1 minute read

Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft

Nos Wener 1 Rhagfyr, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

£5 - £20 (Tocyn Teulu ar gael)

Hannah Kendall Spark Catchers

Glazunov Concerto i’r Feiolin

Dvořák Symffoni Rhif 8

Ryan Bancroft arweinydd

Ben Beilman feiolin

Bydd y Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â ni ar daith eto'r hydref hwn, gan ddechrau'r rhaglen â The Spark Catchers gan Hannah Kendall. O’i fywiogrwydd llawn ynni a’i egni rhythmig i’w alawon melancolaidd a’i gywreinrwydd caboledig, mae’r gwaith yn seiliedig ar gerdd hynod ddeinamig Lemn Sissay o’r un enw.

Mae’r Concerto i’r Ffidil gan Glazunov, er iddo gael ei ysgrifennu dros ganrif cyn gwaith Hannah Kendall, yn dangos bywiogrwydd rhythmig a thelynegol tebyg.

Mae’n cyfuno dawn virtuoso yr unawdydd â mynegiant telynegol ac emosiwn dwfn, gydag awyrgylch, tempo a deinameg sy’n newid rhwng symudiadau i greu’r cyfanwaith. Mae Dvořák yn adlewyrchu llawenydd pur y byd naturiol yn ei Wythfed Symffoni, sydd yr un mor rhythmig a melodaidd. Mae'r coralau tywyll, tawel yn ildio i unawdau arwrol ar y chwythbrennau, ac mae huodledd pruddglwyfus yn ildio i lawenydd hoenus yn y symffoni ddramatig gyffrous hon.

This article is from: