PORTMEIRION
BYRDDIO'R BWS tripiau a theithiau coets 2018
croeso Mae pentref bychan Portmeirion yn cynnig amrywiaeth hynod o bethau i’w gwneud a’u gweld – traethau hardd, coedwigoedd egsotig, llynnoedd cudd ac adeiladau yn steil Môr y Canoldir. ’Does ryfedd ei fod yn cael ei ystyried yn un o’r cyrchfannau mwyaf hudolus ym Mhrydain. Gan ein bod yn atyniad ymwelwyr blaenllaw ers 90 mlynedd, ’rydyn ni’n deall pwysigrwydd cynnig gwasanaeth croeso ardderchog i goetsis a grwpiau. Bydd y llyfryn yma'n tynnu’ch sylw at ein cynigion a buddiannau diweddaraf. Edrychwn ymlaen at atgyfnerthu ein perthynas gyda chi.
AMDANOM NI Wedi’i leoli ar ei benrhyn preifat ei hun yn edrych allan dros olygfeydd arfordirol trawiadol mae Portmeirion, yng nghalon Eryri, wedi bod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru ers 1926. Adeiladwyd y pentref Eidalaidd, a adnabyddir orau am ei ran yng nghyfres deledu cwlt The Prisoner yn y 1960au, gan y pensaer arloesol Syr Clough Williams-Ellis. Heblaw am ei amgylchedd deniadol, gerddi helaeth a chlwstwr o adeiladau lliw pastel, mae Portmeirion yn gartref i westai rhagorol, bwytai arobryn a siopau unigryw.
YR HYN A GYNIGIWN I CHI • Parcio diogel, rhad ac am ddim • Prosesu cyflym, ar wahân ar gyfer grwpiau sy’n cyrraedd • Prisiau atyniadol ar gyfer grwpiau • Mynediad am ddim i’r gyrrwr bws a’r tywysydd • Cyfleusterau croeso a gwybodaeth ar gyfer teithwyr coetsis ger y derfynfa coetsis • Teithiau tywys ar droed, ffilm a theithiau trên rhad ac am ddim • Talebau lluniaeth am ddim ar gyfer y gyrrwr a’r tywysydd • Darparwn ddeunyddiau hyrwyddo yn rhad ac am ddim, megis lluniau, mapiau a gwybodaeth i’w defnyddio ar eich gwefan ac mewn deunydd marchnata • Diweddariadau rheolaidd o newyddion ac am ddigwyddiadau • Cyswllt masnachol penodol • Cynllun gwobrwyo
PAM YMWELD Â NI? Gallem ysgrifennu llyfr (ac ’rydyn ni wedi gwneud hynny) am y cwbl sydd gan Bortmeirion i’w gynnig, a dyma rai o’r uchafbwyntiau:
Pentref unigryw gyda traethau
60+ acer o gerddi a choetiroedd
Digwyddiadau a bwyd arbennig
Gwestai a bythynnod hunanarlwyo
1. Y PENTREF Creadigaeth y pensaer echreiddig Syr Clough Williams-Ellis yw Portmeirion, gyda’i uchelgais o greu pentref delfrydol a fyddai’n cyfannu ei amgylchedd naturiol yn hytrach na chydweddu gydag ef. Gydag ymagwedd ecogyfeillgar, dyluniodd ei weledigaeth bensaernïol o amgylch piazza Canoldirol. Cludwyd adeiladau a oeddent mewn perygl o gael eu dymchwel ac arteffactau di-eisiau o bedwar ban byd yno a’u hail adeiladu i greu nyth o logias, porticos mawreddog a thai bychan gyda thoeau terra cotta, wedi’u paentio mewn pastel lliwgar. Mae’r canlyniad yn wirioneddol unigryw. Dychmygwch y Rifiera Eidalaidd yn uno â Chymru wledig yn un reiat o ddulliau pensaernïol. Mae taith dywys 20 munud o gylch y pentref ar gael yn rhad ac am ddim i bob ymwelydd rhwng 9.30yb a 3.30yh yn ystod y tymor uchel. Gellir dylunio taith unigryw yn ôl diddordebau’ch ymwelwyr ond cael rhybudd o flaen llaw.
2. Y GWYLLT Dyma gyfle i ddarganfod un o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru. Mae ein coedwig isdrofannol, a adnabyddir fel Y Gwyllt, yn cynnwys coed mwyaf Prydain, gerddi cudd a blodau prin, a llawer iawn mwy. Caiff eich ymwelwyr fwynhau ein taith drên am ddim i’r Ardd Ddwyreiniol, lle byddan nhw’n dod o hyd i deml glasurol sy’n edrych allan dros y bont Tsieineaidd a'r llyn. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae coed rhododendron gyda dail mawrion yn llenwi’r awyr gyda’u harogleuon egsotig. Gall ymwelwyr ddod i lawr o’r trên ar unrhyw bwynt i archwilio unrhyw un o’r nifer o lwybrau sy’n mynd â nhw ar hyd y llwybr arfordirol. Mae’r golygfeydd yn hynod drawiadol.
3. DIGWYDDIADAU Heb law am y Prisoner Convention a gynhelir yma bob gwanwyn, gallwch ddisgwyl amryw o ddigwyddiadau sy’n dathlu popeth, o gerddoriaeth a diwylliant i fwyd a blodau. Am galendr 2017 yn llawn, gyda diweddariadau misol, cysylltwch â ymholiad@portmeirion-village.com
4. BWYD A DIOD Os nad yw gwyliau cerddoriaeth mawrion y flwyddyn at eich dant, efallai mai’r gwyliau bwyd yw’r peth i chi. Cynhelir ein gŵyl fwyd flynyddol dros dridiau ym mis Rhagfyr, gan arddangos y gorau sydd gan y rhanbarth i’w gynnig ynghyd â phrydau nos, arddangosiadau a chynigion unigryw. Fel arall, beth am gyflwyno’ch ymwelwyr i bleserau danteithiol ein bwytai? O brydau hamddenol a hufen iâ unigryw i de prynhawn a chiniawa moethus, mae gennym rywbeth at ddant pawb.
5. LLETY Os ydych chi’n darparu gwyliau byrion, yna mae’r hud yn parhau, gan fod holl adeiladau Portmeirion yn cael eu cynnwys yn ein pecyn llety. Mae’r 71 ystafell yng Ngwesty Portmeirion, Castell Deudraeth a’r Pentref oll wedi’u dylunio’n unigryw a chanddynt olygfeydd hynod. Mae 13 bwthyn hunanarlwyo hefyd, a’r rheiny’n lletya 3-9 person. Am ragor o wybodaeth neu am gopi o’n llyfryn llety a sba, anfonwch ebost at stay@portmeirion-village.com
AM RHAGOR O WYBODAETH AM PORTMEIRION, GALWCH 01766 770 000 NEU EBOSTIO YMHOLIAD@PORTMEIRIONVILLAGE.COM
GOBEITHIO EICH GWELD YN FUANÂ
Diolch WWW.PORTMEIRION.CYMRU