
1 minute read
Llŷr Williams
Nos Iau 7 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£5 - £20
Mae'r pianydd o Gymro, Llŷr Williams, yn cael ei edmygu'n helaeth am ei ddeallusrwydd cerddorol dwfn, ac am natur fynegiadol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Mae wedi perfformio gyda phob un o brif gerddorfeydd y Deyrnas
Unedig ac mae ganddo berthynas arbennig o hirsefydlog â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a chyda’r gerddorfa honno, dros y tymhorau diwethaf, mae wedi perfformio concertos yn amrywio o Mozart a Beethoven i Bartók a Mathias.

Mae hefyd yn perfformio’n rheolaidd mewn neuaddau a gwyliau cerddorol gan gynnwys
Neuadd Wigmore, Neuadd Gyngerdd
Perth, a Neuadd Dewi Sant a Neuadd Dora
Stoutzker yng Nghaerdydd, ac yng Ngŵyl
Caeredin a Gŵyl East Neuk.
Nos Sadwrn 9 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£23
The Elton John Show yw’r sioe deyrnged fwyaf newydd a'r mwyaf cyffrous i gyrraedd llwyfannau'r Deyrnas Unedig.

Ac yntau wedi gwerthu dros 300 miliwn record, Syr Elton John yw un o gerddorion mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth.
Yn seren ddisglair ymhob ystyr y gair, a chanddo gatalog enfawr o ganeuon. O
Rocket Man i Tiny Dance, mae’r Elton John Show yn dod â’r Elton ifanc, llawn egni yn ôl i'r llwyfan.
Gig sefyll gyda rhai seddi ar gael ar y noson
Nos Wener 15 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£18 / £15
Ymunwch â Welsh of the West End am noson o gerddoriaeth Nadoligaidd, yn cynnwys ffefrynnau sioeau cerdd a chlasuron y Nadolig.

Tocynnau'n gwerthu'n gyflym
Yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked; mae'r cyngerdd unigryw hwn yn
Theatr Bryn Terfel yn addo bod yn noson na ddylid ei cholli!