1 minute read
Tiwtoriaid dan Hyfforddiant!
Cynllun hyfforddiant sy'n cefnogi pobl ifanc i gysgodi ymarferwyr a thimau sy'n gwneud gwaith ym myd ymgysylltu â'r celfyddydau.
Mali Elwy
Helo! Mali Elwy dw i a dwi’n fyfyrwraig Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn fwy diweddar dwi ‘di cael y pleser o ddechrau gweithio fel tiwtor dan hyfforddiant yn Pontio gyda thîm BLAS. Mae hyn yn brofiad newydd sbon i mi, ac yn fy amser byr gyda’r tîm, dwi wedi cael y fraint o weithio ar ambell i brosiect arbennig iawn. Dwi’n caru’r ffordd mae’r tîm yma’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal fynd i'r afael â byd y celfyddydau o oed ifanc, a’r cyfleoedd amrywiol mae BLAS yn gynnig iddynt. Mae nhw mor lwcus o gael prosiect fel hyn yn eu hardal, a dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gael bod yn rhan fach ohono.
Marie-Pascale Onyeagoro-Okonkwor
Fy enw i yw Marie-Pascale OnyeagoroOkonkwor. Astudiais MSc mewn Seicoleg Clinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Gweithiais gyda BLAS Bangor am y tro cyntaf fel tiwtor dan hyfforddiant ar brosiect llyfrau gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Penderfynais fy mod eisiau profiadau go iawn yn y gymuned a thu hwnt i ffiniau Bangor cyn mynd ymlaen i astudio PhD.
Mae gweithio gyda BLAS, Pontio, wedi ehangu fy ngorwelion gan fy arwain i archwilio sawl trywydd newydd, gan gynnwys ysgrifennu monologau, dysgu Cymraeg yn ffurfiol, dechrau busnes, cymryd rhan mewn arddangosfeydd celf a gweithgareddau diwylliannol eraill, gan gyfrannu llawer mwy i’r gymuned. Y peth gorau sydd wedi deillio o weithio gyda BLAS yw bod fy nhair merch a fu'n rhan o brosiect y Clwb Darllen, wedi dechrau ysgrifennu gyda hyder anhygoel, a dwi’n gobeithio rhyw ddydd, y daw gwasg i wireddu eu breuddwydion.
Celf
Medi – Rhagfyr 23
CYMERWCH GIP AR
ARDDANGOSFEYDD YR HYDREF
PAUL R JONES + DATAMOSH
Hydref 2023
Gosodiad hybrid yng ngofodau cyhoeddus Pontio i gyd-fynd â chyngres
IKT 2023 ar Gelf ac Uwch-Dechnoleg.
Chwa o Awyr Iach
Nes diwedd Medi
Arddangosfa aml-gyfrwng, chwareus gyda gwaith celf gan Ella Jones, Esyllt Lewis, Mia Roberts a Gwenllian Spink.
Rebecca F Hardy
Tachwedd – Rhagfyr 2023
‘Yr hyn sy’n pylu’
Cyflwyniad o ymchwil creadigol yr artist ar ffurf lluniadau, sgrin-brintiadau, ffotograffiaeth, ffilm a gosodiadau.
Ciosg Celf ar ein cyfryngau cymdeithasol.