PORTMEIRION Nadolig a Nos Galan
www.portmeirion-village.com
nadolig - chi piau'r dewis Siwmperi Nadoligaidd ynteu wisgoedd gosgeiddig? Bing ynteu Bublé? Twrci ynteu toffw? Gwesty, castell neu fwthyn hunanarlwyo? Dewiswch chi. Yn sefyll ar ei benrhyn preifat ei hun, gyda golygfeydd trawiadol dros yr aber, coedlannau hudol a phensaernïaeth eiconig, mae Portmeirion yn un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru ers 1926. Ymunwch â ni dros yr Ŵyl eleni i greu atgofion bythgofiadwy yn ein pentref arallfydol ...
DATHLU AM DRIDIAU Mae Portmeirion yn le anhygoel, a’r Nadolig yw amser gorau’r flwyddyn yma. Yn ogystal â’r coed disglair a’r bensaernïaeth hynod, dyma gyfle i chi fwynhau tair noson o fwydydd amheuthun, swigod a moethau Nadoligaidd. Bydd te prynhawn yn aros amdanoch ar y 24ain o Ragfyr, efo gwin sbeis poeth a cherddoriaeth fyw, ac wedyn byddwch yn gwledda ar fwydlen flasu arbennig wedi’i pharatoi gan ein cogyddion arobryn. Dechreuwch y dathlu fore Nadolig drwy fwynhau brecwast gyda golygfa. Am hanner dydd, cewch fwynhau derbyniad siampaen, cyn eistedd i fwynhau cinio traddodiadol o dwrci neu ŵydd efo’r trimins i gyd. Mae opsiynau llysieuol ar gael. Gyda 60 erw o erddi a dros 19 milltir o lwybrau cerdded golygfaol i’w troedio, rydych chi’n siŵr o gerdded digon i gyfiawnhau pob briwsionyn o’r mins peis. Gyda’r nos, byddwn yn darparu bwffe a noson ffilm, gyda phopgorn a choctels Nadolig. Bydd yna ddigon i’ch diddanu ar ddydd Gŵyl San Steffan hefyd – yn cynnwys taith dywys a helfa drysor, a detholiad o gemau bwrdd. Gyda’r nos, bydd cyfle i wylio sioe consuriwr wrth i chi fwyta’ch swper tri chwrs. Mae ein pecyn Nadolig yn dechrau o £999.
BYTHYNNOD CLYD I FWRW’R ŴYL YNG NGHALON CEFN GWLAD Mae ein bythynnod rhestredig yn llefydd delfrydol i fwynhau hwyl yr ŵyl oddi cartref. P’un ai encil rhamantus i ddau neu fwthyn mwy ar gyfer ffrindiau a theulu rydych chi’n chwilio amdano, dyma’r lle i chi. Mae gan Bortmeirion 13 bwthyn unigryw gyda mynediad llawn at gyfleusterau’r gwesty, yn cynnwys bwytai, bariau a sba. Mae prisiau ein gwyliau hunanarlwyo saith noson yn dechrau o £1,500.
CROESAWU 2018 MEWN STEIL Mae’na ddwy ffordd o dreulio nos galan. Un ai diogi ar y soffa, neu’r dewis mwy soffisptigedig: aros ym Mhortmeirion. Rydyn ni’n ffafrio’r ail, wrth gwrs, gan fod ein pecyn aros dwy noson yn cynnwys swper Art Deco a sioe tân gwyllt. Byddwch yn cyrraedd Portmeirion ar y 30ain i fwynhau te prynhawn blasus gyda cherddoriaeth, a derbyniad siampaen a swper moethus yn nes ymlaen. Ar Nos Galan, dewch i ddathlu fel petai’r Dauddegau Gwyllt wedi atgyfodi. Gallwch ddisgwyl noswaith osgeiddig o gerddoriaeth, swigod, tân gwyllt a bwydlen glasurol. Eisiau harddu cyn y noson fawr? Peidiwch ag anghofio gwneud apwyntiad yn ein sba a salon. Mae ein pecyn Nos Galan yn dechrau o £799.
MYFYRDOD GER Y MÔR Encil tawel yn un o sgwariau’r pentref yw ein sba, yn edrych allan dros aber Dwyryd. Cewch ddewis o blith ystod eang o driniaethau, yn cynnwys triniaethau puro’r corff, triniaeth smwddi i’r wyneb, tylino gydag aromâu deifio’r môr, a harddu gyda cholur. Mae ein therapyddion cymwysedig yn defnyddio cynhyrchion figan-gyfeillgar pur, ac mae pob therapi yn gorffen gyda phaned o de jasmin. Mae Sba’r Fôr-forwyn ar agor yn ddyddiol, heblaw Dydd Nadolig, dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
PARTI YM MHORTMEIRION Lle arall ar wyneb daear allwch chi ddiddanu eich gwesteion efo bythynnod lliwgar, coedlannau hudol, piazzas Eidalaidd a morluniau trawiadol? Syfrdanwch eich gwesteion gyda chinio, swper, neu bartïon dethol ym Mhortmeirion dros y Nadolig eleni. Prisiau o £25 y pen. Gellir trefnu adloniant ac ychwanegiadau eraill ar gais. Bydd Nos Galan yng Nghastell Deudraeth yn cynnig noswaith o gerddoriaeth, hud a lledrith a swper. I gadw lle dros dro, cysylltwch â castell@portmeirion-village.com
FFAIR FWYD A CHREFFT PORTMEIRION – RHAGFYR 1–3, 2017 Dewch i fwynhau gŵyl Gymreig mewn lleoliad Eidalaidd anhygoel. Cewch grwydro rhwng dros 120 o stondinau, mwynhau cerddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio, gweithdai a groto Nadolig hudol. Tocynnau ar gael o £5 drwy anfon ebost at visit@portmeirion-village.com neu ffonio 01766 772 390. Arhoswch gyda ni ar ein pecyn swper, gwely a brecwast yn ystod y digwyddiad tri diwrnod ac fe wnawn ni eich tretio i hamper artisanaidd yn ogystal â thocynnau am ddim i’r digwyddiad. Dyma’r lle delfrydol i fwyta, yfed a llawenhau.
CYSYLLTU Â NI Am ragor o wybodaeth am ein pecynnau, partïon a digwyddiadau Nadoligaidd a Nos Galan, cysylltwch â ni ar 01766 770 000 neu anfonwch ebost at ein tîm llogi stay@portmeirion-village.com www.portmeirion-village.com Minffordd, Gwynedd. LL486ER