1 minute read
MELA
Nos Fercher 13 + Nos Iau 14 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£15 / £10
Mae’r ysgol wedi cau am yr haf ac mae’r ieuenctid yn barod i fwynhau’r gwyliau. Ond…mae’r dyn busnes cyfoethog, Mr Harry Valentine, wedi cael digon. Fo sydd berchen y clwb ieuenctid ac mae o am gau’r sefydliad. Oes yna ffordd i’r ieuenctid gadw’r adeilad a’r adnodd? Oes na ffordd i gael y gorau ar Mr Valentine? Oes ganddo gyfrinach nad ydi o eisiau i neb wybod amdani?! Dewch i fwynhau cyflwyniad Ysgol Tryfan o stori ddifyr a dramatig!!
BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau
Gweithdai Wythnosol Blas
Gweithdai drama a pherfformio wythnosol i ddatblygu hyder, presenoldeb llwyfan, sgiliau perfformio ac i fwynhau!
Nos Lun:
5.00pm-6.00pm Blwyddyn 3 a 4
6.15pm–7.15pm Blwyddyn 5 a 6
Nos Fercher:
6.30pm-7.30pm Blwyddyn 7, 8 a 9
7.15pm-8.15pm Blwyddyn 10 - 13
Cost: £25 am dymor (mae gostyngiad ar gael ar gyfer trigolion LL57 1)
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Does dim rhaid bod yn rhugl, ac rydym yn croesawu pawb o bob gallu ieithyddol.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch ebost at Mared: m.huws@bangor.ac.uk