2 minute read

SINEMA CINEMA

Next Article
Hanner Tymor!

Hanner Tymor!

Pontio Bangor

Tocynnau: £5.50 - £7.50

70 dangosiad y mis

1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw

Rhaglen fisol y sinema ar gael yn y ganolfan

Newyddlen e-bost wythnosol:

Crëwch gyfrif ar www.pontio.co.uk

Ffilmiau’r p’nawn dim ond

Llun-Mercher am 2pm

£5.00

Das Rheingold

Nos Fercher 20 Medi, 7.15pm

Y cyfarwyddwr Barrie Kosky yn ymuno â'r arweinydd Antonio Pappano mewn cynhyrchiad newydd, beiddgar o bennod gyntaf cylch Wagner.

Don Quixote

Nos Fawrth 7 Tachwedd, 7.15pm

Yn gyforiog o gomedi, ffraethineb a digonedd o goreograffi bravura, mae cynhyrchiad Carlos Acosta yn dod â gwres a rhamant Sbaenaidd nofel glasurol Cervantes yn fyw.

L’ELISIR D’AMORE

Nos Iau 5 Hydref, 7.15pm

Haul, hwyl ac acrobateg lleisiol sydd i’w ddisgwyl yn llwyfaniad hoffus Laurent Pelly o gomedi feddwol a ffraeth Donizetti.

The Nutcracker

Nos Fawrth 12 Rhagfyr, 7.15pm

Dydd Sul 17 Rhagfyr, 2.15pm

Dewch i gael eich swyno gan ddawnsio bale gyda'r wledd Nadoligaidd odidog hon i'r teulu cyfan.

Rhinoseros

Nos Fercher 1 + Nos Iau 2 Tachwedd, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 - £16 gan Eugène Ionesco

Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros

Yn llawn hiwmor annisgwyl yn thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebaeth ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd

Yn Blwmp ac yn Blaen

Nos Wener 17 + Nos Sadwrn 18 Tachwedd

7.30pm Stiwdio

£12 / £10

I ddathlu cyrraedd ei 70, mae Cefin Roberts yn mentro yn ôl i'r llwyfan ar ei liwt ac ar ei ben ei hun am y tro yma. Wedi perfformio Y hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau

Dyn Gwyn gan Aled Jones Williams fel rhan o drioleg Theatr Bara Caws, Lleisiau, yn ystod y cyfnod clo gallwch nawr ei weld ar lwyfan ein Stiwdio.

Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus –mae’r rhinoserosod yn dod. 12+

Yn dilyn y perfformiad, bydd Aled Jones

Williams yn ymuno gyda Cefin i lansio ei hunangofiant, Yn Blwmp ac yn Blaen. Gyda darlleniadau a sgwrs.

22 – 25 Tachwedd, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 - £18

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid.

Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.

Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.

Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?

Sioe gerdd newydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen sy’n ailddychmygu’r stori eiconig, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo cast rhagorol o berfformwyr a cherddorion.

Llyfr gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies

Cerddoriaeth a geiriau gan Seiriol Davies

Ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor

Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri

Genedlaethol

13+

Cadwch olwg am ragor o ddigwyddiadau byw, dangosiadau sinema, agoriad arddangosfeydd a gweithdai ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.

This article is from: