RHAGFYR 1-3 2017
PORTMEIRION GWYL FWYD A CHREFFT
en l rf u f f
s ai g
tu
n w e m
cyflwyniad Gyda chyfuniad o arddangosiadau coginio, pebyll bwyd, diod a chrefft, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau Nadoligaidd, mae gŵyl fwyd a chrefft Portmeirion yn argoeli i fod yn ddathliad o bopeth Cymreig. Gall ymwelwyr dreulio’r diwrnod cyfan yn siopa ac yn mwynhau’r cyfleusterau eang a’r cefndir hudolus.
WWW.PORTMEIRION-VILLAGE.COM
cymryd rhan Mae dathliad gorau’r wlad o fwyd, diod a chrefftau Cymreig yn dychwelyd am y chweched flwyddyn yn 2017. Gan ddenu mwy na 7,000 o ymwelwyr a chreu gwerth dros £100,000 o sylw yn y cyfryngau, mae'r ŵyl yn cynnig llwyfan wych i chi werthu eich nwyddau ac arddangos eich brand. Busnes mawr neu fach, rydym yma i'ch helpu. Mae'r ŵyl wedi ei hen sefydlu ac yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithlon a rhad i werthu eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth. Mae'n eich galluogi i gyfathrebu'n 'fyw' â chynulleidfaoedd targed a dal eu sylw. Mae’r digwyddiad hwn yn cyfuno â'n llwyfan marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, rhwydweithiau a’n enw da, i roi cyfle llawn hwyl i chi ymgysylltu a gwneud argraff. Ac wrth gwrs, pa amser gwell i werthu nag yn y cyfnod cyn y Nadolig? Rydym wrth ein boddau’n gweithio gyda phobl leol i greu partneriaethau cyffrous ac effeithiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal stondin, noddi'r ŵyl neu glywed mwy am y cyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch â ymholiad@portmeirionvillage.com neu cwblhewch y ffurflen ar dudalen 8.
pwyntiau gwerthu unigryw
Lle hudolus Cymreig i’r carn Digwyddiad 3 diwrnod
WWW.PORTMEIRION-VILLAGE.COM
PRISIAU STONDIN Sengl: £150 + TAW Dwbl: £200 + TAW Trelar eich hun: £250 + TAW Trydan: £25 HYSBYSEBU Cylchgrawn print a digidol Tudalen lawn: £150 Hanner tudalen: £75 Chwarter tudalen: £50 NAWDD EFYDD: £500 Brandio Hysbyseb cylchgrawn tudalen lawn Hyrwyddo digidol 6 tocyn am ddim ARIAN: £1,000 Brandio Hysbyseb cylchgrawn tudalen lawn Hyrwyddo digidol Hyrwyddo print Hyrwyddo ar y safle 12 tocyn am ddim
AUR: £5,000 Brandio Hysbyseb cylchgrawn tudalen lawn Hyrwyddo digidol Hyrwyddo print Hyrwyddo ar y safle 50 tocyn am ddim Llety, swper a brecwast i hyd at 2 o bobl PLATINWM: £10,000 Brandio Hysbyseb cylchgrawn 2 dudalen Hyrwyddo digidol Hyrwyddo print Hyrwyddo ar y safle 100 tocyn am ddim Llety, swper a brecwast i hyd at 4 o bobl Basged o nwyddau Portmeirion Trelar eich hun Cefnogaeth y rheolwr lleoliad LLETY Ystafell a brecwast o £154 y noson Bythynnod o £522 (3 noson)
"Mae gĹľyl Portmeirion yn leoliad perffaith i siopa Nadolig. O gerdded ar hyd y strydoedd cobl, i fynd heibio bythynnod lliwgar wrth sipian gwin sbeis cynnes, mae'n teimlo fel golygfa o lyfr chwedlau." Beatriz Albo, Cyfarwyddwr Sabor de Amor, Wrecsam.
FFURFLEN GAIS AM STONDIN ENW MASNACHU ................................................................................................................... EICH ENW ................................................................................................................... CYFEIRIAD ................................................................................................................... COD POST ................................................................................................................... EBOST ................................................................................................................... GWEFAN ................................................................................................................... FFÔN ................................................................................................................... DISGRIFIAD I'R LLYFRYN (Disgrifiwch eich busnes mewn 15 gair) ................................................................................................................... ................................................................................................................... GOFYNION (ticiwch bob un sy'n berthnasol) Stondin Sengl Stondin Ddwbl Trelar eich hun Trydan Hysbysebu Nawdd Llety Telerau ac amodau: Nid yw cwblhau’r ffurflen gais yn gwarantu lle. Ni chadarnheir unrhyw gais heb ragdalu'r swm dyledus. Mae’n rhaid i arddangoswyr ymrwymo i arddangos am y tri diwrnod llawn. Rhaid cwblhau’r holl ddogfennau gofynnol. Dyddiad cau 01.07.17. Anfonwch e-bost at ymholiad@portmeirion-village.com neu drwy'r post at Ellie Neilson, Y Ganolfan Groeso, Portmeirion Cyf, Minffordd, Gwynedd, LL48 6ER T