DIGWYDDIADUR PORTMEIRION 2018

Page 1

PORTMEIRION DIGWYDDIADUR Ionawr – Mawrth 2018 www.portmeirion.cymru #BlwyddynYMôr


2018 – BLWYDDYN Y MÔR Cewch hyd i un o draethau gorau Cymru ym Mhortmeirion. I ddathlu arfordir Cymru eleni, gwahoddwn ein hymwelwyr i gael blas ar brofiadau newydd ar ein traethau yn ystod 2018. Rhwng chwilio am ogofâu dirgel y Traeth Gwyn a hwylio’r môroedd meithion ar yr Amis Reunis neu forio canu yn ein cwt sain neu brofi’r bwyd môr lleol gorau ym mwyty’r gwesty mae yma rywbeth at ddant pawb. Rhowch droed yn y dŵr neu blymio i’r ddyfnderoedd wrth brofio penllanw ein harwlwy morwrol eleni. Canol Ionawr – Rhagfyr 2018 LAWR AR LAN Y MÔR Tôn i Ddathlu’r Tonnau Lawr ar lan y môr fydd piau hi eleni, a lle gwell i dreulio orig i hamddena na phentref Portmeirion lle’r ydym yn gwahodd ein hymwelwyr i rannu atgofion am y môr yn ein cwt sain lliwgar ar y cei. Martyn Ware, sylfaenydd yr Human League, sydd wedi creu’r adnodd hynod yma inni fydd yn cofnodi eich straeon a’ch cerddi ar thema’r môr. Dewch i gyfrannu a chymryd rhan yn y stori ddigidol. Nid yw’n costio dim i gymryd rhan. Ionawr 27, 2018 IECHYD DA! Byddwch yn heini, byddwch yn wych efo Portmeirion Waeth inni wynebu’r ffaith na fyddwn ni’n tywyllu’r ystafell ffitrwydd yn aml a ninnau ar ein gwyliau. Ond deuparth gwaith ei ddechrau ac os ydych chi am gadw’n heini eleni, dyma gyfle i drefnu ym Mhortmeirion. Yn ogystal â pecyn ar weithgareddau cadw’n heini a cholli pwysau o'r ganolfan groeso, bydd yno chinio iach o £25yp yn y gwesty. Ionawr - Chwefror, 2018 [ar ddydiadau arbennig] LLE BU’R TONNAU Rhyfeddwch at gelfyddyd dyfeisgar a hynod Briony Clarke Dyfeisgarwch a dyfalbarhad sydd wrth wraidd y gwaith yma. Mae artist preswyl Portmeirion yn defnyddio peiriant argraffu wedi’i bweru gan y môr i greu paentiadau trawiadol o batrymau’r tonnau. Dewch i gwrdd â Briony a gweld ei gwaith yn y Gromen ar dyddiadau arbennig. Am ddim gyda mynediad i’r pentref


Chwefror 25, 2018 NOSON GEORGE HARRISON Eiconau yn dod ynghyd ar gyfer dathliad penblwydd arbennig Bydd Portmeirion yn nodi pen-blwydd George Harrison a fyddai wedi bod yn 75 mlwydd oed heddiw efo noswaith ddifyr o sgyrsiau, teithiau, bwyd, ffilm a cherddoriaeth. Dewch i gwrdd â Freda Kelly, Cynorthwyydd Personol y Beatles o 1962– 1972, a gwrando ar Paul Jones o’r Cavern Club Beatles a’i westeion arbennig. Tocynnau ar-lein: £30 gan gynnwys swper. Mawrth 31 – Awst 31 (11yb–3yh yn ddyddiol) CROCHENWAITH Y MÔR Plymiwch i ddyfnderoedd eigion y môr-forynion a’u chwedlau Mae’r môr yn thema gyson yn hanes pentref Portmeirion. I ddathlu blwyddyn y môr yng Nghymru ynghyd â dathlu 100 mlwyddiant geni’r crochenydd a’r cynllunydd Susan Williams-Ellis, bydd Portmeirion yn arddangos detholiad arbennig o’i gwaith yn y Gromen eleni. Am ddim gyda mynediad i’r pentref Mawrth 24, 2018 6ed Llwybr Dianc i’r Gwyllt Nid yw Marathon Llundain yn dod i draed sanau hon. Ras flynyddol y 6ed llwybr yw hon a hithau’n gyfle i’r ysgafndroed yn eich mysg redeg llwybrau dirgel y Gwyllt am dros 6 cilomedr. Mae ysbyrd Guto Nyth Bran yn fyw o hyd. Rhagor o wybodaeth ar y wefan http://www.6thtrail.co.uk


AR Y GWEILL... Mawrth 6 Cinio Gala er budd Tenovus gyda chwaraewr rygbi Scott Quinnell Ebrill 20–22 Penwythnos The Prisoner Mehefin 2–17 Gŵyl Gerddi Gogledd Cymru Gwyliau'r Haf Clwb Plant Medi 6–9: Gŵyl Rhif 6 Tachwedd 30 – Rhagfyr 2: Gŵyl Fwyd a Chrefft Am ragor o fanylion neu docynnau, ffoniwch 01766 772 390 neu ebostiwch ymholiad@portmeirionvillage.com Gweler pyst cyfryngau cymdeithasol am fwy o ddigwyddiadau

PIGION Y SINEMA Bydd ffilm Clough Williams-Ellis am hanes Phortmeirion i’w gweld bob hanner awr yn ystod oriau agor yn ein cwt clyweled ynghanol y pentref. Bydd ffilmiau eraill am ddim yn i’w gweld hefyd gan gynnwys: Ionawr 13–14 (2yh): The Little Mermaid (i ddathlu blwyddyn y môr). Chwefror 14 (6yh): I ddathlu Gŵyl San Ffolant byddwn yn dangos One Day, sy’n seiliedig ar nofel boblogaidd David Nicholls. Chwefror 23 (6yh): Fel arweiniad i benwythnos George Harrison byddwn yn dangos Living in The Material World. Mawrth 23 (6yh): Dangosiad o ‘Arrival’ sef pennod gyntaf y Prisoner. Gallwch logi sinema 30 sedd y pentref am £50. Ffoniwch 01766 772 390 neu gysylltu ag ymholiad@portmeirion.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.