Pobol Portmeirion

Page 1

Pobol

PORTMEIRION www.portmeirion.cymru


croeso Mae Portmeirion wedi denu enwogion, pobl sy’n chwilio am dawelwch, ac eneidiau celfyddgar erioed. Dyma bentref hud a lledrith wedi’i amgylchynu gan draethau euraidd, dyfroedd disglair a choedlannau gwyllt, ac mae wedi ysbrydoli pobl o bob math, o’r Beatle George Harrison i’r pensaer enwog Frank Lloyd Wright. Ond hyd yn oed cyn i Clough Williams-Ellis roi ei gyffyrddiad athrylithgar ar y lle, roedd y stad wedi denu smyglwyr, llofruddion, brenhinoedd ac ecsentrigion. Wrth ddathlu ‘Blwyddyn Chwedlau’ Cymru, mae’n bosib iawn y byddwn yn cwrdd â rhai o’r cymeriadau sy’n gysylltiedig â Phortmeirion a’i hanes.


Roedd Clough Williams-Ellis yn bensaer gweledigaethol, ac roedd creu Portmeirion yn weithred o bropaganda celfyddydol. Ei fwriad oedd creu pentref i ddangos ei bod yn bosib cael sbort gyda phensaernïaeth. Y canlyniad oedd casgliad o adeiladau dieisiau wedi’u trefnu i ystumio safbwyntiau a datgelu’r morlun trawiadol tu ôl iddynt fesul dipyn. Gellir gweld ei athrylith a’i synnwyr direidi drwy'r pentref i gyd ar ffurf triciau gweledol fel y ffenestri trompe-l'œil neu’r waliau ombré sy’n gwneud i’r adeiladau edrych yn hŷn nag ydyn nhw. Bu farw Clough ym mis Ebrill 1978, yn 94 mlwydd oed. Cafodd ei amlosgi, ac ar ei gais ei hun, aeth ei lwch i fyny mewn roced fel rhan o arddangosfa tân gwyllt dros yr aber ym Mhortmeirion ar nos Galan. Gwnewch: Ymunwch ag un o’n teithiau tywys ar droed am ddim i ddarganfod mwy am y pentref neu gallwch logi o flaen llaw i fwynhau taith bygi 45 munud, prisiau o £20 ar gyfer hyd at bump o bobl (Mawrth - Hydref).


Susan Williams-Ellis, merch hynaf Clough Williams-Ellis a sefydlodd Crochenwaith Portmeirion. Roedd yn arlunydd ac yn caru natur, ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig yng nghoedlannau Portmeirion, y ‘Gwyllt’. Trawsnewidiodd hi ran o 70 erw’r Gwyllt yn ardd ddwyreiniol, gyda llyn Tsieineaidd a phagoda. Ei syniad hi oedd y Piazza, gan ddadlau bod rhaid i bob pentref Eidalaidd gael sgwâr canolog. Cafodd ei hysbrydoliaeth o flodau a phlanhigion Portmeirion a chreodd ei chasgliad Botanegol, sydd bellach yn gasgliad crochenwaith o fri. Prynwch: Crochenwaith Portmeirion yn un o siopau’r pentref.


Catherine McGoohan

Cynhadledd Prisoner

Ganwyd yr actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr Gwyddelig, Patrick McGoohan, yn America a chafodd ei fagu ym Mhrydain, lle sefydlodd yrfa gadarn ar y llwyfan a’r sgrîn fawr. Daeth i Bortmeirion yn 1959 i ffilmio nifer o olygfeydd ar gyfer y gyfres deledu boblogaidd Danger Man. Pan ddaeth honno i ben, gofynnodd i Clough Williams-Ellis os cai ddefnyddio’r Pentref fel lleoliad ar gyfer cyfres ddilynol o’r enw The Prisoner. Roedd yn chwilio am rywle amwys. Roedd Portmeirion yn gweddu i’r dim diolch i’w liwiau Canoldirol, Piazza Eidalaidd, llyn Tsieineaidd a chefndir Cymreig golygfaol. Ymwelwch: Am un penwythnos ym mis Ebrill, mae Portmeirion yn gartref i gynhadledd The Prisoner pan fydd llu o’i selogion yn dod i ail-greu golygfeydd o’r gyfres, fel y gêm gwyddbwyll bobl.


David Williams oedd AS Rhyddfrydol cyntaf Meirionnydd. Fo adeiladodd yr hyn rydyn ni’n ei alw’n Castell Deudraeth yn yr 1840au, drwy drawsnewid bwthyn o’r ddeunawfed ganrif o’r enw Bron Eryri. Cafodd ei ailenwi ar ôl y Castell Deudraeth gwreiddiol, a adeiladwyd tua 1175 gan Frenin Gwynedd, ar sgarp uwchlaw’r aber sydd bellach yn edrych dros Bortmeirion. Roedd gan Clough Williams-Ellis ddiddordeb yn y Castell fel ystafelloedd llety ond oherwydd gwallau pan gafodd ei adeiladu’n wreiddiol, aeth yr adeilad yn adfail yn y pen draw. Yn 1999, cafodd y Castell ei adfer gyda’i nodweddion gwreiddiol i gyd, yn cynnwys yr aelwydydd, gwaith plastr cain, paneli derw a lloriau llechi. Ymwelwch: Heddiw mae gan y Castell 11 o ystafelloedd gwesty yn ogystal â bwyty a bar. Beth am ddod i aros noson, neu hyd yn oed bicio draw am bryd o fwyd yn y bwyty? Os archebwch fwrdd am ginio dau gwrs fe gewch chi fynediad am ddim i Bortmeirion. Telerau ac amodau yn berthnasol.


Syr William Fothergill-Cook ddyfeisiodd y telegraff trydan ac roedd yn denant cynnar ar y safle rydyn ni’n ei adnabod bellach fel Portmeirion. Yn 1869, dinistriodd Cook, botanegwr Fictoraidd o fri, Gastell Deudraeth, a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1175, i rwystro pobl rhag sathru ar ei blanhigion anghyffredin. Roedd wedi teithio ledled Asia yn casglu rhywogaethau o goed a phlanhigion anghyffredin fel y goeden gas gan fwnci, pinwydd, celyn, llawr-sirianen, rhododendron ponticum a’r hybrid rododendron arboreum (Cochion Cernyw) a’u plannu ym Mhortmeirion. Mae nifer ohonyn nhw’n fyw heddiw. Gwelwch: Y Clochdy. Defnyddiodd Clough Williams-Ellis y cerrig o adfeilion y castell fel sylfaen i’r tŵr cain hwn yn 1925.


Mrs Adelaide Emma Jane Haigh oedd un o denantiaid mwyaf ecsentrig Portmeirion. Roedd yn byw yn feudwyol ym mhlasty Aber Iâ, Gwesty Portmeirion bellach, gyda phymtheg o gŵn. Dynes dduwiol oedd hi, a chadwodd ei chnud o frithgwn yn Ystafell y Drychau, ble darllenai bregethau dyddiol iddyn nhw. Roedd hefyd yn credu bod pob peth byw yn haeddu bywyd, ac felly nid oedd yn caniatáu i lystyfiant na phlanhigion gael eu torri, gan greu gordyfiant a oedd yn enwog erbyn ei marwolaeth yn 1917. Ymwelwch: Yn y Gwyllt mae yna fynwent a greodd i’w chŵn anwylyd. Mae eu cerrig beddi i’w gweld yno hyd heddiw.

Mhlasdy Aber Iâ

Fynwent Cŵn


Roedd George Henry Caton Haigh, mab Adelaide, yn awdurdod byd eang ar goed blodeuog yr Himalayas a phlanhigion estron. Parhaodd gyda gwaith Sir Fothergill-Cook o blannu rhywogaethau anghyffredin yn y Gwyllt ym Mhortmeirion, yn cynnwys ein rhododendron enwog. Roedd hefyd yn wyliwr adar enwog ac mae ei gasgliad o lawysgrifau ar gadw yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol. Gwnewch: Dewch i ddweud helo wrth ambell robin goch cyfeillgar neu neidiwch ar drên y Gwyllt i fynd i weld un o’r nifer o rywogaethau rhododendron a blannodd Haigh.


Thomas Edwards, neu’r ‘Hwntw Mawr’, oedd y person olaf i gael ei hongian yn gyhoeddus ym Mhrydain, yn 1813. Roedd yn gweithio ar y Cob ym Mhorthmadog, ac yn cysgu allan yn y Cesig Gwynion ym Mhortmeirion, a oedd yn hen fwthyn pysgotwr bryd hynny. Tra’r oedd yn aros yno, darganfu’r Hwntw Mawr fod celc da o arian yn cael ei gadw yn ffermdy’r Penrhyn Isaf, ychydig uwchlaw’r Pentref. Un diwrnod, pan roedd o’n tybio bod pawb yn brysur gyda’r cynhaeaf, aeth i’r ffermdy a cheisio darganfod lle’r oedden nhw’n cadw’r arian. Wrth chwilio’r tŷ yn wyllt, cafodd ei darfu arno gan forwyn leol o’r enw Mary Jones. Wedi’i ddal yn y weithred, fe’i llofruddiodd hi a chuddiodd ei ysbail mewn wal. Cafodd ei ddal a’i gael yn euog cyn cael ei hongian yn gyhoeddus yn Nolgellau. Ymwelwch: Cerddwch ar hyd y llwybr arfordir i’r Cesig Gwynion a gweld lle cuddiodd yr Hwntw Mawr. Gallwch hyd yn oed aros yno drwy alw 01766 772 300/01


Ysgrifennodd Noël Coward Blithe Spirit ym Mhortmeirion. Awyddus i ddianc y bomiau amser rhyfel Llundain, arosod yn y Ffynnon yng ngwanwyn 1941. O fewn pum niwrnod, yr oedd wedi cyflawni ei nod o ysgrifennu drama a fyddai'n gwneud i bobl chwerthin. Gwnewch: Pam ddim aros yn yr ystafelloedd a ysbrydolodd Coward i ysgrifennu Blithe Spirit drwy e-bostio aros@portmeirion.cymru

Sipsi Gymreig oedd Uriah Lovell a fu’n byw yn y Gwyllt ym Mhortmeirion yn ystod y 1930au. Roedd yn gwehyddu basgedi a’u gwerthu i ymwelwyr, a’r rheiny yn rhyfeddu ato. Yn ôl yr hanes, pan fu farw cafodd ei gorff a’i holl eiddo eu llosgi mewn carafán yn ôl traddodiad y sipsi. Gwnewch: Ewch i grwydro ein coedwig 70 erw a gadael i’ch dychymyg fynd ar garlam.


DARGANFOD MWY O deithiau tywys a llyfrau i ddigwyddiadau a seinweddau, gewch ddarganfod mwy am chwedlau a phobol Portmeirion yn ein Canolfan Ymwelwyr, e-bost ymholiad@portmeirion-village.com neu ffoniwch 01766 770 000

#FlwyddynChwedlau


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.