodd ran mewn diwrnod glanhau cymunedol. Gwaith tîm rhagorol, fe wnaeth wahaniaeth anferth!

Er mwyn dod o hyd i fanylion eich cyngor lleol i gasglu eitemau mawr gallwch fynd i wefan y llywodraeth yma www.gov.uk/collection-large-waste-items

Os ydych yn cael trafferth cyrraedd cyfleusterau ailgylchu, yna cysylltwch â’ch swyddog tai a all fod yn gallu eich cyfeirio at yr asiantaethau cywir i gael cefnogaeth.

Neu, os gellir ailgylchu eich eitem a’i werthu ymlaen, efallai y byddai’n werth gweld a oes unrhyw sefydliadau lleol a allai gasglu’r eitemau yma am ddim i chi; yna gobeithio y byddant yn symud i gael eu defnyddio eto mewn cartref da.

Os ydych yn ystyried cael gwared ar hen ddodrefn neu nwyddau gwyn mae gwasanaeth casglu gwastraff ar gael gan eich cyngor lleol ac fel arfer mae’n cael ei gasglu am ffi fechan.

fel hyn yn cynnwys: Mae’r enghreifftiau o sefydliadau rg.uk/refurbs/ www.groundworknorthwales.o www.crestcooperative.co.uk/

13


EICH CARTREF

Awgrymiadau

GARDDIO A’CH CYFLE CHI I HAWLIO HADAU AM DDIM GAN #Dylanwadwch

Gan Richard

HADAU AM DDIM

Awgrymiadau Garddio at yr Haf ar Gyfer Gerddi Bychan

Mae Richard Burrows ein Swyddog Iechyd a Diogelwch yn rhannu ei arbenigedd garddio. Rwyf bob amser yn cael fy nenu gan erddi bach cyfyng lle mae pethau’n llawer mwy heriol. Ar ôl gweithio gyda thenantiaid a phreswylwyr yn Lerpwl, Cilgwri a Chaer dros nifer o flynyddoedd, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld y mannau a’r hafanau mwyaf rhyfeddol y mae pobl wedi eu creu o’r nesaf peth i ddim a rhyfeddu at y cariad a’r ymrwymiad y maent wedi ei ddangos yn eu hymdrechion. Cyn belled ag y mae gerddi yn y cwestiwn, yn bendant nid yw’n fater o mwyaf yn y byd gorau’n y byd! I’r rhai ohonoch sydd â balconi bach, teras, neu iard mae’n dal yn ddigon posibl tyfu amrywiaeth o blanhigion i sionci’r lle ac i chi gael ffrwythau a llysiau ffres, blasus. Mae llawer o bobl yn cychwyn gyda blychau ffenestri, cynwysyddion o bob maint a siâp a basgedi crog, mae gwelyau wedi eu codi yn syniad gwych i’r rhai sy’n gweld plygu a chyrraedd yn bell yn broblem. Yr allwedd i arddio’n llwyddiannus mewn cynwysyddion yw peidio â bod yn gynnil hefo’r compost – gofalwch eich bod yn cael yr un gorau y gallwch ei fforddio, cofiwch bod raid iddo gynnal y blodau a’r ffrwythau am dri mis. Er bod y rhain yn gyflwyniad rhagorol i arddio, rhaid gofalu eu bod yn cael digon o fwyd a dŵr gan eu bod yn sychu’n gyflym iawn, yn arbennig yn y tywydd poeth gallant fod yn anodd eu hail-wlychu ar ôl iddynt sychu. Mae darn o bibell ddyfrio gyda gwayw yn sownd wrtho yn offeryn defnyddiol iawn. Mae dyfrio a rhoi bwyd yn bwysig iawn os ydych am gael y gorau o’r rhain felly bydd eu bwydo’n gyson gyda gwrtaith toddadwy yn eich dŵr yn hanfodol, os ydych yn tyfu tomatos neu fefus yna mae rhoi gwrtaith ddwywaith yr wythnos yn syniad da pan fydd ganddynt flodau. Cofiwch eich bod yn gallu plannu llysiau mewn cynwysyddion hefyd, mae ffa Ffrengig yn gwneud yn dda iawn mewn twb mewn man heulog - maen

14

nhw’n fach, yn dynn ac yn hawdd eu rheoli fel y mae rhai o’r tatws cynnar iawn sy’n ychwanegiad braf at unrhyw bryd yr amser yma o’r flwyddyn. Tynnwch bennau blodau sydd wedi marw er mwyn iddynt flodeuo eto – mae hyn yn wir am bob planhigyn oni bai eich bod yn casglu’r hadau, wrth gwrs. Dyma’r adeg i gael eich holl blanhigion ar gyfer y gwelyau blodau allan o’r tŷ gwydr neu oddi ar sil y ffenestr ac i’w mannau yn yr haul: mae manawyd y bugail, betsan brysur, clari, melyn mair, petwnia a bidoglys yn gwerthfawrogi’r gwres a’r haul uniongyrchol, gofalwch amdanyn nhw ac fe fyddwch yn sicr o gael digonedd o liw ac aroglau bendigedig, ar fin nos yn enwedig. Bydd y pryfed yn diolch i chi am hynny hefyd. Mae llawer i’w wneud yn yr ardd yn anterth y tymor, ond cofiwch bod y cyfan er eich mwynhad, dysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd, felly ewch amdani, rhowch gynnig arni, ymlacio a gadael i natur wneud ei waith, fe fyddwch yn synnu at yr hyn y gallwch ei greu. Os bydd gennych unrhyw ymholiad neu broblem na allwch ei datrys, yna gadewch i ni wybod trwy anfon e-bost at Communications@clwydalyn. co.uk ac fe allwn ni geisio eich helpu hefo ychydig o gyngor. Mwynhewch y garddio.

wydalyn.co.uk InfluenceUs@cl Cysylltwch ag IM. n o hadau AM DD i gael eich pecy h nlynol y byddec i ni pa un o’r ca u/ ia ys Rhowch wybod Ll , n do iau/ffrwythau da yn ei hoffi; Llys ffredinol. Cy u da Ha u n ne ffrwythau alla rhowch wybod an hefyd! Felly rh d ry m gy t an Gall pl llwn archebu ai i’ch plant a ga rh el ga ch ffe . os ho nnig iddyn nhw pecyn hwyl arbe


EICH CARTREF

AWGRYMIADAU UWCHGYLCHU

a DIY

LAURA MCKIBBIN GOLYGYDD Y CYLCHLYTHYR YN RHANNU MANYLION EI GWAITH UWCHGYLCHU DIWEDDAR.

Caru Uwchgylchu Hysbysebwyd y troli hwn am ddim ar Facebook Marketplace, ie, AM DDIM. Mae Facebook Marketplace yn lle gwych i ddod o hyd i drysorau yn arbennig wrth uwchgylchu. Dull Uwchgylchu. Er mwyn gorffen yr eitem yma, fe ddechreuais trwy ei rwbio â phapur tywod a’i olchi â sebon siwgr. Prynais dun bach o baent du matt a rholer bach o PoundLand. Ychydig dan awr gymerodd y broses gyfan a chostiodd lai na £5 ac rwyf mor hapus hefo’r canlyniad. Rwyf wedi ei ddefnyddio fel troli diodydd ond gellid ei ddefnyddio ar gyfer te a choffi, troli colur, storio teganau...Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Awydd rhoi Cynnig Arni? Os ydych yn ystyried uwchgylchu yna mae Facebook Marketplace yn lle gwych i ddechrau arni, mae siopau elusen ar gael hefyd a’ch Crest lleol. Mae Crest yn cynnig amrywiaeth eang o nwyddau tŷ ail law ar brisiau fforddiadwy. Maent yn cynnig eitemau newydd sbon hefyd, i roi dewis i gwsmeriaid, a daw eu holl nwyddau gwyn ail law â mis o warant, dewis poblogaidd iawn gan gwsmeriaid.

Gallwch hefyd brynu paent yn rhai o’r siopau rhad os ydych yn ceisio cadw pris eich prosiect yn isel. Mae’r rhain yn cynnwys; Home Bargains, Poundland a B&M.

Os ydych chi wedi bod yn gwneud dipyn o DIY a bod gennych syniad yr hoffech ei rannu, yna anfonwch o i mewn at Communications@ Clwydalyn.co.uk neu anfonwch neges testun a llun a chynnwys at 07880431004

ARIAN AR YSGOL

GYFER GWISG Oeddech chi’n gwybod, os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim ac ar fin cychwyn yn yr ysgol uwchradd, efallai bod gennych hawl i gael help tuag at wisg ysgol newydd?

Bydd y cynllun newydd ar gyfer 2021 i 2022 ar agor o 15 Gorffennaf 2021. Gallwch wneud cais yn uniongyrchol trwy eich cyngor lleol a chael mwy o wybodaeth trwy’r ddolen hon:

llyw.cymru/grant-datblygu-disgyblion-mynediad

15


Ein

EICH CARTREF

t Taith an rbo Sero Ca

Taith at

Edrychwch ar Ein Strategaeth Amgylcheddol yma:

Sero Carbon Rhan fawr o’n cenhadaeth i daclo tlodi yw edrych sut y gallwn leihau tlodi tanwydd i’n preswylwyr. Rhan allweddol o hyn yw helpu i leihau’r effaith y mae ein cartrefi llai effeithlon o ran ynni yn gallu ei gael ar iechyd a llesiant pobl. Rydym ar ein Taith at Sero Carbon, ac er mwyn cyrraedd yno byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu effeithlonrwydd ynni ein cartrefi dros y blynyddoedd nesaf. Bydd arnom angen eich cefnogaeth os ydych yn byw yn un o’n cartrefi llai effeithlon. Rydym wedi cyffroi o gychwyn ar ein cenhadaeth i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar a chynaliadwy ac rydym yn eich croesawu chi i ymuno â ni ar ein taith.

Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar fideo i lansio ein gweledigaeth amgylcheddol. Cawsom ychydig o help gan blant o Brynteg ac Ysgol Maes y Mynydd, a fu’n cyfweld ein Cyfarwyddwr Cynnal a Chadw, Dave Lewis. Fe wnaethant ofyn pa gamau y mae ClwydAlyn yn bwriadu eu cymryd i helpu’r amgylchedd... cadwch olwg am y fideo i gael gwybod beth ddywedodd o! Fe fyddem yn hoffi diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran gan ei fod wedi bod yn llawer o hwyl a bu’r ffilmio yn llwyddiant anferth.

16


EICH CARTREF

Rysáit Preswylwyr Coginio prydau rhad blasus.

GOŁĄBKI

(RHOLIAU BRESYCH MEWN SAWS TOMATO)

CYNHWYSION: 1 cabaetsen canolig / mawr wen (mae cabaits savoy yn gweithio’n dda hefyd) 500-700g o fins porc 1 nionyn (wedi ei dorri’n fân) 1 bag o reis 1 ciwb stoc Purée Tomato Halen, Pupur

Rhannwyd ein rysáit haf gan ein preswylwraig Hanna... Pryd o Wlad Pwyl yw hwn a gellir ei greu am lai na £5

DULL COGINIO: Coginiwch y gabaetsen gyfan mewn dŵr â halen mewn sosban fawr wedi ei gorchuddio nes bydd y dail yn mynd ychydig yn feddal (tua 5 munud). Tynnwch y gabaetsen o’r sosban gan ofalu nad ydych yn torri’r dail. Gadewch i oeri. Torrwch y dail i ffwrdd o waelod y gabaetsen a philiwch ei chorun yn ofalus o un i un. Yn ofalus rhowch y ddeilen yn wastad a thorri coesyn tew y ddeilen i wneud rholio’r cig yn haws. Ffriwch y nionyn nes y bydd yn feddal ond heb newid ei liw. Coginiwch y reis gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Ar ôl eu coginio, oerwch a chymysgu gyda’r cig a’r nionyn. Ychwanegwch halen a phupur yn hael. Ar ôl i’r cynhwysion gael eu cyfuno’n wastad, gallwch ddechrau rhoi’r stwffin ar y dail cabaits. Rhowch y gymysgedd o gig tua gwaelod y ddeilen a’i lapio fel y byddech yn plygu amlen, gan blygu’r gwaelod yn gyntaf, yna’r ochrau ar ei ben, gan ei rowlio tuag at ran uchaf y ddeilen. Gosodwch gyda rhan uchaf y ddeilen dan y rholyn.

Defnyddiwch unrhyw gabaets dros ben i leinio gwaelod y sosban. Yna rhowch y rholiau cabaets y tu mewn. Gorchuddiwch gyda dŵr ac ychwanegu’r ciwb stoc, halen a phupur. Os oes gennych fwy o ddail cabaets ar ôl, gallwch eu trefnu dros y rholiau hefyd. Codwch i ferwi, yna trowch y gwres i lawr i farc nwy canolig (3 neu 4) a mudferwi yn ysgafn am tua 1 awr. Ychwanegwch y puree tomato (gallwch dywallt ychydig o ddŵr i’r pecyn i gael y cyfan allan). Cymysgwch yn ysgafn trwy bwyso i lawr ar y rholiau neu eu symud ychydig i’r ochrau. Coginiwch am 30 munud eto. Tatws stwnsh sydd yn mynd orau hefo’r pryd gyda saws tomato wedi ei dywallt drostynt yn hael. Gall y dail cabaets rhydd oedd yn coginio gyda’r rholiau gael eu gweini hefyd.

A oes gennych chi rysá it y bydde ch yn ho ffi ei rannu ? Anfonw ch eich rys áit a llu n at Commu nication s@ clwyda lyn.couk

17


EICH CIPOLWG AR...

Diwrnod Ym Mywyd… Uwch Swyddog Prosiect Tom Humphriss Fy enw yw Tom Humphriss, ac rwy’n uwch swyddog prosiect yn Foyer Wrecsam. Rwyf wedi gweithio i ClwydAlyn ers 5 mlynedd ac rwyf wedi bod yn fy swydd bresennol ers ychydig dros flwyddyn. Cynllun 18 gwely yw Foyer Wrecsam, sy’n cartrefu pobl rhwng 16 a 24 oed - llawer ohonynt o gefndiroedd cymhleth iawn ac unigryw. Gan ei bod yn ymddangos ein bod yn cyrraedd diwedd y flwyddyn hir a rhyfedd iawn hon mae popeth fel petai’n dod yn ôl i drefn, sy’n cyffroi pawb yma yn y foyer, ond mewn byw â chefnogaeth rydym wedi bod yn ddigon lwcus i barhau i gefnogi ein pobl ifanc, er ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, ond yn cefnogi yr un modd. Rydym yn awr yn edrych ymlaen i ailgychwyn ein digwyddiadau cyfranogiad tenantiaid gwych eto, lle’r ydym yn cael ein preswylwyr yn rhan o ddigwyddiadau coginio fel Dydd Mawrth ‘fake-away’, neu un o fy hoff ddigwyddiadau i, dydd Llun ‘make it’, lle mae preswylwyr yn creu gwaith celf sy’n cael ei ddangos gyda balchder o gwmpas ein hadeilad. Diwrnod arferol ym mywyd uwch swyddog yn Foyer Wrecsam yn cychwyn gyda chyfarfod staff i drafod beth fydd y diwrnod yn ei gynnig, gyda choffi, wrth gwrs. Byddwn yn trafod unrhyw broblemau, cyfarfodydd neu sesiynau cefnogaeth a all fod i gael eu cynnal y diwrnod hwnnw ac yna bydd y gweithwyr prosiect yn mynd a gwneud yr hyn maen

18

nhw’n ei wneud orau, a hynny yw cefnogi’r preswylwyr gydag unrhyw beth a phopeth o gysylltu â Chredyd Cynhwysol i ddysgu sgiliau coginio sylfaenol iddyn nhw. Bob bore mae’r preswylwyr yn mynd i glwb brecwast i’w paratoi ar gyfer y diwrnod sydd o’u blaenau - maen nhw’n dod at ei gilydd fel grŵp gyda’r staff, sy’n arwain at fore gwych.

Rwyf wedi gwneud hyn i sicrhau eu bod yn teimlo bod y Foyer yn gartref ac nid dim ond hostel, wedi’r cyfan, os nad yw’r adeilad yn cyfateb i’r ffordd yr ydym am i’r preswylwyr deimlo, ni fyddwn yn cael y deilliannau gwych yr ydym yn eu cael yn gyson. Yn anffodus, mewn tref o faint Wrecsam, mae prosiect fel Foyer Wrecsam yn dod ag amgyffredid sydd yn aml ar sail diffyg gwybodaeth ac yn syml yn hollol anghywir, ac un o fy nodau ers dod yn uwch swyddog gwta 13 mis yn ôl yw newid yr amgyffrediad ac addysgu pawb am y gwaith anhygoel yr ydym yn ei wneud yma a pha mor wych yw’n preswylwyr. Wrth i fywyd ddod yn ôl i drefn, ein nod yn y Foyer yw siarad gydag ysgolion, colegau a, gydag unrhyw un wnaiff wrando, rhannu’r hyn yr ydym yn ei wneud a newid yr amgyffrediad hwnnw. Rydym yn gweithio bob dydd gyda’r ddealltwriaeth fod pawb yn haeddu ail gyfle ac mae bod â’r agwedd hon yn dwyn llawer o fanteision. Nid oes dim yn well na gweithio’n glos gyda phreswylwyr gyda’r nod o’u cefnogi i fyw’n annibynnol a phan fydd y tîm staff yn llwyddo i wneud hyn, mae sylweddoliad bob amser yn ein swyddfa pam ein bod yn gwneud y gwaith yr ydym yn ei wneud, sydd ond yn cael ei guro pan fydd cyn-breswylwyr yn dod yn ôl i ddweud wrthym pa mor dda y maen nhw’n gwneud.

Rwy’n cyfarfod y preswylwyr yn gyson i glywed unrhyw bryderon sydd ganddynt a pha welliannau fydden nhw’n hoffi eu gweld o gwmpas yr adeilad – yr ydym wedi treulio’r 12 mis diwethaf ar un ohonynt, ac mae hyn trwy wella’r mannau byw i’n preswylwyr trwy addurno ystafelloedd yn well a diweddaru dodrefn i gyd-fynd ac yn syml newid awyrgylch yr adeilad. Mae’n amlwg yn yr ewn dod yn adborth gan breswylwyr eu bod h ddiddordeb m Os oes gennyc i ClwydAlyn yn gwerthfawrogi’r ardaloedd iect neu weithio Swyddog Pros thio i ni: byw modern yn fawr iawn. n tudalen gwei yna gwiriwch ei for-us/ yn.co.uk/workwww.clwydal


Ateb eich cwestiynau Cwestiwn

Pam nad yw fy miniau wedi cael eu gwagu ar sawl achlysur rŵan? Preswyliwr ym Mae Colwyn

Ateb Mae hwn yn gwestiwn gwych ac yn un sy’n cael ei ofyn yn aml. Nid y ni sy’n rheoli casglu ysbwriel cyffredinol yn eich cartref, gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu trwy eich cyngor lleol yw hwn. Mae gan bob cyngor ganllawiau gwahanol, ac mae gan bob awdurdod lleol reolau caeth y mae angen i chi eu dilyn. Nid yw cynghorau yn gallu gwagu’r biniau ailgylchu os bydd gwastraff cyffredinol ynddyn nhw fel gwastraff bwyd. Mae’n bwysig iawn i chi sicrhau

bod biniau ailgylchu yn cael eu defnyddio ar gyfer eitemau y gellir eu hailgylchu yn unig. Mae’n neilltuol o bwysig defnyddio biniau cymunedol yn gywir gan y gall gael effaith anferth ar eich cymdogion sy’n gorfod defnyddio’r un biniau. Os oes gennych unrhyw broblemau ailgylchu neu bod arnoch angen rhagor o gefnogaeth yna gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol neu eich swyddog tai a all eich cynghori ar ba eitemau sy’n mynd i ba fath o fin. Rydym hefyd wedi gallu darparu cynwysyddion storio ailgylchu bach i breswylwyr mewn fflatiau.

Er mwyn cael gwybod beth yw’r rheolau ar gyfer eich ardal ewch i https://www.gov.uk/rubbish-collection-day

Gall camau bach wneud newidiadau mawr! Rydym am rannu ychydig o ffyrdd syml y gallwn ni gyfrannu tuag at ymladd yn erbyn newid hinsawdd.

Newidiwch i fylbiau LED

Bwytwch lai o gig

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am leihau gwastraff neu arbed arian, yna anfonwch nhw i mewn at communications@clwydalyn.co.uk

Beiciwch neu cerddwch yn hytrach na gyrru

Cyfnewidiwch eitemau un defnydd am rai amlddefnydd LESS IS MORE

Diffoddwch offer trydanol pan na fyddant yn cael eu defnyddio

Bwytwch fwyd sydd wedi ei dyfu yn lleol

Gwastraffwch lai o fwyd

Prynwch lai

Lleihau Papur a Phostio Sychwch ddillad ar y lein

Prynwch ragor o ddillad ail law

Wrth i ni weithio ar ein strategaeth amgylcheddol, byddem hefyd yn hoffi lleihau faint o gopïau papur yr ydym yn eu postio. Os hoffech chi dderbyn eich copi yn ddigidol, yna mewngofnodwch i’r porth a rhannu eich dewis o ran cyfathrebu â ni.

19

EICH BARN

Bag Post

ddech yn h gwestiwn y by Os oes gennyc ythyr, yna hl iddo yn y cylc hoffi cael ateb st atom yn anfonwch e-bo .co.uk ns@clwydalyn communicatio


Eich Cystadleuaeth Cyfle i chi ennill £25 mewn talebau Amazon.

M A D D Y W Y T S L H S

E N D G O I U F U L T E

T R E L D F O R G E E R

E H R W E F B B F I O W

O A E H C W A Z X T B G

R G H G A A G H Y H L O

O W M P V G H A H D I K

L E Y L M T O C H E W T

E L T Z E J W L V R H X

G A I O W L W H Y Q C C

O D P Y A N U D D G U H

L W J S K A D I C D O U

C Y F N E W I D I O L N

U A N N A R A T N Y R I

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Awst 2021 Byddwn yn cysylltu â 3 enillydd lwcus erbyn 23 Awst 2021

A T L S H E U L W E N Y

U I N E P O E T H D O N

Q I L P W H K Z X E F X

H X Z S F A U U H L A L

HAF TYWYDD ANRHAGWELADWY CYFNEWIDIOL HINSAWDD TYMHEREDD RHAGWELD METEOROLEGOL RHAGOLYGON HEULWEN POETH CHWILBOETH AWEL LLEITHDER POETHDON SALWCH GWRES TARANNAU

n, illwyr rhifyn y gwanwy Llongyfarchiadau i en h £25! lebau amazon gwert fe wnaethant ennill ta Môn Frances Hurst - Ynys inbych Dd Sir ure Leticia Z. To Fflint Val Eastwood - Sir y

ENW

FFÔN

CYFEIRIAD E-BOST

Er mwyn bod â chyfle i ennill; Ysgrifennwch eich Enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad.

CYFEIRIAD

Anfonwch i gyfeiriad ein Prif Swyddfa 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD Ffôn: 01745 536800 neu anfonwch e-bost at communications@clwydalyn.co.uk

ClwydAlyn.co.uk

@ClwydAlyn


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.