1 minute read
Projectau BLAS
Hirael a Beddgelert
Mae BLAS newydd ddechrau ar broject creadigol cymunedol sy'n cael ei gynnal mewn mewn dau le, ym Meddgelert a Hirael. Os ydych chi'n byw yn yr ardaoedd yma, neu wedi bwy yno ac awydd ymuno cysylltwch â m.huws@bangor.ac.uk
Opera Canolbarth Cymru
Llongyfarchiadau anferth i griw y corws ifanc ym Mangor am eu perfformiad arbennig yng nghynhyrchiad Opera
Canolbarth Cymru o’r opera Hansel a Gretel. Profiad gwefreiddiol i’r criw oedd bod yn rhan o’r opera arbennig yma a chanu ar lwyfan gyda chantorion o fri.
“Dwi rioed wedi gweld opera o’r blaen a’r un cynta’ dwi’n weld, dwi ynddi!”
Diolch mawr i Manon Llwyd ac Annette
Bryn Parri am eu gwaith caled yn paratoi’r criw ar gyfer y perfformiad! Dyma brofiad fydd yn sicr o aros yn y co’.
Y
Cwmwl / The Cloud
Mae Tîm BLAS yn hynod falch o griw BLAS Bach a berfformiodd eu sioe ddyfeisiol Cwmwl nôl ym mis Mai. Dyma'r tro cyntaf i 98% o’r cast berfformio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel ac roeddent yn wych!
Braf oedd cael cwmni Christopher gefn llwyfan hefyd. Christopher oedd un o aelodau cyntaf BLAS nôl yn 2008. Arhosodd Christopher yn aelod o Blas tan 2020, ac eleni cafodd ei gyflogi gan BLAS i weithio ar sioe BLAS Bach.
Ysgol Pendalar
Bu BLAS draw yn Ysgol Pendalar yn creu campweithiau celf ar gyfer cynhyrchiad Ballet Cymru o Little Red Riding Hood and the Three Little Pigs gyda’r artist Manon
Dafydd, y ddawnswraig Angharad Harrop, a'r bardd Buddug Roberts gyda Mali Elwy yn cefnogi – darllenwch fwy am Mali isod.