Teimlo'n Iach Portmeirion 2018

Page 1

TEIMLO'N IACH BYW YN DDA PORTMEIRION 2018


BYWYD BRAF? DOES DIM ANGEN CYFOETH A CHYMHLETHDOD; MEDDYLFRYD SYDD WRTH GALON BYW YN DDA Boed eich bryd ar gadw’n heini, colli pwysau, neu ddarganfod dedwyddwch, dyma gasgliad o gynghorion gwych ar eich cyfer. Beth bynnag sy’n eich disgwyl yn 2018, dymunwn flwyddyn iach a hapus i chi.


DEFFRO’R SYNHWYRAU Peth llawer rhy gyffredin yw’r tueddiad i fyw ar frys, heb dalu ryw lawer o sylw i ryfeddodau’r byd o’n cwmpas. Manteisiwch yn llawn ar eich ymweliad i Bortmeirion drwy droi eich sylw yn gyfan gwbl at yr hyn sydd yma i’w fwynhau. Gallwch ymgolli’n llwyr yng ngolygfeydd hynod a naws wefreiddiol yr encil unigryw hwn. Mae rhoi eich sylw effro, llawn i’r hyn o’ch cwmpas yn arwain at fywyd iachach, hapusach. Bydd sesiynau ymwybyddiaeth ar gael o Chwefror.


MAE’R DYFODOL YN WYRDD Ydych chi’n ceisio yfed llai o gaffein? Os felly, beth am gyfnewid eich panad arferol am de gwyrdd? Mae te gwyrdd yn llawn gwrthdocsinau ac mae’n isel mewn caffein – mae ei rinweddau hynod yn cynnwys y gallu leihau pryder ac atal magu pwysau. Rydych chi’n siŵr o gael blas ar y dewis eang o de gwyrdd a the perlysiau sydd ar gael yng Ngwesty Portmeirion.


AMSER I YMLACIO Mae pawb angen cyfle i ddadweindio ac adfywio. Yn wir, rydym yn iachach, yn hapusach ac yn fwy gweithgar yn y gweithle ar ôl gwyliau. Felly, peidiwch ag oedi! Ffoniwch 01766 772 300/01 i drefnu seibiant braf ym Mhortmeirion. Mae yma 71 ystafell wely unigryw, un ai yn y gwesty, y castell neu’r pentref, yn ogystal ag 13 o fythynnod hunanarlwyo.


CYTBWYSEDD HOLLBWYSIG Anghofiwch y chwiwiau diet diweddaraf. Nid ar ddail yn unig y bydd byw dyn. Mae eich iechyd corfforol a meddyliol yn dibynnu ar gytbwysedd o brotein, ffibr, braster a fitaminau. Yma ym Mhortmeirion, mae ein cogyddion yn creu seigiau hynod gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau. Gormod o ddim nid yw dda, meddan nhw, felly caniatewch i chi’ch hunan fwynhau ychydig o bob dim. Mae croeso i chi holi staff ein bwytai ynglŷn ag unrhyw anghenion dietegol penodol sydd gennych. Archebwch ginio dau gwrs iachus a blasus yng Ngwesty Portmeirion ar Ionawr 27 am £25 ac fe gewch chi becyn rhoddion bach am ddim. Ffoniwch 01766 770 000


SMWDDI BLASUS Mae’r cynhwysion canlynol yn cyfuno i greu smwddi melon a mefus blasus sy’n isel mewn calorïau 250ml o ddŵr pefriog 115g o felon cantalŵp wedi’i dorri 1 afal wedi’i sleisio heb ei graidd 8 mefusen o’r rhewgell 1 llwy fwrdd o hadau chia Rhowch y cynhwysion i gyd mewn cymysgwr bwyd yn nhrefn y rhestr uchod. Cymysgwch nes y bydd yn llyfn, a’i arllwys i wydrau i’w yfed.


Z

Z

Z

Z Z

Z

ei bod dyliai igwyr, d e f y n os. Pw l arbe dros n ynny? Yn ô eneiddio’n io m Sli ih âh ni eri i ch awdd rechio mor h der cwsg b tr i’ch ymd ith awr s in a gall pr od yn rhwy anelu at s le i’ch h b c a c le roi yf Dy gynt ysau. bob nos, i ac i gadw’ch w p i ll g , go o gws ll nag dfywio go lew dflino ac a u. Lle’n we ion i da eir ora corff d au ar eu g esol Portm ? n ll a l, g w e g sg or lch taw oson dda o y g r y aw au n fwynh

Z

Z

Z Z

Z


ARFORDIR LLESOL Mae bod ar lan y môr yn llonyddu’r meddwl. Yn ôl gwyddonwyr, mae gweld,

clywed a theimlo dŵr yn gallu cael effaith lesol arnom. Mae traethau Portmeirion ymhlith y gorau ym Mhrydain, efo milltiroedd o lwybrau arfordirol a sawl traeth euraid braf i’w crwydro. Dyma ffordd wych o ddeffro’r synhwyrau a magu ffitrwydd. Mae ymchwil yn dangos bod cyn lleied ag 20 munud o ymarfer corff yn gallu codi’r ysbryd am hyd at 12 awr.


SESIWN YN Y SBA Mae’r meddwl yn elwa gymaint â’r corff o sesiwn tylino meistrolgar. Dewch i ymlacio yn noddfa dawel ein sba. Rydym yn cynnig triniaethau o bob math, yn cynnwys aromatherapi, tylino efo cerrig poeth, triniaethau lapio’r corff a thriniaethau wyneb hyfryd. Ffoniwch 01766 772 444 i drefnu apwyntiad.

10% ODDI AR BRIS LAPIAD CORFF Ffoniwch 01766 772 444 am apwyntiad. Rhaid cyflwyno'r cerdyn hwn er mwyn hawlio'ch disgownt. Telerau ac amodau'n berthnasol. Dilys: 28.02.18


YMGOLLI YM MYD NATUR Ymdrochi yn y coed, neu ‘shinrin-yoku’ fel maen nhw’n ei alw yn Siapan, yw’r arfer o fynd am dro hamddenol mewn coedwig er lles eich iechyd. Bydd crwydro ein coedlannau hudolus yn helpu i arafu curiad eich calon, lleihau straen, gwella’ch imiwnedd a hybu’ch lles yn gyffredinol. Dewch i roi cynnig arni.


TOCYN BLWYDDYN O £25 Cofrestrwch am Docyn Blynyddol Portmeirion i ddod yn un o'n cyfeillion. Mae'r tocyn yma'n rhoi mynediad diderfyn i Bortmeirion ar unrhyw ddiwrnod pan fyddwn ar agor i'r cyhoedd (nid yw'n cynnwys y cyfnod Gŵyl Rhif 6 a'r Nadolig). Galwch 01766 770 000 neu ebostiwch ymholiad@portmeirion-village.com am fanylion www.portmeirion.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.