Priodasau Portmeirion

Page 1

Priodasau

PORTMEIRION www.portmeirion.cymru


Croeso Mae’n anodd dod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer priodas. Ond dydi achlysuron mewn gwestai bob amser mor debyg i’w gilydd? Dim o reidrwydd

– os

mai lleoliad syfrdanol rydych chi’n chwilio amdano, Portmeirion yw’r lle i chi. Mae’r pentref Eidalaidd hudolus hwn, yng nghalon Cymru wledig, yn unigryw. Heblaw am yr adeiladau tlws, y gwestai cŵl, y neuaddau hanesyddol a’r sba moethus, mae yna erwau o erddi a milltiroedd o draethau euraidd i chi a’ch gwesteion eu mwynhau.

î

Bydd ein t m cynllunio priodasau yn eich helpu i greu’r diwrnod perffaith, gan sicrhau bod pob elfen yn plethu at ei gilydd yn llyfn ac yn effeithlon. I gychwyn ar eich siwrne arbennig, cysylltwch â ni ar 01766 772337 neu anfonwch ebost at delyth@portmeirion-village.com. Edrychwn ymlaen at eich llongyfarch yn bersonol.


Eich Diwrnod BRASLUN O'R AMSERLEN 11:00-12:00 Y Seremoni Sifil 12:30-14:00 Lluniau a Derbyniad ar y Lawnt 14:00-17:00 Y Wledd Briodas* 17:00-00:00 Parti Nos yn Neuadd Erclwff 20:00-21:30 Bwffe Nos 00:00-00:30 Cerbydau

*Gofynnwn i'r gwesteion eistedd ar gyfer y wledd briodas erbyn 2 o'r gloch y pnawn.


Y Seremoni ï

Gellir cynnal seremon au sifil yn y lleoliadau canlynol ym Mhortmeirion: 1. Ystafell y Drychau: Mae’r gofod cain hwn yn y prif westy yn cynnig steil clasurol a morlun trawiadol ar gyfer 14 neu lai o westeion. 2. Ystafell Tudur: Gyda’i baneli derw a theras preifat sy’n edrych allan dros y pentref, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer hyd at 35 o westeion. 3. Neuadd Ercwlff: Dyma neuadd hanesyddol ogoneddus, gyda nenfwd Jacobeaidd trawiadol a phaneli derw moethus. Mae’n dal 100 o bobl yn braf.


Y Wledd

Diodydd Gellir trefnu derbyniad diod gydag

é

Mae bwyty ein gwesty yn cynnig ceinder

aperitifs o’ch dewis a chanap s wedi’u

Art Deco, golygfeydd dros yr aber a

gwneud â llaw ar lawnt y gwesty, wedi’i

seigiau moethus oll ynghyd.

amgylchynu gan forluniau trawiadol a

Gan ddefnyddio cynnyrch lleol bron i

Does dim curo Portmeirion fel cefndir i

gyd, bydd ein cogyddion Cymreig

fideos a ffotograffau priodas, diolch i’r

golygfeydd syfrdanol o’r pentref.

arobryn yn eich syfrdanu chi a’ch gwesteion gyda’u creadigaethau blasus. Gellir hyd yn oed darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig ar gais. Pan ddaw’r amser i gynnig llwncdestun i’r cwpl dedwydd, mae gennym amrywiaeth o winoedd, gwirodydd a Siampaen hyfryd ar gyfer y diwrnod arbennig.

Gall y bwyty weini hyd at 120 o westeion, a bydd ein rheolwr bwyty ar gael, os dymunwch, i fod yn Feistr

ï

Seremon au ar eich cyfer. Mae ystafell fwyta breifat ar gael hefyd

ï

ar gyfer part on llai o hyd at 36 o westeion.

ï

bensaern aeth unigryw, y gerddi isdrofannol a’r coedlannau hudolus.


Y Parti Nos Dewch i ddawnsio, yfed Siampaen a dathlu i’r eithaf. Yma ym Mhortmeirion, rydyn ni’n arbenigo mewn dathlu cariad mewn steil ysblennydd. Mae’n neuadd hanesyddol, ganllath o’r prif westy, yn diferu ceinder hynafol, ac mae digon o le ynddi i ddawnsio’r walts drwy’r nos.

Gallwn weini hyd at 145 o westeion yn y gwasanaeth bwffe nos, ac mae’n cynnig cynnyrch Cymreig blasus a seigiau traddodiadol efo fflach fodern. Mae yna ddewis eithaf trawiadol y tu

ôl i’r bar,

hefyd.

Gallwn roi manylion i chi ar gyfer cysylltu â DJs, disgos a bandiau lleol neu cewch ddod â’ch adloniant eich

hunain. Yn anffodus, nid yw cost yr adloniant hwn wedi’i gynnwys yn ein pecynnau priodasau.


Castell Deudraeth ï

Yma mae minimaliaeth fodern yn plethu â phensaern aeth Duduraidd

– nid yw’n gyfuniad a fyddech chi’n disgwyl ei

fwynhau, ond mae’n wych. Mae’r cyfuniad wedi trawsnewid Castell Deudraeth yn le hyfryd i briodi ynddo, gyda chyffyrddiadau Cymreig traddodiadol, gerddi Fictoraidd a golygfeydd gwledig hardd. Mae ein pecyn Castell arbennig yn cynnwys 11 o ystafelloedd a switiau yn ogystal â defnydd preifat o’r holl gyfleusterau.

ô

Gellir ychwanegu sesiynau triniaeth yn ein Sba M r-forwyn at eich pecyn. Siaradwch gydag un o’n cynllunwyr priodas am ragor o fanylion.


PECYN

Camelia

Ystafell ar gyfer seremoni sifil Neuadd Ercwlff;

PECYN

Defnydd preifat Castell

Jasmin

é

Derbyniad diod a chanap s Tegeirian; Gwledd briodas Tegeirian yng

– Neuadd Ercwlff;

coffi a petit fours; Detholiad gwinoedd Tegeirian

Derbyniad diod Camelia;

(1/2 potel yr un);

Gwledd briodas Camelia yng

Dŵr llonydd a phefriog ar bob

Ngwesty Portmeirion yn

bwrdd;

cynnwys coffi a petit fours;

Gorchuddion cadair yn Neuadd

Detholiad gwinoedd Camelia

Ercwlff;

(1/2 potel yr un);

Bwffe nos Tegeirian;

Jygiau dŵr ar bob bwrdd;

î

Gorchuddion cadair yn Neuadd

priodfab;

Ercwlff;

Gostyngiad 20% ar gost gwely a

Bwffe nos Camelia;

brecwast (1 i 15 ystafell am 1

î

Sw t yn y pentref i’r briodferch a’r priodfab; Gostyngiad 20% ar gost gwely

Ystafell ar gyfer seremoni sifil;

é

Derbyniad diod a chanap s Jasmin; Gwledd briodas yng Ngwesty Portmeirion yn cynnwys coffi a petit fours; Detholiad gwinoedd Jasmin (1/2

Sw t foethus i’r briodferch a’r

potel yr un); Dŵr llonydd a phefriog ar bob bwrdd; Gorchuddion cadair yn Neuadd Ercwlff; Bwffe nos Jasmin;

noson); Taleb sba

£150;

Blasu’r fwydlen briodas a’r gwin.

Telynorion preswyl ar gyfer y seremoni a’r derbyniad diod;

î

a brecwast (1 i 15 ystafell am 1

Sw t y Paun i’r briodferch a’r

noson);

priodfab;

£100 tuag at drin gwallt a choluro yn Sba’r Fôr-forwyn.

Gostyngiad 20% ar gost gwely a

Taleb

PECYN

Tegeirian

Derbyniad diod; Gwledd briodas yn y Castell, yn cynnwys coffi; Detholiad o winoedd y Castell

Ngwesty Portmeirion yn cynnwys Ystafell ar gyfer seremoni sifil

Deudraeth;

brecwast (1 i 15 ystafell am 1 noson); Taleb sba

£200;

Blasu’r fwydlen briodas a’r gwin.

(1/2 potel yr un); Jygiau dŵr i bob bwrdd; Gwydraid o Brosecco ar gyfer llwncdestun i’r briodferch a’r priodfab; Bwffe a disgo gyda’r nos, gyda gwasanaeth bar 24 awr;

î

11 ystafell a sw t yng Nghastell Deudraeth (ar sail 2 oedolyn yn rhannu); Cynhwysir brecwast i bob un sy’n aros yng Nghastell Deudraeth; Gall y Castell weini hyd at 50 o bobl yn y dydd a 100 o westeion gyda’r nos.

ï

Cynhelir seremon au yn Neuadd Ercwlff rhwng dydd Sul a dydd Iau, Ebrill

– Hydref yn unig.

PECYN

Y Castell


Cwrdd â Chynllunwyr Priodas Portmeirion O ACHLYSUR BACH CLYD YN Y PENTREF I BARTI MAWR AR THEMA’R PRISONER, DYMA GYNGOR GAN EIN HARBENIGWYR PRIODASAU AR WNEUD EICH DIWRNOD MAWR YN WIRIONEDDOL ARBENNIG

ÔL I

PAM PORTMEIRION?

BETH YW’R GYFRINACH TU

Wedi’i leoli ar ei benrhyn prydferth ei

DREFNU PRIODAS HEB STRAEN?

hun yn edrych allan dros yr aber,

Mae’n hanfodol bod yn drefnus. Ond

Portmeirion yw’r lle perffaith i briodi.

mae hefyd yn bwysig datblygu

Heblaw ei fod yn cynnig cefndir

perthynas bersonol gyda phawb sy’n

syfrdanol i luniau a fideos, mae ganddo

rhan o’r briodas. Mae defnyddio

westai cŵl, bwytai arobryn, sba, a

cyflenwyr ffyddlon y gallwn

neuadd bentref hanesyddol ar gyfer

ymddiried ynddyn nhw yn rhoi hyder i

ï

cynnal seremon au sifil. Mae yma

mi.

bopeth y gallech fod ei eisiau, yn cynnwys gwasanaethau cynllunio

BETH SY’N GWNEUD ACHLYSUR

priodas am ddim.

YN UN GWIRIONEDDOL ARBENNIG?

– o ganhwyllau

OES GENNYCH CHI HANES

Y cyffyrddiadau bach

UNRHYW GEISIADAU

cofiadwy i anrhegion bach ystyriol ar

ANARFEROL NEU ARBENNIG?

fyrddau’r gwesteion.

Mae’r pentref yn le ardderchog i

Delyth Wyre a Manon Owen

selogion The Prisoner, y rhaglen deledu

FFASIYNAU 2017: Patrymau blodau

cwlt o’r 1960au, felly rydw i wedi

a lliwiau’r ardd yn hytrach na gwawr

trefnu priodas ar thema Rhif Chwech yn

wen i bopeth yw’r steil eleni. Ond, yn

y gorffennol. Yr un mwyaf arbennig?

fy marn i, ni ddylai’r briodferch

Mae pob achlysur yn arbennig i ni.

ffafrio creadigedd dros bragmatiaeth.


Aros Mae gennym 57 o ystafelloedd unigryw ym Mhortmeirion, pob un efo

ï

pensaern aeth arbennig a golygfeydd hardd.

î

Cynigir sw t foethus yn y pentref yn agos i Neuadd Ercwlff i’r briodferch a’r priodfab ar noson eu priodas, yn ddi-dâl. Rydym hefyd yn cynnig disgownt arbennig o 20% oddi ar bris ein tariff gwely a brecwast hyd at 15 o ystafelloedd am un noson (yn amodol ar beth sydd ar gael).

Mae telerau talu o flaen llaw ar gyfer llogi pob ystafell parti priodas. Mae angen i westeion sy’n llogi eu hystafelloedd eu hunain archebu drostynt eu hunain. NODER, OS GWELWCH YN DDA y bydd archebion ystafelloedd priodas sydd heb eu cadarnhau yn cael eu rhyddhau 3 mis cyn dyddiad y briodas.

î

Cysylltwch â’n t m llogi ar 01766 772 300/01 neu anfonwch ebost at aros@portmeirion.cymru


Sba’r Fôr-forwyn Mae gennym sba ar y safle, lle i gael llonyddwch, ymlacio a mwynhau golygfeydd trawiadol dros yr aber.

ï – neu dewch i gael eich

Swatiwch yng nghanol naws adferol ein therap au holistig, sy’n defnyddio cynhyrchion naturiol, pur

trawsnewid gyda’n dewis o driniaethau priodas arbennig.

I wneud apwyntiad i gael trin eich gwallt, coluro, neu dylino’r corff, cysylltwch â’r sba ar 01766 772444 neu anfonwch ebost at spa@portmeirion-village.com

Y Pethau Ychwanegol Mae Portmeirion yn le unigryw, ond nid ydyn ni’n credu mewn

ï

bodloni ar ein pensaern aeth unigryw, ein golygfeydd trawiadol, ein staff gofalgar a’n bwyd arobryn. Rydyn ni’n cymryd pob cyfle i wneud ein gorau ar eich cyfer. Dyna pam y cynigiwn restr o werthwyr blodau, ffotograffwyr, arbenigwyr teisennau priodas, diddanwyr, disgos, bandiau byw, llogi ceir

– a mwy.

Dywedwch wrthym beth rydych chi eisiau a byddwn yn falch iawn o’ch cynorthwyo. Noder: Lluniau priodas gan Martin Vaughan Photography a Celynnen Photography yw'r rhan fwyaf o’r rhai yn y llyfryn hwn


Portmeirion

Minffordd, Gwynedd, LL48 6ER

Priodasau: Ffoniwch 01766 772333 /337 weddings@portmeirion-village.com www.portmeirion.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.